Page images
PDF
EPUB

di ugain, ti gei dithau ddwy; rho di faint a fynot, mi rof finnau y degwm o hyd.' Peth gwirfoddol ydyw y degwm i fod.

6

Beth oedd yr ysgol yn ei ddangos? Yr oedd yn dangos dau beth, a pha faint yn ychwaneg nis gwn. Yn laf, Trefn Rhagluniaeth; ac yn 2il, Cyfryngdod Crist. Yn gyntaf, Rhagluniaeth Duw, neu lywodraeth Duw ar y byd. Mae llawer iawn o bethau rhagluniaeth Duw yn cael eu dwyn ymlaen trwy offerynoliaeth angelion. Yr ydwyf fi yn cofio i mi fod yn myned i'm cyhoeddiad un tro ar gefn ceffyl gwyllt, trwy le creigiog, a llanc gyda mi. Neidiodd y ceffyl yn ddisymwth yn wysg ei ochr, a thaflodd fi i lawr; ond ni'm hanafwyd. Fe gododd y llanc ei ddwylaw, ac a waeddodd, Mae angelion yn y lle yma, meistr,' meddai: ac nid wyf yn ammheu dim nad oedd yn dyweyd y gwir. Pan aeth Pedr i daro gwas yr archoffeiriad, yr oedd am hollti ei ben o; ond fe drodd angel ei gleddyf, ac onidê, fe fuasai Pedr yn llofrudd. Yn nhrefn rhagluniaeth, y mae Duw ar ben yr ysgol yn llywio y cwbl. Dyma dramwyfa rydd, Jacob-yr ydwyf fi a'r angelion yn meddwl am danat ti. Os bydd raid i ti gysgu allan ambell noswaith, mi ddof fi yno, âg angelion lu i dy wylio : mae genyf fi filoedd o honynt. Yn ail, yr oedd yr ysgol yn dangos cyfryngdod Crist. Un Duw sydd.' Yn mha le mae o? Dacw fo, ar ben yr ysgol. Un Cyfryngwr hefyd.' Yn mha le y mae o? Dacw fo-yr ysgol. Wyddoch chwi beth? yr oedd tramwy rhwng nefoedd a dacar wedi darfod am byth pan bechodd dyn, hyd oni chaed Cyfryngwr. 'Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn?' Wrth Luz? Ie.' Yn y dref baganaidd, Jacob? 'le.' Ac y mae efe yn nghapel Caer heddyw; hwyrach na fu i chwi feddwl hyny. Mae yr Arglwydd yn y play-house, yn y puteindy, ar y Roodee yn y races, fel y mae yn hollbresennol; ond y mae yn ei dŷ yn bendithio ei bobl, yn maddeu pechodau, ac yn cymmodi dynion âg ef ei hun. 'O!' meddai Duw, mi a breswyliaf ynddynt, ac a'u bendithiaf hwynt hefyd; a lle y bo ond dau neu dri, mi fyddaf finnau yn y canol yn eu bendithio.' Mae rhywbeth anfeidrol yn pasio yn yr oedfaon yma weithiau. Gochelwch fyn'd adref, gymydogion, a'r ffrae rhyngoch â Duw heb ei settlo.

Dyma borth y nefoedd.' Porth, lle i fyned i mewn i'r ddinas, fel y Northgate neu yr Eastgate. Sut yr ewch chwi i'r nefoedd heb fyned trwy y porth? Yn mha le y lladdwyd yr Oen? Ar y ddaear. Yn mha le y llechid dan arwydd y gwaed? Ar y ddaear. Yn mha le y mae porth y nefoedd? Ar y ddaear. Tŷ Dduweglwys Dduw, dyma borth y nefoedd. Ymdrechwch am fyned i mewn drwy y porth. Amen."

Yna caed gweddi fèr, felus; a chanu emyn priodol, trwy ystod pa un ni syflodd un o'r gynnulleidfa fechan o'i le, ond ymddangosai pob rhan o'r addoliad mor naturiol iddynt a phe dygasid y gweinidog a hwythau i fyny gyda eu gilydd o'u mebyd. Y pregethwr hwn ydoedd y diweddar BARCHEDIG JOHN PARRY. Clustfeiniasom ar y gwmnïaeth fechan a grynöid at eu gilydd, gan mor gul yw yr heol sydd yn arwain oddiwrth y capel, cyn chwalu o honynt yn eangder y brif heol, a chlywem aml un yn canmol y bregeth, ac yn dyfynnodi darnau o honi, a hyny gan swp o wŷr ieuaine bywiog a llon. Chwap y chwalsom oddiwrth ein gilydd, ac aeth pawb i'w fan.

