Page images
PDF
EPUB

"Llundain, mis Medi 19eg, 1704;" ond yn ei ddiwedd y mae hysbysiad y cyhoeddid, "Y Llyfr Gweddi Gyffredin, gŵyl Fihangel nesaf, 1708." Gall mai amseriad yr argraffiad Seisoneg ydyw 1704, dair blynedd yn ol.

7. "Amser, a diwedd Amser; Yn ddau Draethawd: Y cyntaf ynghylch Prynu 'r Amser; Yr ail ynghylch Ystyried ein Diwedd. A osodwyd allan gyntaf yn Saesonaeg gan Ioan Madyn. Ac a gyfieithwyd yr awrhon i'r Gymraeg er daioni i'r Cymru. Llundain: argraffwyd i Eben Tracey dan Lûn y tri Bibl ar Bont Llundain. 1707."

Mae yn debyg mai yr un oedd hwn a rhif. 3 o'r flwyddyn hon. Cyfieithir enw John Fox i Ioan Madyn, neu, Ioan Lwynog. Hynod oedd i'r un llyfr gael dau gyfieithiad a dau gyhoeddiad o hono, yn Gymraeg, yn yr un flwyddyn.

8. "The case of Sir Humphrey Mackworth, and of the Mine Adventurer, with respect to the extra ordinary proceedings of the Agents, Sewarts, and Dependents, of the Right Hon. Sir Thomas Mansel, Bart. London 1707." 4plyg. 9. "Some account of Mines, and the advantage of them to this Kingdom, with an Appendix relating to the Mine Adventurer in Wales. London 1707." 4plyg.

Gwel rhif. 12 a 13, 1700, a rhifyn 5, 1705.

1708.

1 "Eglurhad ar Gatechism yr Eglwys. Wedi ei gyfieithu er lles Esgobaeth Llanelwy, gan Thomas Williams, M.A. A brintiwyd yn Llundain, gan S. Rogers. 1708."

2. "Catecism byr i Blant; at yr hwn y chwanegwyd un arall, er addysc i'r rhai sydd i'w derbyn a'u cymmeryd i Swpper yr Arglwydd. Gan M. H. Mwythig." 8plyg.

3. Llyfr Gweddi Gyffredin. Argraffwyd yn y Mwythig, gan Thos. Jones."

Pris hwn oedd 8s. heb gaead, neu yn geuedig am 10s.

4. "Llyfr y Psalmau. Argraffwyd yn y Mwythig, gan Thomas Jones. Tan arwydd y Bel, rhwng marchnad y brethyn gwyn a marchnad y Pysgod."

Yr oedd y ddau uchod yn un llyfr; ond fod gwyneb ddalen i bob un wrtho ei hun.

1709.

1. “Y Gwrandawr Neu Lyfr yn dangos pa gynheddfau sydd reidiol i'r rhai a Ewyllysiant Gael bydd a lles wrth wrando 'r Gair a Bregethir. O waith yr awdwr Parchedig John Edwards, D.D. O gyfieithiad H. Powel. Llundain.” Yr oedd Mr. Howel Powel yn byw mewn lle a elwir Maes-y-clettwr yn sir Frycheiniog, ac yn aelod gyda'r Bedyddwyr. Rhoddir ychwaneg am dano eto.

2. ¶"Saith o Bregethau, sef i. Ynghylch y Pechod anfaddeuol yn erbyn yr Ysbryd Glan, &c. ii. Dyledswydd ac Ymarferiad y Saint, &c. iii. Yr amser cymeradwy a dydd jechydwriaeth. iv. Diwedd amser a dechreuad Tragywyddoldeb. v. Ymroad Josua i wasanaethu 'r Arglwydd. vi. Y ffordd i'r Nef wedi ei hamlygu. vii. Cyflwr dyn yn y byd a ddaw, &c. O waith Robert Russel, o Wardhurst yn Sussex, a'i Gyfieithu i'r Gymraeg gan William Edwards. Allan o'r nawfed argraffiad a deugain yn y Saesneg. Pengwern s. y. h. Mwythig."

3. "Y Wir Eglwys. Gan Mathias Maurice."

Am Mr. Morris, neu Maurice, bydd genym ychydig i'w ddyweyd pan ddeuwn at lyfrau eraill o'i eiddo.

4. "Llyfr Gweddi Gyffredin."

1710.

1. "Cred a Buchedd Gwr o Eglwys Loegr; o waith William Stanley, D.D. Deon Llanelwy. Printiedig yn Llundain gan R. Whitledge. 1710. 12plyg.

