Page images
PDF
EPUB

naill na'r llall heb ein natur (Ecsod. xx. 23; Ioan i. 14); ac ni buasai yn ymgynnal nac yn sefyll tan, nac yn cyflawni yr achos na'r lle mewn gwirionedd, yr hyn ag oeddynt hwy yn ei arwyddo fel cysgod, heb fod yn wir Dduw; Esay ix. 6, 7; Salm lxxxix. 19. Ac, yn ol yr awdurdod a roddwyd iddo gan y Tad ar ei einioes (Ioan x. 17, 18), fel offeiriad tragywyddol, offrymodd ei hun yn ddifai i Dduw (Heb. ix. 14). Er bod holl offerynau angeu ac uffern yn amcanu am ei einioes, eto, nis gallasant mo'i dwyn, nes iddo ei rhoddi ei hun yn ewyllysgar i lawr (Ioan xix. 11; Luc xxii. 53; Act. ii. 23; Salm x. 4; Gen. i. 4), a phob peth yn uniawn a chywir yn ol y drefn—yn ol yr ammodau tragywyddol—i anfeidrol1 foddlonrwydd ewyllys Duw Dad; Luc xxiv. 26; Esay xlii. 1.

Wrth hyny, rhaid yw bod yr aberth yn un anfeidrol ryfedd yn ei ddefnydd, yn ei werth, ac yn ei rinwedd, ynghyd â holl ddybenion ei osodiad. Tywalltodd y gyfraith ei holl felldithion arno, dyoddefodd wres y llosgfeydd tragywyddol, soriant ac eiddigedd Duw Dad tros ogoniant anfeidrol ei enw, rhwygwyd ei enaid a'i gorff, gan ofidiau annhraethol, safodd, a daliodd, ac atebodd yn wyneb dyfnder-pob dyfnder megys yn galw ar eu gilydd i'w lyncu, a holl bistylloedd yr uchelder fel yn ymdywallt arno ynghyd, ac yntau wedi ei godi i ganol yr ystorm rhwng nefoedd a daear; ond yno rhoddodd i fyny yr ysbryd, a gorphenodd! A phwy a draetha ddyfnderoedd ei werth, ei anfeidrol ras a'i rinwedd? Dyma lle mae'r Duwdod a'i holl ogoniant fel ar y drugareddfa, yn gorphwys mewn boddlonrwydd. A dyma destun digonol i'r efengyl i wynebu yr holl fyd, a chyhoeddi fod Duw yn Nghrist yn cymmodi; a phwy bynag a ddel ato, trwy ffydd yn yr aberth hwn, a dderbyn ei gymmod yn rhad, mewn unrhyw barth o'r ddaear; a thrwy weinidogaeth yr Ysbryd Glân, gyda'r dystiolaeth am dano. O hwn y mae rhinwedd a nerth yn dyfod, fel y mae yn peri i'r dall weled, a'r byddar glywed, ac i'r pechadur gwrthryfelgar roddi ei arfau i lawr, a nesäu at Dduw am gymmod yn y gwaed. Ac fel hyn, y mae bywyd ac anllygredigaeth yn gwawrio, mewn anfeidrol rinwedd a gras, ar etifeddion marwolaeth (Eph. iii. 5, &c; 2 Tim. i. 10; Ioan xii. 32; 2 Cor. v. 19); ac at yr aberth y maent yn troi, ac yn yr aberth y maent yn credu, a thrwy yr aberth y maent yn ymgyfammodi gyda Duw, sef Duw yn cyhoeddi ei hunan yn Dduw iddynt hwy yn yr aberth tragywyddol, hwythau yn rhoddi eu hunain i fyny iddo yntau, trwy yr un aberth, ac yn tyngu ffyddlondeb tan ei faner hyd y diwedd, gan benderfynu dilyn yr Oen pa le bynag yr elo, gan roddi eu hunain yn gwbl i ofal ei ewyllys da, yn y byd hwn, a'r byd a ddaw; Heb. viii. 10; ix. 19, 20, &c; Esay xix. 18, 19, &c; 2 Tim. i. 12; Dad. xiv. 4.

