Page images
PDF
EPUB

Tuag at brofi anfarwoldeb yr enaid, rhaid i ni sylwi ar unoliaeth sylwedd yr enaid. Un ydyw; ac felly nid yw yn agored i lygru a darfod fel y corff, yr hwn sydd wedi ei wneuthur i fyny o ronynau. Nid yw gronynau y corff yn darfod, ond newid eu sefyllfa y maent; ac felly, nid oes genym un rheswm dros gredu fod meddwl yn darfod pan yn newid sefyllfa. Mae amryw resymau yn cael eu dwyn ymlaen, heblaw hyn, dros gredu anfarwoldeb yr enaid, ond rhaid addef nad yw y cyfan ond tebygolrwydd. I'r Bibl yn unig yr ydym yn ddyledus am sicrwydd ar y pwnc yma. ddiweddaf, sylwn ar ein dyledswyddau tuag atom ein hunain. Dylem ofalu peidio ymarfer â drwg, peidio gwneyd dim fyddo yn tueddu i leihau ein rhinwedd, gan y bydd hyny yn lleihau ein cysur. Dylem hefyd ymdrechu am wybodaeth, a diwyllio ein meddyliau ein hunain, a chynnyddu ein dedwyddwch meddyliol, moesol, a chrefyddol.

Yn

Dyma ni wedi gosod o flaen ein darllenwyr sylwedd athroniaeth Brown, fel ei dadblygir yn ei ddarlithiau. Rhaid i ni, cyn dybenu, ddyweyd ychydig am ragoriaethau a diffygion Brown, fel athronydd. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ond tra afreolaidd, a helaeth yn hytrach na gofalus a dwfndreiddiol. Yr oedd yn feddyliwr grymus, trefnus, a gafaelgar; yn gallu edrych ar ei bwnc yn ei holl ranau, gan nad pa mor helaeth. Mae amrywiaeth ei bethau, helaethder y maes y teithiai drosto, a'r trefnusrwydd â pha un y gosodai y cyfan ger bron y darllenydd yn ei ddarlithiau, yn brawf o hyn. Yr oedd Brown yn brydydd pur enwog; cyhoeddodd amryw ddarnau prydyddol yn moreu ei oes. Fel y cyfryw, meddai ar gyflawnder o iaith, yr hyn a'i galluogodd i osod allan bwnc a ystyrid bob amser yn sych, mewn iaith ddestlus a hynod ddarllenadwy. Fel adeilad brydferth, yn cyd-daro yn ei holl ranau, y mae cyfundrefn Brown yn rhagori ar un a fu o'i blaen. Y mae yn gyson âg ef ei hun trwy ei holl ddarlithiau hirfeithion. Fel prawf o hyn, gellir dyweyd fod lliaws o feddylwyr goreu Lloegr a Scotland wedi ei ddarllen, a'i gymeradwyo fel yn hollol ddifai. Pa fodd bynag, rhaid i ni ddyweyd, er mor brydferth yw yr adeilad, ac er mor hardd y lliwiau â pha rai y mae gwedi ei haddurno, fod y sylfaen yn ddrwg, ac felly yn gosod yr holl gyfundrefn mewn perygl. Mae ar brydiau hefyd yn rhy brydyddol, ac felly yn gwneyd ei frawddegau yn rhy faith, ac yn cryglwytho mwy o eiriau nag sydd anghenrheidiol er gosod allan ei feddwl. Mae wedi dyfynu llawer iawn o weithiau prydyddol a dychymygol ei oes, er eglurhau ei bwnc; ond nid yw yn gwneyd ond ychydig iawn o sylw o weithiau athronyddol, oddigerth i'w condemnio. Tebyg na threuliodd Brown ryw lawer o amser at gyfansoddi ei ddarlithiau; a'r canlyniad naturiol o hyn ydoedd, ei fod wedi gwneyd cam â'r gweithiau athronyddol a adolygai, trwy gyhoeddi ei farn arnynt cyn eu chwilio; ac yn enwedig, wedi cymeryd yn ganiataol rai pethau a ddylasent gael eu chwilio yn fanylach.

