Page images
PDF
EPUB

iol, a dangos ei fod yn wahanol i obaith y cristion yn ei darddiad, yn ei sylfeini, yn ei wrthddrychau, ac yn ei effeithiau; ac yn awr, dyma ni wedi dyfod at ei ddiwedd. Gwahanol iawn ydyw eto yn ei ddiwedd. Fe gaiff un ei wobrwyo yn gyhoeddus gan y Barnwr cyfiawn, mewn cyfarfod mawr, na welodd y byd erioed ei fath; fe gaiff y llall, yn yr un cyfarfod, yn ngŵydd yr un dyrfa ddirfawr, a chan yr un Barnwr cyfiawn, ei dragywyddol gywilyddio. Fe fydd gobaith y duwiol yn byw yn angeu, tra y bydd eiddo yr annuwiol yn trengu hyd yn nod cyn i'r corff farw. Fe fydd holl ddysgwyliadau y naill yn cael eu hanrhydeddu mewn mwynhad, tra y bydd holl ddysgwyliadau y llall yn cael eu cywilyddio mewn siomedigaeth. Tra y dywedir am y cyfiawn, y bydd efe yn gobeithio pan fyddo yn marw, fe ddywedir am y drygionus, y bydd i'w obaith ef ddarfod am dano, y bydd iddo gael ei gywilyddio; ac am y rhagrithiwr, y derfydd am ei obaith yntau, ac y torir ef ymaith; ac fel tŷ y pryf copyn y bydd ei hyder ef: efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. Fe ddywedir am y rhagrithiwr, nad oes obaith iddo, er elwa o hono, pan dyno Duw ei enaid ef allan-y bydd ei ganwyll yn cael ei diffoddi yn y tywyllwch du-ac am na roddodd ogoniant i'r Arglwydd ei Dduw, y bydd iddo ef ddwyn tywyllwch arno, pan y bydd yn taro ei draed wrth y mynyddoedd tywyll, a thra y bydd efe yn dysgwyl am oleuni, y bydd iddo ei droi yn gysgod angeu a'i wneuthur yn dywyllwch! Gellir dyweyd am yr annuwiol a'i obaith, fel y dywedwyd am drigolion Asdod gynt :-" Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia, eu gobaith hwynt, ac o achos yr Aipht, eu gogoniant hwy. A'r dydd hwnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoisom am gymhorth i'n gwared rhag brenin Assyria; a pha fodd y diangwn?"

Fel hyn, ni a welwn fod gobaith yr annuwiol yn bechadurus yn ei darddiad, yn gau yn ei sylfeini, yn isel yn ei wrthddrychau, yn ansanctaidd yn ei effeithiau, ac yn siomedig yn ei ddiwedd!

Gwareded yr Arglwydd ysgrifenydd a darllenwyr hyn o draethawd, rhag gobeithio dianc rhag ei farn ef, ond yn unig trwy ei drefn ef, fel na byddom o nifer y rhai y bydd "eu gobaith fel ymadawiad yr enaid." Gwneled ni oll yn gyfranogion o obaith gogoneddus yr efengyl; y gobaith hwnw ag y mae ffydd yr efengyl yn darddiad iddo, Crist yr efengyl yn sylfaen, iachawdwriaeth yr efengyl yn wrthddrych, sancteiddrwydd yr efengyl yn effaith, a llawn fwynhad o holl fendithion yr efengyl yn ddiwedd dedwydd iddo!

[blocks in formation]

A thuedd ystrywddrwg ei anian,
"Y Blaidd! y Blaidd!
"Mae 'n llarpio 'r praidd !"
Fe wnaeth y gelach diffaith
Hyn yma fwy nag unwaith,
A phobol y pentref, heb ammau,
Yn rhedeg gan gario pastynau,
A phigffyrch, a choesau pladuriau,
A cheryg, o ddiffyg gwell arfau,
Yn wŷr ac yn llangciau, bob gradd,
I ymlid y Blaidd ac i'w ladd:
A'r gwragedd a'r plant yn ymguddio
Gan arswyd i'r Blaidd eu hysglyfio;
A'r hogyn, mewn gwawd ac ysgafnder,
Yn chwerthin, gan watwar eu pryder.
O'r diwedd, cyn pen hir,

Fe ddaeth y Blaidd yn wir,
Gan ruthro i'r ddïadell;
A'r Bugail, heb un ddichell
Na rhith yn awr, yn gwaeddi
Mewn ofn a dychryn difri'
Yn uchel ei ddolef

Ar bobol y pentref,

Fod y Blaidd mewn gwirionedd
Wedi dyfod o'r diwedd :

A hwythau 'n tybied, er ei fynych floedd,
Mai cellwair, fel y gwnaethai gynt, yr oedd :
Ac heb gymmeryd arnynt glywed mo'no,
Dilynai pawb y gorchwyl ag oedd gantho;
A'r Blaidd yn ddiwahardd yn para i larpio,
Ac yntau 'n para o nerth ei ben i floeddio.

