Page images
PDF
EPUB

"Ac er godidocced pob un o'r Llyfrau Cymraeg yn ei Le a'l Swydd briawd; etto mi a ryfygwn orchymyn i ti dri 'n enwediccaf öll, megis o les cyffredinach ac anghenrheitiach na'r lleill i gŷd. Oherwydd at Waith Iachaydwriaeth a phôb gorchwyl arall, mae tri pheth yn anghenrheidiol cyn yr êl byth i ben; Yn 1. rhaid i ti wybod beth yw'r gwaith, at hynny mae Llyfr oll Ddyledswydd yn yn odiaeth i yspysu i ti 'r cwbl a ofynnir gennit; Yn 2. rhaid i ti ymroi yn hollawl i gychwyn ac i ganlyn ar y gwaith, ac at hyn y daeth Llyfr y Resolusion yn unswydd i roi cwbl o'th fryd a'th fwriad ar wasanaethu Duw; Ac Yn 3. cyn yr elech byth yn weithiwr hwylus rhaid i ti gael y Moddion a'r Arfeu'r Messurae y gwaith, ac am y rheiny odid oes un drysorfa gyfoethoccach a llawnach na'r Llyfran hwn.”

Yn canlyn y mae englynion "At Gyfieithydd Rheol Buch. Sanct.," gan "Edm. Prys, ficer Clynog fawr, yn Arfon;" ac yn Llading an "Fulco Pricæus Llanlhyonce Parochus Arvonensis;" ac "At Ddarllenydd," gan E. W. ei hun. Dywedir mai mab i Edmwnd Prys, yr archddïacon, oedd "Fulco Pricæus," neu Ffoulke Prys, ac fe allai mai brawd iddo oedd "Edm. Prys, ficer Clynog fawr, yn Arfon." Gan fod peth hanes am Ellis Wynn wedi ymddangos yn y "Traethodydd" o'r blaen, tröed y darllenydd yno. Pan dorodd yr anghydfod allan yn nheyrnasiad Siarl 1., cafodd ef, J. Taylor, nodded yn Golden Grove, yn sir Gaerfyrddin, ac yno yr ysgrifenodd y rhan fwyaf o'i lyfrau.

4. "Blaenor i Gristion yn ei arwain ef at y pethau a ddylai ef eu credu, gwneuthur, a'i gobeithio. At ddiwedd pa un y dodwyd Gweddiau i'w har feru ar amryw achosion. O gyf. Joh. Williams, A.M., Person Llanfrothen. Llundain." 8plyg.

Dywedir mai yn Gwylan, ger Maentwrog, yr oedd Mr. Williams yn anneddu.

5. Summary View of the articles against the Bishop of St. David's." Yr esgob hwn oedd Dr. Thomas Watson. Yr achos o'i gŵyn yn erbyn yr esgob oedd, iddo, wedi cymeryd llw o ffyddlondeb i William, ddangos ei hun yn fwy ffafriol i Iago; ac hefyd am Simoniaeth-derbyn arian am leoedd neu fywiolaethau eglwysig. Cafodd ei ddiswyddo yn y flwyddyn 1697, wedi tair blynedd o ymgyfreithio.

1702.

1. "Ychwaneg o Eglurhad am ffydd Plant bychain, neu ateb i wrth-resymau Mr. Keach a Mr. Nercot yn erbyn Bedydd Plant, ac amddiffyniad o'r rhesymau tros eu bedyddio," &c. 12plyg.

Fe allai mai gwaith Mr. James Owen oedd hwn. Nid ydym wedi ei weled, na llyfr Narcott ychwaith.

2.

Mwythig." 8plyg. Gan Dafydd Maurice, Splyg.

"Godidowgrwydd Rhinwedd, ac effaith yr Efengyl. 3. "Cynffwrdd i'r Gwan Gristion, neu 'r Gorsen ysyg. D.D., &c. Dorrington, Rhydychain." Dyna fel y rhydd Moses Williams; ond mae yn dra thebyg mai Theophilus Dorrington oedd yr awdwr, ac mai cyfieithydd yn unig oedd Dr. Maurice. Gwel rhif. 3, 1700. Y mae hanes helaeth am Dr. Dafydd Maurice yn y "Cambrian Register."

