Page images
PDF
EPUB

Ailargraffiad, fe allai, o rhif. 1, 1707, o dan enwad arall.

4. "Cyfeillach beunyddiol â Duw yn Gynddelw neu Ensampl yn muchedd Sanctaidd Armele Nicholas, &c. O gyfieithiad Iago ab Dewi. Mwythig." 8plyg."

5. "Pregeth ynghylch yr hen Ffydd, &c. Caerlleon." Splyg.

6. "Gemmau Doethineb, neu Ymadroddion doethion, wedi eu chwilio a'u trefnu mewn ffordd (nid anghynefin yn hollawl) i ddyscu Gwybodaeth i Ddynion. Yn gantoedd ac yn ddegau, &c. Gan Rees Prydderch, gweinidog yr efengyl yn sir Gaerfyrddin. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thos. Durston tros D. Lewys a Chist. Samuel, yn y flwyddyn 1714."

Un o'r enwogion a ddystawyd yn amser Siarl II. oedd Rees Prydderch. Wedi hyny, bu yn cadw ysgol, neu athrofa, mewn lle a elwir Ystrad-Walter, ger Llanymddyfri, lle y cafodd llawer o ddynion a godasant yn enwog eu dysgeidiaeth. Gorphenodd ei yrfa yn 1698. Ar ol ei farwolaeth y cyhoeddwyd ei waith gan y ddau ŵr a enwir uchod; un o ba rai, sef Christmas Samuel, oedd weinidog i'r Ymneilldüwyr. Y mae "Y Llythyr at y Darllenydd," gan "William Evans," yr hwn oedd yn athraw athrofa Caerfyrddin. Y mae ei bennodau wedi eu dosbarthu yn ddeg adnod, a phob deg pennod yn gwneyd yr hyn y mae ef yn ei alw yn "Cant. 1," a "Cant. 2," &c., hyd "Cant. 7." Gan fod y llyfr hynod hwn mor ddyeithr, ni a roddwn esiampl o hono:—

"Cant. 7, deg. 7."

"1. Fe addawodd Duw gadw ei Bobl, ac efe a geidw ei Addewid.

"2. Nid oes gymmaint o wahaniaeth rhwng y mwyaf a'r lleiaf o'r rhai Duwiol; ac y sydd rhwng y lleiaf o'r Duwiol, a'r mwyaf moesol o'r Annuwiol.

3. Mae rhai yn gweled Bai lle nad yw ac heb weled bai lle mae llawer.

"4. Os mynnwn fod fel y Sainct yn y Nef mewn Gogoniant: y mae yn rhaid i ni fôd fel hwynteu, mewn ufydd-dod ar y Ddaiar.

"5. Gwell yw troi oddiwrth Eulynod at Dduw; na throi oddiwrth Dduw at Eulynod. "6 Nid digon i ni ymgadw rhag drygioni y Rhith; ond y mae yn rhaid i ni ymgadw rhag Rhith y drygioni.

"7. Nid yw pôb Dŷn di ail anedig yn anhywaith; ond y mae pôb Dŷn anhywaith yn ddi ail anedig.

"8. Mae Gweithredoedd y cyfiawn yn gymmeradwy yn ei ôl ef; ac nid efe ei hun, yn ôl ei weithredoedd.

"9. Nid a fu sy'n parhau heddy, Ac nid y sydd dros byth a bery.

"10. Fe a ŵyr y Credadyn pe pechei efe, na chondemnid ef am ei Bechod: ond y mae efe yn ofni pechu, fel pe condemnid ef am ei Bechod."

Yna y canlyn "Holiadau ynghylch amryw bethau; buddiol i'r Oes ryfygus yma eu hystyried, a meddwl yn ddifrifol am y Cyfrif a ofyn Duw am danynt, ac am bob gweithred yn ol hyn." Ni a roddwn un esiampl:—

"Holiadau vi."

"Ynghylch dodi Plant i Weddio cyn Bwyd, ac wedi Bwyd, yn rhithiol mewn Tafod leferydd i'r Teulu.

