Page images
PDF
EPUB

brofiad byw mewn miloedd o galonau Cymreig y fynyd hon; ni fynent ei cholli er gwerth ymherodraeth Duwi gyd. Ond am y pwne arall, fod crefydd yn amaethu y meddwl, nid ydym bob amser fel yn ei ystyried. "Anwybodus!" medd yr ysgogyn coegfalch, yn ein gwyneb, wrth edrych ar ansawdd dysgeidiaeth yn Nghymru. "Anwybodus! dybryd anwybodus! Mae y bobl wrth y miloedd heb fedru Seisneg! Nid ydynt yn gwybod beth ydyw Grammar! Mae y gair Algebra mor ddyeithr iddynt, a phe buasai yn un o eiriau iaith y blaned Sadwrn!"-Ydynt, gyfaill, y maent felly, filoedd o honynt, mae yn wir. Ond, yr ydym yn dy sicrhau y gallem alw cannoedd lawer megys ar antur o ganol y dyrfa "ddwl" yna, na fyddai ond ffawd wael i ti allu dangos (hyd yn nod ac estyn dy ymchwiliad i fysg miloedd o bobl "educated"), nifer cyfartal a fo yn werth eu cymharu â hwynt yn y diwedd mewn gwir ddysgyblaeth ac amaethiad meddwl. Y maent yn grefyddol, ac wedi amaethu eu meddwl a'u calon trwy gydnabyddiaeth agos a maith â'r LLYFR. Nid ydym wrth hyn am ddibrisio y peth a elwir yn ddysgeidiaeth;" yn nesaf at y Bibl a gobaith bywyd tragywyddol, pethau dysgeidiaeth sydd yn gwneyd i fyny ein "llawenydd penaf:" ac nid ydym am lochi anwybodaeth ein cenedl; ond mynem ar bob cyfrif gan gynted ag y byddo yn ddichonadwy, ei chael oddiar y ffordd: ond eto yr ydym yn anfesurol bell o fod yn barod i addef i'n cyfaill hwn fod ein cenedl yn farbariaid i gyd, am nad ydynt yn gallu siarad Seisneg, ac esbonio holl briodoliaethau y trïongl; dim o'r fath beth. Mae yn wallgofrwydd meddwl fod yr hen ŵr yna, er nad yw ond gweithiwr caled ar hyd ei oes-yr hen ŵr yna, sydd wedi cadw noswyl, ac ar y Sabboth yn "cloddio ac yn myned yn ddwfn" i ystyr duwinyddiaeth Ioan; neu yr hen ddyrnwr yna, sydd yn crychu ei aeliau mewn egni ymroddgar i geisio amgyffred ymresymiadau Paul; neu y wraig hawddgar yna y mae ei chalon yn toddi wrth dynerwch a nefolrwydd y Salmau a'r efengylau; neu y llanc yna, y llanc tirion, egniol, a brwdfrydig yna, y mae ei fynwes yn chwyddo ac yn ymgodi wrth edrych ar ardduniant Job, ac ymdeimlo ag ardderchawgrwydd Esaia; neu y bechgyn a'r genethod yna, ydynt wrth y miloedd yn cipio i fyny hanesiaeth yr Ysgrythyrau, ac yn dysgu allan gannoedd o bennodau :-y mae yn wallgofrwydd i ti feddwl am alw y bobl yna, er nad ydynt yn deall Seisneg a mathematics, ac er mai llenyddiaeth y Bibl yn unig braidd sydd yn yr ychydig lyfrau sydd ar yr asdell yna, wrth ochr y llyfr ei hun-y mae yn wallgofrwydd i ti feddwl am eu galw yn farbaraidd a dwl! Gadewch i ni glywed beth sydd gan y dyn galluog yna i'w ddyweyd ar hyn. Mae ei sylwadau yn dra phriodol gyda golwg ar gannoedd o Gymry, a llawer iawn o ddarllenwyr y Traethodydd."

