Page images
PDF
EPUB

Am y "Bryddest ar yr Adgyfodiad," yr hon a leinw yr hanner arall o'r gyfral, nid ein bwriad mewn un modd yw ei chymharu â'r pryddestau eraill sydd eisoes wedi ymddangos ar yr un testun. Pethau cas, yn marn pawb, yw cymhariaethau; ac am hyny ni ddywedwn ychwaneg am dani ar hyn o gyfle, na bod ei chynllun yn eang ac yn newydd, ei mydryddiaeth gan mwyaf yn llithrig, a'r syniadau yn uchelwych. Fel y canlyn y dadgan yr awdwr ei olygiadau ei hun ar y bryddest:"Gwylaidd yw syniadau yr awdwr am wneuthuriad y cyfansoddiad. Nid ei orchwyl ef yw barddoni. Ambell adeg a all hebgor oddiwrth orchwylion eraill, i yingyflwyno i wasanaeth yr awen. Nid llawer a gyfansoddodd cyn ymwneyd a'r ganiad hon. Bydd yn rhyw foddlonrwydd ganddo ei fod wedi cyflwyno rhai o'i oriau hamddenol i osod mewn mydryddiaeth, ei syniadau am Iachawdwr y byd, yr hwn hefyd a lywydda anian fawr."

Ond os "gwylaidd" ei syniadau am ei gynnyrch ei hun, y mae ganddo feddyliau tra uchel am gyfansoddiadau ei gydymgeiswyr ar yr unrhyw destun dyrchafedig, fel y gellir yn amlwg weled wrth y dyfyniad canlynol o'i sylwadau ar nodweddion pryddestau Ieuan Glan Geirionydd ac Eben Eardd :-“ Os i ddilyniad y testun yn ei symlder ysgrythyrol; os i amdraethiad arno nes bod pob pwynt mor oleu ag y gellir ei wneyd à geiriau eglur, lluniau barddonol, a ffugyrau heirdd, gan gadw mewn golwg lesâd cyffredinol; ac os i lifiant dymunol a gwir santeiddiol o deimlad yn rhedeg drwy yr holl gyfansoddiad, a hwnw yn rhagorol yn ei gynlluniad, y dylid rhoddi y gader farddonawl mewn Eisteddfod, ymddengys i mi fod y beirniaid wedi cyflawni eu swydd yn gywir yn Eisteddfod Rhuddlan. Ond os cywreinrwydd a gwreiddioldeb mewn cynlluniad, a chreadau uchelwych ac awenyddol; os nertholdeb digymhar mewn syniadau, ac ieithwedd gywir, soniarus, ac anghyffredin; os darluniadau dychymygol, eto, digon cydweddol ag anian y testun, a'r cwbl yn addurnedig â'r teimlad mwyaf crefyddol a ddichon dyn ei anadlu, a deilyngant yr urddiant cadeiriol, pryddest Eben Fardd a'ï piodd."