Yr oedd yr awdwr hefyd yn Berson Henllan, ger Dinbych; ac er mwyn plwyfolion y lle hwnw y dywedir, yn y rhagymadrodd, iddo fynu ei argraffu yn Gymraeg; am ei fod yn dangos beth yw athrawiaeth Eglwys Loegr, yn erbyn y Papistiaid a'r Presbyteriaid. Dyna fel y dywedir yn yr arweiniad i mewn.

2. "Saith o Bregethau, sef i. Ynghylch y Pechod anfaddeuol yn erbyn yr Yspryd Glan, &c. ii. Dyledswydd ac ymarferiad y Saingc, &c. iii. Yr Amser Cymeradwy, &c. iv. Diwedd Amser, &c. v. Ymroad Josuah, &c. vi. Y ffordd i'r Nefoedd wedi ei hamlygu. vii. Cyflwr dyn yn y byd a ddaw, &c. O waith Robert Russel, o Wadhurst yn Sussex. A genadwyd ac a entrwyd yn ol y drefn gyfreithlon. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Gwilym ab Iorwerth, allan o'r unfed argraffiad a deugain yn y Saesoneg. Argraffwyd yn y Mwythig gan Thomas Durston."

Gwel hefyd rhif. 2, 1709. Fe allai na bu ond un argraffiad, ac nad yw yr amseriad yno, nac yma, yn gywir; eto, y mae rhai pethau yn ein tueddu i feddwl ddarfod cyhoeddi dau argraffiad. Un o'r "nawfed argraffiad a deugain," a'r llall o'r "unfed argraffiad a deugain." Rhoddasom y cyntaf uchod yn ol Moses Williams, a'r olaf hwn o'r copi sydd genym ein hunain.

3. "Articlau-Y Namun un deugain Articlau Grefydd. O gyfieithiad J. D. S.S.T. D., ac o adgyweiriad S. ac M. Williams.

Y trydydd argraffiad wrthynt eu hunain. Gwel rhif. 2 a'r 3, 1664. 4. Annogaeth fer i'r Cymmun Sanctaidd, gyda natur a mesur y parotoad i'w dderbyn. O gyfieithiad Thos. Willianis. Llundain." 12plyg.

5. "Flores Poetarum, sef Blodeuog waith y Prydyddion Brutanaidd. O gasgliad J. D. S.S. Th. D. fel yr ydys yn tebygu. Printiedig yn y Mwythig, gan T. Jones dros D. Lewys.

[ocr errors]

1710."

Enw Dr. Davies o Fallwyd, a arwyddir trwy y llythyrenau uchod. Y mae y llythyr at y darllenydd" wedi ei arwyddo "Dafydd Lewys, Llanllawddog, Gorph. 10, 1710." Llyfryn bychan 32plyg ydyw, o 94 o dudalenau. Detholion ydyw o waith hen feirdd, o dan wahanol benau neu bynciau. Y mae yn cynnwys hefyd "llyfr barddoniaeth o waith Cadben William Midleton." Gwel rhif. 2. 1593.

6. "Llyfr Gweddi Gyffredin. Llundain Unplyg."

Llyfr gweddi mawr i'r eglwysi ydoedd hwn. Ei olygydd ydoedd Ellis Wynn, awdwr "Bardd Cwsg." Y mae Y mae "Hysbysiad," neu ragymadrodd, iddo gan Wynn, a'r hymn gladdedigaeth sy'n dechreu-" Myfi yw yr adgyfodiad mawr," o gyfansoddiad yr un, mae yn debyg. Y mae wedi ychwanegu hefyd yr Erthyglau o gyfieithiad Dr. J. Davies, Mallwyd; y rhai y methai gael gafael arnynt, er eu bod wedi eu hargraffu lawer gwaith o'r blaen, nes iddo gael o "hir-olrhain" afael arnynt "drwy eglwyswr parchedig o Went." Buasai tuedd ynom i roi y rhagymadrodd yn gyflawn yma, fel na choller "briw-fwyd gweddill" y fath gofydd a'r gwr o Lâs Ynys, oni buasai ei fod wedi ei argraffu yn gyflawn yn y "Gwyliedydd" am Medi, 1833: tudal. 275.

7 "Undeb yn orchymynedig i ymarfer. Gan Daf. Phillips, D.D. Person Maenor Dewi, yn Sir Benfro. O gyfieithiad Samuel Williams, Llundain.” Splyg.