[ocr errors]

"Y mae crefydd ei hun yn addysgiaeth. Lle mae drychfeddwl Cristionogol priodol o weinidogaeth addysgawl yn cael ei gario allan, a dynion yn cyfarfod yn yr eglwys er cael addysg reolaidd yn gystal ag i addoli, y mae yn rhyfedd y fath wahaniaeth a welir gyda golwg ar ymagoriad meddwl-rhwng dau ddyn (yn enwedig dynion tlodion), y naill o arferion crefyddol, a'r llall o arferion anghrefyddol. Y mae y dyn crefyddol o anghenrheidrwydd yn dyfod yn feddyliwr ac yn ddarllenwr. Y mae efe yn ymresymydd ac yn athronydd yn ei ffordd; canys y mae yn dyfod yn dduwinydd, ac yn dysgu dilyn cadwyno ymresymiad, yn gystal ag i ymfwynhau mewn teimladau o dduwioldeb. mae yn dyfod i wybod rhywbeth am hen hanesiaeth, cysegredig a phaganaidd ; am ddadguddiad gwirionedd trwy oruchwyliaethau olynol; am seiliau llwyddiant cenedlaethol; am ddeddfau llywodraeth Duw; am egwyddorion athroniaeth foesol. Y mae yn clywed ymresymiadau ar bynciau dadleugar, ac y mae ganddo i fantoli profion a ffurfio barn. Y mae yn efrydydd llyfr sydd yn gyfaddas i eangu a dyrchafu y meddwl, i'w lenwi à syniadan

au

Y

mawrion, i gynnyrchu ynddo amcanion ardderchog, i osod y dychymyg ar waith, i gryfhau y farn, ac i ddysgu gwir athroniaeth bywyd. Y mae, trwy ei astudio, yn cael nerth meddwl oddiwrth yr ymdrech a ofyna rhai rhanau o hono; yn cael manylrwydd a gochelgarwch, wrth gymharu yn amyneddgar ymadrodd âg ymadrodd, y rhai ydynt o bob ochr yn deongli ac yn cydweddu y naill y llall. Y mae teimladau ac ymarferion crefydd, natur addoliad, a iaith y Bibl, oll yn meddu tuedd i alw allan deimlad o'r cain, ac i barotoi at ddarganfod y mawreddig mewn natur, a'r cain mewn celfyddyd. Ac er i hyn beidio cymeryd lle, nid yw yn bosibl i ddyn crefyddol, meddylgar, a deallus, beidio a chael cryfhau ei feddwl yn gyffredinol trwy yr ymarferiad gwastadol o'r galluoedd hyny y mae ei fyfyrdodau crefyddol yn gynhyrfu i weithgarwch. Ond dylid sylwi ymhellach, y daw y dyn yr ydym ni yn son am dano oddiwrth y ffaith o'r hyn a wna o fywyd, ac a gaiff allan o hono, i gael hamdden, ac y bydd yn alluog i'w gylchynu ei hun a'r hyn a all digonolrwydd orchymyn, ac y mae arferiad yn gyffredin yn awgrymu i feddwl y llwyddiannus. Gall ychwanegu ei lyfrgell, ac y mae yn debyg y gwna; gall eangu ei gydnabyddiaeth gyda'r dysgedig a'r dillynaidd, a chwyddo yn ddirfawr ei wybodaeth trwy ymddyddanion; a gall wella ei chwaeth trwy y pethau prydferth a destlus sydd yn dyfod o flaen ei lygaid, yn y darluniau ar ei furiau, ac yn nhrefniadau ei ardd. Gwn yn burion y gall rhinweddau sylweddol bywyd o dduwioldeb gael eu hamaethu a'u hamddiffyn, heb iddynt gael eu cysylltu â gwybodaeth a chwaeth. Gwn hefyd ei fod yn ddigrifwch cyffredin i gyfeirio at rai sydd yn llwyddiannus a chyfoethog fel rhai delffaidd ac anwybodus-gyda llyfrau yn eu celloedd na ddarllenir byth, a destlusion o'u hamgylch na allant werthfawrogi. Nid oes a fynwyf fi a hyn. Y mae yn ddigon i mi os ydyw hefyd yn bosibl' uno crefydd â llenyddiaeth; yn bosibl i'r dyn sydd yn byw i'r byd arall fwynhau hyfrydwch yn nghelfyddydau a gwyddorion hwn. Nid ydyw y ddau beth yn anghydsafol-fe ellir eu huno. Yr wyf yn gwybod am esiamplau o ddynion mewn masnach-dynion crefyddol yn gweithio ac yn trafferthu, yn cael ac yn rhoi, trwy gylch hir o lwyddiant arafaidd, a thrwy yr holl amser yn darllen ac yn dysgu, ac yn cael hyfrydwch yn ngwahanol lwybrau llenyddiaeth. Ac ychwanegaf ymhellach, mai yn anfynych y gwybum am ddyn crefyddol, gwir gall, yn ymddyrchafu mewn bywyd, heb sylwi, pa mor ychydig bynag oedd manteision ei ddygiad i fyny, fod ei feddwl yn ymagor i wybodaeth ac yn gwella mewn chwaeth; ei fod yn canfod gwaith a hyfrydwch mewn llyfrau ; ac yn dra mynych, ei fod i ryw fesur yn dyfod i werthfawrogi yr ymadroddion a'r gorchestion hyny o eiddo athrylith ydynt yn y pellder mwyaf oddiwrth y cyfnewidfwrdd a chist yr arian."-Tudal. 80, &c.

