Page images
PDF
EPUB

Yn yr oedfa nesaf, cyferchid ni gan ddyn go dal a theneu. Yr oedd ei drwyn Rhufeinig a'i edrychiad Ilym yn codi dysgwyliad ynom. Meddai ar lais clir a hapus, ei sylwadau yn naturiol ac eglur; ei gymhariaethau yn gymhwys, a holl duedd ei bregeth yn dda. Ar ol hwn, cododd dyn mawr, tal, a chyfan i fyny; amser a blinderau yr anialwch yn dechreu rhychio ei wyneb agored. Ymddangosai yn hynod ddifalch a dirodresyn union fel hen Gymro gonest a pharchus. Parai ei symledd a'i synwyr 'i'n meddwl redeg weithiau at "F'Ewythr Robert."

"Addfwyn, siriol, gostyngedig,

Gonest, gwrol, yr un pryd:
Cyfaill cywir, eangfrydig.

Oen, ac ych, a llew ynghyd."

Yr oedd hwn hefyd yn feistr y gynnulleidfa. Gwrandawem arno wrth ein bodd; byddai rhai o'i gymhariaethau yn ddigrif, ond hynod gymhwysiadol. Byddai weithiau yn ddifyr iawn; bryd arall yn dra difrifol. Meddai ar lawer o arabedd a wit, ac nid ydym yn cofio cyfarfod â mesur helaethach o'r peth a elwir yn gyffredin yn common sense da mewn un bregeth erioed. Ni wnai un ystumiau ar ei gorff-nid oedd yn gwaeddi, nac yn canu, ond dysgu y dyrfa. Yr oedd, nid yn unig yn ŵr cadarn yn yr ysgrythyrau, yn gyfarwydd yn y gair; ond yn medru "iawn gyfranu gair y gwirionedd" gyda deheurwydd mawr. Hynod mor agos atom oedd y gŵr ffraeth, ac mor debyg i ni y tybiem ei fod: a meddyliem, pe cawsem gyfle, y buasem yn ysgwyd dwylaw a breichiau hyd yr ysgwydd; ac nad allasem eistedd yn hir yn ei gyfeillach heb ddywedyd "Fy mrawd" o'r galon wrtho. Ac yr oedd y meddwl hwn am dano, a'r teimlad yma tuag ato, yn myned ymhell i berswadio ein calon i dderbyn y gwirioneddau a bregethai.

Gallasem ychwanegu; ond rhaid talfyru. Tangnefedd i'r gwŷr da, a'u brodyr oll.

66

Gwelsom a theimlasom yn Abertawe nad yw dyddiau "Sassiwn" wedi myned heibio yn Nghymru eto. Clywsom hen weinidogion yn dywedyd ei bod yn un o'r cymanfaoedd goreu drwyddi y buont ynddi erioed. Yr oedd gweinidogion y Testament Newydd yn agor eu genau yn hyf; ae nid oedd eu gweinidogaeth mewn gair yn unig, ond hefyd mewn nerth, yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr." Yr oedd cariad a brawdgarwch Cristionogol yn uchel trwy y gymanfa a'r dref; a'r lliaws yn ymddangos yn gwledda ar ddanteithion breision yr efengyl yno. Credwn fod yr olygfa oedd ar y cae, yr olwg hynaws, wylaidd, a thoddedig, oedd ar y miloedd wrth wrandaw "yr ymadrodd am y groes," yn gwneyd i lawer angel wenu yn Hon wrth syllu arnynt. Yr oedd y llawr llaith llethrog wedi ei anghofio; yr awel deneu oer yn cael ei chynhesu gan awelon balmaidd y cariad y soniai y pregethwyr am dano, a deng mil o feddyliau wedi eu hoelio wrth un meddwl, ac wedi eu llyncu gan un pwnc.

Pa beth, tybed, oedd y dylanwad mawr hwn a deimlem? Ai nerth rhesymeg, athroniaeth, areithyddiaeth, neu farddoniaeth ydoedd ? Nid ydym yn ammheu nad oedd y pethau yma oll i raddau pell yn cydgyfarfod yn y pregethau yno; ond a allai y pethau hyn gyrhaedd y cyfryw ddylanwad ar dyrfa mor gymysgedig-a'r un dylanwad ar y meddwl coeth a dysgedig oedd âg M. A. neu D. D. ar ol ei enw, ag ar feddwl yr hen wreigan anllythyrenog? Na, yr oedd yno rywbeth mwy, annhraethol fwy.

