Page images
PDF
EPUB

cyntaf gwawrddydd bywyd. Fel y mae yr haul, pan yn ymddyrchafu o ystafelloedd y dwyrain, yn cael ei groesawu â cherddoriaeth yr adar mân; felly y mae hi hefyd gyda haul y bywyd dynol: cyn iddo bron ddyfod yn weledig uwchlaw ei gaerau, y mae ei ymddangosiad yn cael ei groesawu yn y fan â chaniadau aderyn prydferth gobaith; ac nid yw ei gân yn darfod nes y mae yr haul eilwaith yn dechreu gogwyddo tua therfyngylch henaint, ac yn machlud yn nghymylau marwolaeth. Y mae y plentyn bach, mor fuan ag y mae ei alluoedd yn dechreu ymagor, yn teimlo rhyw ymestyniad eiddil o obaith o'i fewn, am weled blyneddau ieuenctid ac addfedrwydd oedran— am yr amser pan y bydd wedi cyrhaedd nerth a doethineb ei dad: ac erbyn y cyrhaedda efe yr adeg yna, y mae eilwaith yn ymestyn ymlaen mewn gobaith at yr amser pan y bydd yntau yn llenwi cylch mewn cymdeithas cyffelyb i'r eiddo ei dad. Y mae rhagolygon dysglaer bywyd, a rhandiroedd eang hir oes, yn awr yn ymagor o'i flaen; ac os caiff efe deithio y rhai yna ar eu hyd, nes o'r diwedd nesau o hono at y dyddiau blin, a'r blyneddau heb ddyddanwch ynddynt-pan y bydd nwyf a bywiogrwydd ieuenctid wedi gwywo yn ei natur, pan na bydd dim mwy wedi ei adael iddo ar y ddaear i'w obeithio-hyd yn nod y pryd yna nid yw gobaith yn marw yn ei fynwes. Os nad oes dim iddo mewn amser i'w obeithio, y mae ei obaith yn tori dros derfynau amser i dragywyddoldeb, ac y mae yn edrych ymlaen yno at yr adeg pan y bydd nerth a bywiogrwydd anfarwol yn dyfod i'w ran, a phan y caiff flodeuo byth mewn ieuenctid tragywyddol.

Yn ngwahanol oesau y ddaear, y mae gan philosophyddiaeth dri chredo gwahanol wedi bod, gyda golwg ar natur dyn, a dedwyddwch cyffredinol dynolryw-credo yr amser a aeth heibio, credo yr amser presennol, a chredo yr amser a ddaw. Yr oedd dysgyblion y blaenaf yn golygu fod dedwyddwch y byd wedi myned heibio. Yr oedd yr amser presennol a'r dyfodol hefyd wedi ei ddyosg o bob dymunoldeb yn eu golwg hwy. Yr oedd y rhai hyn yn cyfeirio eu golwg yn groes i bob peth arall mewn natur;-yr oeddynt yn sefyll â'u cefnau at yr amser a ddaw, a'u hwynebau ar yr un a aeth heibio. Edrych yn ol yr oedd y rhai hyn mewn breuddwydion paganaidd at yr oes aur, fel ei gelwid, pan oedd tad y duwiau yn teyrnasu, pan yr oedd diniweidrwydd, tangnefedd, a dedwyddwch cyffredinol yn ffynu ymhlith dynolryw. Yr oeddynt yn dyrchafu gwroniaid yr amser a aeth heibio i orsedd y duwiau, ac yn eu haddoli; yr oedd eu beirdd yn canu mewn hiraeth cwynfanus am ogoniant yr oes aur, yr hon oedd wedi myned heibio-hafddydd hyfryd y byd byth mwy i ddychwelyd! Y mae credo y presennol yn rhifo ymhlith ei ddysgyblion yr holl rai hyny sydd yn darostwng y natur ddynol yn gydwastad â'r "anifeiliaid a ddyfethir," trwy ddystrywio y cymhelliadau nerthol i rinwedd a phurdeb sydd yn codi oddiar ardderchogrwydd ac anfarwoldeb natur dyn. Dynion ymroddedig i bleserau anianol yw y rhai hyn. Ni wiw ganddynt hwy daflu golwg yn ol at yr hyn a aeth heibio, nac ymlaen at yr hyn a ddaw. Y mae eu holl ofalon, eu holl ddymuniadau hwy, fel yr eiddo yr anifel, wedi eu cyfyngu y tufewn i gylch mwynhad presennol. O'r bron na fyddai yn fwy priodol dyweyd am y rhai hyn, mai tyfu y maent, yn hytrach na byw. Nid oes ganddynt yr un nôd uwch i ymgyrhaedd ato, ac i'w symbylu i deithio ymlaen ar yrfa bywyd, na boddhad eu chwantau anifeilaidd. Y maent "o'r ddaear," ac am hyny "yn ddaearol." Iaith y rhai hyn, ddydd a nos, awr ac enyd, ydyw, "Bwytäwn ac yfwn, canys yfory marw

