Page images
PDF
EPUB

roddi. Gallwn symud y gwrthddrychau; ond nis gellir symud amser a lle. Ië, gallwn ddifodi pob peth yn ein meddwl ond y Creawdwr ei hun. Mae yn wir nas gallwn ddifodi cymaint ag un llwchyn yn weithredol ; ond gallwn feddwl i'r holl greadigaeth beidio bod. Er hyny nis gallwn ddifodi amser a lle hyd yn nod yn y meddwl. Er pob cyfnewidiad allanol y maent yn rhwym o fod yn y meddwl nes y difodir y meddwl ei hun. Gan hyny, mae yn rhaid mai i'r meddwl y maent yn perthyn, ac mai o'r meddwl ei hun y maent yn tarddu. Pe buasent o'r byd gweledig, buasent yn darfod gyda'r byd gweledig; ond gan eu bod o'r meddwl, y maent yn oesi cyhyd a'r meddwl. Ac felly, er nad ydym ond ar gyffiniau y byd mawr sydd o'n mewn, yr ydym eisoes wedi cyfarfod â rhywbeth yn ein natur nad yw yn tarddu o'r byd bach oddiallan, ond sydd ar yr un pryd yn sylfaen i holl ymddangosiadau y byd allanol; ac y mae hyd yn nod ein synwyrau yn ein harwain at egwyddorion, y rhai nis gallant ddyfod oddiwrth argraffiadau synwyrol.

PREGETHU YR EFENGYL.

Y MAE y gair efengyl yn arwyddo, cenadwri dda. Yn yr ystyr gyfyngaf, cynnwysa hanes Iesu Grist o'i enedigaeth yn Bethlehem hyd ei esgyniad i deyrnas nef. Yn yr ystyr eangaf, cynnwysa amlygiad o ewyllys da Duw i fyd colledig. "Y mae deddf ac efengyl yn cytuno yn eu Hawdwr a'u dybenion ; ond yn gwahaniaethu, er nad yn ymrafaelio, yn eu seiliau, cynnwysiad, ac iaith. Duw yw awdwr y ddwy; a'i ogoniant ef, a dedwyddwch dynion, ydynt eu dybenion pwysig a gogoneddus. Sail deddf yw natur pethau; ond sail efengyl yw penarglwyddiaeth Duw. Cynnwysiad deddf yw gorchymynion a bygythion; ond cynnwysiad efengyl yw addewidion yn unig. Iaith deddf yw, 'Gwna hyn, a byw fyddi;' ond iaith efengyl yw, 'Y neb a gredo a fydd cadwedig.' Y mae y ddeddf yn pleidio yr efengyl, drwy fwgwth ei dirmygwr; a'r efengyl yn ogoniant i'r ddeddf, gan ei bod yn dangos cyfiawnder ag sydd yn ddiwedd perffeithiol iddi."1

Cenadwri dda ydyw yr efengyl. Dengys, heb os nac ammheuaeth, fod Iesu Grist wedi dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid. Nid dyben yr efengyl ydyw dadguddio uffern; eithr dadguddio "bywyd ac anllygredigaeth." Cadw, ac nid colli, pechadur ydyw ei hamcan. Nid efengyl ydyw damnedigaeth, ond y gosb am wrthod efengyl. Bywyd ydyw yr efengyl, a'r canlyniad o wrthod yr efengyl yw marwolaeth. Nid pregethu uffern yw pregethu efengyl; ond pregethu yr unig ffordd i ochel uffern. Gwaredigaeth, ac nid colledigaeth, ydyw ei chenadwri. At bechadur fel pechadur y mae wyneb yr efengyl; ar ol pechadur fel pechadur y mae ei llais. Y mae yn traethu yn groew fod "Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau." Nid yw yn cynnwys dim ond da, a pherthyna y da hwnw i ni. Dynion ydyw deiliaid cenadwri neu wrthddrychau cynnygion yr efengyl, ac y mae y genadwri hon, neu y cynnygion hyn, yn cynnwys y da mwyaf -da enaid, da tragywyddoldeb. Gall pob pregethwr efengyl ddywedyd, "Os nad wyf fi yn gallu pregethu yn

I" Geiriadur Jones"-erthygl Efengyl: cyf. i.

dda, yr wyf yn sicr fod genyf efengyl dda i'w phregethu." Duw yn Waredydd ar gyfer dyn yn bechadur ydyw sylwedd y weinidogaeth.