Deallasom mai ysgol a gynnelid yn y capel am ddau o'r gloch; ac yn yr adeg briodol, cyfeiriasom ein camrau tuag yno. Wedi myned i mewn, gan fod golwg led ddyeithrol arnom, cyfarfyddwyd â ni wrth y drws nesaf i mewn gan yr arolygwr-gŵr o foes a dull boneddigaidd, â gwên siriol ar ei wyneb. Wedi tipyn o ymgom gyfeillgar yn nghil y drws, arweiniai ni ymlaen hyd odre y pwlpud, i ddosbarth o lanciau, ac un neu ddau o rai canol oed, gyda yr addewid y caem weled dosbarth neu ddau arall cyn diwedd yr ysgol. Yr oeddym i ddarllen ar y pryd Ecsod. xxv, am Ꭹ tabernacl a'i adeiladaeth. Yr oeddem yn deall wrth ein cymydog nesaf atom

fod darllen dwy adnod o fewn cylch y ddwy awr yn orchest go lew; ac y byddid Sabbothau, weithiau, yn methu dwyn y llais i'w lafar prïodol. Felly heddyw, methem yn ein byw, oll gyfangorff o honom, roi sŵn y llythyrenau, a phwyslais ar y geiriau priodol, chwaethach gosod ystyllod y tabernacl, a threfnu ei ystlysau yn eu lle; ac oni buasai fod yr Israeliaid yn llawer mwy celfydd na ni, neu Moses yn rhwyddach i'w foddhau na'n hathraw, ni buasai y tabernacl wedi ei adeiladu hyd heddyw. Yr oedd yno ambell un yn lled anfoddog ei wep; ac eraill yn wir wedi hoffi eu hathraw mor llwyr nes oedd eu llygaid ar ei wefus yn gwylio am bob gair. Gŵr bychan o gorffolaeth ydoedd, teneu ei rudd, ac amser wedi britho ei wallt, a phob arwydd o ddwys fyfyrdod ar ei wedd; llygad lled fywiog oedd ganddo, a gwên siriol ar ei enau. Yr oedd ei nodiadau a'i sylwadau yn profi ei fod yn siarad am bethau cynnefin iddo. Os am iaith, a'i theithi, a'i gramadegiaeth, y llefarai, yr oedd yn siarad fel gŵr yn deall ei bwnc; ac os fel sylwedydd ar ryw gyfeirbwnc yn yr adnod, yr oedd yn gydnabyddus drwyadl âg ef o'r blaen. Yr oeddym yn nosbarth gŵr mawrgwir fawr ac ERFYL oedd hwnw. Y sawl a gaffo ei hyfforddi mewn dosbarth fel yr eiddo Erfyl, a ddaw ymlaen mewn deall a gwybodaeth yn ddïau; er mai, yn sicr, yn lled arafaidd a blinderus i ŵr ieuanc brwdfrydig am fyned ymlaen. Dosbarth o athrawon a ddylasai fod yn cyfarfod âg Erfyl yn llawer amlach na dwy awr ar brydnawn Sabboth.

