Page images
PDF
EPUB

roddi canmoliaeth i un heb deimlo fod hwnw yn ei haeddu. Mae yr hwn a elo i foddhau personau ar gôst gwirionedd, yn myned yn ddirmygus gan bawb, ac yn benaf gan ei gydwybod ei hun. Gellir gweled rhai pobl sydd yn debyg i'r helyg yn plygu o flaen pob awel a chwytho arnynt; nid oes berygl i'r cyfryw rai fyned yn golofnau mewn gwlad nac eglwys. Digon ganddynt hwy geisio gwneyd yr un fath a phobl eraill, pa un bynag ai cam ai cymhwys fyddo hyny; cydsyniant yn ebrwydd â phob peth a ddyweder wrthynt, gan nad pa un ai gau ai gwir a leferir. Plantos bwhwmanllyd, ac nid gwŷr o anrhydedd, yw y cymeriadau hyn. Mae moesgarwch gwirioneddol yn seiliedig ar egwyddorion diysgog. Fel y ddoethineb oddiuchod, "yn gyntaf pur ydyw," ac, fel y dywedir am gariad, "cydlawenhau y mae â'r gwirionedd." Byth ni eilw y du yn wyn; ac nid yw yn medru ar y gelfyddyd o "fwrw sorod arian dros ddryll o lestr pridd ;" ond y mae i'w weled yn wastad yn myned law yn llaw â chywirdeb.

Fel cymhelliadau cryfion i foesgarwch, gallwn gyfeirio at esiamplau saint enwog yr ysgrythyrau. Cawn Abraham yn glodfawr am ei foes, yn gystal ag am ei ffyddlondeb. Darllenwn ei hanes, ac ni a welwn nad oedd dim ynddo yn hunangar, anghyfeillgar, a chilgwthiol, ond ei fod yn hen foneddwr rhyddfrydig, mwynaidd, a moesgar i'r pen. Yn ngwyneb yr ymrysonau rhwng ei fugeiliaid ef, a bugeiliaid Lot, o achos fod y tir yn rhy gyfyng i liaws anifeiliaid y naill a'r llall, mor hynaws ac anrhydeddus yr ymddygodd Abraham at Lot ei nai. Er mai mwy rhesymol ydoedd i'r hynaf a'r mwyaf urddasol gael ei ddewisiad yn gyntaf, efe a adawodd i Lot gael ei ddewisiad blaenaf, ac a attolygodd yn dirion am barhad y cydfod a'r cariad rhyngddynt. Mae rhai yn eu dangos eu hunain yn foesgar iawn at y rhai hyny sydd o fewn cylch eu cydnabyddiaeth, ac yn enwedig tuag at y rhai y maent yn dysgwyl rhywbeth oddiar eu llaw; ond nid oes ganddynt ddim moesgarwch i'w hebgor at ddyeithriaid. Lle y byddont yn anadnabyddus, arddangosant eu hunain yn anghymwynasgar, yn oeraidd, ac yn drahaus. Ond nid un felly ydoedd Abraham. Pan yr ymwelodd yr angelion âg ef, yn ngwedd a diwyg tri ŵr dyeithr, er ei fod ef yn hynafgwr, ac nad ydoedd yn gwybod dim am danynt, càn gynted ag y gwelodd hwy, "efe a redodd o ddrws ei babell i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua'r ddaear;" gofynodd, fel ffafr oddiwrthynt, am iddynt droi i mewn ato; rhoes groesaw calon iddynt, a cheisiodd trwy bob sylw a gwasanaeth o'i eiddo eu gwneyd yn gysurus yn ei gymdeithas. Mae rhai, tra yn bur foesgar tuag at ddyeithriaid, na ddangosant nemawr neu ddim cyweithas a pharch tuag at eu cymydogion; eithr nid un felly ychwaith oedd Abraham. Fel yn ei groesawiad o'r dyeithriaid yn ei babell, felly yn ei drafodiaeth â meibion Heth, yr oedd efe yn ymddwyn gyda phob parch a moesgarwch. Er eu bod hwy yn edrych arno "fel tywysog Duw yn eu plith," nid oedd efe yn ymddyrchafu ger eu bron; eithr pan yn prynu meddiant beddrod gyda hwy, i gladdu ei farw allan o olwg, dywedir unwaith a dwywaith am y patriarch anrhydeddus, ei fod "yn ymgrymu o flaen pobl y tir." Gan fyned heibio i lawer o anghreifftiau eraill y gallesid eu dwyn ymlaen, deuwn i'r Testament Newydd, ac ni a gawn Paul, yr enwocaf am ei gymhwysder a'i lafur fel apostol, yn dra nodedig am ei foesgarwch fel dyn. Edrychwn arno yn sefyll yn llys Cesarea, ger bron y brenin Agrippa a'r rhaglaw Ffestus; yr oedd yn ei holl ddull a'i iaith ar

