Page images
PDF
EPUB

12 Ië, toraf ymaith swynion o'th derfyn,'
A dewiniaid ni fyddant i ti;

13 A thoraf ymaith dy gerf-ddelwau
A'th golofnau o'th ganol di,

Fel nad ymgrymot mwy i waith dy ddwylaw;
14 Diwreiddiaf hefyd dy lwyni o'th ganol,
A dyfethaf dy addurniadau :3

A gwnaf mewn dig ac mewn digllonedd,
Ymddial ar y cenedloedd,

Y rhai ni wrandawsant.*

PENNOD VI.

1 Clywch, attolwg, yr hyn a ddywed Iehofa:
Cyfod, dadleu ger bron y mynyddoedd,
A chlywed y bryniau dy lais:
2 Clywch, fynyddoedd, ddadl Iehofa,
A chedyrn sylfeini y ddaear;5

Canys dadl sydd rhwng Iehofa a'i bobl,
Ac âg Israel yr ymresyma:

3 Fy mhobl, beth a wnaethum i ti?
Ac yn mha beth y blinais di?
Tystiolaetha i'm herbyn:

4 O herwydd dygais di i fyny o wlad yr Aipht,
Ac o dŷ y caethiwed y gwaredais di,

Ac anfonais o'th flaen

Moses, Aaron, a Miriam.

5 Fy mhobl, cofia, attolwg,

Beth a gynghorodd Balac, brenin Moab,
A pheth a atebodd iddo Balaam, mab Beor,
A pheth a fu o Sittim hyd Gilgal,"
Fel y gwybyddot gyfiawnderau Iehofa.
6 A pha beth y cyfarfyddaf â Iehofa,"
Yr heddychaf Dduw yr uchelder? ·

1 Felly yr arwydda'r gair. Gwel Esec. xlviii. 1.

2 Felly ei cyfieithir yn Deut. xii. 3. Gwel 2 Bren. x. 26, 27.

3 Gan yr enwid "dinasoedd" o'r blaen (adn. 11) nid tebyg eu henwi eto yma, yn enwedig mewn cysylltiad â "llwyni." Cyfieithir y gair gan rai, "gelynion," ond nid yn addas yma gyda "llwyni." Rhydd un copi air arall, a gynnwys un lythyren wahanol, d yn lle r, dwy lythyren debyg iawn i'w gilydd yn yr Hebraeg; ac ystyr y gair hwn yw "addurniadau," pethau perthynol naill i ddelwau ac allorau y llwyni, neu i wisgoedd yr addolwyr. Gwel Esec. xvi. 16.

4 Sef, ar y bygythiadau o ran eu creulondeb tuag at blant Israel.

Felly y gelwir y mynyddoedd a'r bryniau, ger bron y rhai yr oedd yr achos yn cael ei ddwyn. Gwnaed y rhai hyn yn farnwyr, er dangos fod y ddadl mor amlwg fel y gallai megys y ddaear fud annirnadol ei benderfynu, a chyfaddef iawnder Duw.

"Nis gellir cysylltu y geiriau â'r llinell flaenorol. "Sittim" oedd yn ngwlad Moab, ond "Gilgal" tuhwnt i'r lorddonen, yn ngwlad Canaan. Cyfeirir yma at yr hyn a gymerodd le gwedi ymadael o Sittim hyd pan ddaeth y bobl i Gilgal. Rhoer y llinell yma fel y mae yn y Targum, ac yn ddiau yn iawn.-" Cyfiawnderau" o herwydd cyflawniadau oeddent o addewidion. O flaen brawdle cyfiawnder yn unig a olygir. 7Ateb y bobl ydyw hwn: yr oeddent wedi cael eu gwysio o flaen y frawdle. Cydnabyddent eu bai, a gofynent beth a wnaent er cyfarfod & Duw yn y ddadl hon.

8 Neu, yn fwy llythyrenol, "Yr ymostyngaf i Dduw," &c, gan roddi i fyny yr achos

A wnaf ei gyfarfod â phoethoffrymau,
A lloi blwyddyn oed?

