Page images
PDF
EPUB

Y mae yr argrafiad hwn mewn arferiad presennol yn Eglwys Llanlleonwel, yn ir Frycheiniog.

Rhif 1, a 4, 1717; a rhif 1, 1818.

Rhoddasom grybwyllion aml waith am y Parch. Moses Williams; ond y mae genym nodyn yma i'w chwanegu, o awdurdod y Parch. D. S. Evans, mainid Ficar Llandyfrg yn sir Aberteifi, a Llangynilo, yn sir Faesyfed, oedd tad Moses Williams; ond Ficar Liangynllo neu Llangunllo, yn Ngheredigion, yr hwn sydd yn blwyf cydffin á Llandyfrog, y ddau yn nghymydogaeth Castell Newydd Emlyn." Geilw awdwr yr “Eminent Welch sen y lle hwn Nantgunllo," gan ei gamgymeryd mae'n debyg, am “Nantgwnlle” neu “Liancwalle," yr hwn sydd ugain militir o leiaf o Langunllo.

1722.

8. “ Meddyginiaeth a Chysur, Yr dyn helbulus, clofyccus, a thrallodus, ar ei glaf wely, a gasglwyd allan or ysgrythyr Sanctaidd, ac hefyd o hystorieu ac Athrawiaethau yr hen Dadau; a rhesymau y Philosophyddion, a gwyr doethion dyscedig eraill or cynfyd: Ac a osodwyd allan trwy lafur Edward Lloyd. Athro y celfyddydau; a gweinidog yr Efengyl yn llangower, yn Sir feirion: Er leshad i'w braidd y mae'n figail arnynt, ac yn orchwyliwr i gyfrannu iddynt eu bwyd yn eu bryd, sef yw hynny, didwyll laeth y gair. 1 Pet. 2. 2. Ac ar ol hynny er budd i'r Cymru oll. Argraphwyd yn y Mwythig, gan John Rogers, 1722,"

Y rhagymadrodd neu "Lythyr at i Blwyfolion" a derfyna fel hyn,-" Eglwyseg, Awst y cyntaf, 1683." "Eich Ewyllysiwr da, Edward Lloyd." Yr hyn a brawf, naill ai bod hwn yn ailargraffiad, neu iddo fod yn ysgrifenedig 39 mlynedd cyn ei argraffu.

1723.

Y mae erthyglau y flwyddyn uchod yn gydiol â rhai y flwyddyn 1722, yn dechreu yn 1" Llun Agrippa, ar ol 7¶"Taith neu Siwrnai y Pererin.” Gall unrhyw un â'i bin-ysgrifenu wella y gwall hwn, trwy roddi y flwyddyn 1723, rhwng y 7 a 1 yn erthygl y flwyddyn 1722

1731-2.

1. "Cymmorth i'r Cristion a Chyfarwyddyd i'r gwr Ieuange, &c. Gan W. Burkett. M. A. Caerfyrddin: Argraphwyd gan N. Thomas, ac ar werth gan John Lewis, Gwerthwr Llyfrau, 1731—2.

Rhif 2, 1739.

Enw y llyfr hwnw yn llawn sydd fel hyn :

"Y Llaeth Ysbrydol, Neu Bregeth, yn dangos mawr hiraeth y ffyddloniaid am laeth y gair ynghyd a'r ffordd i mae cynyddy trwyddo. O Gasgliad Eglwyswr. Caerfyrddin Preintedig gan Nicholas Thomas dros yr Awdwr yn y flwyddyn 1739. Pris tair ceiniog."

4. "Traethawd ar Ailenedigaeth [darn o'r ddalen wedi colli ymaith] neu

Lê Cynulleidfa yn Rhydychen. A osodwyd allan Gyntaf ar Ddeisyfiad y Gwrandawyr. Y nawr wedi ei Chyfieithu o'r Pedwerydd Argraphiad. Printiedig yn Brestol gan Sam, a Felix Farley, 1739.”

[ocr errors]

1740.