yr ydym." Ond y mae un credo arall yn bod, â mwy o wirionedd a mawredd yn perthyn iddo na'r un o'r rhai blaenorol-credo yr amser a ddaw. Hwn ydyw yr unig un sydd wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion cedyrn ac ansigledig sydd yn wreiddiol yn natur dyn-crediniaeth mewn byd i ddyfod, a gobaith am anfarwoldeb. Y mae hwn yn chwyddo â dysgwyliadau mawrion, teilwng o urddas goruchel enaid dyn.

Y mae yr ymestyniad hwn at yr amser a ddaw, sydd yn blanedig yn y natur ddynol, yn mha wedd bynag yr ymddengys, pa un ai mewn ofn ai mewn gobaith, yn amrywio yn ol natur ei wahanol wrthddrychau. Y mae dwy briodoledd arbenig yn perthyn i wrthddrychau y gwahanol deimladau hyn o ofn a gobaith, ag ydynt bob amser yn penderfynu grym a bywiogrwydd y teimlad a elwir i weithrediad ganddynt. Y mae y teimlad o ofn neu obaith bob amser yn ymddibynu am ei rym a'i ddylanwad ar y graddau o bwys yr ydym yn ei gysylltu â'r daioni sydd yn cael ei obeithio, neu ynte â'r drwg sydd yn cael ei ofni; ac hefyd, heblaw hyny, ar agosrwydd y berthynas a olygir genym sydd rhwng y naill neu y llall â'n hachosion personol ni ein hunain. Y mae yn rhaid i bob peth sydd yn cynhyrfu teimlad cryf o ofn neu obaith o'n mewn, fod yn meddu ar ryw fawredd a phwys ynddo ei hun; ac yn ychwanegol at hyny, y mae yn rhaid ei fod yn rhywbeth ag sydd yn dal cysylltiad agos â'n lleshad personol ni ein hunain. Pe ein hysbysid gan rywun o ryw amgylchiad i ddyfod i'n cyfarfod, er iddo fod yn dal y berthynas agosaf â ni ein hunain, eto, os byddai yn amddifad o unrhyw bwys hanfodol-os mai rhywbeth hollol ysgafn a dibwys fyddai, yna ni fyddai y teimlad o ofn neu obaith a gynnyrchid ganddo yn ein mynwesau (os gwnai hyny o gwbl) ond yr un mor ysgafn a dibwys. Ac o'r ochr arall, pe ein hysbysid gan rywun o ryw amgylchiad arswydus i ddyfod, neu ynte rhyw ddygwyddiad gogoneddus a dedwydd i gymeryd lle, llawn o fawredd a phwysigrwydd, er hyn i gyd, os byddai yn rhywbeth hollol ddigysylltiad â ni, os na fyddai ganddo y dylanwad lleiaf ar ddim o'n hachosion personol ni ein hunain, ni a ymdeimlem yn ddifater ynghylch hwn eto; o leiaf nis gallai gynnyrchu yr un teimlad cryf o ofn na gobaith yn ein mynwesau ni. Fel hyn, ni a welwn, cyn y gall unrhyw beth fod yn effeithiol i gynneu ein gobaith, neu i gynhyrfu ein hofn, i raddau grymus, fod yn rhaid i'r ddwy briodoledd yma gydgyfarfod ynddo;-y mae yn rhaid iddo fod yn meddu rhyw bwys hanfodol ynddo ei hun, ac yn ychwanegol at hyny, y mae yn rhaid iddo fod yn dal rhyw gysylltiad agos â'n lles personol ni ein hunain.

