Page images
PDF
EPUB

yn awr yw, yr Annibynwyr, Bedyddwyr, y Methodistiaid Wesleyaidd, a'r Methodistiaid Calfinaidd: neu gellir eu gwneyd yn dri enwad eto, er cau yr hen Bresbyteriaid Sosinaidd allan, trwy gymeryd y ddau enwad Methodistaidd yn un enwad Henaduriaethol neu Bresbyteraidd, yr hyn ydynt mewn rheswm llawer cryfach na'r Sosiniaid. Yn awr, o'n blaen y mae y cyfnod Methodistaidd yn gwawrio, a bydd y llyfrau a roddwn ger bron yn ei hynodi yn amlwg. Fel y bydd y cyfnod hwn yn dyfod ymlaen, bydd llai o gyhoeddi ffurf o weddïau, gan y bydd mwy o weddio o'r galon, ac â'r ysbryd, a mwy o ddefnyddiau canu-mwy efengylaidd-nag a fu y cyfnodau a aethant heibio. Yr ydys yn anwesu y dyb fod ein sylwadau hyn yn eithaf cywir, ac y ca ein darllenwyr brawf o'u cywirdeb yn nghorff y tair erthygl nesaf.

ATHRONIAETH KANT.

CAWSOM gyfle yn ddiweddar i ddarllen llythyr a anfonasid at un o olygwyr y "Traethodydd" yn cynnwys dymuniad am "ychwanego draethodau dyfnion ac athronyddol, cyffelyb i'r Edinburgh Review' neu y 'North British."" Y mae yn rhaid i ysgrifenydd y llythyr hwn roddi cenad i ni sylwi ei fod wedi syrthio i ychydig o gamgymeriad; oblegid nid oes un o gyhoeddiadau y Seison wedi anrhegu ei ddarllenwyr mewn cyn lleied amser â chynnifer o draethodau "dyfnion ac athronyddol" ag a ymddangosodd yn y "Traethodydd." Yn yr "Edinburgh Review" nid oes nemawr o draethodau gwir ddyfnion wedi ymddangos er ys blyneddau lawer, oddieithr chwech neu saith o eiddo Syr William Hamilton; ac yn y “North British" ni chafwyd uwchlaw tair neu bedair ysgrif o'r natur yma er y dechreu. Ar yr un pryd, y mae darlleniad y llythyr hwn, ynghyd â'r wybodaeth a gawsom yn achlysurol am ddymuniad cyffelyb o fanau eraill, wedi rhoddi i ni hyfrydwch nid bychan; yn gymaint a'i fod yn peri i ni obeithio fod llawer o fechgyn Cymru wedi eu deffro i feddwl, ac yn dechreu dyfod yn alluog i ymborthi ar fwyd cryf. Dichon fod rhyw ychydig o hunan a ffolineb yn gymysg â'r dymuniad hwn mewn rhai o honynt; ond y ffordd debycaf I'w hargyhoeddi o'u hanwybodaeth yw eu harwain at y materion mwyaf dyfnion; ac o bob athroniaeth, mae yn ddïau mai yr athroniaeth ddyfnaf -yr athroniaeth sydd wedi rhoddi gwaith i'r meddyliau mwyaf dyfnbwyll, a'r hon sydd yn sicr o effeithio yn ddyfnaf yn y pen draw ar bob gwybodaeth arall yw athroniaeth y meddwl. Fe allai hefyd nad oes neb wedi treiddio yn ddyfnach i'r athroniaeth hon-o'r hyn lleiaf, nid oes neb wedi achosi chwyldroad llwyrach yn ngolygiadau y dynion callaf mewn perthynas iddi, na'r hyglod Immanuel Kant, awdwr y "Kritik der reinen Vernunft" (Beirniadaeth y Rheswm pur). Y mae wedi ysgrifenu amryw lyfrau eraill ar wahanol faterion. Yn y "Kritik der practischen Vernunft,” a'r "Metaphysik der Sitten," yr ydym yn cael ei olygiadau ar y Gydwybod a'r Ewyllys. Ond y llyfr cyntaf a enwyd, yn yr hwn y traethir am gynneddfau gwybodaeth, a gynnwys y gyfundrefn a adnabyddir yn neillduol

