Page images
PDF
EPUB

Ac erbyn hyn yr oedd ei fryd, Am ddysgu o hyd ychwaneg, A chasglai rym ei ddawn ynghyd, I drwyadl ddeall Seisneg, Fel na b'ai gweithiau prif feirdd byd, Ag ynddynt ddim ar ddammeg; A thrwy ei ddiwydrwydd a'i ymdrech gwastadol

Aeth rhagddo 'n llwyddiannus heb esgus o ysgol.

Ond druan oedd! ca'dd wybod pam
Y gelwir oes yn flinder,
Ynghanol hyn, bu farw 'i fam,
A thaflwyd ef i bryder,
Ac ofnai 'r ffordd yn awr bob cam,

Rhag cwrdd â rhyw orthrymder ; 'A'r dysglaer ragolwg a welai 'n flaenorol, A droes yn dywyllwch i'w lygaid ieuangol!

Modd bynag, nid anghofiai 'n llwyr,
Y dduwiol lariaidd awen,
A thoddai 'i galon fel y cwyr,
Nes llifo mewn ysgrifen
Yn drom alarnad, foreu a hwyr,

Am fam oedd dan dywarchen! Anturiodd y Seisneg yn gyfrwng i'r meddwl Er nad oedd yn hòno yn fedrus a manwl.

Fe allai fod y peth fel hyn,

I'r gân ymddangos allan, Mewn gwisg Seisnigaidd o'r braidd, cyn Ei ddod yn ieithydd cyfan, Sef, am fod ei astudiaeth syn,

Oll yn yr iaith hon weithian; Ond dyma y farwnad yn 'siampl i feirdd anghall [ddeall.

I ochel iaith ddyeithr nes dod i'w llawn

"Ye woody glens, ye leaves of every tree, Ye mountains, hills and rocks, pray mourn with me!

Thou gloomy sky, thy waters don't confine, But let thy tears be intermix'd with mine! Ye winged choir, sing some elegiac tune, Pray, let my loss make sad your merriest June!

But some may ask-Why boy, what ails

[blocks in formation]

Ah! with thy blood-stained blade thou mow'st down men,

And dragg'st thy victims to thy awful den! Now, mother thou hast torn from my embrace,

Thou art a despot, none can check thy sway,
Thy forward course, no human pow'r can stay,

Awfully vacant, is her wonted place!
Well-rich and poor alike will drop away,
There's no abiding in this house of clay,
Death favors neither rank, nor sex, nor age,
Woe him! who with stern death a war shall
wage."

Cyn pen ychydig wedi hyn,
Bu farw tad Afaon;
Gadawyd ef yn brudd a syn,
Heb dad na mam yr awr'on,
A gwedd ei wyneb droai 'n wyn,

Gan rym tufewnol loesion;

Ah! helbul a swniai yn awr trwy blas anian, Dych'mygai fod pobpeth o'i amgylch yn griddfan!

Rhyw sain cwynfanus oedd o'r berth,
Yr haul dywynai 'n wanach;

Y môr a ruai, a'i holl nerth,

Swn marwnad yn mhob cilfach ;
A sarug guwch y bryniau serth

Wnai 'r meddwl trwm yn drymach; A'r hyn a'i haml swynai o'r blaen, yn mhlas anian,

Oedd bellach fel hafddydd i'r bruddaidd ddylluan.

Er caethed y gwnâi hyn wahardd
Myfyrio cân, na darllen,
Ni roddai 'i fyny fod yn fardd,

Ond troai at yr awen;
A than gysgodlwyn yn yr ardd

Fe drefnodd mewn ysgrifen,
Er rhoi gwynt i'r hiraeth oedd ynddo yn

ennyn,

Yr ymson cwynfanus, tosturus a ganlyn,—

"O! ystyriwch yr ymddifad,

Heb na mam na thad na thŷ! Brawd na chyfaill i'w amddiffyn Rhag y saeth yn rhwygo sŷ; Daw o'i lygaid yn mysg estron, Ddagrau lleithion byd y llawr: Hiraeth dibaid wywa 'i enaid,

A'i ddiniwaid wedd yn awr!

Deil, tra 'n rhodio gan fyfyrio,

Newydd go' o'r dyddiau gynt, Pan oedd tad a mam i'w helpio,

Cyfarwyddo, hwylio 'i hynt; Ni ddechreuai ar un gorchwyl, Ennyd gŵyl, na diwrnod gwaith, Heb rieni i'w gynghori,

Er daioni ar ei daith.