Prin y mae yn rheidiol crybwyll na fedr Mr. Jones ysgrifenu mewn iaith anmhur, anghoeth, ac aflerw; ac od yw yn colli mewn dim, yn mhriodwedd neu rediad anianol yr iaith, y mae yn colli. Haws dethol geiriau Cymreig diledach, nag ysgrifenu brawddegau Cymreig diledryw. Priodwedd Seisnig sydd yn anurddo y rhan fwyaf o lyfrau Cymraeg yr oes hon; a'r hyn sydd yn gwneuthur y gwrthuni yma yn ddigrif tros ben ydyw, mai y rhai sydd yn deall leiaf o Seisoneg, yn gyffredin, yw y rhai parotaf i syrthio i'r amryfusedd hwn. Ymddengys fod rhai o'n hysgrifenwyr wedi tybied, ond iddynt ymgadw yn ofalus rhag defnyddio geiriau estronol neu fasdarddaidd, a rhag troseddu un o reolau gramadeg, y byddant, fel peth o wir ganlyniad, yn ysgrifenu Cymraeg glan loew, yr hon nis gellir ac nis dylid dywedyd yn ei herbyn, heb gofio bod neilltuolion lawer yn perthyn i bob iaith dan haul, y rhai nis geill na gramadeg na geiriadur byth mo'u dysgu. Ac i'r cyfeiliornad tra chyffredin hwn y gellir, i raddau helaeth, olrhain dirywiaeth ieithwedd Gymreig y dydd heddyw, oddiwrth yr hyn ydoedd yn nyddiau ein tadau gynt. Yr oedd yr hen ysgrifenwyr yn ofalus nodedig am gadw at briodwedd yr iaith, ac ymwrthod yn hollol â phob dull ar ymadroddi a fyddai anghydweddol â hi. Eu gwaith yn ymgadw yn ddiesgeulus fel hyn at deithi y Gymraeg, sydd yn taflu y fath swyn dros ysgrifeniadau Morus Cyffin, Edward James, y Dr. Davies, Charles Edwards, Elis Wynn, Edward Samwel, a Theophilus Evans. O rau cywirdeb gramadeg, gellir ymgystadlu â hwynt; o ran purdeb geiriau, gellir rhagori arnynt; ond o ran ysgrifenu yn syml, ac yn rymus, ac yn ystwyth, yn ol rhediad naturiol yr iaith, y maent braidd yn ddihefelydd; ac nid yw y goreuon o ysgrifenwyr yr oes hon, o'u cyffelybu â hwy, ond megys ceiliogod rhedyn yn ymyl meibion Anac.

Da genym, modd bynag, weled y llyfr o'n blaen mor rhydd oddiwrth y gwallau a gyfrgollwn; a gobeithiwn gael cyfarfod yr awdwr eto yn fuan yn rhai o gysegredig rodfeydd llenyddiaeth.

CLWYD-WASG: DINBYCH, ARGRAFFWYD GAN T. GEF.

Y TRAETHODYDD.

LLYFR MICA.

TRIGAI Mica yn Moresa, tref ar gyffiniau y Philistiaid. Prophwyd oedd i Iowda ac Israel, yn enwedig i'r cyntaf. Yr oedd yn byw yr un amser ag Isaia, ond ni fu mor hir yn prophwydo. Mica oedd ei enw, ac nid Micaia, yr hwn oedd fyw ynghylch can' mlynedd o'i flaen; 1 Bren. xxii. 8.

Prophwyda am ddinystr Samaria ac am ddinystr Ierusalem, am y dychweliad o gaethiwed, ac am gyflwr dedwydd a llwyddiannus yr Iddewon wedi eu hadferiad i'w gwlad eu hun, am ddyfodiad Crist, a helaethrwydd, llwyddiant, a pharhad ei deyrnas. Rhydd i ni hefyd ddarluniad o agwedd anfoesol y trigolion yn ei ddydd, yn enwedig o ormes a chreulondeb y llywodraethwyr. Nid yw ddim yn dyweyd cymaint a'r prophwydi eraill am eilun-addoliaeth-pechod cyffredin y ddwy genedl. Llygredigaeth yr oes a noda yn fwyaf neillduol.

Y mae, fel Hosea, yn eirfyr, yn myned yn gyflym o un peth i'r llall, ac yn fynych yn cyfnewid y dynsodau, mi a ni, ti a chwi, efe a hwynt. Mae rhai manau yn hynod o odidog, megys y ben. iv. 1-7; a vii. 18-20. Cyfeirir at ei brophwydoliaeth yn Ier. xxvi. 18, 19; a dwywaith yn y Testament Newydd; Mat. ii. 5, 6; a Ioan vii. 42.

PENNOD I.

1 Gair Iehofa, yr hwn a ddaeth at Mica y Morasthiad, yn nyddiau Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd Iowda, yr hwn a welodd am Samaria ac Ierusalem,

2 Gwrandewch bobloedd,-bawb o honynt;

Clyw, wlad, ïe, oll sydd ynddi ;'—

Bydd, ïe, yr Arglwydd Iehofa yn eich erbyn yn dyst

Yr Arglwydd o deml ei sancteiddrwydd :

3 Canys wele Iehofa a ddaw allan o'i le;

Ië, disgyn a cherdda ar uchelfanau 'r wlad;

4 A thawdd y mynyddoedd tano,

A'r glynoedd a ymholltant;