Wedi canu hymn ar ganol yr ysgol, yr arolygwr a gadwodd ei air, ac a'n dug ni at ddosbarth arall o ddeuddeg i bymtheg o wŷr ieuaine, yn darllen hanes Joseph. Yr oedd yr athraw yma yn wahanol iawn i Erfyl, a'i ddull yn trin y meddyliau ieuaine dan ei ofal yn wahanol hefyd. Erfyl oedd y cadeirydd yn y dosbarth cyntaf; ond rhyw commonwealth-rhyw werin lywodraeth-oedd y dosbarth hwn. Y dosbarth oedd i farnu y darlleniad-pa un ai cywir ai anghywir: y dosbarth oedd i holi cwestiynau, i ddadleu ynghylch cywirdeb yr atebion; a'r athraw, yn eithaf celfydd, oedd yn eistedd wrth y llyw, i droi y cwch rhag iddo gael ei sugno i sugndraeth ymryson, neu daro yn erbyn creigiau digter. Gwnaed yma rai sylwadau yn brawf o feddwl ac athrylith; a gem gwerthfawr yn y dosbarth hwn oedd y bywiogrwydd, yr awyddfryd, a'r sirioldeb oedd yn monwesau ac ar wynebpryd yr athraw a'r ysgoleigion. Fel yr elont ymlaen, os nad yw rhagluniaeth wedi eu chwalu, byddai tipyn ychwaneg o ofal Erfyl am ddarllenyddiaeth, a phryder yr hen dduwiolion gynt am gymhwyso y gwirioneddau, a thipyn ychwaneg o wasgu am yr anghenrheidrwydd o drysori gair Duw yn y cof, o werth mawr iawn yn y dosbarth yma.

Taflasom olwg at ddosbarthiadau eraill, ac y mae yn rhwydd genym addef, na welsom ysgol erioed â mwy o astudrwydd gyda darllen, a lleied o ysbio o gwmpas, a chymaint o arwyddion serch rhwng athrawon a dysgyblion, ag yn yr ysgol hon. Llefaru yr ydym fel rhai dyeithr. Ond y mae ein meddwl ni am ofyn un cwestiwn i wŷr da Caerlleon, yr hwn, ond odid, a allant ei ateb yn hawdd-Yn mha le yr oedd y plant? nid oedd yno ond pedwar ar fainc yn ymyl y stove. Hyderwn nad ydynt yn cael eu colli yn ysgolion y Seison, nac yn cael eu hesgeuluso trwy rywbeth sydd waeth. Holwyd yr ysgol ar ei diwedd gan un o'r arolygwyr allan o'r "Hyfforddwr," yn oleu, manwl, ac ysgrythyrol; ond yn wir, lled floesg oedd yr ateb; ac yr oedd yno lawer un wedi dianc o Gymru, â'r "Hyfforddwr" yn nghil ei ddwrn, yn lle ar ei dafod-leferydd. Tybio yr oeddynt, yn ddïau, mai "goreu cof, cof llyfr."

Am chwech o'r gloch drachefn, troisom tua'r capel. Yr oedd y gynnulleidfa erbyn hyn yn llawer lliosocach nag yn y boreu. Wedi canu yn weddus, ar dôn syml a phriodol

"O na ba'i cystuddiau f' Arglwydd

Yn fy nghalon i'n cael lle," &c.

a dechreu y moddion yn yr un dull patriarchaidd a'r boreu, cymerai Mr. Parry yn destun Luc xxiii. 34; "A'r Iesu a ddywedodd, O! Dad, maddeu iddynt." Llonychwyd ni yn fawr pan glywsom yr hen ŵr parchedig yn darllen ei destun, o herwydd dywedai un gŵr syml o'r gynnulleidfa, mewn ymgom wrthym, "nad oedd Mr. Parry yn pregethu un amser mor felus a phan yn son am Iesu Grist a'i ddyoddefiadau-ei fod yn medru trin hanesiaeth ysgrythyrol yn ddifyrus iawn; ond nad oedd byth gartref ond ar ael Calfaria, wrth droed y groes." Wedi ychydig iawn o ragymadroddi, fel gŵr mewn brys am ddyfod at ei bleser penaf, sylwai