Yn awr, y mae y ddwy briodoledd yma yn cydgyfarfod gyda grym a nerth dirfawr yn y gwrthddrychau sydd yn cael eu dadguddio i olwg y byd yn "efengyl y bendigedig Dduw." Fe ddywedir fod "bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni trwy yr efengyl." Yn y pethau mawrion y mae yr efengyl yn eu hagor o flaen llygaid meibion dynion, fe ddadguddir gwrthddrychau â mwy o fawredd a phwys yn perthyn iddynt na dim a adnabu y byd erioed o'r blaen, a phob un o'r rhai hyny hefyd yn dal y berthynas mwyaf agos a phwysig â phob un o honom ni yn bersonol. Y mae hi yn dadguddio i ni fel gwrthddrych mawr ein haddoliad, Dduw sydd yn anfeidrol mewn mawrhydi a gogoniant-cartref tragywyddol pob perffeithrwydd ffynnonell wreiddiol pob bywyd a bod: Duw, sydd yn trigo mewn goleuni nas gellir dyfod ato-yn oruchel a dyrchafedig, ac yn preswylio tragywyddoldeb hanfod ysbrydol, nas gwelodd neb ef erioed,

ac nas dichon i un dyn ei weled, a byw-yr hwn sydd yn taenu y nefoedd ac yn sathru ar donau y môr-yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deheu-yr hwn sydd yn taenu y gogledd ar y gwagle, ac yn crogi y ddaear ar ddyddim-yr hwn a addurnodd y nefoedd a'i Ysbryd-yr hwn a'u gwnaeth trwy ei air, a'u holl luoedd trwy ysbryd ei enau-yr hwn sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a cher bron yr hwn nid yw ei holl drigolion hi ond fel locustiaid. Fe'n dysgir hefyd yn y Bibl ein bod ni yn sefyll yn y berthynas fwyaf pwysig â'r Bod goruchel hwn, nid yn unig fel ein Creawdwr, a'n Cynnaliwr, ond hefyd fel ein Deddfroddwr a'n Barnwr tragywyddol-ei fod wedi creu dyn yn greadur rhesymol a chyfrifol iddo ef-wedi ei gynnysgaethu â galluoedd i adnabod a mwynhau Duw dros byth-ei fod wedi rhoddi yn ei ddwylaw foddion gwybodaeth am Dduw, a'i fod wedi gwneuthur iddo ddadguddiad o'r ewyllys ddwyfol-nad yw dyn ar y ddaear yn byw ond mewn ystâd o brawf a pharotoad erbyn rhyw sefyllfa ddyeithr i ddyfod-nad yw ei yrfa ddaearol ond mabandod ei fod, dim ond toriad y wawr ar ddydd nad yw ei haul byth i fachlud. Y mae y llyfr dwyfol yma hefyd yn agor o'n blaen "y byd a ddaw," a'i holl sylweddau ofnadwy; fe'n dysgir fod gan y Brenin tragywyddol bethau wedi eu darparu yn y byd hwnw i bawb a'i carant yn y byd hwn, nas gwelodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn i feddwl am danynt-y cânt "deyrnasu" gydag ef " mewn bywyd," eu gwisgo â gwisgoedd gogoniant ac anfarwoldeb, a'i fwynhau ef byth mewn gwynfyd annhraethadwy. Ac hefyd, fe'n hysbysir yn yr un man, fod gan yr un Barnwr cyfiawn yn y byd hwnw le wedi ei barotoi i bawb sydd yn byw mewn pechod yn y byd hwn, ac yn anufuddhau i efengyl ei Fab,-lle o daledigaeth cyfiawn, lle y dyoddefir gwaeau annhraethadwy, rhy arswydus i fyfyrio am danynt, rhy fawr a dirgeledig i gael eu gwisgo yn iaith y ddaear, lle y bydd holl ddybenion bod yn cael eu troi o chwith, lle y bydd angerdd digofaint yr Hollalluog yn cael ei deimlo dros byth.

