hun, yn lle "Crist Iesu yr Arglwydd." Gall fod ynddo fwy o zel dros ffurfiau a defodau, na thros wirioneddau; mwy o ofal am ei dwmpath ei hun, nag o deimlad dros fyd colledig. Gall bregethu ei ddychymygion ei hun, dilladu meddyliau gweinion mewn geiriau tlysion a chymhariaethau difyrus, chwareu efo theganau, cellwair âg eneidiau, yn lle dangos iddynt yr iawn "difai i Dduw" fel man i gael bywyd ynddo. Pregethu dychymygion ydyw eu pregethu yn lle gwirionedd : nid yw arfer dychymygion er egluro a chymhell gwirionedd yn beth gwaharddedig. Nid yw fod dyn yn pregethu heb un gyffelybiaeth, cymhariaeth, na meddylrith, yn brawf ei fod yn pregethu efengyl, eithr, ysgatfydd, prawf ydyw o dlodi ei feddwl; arwydd ydyw o ddiffrwythder ei enaid. Y mae arfer iaith dlos, cymhariaethau gweddus, a ffugyrau heirdd, yn eithaf priodol pan yn ymwneyd â dyn fel deiliad efengyl. Ond wrth wneuthur hyn nid oes eisieu esgyn at yr haul a'r ser, ac aros yno nes colli golwg ar y blaned yr ydym yn ei phreswylio; ac nid oes raid teithio yn ol at y seremonïau a'r cysgodau, a gwneuthur darganfyddiadau o debygrwydd na ddaethant erioed o'r blaen i galon dyn. Y mae ffugyrau y Bibl yn hardd iawn, ond y mae dychymyg dyn yn eu hanafu a'u haflunieiddio. Gellir pregethu llawer iawn o wirioneddau pwysfawr, a hyny yn dra effeithiol ar deimlad a serch y gwrandawyr, ac eto heb bregethu yr efengyl. Gellir traethu yn brydferth iawn am y greadigaeth, am Adda ac Efa, am y dylif, am y patrieirch, am y gwyrthiau, ac am y farn a ddaw, ac eto heb ddal allan y gwirionedd mawr sydd yn cadw dynion i fywyd tragywyddol. Gellir gosod allan y dyledswyddau mwyaf rhagorol, yr esiamplau mwyaf perffaith, y deddfau mwyaf uniawn, y cymhelliadau mwyaf nerthol, a'r addewidion mwyaf melus, ac eto, fod prif wirionedd yr efengyl ar ol; sef, Fod Duw yn cyfiawnhau yr euog trwy ffydd yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn ddylai fod yn gyfeirnod pob mater a drinir, oblegid mai oddiwrth hwn y derbynia pob gwirionedd arall ei nerth. Gellir traethu gydag hyawdledd toddedig am ansicrwydd bywyd, gwasgfeuon marwolaeth, a dychrynfeydd y farn; am wagedd y byd, echryslonedd uffern, a gorfoledd y nef; ïe, gellir traethu am weddi, chwys, a gwaed y Gwaredwr, nes byddo cawodydd dagrau yn disgyn fel dyferion gwlith, ac eto fod yr "un peth anghenrheidiol" ar goll. Un peth ydyw siarad am grefydd, a pheth arall tra gwahanol ydyw dangos beth ydyw, a'r modd o'i chael: un peth ydyw dywedyd yn dda am Grist, a pheth arall hollol ydyw dysgu pechadur i gael gafael arno; un peth yw pregethu fod iachawdwriaeth, a pheth arall yw dysgu y ffordd i'w chael, a chyfleu cymhelliadau yr efengyl i ddeall a theimlad y pechadur er ei dywys i rodio y ffordd hòno. "Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Nid yw yn rhyfedd fod teimlad o bwys a chyfrifoldeb y gwaith yn peri i weision Crist grefu, "O frodyr, gweddiwch drosom." Un o ryfeddodau penaf ein byd ydyw fod "y tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." Y mae hyn yn gymaint rhyfeddod fel y mae yn cael ei gysylltu â gweithredoedd gwyrthiol, fod y "deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed; y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." Y