unwaith yn urddasol ac yn ddeniadol. Pan yn rhoddi hanes cryno am ei dröedigaeth hynod, ac yn amddiffyn yr athrawiaeth a ddysgid ganddo, wele Ffestus, yn wrthwyneb i holl reolau gweddeidd-dra, yn ei rwystro i fyned ymlaen, gan waeddi yn groch, "Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yru di yn ynfyd." Ond os oedd y rhaglaw ar yr orsedd yn ei ddiraddio ei hun trwy arfer iaith isel, anfoneddigaidd, a chythruddus, yr oedd y carcharor o flaen y faine yn ei ateb gyda'r ymadroddion coethaf, a'r moesgarwch mwyaf dyrchafedig. Yn llednais, ac eto mewn modd penderfynol, efe a ddywedodd, "Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd." Mae efe yna gyda medrusrwydd digymhar, yn appelio at Agrippa am ei argyhoeddiad o wirionedd ei athrawiaeth, ac yn ei anerch, "O frenin Agrippa, a wyt ti yn credu y prophwydi? mi a wn dy fod yn credu." A phan ddywedodd yntau, "Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion;" mae yr apostol yn ei atebiad yn arddangos cyfuniad o'r duwiolfrydedd ffyddlonaf, y serchogrwydd tyneraf, a'r gweddusrwydd prydferthaf: "Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrandaw heddyw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn." Llythyr Paul at Philemon sydd yn dangos boneddigeiddrwydd Cristionogol yr apostol yn y lliw dysgleiriaf; ac y mae hyn i'w weled hefyd mewn amryw o'i lythyrau eraill.

Gallasem fanylu llawer ar ein mater, ac ymdrin am foesgarwch mewn amrywiol gysylltiadau nad ydym yma wedi cyffwrdd â hwy; ond hyderwn fod ein bras-nodiadau blaenorol yn ddigon i egluro ei ansawdd, ac i ddynodi ei brif linellau; a hawdd yw i'r darllenydd eu cymhwyso at bob rhyw amgylchiad neillduol. Ein nod oedd ceisio argraffu ar y meddwl fod moesgarwch o werth arbenig yn ein holl ymarferiadau cymdeithasol. Ac am bwy bynag a edrycho gydag iselhad ar destun ein hysgrif hon, gallwn sicrhau iddo na bydd hyny yn ddim canmoliaeth i'w synwyr, i'w chwaeth, nac i'w rinwedd.

LLYFRYDDIAETH Y CYMRY.

DYMA ni o'r diwedd yn dechreu ein herthygl olaf. Gweli, ddarllenydd, ein bod wedi trefnu llyfrfa "Llyfryddiaeth y Cymry" yn wyth gwyneb, a phob gwyneb yn cynnwys nifer o silffoedd, yn ol y nifer o flyneddau a gymerai pob gwyneb i'r llyfrfa; a phob silff yn cynnwys nifer o lyfrau, wedi eu rhifnodi, fel y gelli roddi dy law ar y llyfr a fynot, heb ddim trafferth. Ti a gofi mai silff y flwyddyn 1779 oedd y ddiweddaf ar y gwyneb arall i'r llyfrfa. Ond aethom ar draws un llyfryn arall, yn perthyn i'r flwyddyn ddiweddaf hono, a ddylasai fod ar y silff hono, yr hwn a roddwn i mewn yma :—

18. "Berr Hanes o'r pethau mwyaf hynod ym mywyd James Albert Ukawsaw Groniasaw, tywysog o Affrica: fel yr adroddwyd ganddo ef ei hun. Aberhonddu, argraffwyd dros y Parch. Mr. W. Williams, gan E. Evans, 1779.” Felly ymddengys mai Williams, Pant-y-celyn, a gyfieithodd ac a gyhoeddodd y llyfryn hwn. Y mae "Y Rhagymadrodd at y Darllenydd," gan W. Shirley. 2 H

1853]

1780.