“1. Onid yw y rhai a ddodant eu Plant i ddywedyd Gweddi, cyn, ac ar ôl Bwyd, lle y bo rhai mwy eu hoedran, a'u gwybodaeth na hwynt; yn euog o Offrwm y Cloff a'r Dall i'r Arglwydd; yr hyn oedd Duw yn argoeddi, ac yn ei ffieiddio yn ei Bobl gynt. Mal. 1. 8.

"2. Onid yw gwaith pen Teuluoedd yn dodi plant ifeinge o'r Ysgol i weddio, cyn, ac wedi Bwyd, yn Saesonaeg, Ac yn ymfoddloni ar eu gwaith yn gwneuthur hynny, yn arogli yn giffo Opus operatum y Pabistiaid, yr hyn sydd dyb afiachus.

"3. Onid yw dodi Plant i ddywedyd Grâs, [fel y dwedant] cyn, ac ar ôl Bwyd yn Saisoneg ymysc Cymru, yn ddiadeiladaeth; ac am hynny 'n groes i'r 1 Cor. 14.

"4. Onid yw y rhai a wnant fel hyn yn gwatwor Duw, ac yn cymeryd ei Enw ef yn ofer; pan y maent yn dodi y rhai lleiaf eu deall i wasanaethu Duw, yn y môdd nad

ydynt hwy yn ei ddeall; ac yn ymfoddloni ar hynny; pa fodd yr amddiffynir hyn rhag bod yn ddiystyrwch, ac yn ddirmyg ar Dduw; yn ôl Mal. 1.

"4. Onid yw y rhai a wnant hyn, yn Rhagrithiol ac yn dwyllodrus, ac felly 'n mynd tan y wae y mae Duw yn gyhoeddi; yn erbyn y cyfryw rai; Jer. 48. 10. Ac yn gwneuthur eu hunain, ac yn dodi eraill y wneuthur, yn groes i'r hyn oedd yr Apostol yn ei ddywedyd, a wnai efe; 1 Cor. 14. 19.

"6. Onid yw y rhai a wnant hyn a hwy yn Gymru heb ddeall Saisneg; wrth uno felly: Yn addoli yr hyn ni wyddant fel y Samariaid cyfeiliornus, ac megis rhai yn llefaru wrth yr Awyr; yr hyn ni wnai 'r Apostol Sancteidd, 1 Cor. 14. 9.

"7. Onid yw y rhai a wnant fel hyn yn ymfodloni ar ffurf Duwioldeb; ac yn gwadu ei grym hi; 2 Tim. 3.

"8. A ydyw 'n gweddu 'n dda, i rai oedranus, a deallus, a Phenteyluoedd, ddodi eu Dyledswyddau ar ysewyddau plantos yn eu Teyluoedd: megis Gweddio cyn, ac yn ol Bwyd, ond y rhai mwyaf eu gwybodaeth mewn duwioldeb, a ddylent flacnori ymhob gweithred Ddyledswydd, ac os plant a'u blaenora hwynt; onid yw hynny yn wradwydd iddynt; Psal. 8. 2.

9. Onid yw 'r cyfryw rai yn dewis y rhai gwannaf anneallusaf, fel y dewisodd Jeroboam y rhai gwaelaf, i wasanaethu 'r Arglwydd.

"Gwrth. Onid yw Duw 'n ein perffeithio ei Nerth, o Eneuau plant bychain; Psal. 8.2. "Atteb. Ydyw i wradwyddo ei Elynion beth gwradwyddus i henafgwyr a rhai Dyscedig yw fôd plant yn blaenori arnynt hwy, mewn Crefydd.

"Gwrth. Y mae 'r Arglwydd yn addo tywallt ei Yspryd ar Blant.

“Atteb. Felly y mae cfe, fel y cyflawnont eu Dyledswyddau eu hun, yn eu lle, ac nid yn amgenach.

"Gwrth. Ni waharddodd Crist i blant Weddio Hosana.

"Atteb. Na ddo, fel y Gogoneddyd Enw Duw, trwy wradwyddo ei Elynion y Phariseaid cenfigenus."