Y pethau uchod dan eneiniad a nawdd yr Ysbryd Glân ydoedd: holl alluoedd enaid y genad, a theimladau ei galon, wedi eu lefeinio a'u hysbrydoli gan gariad Crist, a hwnw yn tywallt ei ysbryd allan yn gefnllif bywiol i eneidiau ei wrandawyr, nes oedd ef a hwythau dan ddylanwad yr un meddwl, yn llawn o'r un teimlad, yn cael eu hysgogi gan yr un cyffröad, a Christ yn cael ei ffurfio yn eu calonau.

Canasom yn iach i'n cyfeillion yn y dref, a'n calon yn llawn boddhad, wedi treulio y tridiau mwyaf hapus ac adeiladol erioed yno, a'n dymuniad yn gryfach nag erioed gyda hen fardd Pant-y-celyn

[blocks in formation]

GYFAILL.-Darllenais gyda manylrwydd y dyfyniadau a wnaed yn y "Traethodydd" am Ebrill diweddaf, o waith Dr. Brown ar Epistol cyntaf Pedr; ond nis gallaf, mewn un modd, gytuno â'r ganmoliaeth a roddir i'r eglurhad a rydd o'r ddau fan a grybwyllir. Nid yw yn wir fod y gwr dysgedig yn dyweyd dim a anghytuna â'r gwirionedd dwyfol; a'i fodd o osod allan ei feddyliau sydd eglur a threfnus iawn; eto, ni thybiaf ei olwg o ystyr y manau hyn yn gywir. Gan mai rhy faith fyddai enwi, yn olynol, yr hyn a feddyliaf yn wrthwynebol i'r golygiadau a gymer, gwnaf yn gyntaf roi cyfieithiad o ran olaf o'r drydedd bennod, ac o ran gyntaf o'r bedwaredd, gan eu bod yn gysylltiedig; ac ni ddylasent gael eu gwahanu oddiwrth eu gilydd, wrth ranu yr epistol i bennodau; ac yna attodaf ychydig o nodau, er amlygu yr olwg a ddylem, fel y tybiaf, gymeryd o'r manau hyu.

1 PEDR iii. 13-22.

13 A phwy yw yr hwn a'ch niweidia, os dilynwyr fyddwch o'r hyn sydd dda? 14 Ië, os hefyd y dyoddefwch o herwydd cyfiawnder, dedwydd fyddwch. Ond

rhag eu hofn, nac ofnwch, ac na thralloder chwi; eithr anrhydeddwch yr 15 Arglwydd Dduw yn eich calonau; gan fod hefyd yn barod bob amser i roi ateb i bob un a ofyno air genych am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwyn16 der ac ofn ; a chenych gydwybod dda, fel am yr hyn a ddywedant yn eich erbyn megys drwgweithredwyr, y cywilyddiont hwy, a edliwiant eich ymar17 weddiad da yn Nghrist: canys gwell dyoddef, os ewyllys Duw a'i myn, am wneuthur da nag am wneuthur drwg.

18 O herwydd Crist hefyd unwaith dros bechodau a ddyoddefodd, y cyfiawn yn lle 'r anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, gan gael ei farwolaethu yn y cnawd, ond ei fywhau gan yr Ysbryd (trwy 'r hwn yr aethai hefyd ac y pregethasai i'r 19 ysbrydion yn awr yn ngharchar, gynt yn anufuddion, pan arosodd wrthynt 20 hir amynedd Duw yn nyddiau Noa, tra y darperid yr arch; yn yr hon yr achub

wyd ychydig eneidiau, sef wyth, trwy ddwfr; yr hwn y gwna cynllun o 21 hono, sef bedydd, ein hachub ni hefyd (nid bwrw ymaith fudreddi 'r cnawd, ond ymateb cydwybod dda tuag at Dduw), trwy adgyfodiad Iesu Grist) yr

22 hwn sydd ar ddeheulaw Duw, gwedi myned i'r nef, angelion a thywysogaethau a galluoedd yn ddarostyngedig iddo.

1 PEDR iv. 1—6.

1 Yna gan i Grist ddyoddef trosom yn y cnawd, arfoger chwi hefyd â'r un bwriad (o herwydd yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd, a beidiodd a phechod) 2 fel nad mwyach y treulier y rhan sy 'n ol o'r amser yn y cnawd yn ol chwantau dynion, ond yn ol ewyllys Duw: canys digon i chwi yr amser a 3 aeth heibio o'r bywyd i weithredu ewyllys y cenedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwant, gwin-ormodedd, cyfeddach, diotta, ac anfad eilun4 addoliaeth. O herwydd hyn y synant, gan eich goganu, am na chydredwch 5 â hwynt i'r un rhysedd o afreolaeth; y rhai a gânt roi cyfrif i'r Hwn sy 'n 6 barod i farnu y byw a'r meirw. Er mwyn hyn yn ddiau hefyd yr efengylwyd i'r meirw, fel eu collfarned gan ddynion yn y cnawd, ond y caffent fywyd gan Dduw trwy 'r Ysbryd.