Yn hen frô ei enedigaeth, Lle y ca'dd fagwraeth gu,

Nid oes weithion, namyn estron,
Nid yr hen gyfeillion fu;
Holl addfwynder ei fam dyner,
Araf, bêr, a ddarfu byth,
Yntau fel aderyn crwydrol,

Yma a thraw yn ol o'i nyth.
Syllwch arno, heb ei wawdio,
Yn myfyrio am a fu,
Dan gaeadfrig, adyn unig,

Wyla mewn rhyw goedwig gu;
Ei olygon yn sefydlog

Ar y ddaear wreiddiog rydd,
A'i law 'n hongian, O! mor druan!
Yw'r wedd syfrdan arno sydd.

Mewn llais egwan, clywch e'n cwynfan,-
'Un o fan i fan wyffi!
Dan flinderau aml yn ymladd

Gwael fy ngradd,-pwy glyw fy nghri;
O wych fwynder ni chaf undyn,

I'm dyddanu 'nglyn a ngwlad,
Byth i'm derbyn na'm hamddiffyn,
Mwy ni thyn na mam na thad!

Yn y bedd! y bedd! y byddant,
Isel bant o sylw y byd,
Minnau f' hunan, oddiallan,

Galar fydd y gân i gyd;

Doed rhyw gymhar unig, hawddgar,
Tua'm carchar du, a'm cell,
Heddyw i f'arwain i ddifyrwch,
Deued, O! na bydded bell.

Us, yn ing loesion angau,-ydyw'r byd
Er ei barch, a'i urddau,

Ni chaiff dyn, wael bryfyn brau,
Gymhorth gan aur na gemau.

Fel yr oedd anian a'i holl sŵyn,

Yn myn'd â'i serch yn blentyn;
Llenyddiaeth, eilwaith, hithau 'n dwyn
Ei fryd, ar agwedd hogyn,
Yr un modd, tegwch benyw fwyn,
A'i denai pan yn llencyn;

Anghofiodd ei alar, dechreuodd garwriaeth,
Mae 'n drwm dweyd,—ei grefydd a droes
ar ddirywiaeth!

Sefydlai'i serch ar fenyw brid,

Yr hon a elwid Olwen,

Ei gwedd oedd brydferth oll gan wrid,
Fel lliwiad y flod-ddeilen,

A'i swynol wên yn lleddfu Ílid,

Ni welwyd mwynach meinwen;
Un ddiwair ei thuedd, yn meddu callineb,
Un, tybiai, a'i henaid yn ateb i'w hwyneb.
Canasai gan ar gread byd,

Mor fawr y syniai 'r weithred;
Canasai gân, wrth golli ynghyd,
Ei dad a'i fam ddiniwed;

A pha'm na chanai gân mewn pryd,
I'w Olwen oedd gan laned?

Fe ganodd i Olwen,-
-ac fel hyn y canodd,
Ddarllenydd gwel belydr a mydr ei ym-
adrodd.

"Ail Olwen i'r lili, mae 'n lloni pob lle,
Pwy burach ei hanadl, mwy trwyadl mewn
tre'?

Yn mha ryw gym'dogaeth mae geneth mor
gu?

Ei geiriau nid gorwag, lle bynag y bu;
Mor ysgafn, mor wisgi, mor heini' erioed,
Mor esmwyth y cerdda, ni thrystia â'i throed,
Un daclus ei gorchwyl, un anwyl mewn oed.
Rhyw liaws a'i hoffant, a cheisiant ei chael

Hoewder, a mawr anrhydedd―nid ydynt yn gwmni eu bywyd, anwylyd wèn hael,

Ond edef ddisylwedd,

Afradir ei chyfrodedd,

Yn ngarw boen angeu a'r bedd.

Suddir pob uchel swyddau yn olud

Ni elwir trysorau,
Yma 'n hir, gaed ei mwynhau,
Engyrth fydd effaith angau.

[blocks in formation]

Pwy bynag a lysir, ni welir hi 'n wael.

Mae'n gangen ireidd-ber a thyner a theg,
Hi dyfodd o'r impyn yn frigyn ddi frêg,
Mae 'i dillad yn drefnus a thaclus ei thŷ,
Ei gwallt yn gadwynog, fodrwyog a dry,
A natur a'i lliwiodd, hi daenodd hyd wyn,
Fermilion, heb frychau na meflau,—am hyn
Aml un pan ei gwelant a safant yn syn;
Cael gyda thi bellach, gyfrinach sy'n fraint,
Nid aml ceir dy gyfryw, O! fenyw !-pa
faint,

Pe talai d'addoli, 'n ddisiomi dd'ai'n saint!

