Page images
PDF
EPUB

y Sabboth o'r blaen. Ond yr oedd y trigolion, eu hiaith, a'u defodau, yn gwbl wahanol i'r eiddo pobl Ysbytty, ac yn fy nharo yn chwith a dyeithrol. Mewn hotel fechan y llettyem, a deallasom yn ebrwydd mai Pabyddion oedd y teulu. Yr oedd yr offeiriad Pabyddol yn ymddangos yn gyfeillgar yno, ond yr oedd ef a hwythau yn ymgadw ymhell oddiwrthym ni. Tranoeth gofynasom am fenthyg Bibl, ond anfonwyd y gweinidog atom i ddyweyd nad oedd yr un yn y tŷ. Nid oes yn Oughterard, dybygwyf, addoldŷ Protestanaidd o un math ond gan yr Eglwys Sefydledig yn unig, ac nid yw hòno ychwaith ond rhyw gell gyfyng a gwael yr olwg arni; ond y mae yn cael ei helaethu yn bresennol. Mae y capel Pabaidd, o'r ochr arall, yn adeilad fawr a chref, wedi ei godi ar gyfer y trigolion sydd yn byw yn y mynyddoedd oddiamgylch, a pha rai a gyrchant iddo dros filltiroedd lawer o ffordd. Dechreuent ymgynnull yno o'r cwmpasoedd yn llïaws, cyn wyth o'r gloch y boreu Sabboth, i wasanaeth yr offeren, fel ei gelwir; ac felly parhaent yn llïosog ar hyd yr heolydd yn ystod y diwrnod: rhai yn dyfod allan o'r capel, ac eraill yn myned i mewn; a dywedid i ni, y byddai yno weithiau, o leiaf, gynnifer ag un ar bymtheg o offeiriaid yn gwasanaethu iddynt, y naill yn niffyg y llall.

Oddeutu 10 o'r gloch yn y boreu, aethom allan ar hyd yr heolydd. I mi, ymddangosai y werinos druain, a brysur gyrchent i'r capel Pabaidd, yn dlodion ac anwybodus iawn. Yn eu mysg, pa fodd bynag, cyfarfuom â dwy neu dair o ferched ieuainc pur wahanol eu diwyg; ac yr oedd yr olwg arnynt yn fwy hoffus, oblegid eu bod yn nghanol cynnifer o greaduriaid mor wrthwyneb iddynt eu hunain. Ymddangosent yn lanwaith a deallus; ac er nad oeddwn i yn rhoddi pwys yn y byd ar fy nychymyg, eto, mi dybiais y fynyd y gwelais hwy, mai nid Pabyddion oeddynt. Pa fodd bynag, wrth ddychwelyd yn ol ar hyd yr heol, ni a glywem ganu mewn tŷ bychan ag oedd am yr afon â ni. Wedi ymwrando ychydig, a deall mai canu mawl ydoedd, aethom i mewn yn awyddus, a chawsom, fel y gellid meddwl, ein lloni yn fawr wrth glywed cynnulleidfa fechan, ac yn eu mysg y lodesi a welsom ar yr heol, yn canu salmau rhwng mynyddau mawrion Connaught, ar un o'r tônau a glywsom cyn hyn yn ein gwlad ein hunain. Ysgol ydoedd yma perthynol i'r Eglwys Sefydledig; ac yr oedd ysgolfeistr, a Scripture Reader, ac eraill, o dan y gweinidog, yn golygu drosti. Yr oedd yma rai dychweledigion oddiwrth Babyddiaeth, ac yr oeddynt yn hynod o'r cyflym a da eu deall yn yr Ysgrythyrau. Dywedai un hen wraig wrth Mr. Charles, "Nid oes dim purdan yn y byd arall." A phan y gofynodd yntau pa fodd y profai hyny? atebodd "Onid yw gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod? ac os yw yn glanhau oddiwrth bob pechod, nid oes dim lle i'r purdan. Mae'r gwaith wedi ei orphen, syr; fe ddywedodd Ef ei hunan, Gorphenwyd!" Anfonodd y gweinidog atom i ddyweyd, os oeddym mewn orders y byddai yn dda ganddo i un o honom bregethu iddo y boreu hwnw. Anfonasom ninnau yn ol, wrth gwrs, i hysbysu nad oedd genym orders i wneyd. Aethom i'r Eglwys, pa fodd bynag, a chawsom bregeth fèr, ond efengylaidd a da. Yr oedd y gynnulleidfa yn cael ei gwneyd i fyny o ychydig deuluoedd Protestanaidd, da yr olwg arnynt, ychydig o swyddogion milwraidd a sawdwyr, ynghyd â rhai dychweledigion oddiwrth Babyddiaeth, y cyfan ynghyd o driugain i gant o nifer. Yr oedd y gwasanaeth yn fyrach, a'r gynnulleidfa yn llai yn y prydnawn.