Sylwer: mae llawer, o ddiffyg ystyriaethau cyfaddas ar y mater, yn rhedeg i gamsyniadau pell yn ddifeddwl, trwy arfer rhyw ddull, y naill ar ol y llall, mewn meddwl a geirio; megys, "dynoliaeth yn aberth;" "Duwdod yn allor;" wrth hyny, nid ydym i ystyried yr aberth yn ddwyfol, os fel dyn yn unig yr oedd, &c. (ac i ba eithafion cam syniol y rhed hyn?), ac nad oedd y natur ddynol yn gwasanaethu dim fel allor (ac i ba le eto y rhedir gyda'r golygiadau hyn?). Ystyrier gyda phwyll y manau canlynol; Ecsod xx. 23; xxvii. 1; Esay Ixi. 1; Heb. ix. 14; Mat. xxiii. 17, 19; xxvi. 39; Heb. ii. 11; Salm lxxxix. 19; Esay liii. 11; Ezec. xliii. 22, 23; Ioan xvii 19; Heb. v. 9. Gwely "Geiriadur Ysgrythyrol" ar y geiriau, Aberth, Allor, Iawn, Pridwerth, Prynedigaeth. Ond yr oedd gwirionedd y gwaith ag ydoedd i'w wneuthur ar ein rhan, gan ein Meichniydd, yr hwn oedd yn cael ei gysgodi yn yr allor a'r aberth, o'r fath, fel yr oedd yn rhaid cael person dwyfol, ac eto yn wir ddyn, i weini yr achos fel y naill a'r llall; 1 Tim. iii, 16.

Ac fel hyn, yn amser Duw, y maent yn cael eu dwyn yn weithredol i rwym y cyfammod tragywyddol, yn yr hwn eu rhoddwyd, a holl ofal eu hiachawdwriaeth, i Grist Iesu fel eu Pen-cyfammodwr, cyn bod y byd; Ephes. i. 4; Ioan xvii. 23, 24; vi. 39, 40. A thrwy rinwedd a nerth yr efengyl, a goruchwyliaethau ei Hysbryd a'i gras, y maent yn cael eu gwneuthur yn saint; a dyma ddyben mawr danfoniad Crist Iesu i'r byd; sef, gwneuthur saint o bechaduriaid, ceisio yn ol rai oedd wedi crwydro ymhell oddiwrth Dduw, a chadw rhai oedd wedi syrthio i ddyfnder colledigaeth, a'u gwneuthur yn saint; eu cymmodi trwy aberth, eu cyfiawnhau, eu bywhau, a'u sancteiddio trwy yr un aberth; gras i'w cynnorthwyo a'u llywodraethu, yr Ysbryd a'r gwirionedd i'w harwain a'u dysgu yn mhob amgylchiad a sefyllfa, i fyw fel saint yn y bywyd hwn, a gorphwys gyda'r saint mewn byd arall, a'u casglu gyda'r saint yn y farn a ddaw. Mynwch afael ar y cyfammod.'

66

Cesglwch fy saint." 1. Maent yn cael eu casglu trwy weinidogaeth yr efengyl a'i Hysbryd, i'w gwneuthur yn saint. 2. At ordinhadau yr efengyl a'i dŷ, i'w hadeiladu fel ei saint. 3. Yn angeu, i orphwys oddiwrth eu llafur. 4. Ac yn y farn, denfyn yr angelion, gyda mawr sain udgorn, a rhydd orchymyn i nefoedd a daear gyhoeddi gollyngdod i'w llwch, o ddyfnderau daear a moroedd (Mat. xxiv. 31), ac yna cyfarfyddant ynghyd, yn un dorf aneirif, a hyny gyda nerth a chyflymdra anhygoel yn awr. Er gorwedd o lwch llawer o honynt rai miloedd o flyneddau tan gloion cedyrn angeu, yn nyfnder carchardai llygredigaeth, gyda y gorchymyn nerthol hwn, neidiant mewn moment i'r làn, yn gnwd aneirif o bob lle; esgynant ac ehedant yn gyrff ysbrydol ac anllygredig, a byddant yn ddigon craff i gyfeirio yn gywir at y pwynt, trwy ganol y dymhestl a'r tân, ac yn ddigon nerthol na bydd un rhwystr na gwrthwynebrwydd a ddichon attal eu cyfeiriad; "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi;" Esay xxv. 9; 1 Thes. iv. 17.