"Dyoddefiadau yr Arglwydd Iesu Grist, yn ngardd Gethsemane a Chalfaria, ydyw y rhyfeddodau mwyaf a swniodd yn nghlustiau dyn erioed. Ac yr ydym wedi clywed y newyddion am danynt lawer gwaith, ie, wedi hen gynnefino à hwy. Iesu Grist yn dyoddef! syned pawb, rhyfedded pawb! Iesu Grist ar y groes rhwng dau leidr! dyma ryfeddod y rhyfeddodau; ac yn siarad yno am bechaduriaid, a hwythau yn ei groeshoelio ar y pryd. O! eiriau rhyfedd ydyw y testun-geiriau a ddywedodd Iesu Grist ar y groes-ymadroddion a ddaeth dros ei wefusau pan oedd efe yn fast dan yr hoelion dur: 'O Dad, maddeu iddynt.' Fe fu Iesu Grist ar y groes am oddeutu tair awr cyn i'r haul dywyllu, a thair awr y tywyllwch hefyd. Yr oedd hi yn dywyll iawn toc wedi hanner dydd ; ac yn y tywyllwch hwnw y bu yr ymladdfa ryfeddaf a fu erioed rhwng Mab Duw a holl allu y tywyllwch ; ac yn niwedd y tair awr tywyllwch yr ysigodd efe ben y ddraig; ac fe seinir y newydd da hwn o ddeheu i ogledd, a thrwy yr holl ddaear; ac fe genir yn hyfryd am dano dros y mil blyneddau, pan fydd y ddaear yn debyg iawn i'r nefoedd. O ran hyny, dyma y Beibl fydd yn y mil blyneddau, a dyma yr efengyl fydd yn y mil blyneddau; Iesu Grist a'i ddyoddefiadau fydd testunau gorfoledd pobl y mil blyneddau. Y mae Duw o blaid pregethu Crist croeshoeliedig, ac nid oes dim byd yn vecsio cymaint ar y diafol ychwaith.

Ymadroddion Crist ydynt saith, pan ar y groes; siaradodd Iesu Grist saith waith pan oedd wedi ei hoelio ar y groes; a dyma y cyntaf o'r saith,-" O Dad, maddeu iddynt." Yn ail, efe a achubodd y lleidr; gwrandaw ac ateb gweddi y lleidr"Heddyw y byddi gyda mi yn Mharadwys." Mae rhai yn meddwl mai y tywyllwch a fu yn foddion i beri iddo droi at Iesu Grist; ond fy marn i ydyw, ei fod wedi ei achub cyn y tywyllwch. Yn drydydd, llefarodd wrth ei fam ac wrth Ioan;-O wraig,' meddai wrth ei fam, 'wele dy fab;' ac wrth Ioan, 'Wele dy fam. Mae'n debyg fod Joseph wedi marw oddeutu dechreu gweinidogaeth Crist, a bod Mair yn dilyn ei mab i weini iddo. Ac er ei bod hi yrwan wrth y groes, yn credu yn ei chalon mai efe oedd y Messia, yr oedd yn hynod o gymysglyd ei meddyliau. Gweled ei phlentyn, ei Hiachawdwr, a'i Messïa, yn marw o flaen ei llygaid. Ac yn nghanol ei ddyoddefiadau, fe'i gwelodd yntau hithau, ac a welodd Ioan hefyd, ac meddai fo wrth ei fam, 'O wraig, wele dy fab; cymer o yn fy lle i;' ac felly y gwnaeth; canys o'r awr hòno allan y cymerodd y dysgybl hi i'w gartref.'

[ocr errors]
[ocr errors]

Mae'n debyg iawn fod y cwbl yna cyn y tywyllwch; beth bynag, nid wyf fi yn meddwl ei bod yn dywyll iawn. Ond am y geiriau nesaf, yn nghanol y tywyllwch y llefarwyd hwy; Eloi, Eloi, lama sabachthani.' Yr oedd y cwbl hyd yma yn perthyn i ddynion; gweddïo dros ei elynion, maddeu i'r lleidr, a gofalu am ei fam. Ond yrwan, yr oedd efe yn mhoethder y rhyfel, ac yn nyfnder y dyoddefiadau, ac yno ei hunan. Eloi, Eloi, lama sabachthani, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y'm gadewaist ?' Ac yn nesaf, y mae'r frwydr mor boeth nes y

[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]