Treuliasom hwyr y dydd mewn ymddyddanion gyda'r Scripture Reader,

66

ac amryw o'r dychweledigion, pa rai, yn y wlad hon, a elwir yn jumpers, am eu bod, meddir, yn jumpio o'r naill grefydd i'r llall. Mae y dychweliad at Brotestaniaeth yma, dybygwyf, wedi peri cryn anesmwythyd a chynhwrf yn mysg y Pabyddion. Canfyddem bapyrau ar hyd y parwydydd yn enllibio y gweinidog Protestanaidd. Ac ychydig o amser cyn ein hymweliad âg Oughterard, yr oedd yr esgob Pabaidd, a nifer liosog o'i offeiriaid, wedi treulio rhai dyddiau yno, i gadarnhau eneidiau y ffyddloniaid, ac i'w rhybuddio i ochelyd y dynion ag sydd yn amcanu eu dadymchwelyd oddiwrth y ffydd. "Na ato Duw i ni," meddai un lodes ieuanc wrth Mr. Charles, na ato Duw i ni ddarllen y Bibl. Ni feiddiwn ni wneuthur felly." "Paham ?" meddai yntau. "Mi welais i lodesi bychain fel chwi wedi eu gwneyd yn ddedwydd iawn trwy ddarllen yr Ysgrythyrau." "Ië, yn ddedwydd yn y byd hwn," ebe hithau; "ond pa leshad i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?" Eto y farn gyffredin yw, fod dylanwad yr offeiriaid yn lleihau. Dywedai un ffermwr dychweledig wrthym, ei fod yn llawer llai er pan y mae ef yn cofio, ac yn lleihau yn feunyddiol. Ond gorfu arno ef, er hyny, ar ol troi oddiwrth Babyddiaeth, werthu ei ddefaid oddiar y mynydd am ychydig gyda phedwar swllt y pen, oblegid fod y bobl trwy symbyliad eu hoffeiriaid, fel y tybid, yn eu dwyn agos o flaen ei lygaid ef.

Ar ol y gwasanaeth y boreu Sabboth, cawsom ychydig o ymddyddan â'r gweinidog. Bu mor fwyn a chynnyg i ni ei gwch a'i ddynion i'n hebrwng dranoeth o Oughterard i Meume, dros ran o'r llyn mawr a elwir Loch Corrib. Gwnelai hyn, nid yn unig am ei fod yn gwybod ein neges, ond am ei fod yn caru cefnogi ymwelwyr o'r wlad yma â'i wlad ei hun. Mae y ewch yn perthyn i Gymdeithas Genadol yr Eglwys Sefydledig, ac yn cael ei ddefnyddio i drosglwyddo ei chenadau dros y llyn dywededig o bryd i bryd, i'r dyben o ymweled â'r ysgolion, ac â'r teuluoedd sydd yn byw ar hyd y cymydogaethau, ac i fyned oddiamgylch i bregethu a darllen iddynt yr Ysgrythyrau.