mae ar y tlodion, mewn rhyw ystyr, fwy o eisieu efengyl, nag sydd ar gyfoethogion. Nid oes gan dlodion nemawr o bethau y bywyd hwn i gael difyrwch ynddynt; a gofalodd Tad y trugareddau ar iddynt gael efengyl, fel y gallont ymddifyru yn mhethau bywyd arall. Y mae cynnyg iddynt ddefodau, traddodiadau, neu unrhyw beth arall, yn lle efengyl, yn gam dirfawr â hwynt, ac yn eu hamddifadu o'u hetifeddiaeth briodol. Y mae cam-attal cyflog y tlawd yn drais mawr, ond y mae cam-attal efengyl rhagddo yn drais mwy. Bychan ydyw pob attaliad arall mewn cymhariaeth i'r attaliad hwn. Nid yw attal ymborth oddiwrth rai yn trengu gan newyn, attal cyfferïau oddiwrth rai yn marw mewn afiechyd, attal cymhorth i'r truan fyddo ar ymsoddi i'r dyfnder, attal ymwared oddiwrth breswylwyr annedd ar dân,-nid yw hyn oll ond drwg a niwed bychan mewn cymhariaeth i attal efengyl oddiwrth bechaduriaid ar ddarfod am danynt. "Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw." Gweinidogaeth dros Grist ydyw, dylid bod yn ddifrifol; gweinidogaeth at gyndynwyr ydyw, dylid bod yn daer. Crist ydyw sylwedd y weinidogaeth, a phechaduriaid ydyw gwrthddrychau y weinidogaeth. Gwaith y weinidogaeth ydyw "tystiolaethu efengyl;" tystio fod Crist yn ddigon ar gyfer y penaf o bechaduriaid, a bod anfeidrol drugaredd yn foddlawn i'w dderbyn; efengyl "gras Duw" ydyw; y mae trueni a drwg pechadur mor fawr fel nad oes dim llai na gras Duw a dâl i'w ddal ar ei gyfer. "Na ato Duw i mi ymffrostio ond yn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist." "Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Crist sydd i'w ddal allan yn y weinidogaeth, oblegid mai efe yw y "gwir Dduw a'r bywyd tragywyddol." Crist yn ei Berson a'i swyddau, yn ei aberth a'i eiriolaeth, yn ei ddarostyngiad, ei ddyoddefaint, a'i ddyrchafiad, ei awdurdod i alw, i orchymyn, ac i amddiffyn, ei uniondeb, anghyfnewidioldeb, a'i ogoniant fel barnydd,-mewn gair, Crist "gallu Duw-a doethineb Duw;" Crist wedi ei wneuthur gan Dduw yn ❝ddoethineb ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth." A bregethir yr efengyl yn y dyddiau hyn, fel yn y dyddiau gynt yn Nghymru? Ein barn ddiffuant a phenderfynol ydyw, y gwneir. Nid ydym yn dywedyd hyn oddiar antur na rhyfyg, ond oddiar ymbwyll ac ystyriaeth. Y mae genym beth mantais i ffurfio barn ar y mater; yr ydym yn ddigon hen i allu cofio gweinidogaeth y chwarter canrif diweddaf; cawsom gyfleusderau yn awr ac eilwaith i wrando ar weinidogion yr efengyl ymhlith y gwahanol enwadau; a'n barn bwyllog ac ystyriol ydyw, nad oes yr un wlad o dan haul lle y pregethir yr efengyl yn fwy eglur, cyflawn, a chyson, nag yn Nghymru; ac na bu yr un oes ar Gymru pan y gweinyddwyd efengyl ynddi yn fwy pur a digymysg nag yn yr oes hon. Cawsom hefyd gyfleusderau lled fynych i wrando ar ddynion ieuainc yn pregethu, ac y mae ein gobaith yn gadarn ac yn peri i ni lawenhau na chilia yr efengyl o'n plith fel cenedl wedi i'r dosbarth presennol o weinidogion ddisgyn i'r beddrod. Diffydd y canwyllau, ond erys yr haul. Pregethir Crist i'r Cymry mor groew ag erioed, pan y byddo pregethwyr presennol wedi tewi yn yr angeu. Y mae dosbarth o ddynion yn bod yn mhob oes sydd yn byw ar duchan, a chwyno, ac