Canfyddant eu Harglwydd o'r gogledd a'r de, ac adnabyddant ef o'r dwyrain a'r gorllewin. Bydd ei arwydd a'i bresennoldeb yn eithaf amlwg ac adnabyddus iddynt oll (Mat. xxiv. 30; 2 Thes. i. 10); o'i amgylch ac yn ei bresennoldeb ef, gwersyllant yn llu rhyfeddol yn yr awyr i weled eu Harglwydd yn agor y llyfrau, ac yn cyflawni holl oruchwyliaeth y farn ei hun. Dyna'r pryd y bydd Job heb ei ddagrau yn gweled Duw yn ei gnawd, a thyna yr amser y gwel Abraham, Moses, a'r prophwydi, yr Hwn y credasant ynddo, ac a welsant mewn llawer modd o bell, yn awr yn llanw gorseddfaine barn yn natur dyn; a thyna y pryd y bydd y rhai a'i gwelsant yma ar y ddaear mewn dirmyg, chwys, a gwaed, yn cael golwg wahanol iawn arno; a'rholl ferthyron a ddyoddefasant eu marwolaethu er ei fwyn, ynghyd â'r holl fyrddiynau a obeithiasant ynddo o oes i oes, ac a orphwysasant eu bywyd arno, ac a'i dilynasant ef yn ei achos trwy ddwr a thân, er mai tan grynu bob cam, rhag ofn rhyw bryd golli'r dydd. Ond yn awr, wele y boreu, er ofni ei weled lawer pryd, ag y bydd eu holl ofid a'u galar yn ffoi am byth mwy, a hwythau yn goddiweddyd llawenydd tragywyddol gyda'r holl

saint.

66

'Ataf fi." Dyma'r pryd ag y bydd llafur ei enaid oll gyda'u gilydd, a gogoniant ei berson yn yr amlwg yn ddilen; a'r rhai oll a roddwyd iddo

"Colquhoun ar y Cyfammod Gras:" tudal. 349.

yn y cyfammod pell, yn awr wedi eu casglu megys un corff a gwr perffaith oll ynghyd, a'r aelodau gwanaf, fel y rhai cryfaf, yn cael eu cwbl gyflawni mewn adnabyddiaeth o hono, yn llewyrch gogoniant ei bresennoldeb; Salm xvii. 15; Ephes. i. 23.