4. "The History of Wales; Comprehending the Lives and Succession of the Princes of Wales, from CADWALADER the last King, to Llewelyn, the last Prince of British Blood. With a short account of the Affairs of WALES, under the kings of England. Written originally in British by Cardoc of Lhancarvan, and formerly published in English by Dr. Powell. Now newly augmented and improved by W. Wynne, A. M, and Fellow of Jesus-Colledge, Oxon. To which is added a Map of Wales by J. Sellers. London: Printed

for John Senner, oposite to the South Portico of St. Clement's Church in the Strand. 1702."

Y trydydd argraffiad. Gwel rhif. 1, 1584; a rhif. 1, 1697. Y mae yr argraffiad uchod yn ddiffygiol o'r dernyn rhagorol hwnw o eiddo Dr. Powell, a elwir "Winning of the Lordship of Glamorgan or Morganwg out of the Welshmen's hands," yr hwn a roddwyd iddo gan Mrs. Blanch Parry, wedi ei ysgrifenu gan Syr Edward Stradling.

5. "A large Review of the Summary View of the articles against the Bishop of St. David's."

Gwel rhif. 5, 1701.

1703.

1. "Hymnau Sacramentaidd 'Scrythyrol. Gan T. B., h.y. Thos. Baddy, Llun

dain." 8plyg.

2. "Pasc y Cristion, &c. Thomas Doolittle, M.A. O gyfieithiad T. B., h.y. Thomas Baddy, Llundain." 8plyg.

3. "Cristionogrwydd yn gymwys, &c. Gan C. Ellis, Llundain." 8plyg. 4. " Agoriad yn agor y ffordd i bob dealltwriaeth cyffredin i wneuthur dosparthiad rhwng y Grefydd y mae'r bobl a elwir Quakers yn ei chyfaddeu, a'r Gwyrdroeadau, Camosodiadau, a drwg enllib eu hamryw wrthwynebwyr; yn gystal ar eu Gwyddorion a'u Harferion. Efog anogaeth i bob Dyn i ystyried eu ffyrdd a'u Crefydd, ac i ddychwel yn brysur at yr Arglwydd." Splyg.

5. "Na thwng ddim. Llundain." 12plyg.

6. "Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Gan Ellis Wynne. Llundain." 12plyg. Yr oedd Ellis Wynn yn LL.B. medd rhai, ac yn byw yn Lasynys, ger Harlech, yn sir Feirionydd. Claddwyd ef yn Llanfair, ger Harlech, sir Feirionydd, Gorphenaf 17eg, 1734: gwel y "Traethodydd." Yr oedd Mr. Theophilus Jones, awdwr "History of Breconshire," wedi cyfieithu y llyfr hwn i'r Seisoneg; ond bu farw cyn ei gyhoeddi. Ond dichon nad oedd Mr. Jones wedi gweled gwaith yn Seisoneg yn hollol gyffelyb, ac yn llawer helaethach. Y mae hwnw o'n blaen yn bresennol; ac yn wir y mae y tebygoliaeth yn fawr iawn. Meddyliodd llawer mai cyfieithu hwnw yn llythyrenol a wnaeth Ellis Wynne; ond ni a gymerasom beth trafferth i wneyd ymchwil lled fanwl, ac ni fedrasom weled cymaint ag un dernyn cyfieithedig, er fod y drychfeddyliau wedi eu mabwysiadu, a'r iaith wedi ei hefelychu. Y mae y Seisoneg yn cynnwys saith o weledigaethau:"The First Vision of Algouazil (or Catchpole) possest." "The Second Vision of Death and her Empire." "The Third Vision of the Last Judgment." "The Fourth Vision of Loving Fools." "The Fifth Vision of the World." "The Sixth Vision of Hell." "The Seventh Vision of Hell Reformed." Y mae gan y "Bardd Cwsg" yntau ei "Vision of the World," yn ei "Weledigaeth Cwrs y Byd;" ei "Vision of Death and her Empire," yn ei "Weledigaeth Angeu yn ei Freninllys;" a'i "Vision of Hell," yn ei "Weledigaeth Uffern." Y maent yn gosod allan yr un cymeriadau ;"y Prydydd a'r Offeiriad;" "Bradshaw, Pontius Pilat, Nero, Caligula ;" "Angeu Ofn," ac "Angeu Cariad;" "Pothecariaid," a "Witches;" a darlunir rhyw ofergoelwyr Pabaidd yn ymofyn y ffordd i Baradwys, ac yn ei cholli, agos yn yr un geiriau gan y ddau, ac eto nid mor agos i'w gilydd ag i fod yn gyfieithiad. Er mwyn dangos i'n darllenwyr y tebygoliaeth, ni a roddwn un dosran:

"Going further on; I was gotten into a crowd of Taylors, that stood up sneaking in a corner, for fear of the Devils. At the first door, there were Seven Devils taking the

Names of those that came in and they ask'd me mine, and my quality, and so they let me pass. But examining the Taylors; These Fellows (cry'd one of the Devils) came in such shoals, as if Hell were made only for Taylors. How many are they? They must be more than a Hundred, says t’other, if they be Taylors; for they never come under a Thousand or Twelve Hundred strong. And we have so many here already, I do not know where we shall stow them. Say the word, my Masters, Shall's let them in or no? The poor Pricklice were damn'dly startled at that, for fear they should not get in: but in the End, they had the Favour to be admited. Certainly, said I, these Folks are but in an ill Condition, when 'tis a Menace for the Devils themselves to refuse to receive them. Thereupon a Huge Over-grown, Club-footed, Crump-Shoulder'd Devil, threw them all into a Deep Hole. Seeing such a Monster of a Devil, I ask'd him, how he came to be so deform'd. And he told me, he had spoil'd his Back with carrying of Taylors; For, said he, I have been formerly made use of as a Sumpter to fetch them; but now of late they save me that labour, and come so fast of themselves, that 'tis one Devil's work to dispose of them. While the Word was yet speaking, there came another Glut of them; and I was fain to make way, that the Devil might have Room to work in, who pil'd them up, and told me, they made the best Fewel in Hell."

Digon yw hyna er dangos fod yn rhaid ddarfod i Ellis Wynne redeg i ysbryd y gwaith Seisonig hwn; ac nid Seisonig mo hono ychwaith, eithr cyfieithiad o waith Ysbaenaeg Don Francisco de Quevedo, yr hwn sydd gyfan genym, ond y gwyneb-ddalen. Yn lle Vintner yr Ysbaenwr, y mae y "Bardd Cwsg" yn cymeryd y Tavarner; ac felly efe a ailfoldiodd y cwbl i'w gyfaddasu i'r Cymry a Chymraeg, gan gadw ei ddullwedd a'i iaith drwyddo yn hollol fel pe buasai wreiddiol. Y mae yr esiamplau eraill sydd genym o eiddo Ellis Wynne yn ei ragymadroddion i "Lyfr Gweddi Gyffredin," 1707, ac i'r "Rheol Buchedd Santaidd," yn dangos fod y dull dychymygol barddonol yn eithaf naturiol iddo; yr hyn a wnae iddo yn ebrwydd yfed ysbryd beth bynag a gaffai yn tueddu i'r dull hwnw; yr hyn a brawf wirionedd yr hen ddïareb,-"Pob cyffelyb ymgais."

7. ¶"Ymadroddion Gweddaidd ynghylch diwedd y Bŷd, neu dieddiad at yr amser a ddigwyddo Dydd y farn, yn cynnwys hefyd mwy na 200 o Englynion Duwiol o erfyniad am drugaredd. Mwythig." 8plyg.

8. ¶"Ymddyddan rhwng hên Ddyn dall a'r Angau. Mwythig." 8plyg. Dilynwyd Moses Williams yn y rhestr uchod, gan mwyaf.

9. "Extraordinary use of the Articles exibited against the Bishop of St. David's further cleared and made plain. 1703."

Gwel rhif. 5, 1701; a rhif. 5, 1702.

1704.

1. "Annogaeth i gymmuno yn fynych, &c. Gan John Tillotson, D.D., Archesgob Caergaint. Llundain." 12plyg.

2. "Acofiad o'r Scrythyr; neu Holiadau ac Atebion; Ynghyd â'u Profiadau allan o'r Scrythyr Lân. Mwŷthig Argraphwyd 1704. Ac ar werth yno gan Thomas Jones." 12plyg.

3. "Cymmorth i'r Cristion. A Chyfarwyddiad i'r Gwr Ieuainge. Yn cynnwys, i. Hyfforddiadau Athrawiaethol, &c. ii. Cyfarwyddiadau Buddiol, &c. iii. Cynghorion Neillduol, &c. Gan W. BURKITT, M.A., gynt o Pembroke Hall yng Haergrawnt, &c. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thomas Jones. 1704. Y mae yr hysbysiad canlynol, yn y ddwy iaith, ar gefn dalen y rhagymadrodd :—

"Cyfieithiad, ac Argraphiad y Llyfr hwn, A Llyfr Arall a Argraffwyd yn ddiweddar (o waith Mr. Ellis) a elwir. Cristionogaeth yn Gynnwys, A Ddibenwyd yn fwyaf ar draul neu Gost Mr. Caleb D'Avenant o Gaer-Frangon.'