14. Canwyll y Cymry, sef, Gwaith Mr. Rees Prichard gynt Ficcer Llanddyfri. Wedi ei Argraphu ynghyd yn Chwe Rhan, yn llownach a helaethach nag un Argraphiad a fu allan erioed o'r blaen, a chwedi ei fenwl chwilio a ddiwygio yn ofalus o amryw Feiau a chamgymmeriadau anafus, gan I. H. "The Divine Poems of Mr. Rees Prichard; Sometime Vicer of Llandovery in Carmarthenshire. Yr Wythfed Argraphiad gydag ymchwanegiad helaeth. Argraphwyd yn y Mwythig gan Richard Lathorp. Lle y gellir cael Printio pob math ar Gopiau am bris gweddaidd, a chael ar werth amryw Lyfrau Cymraeg a Saesonaeg."

1750.

17. "Instruction for the Young Christian &c. England. or Addysg i'r Cristion Ieuangc. Eglwys. Mewn ffordd o Holiad ac Atteb. ur Lan, a'i gymhwyso i'r gwaelaf ei Ddyall.

By Minister of the Church of neu Eglurhâd ar Gatecism yr Wedi ei brofi allan o'r YsgrythGan Weinidog o Eglwys Loegr.

Llundain: Argraphwyd i B. Dod, Gwerthwr Llyfrau i'r Gymdeithas er helaethu Gwybodaeth Gristionogol; dan Lun y Bibl a'r Agoriad yn yr heol a elwir Ave-Mary Lane, 1750 [Prîs 4 Ceiniog, neu 28 Swllt y Cant]."

Y mae hwn yn ddwyieithawg, a thybygem mai awduriaeth Person Llanddowror ydyw.

1752.

12. ¶"Drych y Dyn Moleisus, neu Bregeth Yn dangos yspryd chwerw ffyrnug y dyn moleisus yn y Byd hwn, a'i gyflwr gwael truenus dan Feddiant Satan yn y byd arall. O Waith T. Evans Vicar Llangamarch. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thos. Durston."

1754.

6. "Hosanna i Fab Dafydd, neu Gasgliad o Hymnau. O Waith W. Williams. Argraphedig ym Mristo gan E. Ffarley, yn y Flwyddyn 1754."

1758.

7. "Catecism Byrraf, A Gyflwynwyd gan y Gymmanfa o Ddifynyddion yn Westminster, i'r Ddau Dy o Barlament, A chwedi ei Gymmeradwyo ganddynt. Yn cynwys Egwyddorion y Grefydd Gristnogol. Ynghyd a Phrofiadau Ysgrythurol. Argraphwyd yn Llundain yn y Flwyddyn MDCCLVIII."

1761.

10. "Trefn Rhagluniaeth yn Groes i Naturiaeth a disgwyliad Dynion yr hwn (yn gyffredin) a elwir Gofud. Ac Argraphwyd yn Nghaerfyrddyn gan Rhys Tomas dros T. Williams. 1761."

1762.

14. "Llythyr Martha Philopur at y Parchedig Philo Evangeluis ei Hathro. Yn manegu iddo ei Phrofiad, a'r Testynau hynny o'r Ysgrythur a ddaeth i'w Chôf, i gadarnhau y Gwaith rhyfeddol ac anghynefin o eiddo 'r Arglwydd, a ymddangosodd ar Eneidiau Lluoedd o Bobl yn Sîr Aberteifi, ac sydd yr awrhon yn taenu ar lled i Eglwysi Cymdogaethol: Gan W. Williams. Caerfyrddin : Argraphwyd gan E. Powell, yn Heol-Prior. 1762."

1765.

14. "Crist Bywyd y Cristion. Wedi ei osod allan mewn dwy Bregeth ar Phil. i. 21. &c. Gan Weinidog o Eglwys Loegr. At yr hyn y chwanegwyd Dwy Hymn, ar yr Ystyriaeth. Caerfyrddin, Argraphwyd ac ar werth gan Ioan Heol Awst, tros yr Awdwr. 1765."