S. W. oedd berson Llangunllo, yn sir Aberteifi.

8. ¶ "Yr Ymarfer o Dduwioldeb, &c. Y chweched argraffiad yn Gymraeg, wedi gwella llawer o gam yspeiliadau oedd yn yr argraffiadau eraill. Argraffwyd yn y Mwythig gan Thomas Jones."

Gwel rhif. 1, 1630; rhif. 2, 1656; rhif. 4, 1675; rhif. 2, 1685; a rhif. 11, 1700.

9. "Tour to Hafod, by J. E. Smith, M. D., F. R. S., &c. Accompanied with splendid Views of the Scenery in the Grounds and adjacent Country. London 7110." Unplyg mawr.

10. "Cardiganshire described with the due form of the Shire Towns, as it was surveyed by J. T. 1710. (John Speed)."

1711.

1. "Yr Athrawiaeth y sydd yn ol duwioldeb, gwedi ei seilio ar Sanctaidd Scrythyrau'r Gwirionedd; ac yn gytunol a rhan athrawiaethol Erthyglau a Chyfaddefiadau Protestaniaid Lloegr. At yr hyn y chwanegwyd byr Hanes o Drefn Eglwys 'r Efengyl yn ol y Scrythyrau. Gan Isaac Chauncy, M. A. A chwedi ei gyfieithu i'r Cymraeg gan Matthias Maurice, er cynnydd Gwybodaeth a derchafiad Cyfiawnder, Cariad, ac Efengyl Iesu Ghrist yn marn a bywyd ei Frodyr a'i Gid-Wladwyr anwyl y Cymru. Argraffwyd yn Llundain i'r Cyfieithydd, gan Edm. Powell, yn Black-friars, yn agos i Ludgate. 1711." 2. "Traethawd Ymarferol am gyflawn-awdŷrdod Duw a'i Gyfiawnder ef, ynghyd â'r Pethau pwysfawr ereill, y rhai sydd yn tarddu oddiwrth ei awdurdod ef, sef Etholedigaeth, Prynedigaeth, Galwedigaeth Effeithiol, a Pharhad mewn Gras. Gan Eliseus Cole. O gyfieithiad H. Powell, o Faesclettwr, yn sir Frecheiniog. Llundain."

Hwn oedd y cyfieithiad a'r argraffiad cyntaf o'r llyfr a elwir yn awr "Traethawd Ymarferol ar Benarglwyddiaeth Duw." Y mae yn ei ragflaenu y "Llythyr at y darllenydd," yn cynnwys dau dudalen, a'i arwyddo "H. POWELL, Masclettwr, yn sir Frycheiniog, Tachwedd 2, 1711." oedd dadleuon y "pum pwne" yn frwd iawn yn eglwysi yr Annibynwyr, Presbyteriaid, a Bedyddwyr, yn y Deheudir y dyddiau hyny. Yn un o gymanfaoedd y Bedyddwyr yr annogwyd cyhoeddi y gwaith hwn, fel cais er attal cynnydd yr hyn a ystyrid yn gyfeiliornad gan yr hen bobl. Aeth H. Powell i America tua'r flwyddyn 1712, a sefydlodd yn weinidog i gynnulleidfa yn Cohensey, Jersey Newydd, lle y bu farw, yn 1716. 3. "Holl Ddyledswydd Dyn. Llundain, argraffwyd gan Edm. Powell, yn Black Fryers, yn agos i Ludgate. MDCCXI."

Trydydd argraffiad. Gwel rhif. 2, 1684.

4. Boreuol a Phrydnhawnol Weddiau, i'w harfer mewn Teuluoedd, a chan un Dyn ar ei ben ei hun o'r neilldu. O gyfieithiad Gwr Bonheddig o Sir Gaerfyrddin. Mwythig." 12plyg.

5. "Y Llyfr Gweddi Gyffredin y Cydymaith goreu, &c. Mwythig." Splyg. Ail argraffiad. Gwel rhif. 8, 1693.

6. "Ymarferol-waith i'r Elusen Ysgolion, yn egluro Natur Conffirmasiwn. Gan Robert Nelson, Esqr. O gyfieithiad Moses Williams, Llundain. Argraffwyd gan Joseph Downing." 12plyg.

Yr oedd J. Downing yn byw yn St. John's Lane, ac yn argraffydd i'r "Gymdeithas er lledanu Gwybodaeth Gristionogol."

7. "Boreuol a Phrydnhawnol Weddi i Deulu. O gyfieithiad Moses Williams. Llundain, argraffwyd gan Joseph Downing." 12plyg.