wrth ei enw ac y mae hwn yn ddigon i ni am ddwy neu dair o erthyglau. Wrth ddwyn y gwaith hwn, yn hytrach na'n syniadau ein hunain, ger bron y darllenydd, yr ydym yn teimlo fod genym hawl i addaw y bydd ein herthyglau yn ddyfnion ac athronyddol: ac wrth gyfyngu ein hunain at un awdwr, yn lle rhedeg yn arwynebol dros liaws o enwau, bydd genym well mantais i wneyd cyfiawnder â'r pwnc. Fel y caffo y darllenydd gyfle, nid yn unig i foddio ei chwilfrydedd, ond i ffurfio barn deg a chywir, rhoddir cryn nifer o ddyfyniadau yn ngeiriau Kant ei hun. Byddant yn werth llafurio i'w deall; ac i'r sawl a fyddo yn meddu ar ddigon o benderfyniad meddwl, ni fyddant yn annealladwy. Ac yma y mae yn iawn i ni roddi gair o ocheliad o flaen y darllenydd. Os nad yw yn dewis darllen dim ond sydd hawdd i'w ddeall, nid yw yn un dyben iddo son am athroniaeth y meddwl. Mae yn wir am lawer sydd wedi cymeryd arnynt ysgrifenu cyfrolau ar hyn, nad ydynt yn gofyn llawer o weithrediad meddwl yn y darllenydd, mwy nag yn yr ysgrifenydd. Ni ddylid eu dïystyru; oblegid y mae y gorchwyl o boblogeiddio gwybodaeth yn fuddiol i blant. Er hyny, fel rheol gyffredin, os na fydd awdwr yn galw holl feddwl y darllenydd i lawn weithrediad, gallwn benderfynu ei fod yn ysgrifenu yn arwynebol. Ond un lled wahanol i hyn yw awdwr y "Kritik der reinen Vernunft."

Cyn ymddangosiad y gwaith hwn, yr oedd athroniaeth y meddwl wedi ei chladdu mewn tryblith o ansicrwydd, ac yn ei chwymp wedi tynu duwinyddiaeth i lawr i'w chanlyn. I gael gafael yn yr achos o'r dirywiad hwn, mae yn rhaid i ni fyned yn ol at y llygredigaeth a'r annuwiaeth a ddygwyd i mewn i'r deyrnas hon gydag adferiad Siarl yr Ail. Priodolir ef yn fynych i Locke; ond y mae hyn yn anghyfiawnder dirfawr, oblegid yr oedd ei athroniaeth ef yn fwy ysbrydol i raddau anghymharol na'r eiddo rhai o'i ragflaenwyr. Gwnaeth ef ei oreu i godi argae yn erbyn y ffrwd; ond nid oedd ganddo safle digon cadarn i sefyll arno, gan ei fod yn gwadu meddylddrychau cynhenid, ac yn priodoli y cwbl i'r synwyrau corfforol. Mae yn wir ei fod weithiau yn son am adfyfyrdod fel ffynnonell meddylddrychau; ond os na fydd gan ddyn ddim i fyfyrio arno ond sydd yn dyfod i mewn trwy y synwyrau, o ba le y dichon iddo gael gwybodaeth am ddim heblaw am briodoliaethau ymddangosiadol y byd gweledig? Os yw meddwl dyn fel papyr gwyn, yn derbyn ei holl feddylddrychau trwy y synwyrau, yna er iddo eu cymharu trwy adfyfyrdod, a'u gwahanu, a'u rhanu fel y myno, y maent o hyd yn rhwym o aros yn argraffiadau corfforol, ac nid yw gwybodaeth dyn o ran natur yn ddim uwch na gwybodaeth yr anifel. Pe buasai Locke yn cymeryd yr un tir a Cudworth, buasai yn alluog i droi yn ol annuwiaeth Hobbes a'i ganlynwyr; ond gan iddo roddi i fyny y brif amddiffynfa, er cymaint ei ddawn, ac er cystal ei ddyben, bu ei ymgais yn aflwyddiannus. Yn ganlynol, daeth Hume ymlaen i brofi nas gallai dyn fod yn sicr am ddim ond yr hyn a welai â'i lygaid ac a deimlai â'i ddwylaw; ac mai prin y gallai fod yn sicr o hyny mewn gwirionedd: ac heb ryw athroniaeth uwch na'r eiddo Locke, nid oedd modd ei wrthsefyll. Yn y cyfyngder hwn, cymerodd Reid afael yn yr egwyddor o "synwyr cyffredin :" ond gyda phob parch i Reid, ac i'w amddiffynwr, Syr William Hamilton, nis gallwn lai na meddwl fod yr egwyddor hon ei hun yn lled ansicr ac anmhenderfynol i feddwl adeiladu arni; a buasai yn anhawdd i'r meddwl dynol bwyso ar unrhyw egwyddor