Y mae yr efengyl yn perchen cyfaddasrwydd i'r holl fyd. Cynnwysa fendithion cymhwys i'r holl genedloedd. Gall yr Ewropead harddfoesog, yr Arabiad gwyllt, y Tartariad crwydrol, y Twrc balch, yr Hottentotiad dirmygedig, a'r Iuddew rhagfarnllyd, wrando ar ei llais, a derbyn addysg a dyddanwch o'i genau. Medda ar yr un cyfaddasrwydd ar gyfer y dinesydd dysgedig a phreswylydd anwaraidd y goedwig. Gall ddiwallu holl anghenion y byd, a dileu holl ddrygau y byd. Nid dileu drygau naturiol a lleol, megys gormodedd gwres neu oerni, heintusrwydd hinsawdd, afiechyd, tlodi, &c.; ond dileu y drygau moesol y mae dynoliaeth danynt -symud ymaith y "drygioni" y mae "y byd" yn "gorwedd" ynddo. Gall osod pebyll cyfiawnder yn y manau lle nad oes yn bresennol ond "trigfanau trawsder," a thaflu llewyrch goleuni ar "dywyll-leoedd y ddaear." Rhydd ymgeledd gymhwys i holl feddyliau y byd. Gall ddarostwng yr uchaf, a dyrchafu yr isaf. Tyn y balch i lawr, a chyfyd y tlawd i fyny. Pair ddychryn i'r euog, a dyddanwch i'r edifeiriol. Lleinw y rhyfygus â braw, a nertha y gwan trwy obaith. Y mae ynddi fwyd cryf i'r athronydd, a llaeth i'r baban. Dengys i'r dyn mwyaf nad yw ond plentyn, ac arweinia y plentyn lleiaf ar y ffordd i ddyfod yn ddyn mwyaf. Mewn gair, nid oes parth o'r ddaear, na dyn ar wyneb daear, y tuallan i gylch efengyl. "Ewch i'r holl fyd," ebe Crist. Efengyl i'r byd ydyw, ac nid i wlad Judea yn unig. "Goleuni y byd" ydyw, ac nid goleuni gwlad Canaan yn unig. "Halen y ddaear" ydyw, ac nid halen Palestina yn unig. Y mae yr efengyl i gael ei phregethu i "bob creadur." Nid oes neb yn rhy aflan, rhy euog, rhy hen, nac yn rhy bell. Y mae ei llygaid ar fyd, a'i breichiau o amgylch byd.

Dad

Dengys y nodiadau a wnaed yn ddigon amlwg fod yr efengyl yn deilwng o gael ei phregethu. Y mae y byd heb Dduw, y mae ar y byd anghen am Dduw, y mae y byd yn rhy dywyll i gael Duw, ac y mae yr efengyl yn ddadguddiad i'r byd fod modd, a pha fodd, i'w gael. "Nid adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw;" ond dengys yr efengyl ef yn ei briodoliaethau naturiol a moesol. Drych ydyw i ddangos Duw i fyd tywyll, ac i'w ddangos hefyd fel Gwaredydd. guddia y golledigaeth, ond dengys Geidwad hefyd. Cyfeiria y colledig at drefn i'w achub. Nid cyfundraith o anianyddiaeth,-nid crynodeb o athroniaeth foesol,-nid traethawd ar rinweddau, ydyw; ond dangosiad o noddfa rhag lid y dialydd. Y mae yn ysigo calonau, ac yn rhwymo y rhai a ysigwyd. Dywed wrth ddyn ei fod yn rhwym gan ddiafol, ond ar yr un pryd hysbysa iddo fod Mab Duw wedi ymddangos i "ddattod gweithredoedd diafol." Effeithia ar ddyn llygredig fel "sebon y golehyddion," i'w buro a'i lanhau; ac ar ddyn trallodedig, fel dyfroedd melus i'w ddyddanu. Y mae yn sancteiddio ac yn dedwyddu y rhai sydd yn ei dderbyn i'w calonau. Dwg "fywyd ac anllygredigaeth" i oleuni, a theifl olwg ar lanau yr ochr draw. Tyn ymaith golyn angeu, a dilea arswyd marwolaeth. Gwna hyn trwy ddadguddio y Gwr sydd wedi bod yn "angeu i angeu,” "dranc i'r bedd."