Y peth cyntaf i'w nodi yw y testun sydd gan yr apostol: hwn yn amlwg yw dyoddef erlidigaeth, ïe, hyd angeu, yn achos crefydd. Cofiwn mai hyn yw y testun y peth y llefara yn ei gylch. Yr oedd dau beth yn yr erlidigaeth hon, gwaradwydd a pherygl bywyd ; a defnyddid y rhai'n i'r dyben i ddwyn credinwyr yn ol i'w hen arferion. Tuag at eu cefnogi i wrthsefyll y profedigaethau hyn, cyfeiria yr apostol hwynt at Grist ei hun, yn ei ddyoddefaint ac yn ei ddyrchafiad: os canlynent ef yn y cyntaf, caent hefyd gyfranogi o'r diweddaf; os dyoddef a wnaent, caent hefyd eu hadgyfodi a'u dyrchafu i'r nefoedd. Hyn, yn ol yr olwg sydd genyf, yw cynnwysiad y rhan hon o'r epistol.

Dygir Crist i mewn, fel cynllun, yn adn. 18 o'r drydedd bennod. Cafodd ei roddi i farwolaeth o ran ei ddynoliaeth, a elwir yma ei "gnawd," megys mewn manau eraill : gwel Act. ii. 26; Ephes. ii. 15. Er hyny cafodd ei fywhau, ei ddwyn i fywyd, gan yr Ysbryd. Y mae hyn yn cywir gyfateb i'r peth a olygai yr apostol, sef dangos i'w frodyr y caent gyfodi i fywyd gwell, os byddai iddynt gael eu rhoi i farwolaeth, yn ol yr hyn a ddygwyddodd i Grist ei hun. A dywed wed'yn, yn adn. 22, am ei ddyrchafiad i'r nef. Cyfeiriasai yn flaenorol, yn y bennod gyntaf, adn. 3, at adgyfodiad Crist fel sail gobaith i ni. Y cysylltiad yma sydd rhwng adn. 18 ac adn. 22; a dylid gosod adn. 19-21, o fewn cromfachau, gan fod yr apostol ynddynt megys yn myned allan o'i lwybr, er mwyn rhoddi cynddelwad o ddiogelwch y rhai sydd yn Nghrist, megys Noa a'i dylwyth yn yr arch. Diwedda yr osgoad hwn, gan nodi yn bendant yr adgyfodiad, yr hyn a arwyddoceir, fel y tybiaf, yn y geiriau yn niwedd adn. 18. Gwelir gyffelyb droad o lwybr y peth mewn llaw yn yr ail bennod, adn. 10, hyd ddiwedd adn. 12. Arferasai y gair "Ysbryd," wrtho ei hun, am yr Ysbryd Glân ddwy waith o'r blaen; pen. i. 2, a 22.

Yn nechreu y bedwaredd bennod, gwna 'r apostol gymhwysiad o'i athrawiaeth : dyoddefodd Crist yn y cnawd, felly y dylent hwythau arfogi eu hunain â'r penderfyniad i wneuthur yr un peth, os byddai gofyn, heb ymollwng i'r profedigaethau a'u hamgylchent, heb ddychwelyd i'r llygredigaethau y buasent yn byw ynddynt. Dylid rhoddi diwedd yr adnod gyntaf o fewn cromfachau, fel y gwna Griesbach, gan gyfeirio at Grist; er cymaint ei ddyoddefaint, eto ni phechodd, ni fethodd ei benderfyniad na 'i amynedd. Dywedir yr un peth yn yr ail bennod, adn. 22. Mae 'r ail adnod yn gysylltiedig â'r geiriau, “arfoger chwi hefyd," &c., yn yr adnod gyntaf. Gwelir hyn yn eglur oddiwrth yr hyn a gynnwys y drydedd adnod: "Canys digon i chwi," ac nid "i ni," yw 'r darlleniad mwyaf addas a chymhwys.

66

Mae'r rhai hyn oll yn y rhif liosog yn yr iaith wreiddiol, ond ni chydwedda â'n hiaith ni eu gosod felly. Rhoir rhai o honynt yn y Seisneg yn rhif unigol, ond rhai yn y rhif liosog; ond gwell yn y Gymraeg yw arfer yn gyfan y rhif unigol.