Felly, am naw o'r gloch boreu ddydd Llun, cychwynasom ynddo i'n taith. Rhwyfid ef gan bedwar o ddynion ieuainc, oll yn ddychweledigion oddiwrth Babyddiaeth ; ac yr oedd un o honynt yn neillduol wedi bod mewn cryn enbydrwydd am ei einioes oddiwrth ei hen gyfeillion. Yr oedd eu Seisneg yn lled anmherffaith: ond yr oeddym yn cael lle i obeithio, wrth ymddyddan â hwy, eu bod i ryw fesur, o leiaf, yn gwybod y gwirionedd, a bod y gwirionedd wedi eu rhyddhau hwy oddiwrth eu hen syniadau crefyddol, fel pa beth bynag a ddaw o honynt, nas gallant byth mwy fod yn Babyddion ehud ac ofergoelus. Am un o'r gloch prydnawn, cyrhaeddasom i Meume-hotel fechan wrthi ei hun, yn nghanol mynyddoedd anferth -ac yn ddïaros aethom ymlaen mewn car bychan hyd dref o'r enw Westport, lle y gorphwysasom y noswaith hòno. Yr oedd awel y mynyddau iachusol, a'u hymddangosiad, yn hyfryd, yn enwedig yn y parthau oedd wedi eu gwisgo â defaid. Yn y wlad yma mae gweled y rhai'n yn olygfa ammheuthyn i'r teithiwr: fe'u difawyd, o bosibl, trwy y newyn, ac y mae y bobl yn rhy dlodion i brynu eilwaith, ac felly nid oes yn awr bron ddafad i'w chanfod ar fynyddau Connaught. Y rheswm am y gwahaniaeth yn y parthau hyn ydoedd, fod Scotchman wedi cymeryd y mynyddoedd, o dan ardreth, meddir, o 500p. yn y flwyddyn, ac yn cadw arnynt ddeuddeng mil ar hugain o ddefaid, o dan fugeiliaeth deuddeg ar hugain o ddynionmil yn ngofal pob dyn.

Ein bwriad ni wrth fyned i Westport ydoedd, ymweled âg Achill, un o ynysoedd yr Iwerddon, lle mae cenadaeth gref gan yr Eglwys Sefydledig, a llawer wedi troi oddiwrth Babyddiaeth. Amcanem fyned a dychwelyd mewn diwrnod. Ond yn Westport, deallasom nad oedd dim tramwy cyson rhwng yno ac Achill, fel yr oeddym ni wedi clywed, a bod yn anmhosibl i ni fyned yno heb wario cryn lawer o arian, a threulio mwy o amser nag oedd ein cynlluniau yn ganiatâu. Tranoeth, gan hyny, troisom yn ol. Bwriadem bellach ymweled âg amryw fanau yn Neheudir Iwerddon. Ar ein taith o Westport, daethom trwy, Castlebar a Balina, a threfydd eraill, amryw. Mae yn yr olaf a enwyd genadaeth berthynol i'r Presbyteriaid; dau o weinidogion yn byw, capel da, ac ysgol ddyddiol yn edrych yn llwyddiannus. Perthyna iddynt hefyd amryw o sefydliadau eraill yn y wlad oddiamgylch, lle y cynnelir pregethu ac ysgolion dyddiol; ac yn un o'r ardaloedd yma mae y genadaeth wedi cymeryd ffarm, er mwyn dysgu yr ysgolêigion yn y gelfyddyd o amaethyddiaeth, a'u sefydlu o'u mebyd mewn diwydrwydd, glanweithdra, a phob arferion daionus. Mae y sefydliadau hyn, ynghyd â'r athrawesau a'r Scripture Readers perthynol iddynt, o dan olygiad Mr. Allen, un o'r gweinidogion y cyfeiriwyd ato eisoes, a'r hwn oedd y pryd hwnw oddicartref yn nghymdeithasfa Armagh. Aethom gyda y gweinidog arall i ymweled â'r ysgol oedd ganddynt yn y dref. Merched, gan mwyaf, oedd ynddi, gan fod y bechgyn, y tymmor hwnw o'r flwyddyn, yn cael eu cadw gartref yn nghynauaf y mawn. Yr oedd yr olwg arnynt yn lanwaith a deallus; ac wrth weled profion o gyflymdra eu meddyliau yn y Bibl, ac o gywreinrwydd eu bysedd mewn gwaith edau a nodwydd, nis gallem lai na llawenychu wrth feddwl fel mae addysg mewn undeb â chrefydd yn dyrchafu dyn, yn enwedig pan hysbyswyd i ni fod y plant yma yn ddiweddar, lawer o honynt, yn gyffelyb i'r llymrigod llymilyd a welem ar hyd y wlad, yn rhy fryntion i'w hoffi, nac i feddwl am roi nodwydd ddur a darn o fuslin yn eu dwylaw, ac yn rhy ragfarnllyd i ymaflyd yn y Bibl.