Y mae yr "Holiadau" eraill yr un mor hynod, ac yn cael eu trin mor gywrain; sef "am Ddawnsio Cymmyscedig" "Am ddodi Ceiliogeu i ymladd"-Am blant yn priodi heb gennad eu rhieni"-"Am Occreth"-"Am roi Plant iw Magu i eraill"—"Ynghylch codi Bediw, ar Farwolaeth Deiliaid" "Ynghylch Canueu masweddol a Llygredig"-" Ynghylch Swyno" "Ynghylch Dewinio, a Thesnio wrth y Ser, ac Amser y Genedigaeth" -"Ynghylch yfed Iechyd"-" Ynghylch Gwallt Llaes." Yna terfyna gyda dernyn rhagorol o'r enw "Dadleuon pechadurieid wedi eu Gostegu, trwy Fuddugoliaeth y Gwirionedd mewn ymddiddan rhwng Gweinidog âg amryw Bechadurieid." Yr ydym yn barnu y byddai adgyhoeddi y llyfr bychan hwn-gyda chofiant bywyd yr awdwr, yn wasanaeth gwerthfawr. Er fod rhai pethau yn anmherthynasol i'r oes hon, y mae y rhan fwyaf o lawer mor briodol yn awr ag oeddynt ddau gant o flyneddau a aethant

heibio.

7 "Dirgelwch i rai i'w Ddeall Ac i eraill i'w Watwar Sef Tri aderyn yn ymddiddan yr Eryr a'r Golomen, a'r Gigfran. Neu Arwydd i Annerch y Cymru. Yn y flwyddyn 1653, Cyn dyfod 666. Argraffwyd gan J. S. tros Nicholas Thomas, a Lewis Thomas, 1714." 32plyg.

Y mae rhaglythyr iddo gan "L. T."-Lewis Thomas-" Mehefin 22, 1714 Om stafell yn y Mwythig dan lun y delyn Gymreig." Dywedir, mewn hysbysiad yn ei ddiwedd, "Y llyfr hwn a werthir mewn Amryw fanau yn Ghymru yn Enwedig gan Lewis Thomas, o Blwy Llangrannog a Nicholas Thomas o Blwy Kennaerth. Pris 9 Ceiniog." Mae yn debyg mai egwyddorwas yn yr Amwythig oedd N. Thomas y pryd hyn. Yn mhen ychydig flyneddau eto, ceir ef yn argraffu ar ei draul ei hun, wedi sefydlu yr ail argraffwasg yn Nghymru.

8"Rhybudd Teg Mewn Pryd da. Sef Llyfr bychan yn dair rhan; Rhan i. Yn cynnwys Stori yn dangos mor wag yw 'r Byd i hydery arny. Rhan ii. Yn

cynnwys Deunydd a chymmwysiad yr ystori. Rhan iii. Yn cynnwys cyfarwyddiadeu i gadw cydwybod lân. Elas a gafas rybudd, ac ni las a'i Cymmerodd. Argraffwyd yn y Mwythig gan Tho: Durston. 1714."

9. "Cyfoeth i'r Cymru. Neu Drysor y Ffyddloniaid, wedi ei Egoryd Mewn amryw o Bregethau; Er Mwyn gwneuthur gwerthfawrogrwydd hawddgarwch a godidawgrwydd Christ yn fwy adnabyddus dymunol a Chymeradwy. A'r Nefoedd yn agored, a'r uniawn Ffordd iddi, Mewn dwy bregeth, Gyda Galwad i bechaduriaid gan Grist ei hun. A Rhybydd o'r nefoedd i wilio a gweddio, ac ymbaratoi erbyn Marwolaeth a'r farn. Gan William Dyer. Argraffwyd yn 1714." "Hwn yw 'r ail Argraffiad or llyfr hwn yn Gymrag. Wedi ei brintio yn llawer mwy cywir a chyflawn na 'r Argraffiad cyntaf." Cefn y Gwynebddalen.

Gwel rhif. 4, 1688.

10 "Caniadau Nefol; Sef Agoriad ar y Bennod gyntaf o Ganiadau Solomon, ar fesur Cerdd, Ynghyd. A rhai Hymnau Ysprydol. O Waith Davydd Lewys, Gweinidog yr Efengyl. Argraphwyd yn y`Mwythig Gan Tho. Durston yn y Flwyddyn 1714."