achwyn. Ni allant fod yn ddedwydd heb gael digon o drallod; truenus iawn fyddent pe na chaent rywbeth i'w feio. Ymladdant o blaid heddwch, a ffraeant â phawb o eisieu fod mwy o gariad brawdol. Cwyno yn dragywyddol mae y rhai hyn;-cwyno "fod yr achos yn isel," cwyno "nad oes dim cariad brawdol," cwyno "nad yw yr efengyl yn cael ei phregethu" fel cynt. Y maent hwy eu hunain yn iselhau yr achos trwy gwyno yn barhaus ei fod yn isel, ac heb weithio dim er ei godi; ac y mae lle i ofni mai wrth ddynion yn unig y cwynant, ac nid wrth Dduw. "Cariad ni feddwl drwg;" ac y mae cyhuddiad y dynion hyn, "nad oes dim cariad brawdol," yn arwydd eu bod hwy eu hunain yn amddifad o hono. Eu hamddifadrwydd ydyw ffynnonell y cyhuddiad. Rhaid cael llygaid cariad i ganfod cariad; nid yw casineb ond gweled ei gyffelyb yn eraill. Anefengyleiddiwch eu hysbryd eu hunain sydd yn peri iddynt haeru "nad yw yr efengyl yn cael ei phregethu." Y mae ganddynt ryw gromfach yn eu meddyliau, a thybiant nad oes dim efengyl, ond yn y cromfach hwnw. "Y rhai hyn sydd rwgnachwyr a thuchanwyr;" Judas 16. Nid yw clwcian o'r fath yn amgen na phrawf o afiachusrwydd ysbryd; ac y mae yn llawen genym gredu a thystio nad oes achos iddo. Y mae gwirionedd yr efengyl yn cael ei osod allan yn eglur, yn gyflawn, ac yn gyson yn areithfaoedd y Dywysogaeth; ac hyderwn na thry y Cymry byth yn anffyddlawn i'r ymddiriedaeth a roddwyd iddynt. HYNT I CHWILIO AM WLAD HEB DDUW. Ryw ddiwrnod gynt, mewn nwyfus hoen, Y t'wllwch tew yn oleu ddydd Ar hyn y codais yn y trwst Na bu, nad oes, o'i mewn un Duw. Duw oedd o'u mewn, pob bryn, a phant, Oedd gylch i'w dal hwynt yn ddigoll. Mi neidiais o'r uchelder mawr I iselderau daear lawr, I feddau 'r rhai yn gyntaf roed Ce's Dduw yn eistedd yn y trwch Mi aethum wedi hyny 'n is I fyn'd i'r wlad lle nad oedd Duw ; Nid oedd o fewn i'r fan un dyn A wnai i'r dyfnder ferwi'n groch, A Duw yn rhodio yn y môr Fel gwr boneddig yn ei 'stor; Ar hyd y llwybrau maith fe'm troes, Myfi wyf Dduw, mi wnes bob peth Roe fonllef groch-" Fx Nuw, Fy Now!" TAITH I'R IWERDDON. [MAE yn hysbys i lawer o'n darllenwyr fod y Parch. Henry Rees, Liverpool, a'r Parch. David Charles, B.A., Trefecca, wedi rhoddi taith fèr i'r Iwerddon, yn yr haf diweddaf, mewn ufudd-dod i gais Bwrdd Cenadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd, er mwyn gwneuthur ymchwiliad i'r priodoldeb o anfon cenadwr neu genadon o Gymru i lafurio yn mysg y Gwyddelod. Tra y mae adroddiad swyddol, helaeth a dyddorol, am yr ymweliad, wedi, ac yn, cael ei anfon i'r "Drysorfa," lle yr ymdrinir yn neillduol â'r cwestiwn cenadol, bydd yn ddifyr, yn ddïau, gan ein darllenwyr, weled nodiadau personol un o'r teithwyr. Y nodiadau canlynol a wnaed gan Mr. Rees, ac a adroddwyd ganddo, mewn rhan, yn un o gynnadleddau Cymdeithasfa Pwllheli.] CYCHWYNASOM O Liverpool, prydnawn ddydd Mercher, y 7fed o Orphenaf; ac erbyn i ni ddychwelyd yno eilwaith, boreu ddydd Iau, yr 22ain o'r un mis, yr oeddym wedi teithio dros fil o filltiroedd. Ar ein gwaith yn cyrhaedd Dublin, ymwelasom & Dr. Urwick, ac â Mr. King, Cyflymdra goleuni. 