Yr oedd Brown yn meddu ar alluoedd arddansoddol a chydansoddol (analytical a synthetical powers), ond yn dra diffygiol mewn meddyldraidd (intuition). Ni wnai dim y tro iddo ef oni oddefai gael ei ddosranu, neu ei gymharu; o ganlyniad, gadawodd egwyddorion sylfaenol crediniaeth, y rhai ydynt wrthddrychau meddyldraidd, yn ddisylw, oddigerth lle yr oedd yn rhaid iddo eu haddef, neu syrthio i dir anffyddiaeth; oblegid hyn gellir dyweyd fod athroniaeth Brown yn ein harwain yn ol i dir meddyliaeth ac anffyddiaeth, yn lle ein harwain ymlaen at dir disigl y gwirionedd, yn ol

esiampl Reid. Nid ydym yn petruso dyweyd fod athroniaeth Brown, pe gweithid hi allan, mor sicr o arwain i anffyddiaeth, a hyny yn gynt nag y darfu i'r eiddo Locke, arwain Hume yno. Dywed Syr William Hamilton, fod darlithiau Brown yn achos ac yn brawf o esgeulusiad athroniaeth yn Lloegr. Darfu gweled dyn mor alluog a Brown, (oblegid nid oes neb feiddia ammheu ei alluoedd), yn troi o'r neilldu y cyfundrefnau oedd eraill wedi bod yn adeiladu am flyneddau, fel pethau diwerth, beri i lawer feddwl nad oedd athroniaeth ddim ond defnydd twyll, a defnydd cynnen rhwng athronwyr. Ac nid oedd neb wedi dychymygu llai, nad oedd Brown yn un o'r ysgrifenwyr mwyaf gwreiddiol a chywir fu erioed, hyd nes i'r meddyliwr mawr hwnw (yr hwn a ystyrir yn gyffredin fel y meddyliwr cryfaf, a'r athronydd goreu yn Ewrop, os nad yn y byd) Syr William Hamilton, ei gymeryd mewn llaw, a dangos ei fod yn ddyledus i De Tracy, Condillac, ac eraill, am y pethau goreu yn ei ddarlithiau, ac hefyd ei fod wedi camsynied y rhan fwyaf i gyd o'r athronwyr mae yn enwi er eu condemnio. Gwir fod Brown, wrth ail ranu y galluoedd meddyliol, wedi dyfod yn agos iawn at y dull a gymeradwyir gan y rhan fwyaf o athronwyr yn bresennol, sef teimleddaeth, deallaeth, ac ymdeimlad. Ond mae yr enwaua arferodd yn dra annerbyniol, sef yr allanol a'r mewnol; oblegid, yn ol cyfundrefn Brown, yn y meddwl mae teimledd, yn gystal a barn neu ymdeimlad. Dylai pob dosbarth, medd Morell, gael ei hynodi gan rywbeth perthynol iddo ei hun, ac nid rhywbeth a'i blaenorai. Mae Morell hefyd yn anfoddlawn i'r geiriau Ailddyrchiad syml a pherthynasol, yn lle cymdeithasiad meddyliau, a geiriau eraill a arferid yn gyffredin gan athronwyr; a meddylia mai gwaith ofer yw profi, pe gellid, mai math o ailddyrchiad yw barn a chof, oblegid nid yw y cyfan ond dadl am briodoldeb enw. Mae hefyd yn anfoddlawn arfer y gair sefyllfa meddwl yn lle gallu, ac amryw ymadroddion eraill, a ddynodant weithrediad a rhyddid y meddwl dynol. Nid cadwen, ond edafedd, yw ein hymwybyddiaeth (consciousness.) Nis gallwn ddyweyd, Yr wyf yn bresennol yn bodoli mewn un sefyllfa o ymwybyddiaeth, ac yna symud i un arall. Mae bodoli a chynnyddu yr un peth i ymwybyddiaeth. Yn lle edrych ar y meddwl ynte fel dilyniad o sefyllfaoedd, yr ydym yn nes i'n lle, pan yn edrych arno fel unoliaeth fywiol yn meddu ar alluoedd. Mae tuedd amlwg y cyfnewidiad at deimleddiaeth yn lleihau ein teimlad o hunan, fel ffynnon annibynol gallu, a thuedda i'n harwain i edrych ar y meddwl fel bod dyoddefol.