1. "Y pedwerydd lythyr oddiwrth eich cyfaill a'ch (pechadurus) sydd yn ymdrybaeddu y'ngwiniau a'i chwantau, fel y gwaethaf o honoch. Gan Ellis Roberts, Cowper. Argraffwyd yn Nhrefriw."

2. "Llyfr Gweddi Gyffredin. Argraffwyd yn Llundain, gan C. Eyre, a W. Stratham."

Prynodd C. Eyre y 30 mlynedd o patent Newcome a Hills, fel argraffwyr y brenin, am P.10,000, a chymerodd W. Stratham yn bartner, wedi hyny ei fab, Andrew; a bu hwnw farw yn werth miliwn o bunnau, gan adael y business i Spottiswood, &c.

3. ¶"Dadl dros ddarllen yr Ysgrythyrau mewn cynnulleidfaoedd crefyddol. Gan y Parch. W. Richard o Lynn."

Y Parch. W. Richard ydoedd Dr. Richard, awdwr y " Dictionary Saesoneg a Chymraeg," bychan, a welir mor aml ar hyd y Dywysogaeth yn awr. Traethodyn gwerthfawr yw yr uchod o tua 12 tudal. Argraffwyd yr unrhyw yn Seisneg hefyd.

4. "Hanes y Byd a'r Amseroedd. Er hyfforddiad rhai Cymru. O waith S. T. Argraphwyd yn y Mwythig gan Stafford Prys, yn y flwyddyn 1780.”

Gwel hefyd rhif. 4, 1721; rhif. 1, 1724; a rhif. 1, 1728.

5. "Rhai diwygiadau ar, ac ychydig ychwanegiadau at Hanes y Bedyddwyr. Argraphwyd yng Nghaerfyrddin, 1780."

Dernyn gwerthfawr yw hwn; ac nid yw yn ddiogel dilyn "Hanes y Bedyddwyr," gan y Parch. J. Thomas, heb fod y "Diwygiadau a'r ychwanegiadau” hyn wrth law. Y mae weithiau i'w gael yn gydrwymedig â'r "Hanes;" os amgen, y mae yn lled anhawdd cael gafael arno.

6. "Antigraphon neu Wrthgraphiad Sion yn achos y camachwyniad a gafodd yn ddiweddar gan awdwr mewn llyfr newydd a elwir, Amddiffyniad o'r Eglwys Gristionogol yn bedyddio plant bychain. Gan D. Saunders, Aberduar. Caerfyrddin, argraphwyd gan J. Ross, tros Dafydd William."

7. "Llythyr y Gymanfa at yr Eglwysi, yn y flwyddyn 1780. Caerfyrddin, argraffwyd gan Ioan Ross, yn Heol-y-prior."

1781.

1. "History o Rybydd i bechaduriaid i edifarhau, neu ddisgrifiad rhyfeddol fel y cafwyd dau henuriaid ynghoed Ressington, yn agos i Donchester, yn sir Gaer Efrog. O gyfieithiad Thos. Morris o'r Yspyttŷ. Trefriw."

2. "Galwad gan wyr Eglwysig at bawb ffyddlon, i gydsynio mewn Gweddi, yn enwedig tra parhao'r rhyfel presennol Gan P. Williams. Yr ail argraffiad. Caerfyrddin, argraffwyd gan John Ross, 1781."