Erbyn y cysylltwch chwi at hyn yr adnoddau cyfoethog ag y mae crefydd yn agor i ddyn mewn cyfyngderau a thrallodion, a'r sefydlogrwydd tragywyddol sydd ynddi fel noddfa yn mhob trychineb, y mae y ddadl yn dyfod i derfyniad-mai y ffordd i wneyd y goreu, hyd yn nod o'r byd hwn, ydyw byw ynddo yn grefyddol. Y mae yn sicrhau i chwi yr holl bethau gwerthfawr a enwyd fel elfenau bywyd dedwydd, ac yn eu sicrhau yn y perffeithrwydd uchaf sydd yn bosibl iddynt; y mae yn eich cynnysgaethu a'r "gareg" sydd yn troi yr holl ddefnyddiau yn "aur," yn gwneyd bywyd mor llawn o fwyniant a digonolrwydd ag y mae yn bosibl i fywyd mewn marwoldeb fod; y mae hefyd yn eich bendithio â'i chyfoeth ysbrydol, yr hwn sydd yn eich galluogi i ymdeimlo uwchlaw y byd, pan y mae yn gwgu arnoch, ac yn eich galluogi i gerdded eich ffordd, er iddi fod yn arwain trwy leoedd mor ofnadwy a "glyn cysgod angeu," yn nhangnefedd digyffro ac yn sefydlogrwydd dibetrus plant Duw. Y mae crefydd, yn ystyr fanylaf y geiriau, yn cynnyrchu, yn amddiffyn, ac yn addurno Ilwyddiant; ac yn galluogi dyn i ymgynnal, i ymgysuro, ïe, i orfoleddu yn nghanol trychineb aflwyddiant. Ac nid damcaniaeth yn unig ydyw hyn, nid breuddwyd barddonol, nid cynllun o berffeithrwydd ysplenydd mewn dychymyg, ond ffaith, peth sydd yn cael ei sylweddoli yn mhrofiadau miloedd trwy yr holl oesoedd, peth y mae miloedd yn ein dyddiau ninnau mor sier o hono ag o'u bodolacth eu hunain, a pheth a brofir yn wir gan filiynau dirifedi hyd ddydd y chwalfa olaf. Y mae yn gyrhaeddadwy i tithau. A chan ei fod yn gwneyd peth mor ogoneddus o fywyd, gan ei fod yn beth mor wirioneddol, a'i fod yn gyrhaeddadwy-y mae yn werth dy ymgais i ymofyn am dano fel yr unig bosiblrwydd i ti "wneyd y goreu hyd yn nod o'r byd hwn.

Dyna un plyg i'r ddadl ynte, a'r plyg y bwriadem alw sylw ein darllenwyr fwyaf ato yn yr erthygl hon, wedi ei agor, a'i agor yn llwyddiannus. Crefydd ydyw yr agoriad i ddedwyddwch y byd hwn. Nid oes genym amser na lle i ddilyn ymdrafod Mr. Binney ar y plyg arall i'r cwestiwn. Ac yn wir, nid oes cymaint o anghenrheidrwydd. Yr ydys wedi sylwi ar hyd y ffordd, nad ydyw crefydd i'w cheisio er mwyn y manteision presennol, y mae i'w cheisio er mwyn rhywbeth anfeidrol fwy, ac yn sicrhau y manteis ion presennol, wrth fyned heibio. Ei dyben eithaf ydyw bywyd tragywyddol; y mae yn sicrhau hwnw, a dyna ei phwne mawr: ond wrth wneyd hyny y mae yn galluogi y dyn sydd yn caru Duw i fwynhau yr oll sydd yn werth ei fwynhau o ddedwyddwch y byd hwn. Y mae y "can' cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw yn fywyd tragywyddol." Tra mai ei neges fawr ydyw parotoi y dyn i wynfyd y byd a ddaw, y mae hefyd, fel rheol gyffredin, yn peri i'w gwpan redeg drosodd gan fwyniant melusaf y byd hwn, ac felly yn ei alluogi i “wneyd y goreu o'r ddau fyd.”