1715.

1. "Trugaredd a Barn, &c., Llundain." Ailargraffiad. Gwel rhif. 1, 1687.

2. "Pregeth a bregethwyd ar y dydd cyntaf o fis Mawrth yn y Flwyddyn 1714, Yr hwn oedd Ddydd Gwyl St. Dafydd. Gan George Lewis, M.A. Caplan i'r gwir Barchedig Arglwydd Ioan Escob Bangor. Argraphedig yn Llundain gan Edm. Powel, Ac ar werth gan Charles King yn Westminster Hal, a chan Edm : Powel yn Black-fryres yn Llundain 1715."

3 "Cydymmaith i'r Allor yn dangos anian ac angenrheidrwydd ymbaratoad Sacrafennaidd modd y derbyniwn y Cymmun bendigedig yn Deilwng, &c O Gyfieithiad Moses Williams. Llundain." 12plyg.

4. ¶"Galwedigaeth ddifrifol i'r Crynwyr, i'w gwahawdd hwy i ddychwelyd i Grist'nogaeth. O gyfieithiad Theophilus Evans. Mwythig." 8plyg.

5. "Godidowgrwydd, Rhinwedd, ac Effaith yr Efengyl. Mwythig." 8plyg. 9. "Euchologia, neu yr Athrawiaeth i arferol Weddio. Gan Ioan Prideaux, Esgob Caerfrangon. O gyf. Rowland Vaughan, Esqr." 8plyg.

1715-1716.

¶"Ymddangosiad dilys a disymmwth CRIST i Farnu 'r Byd."

Traethawd ydyw ar Dad. xxii. 20, o fwy na 350 o dudalenau. Y mae yn ei ddiwedd " Ysbysiad" am gyhoeddi cyfansoddiad newydd o'r Salmau ar gân; ynghyd â chynllun o hono, yn cynnwys y Salm 1, fel hyn:—

L

"Y dŷn nid a dyn dedwydd yw

i Gynghor Gwyr diras,

Ni thramwy 'w Ffyrdd tra byddo byw
ni châr mou gwawdjaith gas.
Yng Nghelloedd gwych ei Galon jach
mae'n cuddio Geiriau Duw,
Ei Feistr Gwaith yw'r Beibl bach
ei Gyfaill Gwely yw.

Saif hwn yn beraidd bren o hŷd
ar Laný Nefol Nant:
Nid Dig y Diawl, nid Bâi y Byd
all chwythu hwn i bant.

Bydd Dail ei Broffes byth yn llawn,

tra gwyrf a gwyrdd eu Gwawr A Ffrwyth Sancteiddrwydd fel y Grawn fai'n pyngo 'r llwyn i'r llawr.

Ond nid fel hwn, medd Duw, fydd Rhan yr enwir drwg eu Hynt;

Fel main Us man eu Gobaith Gwan

a chwelir gan y Gwynt.

Fe aiff gan Ddiawl i Uffern dân

y Dorf annuwiol drist

Pan gaffo 'r Saint mewn Braint a Bri
Le ar Ddeheulaw Crist.

Can's Calon Duw a'i Serch y sy

ar Ffyrdd y Cyfion call
Ond Trawsffyrdd y Troseddwyr hy
sy'n mynd i Lety'r Fall."

Pa un a gafwyd cefnogaeth i gyhoeddi y salmau hyn, nis gwyddom; ac nid ydym yn gallu anwesu unrhyw ofid am yr amddifadrwydd o honynt, os yw yr uchod yn gynllun cywir o'r cyfansoddiad a'r argraffwaith. Gwell genym yr hen "Archddïacon Meirionydd," er ei waethed.

1716.

1. "Llythyr at y Merthyron yngharchar. Gan St. Cyprian. O Gyfieithiad J. Morgan. Llundain." 12plyg.