[ocr errors]

Yn lythyrenol, "ei llawnder." Nid y ddaear, sef y byd, a feddylir, ond gwlad Canaan, fel y dangos yr hyn a ganlyn-"yn eich erbyn." 'Bydd, ie yr Arglwydd" &c, dyma'r hyn yr oeddent i wrandaw. Gwahodd yr holl lwythau, "y bobloedd;" ac er eu cynhyrfu yn fwy, enwa y wlad a'r hyn oll a gynnwysai: yr oeddent oll i ystyried fod Duw yn dyst i'w herbyn. Yna darluniai yr hyn yr oedd Duw ar wneuthur yn yr adnodau a ganlynant.

HYDREF, 1853.]

20

[blocks in formation]

2

Beth yw trosedd Iacob? onid Samaria?
A pheth yw pechod Iowda? onid Ierusalem?
6 Am hyny gwnaf Samaria yn garnedd y maes,
Yn blanigfaoedd gwinllan;

A pharaf dreiglo i'r dyffryn ei cheryg,
A'i sylfeini a ddadguddiaf:

7 A'i holl gerf-ddelwau a ddryllir,

A'i holl wobrau a losgir yn y tân,

A'i holl eilunod a wnaf yn ddifrod;
Gan mai o wobr putain y casglodd hwynt,
Yn wobr putain hefyd y dychwelant.3

8 O herwydd hyn gwnaf iddi alaru ac udo,
Paraf iddi gerdded yn ddiosgedig ac yn noeth,
Gwnaf iddi alaru fel môrfilod,

Ac wylo fel estrysiaid:

9 Canys anaele fydd ei dyrnod ;s

Yn ddiau y daw hyd at Iowda,

Gan nesau hyd at borth fy mhobl,
Hyd at Ierusalem.

10 Yn Gath na fynegwch hyn,

Gan wylo na wylwch ;

1 Mae y pedair llinell hyn yn ol y drefn a ganfyddir yn aml yn y prophwydi; mae y gyntaf a'r drydedd yn perthyn i'w gilydd, a'r ail a'r bedwaredd: tawdd y mynyddoedd fel cwyr, ac ymhollta 'r glynoedd fel gan ddyfroedd a ddisgynant o serthle.

ม Felly y dylai fod, yn unol â'r Septuagint, y Targum a'r Syriac. "Trosedd Iacob" oedd eilun-addoliaeth, a Samaria oedd y ffynnonell, a "phechod Iowda" oedd addoli y gau-dduwiau a'r gwir Dduw ynghyd; a gwreiddyn y drwg oedd yn Ierusalem. Penacthiaid, yr uchelradd a'r dysgedig, ydynt yn gyffredin yn blaenori mewn cyfeiliornadau. Gellid cyfieithu y geiriau fel hyn,

P'le mae trosedd Iacob? onid yn Samaria?

A p'hle mae pechod Iowda? onid yn Ierusalem?

Sef yr eilunod, a oreurid; am hyny yn werthfawr. Y cerf-ddelwau a wnaed o good, a llosgid y rhai'n; ond yr eilunod a orchuddid âg aur neu arian, a gaent eu difrodi neu anrheithio. Casglwyd hwynt, sef yr eilunod, trwy buteinio, neu eilun-addoli. Mac cilun-addolwyr bob amser yn hael iawn yn y gwaith o addurno eu heilunod. Ond byddai gwobrau puteindra i ddychwelyd er cynnal puteindra ymhlith eu gelynion-y Ninifcaid.

Mae y perwyddiad yma yn y cyflwr achosawl (hiphil); yn ol yr ystyr hyn y mae y Septuagint, y Targum a'r Syriac. Nid yw yr ystyr arall yn cydweddu â'r hyn sy'n canlyn. "Morfilod,"-tybir mai y dolphins a feddylir, gan y gwnant 'pan eu delir' gwynfan tra alacthus. Estrysiaid," yn llythyrenol, "merched yr estrys." Dywed haneswyr y gwna y rhai'n alaeth hynod gyffrous ar amserau yn y nos.