Yn yr ail ran o'r llyfr, y mae yr awdwr yn traethu llawer, ac yn traethu yn dda iawn, ar wahanol opiniynau dynion gyda golwg ar y byd a ddaw, ac yn profi, trwy gadwen ardderchog iawn o ymresymu (cadwen o ymresymu, ddarllenydd hynaws, ac y byddai ei dilyn allan yn gryfder i'th feddwl, ac yn iechyd i'th galon,)—yn gyntaf, Nad oes yr un dyfodol yn bosibl i ddyn, ond y dyfodol a ddarlunir yn ngair Duw; ac yn ail, Nad oes yr un parotoad ar gyfer y dyfodol yn bosibl i ddyn, ond y parotoad sydd yn dyfod trwy adnabyddiaeth o Iesu Grist. Mae yr holl ymdriniaeth yn cael ei dwyn ymlaen yn y fath fodd ag sydd yn tueddu i ddifrifoli y meddwl, ac yn tueddu at wneyd ei awydd yn fwy angerddol nag erioed am feddu y grefydd y mae "ganddi addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd." Yr ydym yn y modd mwyaf calonog yn argymhell y llyfr i sylw ac astudiaeth fanwl ein darllenwyr, yn enwedig ein cyfeillion ieuaine. Nid hawdd y gallent gyfarfod â llyfr wedi ei ysgrifenu yn fwy gorchestol; ac nid hawdd yn sicr ynte y gallent daro wrth lyfr y byddai ei astudio yn debyg o fod yn fwy o les iddynt.

GOBAITH.

"Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw."-SOLOMON.

"Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a'u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid."-SOPHAR Y NAAMATHIAD.

O HOLL deimladau lliosog y natur ddynol, nid oes yr un, fe allai, yn cario dylanwad mwy grymus ar holl weithrediadau bywyd dyn yn y byd, na'r gwahanol deimladau o ofn a gobaith. gobaith. Wrth y blaenaf y golygir, yr agwedd sydd yn cael ei chynnyrchu yn y meddwl gan y rhagolygiad ar ryw ddrwg i ddyfod; ac wrth yr olaf, yr agwedd hono ar y meddwl sydd yn cael ei chreu gan y dysgwyliad o ryw ddaioni i ddyfod. Y mae of bob amser yn edrych ymlaen at ryw ddrwg i'w ddyoddef; a gobaith, bob amser, at ryw ddaioni i'w fwynhau. Yn y naill a'r llall, y mae gwrthddrych y teimlad y tuallan i gylch yr amser presennol, yn rhywle yn y dyfodol. Nid yw y naill a'r llall o'r teimladau hyn, o ran hyny, ond yr un

agwedd ar y meddwl, wedi ei ffurfio yn gyfaddas i ansawdd y gwahanol wrthddrychau a gyflwynir o flaen ei olwg. Yr un agwedd o ragolygiad y meddwl ar rywbeth i ddyfod yw y naill a'r llall; ac y mae hi yn cymeryd y ffurf o ofn neu obaith yn ol natur ei gwahanol wrthddrychau. Nid yw ofn un amser yn ymwneyd â dim ond y dysgwyliad o ryw ddrwgwedi ei amlygu, ond heb ei brofi. Ac nid yw gobaith un amser yn cael ei gynnyrchu ond gan y dysgwyliad o ryw ddaioni-wedi ei ddadguddio, ond heb ei fwynhau. Y mae cyfeiriad y naill a'r llall yn ddyfodol-y mae llygad y meddwl yn mhob un o'r ddau yn sefydlog ar yr amser a ddaw. Y cyfeiriad dyfodol yma o eiddo gobaith sydd mewn golwg gan yr apostol, pan y dywed am y "gobaith a welir nad yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?" Wrth y "gobaith a welir," y meddylir, rhyw ddaioni sydd yn cael ei gynnwys y tu fewn i gylch mwynhad presennol: am hwn dywedir nad yw obaith, a hyny oblegid nad yw gobaith un amser yn ymwneyd â dim ond rhyw ddaioni i ddyfod; a phan y mae yr amser a ddaw yn cael ei gau allan o'r drychfeddwl a gysylltir genym â'r gair, ei fod yn syrthio i'r llawr yn air diystyr: "ond os ydym ni yn gobeithio yr hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn dysgwyl am dano."