Cychwynasom o Balina yn foreu dranoeth gyda'r mail, math o gar agored; ac erbyn cyrhaeddyd Athlone, yn yr hwyr, yr oeddym wedi teithio o bedwar ugain i gant o filltiroedd y diwrnod hwnw. Y dydd canlynol, aethom o Athlone i Limerick. Teithiem mewn packet ar yr afon Shannon, hyd o fewn deuddeng milltir i'r dref. Mae Limerick, fel y gwyddis, yn ddinas fawr a phoblogaidd, ac ynddi, heblaw yr Eglwys Sefydledig, amryw o gynnulleidfaoedd Ymneillduol, Presbyteriaid, ac eraill. Ond Pabaidd iawn ydyw. Mae ynddi ddeg neu ddeuddeg o eglwysi Pabaidd, a dau neu dri o offeiriaid yn perthyn i bob un o honynt; ac yma hefyd y cartrefa un o'r esgobion. Fel prawf o gryfder eu dylanwad ar y lle, dywedwyd wrthym fod business un masnachdy Scotaidd bron wedi ei ddyfetha, trwy gael ei gyhoeddi o'r allor, oblegid i'r meistriaid anfon i Scotland am nifer o ddynion ieuainc crefyddol i'w gwasanaeth, a'u defnyddio yn achlysurol i daenu traethodau ar hyd y dref. I'w hoffeiriaid, yn benaf, y priodolir terfysg yr Iwerddon yn yr etholiadau diweddaf. Yr ydoedd mor gryf yn Limerick y diwrnod cyn ein mynediad ni yno, fel y dyfethwyd cryn lawer o feddiannau, ac y gorfu ar yr awdurdodau drosglwyddo y dref i ofal y milwyr. Cafodd tai amryw o'r Pabyddion eu hunain eu molestu, oblegid nad oeddynt yn ddigon zelog dros yr ymgeisydd Pabaidd a phan gwynai un teulu felly wrth yr offeiriad o'r achos, atebai,

meddai yr hanes, "Wel, gan i chwi esgeuluso gwneuthur eich dyledswydd, nis gallaf fi ddim lluddias y bobl i wneyd eu dyledswydd hwy." Pa fodd bynag, daethom ni o hyd i rai cyfeillion crefyddol oedd yn y lle; ac wedi adrodd wrthynt ddyben ein hymweliad â'r Iwerddon, cawsom eu barn o barth sefydlu cenadaeth yno, a'n cyfeirio at ryw fanau ag oedd yn eu tyb hwy yn fanteisiol i hyny.