o'r fath yma, heb i ryw athronydd dreiddio yn ddyfnach na Reid, i ddangos pa beth sydd yn ei chyfansoddi, pa gymaint o bwysau y mae yn alluog i'w gynnal, a phaham y dylid cymeryd rhyw wirioneddau mwy nag eraill yn sylfaen i'r holl adeilad. Dyma y gorchwyl yr amcanwyd ei gyflawni gan Kant. Cymered y darllenydd un dyfyniad byr ar y mater, o'i ragymadrodd i'r argraffiad cyntaf o'r "Kritik der reinen Vernunft."

"Gyda golwg ar sicrwydd, yr wyf wedi gosod i lawr y penderfyniad, nad oes cania tad mewn unrhyw fodd, yn y fath yma o ymchwiliadau, i dybied, a bod y cwbl sydd ynddynt yn ymddangos yn debyg i dybiaeth yn eiddo gwaharddedig, yr hwn nis gellir ei gynnyg ar werth am y pris iselaf; ond mor fuan ag y ceir ef allan, mae yn rhaid ei attafaelu."

Er mwyn gweled ei amcan yn eglurach eto, darllener ymhellach un dyfyniad o'i ragymadrodd i'r ailargraffiad.

"Hyd yn hyn cymerwyd yn ganiataol fod yn rhaid i'n holl wybyddiaeth reoli ei hun yn ol y gwrthddrychau: er hyny y mae pob ymgais i wneyd allan rywbeth mewn perthynas iddynt a priori trwy ein hamgyffredion, trwy yr hyn y gallesid eangu ein gwybyddiaeth, wedi bod dan y dybiaeth hon yn ddieffaith. Profer gan hyny am unwaith a lwyddir ddim yn well yn ymchwiliadau uchanianaeth, ar y dybiaeth fod yn rhaid i'r gwrthddrychau reoli eu hunain yn ol ein gwybyddiaeth, yr hyn sydd eisoes yn cydfyned yn well â'r dichoniaeth dymunedig o wybyddiaeth o honynt a priori, yr hwn sydd i benderfynu rhywbeth am wrthddrychau cyn eu rhoddi o'n blaen. Yr amgylchiadau yn yr achos hwn ydynt yn hollol yr un a chyda meddyliau cyntaf Copernicus, yr hwn, gan nad oedd yn llwyddo i esbonio symudiadau y cyrff nefol, wrth dybied fod yr holl ffurfafen yn troi oddiamgylch yr edrychydd, a chwiliodd pa un a atebai yn well os gadawai yr edrychydd ei hun i droi, a'r ser yn y gwrthwyneb i aros. Yn awr, mewn uchanianaeth, gallwn gynnyg yr un ffordd gyda golwg ar ganfyddiad gwrthddrychau. Os rhaid i'r canfyddiad reoli ei hun yn ol ansawdd y gwrthddrychau, nid wyf yn gweled pa fodd y gall neb wybod dim mewn perthynas iddo a priori; ond Os yw y gwrthddrych yn rheoli ei hun (fel gwrthddrych y synwyr) yn ol ansawdd ein gallu o ganfyddiad, gallaf yn hawdd amgyffred fod hyn yn ddichonadwy."