Ross, yn

Wele, ddarllenydd, ein gorchwyl presennol wedi ei gwblhau. Nid ydys yn hòni ei fod yn berffaith; ond y mae mor berffaith ag y gallasom ar hyn o bryd ei wneyd; ac yn llawer perffeithiach na dim o'r cyffelyb a wnaed o'r blaen. Yr oedd yn ein bryd wneuthur sylwadau terfynol lled helaeth; ond aeth yr erthygl hon mor helaeth, fel ag i'n llesteirio yn hollol. Fe allai y bydd i ni eto daflu golwg dros y maes, a chasglu rhai tywysenau a gaffom ar ein llwybr, ynghyd â gwneyd rhai sylwadau ar ein llenoriaeth a'n llenorion, mewn erthyglau penodol; pa fodd bynag, yr ydys yn barod meddu defnyddiau lled helaeth am rai o'r "hen enwogion" nad oes dim wedi ei gadw mewn argraff am danynt. Ac ar hyn ni a roddwn heibio yn bresennol.

yn

504

AFAON, Y BARDD IEUANC, O BALAS ANIAN.

GAN EBEN FARDD.

Y CYNNWYSIAD.

ATHRYLITH gynnarol Afaon-hoffion ei febyd-ei ysgol-y ddamwain a barodd i flodyn ei aven ddechreu agor-ei ddychymygion a'i frwdfrydedd plentynaidd gyda'r Bardd-Athraw-anghreiftiau o rai o'i wersi barddonol.- Marwolaeth ei fam a'i dad - ei alar. - Ieuenctid Afaon - ei garwr iaeth.-Olwen yn eiddigus-helbul Afaon - y ddau yn y diwedd yn priodi. - Ei ffawd ddilynol mewn crefydd a llenyddiaeth - anghraifft o'i ffug-ffrwgwd brydyddol gyda'r pastynfardd Pabo, pan oedd yn fachgen. Beiad ar arddull isel yr unrhyw, ynghyd âg argymhelliad boneddigeiddrwydd yn fwy i sylw beirdd ieuaine.

YN bum mlwydd oed dechreuai aidd
Ei deimlad ymddadblygu;
Dyrchafai 'r rhin oedd yn ei wraidd
Yn araf at i fynu;

A naws ei awen welid braidd

Fel blodyn yn blaendarddu;

O! mal y swynid ef yn mhalas anian
Yn wir erbyn hyny, pan ar ben ei hunan!

Pan safai fry ar ben y bryn,
Môrgilfach Aberteifi,
Edrychai fel rhyw eang lyn
Yn mhelydr haul yn berwi,
A'r llongau dan eu llian gwyn
Yn dawnsio arno 'n heini',
Afaon a swynid ar wiw fynwes anian
Yn wir erbyn hyny, pan ar ben ei hunan.
Bryd arall, treiglai tonau'r bay
Fel myrdd o wyllt afonydd,
Gan dori tros bob creigiog gae,
A galw ar eu gilydd;
Yn boer i gyd, i beri gwae,

A'r glànau fel siglenydd ;

O! mor ofnadwy oedd cyffrawd y tònau,
Ewynent a rhuent fel mil o raiadrau.

Afaon lechai dan ryw berth,

A thua 'r môr edrychai,

Naill du i Gricierth a'i thŵr serth,
Ton ar ol ton ymlidiai;

Y môr ymdreiglai â'i holl nerth,
A'i ganol a frigwynai;

A lluwchfa wastadol o forlan Meirionydd
A wnelai'r olygfa'n grynodeb o 'stormydd.

Ond i Afaon, sŵn y gwynt
Yn sio yn y berthen,

Oedd wir fwynhad y ddedwydd hynt,
Fel un yn nghysgod cawnen;
A lle o'i fath ddewisai 'n gynt

Na thý a theulu llawen:

O! mal y swynid ef yn mhalas anian,
Pan fyddai'r elfenau o'i amgylch yn clecian.

Ar deg foreuau hyfryd haf,

Ai allan hyd y meusydd;
Erioed ni chlywsai beth mor braf
A miwsig yr ehedydd,
A'r awyr oll fel nefoedd Naf,

Yn ferw o seiniau celfydd;

O! mal y swynid ef yn mhalas anian
Yn wir erbyn hyny, pan ar ben ei hunan.