[ocr errors]

5" Dyrnod" oedd y farn a ddaeth arni trwy frenin Assyria, pan ei caethgludid. A dyrnod oedd a ddaeth yn agos iawn i lowda; prin y diangodd. Gwel Esay xxxvi. a xxxvii.

Nid oeddent i fynegu barn Duw ar y bobl i'w gelynion, y Philistiaid, nac i ddangos yn gyhoedd eu galar. Yna canlyn yr hyn a ddygwyddai iddynt pan ddaethai Sennacherib brenin Assyria i ymosod ar wlad Iowda, gwedi goresgyn a chaethgludo gwlad Israel. "Saphir" a gai fyned ymaith i gaethiwed, "yn noeth" neu yn amlwg ei "gwarth." Ni ddeuai "Sanan" allan i alaru o'i herwydd gan ofn y gelyn, na chwaith

Yn nhŷ Ophrah mewn llwch ymdreigla;
11 Dos erddot ymaith breswylferch Saphir,
Yn noeth dy warth;

Na aed allan breswylferch Sanan gan alaru;
Tŷ Asel, cymered genych ei sefyllfan:

12 Diau dihoena am dda breswylferch Maroth,

Canys disgyn ddrwg oddiwrth Iehofa hyd borth Ierusalem; 13 Rhwymed wrth y cerbyd

Y buan-farch, breswylferch Lacis ;
Dechreuad pechod fu hi i ferch Sion,

Canys ynot y cafwyd troseddiadau Israel;

14 Am hyny y rhoddi anrhegion i Moreseth-Gath;
Tai Acsib, yn gelwydd fyddant i freninoedd Israel :
15 Eto etifedd a ddygaf i ti, preswylferch Moresa;
Daw ef hyd Adulam, gogoniant Israel.

Ymfoela ac eillia am blant dy hoffderau;
Ymhelaetha dy foelni fel yr eryr,

O herwydd mudwyd hwynt oddiwrthyt.'

PENNOD II.

1 Gwae y rhai a ddychymygant drawsder,
Ac a weithredant ddrwg ar eu gwelyau!
Ar oleuni y boreu gwnant ef,
Pan fyddo yn ngallu eu llaw.

2 Pan chwennychent feusydd, ysglyfaethant;
Neu dai, cymerant hwynt ymaith ;
lë, gormesant ŵr a'i dŷ,

A dyn a'i etifeddiaeth.

3 Am hyny fel hyn y dywed Iehofa,

Wele fi yn dychymygu i'r teulu hwn ddrwg,
Yr hwn ni thynwch rhagddo eich gyddfau,
Ac ni rodiwch yn uchelfryd,

Canys amser drygfyd a fydd.

4 Yn y dydd hwnw y cyfodir am danoch ddiareb,

A galarir galar galarnad,2

"tŷ Asel." Yspeilid "Maroth" oedd agos i Ierusalem, a dyhoenai am y pethau a gollasai. "Lacis," er dianc rhag y gelyn, a rwymai y cerbyd wrth y march buan, a rhoddai anrhegion i Moreseth-Gath er ei choleddu. "Tai" neu drigolion "Acsib" a droent yn anffyddlawn i Israel ac i Iowda. "Morasa," a arwydda etifeddiaeth, oedd i gael ei pherchenogi gan y gelyn, megys pe buasai yn etifedd iddi; a deuai yr etifedd hwn i Adulam, a gyfrifid yn ogoniant i Israel. Yr oedd y lleoedd hyn oll yn ngwlad lowdea: ac y mae cyferbyniad yn yr hyn a arwyddoca amryw o'r enwau â'r hyn a ddywedir am danynt. "Ophra" yw llwchfan; yr oedd i ymdreiglo mewn llwch : "Saphir" yw lle teg neu brydferth; deuai ei "gwarth" yn amlwg: "Sanan" yw mynediad allan, ond nid oedd i fyned allan. "Asel" a arwydda agos; yr oedd i ddilyn yr hyn a wnaethai Sanan oedd yn agos iddi. "Maroth" yw chwerw; dihoenai am golledion a fyddai yn chwerw. Mae cyd-lythyreniad yn yr Hebraeg rhwng y "buanfarch" a "Lacis." Gan mai etifeddiaeth a arwyddai "Morasa," deuai etifedd" i'w pherchenogi.