3. "Dadl dros Grefydd bur a Dihalogedig, &c., gan gyfaill: mewn llythyr at y cyfaill hwnw. A gyhoeddwyd gyntaf yn Saesoneg, yn y fl. 1741. A gyfieithiwyd i'r Gymraeg o'r 3ydd lyfr, o waith Mr John Glass. Argraffwyd yn Abertawy, gan D. Evans."

[ocr errors]

4. Agoriad i athrawiaeth y Ddau Gyfammod, &c. Gan John Bunyan. Yr ail argraffiad, wedi ei ddiwigio a'i wellhau Trefecca, argraffwyd dros y cyhoeddwr. 1781. (Pris Swllt).'

Dywedir yn "Hanes Edward Parry, Bryn-Bygad," yn cyf. iii. o'r "Goleuad Cymru,” i'r gwr hwnw gyfieithu y "Traethawd ar y Ddau Gyfammod," trwy gynnorthwy Dafydd James, athraw ysgol yn Llansannan-un o athrawon ysgolion symudol Mr. G. Jones, Llanddowror, mae'n debygol.

5. "Y Beibl Sanctaidd, gyda sylwadau ar bob Pennod. Gan y Parch. Peter Williams."

Yr ailargraffiad; gwel rhif 1, 1770.

6. "Y Catecism Byrraf, a gyflwynwyd gan gymmanfa o Dduwinyddion Westminster i'r ddau dŷ o Barliament. Caerfyrdding, argraphwyd ac ar werth gan J. Ross. Pris dwy geiniog, neu 128. a 6d. y cant.'

7.

[ocr errors]

Halsing, neu gân newydd ar Ddydd Natolic. Gan John Williams, o St. Athan, ym Morganwg. Pontfaen: argraffwyd gan R. Tomos. 1781."

8. "Marwnad, ar farwolaeth Mrs. Grace Price, anwyl wraig y Capten Price, o Waterford, yn sir Forganwg: yr hon a ymadawodd â'r byd, yr 16eg o Dachwedd, 1780, yn y 37 flwyddyn o'i hoed. Wedi bod yn briod â Mr. Price 12 mlynedd.'

[ocr errors]

Hon oedd wraig foneddig, nid yn unig o dylwyth goruchel, a dygiad da i fyny, ac o rinweddau moesol, ond hefyd goruwch y cwbl, wedi dyfod i adnabod yr Arglwydd Iesu; ac yn ei holl fywyd a'i hymarweddiad yn byw yn addas i'w phroffes; yn llawn o bob rhinweddau nefol, tiriondeb, ffydd, addfwynder, tosturi, haelioni, gostyngeiddrwydd, a chariad at bawb, gwlad a theulu, ac yn enwedig at eglwys Crist, i'r hon yr oedd hi yn fam, yn chwaer, ac yn fammaeth ffyddlawn. Ac yn ei chlefyd diweddaf, yr hwn oedd y pleurisy, a ddangosodd y fath ffydd, wroldeb, amynedd, a boddlondeb, ag a synodd ar bawb ag oedd yn bresennol. Ac ymadawodd â'r byd tan ganu,

"O Iachawdwr pechaduriaid, sydd â'r gallu yn dy law, &c."

Yr ailargraffiad. Aberhonddu, argraffwyd dros yr awdwr gan E. Evans, 1781. Yr awdwr ydoedd hen fardd Pant-y-celyn.

9. "Cyssuron Dwyfol : neu Addewidion Gwerthfawr; er Annogaeth i Gredinwyr; gyda Gair o Gynghor. Wedi ei gyfieithu o'r Saesonaeg, er budd i'r Cymru. Mwythig; argraphwyd gan T. Wood, lle gellir cael argraphu pob math o lyfrau Cymraeg, wedi eu diwigio yn ofalus, ac am brîs gweddaidd. M,DCC,LXXXI. (Pris Ceiniog yr un.)"

10. "Atteb i Bob Dyn a ofynno Reswm am y Gobaeth sydd ynom mewn ffordd o Holiad ac Ateb. Gan Joseph Humphreys. Gyda rhagymadrodd canmoliaethol. Gan Parch. Mr. Whitfield, yn ddiweddar caplan i'r Anrhydeddusaf Iarlles Huntington. Mwythig, argraphwyd gan T. Wood. M,DCC,LXXXI.” 11. "Wele y Chweched Llythyr, ar ddull Pregeth, y testun a gymerwyd o Luc xv. 18, 19. O waith Ellis Roberts, Cowper, Llanddoged. Aberhonddu, argraphwyd gan E. Evans, dros Hugh Williams. 1781.'