1"Rees' Biographical and Historical Description of South Wales:" tudal. 118.

Gwel rhif. 3, 1703.

4. "Amddiffyniad byrr dros y bobl (mewn gwawd) a elwir Quakers. Gan W. Chandler, A. Pyott, John Hodges, ac eraill. Llundain." 12plyg.

5. "Gwyddorion y Gwirionedd, neu y pethau hynny ynghylch athrawiaeth ac addoliad y sicr Gredir ac a dderbynnir gan y bobl a elwir Quakers, &c. Gan Jo. Crook." 8plyg.

6. "Cyngor Difrifol i Geidwad Tai i osod i fynu Addoliad Duw yn eu Teuluoedd. Gweddïau, &c. Gan George Lewis, Ficar Abergwili. Llundain." 12plyg. 7. "Bloedd-Nad Ofnadwy yr Utgorn Diweddaf, &c. O Waith John Morgan, Ficar Aber-Conwy. Argraffwyd yn y Mwŷthig, ac ar werth yno gan Thomas Jones, 1704.

8. "Bucheddau 'r Apostolion a'r Efengylwyr. A gasglwyd allan o'r Ysgrythur lân, ac o Ysgrifeniadau 'r Athrawon Goreu. Gan C. S., Person Bettws Gwerfil Goch. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thos. Jones. 1704."

1705.

1. "Pregeth o achos y Demmestl Ddinistriol, Tach. 26, 27. A.D. 1701, ar Preg. vii. 14. Llundain." 4plyg.

2. "Hymnau Scrythyrol, yn cynnwys Achosion perthynasol o foliant yng Weinidogaeth y Sacrament o Swper yr Arglwydd, &c." 8plyg.

Dichon mai ailargraffiad o rhif. 1, 1703, neu hwnw wedi ei gamddodi yma neu yno.

3. "An account of the Convincement, Exercises, Services, and Travels, of that ancient Servant of the Lord, Richard Davies, with some relation of ancient Friends, and of the spreading of truths in North Wales."

Bu chwech argraffiad o'r llyfr hwn. Crynwr oedd R. Davies, ac yn anneddu yn y Cloddiau-cochion, ger Meifod, yn sir Drefaldwyn. 4. "The Bishop of St. Davids Vindicated."

Gwel rhif. 5, 1701; rhif. 5, 1702; a rhif. 9, 1703.

5. "The case of Sir Humphrey Mackworth, and of the Mine Adventures, with respect to the irregular proceedings of several Justices of the Peace for the County of Glanmorgan, and of their agents and Dependents. London 1705." 4plyg.

Gwel rhif. 12 a 13, 1700.

1706.

1. "Natur Conffirmasiwn wedi ei hegluro drwy holi ac atteb." 8plyg. 2. "Y Rhybuddiwr Crist'nogol, &c. Llundain."

Ailargraffiad gwel 1689.

1707.

1. "Cadwyn euraidd, &c., neu ystyriaeth byr o'r pedwar peth olaf, sef, Marwolaeth, Barn, Uffern, y Nef. Llundain." 8plyg.

2. "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol, &c. O gyfieithiad William Evans. Mwythig." 8plyg.

Cyfieithiad ac argraffiad newydd, fe allai, yn gwneyd y pummed. Gwel rhif. 4, 1664; rhif. 1, 1679; rhif. 7, 1693; a rhif. 1, 1701.

3. "Amser a diwedd Amser. Gan John Fox. O gyfieithiad Samuel Williams. Llundain." 8plyg.

Dywed "Hanes y Bedyddwyr," mai Person Llangunllo, sir Aberteifi, oedd Mr. S. Williams.

4. Archaologia Britannica, giving some Account Additional to what has been hitherto Publish'd, of the Language, Histories, and Customs of the original

Inhabitants of Great Britain: from Collections and observations in Travels through Wales, Cornwal, Bas-Bretagne, Ireland, and Scotland. By Edward Lhwyd, M.A. of Jesus College, Keeper of Ashmolean Museum in Oxford. Vol i. Glossorography. Oxford, printed at the Theater for the Author, MDCCVII, and sold by Mr. Bateman, in Paternoster row London; and Jeremiah Pepyd, Dublin."