ac yn

Dylid pregethu yr efengyl yn eglur, a gochelyd "tywyllu cynghor â geiriau heb wybodaeth." Dylai y pregethwr ddeall ei fater yn dda, a chwilio am "eiriau cymeradwy" i'w osod allan. Meddwl goleu a bâr leferydd

eglur. Afresymol fyddai gofyn i'r gwrandawyr, "Pa fodd nad ydych yn deall?" os na fyddys wedi cyfleu y gwirioneddau ger eu bron mewn modd dealladwy a'r un mor afresymol fyddai gofyn iddynt, "Pa fodd nad oes genych ffydd?" oddieithr fod y gwirioneddau a bregethid iddynt wedi cael eu deall ganddynt. Gellir trin pethau mawrion yn eglur heb ddisgyn i anfoesder, a chyfleu meddyliau mewn ymadroddion coethus heb fod yn dywyll a dyrus. Dylai yr iaith a arferir fod o'r fath ag i beri i'r gwrandawyr awyddu am droi i'r Beibl, ac nid i eiriadur. Y mae amrywiant yn yr efengyl, a dyledswydd pregethwr ydyw ceisio allan yr amrywiant hwnw. Nid yw dwyfolder yr Ysgrythyr i fod yn gysgod i ddïogi yr athraw. Y mae dysgawdwr medrus a chydwybodol yn ymdrechu amrywio yn ei ddull o drin yr un gwirioneddau: ac nid tramwy yn dragywyddol ar hyd yr un llwybrau, ac arfer yn wastadol yr un brawddegau ar yr un materion, fel pe byddent wedi eu hystrydebu ar y meddwl. Cynnwysa yr efengyl amrywiaeth materion, megys nodwedd a llywodraeth Duw, cyflwr a gobaith pechadur, cyfiawnder a sancteiddrwydd y gyfraith, drwg a dinystr pechod, a lliaws mawr iawn o bethau cyffelyb; a dylai pregethwr arfer pob doethineb a dawn sydd ganddo i arwain meddyliau ei wrandawyr i deimlo eu hanghen am Waredwr, ac i droi eu hwynebau at Iesu Grist-Cyfryngwr y Testament Newydd fel y cyfryw Waredwr, a'r unig un, y tâl iddynt droi ato. Wrth chwilio allan amrywiant yr efengyl, y gosodir allan yr holl efengyl, heb "attal dim o'r pethau buddiol," eithr "mynegu holl gynghor Duw." Y mae pob peth sydd yn yr efengyl i'w gyhoeddi, ac nid i'w gelu. Trwy "eglurhad y gwirionedd" y mae i weinidog yr efengyl "ganmawl ei hun wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw. Gwae yr hwn a geisia gogyddio y gwirionedd i'w wneuthur yn flasus gan chwaeth calon yn caru pechod. Gellir ceisio at hyn trwy roddi rhywbeth at air Duw a fyddo yn debyg o fod yn dderbyniol, neu dynu rhywbeth oddiwrth air Duw a fyddo yn debyg o fod yn annerbyniol; a dyma ydyw yr hyn a eilw yr apostol yn "drin gair Duw yn dwyllodrus." Y mae yn bosibl gwneuthur mwy o gam â gwirionedd trwy ei gelu, nag a ellir ei wneuthur åg ef trwy ei wadu. Y mae gwadu noeth yn peri dychryn ar y bobl, ac yn achosi iddynt gilio mewn braw, a thrwy hyny ymdaflu allan o afael y perygl; ond y mae celu yn eu cadw yn dawel a digyffro heb ddrygdyb, ac yn addfedu eu meddyliau, o radd i radd, i dderbyn y cyfeiliornadau mwyaf gwrthun a dinystriol. Y mae dystawrwydd rai gweithiau yn fwy bradwriaethol i wirionedd na lleferydd. Pan y ceuir allan y goleuni, tywyllwch a deyrnasa mewn llonyddwch; pan y cleddir gwirionedd, adgyfyd cyfeiliornad. Y mae bedd y naill yn fywyd i'r llall.

Y mae gwirioneddau yr efengyl i'w teimlo yn gystal ag i'w deall: pethau ydynt i'r galon yn gystal ag i'r pen. Duwiau meirwon sydd gan y cenedloedd, a gweithredoedd meirwon ydyw eu gweithredoedd; ond am wirioneddau yr efengyl, "bywyd ydynt," ac yn creu bywyd. Y mae Cristionogaeth yn grefydd sydd yn llawn byw (maddeuer yr ymadrodd): y mae yn perthyn iddi Dduw byw, Crist byw, Ysbryd byw, gair bywiol, bara bywiol, dyfroedd bywiol, a bywyd a bery byth. Y mae yn anhawdd trin pethau y Beibl heb gyffroad a bywiogrwydd meddwl. Anmhriodol iawn i bwysfawredd y genadwri ydyw dull oeraidd, difater, a dideimlad, yn ei gosod allan. "Paham," ebe duwinydd wrth Garrick, y chwarëydd, "paham y mae ein gwrandawyr ni mor ddigyffro yn gwrando y gwirioneddau