12. "Memoirs of the Gwydyr family, &c. By Sir John Wynne. London. 1781."

Gwel rhif 22, 1773; ac yn y "Cylchgrawn," tudal. 87.

13. "A Gentleman's Tour through Monmouthshire and Wales, in the months of June and July, 1774. A new edition. To which is added, an Account of a Journey into Wales. By George, Lord Lyttleton. London: printed for T. Evans. M,DCC,LXXXI.”

Yr awdwr ydoedd Mr. Pennuddock Wyndham.

14. "Llun Agrippa, &c. Y trydydd argraffiad. Trefecca. M,DCC,LXXXI.”

Gwel rhif 1, 1723; a rhif 5, 1779.
1782.

1. "Tair o ymddiddanion rhwng Gweinidog ac un o'i blwyfolion, ar gywir egwyddorion Crefydd, &c. Gan y Parch. Thos. Vivian, A. B., ficar Cornwood, Defon. A gyfieithiwyd i'r Gymraeg, gan y Parch. W. Williams, A. B., curat Caergybi. Amwythig, argraphwyd gan T. Wood, lle gellir cael argraphu pob math o lyfrau Cymraeg, wedi eu diwygio yn ofalus gan Ifan Tomos, M,DCC,XXXI. 2. "Cydymaeth mewn cystudd: neu Hyfforddwr trwy ddyffryn marwolaeth. O gasgliad Peter Williams, gweinidog yr efengyl. Caerfyrddin, argraphwyd gan Ioan Ross. M,DCC,LXXXI."

3. "Bywyd a Marwolaeth yr Annuwiol, dan yr enw Mr. Drygddyn, &c. Gan Ioan Bunyan, awdwr Taith y Pererin Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, gan T. Lewis, o'r pedwerydd argraffiad yn Saesonaeg. At yr hyn y chwanegwyd bywyd a marwolaeth John Bunyan. Lerpwl, argraphwyd gan C. Waseencourt, yn Cook-street. M,DCC,LXXXI.”

Tebygol mai dyma y llyfr Cymraeg cyntaf a argraffwyd yn Lerpwl neu Liverpool. Yr oedd hwn yn ailargraffiad; canys dywedir ei argraffu gan N. Thomas. Yr oedd yn rhaid fod hyny tua'r flwyddyn 1725. John Prichard, Bryniog Uchaf, ger Llanrwst, ydoedd cyhoeddydd yr argraffiad hwn, am yr hwn y ceir peth hanes yn "Nrych yr Amseroedd," gan B. Jones.

4. "Afalau Aur i Bobl Ifange, &c, gan T. Brooks. Ail argraffiad [wedi ei ddiwygio gan Hugh Jones, o Faesglasau]. Rhagymadrodd gan Evan Williams. Argraffwyd yn y Mwythig, gan T. Wood, lle y gellir cael argraphu pob math o lyfrau Cymraeg wedi eu diwigio yn ofalus, gan Ifan Tomos. 1782.”

[ocr errors]

Am yr argraffiad cyntaf, gwel rhif. 5, 1732.

5. Annerch i'r Cymry, o waith Ellis Pugh. Llundain, argraffwyd gan James Phillips. M,DCC,LXXXII.”

Gwaith Crynwr ydyw, o ymyl Dolgellau, a aethai i Philadelphia. Cyhoeddwyd argraffiad arall yn 1802, a chan yr un argraffydd.

6. "Dwy Bregeth; y gyntaf, am y creaduriaid yn myned i mewn i Arch Noa, &c.; yr ail, am y Creaduriaid yn myned allan o'r Arch i fynydd Ararat, &c. Gan Edmund Jones, Gweinidog yr Efengyl. Trefecca; Argraphwyd yn y Flwyddyn 1782."