Ei holl synwyrau ieuainc oedd
Yn fath o aur bibellau,

I ddwyn i'w syniaeth bob pêr floedd,
A threm, ac arogl gorau ;

A thynu anian wnai ar goedd

Trwy 'r glust, a'r ffroen, a'r genan; A'i lygaid yn chwerthin ar bob amrywiadau, Daearol a dyfrol, ei faith ystafellau.

Y coed yn llonydd, heb ddim rhith
Ysgogiad yn eu brigau;

Ac ar ol bod yn ngwlych mewn gwlith
Yn sychu 'n ngwres y borau;
A rhyw aderyn bychan brith,

Yn nghanol y canghenau,

Yn siffrwd y dail wrth gyweirio ei delyn
I anerch yr haul oedd yn codi gyferbyn.

Ryw encyd draw ar fynydd bàn,
Agorai 'n llon ei lygaid;
Ac yna braich o fryniog làn,
Yn dal y glyn yn goflaid;
A rhyw hedd tawel ar bob man,
Yn newydd a di niwaid;

Y cwbl fel heb ddeffro o gyntun y noswaith,
Oddieithr y gwawl-gerbyd oedd ar ei hynt
Lymaith.

Melynai 'r haul & lliw didawl,
Ymylau serth y moelydd ;
O'r lamp wybrenol llifai gwawl,
Aurliwiog hyd y gelltydd,
Afaon ga'i y cwbl i'w hawl,
O roddiad y boreuddydd ;

AFAON, Y BARDD IEUANC, O BALAS ANIAN.

Tra 'r ydoedd tlos anian yn gwneuthur ei

gorau

I drefnu ei phalas, a gwychu 'r 'stafellau.

Afaon bach ar hyn o bryd

A roddwyd yn yr ysgol;
A'i flodau 'n agor peth o hyd,

A'i bethau 'n bur obeithiol;
Braidd nad oedd dysgu 'n llenwi 'i fryd

Yn fwy na'r gamp chwareuol;
Ond rhwng y ddau bleser, sef dysgu a
chwarau,

Dyferai dafn chwerw i'w gwpan ef weithiau.

Un boreu heulog, heb ddim braw,
Na theimlad blin, na diflas,
Tra 'r blodau 'n chwerthin yma a thraw,
O'i ddeutu 'n mysg y gwelltglas,
Ai gyda'i gyfaill law yn llaw

Trwy deg rodfeydd ei balas,

I dderbyn elfenau ei addysg boreuol,
A phrofi dysgyblaeth gaethiwus yr ysgol.

Wrth fyned, gwelai ar bob tu,
Y gwenyn ar y blodau;
A'r glöyn byw ar aden gu,
Mympwyol ei hediadau ;
Bron yn ei afael ganwaith bu

Ei brydferth ysnodenau;

Rhoes lawer gwibredfa o lwybr yr ysgol
Ar feddwl cael dala yr eilun deniadol.

Ond wedi rhedeg gyda brys,

Ar ol y pryfyn ofer,

Nes ydoedd drosto 'n llawn o chwys,
Ac wedi colli 'i amser,

Heb ddala 'r un rhwng bawd a bys,

A'r ysgol ar ei hanner,

Mawr fu'r siomedigaeth, a'r braw a'i cyfarfu,
Y llafur yn ofer, a'r athraw yn gwgu!

Afaon deimlai lawer loes;

Ond trwy yr amgylchiadau,

Ca'dd wers i'w chofio trwy ei oes,
Mai dilyn dyledswyddau,

Heb segur redeg gyrfa groes,

I ddal ar wag gysgodau,

A lanwai ei gwpan a'r puraf fwynderau
Heb gynnwys rhyw waddod o siomedig-
aethau.

Tra yn yr ysgol, yfai 'n rhwydd
Wybodaeth yn danbeidiol;
A'r llyfrau roddid ger ei ŵydd,

Bu 'n ddigon doeth i'w dethol;
A phawb a synent ar ei lwydd,
Yn dringo rhiwiau rheol;

Prophwydid y byddai 'r peth hyn a'r peth
arall,

Wrth agor mor foreu adwyau y deall.

Un nawn, ar ddamwain, daeth i'w law
Ryw lyfr a wnaethai prydydd ;
Yn cynnwys ynddo wyth neu naw
O awdlau cywrain celfydd ;
1853.]