Ei chorff sy mor addfain, mor gywrain i gyd,

Aberoedd o fwyniant a ffrydiant o'i phryd, Mae 'i llun yn ein swyno, mae 'n gryno, mae'n gron,

Pwy welwyd, mewn difrif, fwy heinif na
hon?

Er clywed diweniaeth, fawl helaeth fel hyn,
A gwel'd rhai'n ei cheisio, o fro, ac o fryn,

Dirmygu, fel amryw, un fenyw ni fyn-
Na, na, hi ymddyga trwy 'i gyrfa yn gall,
Nid ä i fysg dylion gyfeillion y fall,
Ond ni theifl gymeriad yn llygad y llall.

Helbaw ei phrydferthwch, meddyliwch am
ddawn,

Y mae o ddoethineb, callineb yn llawn;
Hi geidw oddiallan bob gogan a gŵg,
Heb sôn am absenu, neu draethu gair drwg,
Ni ddywed, mae'n ddiwair, un gair a fo'n
gås.

Yn arwain i wendid, aflendid di flâs,
Neu chwantus drythyllwch, dyryswch di ras,
Heb wgu, na chablu, mae 'n gyru o'i gŵydd,
A'i geiriau rhinweddol, yn raddol a rhwydd,
Y sawl a fo'n benffol, fasweddol ei swydd."

Ryw bryd yn fuan wedi hyn,
Yn ystod y carwriaeth,
Tra syllai Olwen ar y llyn,

Ei hunan, mewn dwfn syniaeth,
O'r graig gerllaw, fe lamai myn,

Terfysgai ei neillduaeth ;

Hi droes, a phwy welai o bell, ond Afaon, Yn arwain ryw eneth o'r llwyni gwyrddleision.

Yr eneth hon oedd gares hardd

A ddaethai at Afaon,

A'r hoff ymweliad di wahardd,
Ar rai o'r dyddiau gwylion,
A chyda hi cymerai 'r bardd,

Hynt fèr i'r coedydd tirfion;
Cyfeiriai o honynt at gyrchfan hoff Olwen,
Gan ddysgwyl ei gweled yn lliwus a llawen.

Ond llanwyd Olwen, yn y fan,
A theimlad o eiddigedd ;
Prysurai hwnt oddiwrth y làn,
Heb chwilio'r amryfusedd,
Gan wylo am ddod ar ei rhan,

Un wnelai cymaint camwedd;

Hi lwyr benderfynodd ei brofi i'r eithaf,
A'i gadw o'i rhandir yn gywir un gauaf.

Anfonodd ato linell lwys,
Ar ganiad fel y canlyn,
I edliw anwadalwch dwys,
A'i alw, braidd, yn elyn,
Gan fwrw 'i frig yn ormod pwys,
I raddau gwael ei wreiddyn;
Bu 'n fyrbwyll,-neu ynte defnyddiai 'r
achlysur

O b'ai diniweitiach, i wybod ei natur.—

"Afaon bach! mor fwyn y bu,

Dy wên a'th garu gynt,
Ond diffodd wnaeth fel canwyll frwyn,
Y gwanwyn, yn y gwynt !

Ti anghofiasit fam a thad,
I'm cael yn gariad gynt,

Ond chwythwyd pob adduned dda
Fel manus gyda'r gwynt!
Meddyliais innau 'n ddigon gwir,
Dy fod yn gywir gynt;

Ond beth yn ddrych o'th serch a gawn?-
Edafedd gwawn mewn gwynt!

Mi gredaf bellach er fy lles,

Na ro'wn ar fab a'i haeriad moel,
Hen gynghor ge's i gynt,-
Ddim mwy o goel na'r gwynt!"
Tarawodd llymder y saeth hon,
Afaon hyd ei fywyd;
Ymbiliai 'n fynych ger ei bron,
I'w choledd a'i dychwelyd;
Ac adnewyddu 'r llygaid llon
A'i gwnelai'n gu anwylyd;
Ond nid oedd yn tycio, i wneyd un dy-
lanwad,

Fe'i llynewyd gan brudd-der,-a dyma 'i
gwynfaniad ;-

"Tyr 'd, Olwen, feinwen fwynaidd
Fy ngeneth reolaidd ! ['ngwyneb,
Pa fympwy, drwy dy fron draidd?
O gwna olwg anwylaidd !

Maith yw 'r dydd,-methir a dal-i d'aros,
Dyred!- -na fydd wamal!

Na ad, eto, i d'atal,

Na barn gwŷr, na bryn na gwàl!