Wrth wel'd y Blaidd yn lladd yr ŵyn a'r defaid,
Dywedai wrtho 'i hun y Bachgen diriaid,
"Ni choelir mo 'r celwyddog, hyn sy glir,
"Gan odid neb, er iddo ddweyd y gwir.'

XIX.

YR IAR A'R GATH.

Fe glybu Cath cymmydog
Ryw dro fod Iar dylwythog
Ar ei nyth heb fod yn iach,
Gyd â'i saith o gywion bach.

Fe ddaeth i'w bryd y b'asai 'n burion gwaith
Gael bwytta 'n giniaw ddau neu dri o'r saith.
Ai blys oedd arni newid ei danteithion?

Neu oedd y llygod y pryd hyny 'n brinion?

Neu henaint, hwyrach, oedd yn lleddfu'r chwerwen,
A haws oedd dala cyw na dal llygoden?
Yn llednais araf deg aeth at yr Iar,

A'i geiriau 'n fwyn, a'i bron yn llawn o får.

[ocr errors][merged small][merged small]

"Beth allaf wneuthur erot, anwyl Iar,
"A pheth sydd arnat eisiau, dywed im';
"Mi fyddaf iti 'n gyfaill ac yn går,

"Ac ni's gadawaf arnat eisiau dim. "A fynnit immi eiste' i fynu heno,

"I wylied rhag i ddim dy ddychryn di, "I estyn rhywbeth itti, neu i 'mgomio ? "'Rwy'n hollol i'th wasanaeth, coelia fi. “'Rwy 'n ofni nad yw 'r bobol yma 'n tendio "Llawn ddigon arnat, y beth druan gla'; "Ond pe bai'th ofal arnaf fi, 'rwyn coelio "Y llwyr wellâi d' afiechyd toc y da." Yna medd y Goppog wrthi,

A'i chywion yn ymwasgu dani,
"Yr wyf fi eisoes yn lled lew,
"Diolch yn fawr i ti, Miss Mew;

"A chyntaf oll y llwyr wellâf o'm selni,
Po pellaf fyth oddiwrth fy nyth y byddi."

XX.

Y FRAN A'R PISER.

Gan syched poeth, ar drengu 'n lân
Yng ngwres yr haf ehedai Bran

Weithiau yma, weithiau draw,
Gan roi mynych grawe am wlaw.
Gwelai draw o entrych wybren,
Biser; 'hedai atto 'n llawen,

Ond erbyn dyfod atto,
Yr oedd y dwfr oedd ynddo
Mor isel fel na's galla'i i safn
Gyrhaeddyd dafn o hono.

Fel hyn mae'r byd anhywaith
Yn siommi fyth ein gobaith ;
Yn lle rhoi'r llwyddiant oedd gerllaw,
Gwnaeth i ni gwynaw ganwaith.

Ac felly hithau, druan!
Yn methu 'n glir yrŵan
A chyrraedd dim o'r dwfr, ei nod,
Ŏedd ar y gwaelod gwiwlan.

Ymdrechai dorri 'r llestryn,
A'i droi, à'i thraed a'i gilfyn,
Ond methu llwyddo ('roedd hi'n ddig),
A'i thraed na'i phig na'i hedyn.

"Wel! dyma ben am danaf!—
"Na, na; nid anobeithiaf,
"Ond i gael profi 'r ddiod dda,
"Rhyw fesur a ddyfeisiaf.

"Arhoswch! er fy mod yn awr mewn pall,
"Os nad wyf gryf, mi geisiaf fod yn gall.'

Ac felly 'n sionge
O'sbonge i 'sbonge

[ocr errors]

Casglodd â'i phig gerrigos bychain lawer,
A'u gollwng hwynt o un i un i'r Piser.
Fe godai 'r dwfr yn uwch trwy'r ddyfais yma,
Ac yfai hithau 'n awr o hono 'i gwala.

A glywaist ti a gânt Edwen?
Os byr dy fraich, hir fo 'th ben.
Mam Dyfais yw Angen.

XXI.

YR IYRCHES UNLLYGEIDIOG.