Llawer galwad a gorchymyn a roddodd am gasglu ei saint ynghyd; llawer o fyddardod a fu, a llawer o attal a rhwystro a wnaed erioed arnynt i ddyfod ato ef-eu herlid a'u dirmygu, eu casâu a'u carcharu, eu lladd a'u llosgi, &c., a'r cwbl i geisio eu hattal ato ef. Ond yn awr, bydd nefoedd a daear yn gwneuthur pob ufudd-dod i'w orchymyn gyda brys. Bydd yr holl angelion yn gweini iddo gyda'r cyflymdra mwyaf; a'r holl elfenau, dwfr, awyr, daear, a thân, gydag egni rhyfedd, ynghyd â dïaspad mawr ac ofnadwy, a gyfarchant y saint â'u ffarwel olaf, gyda llef a bloedd anamgyffredadwy i ni y pryd hwn, gan eu hwylio gyda phob cyflymdra o bedwar ewr y byd, i gyduno â lluoedd gogoneddus y saint, yr hwn a wersylla yn rhywle yn yr awyr fry, o amgylch gorseddfaine wen y Barnwr; ac yno gosodant eu banerau mewn gogoniant mawr ac ofnadwy, gweledig i'r holl fyd, hyd nes y byddo'r ddedfryd olaf yn cael ei chyhoeddi o enau'r Barnwr oddiar ei orseddfaine wen fawr, gyda'r penderfyniad tragywyddol hwnw, "Deuwch chwi fendigedigion blant fy Nhad, etifeddwch," &c., ac wrth yr annuwiol, "Ewch oddiwrthyf rai melldigedig," &c. (Mat. xxv. 34, &c.), ac yna bydd yn ysgariaeth tragywyddol rhyngddynt mwy; y saint a esgynant gyda'u Harglwydd i lawenydd, gyda bloedd a gorfoledd mawr (Salm xlv. 13, 14, 15); a'r annuwiol a ffoant o'i ŵydd byth, gydag udiadau alaethus ac ofnadwy, i garchar tywyllwch a dirmyg, anobaith a gwae; Dan. xii. 2; Ioan v. 29.

O wynfydedig saint! y rhai a ymgyfammodasant â Duw mewn aberth. O! drueni tragywyddol y rhai a wrthodasant ei heddwch mewn aberth. O! gwrandawed y ddaear ei lais, a derbynied holl wrandawyr yr efengyl ei thystiolaeth," Yn awr yw'r amser cymeradwy" (2 Cor. vi. 2); "Yr wyf yn erfyn tros Grist cymmoder chwi â Duw;" 2 Cor. v. 19, 20.

ATHRYLITH A GWEITHIAU MR. DAFYDD OWEN (DEWI WY N).

Yr ydym ni, y Cymry, pan awn i ganmawl gwrthddrych a hoffwn, yn chwannog i redeg i eithafion yn ein canmoliaeth, er na fyddwn, yn fynych, ond wedi cymeryd golwg unochrog ar yr hyn a fawrhawn. Y mae y. Seison yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrthym yn y mater yma. Cymerant hwy olwg ar awdur o bob cwr y gellir edrych arno, ac edrychant ar gynnyrch ei athrylith yn yr holl deithi a berthyn iddi. Chwiliant i'r meddwl a phriodoldeb y syniadau; profant yr iaith a'r dullwedd, ac nid ymattaliant heb gyhoeddi eu golygiadau, yn ddïofn, ar yr hyn sydd feius, mwy nag ar yr hyn fyddo yn ganmoladwy. Nid ä unrhyw awdur yn fawr o'r tu cefn i'r rhai a eisteddant yn nghader beirniadaeth; ond gorfydd i bob un ddyfod i wyneb y safon, a derbyn ei drwydded oddiyno.