[blocks in formation]

8. "Cas gan Gythraul, neu Annogaeth i bawb ochelyd myned i ymgynghori : å Dewiniaid, Brudwyr, a Chonsurwyr, gydac Eglurhad ynghylch y perigl mawr o fyned i ymgynghori â hwynt, a chrybwylliad ynghylch llawer o arferion a thraddodiadau drygionus, sydd yn cael eu harferyd yn Nghymru. Argraffwyd yn y Mwythig gan Stafford Prys, gwerthŵr Llyfrau."

Y mae "T. P." wrth ei ragymadrodd, gyda yr amseriad, "Mis Medi y 15, 1711."

9. "Llyfr y RESOLUTION, neu hollawl ymroad i roi'r cwbl o'n Bryd, a'n meddwl, a'n holl nerth, a'n gallu i Wasanaethu Duw. Er mwyn cael dedwyddwch ac Iechydwriaeth i'n Heneidiau. Cyfieithwyd o'r Saesnaeg i'r Gymraeg gan Doctor John Davies, o Fallwyd, yn sír Feirionydd. Argraffwyd yn y Mwythig yn y flwyddyn 1711. Ac ar werth yno gan Thomas Durston." 24plyg. Dywedir mewn lle arall mai T. Jones a'i hargraffodd. Y rhan gyntaf yn unig a gynnwysai yr argraffiad hwn-yn lwmp o lyfr bychan trwchus. Y trydydd argraffiad ydoedd; gwel rhif. 2, 1632; a rhif. 4, 1684. Rhoddwyd argraffiad da a llawn wedi hyn, gwynebddalen yr hwn sydd fel y canlyn; "LLYFR Y RESOLUTION-DYHEWYD Y CRISTION, yn ddwy ran. Y Rhan Gyntaf sydd yn dysgu i ni bawb roi ein bryd yn Llwyr ar fod yn Gristionogion Gwir, Ac ymadael a buchedd ddrwg, a throi at ddaioni a Duwioldeb. Yr Ail Ran a Draetha am y Rhwystrau i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw. A gyfieithwyd gan y Dr. Davies, o Fallwyd. Y iv. Argraffiad. Ar draul Cymro, un o ddinasyddion Llundain. Llundain : Argraffedig gan John Jones, Heol y Capel. 1802." Y mae yn niwedd hwn Weddi yr Arglwydd yn ieithoedd Llydaw a Chernyw, gyda deongliad Cymraeg o'r unrhyw hefyd "Emyn Ambros ac Awstin, yr hwn a elwir y Te Deum, ac a gyfieithwyd yn Gymraeg gan y Ddafydd Ddu o Hiraddug." 10. "Llaw-lyfr y Llafurwr. O gyfieithiad Moses Williams. Llundain, Argraffwyd gan Joseph Downing." 12plyg.

11. "Catecism Sacramentaidd, a amcanwyd er cyfarwyddyd i wasanaeth dynion tlodion, ac a gyflwynwyd at bob Caredig Gristianogion. Mwythig." 12plyg. 12. Llythyr Edward Wells, D. D. at Ymneillduwyr o'i blwyf o farn y Presbyter. iaid. Ŏ gyfieithiad L. Evans, Athraw Ysgol St. Clears. Mwythig." 12plyg. 13. "Llythyr Edward Wells, D. D., &c. O gyfieithiad G. J. Mwythig." 8plyg.

Yr oedd yn beth lled gyffredin gynt i ddau argraffiad o'r un llyfr gael eu cyhoeddi yn yr un flwyddyn, gan wahanol bersonau. Cyfarfuasom âg amryw esiamplau o'r fath, er nad allwn roddi rheswm boddhaol am hyny. 14. "Llyfr Gweddi Gyffredin, a Gweinidogaeth y Sacramentau, a Chynneddfau a Ceremoniau Eraill yr Eglwys, yn ol arfer Eglwys Loegr, a Psalmau Dafydd, &c. Argraffwyd yn Llundain gan Edm. Powel."

13. "Iolii Vitalis Epitaphicum Commentario. Musgrove."

16. "Mine Adventurer laid open. By T. Waller." Gwel rhif. 12, 1700; rhif. 5, 1705; a rhif. 8 a 9, 1707.

1712.

1. "Hynodeb Eglwysydd, &c. O gyfieithiad W. Rowlands, A. B., Llundain."

12plyg.

[ocr errors]

2. "Yr unrhyw, gan G. J., h. y. Griffith Jones, &c. Wells." Nid oes amseriad wrtho, a gall mai nid yn yr un flwyddyn y cyhoeddwyd y ddau argraffiad.

3. "Pregethau gan Edward Jones."