'Roedd Iyrches unllygeidiog
Yn byw mewn porfa welltog
Ar fin y traeth;

A chan y credai 'n hollol
Na ddeuai dim niweidiol,
Na llew na saeth,

O'r môr i'w herbyn, hi ymddygai 'n gall,
Gan gadw 'n wastad atto 'r ystlys ddall;
A chadw'r ochor arall, oedd yn gweled,
Bob amser tu ag at y tir, i wylied.

Ond mynych iawn y siommir ein callineb,
A'n gwaith cyfrwysaf oll yn troi 'n drychineb
A'r hyn a dybiem ni yn ddiogelwch,

Yn aml a dry 'n brif achos poen a thristwch.
Ryw foreu teg fe hwyliai cwch pysgotta
Yn agos i'r fan;

Gwelwyd yr Iyrches, rhwyfwyd atti 'n ara'
Yn nesnes i'r lan;

Ac yna un o'r dynion

A'i saethodd trwy ei chalon.
Hithau, wrth dynu 'r olaf ffun,
Fel hyn a gwynai wrthi ei hun:

"Ys truan o Iyrches wy 'n wir,
"Yn trengu gan archoll y saeth!
"Yr ergyd a'm lladd, nid o'r tir,
"O'r môr, lle nad ofnais, y daeth."
A glywaist ti a gânt Sallwg?
Poed gochelgraff fo 'th olwg:
O'r man na's tybit y daw 'r drwg.

[blocks in formation]

DAMHEGION ESOP.

Mai arnynt hwy 'roedd pwys a baich y llafur,
Er hyn i gyd, ac yntau fyth yn segur.

4 "Na, na; mae yn iawn i bawb gael chwareu teg;
"Ni bu'r fath beth a hyn o'r blaen eriôed;
"Y diocca 'n cael y cwbwl!" medd y Geg.-

"Rwy 'n union o'r un farn," medd Bawd y Troed.
"Ni phlygwn erddo mwyach," ebe 'r Ddeulin;
“Na minnau 'n rhagor," medd y dig Benelin."

5 A'r Dwylaw, "Fe ŵyr pawb mai gweithio'n gorau
"A chaib a rhaw dros amser hir a wnaethom,
"I gadw'r Glwth yn dordyn yn ei foethau;

"Caiff weled weithiau sut i 'mdaro hebom;
"Ni phorthwn mo'no; ni theilyngwn mwy
"Ddal iddo 'i gwppan, na dal iddo 'i lwy.”

6 Ac ebe'r Traed, "Ni cherddwn ninnau chwaith
"I weini iddo nac i'w gario bellach;

66

Crwydrasom erddo 'n galed flwyddi maith

"Heb dâl na diolch: ni wnawn hyny mwyach." "Ni lyngcaf," ebe'r Gwddf, “mo'i ymborth iddo." Ac ebe 'r Dannedd, "Ni chnown ninnau mo'no."

7 Ac yn eu cyngrair ffol dros dro parhasant,

Mewn penderfyniad i newynu 'r Bòl:
Ond cyn pen tri neu bedwar diwrnod gwelsant
Nad oedd eu grwgnach traws i gyd ond lòl:
Hwy ddeallasant fod newynu hwnw,

Yn ffordd i wneud i'r holl Aelodau farw.

8 Y Pen ddechreuai grymmu 'n brudd ei wep;

Y Traed a'r Breichiau aent yn llesg a gwan,
Siaradai'r Tafod yntau 'n is ei glep;

A gwywai'r Corph, a nychai bob yn rhan;
Ac erbyn hyn 'r oedd pawb yn amlwg weled
Na bu'r gwrthryfel ddim i neb ond colled.
9 Ac ebe 'r Tafod, "Wel! fy nghyd-aelodau,
"Rhaid addef ddarfod inni gyfeiliorni ;
"Wrth gospi 'r Bòla, gan ei ddal mewn eisiau
Nyni ein hunain oedd yn cael ein cospi.
"'Roedd yntau hefyd, fel mae'r prawf yn arwydd,
"Yn gwneud ei ran, ei alwad, a'i ddyledswydd.”

66

10 Ac felly daeth pob aelod ynfyd weithian

I'w bwyll yn ol, ac at ei waith priodol;
Gan weithio nid yn unig drosto'i hunan,

Ond dros ei gyd-aelodau 'n gyffredinol;
Gan adde' 'n awr o galon oll ynghŷd
Mai lles pob un yw lles y Corph i gyd.

[blocks in formation]
« PreviousContinue »