Ni waeth yn y byd faint a ddigio awdur, na pha faint a ddirmygo ar y rhai a feiddiont afael yn ei gudynau, daliant ef yn ddigon dïogel nes y byddo y farn wedi pasio arno. Y mae y wasg Seisnig mor rymus, nes y gall andwyo awdur yn ei amgylchiadau, os na fydd ei gynnyrchion meddyliol yn deilwng. Bwria ef i niwl a thywyllwch am byth, os na ystyria ef yn meddu ar deithi a bâr iddo ragori, a llefaru er ei farw. Dyma yr achos fod y Seison goleuedig gymaint ymhellach ymlaen nag ydyw y Cymry. Ni chawsom ni, fel cenedl, erioed chwareu teg. Ni fynegwyd yn onest, ond yn anfynych iawn, pa fath yw ein hawdwyr drwyddynt. Ni afaelid ond mewn un linell o gymeriad awdur; ac os dygwyddai hòno fod yn taraw ein chwaeth, canmolem yr hwn fyddai yn ei meddu i'r cymylau, er iddo fod ymhell iawn yn ol mewn teithi eraill. Y mae amryw yn ein mysg ni wedi myned yn enwog fel beirdd ac awdwyr, na fuont erioed dan wellaif beirniadaeth, nac yn sefyll ger bron brawdle neb, ond rhai oedd yn ormod o gyfeillion iddynt i ddyweyd y gwir wrthynt ac am danynt: cawsant fyned allan i'r byd ar gefn canmoliaeth y rhai hyny; ac edrychasid ar un a feiddiasai eu hammheu, fel un wedi cyflawni y pechod anfaddeuadwy, neu rywbeth gwaeth. Ond y mae yr amserau hyny wedi myned heibio i raddau erbyn heddyw, er fod gormod o'u gweddillion yn llechu eto mewn conglau a chilfachau anghysbell a dinod. Rhaid i'r Cymry, bellach, gael barn deg ar bethau, ac ar awdwyr a phregethwyr, yn annibynol ar sect a chyfeillgarwch. Yr ydym yn bresennol yn gallu ymffrostio yn ein cyhoeddiadau trimisol; ac y mae golygwyr y cyfryw yn edrych dros furiau plaid ac enwad am ddefnyddiau cyfaddas at y gwahanol gangenau o lenoriaeth a drinant, fel y mae gobaith cryf y daw ein cenedl, yn fuan, yn ogyfuwch mewn cymhwysderau i roi barn ar wahanol gynnyrchion ag ydyw y rhai goleuedig ymhlith y Seison. Ni rydd y genedl mwyach i fyny i fympwy ardal neu gwmwd, i farn cyfeillion neu berthynasau, gyda golwg ar gymhwysderau beirdd a llenorion; ond dyweda yn hyf, "Nid ydym ni, weithian, yn credu oblegid dy ymadrodd di; canys ni a'i clywsom ef ein hunain."

Dichon ein bod ni, mewn rhifynau blaenorol o'r "Traethodydd," wedi mynegu pethau sydd yn groes i farn llaweroedd, ac y mynegwn eto bethau croes iawn i farn llaweroedd gyda golwg ar Ddewi Wyn; ond dymunem i bob un ddeall, yn eglur, mai cyfeirio ar ol y gwirionedd yr ydym yn ein hymgais, heb adnabod neb yn ol y cnawd, ac mai gwasanaethu y genedl sy genym mewn golwg. Gallwn sicrhau y darllenydd y cadwn o fewn terfynau yn ein cymeradwyaeth ac yn ein hanghymeradwyaeth ; ac na chynnygiwn feirniadu ar ddim nad oes gan y wlad gystal mantais a ninnau i farnu yn ei gylch. Mewn gair, ni soniwn am ddim a berthyn i Ddewi Wyn ond sydd wedi ei gyhoeddi drwy y wasg; canys nid beirniadaeth yr ystyriem sylwadau ar yr hyn na chafodd y rhai y cyfeirir y cyfryw sylwadau atynt erioed gyfleusdra i'w weled.

Yr oedd gwrthddrych yr ysgrif hon yn ddyn rhyfeddol ar amryw ystyriaethau. Meddai alluoedd meddyliol cryfion, deall cyflym, a llygad craff. Yr oedd efe wedi darllen llawer, a chofio llawer, yn enwedig o hanesyddiaeth gwladol ac eglwysig. Yr oedd ei wybodaeth yn yr iaith Gymreig yn helaeth, a'i fedr gyda'r gynghanedd Gymreig, sef plethiad y cydseiniaid, yn ddihefelydd.