Rhoddwyd y tri uchod yn null ac ar awdurdod Moses Williams.

4. "Cydymaith i Ddyddiau Gwylion ac Ymprydiau Eglwys Loegr, &c. Wedi ei droi yn Gymraeg, allan o'r argraffiad berffeithiaf yn Saesoneg. Gan Thos. Williams, M. A., Eglwyswr Dimbech. Argraffwyd yn Llundain gan W. Bowyer, yn White Fryers. 1712."

Aeth argraffdŷ Mr. Bowyer ar dân yn 1712. Cafodd ganiatâd i gasglu i wneyd y golled i fyny, a daeth y cyfraniadau i 2,539p. 158. 2c. Yr oedd yn mysg y cyfranwyr 120 o argraffwyr a llyfrwerthwyr, a'u cyfraniadau yn amrywio o 10 swllt i 10 gini. Yr oedd gini y pryd hyny yn werth 1p. ls. 6c.' 5. “Undeb yn orchymynedig i ymarfer. Llundain.”

Ailargraffiad, fe allai, o rhif. 7, 1710.

6. "Hanes y Ffydd. Gan Edward Samuel."

Crybwyllir am yr argraffiad hwn yn y "Diddanwch teuluaidd." Gwel hefyd rhif. 2, 1671; rhif. 1, 1676; a rhif. 5, 1677.

7. "A Reply to the Mine Adventurer laid open." 1712.

Gwel rhif. 12, 1700; rhif. 5, 1705; rhif. 8 a 9, 1707; a rhif. 16, 1711.

1713.

1. "Llyfrgell y Cristion Ifainc, &c. Gan R. Ll. Mwythig." 8plyg.
2. "Pregeth gan R. Lloyd.”

Tebygol mai ail neu drydydd argraffiad o rhif. 1, 1692.

3. "Catechism yr Eglwys wedi ei egluro trwy holion ac atebion, a'i Profi o'r Ysgrythyr, yn bum rhan, a deuddeg dosparth, yn cynnwys byrr ac eglur hanes 1. Cyfammod Cristianogawl; 2. Y Ffydd Gristianogawl; 3. Üfudd-dod Cristianogawl; 4. Y Weddi Gristianogawl; 5. Sacramentau Cristianogawl. Gan John Lewis, Gweinidog Margate, yn Nghent. Mwythig." 8plyg. Dywedir hefyd mai ei enw priodol oedd James Davies.

4. "Dwys ddifrifol Gynghor i hunan-ymholiad. Wedi ei draethu mewn v. o Bregethau ar 2 Cor. xiii. 5. Gan Tho. Wadsworth, M. A., Gweinidog yr Efengyl, Newington, Bucks. Wedi ei gyfieithu gan Thomas Baddy, er mwyn cymmorth i'r cymru i'w hadnabod eu hunain. Caer-Llewon, argraphwyd yn

1713."

5. "Ymddygiad Gweddus yn yr Eglwys, Neu ychydig rhagrybyddiadau ac hyfforddiadau mewn trefn i fwy Defosiynol a pharchedig gyflawniad o addoliant public Duw, megis yr appwyntiwyd gan Eglwys Loegr. O gyfieithiad R. Ll. Mwythig." Splyg.

1714.

1. "Llythyr Edward Wells, D.D., at Gyfaill ynghylch y Pechod mawr o gymeryd Enw Duw yn ofer, &c. O gyfieithiad Iaco ab Dewi. Mwythig." Splyg. Gwel rhif. 12, 1711. Dywed Mr. J. Thomas, yn ei "Hanes y Bedyddwyr," mai gŵr o Landysul, sir Aberteifi, ydoedd "Jaco ab Dewi;" enw yr hwn a geir mor fynych yn gysylltiedig â hen lyfrau; ac y bu fyw flyneddau ger Pencader, gan symud wedi hyny i blwyf Llanllawddog, a marw yn 1723; ond dywed Dr. W. Owen Pugh, yn ei " Cambrian Biography," mai "Bardd enwog, a hynafiaethwr," o Blaen-gwyli, sir Gaerfyrddin, ydoedd, ac iddo farw yn 1722. Nid ydym yn alluog i gysoni yr hysbysiadau hyn. 2. "Holl Ddyledswydd Cristion. Gan John Jones, D. D., Chancellor Llandaff. O gyfieithiad Rees Lewis. Mwythig." 8plyg.

3. "Myfurdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf, sef Angau, Barn, Nef, ac Uffern. Llundain." 12plyg.

1" Timperley's Dictionary of Printing and Printers."

« PreviousContinue »