pwysicaf, pan y mae eich gwrandawyr chwi yn wylo yn hidl?" Atebodd Garrick, "Y rheswm ydyw hyn; yr ydych chwi yn traethu y gwirionedd pwysicaf fel pe byddai ond ffugiant, ac yr wyf finnau yn traethu ffugiant fel pe byddai wirionedd pwysicaf." Rhaid i bregethwr, nid yn unig draethu gwirioneddau pwysig, ond hefyd eu teimlo teimlo eu pwys a'u perthynas a'i wrandawyr. Dylai serch fod yn ei deimlad, tosturi ac nid digder, cariad ac nid llid, anwyldeb ac nid ffyrnigrwydd. Yr oedd yr apostol yn dywedyd yn fynych am "elynion croes Crist" dan wylo. Rhaid pregethu gwirionedd yr efengyl yn ysbryd yr efengyl. Rhaid beio pechod oddiar gariad at sancteiddrwydd, ac nid oddiar lid at y pechadur; rhaid dynoethi cyfeiliornad oddiar gariad at wirionedd, ac nid oddiar ddygasedd at gyfeiliornwyr. Yn yr agwedd hon y dylid cymhwyso y gwirionedd at gyflwr a theimlad dynion, ac nid lluchio yma a thraw fel pe byddid yn ymlid ar ol y gwynt. Yr ydys i siarad yn yr areithfa & dynion, ac nid am ddynion yn unig. Gellir pregethu am ddynion heb bregethu i ddynion; a gellir pregethu am yr efengyl heb bregethu yr efengyl ei hunan.

Ymddiriedwyd yr efengyl hon i ddynion i'w phregethu.

"Gan fod i ni y weinidogaeth hon;" "wedi gosod ynom ni air y cymmod;" rhoddwyd y trysor hwn "mewn llestri pridd;" a "rhoddodd i ni weinidogaeth y cymmod." Pregethwyr oedd Enoc, a Noa, a Moses, a Solomon, a Ioan Fedyddiwr. Pregethwr oedd Iesu Grist ei hun, ac ni "lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Cyn myned o'r byd rhoddodd Iesu Grist orchymyn i'w apostolion, "Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Trwy ffolineb pregethu-ond cofier, nid trwy bregethu ffolineb-y mae Duw yn bwriadu ennill y byd i fod yn eiddo iddo ei hun. Rhaid pregethu "edifeirwch a maddeuant pechodau," egluro y ddyledswydd, a chymhell y fraint; a rhaid gwneuthur hyny "yn ei enw ef." "Rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys:" nid "athrawon pawb." Gwae y rhai a alwyd os na phregethant, a gwae hwynt os na phregethant yr efengyl. Y mae yr efengyl yn ddadguddiad cyflawn o ewyllys Duw tuag at fyd colledig; ac y mae y dadguddiad hwn i gael ei gyhoeddi gan ddynion. Y mae y drefn hon yn un ddoeth a thirion, ac ymddengys trwyddi fod "godidowgrwydd y gallu o Dduw." Ei allu ef sydd yn cynnal y cenadau yn ngwyneb llawer iawn o wendidau, a thystia pob un iawn o honynt, "Ein digonedd ni sydd o Dduw." Ei allu ef sydd yn llwyddo y genadwri er gwaethaf llawer iawn o rwystrau. Po waelaf y byddo yr offerynau, egluraf oll yr ymddengys gallu dwyfol yn eu llwyddo. "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear," ebe Crist wrth un ar ddeg o ddynion tlodion, "Ewch, gan hyny." Peidiwch a dychrynu wrth weled mawredd a nifer y gwrthwynebiadau; peidiwch a digaloni wrth edrych ar eich bychandra a'ch gwaeledd eich hunain, edrychwch ar fawredd ac eangder fy awdurdod i; gan fod genyf bob awdurdod, " ewch, gan hyny, a dysgwch yr holl genedloedd." Y mae y cenadau eu hunain yn esiamplau eglur o ras dwyfol yn cadw pechaduriaid. "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai y penaf ydwyf fi." "Fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er esiampl i'r rhai a gredant rhagllaw ynddo ef i fywyd tragywyddol." Gall pechaduriaid eraill edrych arnynt fel profion fod yr athraw yn galw am danynt, ac yn foddlawn i'w derbyn. Fel dynion y maent yn gallu tystiolaethu efengyl gras Duw oddiar brofiad. Gallasai angel y goleuni dystio am burdeb a gogoniant nef y nef, a