[ocr errors]

Fel hyn, y mae yr holl bethau sydd yn cael eu hagor o'n blaen yn y dadguddiad dwyfol yn cynnwys rhyw bwys a mawredd digyffelyb ynddynt eu hunain; tra y maent, ar yr un pryd, yn dal y berthynas fwyaf agos ac annattodol â phob un o honom ni yn bersonol. Y casgliad oddiwrth hyn i gyd ydyw, fod y gwirioneddau ag y mae yr efengyl yn eu dadguddio i olwg y byd, â thuedd o'r fath gryfaf ynddynt i gynnyrchu y teimladau mwyaf grymus o ofn a gobaith; a'u bod yn sicr o wneyd hyny y fynyd y credir hwynt-fod sylweddau y byd ysbrydol mor fawr ac mor agos atom fel nas gallant lai na thaflu eu cysgod o ofn a gobaith ar y ddaear. Pe taflem ein golwg am fynyd i "dywyll-leoedd y ddaear," y rhai sydd yn llawn o drigfanau trawsder," ni gaem weled prawf o hyn. Y mae pethau mawrion crefydd, yn mhob oes o'r byd, ac ymhlith pob cenedl o ddynion, yn cynhyrfu ofn a gobaith y natur ddynol, hyd yn nod yn ngrym y gweddillion hyny o grefydd natur sydd wedi aros yn y gydwybod. Y mae hyd yn nod y "rhai sydd yn eistedd yn mro a chysgod angeu" paganiaeth ac eilun-addoliaeth, yn arwyddo fod yn eu mynwes hwy ryw sibrwd egwan am ryw ddrwg mawr yn aros dyn mewn byd i ddyfod, yn yr aberthau poenus sydd ganddynt i liniaru llid ac i ennill ffafr eu duwiau; ac y mae ynddynt ryw syniad hefyd, y bydd iddynt, "trwy barhau yn gwneuthur da, etifeddu anllygredigaeth" gyda'u duwiau yn y fuchedd dragywyddol.

Yn y gwledydd sydd wedi eu goleuo â goleuni yr efengyl, y mae y gobaith hwn am ddedwyddwch mewn byd i ddyfod yn rhywbeth mwy pendant yn ei nod; ond y mae lle i ofni nad yw gyda llawer yn ddim mwy cywir yn ei darddiad, na mwy cadarn yn ei sylfeini.