Yn awr, awn rhagom at yr arweiniad i mewn, yr hwn sydd yn dechreu gyda'r gwahanaeth rhwng gwybodaeth bur a gwybodaeth brofiadol. Wrth wybodaeth bur y meddylir y wybodaeth sydd yn tarddu o'r meddwl ei hun; wrth wybodaeth brofiadol y meddylir yr hyn sydd yn dyfod i ni trwy brofiad; ac o ganlyniad y mae y gwahaniaethad hwn yn ymddibynu ar yr olwg a gymerir ar ddeilliad meddylddrychau. Dyma wreiddyn y ddadl yn mhob oes er dyddiau Plato. O'n rhan ni, yn hytrach na phriodoli y cwbl i'r argraffiadau sydd yn dyfod trwy y synwyrau corfforol, byddai yn haws genym gymeryd cyfundraith Plato yn ei chrynswth, a golygu ein holl wybodaeth yn adgofiad o'r hyn oedd yn y meddwl mewn rhyw gyflwr blaenorol. Nid yw hyn mor afresymol ag y mae y rhan fwyaf o'r beirniaid yn ceisio ei ddesgrifio. I'r gwrthwyneb, er fod Plato yn myned yn rhy bell wrth gynnyg esbonio y ffaith, eto y mae cnewyllyn y ffaith ei hun yn aros yn anwadadwy, sef mai yn nghyfansoddiad gwreiddiol y meddwl y mae i ni edrych am elfenau sylfaenol ein meddylddrychau. Gan fod y blaid wrthwynebol, megys Locke, Hartley, Hume, Brown, &c., mor dueddol i ddarostwng y meddwl, a'i wneyd yn gyffelyb i'r corff, mae yn rhyfedd na chofient fod y prif achos sydd yn troi yr ymborth yn rhanau o gorff byw, nid yn yr ymborth, ond yn nghyfansoddiad blaenorol y corff ei hun. Er fod y defnydd yn dyfod iddo oddiallan, eto oddifewn y mae yr achos sydd yn gwneuthur y defnydd hwnw yr hyn ydyw fel rhan o'r corff. Ond diau y dewisai ein darllenwyr gael geiriau Kant ei hun ar y mater hwn. Fel y canlyn y mae efe yn dechreu ei Arweiniad i mewn :

"Fod ein holl wybyddiaeth yn dechreu gyda phrofiad, sydd yn ddiammheuol; oblegid pa fodd y gallai y gynneddf o wybyddiaeth gael ei deffro i ymarferiad, oni b'ai fod hyn yn dygwydd trwy wrthddrychau y rhai a effeithiant ar ein synwyrau, ac mewn rhan o honynt eu hunain a gynnyrchant arddangosiadau, ac mewn rhan a ddygant ein gallu deallol i weithrediad, i'w cymharu, i'w cysylltu, neu i'w gwahanu, ac fel hyn i weithio defnydd annelwig y teimladau i wybyddiaeth o wrthddrychau, yr hyn a elwir profiad. Gyda golwg ar amser, gan hyny, nid oes un wybyddiaeth ynom ni yn rhagflaenu profiad, ac y mae y cwbl yn dechreu gyda phrofiad.

Ond er fod ein holl wybyddiaeth yn dechreu gyda phrofiad, nid yw y cwbl oblegid hyny yn tarddu o brofiad. Oblegid gall yn hawdd ddygwydd fod hyd yn nod ein gwybyddiaeth brofiadol yn cael ei gyfansoddi o'r hyn a dderbynir trwy y synwyrau, ac o'r hyn y mae ein gallu gwybyddol ei hun (trwy gymhelliad yr argraffiadau synwyrol) yn ei gynnyrchu o hono ei hun, yr hwn ychwanegiad nis gallwn ei wahaniaethu oddiwrth y defnydd gwreiddiol mewn dadl, nes y byddo hir ymarferiad wedi tynu ein sylw ato, a'n gwneyd yn fedrus i'w wahaniaethu.

Y mae gan hyny, o leiaf, yn un o'r holiadau sydd o hyd yn gofyn ymchwiliad manylach, ac nas gellir ar yr olwg gyntaf yn ebrwydd ei ateb,-a oes y cyfryw wybyddiaeth yn annibynol ar brofiad, ac ar argraffiadau y synwyrau. Y cyfryw wybyddiaethau yr ydym yn eu galw a priori, i'w gwahaniaethu oddiwrth y rhai profiadol, (empirischen, Saes. empirical) y rhai sydd yn tarddu a posteriori, hyny yw, o brofiad."—Kritik der reinen Vernunft: Einleitung, § 1.