Tebyg fod Brown wedi ei arwain i'r golygiadau yna, fel y sylwa Morell, gan ei olygiadau ar achos ac effaith. Dywedai Brown, nad oes genym un dybiaeth am achos ac effaith, ond sydd gynnwysedig mewn cyson ddilyniad yr un amgylchiadau. Hyny yw, nis gallwn ffurfio un meddylrith am allu annibynol heb fod mewn gweithrediad, ond y meddwl Dwyfol. O'r fan yma, arweiniwyd ef i edrych ar y meddwl dynol fel rhywbeth yn cael ei ddylanwadu, ac anghofiodd fod ganddo allu annibynol er dylanwadu, yn gystal a derbyn dylanwad. Yr ydym ni yn hoffi barn Syr William Hamilton, yr hwn sydd yn dyweyd fod y dybiaeth o achos yn sylfaenedig ar wendid ein galluoedd meddyliol. Rhaid i ni gredu fod y fath beth ag achos, er nas gallwn ei amgyffred; oblegid, tra ar y naill law nas gallwn amgyffred dechreu annibynol, ar y llaw arall, nis gallwn amgyffred cadwen ddiderfyn heb ddechreu.1 Y camsyniad nesaf o eiddo Brown

1" Hamilton's Essays:" tudal. 591.

464 ATHRONIAETH Y MEDDWL, GAN DR. THOMAS BROWN.

oedd camsyniad ffeithiau ymwybyddiaeth. Dywedai fod ymwybyddiaeth yn profi bodolaeth meddwl, ond nad oedd yn profi bodolaeth defnydd. Gorfyddid Brown, yn gystal ag eraill, i addef ei fod yn credu yn modolaeth byd allanol. Ond dywedai, nad oes genym wybodaeth uniongyrchol am ei fodolaeth. Gosodir ei gredo allan gan Hamilton fel y canlyn:-Nis gallaf lai na chredu fod defnydd. Nis gallaf lai na chredu mai y defnydd hwnw yw y gwrthddrych a ganfyddir genyf yn uniongyrchol. Mae y cyntaf o'r credoau hyn, medd Dr. Brown, yn anwrthwynebol, ac am hyny, yn wirionedd. Mae yr olaf, medd Brown, wrth weithio allan ei gyfundrefn, er yn anwrthwynebol, yn anghywir. Ac yna, nid yn unig y mae dwy grediniaeth wreiddiol yn gwrthdaro eu gilydd, ac ymwybyddiaeth, o ganlyniad, yn dwyllodrus, ond y mae y gred a dderbynir fel yn iawn yn ymddibynu am ei chywirdeb ar y llall, yr hon yn ol ei ymresymiad ef sydd yn anghywir. Mae yn gwneyd ymwybyddiaeth yn gelwyddog. Yr ydym yn credu mai y byd defnyddiol yw yr hwn ydym yn ganfod, ond dywed Brown, Nagê, ond arddangosiad o hono yn y meddwl. Fel hyn, wedi i ni gael ein twyllo unwaith gan ein hymwybyddiaeth, nis gallwn ymddiried ynddi mwy am ddim oll. Mae yn dra hynod fod Brown wedi meddwl fod Reid o'r un farn ag ef ar y pen yma, ac nad oedd holl ymresymiadau Reid yn erbyn y camddefnydd a wnaed gan athronwyr â'r gair meddylrith, ond siarad ofer, gan fod yr holl athronwyr diweddar, er amser Descartes, yn ei arferyd yn yr un ystyr a Reid; pan mewn gwirionedd, mai o amser Descartes ymlaen y dechreuwyd arfer y gair yn yr ystyr mae Reid yn gondemnio. Ond mwy rhyfedd fyth yw y camsyniad a wnaeth Brown o ymresymiad Hume, yn erbyn bodolaeth defnydd, a'r rhesymau a ddygodd Reid er dymchwelyd ei gasgliadau anffyddaidd. Dengys y cyfan wirionedd yr hyn a sylwasom eisoes, fod Brown yn darllen ac yn cyfansoddi yn rhy gyflym, ac heb gymeryd amser i ddeall yr awdwyr y cyfeiria atynt.