Samaria a feddylir, ac nid Morasa. "Fel yr eryr," sef pan y byddo yn colli ei phluf, yr hyn a ddygwydd iddi bob blwyddyn."

"Hyn yw yr Hebraeg yn gywir. "Diareb" yma yw ymadrodd a arferid yn gyffredin, ac yr oedd yn "alarnad." Brenin Assyria a newidiai y “rhan ” a rodded gan Dduw i

A dywed yr anrheithiedig, "Anrheithiwyd ni!
Rhan fy mhobl a newidia;

Pa fodd yr ymadawa er fy mwyn !

Yn lle dychwelyd, fy meusydd a rana!"

5 Am hyny ni bydd i ti neb a fwrio linyn coelbren,
Yn nghynnulleidfa Iehofa.

6 "Na phrophwydwch a brophwydant;"

Ni phrophwydant i'r cyfryw ;
Ni symudir gwaradwyddiadau.1
7 Ai a ddywedir gan dŷ Iacob,
"A fyrhaodd Ysbryd Iehofa?

Ai y cyfryw ydynt ei weithrediadau ?”
Oni wna fy ngeiriau ddaioni

I'r neb a rodio yn uniawn?

8 Ond fy mhobl er cynt, yn elynion y cyfodant;
Oddiar yr hugan y diosgwch y clôg 3

Oddiam y rhai a dramwyant yn hyderus,
Yn dychwelyd o ryfel :

9 Gwragedd fy mhobl a yrwch allan,
Pob un o dŷ ei hoffderau;

Oddiar ei phlant y cymerwch ymaith
Fy addurniad dros byth.4

10 Codwch ac ewch ymaith,

Am nad hon yw eich gorphwysfa;
O herwydd ei halogi, dinystrir hi,
A'r dinystr fydd yn nerthol.

11 Os gau-ddywed neb, sy'n dilyn yr ysbryd a thwyll,

66

Prophwydaf i ti am win a diod gadarn;"

Yna daw yn brophwyd i'r bobl hyn.

12 Gan gasglu casglaf Iacob,-ti oll,
Gan gynnull cynnullaf weddill Israel;

Ynghyd y gosodaf hwynt fel defaid yn Bosra,

Israel Nid oedd argoel yr ymadawai, gan y rhanai ymhlith ei ddeiliaid “y meusydd,” yn lle eu "dychwelyd " i blant Israel.

1 Dywediad y bobl yw y llinell gyntaf; ateb Duw yw y ddwy a ganlyn: ni wnai brophwydo iddynt, gan eu gadael yn eu "gwaradwyddiadau," heb ymdrechu eu symud. Neu fel hyn ;

"Na phrophwydwch; prophwydant hwy,

Y rhai na phrophwydant am y cyfryw bethau;
Nid ymadawa gwaradwyddiadau !”

Yn ol hyn, geiriau y bobl ydynt oll. Gwarafunent y gwir brophwydi, darlunient y rhai oeddent i brophwydo, ac achwynent eu bod yn cael eu gwaradwyddo yn barhaus. Gwel adn. 11. Dyhidlo, yw y gair a arferir yma am brophwydo: "Na ddyhidlwch," &c. Gwel Esec. xx. 46; Amos 7. 16; "nac yngan," yn Amos, a ddylai fod "na ddyhidla," sef, na phrophwyda.

2 Neu, yn ol darlleniad rhai copïau, “A ddywedodd tŷ Iacob." Arferir y gair “byrhau" am ddiffyg amynedd a diffyg nerth. Yr achwyniad oedd, naill ai bod "Ysbryd Iehofa" yn fyr o ran amynedd, gan y digllonai yn fuan; neu yn fyr o ran nerth, gan nad allai gyflawni ei amcanion. Ai y cyfryw," &c., iaith gwawd.

[ocr errors]

3 Neu "fantell." Er eu bod yn bobl iddo er cynt, er hir amser, eto, cyfodant megys gelynion yn erbyn ei awdurdod.

Yr addurniad oedd eu dillad: cyfeirir fel y tybir, at Ecsod. xxii. 25.

« PreviousContinue »