mae syched arno, Y mae syched arnaf,' meddai Mab Duw. 'Doedd dim rhyfedd. Nid wyf yn meddwl iddo brofi na thamaid na llymaid, er pan y bu gyda'i ddysgyblion yn yr oruwchystafell y nos o'r blaen, ond y gwinegr dair gwaith cyn ei groeshoelio, wedi ei groeshoelio, ac yn y tywyllwch. O! yr oedd yno ddynion caled wrth y groes. Dacw nhw yn camddeall ei eiriau, ac yn gwawdio pan oedd yn galw ar ei Dad, ac yn dywedyd, 'Ho, a glywch chwi ? mae o yn galw ar Elias yrwan:' a phan y dolefodd yn mhoethder y rhyfel, Y mae syched arnaf,' dacw hen soldier calon galed yn rhoi ysbwng (sponge), ac a'i rhoddodd ar gorsen [ar flaen ffon], ac a'i diododd ef.' Yn chweched, 'Fe lefodd,' medd Matthew a Marc; ond nid ydynt yn dywedyd beth a lefodd, ond y mae Ioan yn dyweyd― Gorphenwyd,' a chyda hyny, dyma y tywyllwch yn dechreu ymwasgaru. Yna, yn olaf, a'r seithfed ymadrodd a lefarodd Iesu Grist ar y groes yw, 'O Dad, i'th ddwylaw di y gorchymynaf fy ysbryd.' O! ymadroddion rhyfedd! Bob tro y byddoch chwi yn darllen neu yn gwrandaw am ddyoddefiadau Crist, gweddiwch am ddau beth.-Yn gyntaf, Am argyhoeddiad o bechod ac yn ail, Rhag i chwi wrandaw neu ddarllen am ddyoddefiadau y Messïa, fel dyoddefiadau merthyr.

Yr wyf fi yn meddwl mai geiriau y testun hwn a fu yn foddion i oleuo y lleidr ar y groes. Yr oedd y ddau leidr yn cablu ar y cyntaf; ac yr oedd yn rhaid eu bod yn galed i'r eithaf, o herwydd yr oedd y rhai'n yn gwawdio wrth farw. A pheth rhyfedd iawn oedd gweled un o'r rhai'n yn cael ei achub. Y mae rhai yn gweled bai ar Iesu Grist am na buasai yn achub y ddau; ond rhyfedd iawn oedd iddo achub un. Nid gwaith Ysbryd Duw yn ddigyfrwng ar ddyn ydyw gwaith gras; ond gweithio trwy foddion y mae Duw wrth achub pechadur. Mae yn debyg iawn na chlywodd y lleidr yr un gair gan Grist erioed o'r blaen, am na bydd lladron un amser yn dyfod i wrandaw pregethau. Yr ydwyf fi yn sicr d'oedd dim lladron yn dilyn Iesu Grist; ond gyda'i fod yn clywed Iesu Grist yn dywedyd, 'O Dad, maddeu iddynt,' dyma fo yn dechreu ymholi, 'Pwy ydyw hwn, tybed, ag ydwyf fi yn ei gablu?' Ac yn y fan, dyma fo yn gweled ei fod ef a'r bobl yn pechu yn fawr iawn, a dyma fo yn gwaeddi, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i'th deyrnas nid yma y mae dy deyrnas di; yr wyt ti o ysbryd gwahanol iawn i bob un a welais i erioed. A welwch chwi, fy ngwrandawyr, y fath fendith a ddilynodd y geiriau? a gweddïwch am yr un Ysbryd i gynnyrchu yr un fendith i chwithau wrth eu darllen; canys yr ydym ninnau oll yn bechaduriaid, ac nid oes modd bod yn ddedwydd byth heb faddeuant. Dyma newydd da. Ý mae Mab Duw wedi rhoi ei einioes i lawr i ni gael maddeuant, ac nid ar y groes yn unig yr oedd efe yn eiriol am faddeuant; ond dyna y mae efe yn ei wneyd yrwan yn y nefoedd."

[ocr errors]

Yrwan, gwelwch annhraethol ddrwg pechod. 'Doedd dim llai na Mab Duw i farw a wnai y tro i gael ffordd i faddeu pechod. Os ydych chwi am gael gweled drwg pechod, edrychwch ar gystuddiau plant dynion, ïe, ar fyd yn boddi, ar ddaear yn llyncu dinasoedd cyfain; ond y maent yn myned oll yn ddim wrth y groes. Un difai yn marw dros yr euog! Creawdwr y bydoedd yn gweddïo am faddeuant i bryfed y llwch, o dan yr arteithiau mwyaf ofnadwy!

Yn nesaf, gwelwch anfeidrol gariad Duw yn rhoi ei Fab, ac yntau yn rhoi ei hun. Mae y gwaith wedi ei orphen. Beth sydd yrŵan? Nesäu ato ef. Wel, a dd'owch chwi ato ef? Beth sydd yn eich rhwystro? Cyn diweddu, awn gyda'n gilydd at orsedd gras i ddeisyfu: O gwna i ni gael meddwl mawr am dy Fab, a meddyliau teilwng am angeu y groes."