Mae yr un diffygion i'w canfod yn ei athrawiaeth foesol, fel y gellid dysgwyl, ag sydd yn ei athroniaeth am y meddwl. Nid yw wedi cynnyg chwilio i bwnc hanfodol moesoldeb, sef rhyddid yr ewyllys. Mewn gair, nid oes lle i'r ewyllys weithredu yn ei gyfundrefn ef; ac o ganlyniad, nid oes y fath beth a rhinwedd yn ei farn ef, ond fel y mae yn ymddibynu ar weithredwyr. Felly os yw rhinwedd yn ymddibynu ar gymeradwyaeth y meddwl, mae yn bosibl i'r meddwl gyfnewid, ac felly dyfod i gymeradwyo drwg; o ganlyniad, daw drwg yn rhinwedd. Fel hyn, gadawodd Brown ar ei ol gyfundrefn o foesoldeb, yr hon, pe ei gweithid allan i'w heithafion, a dorai i lawr yn hollol y gwahaniaeth sydd rhwng drwg a da. Tra yn cymeradwyo sylwadau ymarferol Brown, ac yn teimlo yn ddiolchgar am ei raniadau trefnus, a'i ddulliaith ddestlus, eto, teimlwn rwymau arnom i anghymeradwyo y seiliau ar ba rai y mae wedi adeiladu cyfundrefn mor brydferth; neu yn hytrach, dywedwn ei bod yn drueni o'r mwyaf fod adeilad mor hardd wedi ei osod ar seiliau mor dywodlyd, a sylwadau mor dda oblegid diffyg eu hegwyddorion sylfaenol yn arwain i ganlyniadau mor ddinystriol i athroniaeth a moesoldeb. Pwy bynag fyddo am weled ychwaneg, cyfeiriwn ef at "Hanes Athroniaeth," gan Morell, yr ail gyfrol, a darlithiau Syr William Hamilton.

"Hamilton's Essays:" tudal. 90.

Wrth derfynu, dywedwn air am ein geiryddiaeth. Cyferfydd y darllenydd âg amryw eiriau newyddion o ran dull; gorfodwyd ni i hyn, oblegid diffyg geiriau. Yr ydym wedi gosod gair Seisneg ar ol pob gair dyeithr y tro cyntaf yr arferwn ef; ond ofer fydd i'r darllenydd droi i'r Geirlyfrau Cymraeg a Seisneg er gweled a oeddem yn iawn, gan mai anaml y cawsom ynddynt eiriau yn taro, a chymerasom ein rhyddid i gyfansoddi, er nad i greu, geiriau at ein pwrpas. Gwnaethum oreu y medrem yn hyn, a lle yr ydym yn gamsyniol, byddwn ddiolchgar am oleu. Byddai yn dda genym weled rhestr o eiriau athronyddol oddiwrth ryw un cyfarwydd.

Dygwyddodd gwall yn tudal. 454, llinell 25. Darllener," Amser sydd yn rhoddi i ni feddylrith am hyd, ac nid hyd sydd yn rhoddi meddylrith am amser."

MOESGARWCH.