Y mae olwynion peiriant mawr natur i gyd wedi eu gwneyd i redeg ymlaen; nis gall yr un o honynt symud yn ol. Yr oedd llygad tragywyddoldeb diddechreu (a llefaru fel ag yr ydym ni, yn ein sefyllfa bresennol o hanfodi, wedi ein gosod o dan anghenrheidrwydd i synio am bethau) yn edrych ymlaen yn sefydlog at yr amgylchiadau yr esgorid arnynt gan amser; ac y mae amser eto, ar ei hyd, trwy holl dreigliadau yr oesoedd, yn cyfeirio ei olwg yn sefydlog at ganlyniadau yr hyn a ddygir oddiamgylch ynddo yn y tragywyddoldeb diddiwedd. Os taflwn ein golwg dros faes eang natur, ni a welwn mai fel hyn y mae. Edrychwn lle y mynom, yr ydym yn canfod ar bob llaw arwyddion o ryw ymsymudiad mawr a chyffredinol. Y mae pob peth megys yn cydlefaru mewn iaith groew a dealladwy, "Gan anghofio y pethau sydd o'r tu cefn, yr ydym yn ymestyn at y pethau sydd o'r tu blaen." Wrth ymdeimlo âg ysgogiadau natur a chymdeithas, yr ydym fel pe baem yn teimlo curiadau calon nychlyd— cylchrediad gwaed afreolaidd, yn arwyddo fod rhyw ddrwg oddifewn: y mae ysgogiadau y peiriant mawr yn rhoddi ar ddeall, y tuhwnt i betrusder, fod rhai o'i olwynion allan o'u lle. Nid oes dim mewn un man yn ymddangos ei fod wedi cyrhaedd cyflwr o orphwysfa a boddlonrwydd ; ond y mae pob peth yn cydymestyn at ryw ystâd o berffeithrwydd sydd eto heb ei chyrhaeddyd. Y mae y gwirionedd hwn yn cael ei ddysgu i ni gan Ysbrydoliaeth Ddwyfol, mewn iaith lawn o rymusder a phrydferthwch, pan y dywedir "fod pob creadur yn cydocheneidio ac yn cydofidio hyd y pryd hwn-fod hyd yn nod y creadur, trwy bechod, wedi ei ddarostwng i oferedd, nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd; fod awyddfryd y creadur yn dysgwyl am ddadguddiad meibion Duw ; ac yn y diwedd, y bydd i'r creadur yntau hefyd gael ei ryddhau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw." Y mae dedwyddwch y byd ymhell o fod wedi cyrhaedd addfedrwydd. Y mae yr holl greadigaeth yn anadlu yn llafurus yn ngafael caethiwed pechod. Y mae llygaid pob peth yn cydgyfeirio ac yn edrych ymlaen gydag awyddfryd at ryw "amseroedd adferiad pob peth," at ryw sefyllfa o berffeithrwydd a sefydlogrwydd nad 1853.]

2 E

adnabu y byd eto; a thuag at y sefyllfa hon y mae pob peth yn prysuro ymlaen gyda y cyflymder mwyaf. Y mae y creedig, y terfynol, a'r meidrol (gan yr hyn ein hamgylchynir, ac o'r hyn yr ydym ein hunain yn ffurfio rhan), yn cael ei hyrddio ymlaen yn barhaus ar lifeiriant yr oesoedd, at y digreedig, yr annherfynol, a'r anfeidrol: ac ni orphwys hyd nes y bydd iddo o'r diwedd gael ei golli yn yr anfeidroldeb sydd yn cynnwys y cyfan, ac yn y tragywyddoldeb sydd i lyncu i fyny y cyfan.