Mal wythnos, unnos heno-hebot di,
Byd tost, oedd it' ddigio!
'Rwy'n drist, a bron na ro'wn dro,
Hyd atat ddiwrnod eto.

i

Pa le'r wyt, fy ngeneth! O! beth ydyw 'r byd,

Pan f'ai'r fath raniadau, drwy 'i gyrau i gyd!

Ni chefais heb chwerwder, ddim llawer o'm llwydd,

Pob un a fawr hoffaf, a gollaf o'm gŵydd.

Mae hiraeth yn pwyso i friwio y fron, Wrth gofio'r edrychiad a'r llygad mwyn, llon,

Yr olwg naturiol, mor siriol a'r ser,

Y wên, a'r lleferydd, oedd beunydd mor ber!

Na ddigia 'n dragywydd, O! bydd yn dy
bwyll,

Mi dyngaf myn f'einioes, nad oes ynofdwyll,
Ac na wnaethum achos it' ddangos yn ddu;
Os gwnaed camgymeriad, difwriad a fu."

Ond heb ei ddilyn drwy y drain,
A ga'dd yn llwybrau cariad,
Mae'n ddigon dweyd i'r eneth gain,
Trwy dyner gydymdeimlad,
Mewn amser ddod yn syml ei sain,
A siriol i gydsiarad;

A chael ei boddloni am burdeb Afaon,
Nes llwyr roddi iddo, ei hun, law a chalon.

Ni nodir nemawr y waith hon,
O'i fuchedd yn ddilynol;
Ond adnewyddwyd dan ei fron,
Y teimlad coeth crefyddol;
A hwyliai 'n ffodus frig y don,

Yn môr yr awen farddol;

Gan dalog fyn'd heibio, heb ostwng ei faner,
Yn nhân herwlongau llenyddol ei amser.

Coffawn am un ffug frwydr ga'dd,

Tra 'n ieuanc mewn trin awen,
Daeth hen Bastynfardd mawr i'w ladd,
Ag englyn yn ei dalcen;
A gallai roddi, i ryw radd,

Ddifyrwch wrth ei ddarllen,

Cyfenw'r pastynfardd oedd Pabo, dyn pybyr.
Ond hanner pin ydoedd, am gyngan a

mesur.

PABO.

Ai Afa'n yw'r lluman llwyd? oedran,

Mae 'n edrych fel breuddwyd,

Yn waelaf un a welwyd,—

A oes i'w ben eisiau bwyd !"

AFAON.

- mewn

"Diau rhanwyd i'r henwr-anaddfwyn
Gynneddfau enllibiwr,
Enbyd yw y tanbaid ŵr,
Am gynnen mae oganwr.

Crach brydydd,-crychu a brodio ei rigwm
A wna 'r egwan Gymro,
Ow! ddall wr, ni ddyall o,
Wag bwlwaith, a gybolo.

Mae rhês o gyrn mawr esgyrnog—ar gân
Y gwr gwyllt, afrywiog;
Arni 'n awr, draenen neu ôg,
I dori 'r crwbi cribog!

Nid oedd fwyn-niweidiodd fi-a'i englyn,
Mawr anghlod roes imi,

Os cawr ydwyt, nis credi,
Mor wan wyt ger fy mron i!"

PABO.

"Os d'awen deneu, wan, di-un plyg
A'm plygodd o dani,
Ati yn ffraeth eto 'n ffri,
Yn gadarn, mi wna godi!

Diboen i ti ymdybio-dy nerth
Dan wrthun ymguro,
Leni, nid wyt i laenio
Ond egwan, druan, dy dro.

Brenin a gerwin gariad i'w ddull
Gan rai a f'ai 'n ddeilliaid,
At llegus, âg un llygad,
Yr heidia lu, 'rhyd y wlad."

AFAON.

"Er i ti, â llawer gair tost-goegi
Eto gwag yw d'ymffrost,
Ni bu fawl i neb o fost
Anweddaidd hyn a wyddost.

Soniaist wrth sur ymsenu-am awen
Ymhoewaist i'w chablu,

Ni wnei di 'r dewr nadwr du,
Dan wichian, ond ei nychu.

Oblegid im' dy blygu-a'm hawen
Taw mwyach a chanu;

Ni waeth dwrn pwy fo' o'th du,
Y cyw difudd!-cei dy faeddu.

Hwn yw 'r tål roi 'n awr i ti -na chwyna
Čei chwaneg, os myni;

Os unwaith ymrysoni
Buan dof i'th boeni di."