1 Annibynwyr, ac â gweinidogion o wahanol enwadau eraill hefyd, gan ba rai y cawsom yr hyfforddiadau anghenrheidiol er trefnu ein taith, a chyrhaeddyd ein hamcanion; ac yn enwedig gan Mr. Milligan, gweinidog gyda y Bedyddwyr, yr hwn a ddygai ein sylw at dref o'r enw Athlone, lle yr oedd ganddynt hwy gapel bychan wedi ei godi, ond yn awr agos yn ddifudd. Bwriadem unwaith fyned o Dublin i ogledd yr Iwerddon, yn enwedig i Armagh, er mwyn y cyfleusdra o weled gweinidogion y Presbyteriaid, pa rai, ar y pryd, oeddynt yn gynnulledig yno yn eu General Assembly, neu eu cymanfa flyneddol. Ond wedi pwyso pob ystyriaeth, newidiasom ein meddyliau, ac felly gan adael y parthau mwyaf Protestanaidd a hyfryd o'r Iwerddon, troisom ein hwynebau i'r gorllewin rhyngom a mynyddau Connemara, yn Connaught, un o'r parthau, mi dybygwn, mwyaf Pabaidd a gresynol yn y wlad. Ein hamcan oedd, ymweled â'r sefydliadau cenadol ag oedd ar hyd y cymydogaethau hyny, yn gystal a chael golwg ar gyflwr y trigolion. Teithiem y diwrnod cyntaf ar y railway trwy wlad wastad, ond lled ddiffrwyth, a llawn o fawnogydd. Ar y llaw ddê i ni, oddeutu pymtheng milltir o Dublin, gwelem Maynooth, tref fechan a gwael yr olwg arni. Ei hunig hynodrwydd, mi dybiwn, ydyw y College Pabaidd, yr hwn sydd yn grug o adeiladau eang a gwych, a chwedi ei adnewyddu a'i helaethu yn fawr ar ol y gwaddoliad diweddaf. Mae yn sefyll mewn parc cauedig o gan' erw o dir, neillduedig i'w gynnaliaeth a'i hyfrydwch. Perthyna iddo, meddir, heblaw swyddogion eraill, ddeg o athrawon, llyfrgell yn cynnwys deng mil o gyfrolau, capel, a neuadd i giniawa, a phobydd, cigydd, darllawydd, a gweision eraill i weini ar ei breswylwyr; a'r cyfan, mae yn debyg, ar draul y llywodraeth. Gorphwysasom y noson hòno yn Athlone, tref nid anmhoblog, ond tra Phabyddol. Er fod yno ymdrechiadau cenadol wedi bod, ac i fesur yn parhau, eto gallem feddwl fod Athlone yn fwy enwog fel gorsaf filwraidd nag fel gorsaf genadol; ac yr ydoedd y pryd hyn o dan warcheidwad neillduol gan ein milwyr, oblegid y cynhwrf oedd o'i mewn ynglŷn âg etholiad ei haelod seneddol. Tranoeth, aethom oddiyma trwy wlad gyffelyb hyd Galway, dinas lawer mwy a llïosocach ei phreswylwyr. Er mai Pabyddiaeth sydd yn teyrnasu yn Galway, eto y mae yno, heblaw yr Eglwys Sefydledig, gapeli gan y Wesleyaid a'r Presbyteriaid; a deallwn fod gweinidog Presbyteraidd yn arolygu 41 o ysgolion Gwyddelig yn yr ardaloedd. Yma yr oeddym yn bwriadu treulio y Sabboth; rhag, os aem ymhellach, y gorfyddai i ni ei dreulio yn nghanol mynyddau Connemara, mewn lle, o bosibl, na byddai ond Pabyddion yn unig. Pa fodd bynag, gan fod y ddinas yn derfysglyd, a'r tafarndai yn llawnion, o herwydd yr etholiad, penderfynasom ymadael oddiyma i le arall; a chychwynasom am bump o'r gloch prydnawn ddydd Sadwrn. Yr oeddym, erbyn hyn, wedi colli y railway, ac yn teithio mewn cerbyd bychan agored, a'n ffordd yn rhedeg rhwng mynyddau uchel, yr hon oedd yn llawn, am rai milltiroedd, o Wyddelod tlodion, a gorthrymedig yr olwg arnynt, yn dychwelyd adref o'r farchnad. Wedi teithio felly am rai oriau, cyrhaeddasom i le a elwir Oughterard, pedair milltir ar bymtheg o Galway. Yma y treuliasom y Sabboth cyntaf yn yr Iwerddon. Pentref yw Oughterard, nid annhebyg o ran ei sefyllfa fynyddig i Ysbytty Ifan, sir Ddinbych, lle yr oeddwn i yn dygwydd bod |