Edward Lloyd neu Llwyd, oedd fab ordderch i Edward Llwyd, Ysw., o Lanforda, ger Croesoswallt, yn sir Amwythig, o Bridget, ail ferch Price, Ysw., o Glanffread, yn sir Aberteifi. Gallai rhywun ei wneyd yn fwy o Sais na Chymro: ond efe ei hun a ddywed, "Nid wyf yn honi fy hun yn Sais, ond hen Frytwn, ac yn ol yr achau Cymreig yn deilliaw, o du fy nhad, oddiwrth Elldyr Lydanwyn, fab Meirchon, fab Cenen, fab Coel Godhebog, yn nhalaeth Rheged, yn Scotland, yn y bedwerydd ganrif, cyn i'r Saesoniaid ddyfod i Ynys Prydain."

Ei linach yn gyflawn a redai fel hyn :— "Edward ab Edward ab Edward ab Sion ab Sion ab Sion ab Richard ab Meredydd ab Madoc ab Griffri Fychan ab Blad ab Gwion ab Rhadfarch ab Asser ab Gwrgi ab Hedd Molwynog ab Greddf ab Tygynnydd ab Llawr ab Llawfrodedd Farchog ab Asser ab Tydwal Gloff ab Rhodri Mawr ab Morfyn Frych ab Gwrhyad ab Elidyr ab Sanddef ab Alewn ab Tegid ab Rheid ab Dawe ab Llywarch Hen ab Elidyr Llydanwyn." Dyn o fywyd rhydd ac anfoesol oedd ei dad, yn cadw trythylliaid, gan hudo boneddigesau o'u morwyndod. Yr oedd cytundeb priodas wedi ei wneyd rhyngddo â mam ein gwrthddrych, ond ni phrïodasant, gan fod ei etifeddiaeth wedi ei threulio a'i gwerthu i Syr Watkin W. Wynne. Ni chafwyd allan yn eithaf cywir yn mha le, na pha bryd, y ganed ef. Fe allai i'w fam encilio i ryw ddirgelfa, i orwedd i mewn. Ond efe a aeth i Goleg yr Iesu, yn Rhydychain, Hydref 31, 1682, a dywedir iddo farw yn 1709, yn 49 oed, yr hyn a ddaw â blwyddyn ei enedigaeth i lawr i 1660. Rhoddwyd ef yn isgeidwad, ac wedi hyny yn uchgeidwad, i amgueddfa Mr. Ashmol, lle yr oedd ef ei hun wedi rhoddi amryw bethau cywrain i'w cadw. Ei orchwyl oedd teithio o'r naill fan i'r llall trwy Gymru, Iwerddon, ac Ysgotland, i olrhain hen garneddau, hen arfau rhyfel, hen weddillion mewn mawnogydd a chreigiau, a hen golofnau, croesau, beddadeiladau, &c. Cyhoeddodd amryw weithiau dysgedig heblaw yr uchod. Am y rhai, gwelir "Meirick's History of Cardiganshire," a'r "Gwladgarwr," am Rhagfyr, 1737. Cynnwysiad y llyfr uchod, a'i ddosbarthiad, sydd fel y canlyn:-1. Geirdarddiad (Etymology) Cymhariaethol. 2. Geir-restr (Vocabulary) Cymhariaethol o ieithoedd Prydain a'r Iwerddon. 3. Gramadeg Llydawaidd, wedi ei gyfieithu o'r Ffrancaeg. 4. Geir-restr Llydawaeg a Seisonig. 5. Casgliad o eiriau wedi eu gadael allan o Eirlyfr y Dr. Davies. 6. Gramadeg Cernywaeg (Cornish). 7. Rhestr o Law-ysgrifau Prydeinaidd. 8. Geirdarddiad Prydeinaidd. 9. Byrarweiniad i'r Wyddelaeg, neu yr hen iaith Albanaidd (Scottish). 10. Geirlyfr Seis-Wyddelig, ynghyd â rhestr o'r Gwyddelig. Y mae yn llyfr mawr unplyg. Dywedir fod rhai gweddillion o'i ysgrifeniadau anghyhoeddedig yn Wynnstay, sir Ddinbych.

5 "Rhybydd caredig i bob Tyngwr ofer. Llundain." 12plyg.
6. "Eglurhad byr o'r Catechism.

Gan W. Asaph."

Fe allai mai yr Esgob Beveridge a feddylir. Nid oedd wyneb-ddalen i'r unig un a welsom. Y mae y "Rhaglythyr Annerch" wedi ei amseru

« PreviousContinue »