Nid da dull isel y ddadl hon,

Afaon sydd i'w feio,

Fel pob rhyw brydydd ieuanc bron,
Medd duedd at ddifrio,

A chadw ffair a chodi ffon,

Rhoi enwau drwg, a drelio; Ond addurn y frigog urdd enwog farddonaidd,

Yw byw yn ddiogan, fel dyn boneddigaidd.

NODIADAU Y FLWYDDYN.

GAN fod y rhifyn hwn yn derfyn blwyddyn ar y "Traethodydd," nis gallwn, o bosibl, wneuthur yn well tuag at lanw tudalenau diweddol ein nawfed llyfr, na rhoddi rhyddid i̇'n meddwl rodio yma a thraw ar hyd lanerchi dygwyddiadau y flwyddyn, a chyfeirio at rai o'r golygfeydd sydd o'n hamgylch.

Ac i ddechreu yn Nghymru. Nid rhyw lawer o bethau mawrion ac o hynodrwydd neillduol, hyd y gwyddom ni, sydd wedi dygwydd yn y Dywysogaeth, o fewn corff y deuddeng mis diweddaf. Os gwir yr hen air a ddywed fod dim newyddion yn newyddion da, y mae yn dda i raddau mawr yn bresennol yn Ngwyllt Walia. Nid oes nac anghen na haint yn cynniwair trwy ein bröydd; ni chlywir nemawr gŵynion oddiwrth na gwreng na boneddig; mae gweithwyr yn cael cyflawnder o waith, amaethwyr yn cyfarfod â phrisiau da am eu cynnyrchion, a thirfeddiannwyr yn derbyn eu hardrethi yn amserol a rhwydd. Tra y mae yr adeg o fywyd a bywiogrwydd ar holl fasnachau a chelfyddydau y deyrnas, nid yw Cymru yn ol am ei chyfran. Byddai yn dda iawn, ar dymmorau fel y rhai hyn, pe gellid, addysgu y dosbarth gweithgar yn gyffredinol mewn arferion o gynnildeb a darbodaeth. Yn lle byw i fyny at, os nad tuhwnt i, eu derbyniadau, dymunol ac anghenrhaid iddynt yw rhoddi rhyw gymaint o'r neilldu erbyn diwrnod gwlawog, fel y dywedir; a dylai y dosbarthiadau sydd uwchlaw iddynt eu hannog a'u cefnogi i hynyma. Mae yn awr liaws o sefydliadau wedi eu llunio i'r perwyl; ac y mae egwyddorion dyngarwch a gwladgarwch yn arddodi arnom i hyfforddi y werin am fanteision y cyfryw sefydliadau. Pan yr oedd amser da ar weithfaoedd flyneddau yn ol, sylwasom ar deuluoedd yn ein cymydogaeth oedd yn ennill bob un, trwy y tad a'r plant, o ddeg swllt ar hugain i deir-punt yn yr wythnos; ond yr oeddynt wedi dysgu gwario yr holl gyflog. Nid ymarbedent ddim mewn bwydydd na gwisgiadau; ac yn fynych byddai y tafarndai yn cael rhan helaeth o ffrwyth eu llafur. Daeth yn dro ar fyd; dyrysodd masnach, ac yr oedd y gweithfaoedd yn gorfod sefyll. Erbyn hyny, yr oedd y teuluoedd hyn allan o waith; nid oeddynt wedi gwneyd un ddarpariaeth erbyn y dydd drwg; yr oedd eisieu a newyn yn hylldremu arnynt; ac nid oedd ganddynt ond rhoddi eu hunain yn dlodion ar y plwyf, a phwyso, gyda hyny, ar drugaredd eu cymydogion. Daeth cychwyniad bywiog drachefn ar y gweithfaoedd; ond gofidus yw adrodd ein bod yn gwybod am rai o'r cyfryw a nodasom, nad oeddynt wedi dysgu doethineb oddiwrth eu hanofaledd a'u hangenoctyd blaenorol, ond yn ymroi i gael mwyniant, fel yr anifel, oddiwrth yr awr hon, heb feddwl am drysori dim erbyn yr amser i ddyfod. Gresyn yw gweled dyn yn ddiffygiol o ddoethineb y pryfed mân sydd dan ei draed. "Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf."

Cafodd beirdd a phrydyddion Cymru eu siomi am Eisteddfod y flwyddyn hon. Wedi cyhoeddi fod "Eisteddfod Gymroaidd Freninol" i fod yn Nolgellau yn y flwyddyn 1852, ac wedi hyny e: gohirio am flwyddyn ymhellach, yr oedd cryn ddysgwyliad am dani, a llawer o ddarpar ati,

« PreviousContinue »