Y peth agosaf o bob peth ar y ddaear i fod wedi cyrhaedd ystad o wynfyd perffaith ydyw meddwl y dyn duwiol yn y mwynhad o Dduw. Y mae elfenau dedwyddwch perffaith yn ei natur ef. Ond y mae dyffryn bywyd iddo yntau yn "ddyffryn wylofain." Y mae yr anialwch maith, a'r lorddonen ddofn, rhyngddo a hyfryd "wlad yr addewid," ac y mae y ffordd i'r "deyrnas" "trwy lawer o orthrymderau." Y mae y sefyllfa drancedig hon, ar lawer o gyfrifon, yn anffafriol i'r anian sanctaidd i weithredu. Er ei fod yn "ymhyfrydu yn nghyfraith Duw yn y dyn oddi mewn," eto, y mae yn cael "deddf arall yn ei aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl;" ac am hyn, fe'i ceir yn aml "yn ocheneidio yn llwythog, gan ddeisyfu cael ei arwisgo â'i dŷ sydd o'r nef:" ac ni fydd ei ddedwyddwch yntau yn gyflawn hyd nes y "llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd." Fel hyn, y mae gobaith yn dyfod i ddal lle mawr a phwysig ymhlith grasusau y cristion. Y mae y gras o obaith yn cario dylanwad grymus ar bob cam o'i bererindod ysbrydol, o'i ddychweliad at Dduw yn y byd hwn i'w ogoneddiad gydag ef yn y byd a ddaw. Y mae yn nghychwyn cyntaf ei yrfa, yn nghyfiawnhad ei berson, yn cael ei "adgenedlu i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw." Ymhellach eto, yn nygiad ymlaen y gwaith o sancteiddhad ei natur, y mae yn cael ei "iachau trwy obaith," y mae yn cael ei "buro trwy obaith ;" y mae y gobaith o weled Iesu Grist fel y mae, a bod yn gyffelyb iddo, yn ei newid yn raddol i'w ddelw; oblegid, "Y mae pob un sydd ganddo y gobaith hwn ynddo Ef yn ei buro ei hun, megys y mae yntau yn bur." Hyd yn nod yn ngorthrymderau lliosog ei daith, y mae yn gallu bod yn llawen, a hyny am ei fod yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw." Yn y filwriaeth ysbrydol, nid yw "holl arfogaeth Duw," yr hon y mae i'w "chymeryd ato," ddim yn gyflawn, hyd nes y bydd iddo gymeryd, gyda "tharian y ffydd," "obaith iachawdwriaeth yn lle helm." Ac ar ol i ddyddiau ei filwriaeth gael eu rhifo-ar ol i'w yrfa gael ei rhedeg-pan y mae ar fin cael ei golli o'n golwg yn nhywyllwch angeu, yr olwg ddiweddaf oll a gawn ni arno ydyw yn gobeithio; canys "Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw." Hyd yn nod yn y bedd, y mae "ei gnawd yn gorphwys mewn gobaith" am adgyfodiad gogoneddus i fuchedd dragywyddol. Ac yn y dydd mawr a ddaw, fe fydd i'w obaith gael ei goroni âg anrhydedd, oblegid fe ddaw ei Iachawdwr at ddrws y bedd i "alw" arno, ac fe fydd iddo yntau "ateb." Efe a "chwennycha waith ei ddwylaw." Yna bydd i'w "lygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, a'i farwol hwn wisgo anfarwoldeb ;" fe gaiff“ edrych ar wyneb Duw mewn cyfiawnder, a'i ddigoni, pan ddihuna, a'i ddelw ef." Ond y mae o'r pwys mwyaf i ni gofio nad yw y ffrwythau gogoneddus hyn yn tyfu ar yr un gobaith ond gobaith yr efengyl-y gwir obaith—“y gobaith da trwy ras." Y mae yn un o'r ystyriaethau mwyaf galarus fod y fath beth a gau obaith, gobaith a gaiff byth ei gywilyddio, yn cael ei feithrin gan neb, a hyny mewn achos o'r fath bwys annhraethol a dedwyddwch tragywyddol creadur i fod byth; ac yn enwedig fod hyn yn cael ei wneyd mewn gwlad ag y mae goleuni gogoneddus yr efengy! wedi tywy nu arni.