Y MAE yn ddywediad cyffredin trwy Ewrop am y Seison, nad ydynt, yn nghanol eu holl enwogrwydd, yn enwog fel cenedl am foesau da tuag at eu gilydd, a thuag at ddyeithriaid. Hen ddiareb a ddywed," Sais am onestrwydd, a Ffrencyn am foesgarwch." Y mae cenedl y Ffrancod, o oes i oes, yn cael eu cyfrif yn foneddigeiddiach eu hymddygiadau cymdeithasol na'r Seison. Ond yn hyn, y mae eisieu, medd De Quincy, dal y fantol yn deg. Os yw pobl Lloegr yn pallu yn rhy fynych mewn ymddangosiad o barch tuag at eraill, y mae pobl Ffrainc, medd efe, yn pallu mewn parch tuag atynt eu hunain. Pa fodd bynag, mae y Cymry fel cenedl yn cael eu golygu yn gyffredin ymhell ar ol y Seison mewn moesgarwch; cyfrifir eu bod, yn debyg i'w mynyddoedd, yn fras a geirwon i'r rhai a ddynesão atynt. Nid ydyw pob hen ddiareb, a phob hen sylw cyffredin, i'w credu fel gwirionedd efengyl; ac y mae ambell nodiad hysbys am dylwyth, ac am genedl, wedi ei ystrydebu a'i gymeryd yn ganiataol, heb fod y cywirdeb eithaf yn sail iddo. Dichon, os bernir barn gyfiawn yn lle barnu wrth y golwg, fod cymaint o elfenau gwir foesgarwch i'w cael yn Nghymru, yn ol ei maint, ag yn Lloegr, os nad mwy; ac nad ydyw coethder y Ffrancwr defodol, ond arwynebedd ymddangosiadus mewn cyferbyniad i foesau da Cymro call. Ond y mae yn rhaid cyfaddef nad yw y mater hwn, ar y cyfan, wedi cael yn ein gwlad ni y lle priodol a berthyn iddo; ac hwyrach fod llai o athrawiaethu teilwng arno yn y genedlaeth hon nag a fu yn mysg ein tadau. Yn sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, yr oedd Mr. Charles, o'r Bala, yn ofalus iawn am i'r athrawon ddysgu egwyddorion moesgarwch, gydag egwyddorion crefydd, i'r plant a'r bobl ieuainc; ac efe a roddodd bennodau o reolau rhagorol ar weddeidd-dra mewn ymddygiadau cyffredin yn ei "Sillydd." Ond, hyd yr ydym ni yn deall, rhy anfynych yn y dyddiau presennol, y dysgir gwersi o'r natur hyn i'r ysgoleigion Sabbothol, nac mewn cynnulliadau cyhoeddus eraill; ac nid yn aml y cyffyrddir â'r pwnc yn ein cylchgronau cyfnodol. Mae yn ddigon gwir, mai nid hyn yma yw y peth pwysicaf sydd yn orphwysedig arnom; y mae llawer gwirionedd uwch yn galw ein sylw, a dyledswydd fwy yn gofyn ein hufudd-dod, na'r deongliad a'r ymarferiad o foesgarwch. Ond megys y mae y meini llai, yn gystal a'r rhai mwy, yn anghenrheidiol mewn adeilad

aeth, felly y mae moesgarwch yn ei le ei hun yn rheidiol er perffeithio a phrydferthu adeilad crefydd a rhinwedd.

Y mae ei rith i bob peth da; felly y mae rhith-foesgarwch yn bod. Mae rhai yn meddwl mai bod yn foesgar yw gosod eu hunain mewn rhyw ffurf gelfyddydol a chymhenllyd; astudio rhestr o funudiau, ystumiau, a seremonïau, ac arfer y rhai hyny ar bob achlysur, megys pe byddent yn epaod, ac nid yn berchenogion eneidiau rhesymol. Mursendod yw hyna, ac nid moesgarwch. Nid mewn dilyniad ffyddlawn o'r cyfryw reolau a'r eiddo Arglwydd Chesterfield yn ei lythyrau at ei fab, y mae iawn foesgarwch yn gynnwysedig. Yn y llythyrau hyny, medd awdwr gonest, dysgir moesgarwch dancing-master yn gymysgedig â moesoldeb puten. Moesgarwch rhai pobl, nid ydyw ond gweniaith a thwyll; gyda thafod fel ymenyn, a geiriau fel mêl, maent yn coleddu calon lawn o falais a chenfigen; fel y dywed yr hen air, "Gwên deg a gwenwyn dani." Mae gan y teigr creulawn groen teg a llathraidd, ac nid gwell yw pobl y geiriau mwynion a'r ysbrydoedd hunangar. "Efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf, a'i galon

heb fod gyda thi."