Yn yr ail adran o'r Arweiniad i mewn, dangosir ein bod yn meddu rhyw wybodaeth a priori, sef gwybodaeth anymddibynol ar y synwyrau corfforol. Nodau y wybodaeth hon yw anghenrheidrwydd a chyffredinolrwydd. Os cyfarfyddir â gwirioneddau sydd yn ymddangos yn anghenrheidiol anhebgorol, ac yn gyffredinol ddieithrad, mae yn hawdd gweled fod yma rywbeth nad yw yn cael ei ddysgu gan brofiad y synwyrau corfforol. Y cwbl a ddichon profiad ei ddangos yw fod y peth yn wirionedd hyd y mae ein sylw ni wedi cyrhaedd; ond nid yw mewn un modd yn profi ei fod yn wirionedd anghenrheidiol a chyffredinol. O ba le y daeth yr anghenrheidrwydd hwn? Mae yn amlwg nad yw wedi dyfod oddiwrth brofiad; ac y mae yn rhaid gan hyny ei fod wedi tarddu o gyfansoddiad y meddwl ei hun. Y mae yma wahaniaeth, nid yn unig mewn graddau, ond mewn natur; oblegid yn y naill amgylchiad yr ydym yn teimlo y gallasai fod fel arall, ond yn y llall yr ydym yn teimlo mai felly y mae yn rhaid iddi fod. Ac nid hyny yn unig, ond y mae gwirioneddau anghenrheidiol yn profi eu hunain ar unwaith, yn eu goleuni eu hunain, fel nad yw ychwaneg o brofiad yn ychwanegu dim at yr anghenrheidrwydd. Yn awr, i ddangos fod y fath wirioneddau anghenrheidiol a priori yn bod, cymerer y dyfyniad a ganlyn:

"Gellir dangos yn hawdd fod y cyfryw farnau anghenrheidiol, a chyffredinol yn yr ystyr fanylaf, ac o ganlyniad pur a priori, mewn gwybyddiaeth ddynol. Os dymunwn anghraifft mewn gwyddiant, nid rhaid i ni ond edrych ar wirioneddau sylfaenol rhifyddiaeth. Os dymunwn anghraifft oddiwrth arferiad mwyaf cyffredin y deall, gwasanaetha y gosodiad, "fod i bob cyfnewidiad ryw achos." Ac yn yr amgylchiad olaf, mae yr amgyffrediad o achos yn cynnwys mor amlwg yr amgyffrediad o'r anghenrheidrwydd o gysylltiad ag effaith, ac o hollol gyffredinolrwydd y rheol, fel y collid ef yn llwyr pe dewisem gyda Hume ei briodoli i gydfynediad mynych yr hyn sydd yn dy gwydd a'r hyn sydd yn ei ragflaenu, a'r arferiad yn tarddu oddiwrth hyny (o ganlyniad anghenrheidrwydd tufewnol yn unig) o gysylltu arddangosiadau. Ac heb eisieu y cyfryw anghreifftiau i brofi gwirionedd egwyddorion pur a priori yn ein gwybyddiaeth, gellid dangos eu bod yn anhebgorol er gwneuthur profiad ei hun yn ddichonadwy, ac o ganlyniad yn anghenrheidiol a priori. Oblegid o ba le y gallai profiad gael ei sicrwydd, pe buasai yr holl reolau yn ol pa rai y mae yn gweithredu yn tarddu eu hunain o brofiad? Pe felly, prin y gallesid edrych arnynt yn gedyrn fel egwyddorion cyntefig."-Ibid. § 2.