Oddiwrth ba un ni throai draw,

Hyd dranoeth, os nad drenydd;

505

A hoffodd ef cymaint, nes o hyny allan
Y tyngodd y byddai yn brydydd ei hunan.

Aml waith y bu, o'i lawn hyd gyd,

Yn cyrhaedd gwrhyd cywrain,
I gasglu coflaid fawr ynghyd,
O'r pedwar mydr a'r hugain,
Er hyn, o'i raff, ar lawer pryd,

Fe lithrai ambell gydsain;
O'r diwedd crafangodd bob cyswllt ewinog
Y trawsgynghaneddion, a'r dosbarth croes-
rywiog.

Ac ar ol hyn, wrth fyn'd a dod
A'i dasg i wasg yr ysgol;
Gwneyd ambell englyn fyddai'r nod,
A manion pur emynol,
Oddiwrth ryw destun allai fod

Ar ddyri yn ddyddorol;

Yn fuan cynnyddodd mewn dysg a barddoniaeth,

Ni roddai air llanw, ni wyrai ddarlleniaeth.

Cyn hir, mewn torf gynnullai 'nghyd,
Yn rhywle yn ei ardal;

Fe welai'r bardd o ryfedd bryd,
Chwaraesai 'r awen cystal,

I wneyd y llyfr fu 'n gân ei gryd,
I'w suo 'n brydydd dyfal;

Nesaodd i'w ymyl, mewn ofn coelgrefyddol
I gyffwrdd â'i berson, er derbyn rhin barddol.

Er na fu gair cydrhwng y ddau,
Am ddyddiau, o ymddyddan;
Afaon dybiai iddo 'n glau

Rwydd ddeillio rhinwedd allan,
A'i fod byth wed'yn yn cryfhau

Yn noniau awen anian;

Yr ydoedd mor fywiog a chwim ei ddychymyg,

I weithio 'n ei obaith rai pethau annhebyg!

Y cyntaf ddarn erioed a wnaeth,
I'w ddangos i gyfeillion,
Oedd "Cwyn Ysgolor," llawn o aeth,
Am golli athraw tirion;

Yr hwn o'u gwydd a droai 'n gaeth,
I arall le yr awrhon;

Ond "Cwyn yr Ysgolor," a gollodd drwy 'i
ddwylaw,

Modd bynag, fel hyn yr oedd "Ateb yr
Athraw."

2 K

"Ffarwel, Afaon! dyma'r dydd,

Y dydd sy wedi dod ;
Caru ac ewyllysio eich ĺles
Yn gynhes gwn fy mod.
Hiraethus wyf, oer aethau sydd
Yn ymgudd dan fy mron;
Am fod yn rhaid im' ganu 'n iach
I chwi 'm rhai bach o'r bron.

Er bod eich cwmni 'n hyfryd im',
Ni chaf ef ddim yn hwy;
Bydd colli gwedd eich wyneb llon,
O dan fy mron yn glwy.

Ah! rhaid eich gadael oll i gyd,
I gyd, mewn tristyd dro;
Hen le 'n cynnulliad amser hir
A roed yn glir dan glo.
Ffarwel! Ffarwel fy anwyl rai!
Ni chana 'i ddim yn hwy ;
Ar dori nghalon, byddaf, och!
Heb weled monoch mwy."

Yn fuan iawn Afaon wnaeth

Gerdd arall go ryw ddyrys;
Ac erbyn hyn, y mesur caeth

Oedd yn ddewisbeth hysbys;
A'r dernyn hwn o'i ddwylaw ddaeth,
Oedd bur ganmoliaeth melys,

I orhawddgar degwch yr hardd greadigaeth
Di ail babell anian, a'i delw o bob lluniaeth.

Y blaenffrwyth hwn o'i awen wyrf,
Sef cathly greadigaeth;
A ymddangosai o ran ffurf,

Yn addas gynghaneddiaeth ;
Gan led amlygu tyfiad tirf,

A nodd yr awenyddiaeth;

Beth bynag, anturiodd i ddangos y caniad,
I'w" Athraw barddonol," fel cyntaf gyn-
nygiad.