7 A foddlonir Ichofa â miloedd o hyrddod,
A deng mil o ffrydiau olew ?

A roddaf fy nghyntafanedig am fy nhrosedd,
Ffrwyth fy lwynau am bechod fy enaid ?1—
8 Dangosodd i ti ddyn beth sydd dda;

A pha beth a ofyn Iehofa oddiwrthyt,
Onid gwneuthur uniondeb, a charu trugaredd,
Ac ymostwng i rodio gyda 'th Dduw ?2

9 Llef Iehofa! ar y ddinas yn galw ;3

(A'r doeth a ofna dy enw)

Gwrandewch y wialen, a phwy a'i gosododd:

10 A oes eto yn nhŷ yr anghyfiawn drysorau anghyfiawnder,
A'r mesur prin, llwyr adgas?

11 A wnaf ei chyfrif hi yn lân sydd ganddi glorianau anghyfiawn, A chôd o bwysau twyllodrus?

12 Yr hon y bu ei chyfoethogion 5 yn llawn trais,

A'i thrigolion yn traethu celwydd,

A'u tafod yn ddichellgar yn eu genau ;

13 Tra yr oeddwn I hefyd wedi dechreu dy daro,
Dy ddifrodi o herwydd dy bechodau.6

14 Bwyta a wnai di, ond ni'th ddigonir,
A'th wendid fydd o'th fewn ;7

Ymafli hefyd, ond ni waredi,

A'r rhai a waredi, i'r cleddyf a roddaf:

15 Ti a haui, ond ni fedi;

Sethri di yr olewydd, ond nid eneini âg olew,

A'r gwin newydd, ond nid yfi win.

16 Gan y cedwir deddfau Omri,9

A'r hyn oll a wnaed gan dŷ Ahab,

mewn dadl, a cheisio ymheddychiad. Dyma yr ystyr a roir gan y Targum, y Septuagint, a'r Syriac. Boddloni" yw y gair cyferbyniol yn yr adnod a ganlyn.

Dengys yr ateb y cyfeiliornadau echrydus a goleddai bobl yr oeddent yn meddwl fod Duw y nefoedd fel y gau-dduwiau yn derbyn plant yn boethoffrwm ! Yr oedd yr arfer ganddynt i offrymu eu plant i Moloc (Ier. xix. 5.) a gofynent a fyddai hyn yn gymeradwy gan Dduw.

Sonia yn gyntaf am ddyled dyn tuag at ei gymydog, fel y peth mwyaf amlwg; ac yna ei ddyled tuag at Dduw. Gwneir hyn yn aml, er argyhoeddi rhagrithwyr. "Ymostwng,' &c., dyma yr Hebraeg yn gywir, ac nid yn ol y Seisneg. Balchder yn enwedig sydd yn cadw dynion rhag duwioldeb.

3 Y ddinas" oedd Ierusalem.

* Sef y ddinas.

Dyma eiriad o nodwedd neillduol, "yr hon," ac "ei," yn dynodi yr un peth; felly yn gywir yr Hebraeg.

Hynodrwydd ymddygiad Ierusalem oedd, fod ei thrigolion yn gormesu, yn celwydda, ac yn dwyllodrus, hyd yn nod pan oedd Duw yn eu cosbi, yn eu "taro," ac yn eu "difrodi."

7 Sef, o herwydd afiechyd tufewnol, nid o herwydd prinder.

8 Neu yn ol darlleniad arall, "symudi," hyny yw, symudi i le dirgel blant neu deulu er eu diogelu; er hyny caent eu rhoddi i'r cleddyf. Yr un yw'r ystyr, yr "ymaflu,” oedd er eu diogelu.

Omri oedd sylfaenydd Samaria, a thad Ahab oedd, a chefnogydd gau-grefydd Ieroboam. Gwel 1 Bren. xvi. 16-28.

Ac y rhodiwch yn ol eu cynghorion,
Am hyny, gwnaf di yn anghyfannedd,
A'th drigolion yn hwtian,'

A gwarth pobloedd a ddygwch.

PENNOD VII.

1 Gwae i mi! canys yr ydwyf
Fel casglwyr ffrwythau haf,
Fel lloffyddion gwinllan;
Nid oes un pwng i'w fwyta,

Y cynnar ffrwyth a ddymuna fy enaid.
2 Darfu am y trugarog o'r wlad,

A'r uniawn ymhlith dynion nid oes un:
Hwynt oll, am waed y cynllwynant;
Pob un a hela ei frawd â rhwyd.

3 Ar wneuthur drwg y mae eu dwylaw,
Yn lle gwneuthur da;

Y tywysog a ofyn, a'r barnwr a ofyn am wobr;
Ië, y gŵr mawr a ddywed am ddymuniad ei enaid,
"Hwn ydyw," yna cydblethant ef."

4 Eu dyn da sydd fel mieren,

A'r uniawn yn waeth na pherth ddrain.

Dydd dy wylwyr,' dy ymweliad, sy'n dyfod!
Yna y bydd eu dyrysni!

5 Na chredwch gyfaill,

Na hyderwch mewn cydymaith;

Rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes

Cadw ddrws dy enau :

6 Canys mab a anmharcha dad,

Neu, "yn wawd;" byddant i gael eu hwtio a'u dirmygu gan eu gelynion.