Toddodd y bregeth i weddi: canwyd

"Pechod yma, cariad acw,

Bwyswyd yn y glorian fawr,
Ac er trymed ydoedd pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr;
Y gair Gorphenwyd,'
Wnaeth i'r glorian bwysig droi."

Yr oedd yn tynu at wyth o'r gloch; ymadawodd Cymry Caer i ddechreu

ar drafferthion yr wythnos, y dydd canlynol, oddiwrth droed y groes. Os teimla rhyw sych-feirniad ar ei feddwl gyhuddo y Parchedig Mr. Parry o gamamseriad a chamosodiad yn amgylchiadau Iesu Grist ar y groes, y mae yn golledwr dirfawr am na chlywodd Mr. Parry; ac nid iawn iddo siarad nes y byddo mor gynnefin yn ysgrifeniadau yr efengylwyr ag oedd yr hen weinidog parchus hwn. Càn diolch i Erfyl am fywgraffiad o hono; ond gresyn na buasai mwy o Mr. Parry ynddo.

Llyncwyd ni yn llwyr gan Mr. Parry y Sabboth hwn, fel na chawsom hamdden i ymweled a'n cyfeillion Cymreig yn addoldy y Wesleyaid. Clywsom fod yno "frodyr caredig gan yr Arglwydd" yn cydymgynnull y naill Sabboth ar ol y llall, yn fywiog ac yn effro, ac yn hynod o gynhesol at ddyeithriaid.

Wrth yr eglwysi Cymreig yn Nghaer, dywedwn, wrth derfynu, Chwychwi, " y rhai a gawsoch y gyffelyb werthfawr ffydd a ninnau [yn Nghymru], trwy gyfiawnder ein Duw ni, a'n Hachubwr Iesu Grist; gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni." Wrth bob gŵr ieuanc, neu ferch ieuanc, a arweinir gan ragluniaeth i Gaer, dywedwn, "Chwantau ieuenctyd ffo oddiwrthynt; a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur."

LLYFRYDDIAETH Y CYMRY.

GYDA dechreu y flwyddyn hon yr ydym yn dechreu canrif arall o "Lyfryddiaeth y Cymry"-y ddeunawfed ganrif. Gan nad aroswn yn y porth y waith hon, na throi yma ac acw, ni a ddechreuwn ar ein taith i'r amgueddfa lyfrol yn ddïoed, gan fod gwaith mawr o'n blaen, a rhaid i ni brysuro.

1701.

1. "Catecism y Gymanfa," &c. Llundain.

Mae yn dra thebyg mai pedwerydd argraffiad ydoedd hwn o "Gwyddorion y Grefydd Gristionogol," o dan enw arall. Gwel rhif. 4, 1664; rhif. 1, 1679; a rhif. 7, 1693.

2. "Catecism, &c. Bibl T. Lewis, &c. Beveridge, &c. Baddon. Rhoddwyd y ddau uchod ar awdurdod ac yn null Mr. Moses Williams. 3. "Rheol Buchedd Sanctaidd, &c. Gan Jeremy Taylor, D.D. O gyfieithiad Ellis Wynn. Llundain." 18plyg.

Y mae yn ei ragflaenu gyflwyniad "I'r Parchediccaf Dâd yn Ghrist, Humphrey, Arglwydd Escob Bangor," a rhagymadrodd at yr "Anwyl gariadus Gymro," yn ngwir arddull awdwr y "Bardd Cwsg." Buasem yn rhoddi y cyflwyniad yma yn llawn, oni buasai ei fod wedi ei gyhoeddi yn y "Gwyliedydd" am Mai, 1834. Yn y rhagymadrodd y mae yn crybwyll am yr amryw lyfrau a ddaethai trwy y wasg Gymreig yn flaenorol, "heblaw y Beibl, brenin y llyfrau-amryw lyfrau dâ eraill, megis yn swyddogion tan hwnw, rhai i'th ddifyru, rhai i'th helpu, rhai i'th ddenu i'r daith nefol, i'r unic waith angenrheidiol hwn." Yna chwanega,

« PreviousContinue »