66

Ond er ei bod yn ystyriaeth alarus, y mae lle i ofni ei bod, mewn nifer mawr o amgylchiadau, yn wir. Fe allai nad oes yr un perygl ag y mae gwrandawyr yr efengyl, yn yr oes hon, yn fwy agored i syrthio iddo, na llochesu rhyw au obaith-meithrin ar hyd y blyneddau ryw wag hyder am fywyd tragywyddol, er esgeuluso yr unig ffordd a drefnodd Duw i bechadur ddyfod i afael â bywyd tragywyddol. Fe fyddai yn anhawdd cyfarfod â neb wedi arfer gwrandaw yr efengyl, pa mor ysgeler bynag ei bechodau, pa mor ddu bynag all y rhestr o anwireddau fod ag y mae efe yn gaethwas gwirfoddol iddynt, nad ydyw, er hyn i gyd, yn meithrin rhyw obaith o'i fewn, o ryw fath neu gilydd, ac ar ryw ammod neu gilydd, y bydd iddo ef etifeddu bywyd tragywyddol ar ol i'w yrfa ddaearol ddyfod i ben. O dan bob arswyd o ddigofaint Duw yn y byd a ddaw, a all weithiau saethu drwy gydwybod gwrandawr anghrediniol yr efengyl, o dan bob ofn a all weithiau frawychu ei feddwl, rhag y bydd iddo ef ei hun yn y diwedd syrthio yn un o wrthddrychau y digofaint hwnw, y mae o dan hyn oll ryw deimlad dirgelaidd yn llechu-rhyw syniad-rhyw obaith, y bydd iddo ef yn y diwedd, er byw mewn pechod hyd y diwedd, rhag barn Duw!"

"ddianc

Y mae o'r pwys mwyaf i ni gael ein llwyr argyhoeddi fod pob gobaith o'r natur yma yn un twyllodrus-fod y dysgwyliad dirgelaidd yma am gael dianc rhag cyflog pechod, er byw yn ei wasanaeth, yn gyfeiliornad peryglus-fod y syniad dystaw yma am gael ysgoi "medi llygredigaeth" yn y byd a ddaw, er i ni fod yn "hau i'r cnawd" yn y byd hwn, yn wenwyn marwol. Rhyw ddiod-gwsg ydyw hon, os parheir i'w hyfed, a'n sua i gwsg marwolaeth dragywyddol-ni a gysgwn yn mreichiau y gobaith hwn gwsg yr ail farwolaeth.

A'n hamcan, bellach, o hyn i ddiwedd ein hysgrif, fydd ceisio darlunio rhai o nodweddiadau y gau obaith hwn, a dangos yn mha bethau y mae yn gwahaniaethu oddiwrth y gwir obaith-y "gobaith bywiol "-y "gobaith da trwy ras."

Y mae y gau obaith yn gwahaniaethu oddiwrth y gobaith da yn ei darddiad. Y mae gobaith yr efengyl yn tarddu o ffydd yr efengyl. Y mae yn cyfodi oddiar grediniaeth galonog o'r holl wirioneddau pwysig y mae yr efengyl yn eu dadguddio. Gras ysbrydol ydyw hwn sydd yn cael ei blanu yn yr enaid a adgenedlir ac a adnewyddir gan yr Ysbryd Glân, trwy yr hwn y mae yr enaid yn cael ei ddwyn i ddysgwyl am y bendithion anmhrisiadwy sydd yn gynnwysedig yn addewidion Duw yn ei air; a hyny yn tarddu oddiar grediniaeth ddiysgog yn nghadernid yr addewidion, ac yn ngwirionedd a ffyddlondeb y Duw a'u haddawodd.

Y mae dyn yn greadur sydd yn sefyll mewn perthynasau gwahanol ac amrywiol. Ond yn mhob perthynas y mae yn ei dal, yr ydym yn canfod rhyw ddarpariaeth gyfaddas yn ei natur, sydd yn ei alluogi i gyflawni dyledswyddau y berthynas hono. Y mae ganddo rywbeth o'i fewn sydd yn ei gymhwyso i lenwi y gwahanol gylchoedd yn y rhai y mae yn troi, ac i gymdeithasu â'r gwahanol wrthddrychau sydd yn ei amgylchynu. Y mae dal perthynas a'r byd gweledig-â natur yn allanol; ac y mae darpariaeth yn ei natur sydd yn cyfarfod â holl anghenion y berthynas yma. Y mae wedi ei gynnysgaethu â synwyrau corfforol, trwy y rhai y mae yn alluog i gymdeithasu â'r byd sylweddol o'i amgylch. Y mae cerddoriaeth mewn natur, ac y mae ganddo yntau glust i'w chlywed; y mae mawredd

« PreviousContinue »