Ymadawsom yn foreu dranoeth o Limerick, rhyngom a Thralee, dydd Gwener, yr 16eg o Orphenaf. Amcanem gyrhaeddyd Kilorglan, tref yn swydd Kerry, erbyn nos Sadwrn, fel y gallem dreulio y Sabboth gyda'r Dr. Dill. Gweinidog ydyw ef perthynol i'r Presbyteriaid, ac arolygwr eu cenadaeth yn y cymydogaethau hyny. Aethom i ymweled âg ef i'w dŷ, prydnawn ddydd Sadwrn, a chawsom dderbyniad croesawus, ac yno yr arosasom hyd foreu ddydd Llun. Mae Dr. Dill yn byw mewn rhan o amaethdŷ eang, oddeutu dwy filltir o Kilorglan, ac yn y lle hwnw mae un o'r ysgolion dyddiol yn cael ei chadw. Dechreuwyd y genadaeth yn y lle hwn gan wraig grefyddol o Edinburgh. Pan oedd y newyn yn dost yn y wlad, cynhyrfwyd ei thosturi at y trigolion anffodus; a pharodd hyny, ynghyd â rhyw ystyriaethau eraill, iddi roddi yr ysgol oedd ganddi yn y ddinas uchod i fyny, a dyfod yma i fyw. Cymerodd ychydig o dir, a rhan o'r amaethdŷ crybwylledig, ac wedi adgyweirio ei ystafelloedd adfeiliedig, a'u gwneyd i gyfateb i'w harchwaeth goeth a'i hamcanion haelfrydig ei hunan, dechreuodd ar ei llafur, trwy agoryd ysgol ddyddiol. Mae y cyfan yn awr yn cael ei ddwyn ymlaen o dan olygiad y Dr. Dill.

Treuliasom y Sabboth yno yn y dull canlynol:-Y boreu, aeth Mr. Charles, gyda y Dr. Dill a'i wraig, i'r ysgol oedd ganddynt yn y gymydogaeth; arosais innau gartref i gynnorthwyo yn yr ysgol a gynnelid yn y tŷ, ac i ddyweyd gair ar y diwedd wrth yr ychydig Brotestaniaid a arferent ymgynnull yno i addoli. Y prydnawn, bu Mr. Charles yn cyfarch ysgol arall; a'r nos aethom ynghyd i Kilorglan, lle y pregethodd efe yn yr ysgoldŷ, i gynnulleidfa barchus yr olwg arni, o ddeg ar hugain i hanner cant o nifer; ond nid wyf yn gwybod fod neb o honynt yn ddychweledigion oddiwrth Babyddiaeth. Tra yr oedd dyrnaid o Brotestaniaid fel hyn yn ymgynnull i addoli eu Creawdwr, yr oedd y Pabyddion, pa rai oedd wedi bod yn y mass y boreu, i'w gweled yn y prydnawn wrth yr ugeiniau yn cyrchu i redegfäau cychod, ac yn treulio gweddill y dydd yn mhob difyrwch-dull cyffredin yn mysg Pabyddion o dreulio Dydd yr Arglwydd. Mae ysgolion y Dr. Dill wedi bod yn fwy llïosog unwaith nag ydynt yn bresennol. Trwy ymdrech yr offeiriaid Pabaidd i gadw y plant rhag myned ato, ac yn enwedig trwy ymfudiad y trigolion o'r wlad, maent wedi lleihau. Chwech oedd ganddo yn yr ysgol a gynnelid mewn rhan o'r tŷ, ac yr oeddynt yn cael eu cadw yno yn gwbl ar draul y gymdeithas. Maent un rhan o bob dydd gwaith yn yr ysgol, a rhan arall yn palu, yn chwynu, neu yn cyflawni unrhyw orchwylion anghenrheidiol ar y maes bychan a drinir ganddynt.

Yn foreu ddydd Llun, ymadawsom â'r gymydogaeth hon, a daethom trwy Killarney hyd Cork, a thranoeth dychwelasom o Cork i Dublin. Erbyn hyn yr oeddym wedi treulio pythefnos o amser, a theithio rhai cannoedd o filltiroedd yn yr Iwerddon, ac felly wedi cael mantais i weled cyflwr y Gwyddelod tlodion yn Connaught a Munster, y rhanau mwyaf Pabaidd o honi; a dïau na welsom y cyffelyb erioed o'r blaen.