Ei athraw barddol oedd y gŵr
Nodedig a grybwyllwyd,

Cain awdlau 'r hwn a droisai 'r dwr
Ar olwyn doniau mebyd,
Nes creu o'i fewn y fath ystwr,

Am fod yn fardd drwy 'i fywyd,
A'r gwr a'i cyffyrddodd ef wed yn yn rhyw.
fan,

Nes byth yr aeth rhagddo o hono ei hunan.

Yn mhlas anian, mal y soniwyd,
O yngan llesg ieuengyn llwyd;
Dyma'r gan sych, nid gwych oedd gwên
Dechreuad awch yr awen.-

"Cre'digaeth wech helaeth a chwiliaf,
A hon a olrheiniaf yn rhwydd ;
Rhyfeddaf a chofiaf ei chyfoeth
Yr adail sy'n llawnddoeth ei llwydd ;
Rhyw drwch ordywyllwch du ollawl
Yn cuddio 'r daearawl dŷ oedd ;
Ond 'Bydded goleuni,' a'i rhwygai
Dug bobpeth a guddiai ar goedd,
Y tiroedd oll ydoedd yn lleidiawg,
O ddyfroedd gorllifawg yn llawn;
Amgylchent, hwy döent ein daear,

Yr hanes yn gynnar a gawn:
Neillduwyd, fe fwriwyd trwy fawredd,
Y dyfroedd oll unwedd i'w lle,

Sych diroedd, iach lysoedd, achleswyd,
Y ddaear a groenwyd yn gre'.
Gair nerthol cynnarol cain euraidd
A ddeuai yn beraidd i'r byd ;
'Egined a thardded laith irddail
Allysiau 'r deg adail i gyd;
Ffrwythloner a llanwer y llenyrch,
O bob rhyw lawn gynnyrch yn gu,
Yn goedydd ac irwydd rhagorol,'
A hyny yn fanol a fu.

Tywysog, llyw enwog holl anian
Yw 'r haulfyd pur wiwlan ei wawr;
Ser, lleuad, tywyniad da union,
A enfyn y lluon i'r llawr;
Eu Crewr a'u Lluniwr tra llonwych

A'u gwnaeth yn rhagorwych eu gwedd,
Mewn hawddgar wir gynnar ogoniant,

Trwy 'u cylchau mwyn hwyliant mewn
hedd.

Y moroedd a'r llynoedd fe'u llanwyd,
A physgod yr heigiwyd y rhai'n,
Mewn dyfroedd yn yroedd aneiri',
Y cawsant eu geni yn gain;
A'r adar diarchar y dyrchent,
Hwy ganent tra gwelent y gwawl;
Dymunol lu siriol a seirian
Pereiddwych a mwynlan eu mawl.
'Nifeiliaid afrifaid a frefent,

Weryrent neu lleisient yn llon;
Bwystfilod gain hynod gyn-henwau,
A bonau pob rhywiau o'r bron;
Arafaidd, aml lesgaidd ymlusgiaid
A phob rhyw fan bryfaid mewn bro,
Cysurus a hwylus yr hilient,

Trwy 'r ddaear ymdaenent yn do.

Ond gwelaf a synaf dros enyd,

Fwy rhyfedd waith hyfryd a theg;
Creu Addaf, ddianaf hardd unol,
Mal T'wysog da freiniol di freg;
A thynwyd, dewiswyd ei asen,

O'i fynwes yn llawen er llwydd ;
I'w llunio 'n wraig iddo deg addas,
Heb anffawd yn lluddias eu llwydd.

Ca'dd pawb ei ddeddf-deddf y dyn
Uwchraddai Ach ei wreiddyn,

Ond Adda 'n wan dueddodd-i bechod,
Heb ochel fe gwym podd,

Drwy naws falch, druenus fodd,

Y dirion ddeddf a dorodd !"

Ei" Athro barddol" yn ddi lai
A feiai gân Afaon;

O'r gair "Nifeiliaid," sillgoll wnai,
Nad ydoedd yn gyfreithlon;
A rhy, o lanw neu o drai,

Ddangosai wedd anghyson;

Er hyn ar y cyfan canmolai y cynnyg,
A'i lwydd pan addfedai a dybiai yn debyg.

« PreviousContinue »