2 Cyffelybai ei hun i rai yn casglu lloffion gwinllan, heb gael cymaint a "phwng" neu byngiad (cluster) i'w fwyta. Pan chwiliai am ddyn da a chywir, nid oedd un i'w gael; megys ffrwyth gwinllan, yr oeddynt i gyd wedi eu casglu.

[ocr errors]
[ocr errors]

3 Felly y gelwid y dyn da cymwynasgar. Yr "uniawn" oedd yr hwn a wnaethai gyf iawnder heb ormesu eraill. Gwel pen. vi. 8, lle yr enwir "uniondeb a thrugaredd." Nid oedd neb yn uniawn, am y cynllwynent am waed;" ac nid neb yn drugarog, canys fel y dywedir yn yr adnod a ganlyn, ar wneuthur drwg yr oedd eu dwylaw yn lle gwneuthur da," neu ddaioni, neu gymwynasgarwch i'r tlawd a'r anghenus. Gwelwn yma gysondeb yn y cwbl; a chadarnheir yn ddiammheuol y cyfieithiad a roddir o ddechreu y drydedd adnod, a eglurheir (neu yn hytrach a dywyllir) gan lawer mewn amryw ffyrdd.

Neu"

a wna gais;" gofynai gymwynas gan y barnwr, a'r barnwr yntau a ofynai am wobr. "Y gwr mawr," oedd "y tywysog."

6

[ocr errors]
[ocr errors]

Sef yr achos mewn llaw. "Cydblethu," yw y gair yn llythyrenol, a thra addas yw. Sef, a gyfrifid yn dda, neu y goreu yn eu plith. Trugarog," a arferai yn adn. 2; ond cawn "uniawn" eto.

7 Arferid "gwylwyr" yn amser perygl: delai y dydd pan y gelwid y rhai hyn i'w swydd. Yna y deuai ar y mawrion a'r barnwyr "ddyrysni," neu gyfyng-gynghor, heb wybod beth i'w wneuthur.

8 Rhydd yma ddarluniad hynod o gyflwr diraddiedig y bobl. Nid allai gredu yr hyn a ddywedai cyfaill, na hyderu ar addewid cydymaith neu arweinydd, fel y dynoda y gair. Nid allai neb chwaith ymddiried yn ei wraig, a phob perthynas wedi colli y serch ar cariad a'r ffyddlondeb perthynol iddi. Hyn oedd nodwedd trigolion Ierusalem! nod wedd hollol waradwyddus.

Merch a gyfyd yn erbyn ei mam,
Y waudd yn erbyn ei chwegr;

Gelynion pob un ydynt ddynion ei dŷ.-
7 Ond myfi, at Iehofa y troaf fy ngolwg,
Dysgwyliaf wrth Dduw, fy ngwaredwr;
Fy ngwrandaw a wna fy Nuw.

8 Na lawenha, fy ngelynes, o'm herwydd;
Er syrthio, gwnaf gyfodi;

Pan eisteddwyf mewn tywyllwch,
Iehofa a fydd yn oleuni i mi:
9 Digder Iehofa a ddyoddefaf,
(O herwydd pechais yn ei erbyn)
Hyd y dadleuo fy nadl,
Ac y gwnelo farn drosof;
Yna dwg fi allan i'r goleuni,
A chaf weled ei gyfiawnder.
10 Gwel hyn hefyd, fy ngelynes;'
A gorchuddia hi gywilydd,

A ddywedasai wrthyf, "P'le mae Iehofa dy Dduw ?"
Fy llygaid a edrychant arni ;"

Y pryd hyn y bydd yn sathrfa,
Megys tom yr heolydd.

11 Dydd i adeiladu dy furiau!

Y dydd hwnw, ymbellheir y ddeddf;3
12 Y dydd hwnw, atat hefyd y deuant
O Assyria, a dinasoedd amddiffynfa,
Ac o amddiffynfa hyd afon a môr,
O fôr, ac o fynydd i fynydd.
13 Eto bydd y wlad yn anghyfannedd,
O achos ei thrigolion,

O herwydd ffrwyth eu gweithredion.

14 Portha dy bobl â'th ffon,

Praidd dy etifeddiaeth,

A drigant yn unig yn y goedwig.