7.¶"Gwrthodedigaeth yn Brofedig: Neu 'r Athrawiaeth o Etholedigaeth Tragwyddol, a Gwrthodedigaeth, wedi ei ystyried, &c. Gan John Bunyan. Wedi ei Gymreigio gan John Thomas. Argraffwyd yn Nghaerfyrddin, gan John

Daniel."

8. "Crist yn Iachawdwr Cyflawn, &c. Gan John Bunyan. At ba un y chwanegwyd Nodau Profiadol ac Ymarferol, Gan Wm. Mason ac ereill, wedi ei Gymreigio gan y Parch. John Thomas. Argraffwyd yn Nghaerfyrddin, gan John Daniel."

9. q“Llwybrau Nefolaidd, &c. A gasglwyd o Lyfr a argraffwyd yn y flwyddyn 664, fel yr ymddengis trwy gymmeradwyaeth Dr. J. Hall. Wedi ei droi i'r Cymraeg gan J. Davies. Argraffwyd yn Nghaerfyrddin, gan J. Daniel.” 10. "Gorfoledd yn Mhebyll Seion, neu ychydig o Hymnau Efengylaidd a gyfansoddwyd gan Dafydd William. Argraphwyd gynt yn bedair rhan, ond yn awr a argraphwyd yn un llyfr. Aberhonddu argraphwyd tros yr awdwr gan E. Evans, 1782. (Pris tair geiniog.)"

11. "Mer Difynyddiaeth Iachus: neu Bortreuad o'r Cyfammod Gras, a'r Cyfammod Gweithredoedd, &c., mewn dull o Ymddiddan. Gan Edward Fisher, A.M., y trydydd argraphiad. Wedi ei ddiwygio a'i gydmaru, &c. Trefecca; argraphwyd dros y cyhoeddwr, 1782. (Pris Swllt.)"

Gwel rhif 1, 1651; a rhif 1, 1754.

A

12. "Gair yn ei amser: neu Lythyr-annerch i'r cyffredin Gymry, &c. ysgrifenwyd er tawelu, llonyddu, a gystegu y cwynfanau sydd ym mhlith y Cymry yn y dyddiau helbulus hyn; a'u cyfarwyddo at yr iawn amddiffynfs yn nydd trallod. Gan Hugh Jones, awdwr y Myfyrdodau ar Dymhorau 'r Flwyddyn, &c. Mwythig, argraffwyd gan T. Wood, &c. Pris dwy geiniog. 1782."

Yr awdwr ydoedd y diweddar H. Jones, o Faesglasau, ac ewythr i Mr. H. Jones (Erfyl), Caerlleon.

13. Llythyr y Gymanfa at yr Eglwysi, yn y flwyddyn 1782. Caerfyrddin, argraffwyd gan I. Ross, yn Heol-Awst.

Gan W. Williams.

14. "Telynau i Blant yr Addewid, i'w canu ar eu taith o'r Aipht i Ganaan nefol: neu ychydig o Hymnau efengylaidd, &c. A gyfansoddwyd gan Dafydd Williams. Aberhonddu, argraffwyd dros yr awdwr, gan E. Evans, 1782."" 15. "Rhai Hymnau newyddion, ar fesurau newyddion. Yr ailargraffiad. Aberhonddu, argraffwyd gan E. Evans, 1782." 16. "Tystiolaeth o Ffydd ac Ymarferiad Eglwys Crist, yn Carter-lane, Southwarc, yn Llundain; Tan ofal gweinidogaethol Dr. John Gill: A ddarllenir ac a gydsynir à hi ar dderbyniad Aelodau. A gyfieithwyd, ac a gyhoeddwyd ar draul Dafydd Hughes o Lanelli, yn Sir Gaerfyrddin, ar ddymuniad amryw Ewyllyswyr da. Aberhonddu, argraphwyd gan E. Evans, 1782."

17. "Rhai geiriau ar ddull Marwnad ar farwolaeth yr anwyl a'r ffyddlon frawd John Philip o Lwyn-gyferthwch, ymhlwyf Llanelli. Ynghyd a rhai Hymnau

« PreviousContinue »