Yr oedd gwroldeb ei ysbryd yn fawr, yn enwedig yn ei ddyddiau boreuaf, canys efe a anturiodd gyhoeddi pethau ynghylch anghyfreithlondeb

rhyfel, ac anghyfreithlondeb trethi a degymau, pan oedd pob un a wnelai hyny yn cael eu marcio allan fel terfysgwyr a rhai anffyddlawn i'r goron. Ymgrymu i foneddigion, a thruth ymostwng i offeiriaid, y byddai llïaws mawr o feirdd a gydoesent â Dewi Wyn; canys yr oeddynt (yr offeiriaid) yn dechreu dylanwadu arnynt ar ol yr ystormydd mawrion a gyfodwyd yn nyddiau Thomas Edwards o'r Nant, a'u cael i'w gwasanaethu hwy, yn hytrach na'u gwrthwynebu; ond yr oedd Dewi Wyn, o ran amgylchiadau ei feddwl, ac amgylchiadau ei fywioliaeth, yn ddigon annibynol i fynegu ei farn ar bob peth yn ddïarswyd. Beiddiai ef ddyweyd, yn ei "Awdl Molawd Ynys Prydain,'

"Dau Iago 'n llarpio mewn llid,
Dau Siarlas fu 'n dwys erlid,
Cymylau ar gyrau 'r gwawl

Ar guddio'r Haul tragwyddawl;"

pan yr oedd pobl y divine right, ac y maent eto, yn edrych ar Iago fel eneiniog y Duw Goruchaf, a Siarl fel merthyr sanctaidd ; ac y maent wedi cymhwyso rhanau o'r Beibl at yr amgylchiadau yr aethant drwyddynt, nad oeddynt yn gweddu i neb ond i rai o ragorolion y ddaear, ac i Iachawdwr y byd! Y mae hyn yn dangos annibyniaeth meddwl ein bardd, ac nad oedd efe yn dewis cynffonio i offeiriaid yr Eglwys Wladol, er mwyn cael bod yn fawr.

Nid ofnai ef fynegu ei syniadau, gyda golwg ar y trethi, yn ei "Awdl ar Elusengarwch," pan y dywedai,

"Symudwch y dreth sy'n eu dyfetha,

Un glo'n aberoedd, un gwlân a bara;
Ac un halen rhowch ar y cwn hela,
Neu ar deulu Endor a dail India :
Neu wnewch yn unionach na hyn yna.

Alban, Lloegr, clybwn oll, &-chwerw iawn floedd ;

Llais ein cenedloedd oll sy'n cynadla,

Treth ydd yd nid rhith o dda-dilewch
O lwg: 0 gwyliwch lewygu Gwalia!"

Tra yr oedd y beirdd oedd yn truth-ymostwng yn wael i'w huchafiaid, yn canu clodydd ein byddinoedd ar faes y gwaed, gan ddymuno llwyddiant iddynt i ladd rhagor o'r Ffrancod, meddai ein bardd y dewrder i waeddi allan,

"Llurguniwyd i'r llawr ganoedd o dduwgiaid

A swyddogion lluoedd ;

Pa anrhaith, pa artaith oedd,

Er dolur i'r ardaloedd.

Ond wedi 'r certh ryferthwy-a damwain Er lluddio Bono benaeth-hyderwn

Y dymhest ofnadwy,

Dadrwymed byd i dramwy

Cyfeillach a masnach mwy.

Yn mhyrth Rws mae drws i drysor-meddir

A moddion i'w hebgor;

I'w gario i bob goror,

I wlad Prydain hyd fain fôr.

Cynnyrchion mawrion Amerig-coedydd

Ac ydau puredig,

Rhag eisieu drwy donau dig

A gludir yn dreigledig.

Y daw rhyw Ragluniaeth

I luddio fel treio traeth

Dwr dinystr a drudaniaeth.

Diau daw dyddiau dedwyddyd-canys
Pob cenedl fydd unfryd;
Tangnef a nawdd Duw hefyd,
O begwn i begwn byd.
Wel, Amen, medd fy enaid,
Amen o'm pen heb ddim paid;
Diolch medd ysbryd Awen,
A phwy na dd'wed mwy Amen."

Yr oedd Dewi fel pe buasai efe yn aelod o "Gymdeithas Heddwch," ymhell cyn ei sylfaenu, ac wedi rhagweled y dyddiau presennol, pan y mae

« PreviousContinue »