Yn nghanol Carmel y porant,5

Yn Basan a Gilead, fel yn y dyddiau gynt :

15 Fel yn nyddiau dy ddyfodiad di allan o dir yr Aipht,

Paraf iddynt weled ryfeddodau;

16 Gwel hwynt y cenedloedd,

"Y gelynes" oedd Babilon; gwel Ier. 1. 11; ond dywed rhai mai Edom a feddylir; Gwel Obad. adn. 12. Iaith ffydd yw hon -iaith un yn credu addewid Duw.

2 Edrych ar elyn a arwydda oruchafiaeth arno.

Yr hon oedd yn gwarafun adeiladu Ierusalem.

4 Dyma weddi y prophwyd. Y"goedwig" oedd gwlad eu caethiwed; lle llawn o beryglon yw y goedwig, o herwydd creaduriaid rheibus; felly yr oedd gwlad estronol i Israel. Yr oeddynt "yn unig," sef, ar eu pen eu hunain. Ceisiai gan Dduw eu porthi, neu eu bugeilio â'i "ffon," offeryn i amddiffyn y praidd rhag bwysfilod y maes.

5 Yr ateb oedd, y caent eto ddychwelyd i'w gwlad eu hun, a phori yno, ac enwa rai o'r manau goreu o ran porfa, Carmel, Basan, a Gilead; y cyntaf o du dwyrain i'r Iorddonen, a'r ddau le arall o du deheu iddi."

Sef," y rhyfeddodau" a wnelai Duw er gwaredu y bobl.

A chywilyddiant o herwydd eu holl nerth ;
Gosodant eu llaw ar eu genau,

Eu clustiau a fyddarant ;2

17 Llyfant lwch fel y sarff,

Fel pryfed y ddaear dychrynant o'i llochesau;
Rhag Iehofa ein Duw yr arswydant,

Ac ofnant o'th herwydd di.

18 Pwy Dduw fel tydi?3

19

Yn dileu camwedd ac yn maddeu trosedd:
Yn erbyn gweddill ei etifeddiaeth

Ni ddeil dros fyth ei ddigofaint,

Canys yn hoffi trugaredd y mae efe :
Dychwel a thosturia wrthym,

Gorchfyga ein camweddau;1

Ië, tefli i waelodion y môr eu holl bechodau : 20 Cyflawni y gwirionedd i Iacob,

Y drugaredd i Abraham,5

Yr hon a dyngaist i'n tadau,
Er y dyddiau gynt.

'Sef, nerth, neu gadernid, neu wroldeb plant Israel. Ond darllen rhai, "am eu holl nerth," sef y cenedloedd; cywilyddient am na fyddai eu nerth o un lles iddynt i wrthwynebu Israel.

2 Gosod llaw ar y genau, yw bod yn ddystaw; bod yn fyddar, yw gochelyd gwrandaw unrhyw newydd rhag ofn o'i fod yn anffodus. Llyfu y llwch, yw llwyr ddarostyngiad. Pryfed," neu ymlusgiaid, y rhai a lochesant mewn cudd-fanau.

"

3 Diwedda y prophwyd mewn syndod o herwydd mawredd trugaredd Duw. Trefnir yma y llinellau yn y fath fodd ag i ddangos yr hyn a ddywed y prophwyd wrth Dduw, a'r hyn a ddywed am Dduw.

4

Golygir "camweddau" megys gelynion; am hyny dywedir yn y llinell a ganlyn y teflid hwynt megys Pharo a'i lu i waelod y môr.

"Pam "wirionedd" i Iacob, a "thrugaredd" i Abraham? Yr addewid i Abraham oedd rad; tarddai o drugaredd: ond yr addewid wedi ei gwneuthur, gwirionedd oedd yn gofyn ei chyflawniad. Gwel 1 Ioan i. 9.

A YDYW YN BOSIBL GWNEYD Y GOREU O'R DDAU FYD?

[Is it possible to make the best of both Worlds? By T. BINNEY. Second edition. London: Nisbet and Co. 1853.]

A YDYW yn bosibl gwneyd y goreu o'r ddau fyd? Dyma ofyniad sydd yn llawn o bwysigrwydd, a dylem ystyried y dyn a'n cynnorthwya i'w ateb, yn gymwynaswr. Os nad ydym hyd yn hyn wedi cyrhaedd golyg iad sefydlog ar y mater, ac wedi ffurfio barn sydd yn ddigon cref i roddi ei ffurf ar ein bywyd, ac i blygu ein hamcanion a'n gweithredoedd i'w hystum ei hun, y mae yn llawn bryd i ni ymofyn am danynt. Mae llawer, heb fyned i'r drafferth i geisio ffurfio barn ar y pwne, yn cymeryd eu llywodraethu gan ryw opiniwn a ddygwyddodd ymaflyd ynddynt ; a llawer eraill,

« PreviousContinue »