Gellir dywedyd fod gwir foesgarwch yn gynnwysedig mewn tueddfryd serchog, hynaws, cyfeillgar, caredig, a hunanymwadol,-awydd ac ymdrech i ddedwyddu pawb o'n hamgylch,-parodrwydd i gydffurfio âg archwaethau ac arferion eraill, mewn pethau na byddom yn halogi egwyddor a chydwybod wrth wneuthur hyny,-dewis cysur ein gilydd o flaen yr eiddom ein hunain,-egniad gwastadol i beidio rhoddi poen i neb, ond i weinyddu hyd y gallom hyfrydwch i bawb. "Yr egwyddor gyffredinol,” medd Dr. Johnson, 66 ar ba un y mae pob moesgarwch yn seiliedig, ac oddiwrth ba

un y deillia yr holl ddefodau moes a sefydlwyd yn mysg cenedloedd gwar

eiddiedig, ydyw, Nad oes i un dyn roddi y blaenoriaeth iddo ei hun; rheol mor gynnwysfawr ac mor sier, fel nad yw, fe allai, yn hawdd i'r meddwl ddychymygu am un math o anfoesgarwch, heb dybied fod y rheol hon wedi ei thori." Mae yr un reol yn cael ei rhoddi gan un llawer mwy na Johnson, yn y geiriau hyny, "Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'ch gilydd, yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd;" sef, yn blaenori eich gilydd mewn rhoddi parch: nid mewn gofyn parch.' Yr ydym i arfer

1 Mae yn y Bibl Seisneg air da iawn sydd yn darlunio ac yn arddodi moesgarwch, nad ydyw y cyfieithwyr Cymreig, er eu tra-rhagoriaeth yn gyffredin, wedi gallu ei drosglwyddo yn ddedwydd i'r Cymry: "Be courteous," 1 Pedr iii. 8. Y darlleniad Cymraeg ydyw, “Yn fwynaidd." Y gair gwreiddiol, medd Mr. Charles, yn y "Geiriadur Ysgrythyrol," a arwydda ymgais yn garedig am wneuthur beth bynag fyddo yn foddhaol ac yn gymeradwy gan eraill; a dyna ydyw hanfod moesgarwch. Yn Nhestament William Salesbury, mae y gair wedi ei roddi yn Saesneg-Gymreigaidd, fel yr arferir ef hyd heddyw mewn rhai parthau o Gymru:-" Yn gwrtais." Yn Act. xxviii. 3, cawn gan ein cymydogion, "And Julius courteously entreated Paul." "A Julius a ymddug yn garedigol at Paul," medd y Testament Cymraeg. "A Julius, gan fod yn gymwynasgar wrth Paul," medd Dr. William Morgan. A Julius a ymdduc yn ddyngar at Paul," medd William Salesbury, gan roddi ar ymyl y ddalen, “ Yn voneddigaidd, yn hawddgar," Ac yn Act. xxviii. 7, lle yr adroddir am ymddygiad Publius, penaeth ynys Melita, at Paul a'i gyd-deithwyr, y Sais a ddarllena, And lodged us three days courteously." "Ac a'n lletyodd dridiau yn garedig," medd ein Bibl ni. "Ac 'an lletyawdd dros dridie yn anwyl," medd William Salesbury, gan ddodi ar ymyl y ddalen, " Yn gu, yn foesawl, yn gwrtais." Mae y gair courtesy vn tarddu o'r gair court; ac felly yn cyfeirio, yn ei ystyr gyntefig, at y moesddull coeth a syber a ddysgwylid mewn llysoedd breninol, ac i addurno ymddygiadau pobl fawrien yn eu cyweithas ag eraill.

« PreviousContinue »