Ar ol dangos mewn adran arall fod athroniaeth yn sefyll mewn anghen am ryw wyddiant i benderfynu posiblrwydd, egwyddorion, a chylch yr holl wybyddiaethau a priori, y mae Kant yn myned ymlaen i egluro y gwahaniaeth rhwng barnau dosranol a chyfosodiadol (analytical and synthetical). Wrth ffurfio barn, yr ydym yn cymeryd rhyw wrthddrych fel sylfon (subject) mewn cysylltiad â rhyw briodoledd fel mynegiad (predicate). Mae y berthynas hon rhwng y sylfon a'r mynegiad yn ddichonadwy mewn dwy ffordd: un ai y mae y mynegiad B yn perthyn i'r sylfon A fel rhyw beth a gynnwysir (mewn dult cuddiedig) yn yr amgyffrediad A; neu ynte y mae y mynegiad B yn gorwedd yn hollol y tuallan i'r sylfon A, er ei fod yn sefyll mewn cysylltiad âg ef. Yn yr amgylchiad cyntaf yr ydym yn galw y farn yn ddosranol, yn yr ail yn gyfosodiadol. Er anghraifft, os dywedir, "Y mae pob corff yn meddu hyd a lled,” dyma farn ddosranol; oblegid nid oes raid i ni fyned allan o'r amgyffrediad am gorff i gael gafael ar hyd a lled yn gysylltiedig âg ef; ond y cwbl sydd eisieu yw dosranu yr amgyffrediad i gael y mynegiad. I'r gwrthwyneb, os dywedir, "Y mae pob corff' yn meddu pwysau;" y mae y mynegiad hwn yn rhywbeth gwahanol i'r hyn a gynnwysir yn yr amgyffrediad am gorff. Gan hyny, y mae ychwanegiad y cyfryw fynegiad yn rhoddi barn gyfosodiadol. Mae yn amlwg mai barnau cyfosodiadol sydd yn eangu ein gwybodaeth, a dyma y barnau sydd yn tarddu o brofiad. Ond a ydyw ein holl farnau cyfosodiadol yn tarddu o brofiad? Nae ydynt yn ddiau. Cymerwch y gosodiad, "Y mae achos i bob dygwyddiad;" y mae hwn yn cynnwys barn gyfosodiadol; oblegid y mae y meddylddrych am achos yn ychwanegiad at y meddylddrych am ddygwyddiad. Ond nis gall darddu o brofiad; oblegid y mae yn cario gydag ef anghenrheidrwydd, yr hwn nis gallai profiad byth ei roddi; ac o ganlyniad y mae yn farn gyfosodiadol a priori. Ar y cyffelyb farnau y mae rhifyddiaeth a mesuryddiaeth, ac athroniaeth naturiol hefyd, i raddau, yn sylfaenedig.

Ond heb aros yn hwy gyda'r arweiniad i mewn, yr ydym yn brysio at gorff y llyfr, yr hwn sydd yn dechreu gyda "Theimladaeth Uchanianol." Gweithrediad y meddwl ar wrthddrychau, trwy yr hyn y mae y meddwl yn dyfod yn wybyddus o honynt, a elwir canfyddiad (Anschauung). Y gallu synwyrol sydd yn ein cynnysgaethu â chanfyddiadau, ond meddylir hwynt gan y deall, a thrwy hyn y mae amgyffrediadau yn tarddu. Y canfyddiad hwnw sydd yn cyfeirio at wrthddrych trwy gyfrwng argraffiad synwyrol a elwir yn ganfyddiad profiadol. Y gwrthddrych anmhenderfynol o ganfyddiad profiadol a elwir yn ymddangosiad. Dosbarthir ymddangosiadau yn ddwy ran, sef mater a ffurf. Dyma wahaniaeth sydd yn teilyngu sylw neillduol, oblegid y mae yn dwyn perthynas, nid yn unig âg athroniaeth y meddwl, ond â phob gwybodaeth arall. Beth yw yr achos o'r holl amrywiaethau sydd o flaen ein llygaid mewn blodau a choedydd a chreaduriaid? Nid gwahaniaeth yn y defnydd yn gymaint ag yn y ffurf. Mewn fferylliaeth, dangosir fod y sylweddau mwyaf uchelbris a'r rhai mwyaf diwerth yr un mewn mater, ond yn wahanol mewn ffurf. Gwreiddyn llawer cyfeiliornad mewn duwinyddiaeth yw talu rhy fach o sylw i ffurf, yn yr ystyr yr arferir y gair yn y lle hwn. Felly mewn perthynas i athroniaeth y meddwl, buasai yn haws penderfynu y ddadl am ddeilliad meddylddrychau pe cadwesid y gwahaniaeth hwn mewn golwg. Geiriau Kant ar y pwnc hwn sydd fel y canlyn:

« PreviousContinue »