2. "Llythyr at y cyfryw o'r Byd, ac sydd raid eu deffroi a'u cyfarwyddo, er lleshad a Budd tragwyddol eu Heneidieu, tan y penau a ganlyn, sef, Meddwl ac Ystyried, i. Pa beth ydynt, A chyda hynny Eglurhad byrr i'r Credo, &c. Gan Garwr Eneidieu, &c. Wedi ei gyfieithu gan Iaco ab Dewi i'r Gymraeg. Printiedig yn y Mwythig, gan John Rhydderch, ar Draul David Lewis, Christmas Samuel, a William Davies. 1716."

3 "Gweledigaeth David Evans, o'r Plâs Du, yn Sir Drefaldwyn, Mwythig." Splyg.

4. "Drych y Prif Oesoedd, Yn ddwy Ran. Gan Theophilus Evans. Argraphwyd yn y Mwythig, gan John Rhydderch tros yr Awdur 1716."

5. "Y Cymunwr ystyriol, neu Eglurhâd Athrawiaeth Sacrament Swpper yr Arglwydd, &c. Gan William Fleetwood, D.D. Esgob Llan Elwy, yn awr Esgob Eli. Llundain." 12plyg.

6. "Pregeth a bregethwyd yn Nghapel Tŷ Ely, yn Holburn, yn Llundain, ar Ddydd Mercher, ym Mehefin y 7, 1716, Dydd y diolchgarwch cyhoeddus am fendŷth Duw ar Gynghorion a'r arfau ei Fawrhydi yn llonyddu y Gwrthryfel annaturiol diweddar. O Gyfieithiad Iago ab Dewi. Mwythig." 12plyg.

Y "Gwrthryfel annaturiol" hwnw oedd yr un a gododd yn Scotland ar ddyfodiad Sior 1. i orsedd Lloegr.

7. "Ufudd-dod Eglwys Loegr i'r Brenin George, &c. Llundain." 12plyg. 8. "Llawlyfr y Gwir Gristion. Mwythig." 12plyg.

9. "Regæ Societatis Utriusque Socii Geta Britannicus-Musgrove. 1716." 10. "Gwirionedd y Grefydd Grist'nogol. O waith Hugo Grotius. A gyfieithwyd gan Edward Samuel, Person Betws Gwerfil Goch. Argraphwyd yn y Mwythig, gan John Rhydderch, yn y Flwyddyn 1716."

11. "Cywydd i'r Merthyron. Llundain." 12plyg.

12. ¶“Myfyrdod Comfforddus i Gristionogion. Llundain." 8plyg. 13. "Ufudd-dod i Lywodraeth a Chariadoldeb, wedi eu gosod allan mewn pregeth a adroddwyd yn Eglwys St. Paul, yng Ngardd y Myneich, ar Ddydd gwyl Ddewi, sef y dydd cyntaf o Fawrth, 1715. Llundain.' 8plyg.

Cyhoeddwyd y bregeth uchod yn y ddwy iaith, gan yr un, ac yn yr un plygiad.

14. "Pregeth ar Act. xxi. 30, 31. O Gyfieithiad R. Llwyd. Mwythig." 12plyg.

15. "Defosiwnau Priod, o gyfieithiad W. L. M.D. Argraffwyd yn y Mwythig, gan John Rhydderch, tros Dafydd Lloyd." 32plyg.

Y mae rhagymadrodd y llyfr bychan hwn gan "John Owen," briodola ei awduriaeth i Dr. Valantine. Er fod cyfeiriad ato o'r blaen, ddwy waith, gan Mr. Moses Williams (gwel rhif. 3, 1655, a rhif. 1, 1684), yr ydys yn tueddu i feddwl fod y rhai hyny yn osodiadau anturiaethus; ac na bu ond un argraffiad, heb amseriad.

1 Gwel "Gwyliedydd," Medi, 1832: tudal. 260.

16. "Ffordd y Cristion i'r Nefoedd, Neu pa beth sydd raid ef wneuthur i fod yn Gadwedig: Gwedi i droi 'n Gymraeg, allan o'r trydydd Argraffiad yn Saesonaeg. Gan R. Llwyd, Eglwyswr Llangedwyn. Argraffwyd yn y Mwythig." 17. "Gweddi yr Arglwydd wedi ei hegluro_mewn amryw Ymadroddion neu Bregethau Byrion. Gan G. Griffith, D.D. Esgob Llanelwy."