thraethu yn wych am oludoedd gras; ond ni allasai ddywedyd dim am dwyll calon, ofnau ac ammheuon, nac am ymgeledd trugaredd i enaid edifeiriol. Gallasai ysbryd syrthiedig draethu am boenau y lle ofnadwy, y pryf nad yw yn marw, a'r tân nad yw yn diffodd; ond ni allasai draethu dim am lewyrch gobaith ar ei feddwl, am y gwaed sydd yn glanhau oddiwrth bob pechod, nac am yr heddwch hwnw sydd oddiwrth Dduw trwy Iesu Grist. Ond gall dynion draethu trwy brofiad am y pethau hyn. Gwyddant beth yw calon ddrwg, cydwybod euog, a mynwes lawn o ofnau;-y mae ganddynt "dystiolaeth ynddynt eu hunain" fod Iesu yn feddyg da, a bod ganddo fynwes lawn o gariad, a llaw anfeidrol fedrus i drin doluriau yr euog. Buasai ymddangosiad ysbrydion yn llanw mynwesau y gwrandawyr â braw, ac yn eu hanaddasu i "edrych a ydyw y pethau hyn felly." Ond o dan weinidogaeth dynion, gallant "brofi yr ysbrydion a ydynt o Dduw," a phrofi eu gweinidogaeth yn wyneb y "gair a'r dystiolaeth." Y mae gweinidogion yn marw fel eu gwrandawyr, ac y mae y gwirioneddau sydd yn eu cynnal hwy wrth rodio "glyn cysgod angeu" yn ddigon hefyd i gynnal eu gwrandawyr. Fel hyn y mae gweinidogaeth trwy ddynion yn fanteisiol iawn i ddynion. "Am hyny yr ydym ni yn genadau dros Grist, megys pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Čymmoder chwi â Duw."

Yr efengyl sydd i'w phregethu, ac nid dim arall. Y mae y gorchwyl yn bwysig, oblegid nid oes dim y tu yma i hyn a gyfateb i anghenion pechadur. Rhaid gosod allan ddarpariaeth rasol Duw ar gyfer colledigaeth dyn: a rhaid i'r meddwl fod ar waith wrth ei phregethu ac wrth ei gwrandaw. Meddwl Duw wedi ei ddadguddio ydyw yr efengyl, a rhaid cael meddwl i dderbyn meddwl. Gall y glust dderbyn sain geiriau; ond rhaid cael meddwl i dderbyn syniadau. Dylid dangos i ddyn fod ei gyflwr yn ddrwg, a'i galon yn ddrwg, ac mai drwg ei galon sydd yn peri drwg ei gyflwr. Y mae dyn yn syrthio ambell dro i gyflwr naturiol drwg trwy anffawd-cafodd dwyll, siom, neu golled; a phan felly, y mae yn fwy o wrthddrych i dosturio wrtho nag i feio arno. Ond y mae drwg yn ei galon fel pechadur, a dylid dywedyd hyn wrtho fel y gwelo werth efengyl sydd yn dangos ffordd i gael calon newydd. Peth ofnadwy fyddai pregethu dim ond drwg dyn, heb ddangos gras Duw yn gyferbyniol. Pregethu anobaith a damnedigaeth fyddai hyn, yn lle pregethu gobaith ac iachawdwriaeth. Y mae modd newid y galon, a thrwy hyny newid y cyflwr. Y mae Crist yr efengyl yn alluog ac ewyllysgar; nid rhaid dywedyd wrtho, "Os ewyllysi;" oblegid y mae ganddo ewyllys diffuant, a gallu hyd yr eithaf.

Y mae llawer modd i bregethu heb bregethu yr efengyl fel y dylid. Gellir pregethu yn esmwyth a llariaidd heb aflonyddu dim ar gydwybod pechadur yn ei bechod, heb ddangos iddo ddim o'i berygl, na dim o'i obaith. Y mae y dull hwn yn süo dynion i ddinystr, yn eu pregethu i ddystryw— diod gwsg ydyw, yn lle gloew-win puredig; angeu, ac nid bywyd, sydd yn y fath weinidogaeth. Y mae yn ddichonadwy i ddangos llawer o allu a medr meddyliol wrth bregethu, ac eto heb ddim o'r "eneiniad." Rhesymu yn sych, gosod yn daclus, a chasglu yn drefnus, ac eto y cwbl heb fod yn amgen na goleu lloer, heb ddim gwres haul-celfyddyd yn lle efengyl, dawn yn lle Gwaredwr, a dyn yn lle Duw. Gall dyn bregethu ei hun, ei dybiau ei hun, ei fedr ei hun, ei glod ei hun, a'i blaid ei 1853.]

G

« PreviousContinue »