Fel gwlad, nid anhawdd genym goelio y rhai sydd yn dywedyd mai yr Iwerddon yw yr hyfrydaf o'r ynysoedd Prydeinig. Ond y mae trueni ei thrigolion yn fawr arnynt. Gwyddis, bellach, fod, trwy newyn, haint, ac ymfudiad, tros ddwy filiwn o honynt wedi eu hysgubo ymaith o'r wladnifer y Cymry ddwywaith trosodd; ïe, pe buasai yr un peth wedi dygwydd yn Scotland, buasai y wlad hòno heddyw bron heb neb yn byw ynddi. Mae yr Arglwydd, fel y dywed y prophwyd Esay, wedi pellhau dynion yn yr Iwerddon, ac ymadawiad mawr wedi bod yn nghanol y wlad, yn gymaint felly, nes, mewn cymhariaeth i'r peth ydoedd, yn ddïau, mewn llawer parth o honi, ei bod heddyw yn anghyfannedd, a'i thai heb ddyn. Ac am y gweddill sydd wedi eu gadael ynddi, gwelsom rai yn byw mewn tyllau yn y ddaear, a llaweroedd mewn bythod anghymhwys i'r anifel; ac am a wn i na buasai yn fwy dymunol gan y llygad edrych arnynt yn gwbl noethion nag yn y carpiau bryntion oedd yn crogi o'u cwmpas, pa rai, tra yn annigonol i guddio eu gwarth, oeddynt yn lloches i lïaws o greaduriaid heblaw hwy eu hunain. Mae lle i ofni hefyd nad yw cyflwr y dyn oddiallan ond portread rhy gywir o drueni y dyn oddimewn. Anwybodaeth ac ofergoeledd mawr sydd yn gordoi yr Iwerddon, ac nid oes dim arall i'w ddysgwyl hyd oni byddo yr efengyl yn cael ei phregethu yn ei phurdeb yno, a'r Bibl yn nwylaw ei thrigolion yn gyffredinol.

JOHN JONES, O DREFFYNNON.

MAE rhai dynion craffus yn sylwi am ein hoes ni, fod enwogrwydd personol ynddi yn prinhau, tra y mae gwybodaeth gyffredinol yn ymÏedanu. Mae arwyneb y wlad, a llefaru yn gymhariaethol, wedi ei ddyrchafu, ond, ar gyfer hyny, mae y mynyddoedd uchel wedi eu llyfelu. Cwynir mai rhyw lawer iawn o unffurfiaeth ac efelychiad sydd i'w canfod yn nghynnyrchion presennol y wasg; ac ar y cyfan, rhaid addef mai tra chyffelyb ydyw gyda chyflawniadau y pulpud. Os anfynych yn ein dyddiau ni y clywir o'r areithfa gysegredig gamgymeriadau anwybodaeth, dichon mai mor anfynych y clywir hefyd ragoriaethau gwir athrylith. Nid oes yn y bregeth, fe allai, ddim yn wallus i ddenu sylw, ac nid oes ynddi, hwyrach, ddim yn dra rhagorol i wneyd hyny ychwaith; fel y dywedodd gŵr call yn yr hen amserau am araeth a wrandawsai, "Ei chanmoliaeth mwyaf ydyw, nad oedd ynddi unpeth i'w feio; a'i bai mwyaf ydyw, nad oedd ynddi unpeth i'w ganmawl." Yr oedd llawer o bethau trwsgl a thrwstan yn gysylltiedig âg amryw o'r hen bregethwyr yn Nghymru, fel y mae yn ddigon tebyg, na buasent, ond gydag anhawsder mawr, yn cael eu trwyddedu gan ddynsodion coethedig y dyddiau hyn. Ond yr oedd ganddynt hwy, er hyny, y fath hyawdledd naturiol, a gwreiddioldeb dull, heb son am yr eneiniad arnynt oddiuchod, nes yr oeddynt wedi ennill awdurdod tywysogion ar eu hoes, ac y gadawsant enwau hynod a choffadwriaethau neillduol ar eu holau.

Un o'r cyfryw oedd y Parch. John Jones, Treffynnon, pregethwr adnabyddus iawn, yn ei oes, ymhlith holl Fethodistiaid Calfinaidd Cymru. Er

« PreviousContinue »