Ailargraffiad gwel rhif. 1, 1685. Rhoddwyd argraffiad o'r unrhyw yn y ganrif hon, gan gymdeithas o Eglwyswyr yn esgobaeth Bangor. 18. "Athanæ Britanica. By Myles Davies. 1716."

Un o Dre'r Abad oedd Myles Davies, ac o deulu y Dafisiaid o Lanerch, ger Dinbych.

19. "A true (though a short) account of the antient Britons, in respect to their descent, qualities, settlement, country, language, learning, and religion; with the effigies of Llewelyn ab Gruffydd, the last Prince of Wales of the British Blood. By J. L. a Cambro Briton. London. 1716." 4plyg.

1717.

1. "Mynegai 'r Bibl Cyssegrlân, &c. Gan William Nicholas, &c. O gyfieithiad Samuel Williams. Llundain." 8plyg.

Person Llangynllo, yn sir Aberteifi, oedd Mr. Williams, a brawd, mae yn debyg, i Moses Williams.

2. "Pregeth a Bregethwyd yn Nghapel Ty Ely, &c. O Gyfieithiad un o ffyddlon ddeiliaid Brenin George. Mwythig." Splyg.

Fe allai cyfieithiad newydd, ac ailargraffiad o rhif. 6, 1716.

3. "Meddyliau neillduol ar Grefydd. O Gyfieithiad Iago ab Dewi. Llundain." 12plyg.

Dïau mai y llyfr rhagorol hwnw, o'r enw uchod, o waith yr Esgob Beveridge, ydoedd. Y mae yn ei ddiwedd "Cywydd i'r Iesu, o gynhildeb wyneb yn wrthwyneb." Gan Ieuan Griffith, yr hwn ydoedd fardd yn byw yn Nghefn y-maes, yn Meirionydd.

4. "Cofrestr o'r holl lyfrau Printiedig, gan mwyaf a gyfansoddwyd yn yr Iaith Gymraeg, neu a Gyfieithwyd iddi hyd y Flwyddyn 1717. Printiedig yn Llundain, gan Brintwyr y Brenin, 1717.”

Gan i ni roddi pob hysbysiaeth o'r blaen am y gofrestr hon, a'r awdwr, nid oes galw am ychwanegiad yma; yn unig i ni ddyweyd ar y cyntaf iddo gael ei eni yn y Glaslwyn (gwel y "Traethodydd," Ionawr, 1852), ac wedi hyny mai yn y Cellan y ganwyd ef. Rhoddasom yr hysbysiad cyntaf ar awdurdod Syr Samuel R. Meyrick, yn ei "History of Cardiganshire;" a'r ail ar awdurdod Dr. Thos. Rees, yn ei "Description of South Wales," yr hwn oedd yn Gymro-mab i'r diweddar Barch. Josiah Rees, o'r Gellionen, yn sir Forganwg. Gall fod y ddau yn gywir, gan fod Cellan yn enw cymydogaeth a phlwyf, a Glaslwyn yn enw annedd-dŷ.

5. "Catechism o'r Scrithur, Yn Nhrefn gwyr y Gymanfa a Scrifenwyd yn Saesoneg gan Fatthew Henry Gweinidog yr Efengyl, ac yn Gymraeg I ddangos i'r Cymro uniaith (1) Y pethau a ddylai efe eu credu (2) Y dyledswyddau a ddylai efe ei cyflawni (3) Y cyfryngau neu 'r Moddion a ddylai efe ei harfer (4) Y pethau a ddylai efe eu gofyn gan Dduw mewn gweddi a hyny allan o air Cyssegrlan Duw ei hun. Ŏ brintiad Cyntaf yr awdwr gan Ioan_ab_Dewi Ai Brintio yn y Mwythig gan John Rhydderch, Ddavid Jones, Christmas Samuel, a William Davies, 1717."

1718.

1. "Beibl Cyssegrlan &c. Printiedig yn Llundain, gan Brintwyr y Brenin Ioan Basged, Asseins Thomas Newcwm, a Harri Hils, a fuant feirw MDCCXVIII" 8plyg.

« PreviousContinue »