Ond nid gyda golwg ar natur yn allanol yn unig y mae hi fel yna. Os trown ni ein sylw i fewn i ddirgeloedd ein henaid ein hunain, ni gawn weled fod y meddwl dynol mewn cydweddiad â'r gogwydd cyffredinol hwn at yr amser a ddaw-fod ei gamrau yntau yn yr un cyfeiriad a'r ymsymudiad mawr hwn. Y mae meddwl dyn, fel pob peth arall, yn edrych ymlaen. Y mae yn alluog i wasgu melusder mwynhad presennol o'r dysgwyliad am ddaioni dyfodol, a chwerwder poen presennol o'r arswyd o ryw ddrwg dyfodol. Y mae meddwl dyn yn ffurfio rhyw ran o'r cyfanswm mawr hwnw sydd yn "cydocheneidio ac yn cydofidio hyd y pryd hwn." Y mae y fynwes ddynol, yr un fath a mynwes fawr a chyffredinol natur, yn ymlenwi âg awyddfryd dwys am ryw ddadguddiad mawr i ddyfod. Er y gellir cyfyngu y rhan hono o natur dyn sydd yn weledig a theimladwy i gwmpas bychan iawn, ac er y gall ei hanghenrheidiau hi gael eu diwallu âg ychydig o friwsion daioni crëedigol, eto, y mae ei natur ysbrydol, ei ddyn oddi mewn, yn herio pob terfyn, yn gwawdio pob rhwymau: nis gellir cau yr enaid a'i ddymuniadau i fewn gan ddim gweledig, presennol, a meidrol. Y mae meddwl dyn yn chwyddo gan ddysgwyliad, y mae yn ysgogi rhagddo yn barhaus oddiar "nerth bywyd annherfynol;" y mae yn ymestyn ymlaen at yr hyn sydd yn anfeidrol ac yn dragywyddol; ac ni fydd wedi cyrhaedd nod eithaf ei ymgyrchiad, camp uchel ei redegfa, hyd nes y bydd y ffrwd fechan o'r diwedd wedi colli ei hun mewn môr o ddaioni digrëedig.

Creadur fel hyna ydyw dyn. Y mae ei alluoedd ef yn rhy eang a chynnwysfawr i gael eu diwallu â'r mwynhad o ddaioni presennol, nac i gael eu haflonyddu gan y profiad o ddrwg presennol, yn unig. Y mae yn rhaid iddo ef gael edrych yn ol ac edrych ymlaen. Y mae yn sefyll o hyd mewn cyfwng, megys, rhwng yr amser a aeth heibio a'r amser a ddaw; ac y mae ysgogiadau ei ewyllys fel pe baent yn cael eu cynnyrchu gan ddylanwad parhaus y cof am yr hyn a aeth heibio, a'r dysgwyliad am yr hyn a ddaw. Nid yw yn gallu mwynhau daioni na dyoddef drwg yn yr un adeg o'i hanes, na raid i'w feddwl mewn rhyw adeg ddyfodol gael troi yn ol tuag ato; y mae yn ymdori o'i gwmpas mewn adfyfyrdod-y mae ei ddychymyg yn eistedd uwch ben yr olygfa, a thrwy hyny y mae yn llenwi y fynyd bresennol âg adgofion hyfryd, neu ynte â theimladau poenus. Ac nid oes ychwaith yr un daioni dyfodol yn cael ei ddadguddio i lygad y meddwl, na raid iddo yn awr ac eilwaith gael estyn llaw gobaith tuag ato i wasgu peth o'i felusder i lanw cwpan y fynyd bresennol; ac y mae hyn yn cael ei gario allan weithiau i raddau mor bell, fel erbyn i wrthddrych y gobaith ddyfod i afael y dyn, y mae yn canfod, er ei siomedigaeth, fod nodd y mwynhad wedi sychu i fyny, a hyny am fod gormod o hono wedi ei wasgu gan obaith i'r amser presennol; a mynych iawn y ceir fod y dysgwyliad yn llawer mwy na'r mwynhad. Ond fel hyn y ceir y natur ddynol yn mhob oes ac yn mhob gwlad, yn sibrwd gobaith ar doriad

« PreviousContinue »