Yr un peth yn ddiau a feddylir yma ag yn nechreu y bennod ganlynol, " Yna gan i Grist ddyoddef trosom yn y cnawd," &c. Dywed yr apostol hefyd yn yr ail bennød, adn. 24, i Grist "ddwyn ein pechodau yn ei gorff ar y pren." Ei amcan oedd dangos mai ei ddynoliaeth a roddwyd i farwolaeth, er cau allan y dychymyg i'r Duwdod ddyoddef.

Deuwn yn awr at y chweched adnod, a eglurheir mewn amryw fodd. Sonia yr apostol, yn yr adnod flaenorol, amy Barnydd megys un ar ddyfod i farnu 'r byw a'r meirw, yn enwedig yr annuwiol. Yna, yn y chweched adnod, cyfeiria yn neillduol at y rhai oeddent gwedi marw yn achos crefydd, a gosod allan mai un dyben o bregethu 'r efengyl i'r rhai oeddent y pryd hyny ymhlith y meirw, oedd, fel y byddai iddynt ddyoddef marwolaeth o'u hachos, a chael eu cyfodi drachefn gan Ysbryd Duw (Rhuf. viii. 11). Dyma 'r golygiad a gymer Scott ar yr adnod. Gwelir yn wir yr un peth yn cael ei draethu yn yr ail bennod, adn. 21; yr hwn a gyfieithaf fel y canlyn:-" I'r dyben hyn yn ddiau y galwyd chwi [sef i ddyoddef, yn ol yr adnod flaenorol]: o herwydd Crist hefyd a ddyoddefodd trosoch, gan adael i chwi gynddelwad, fel y dilynech ei gamrau." Mae y geiriau "cnawd" ac "Ysbryd" yma, megys ag yn y drydedd bennod, adn. 18; a'u hystyr, mae 'n ddiau genyf, sydd yr un; ond yma perthynant i aelodau Crist, ac yn y lle uchod, i Grist ei hun.

Canfyddir cysondeb yn yr olwg hyn; cyfateba hefyd â bwriad yr apostol, a chytuna â rhanau eraill o'r epistol.

Thrussington.

J. O.

SYR,

ORGRAFF GYMREIG.

Wrth chwilio yn mysg hen bapyrau yn fy meddiant, daethum o hyd i lythyr a dderbyniais oddiwrth TEGID, y diweddar fardd ac ieithydd enwog, wedi ei ddyddio, "Nan' Hyfer (Nevern), Mai 23ain, 1842." Mewn ol-ysgrif i'r llythyr, rhydd nodiadau ar orgraff amrywiol eiriau; a chan y gall y sylwadau hyny weini addysg a chyfarwyddyd i ysgrifenwyr ieuaine, hyderaf y rhoddwch le iddynt yn mysg Gohebiaethau y "Traethodydd." Gwelir hefyd eu bod yn rhesymu dros yr orgraff a arferir genych chwi."

Yr eiddoch, &c.,

CALLESTR.

The aspirate his to be continued in the infinitions of verbs ending in au, until another sign for an aspirate can be found; for the circumflex A cannot be deemed an aspirate: as glanháu, rather than glanâu; mwynhâu, &c.

To use ca for ceiff is not to be tolerated. Guna as well as gwneiff is correct. Dweyd is incorrect for dyweyd; the word being composed of dy-gwëyd, and that also from dy-gwedyd: dywedyd: gwed, gwedyd. Gwed, dywedyd; gwed, dyweyd: all correct. Guneyd is more correct than gwneud. See gwneyd in Dr. Ö. Pughe's Dict. The verbs gwneuthur, and gwneuthyd is from gwnaeth; and gwneyd from gwna. "Brenin Assyria a ddug bobl ;" yn hytrach a ddyg, neu

[ocr errors]

a ddwg from dwg. W never mutates into u, but into y; as dwg, dygyd. Tragywydd, from tra-cy-gwydd; and tragwydd, from tra-gwydd, are both correct. Therefore to write the word thus, trag'wyddawl for tragywyddawl, when tragwyddawl is right, is the act of one ignorant of etymology. So also, to write yn ol ei 'wyllys for ei wyllys has sprung from the same source. The root is gwyll; hence the English word will. Ei wyllys is correct. Ewyllys, is compounded of e-gwyllus.

The prefix cy rather than cym to be used before words beginning with c, p, t; as cynghall (cy-call); cymhorth (cy-porth); cynhes (cy-tes). I would prefer cym to cy in words beginning with b, for the sake of the more easily and clearly to distinguish the root; as cymmrawd (cymbrawd); cymmod (cym-bod).

NODIADAU AR LYFRAU.

Traethaud ar Swyddogaeth Barn a Darfelydd, mewn Cyfansoddiadau Rhyddieithol a Barddonol: Ynghyd â Phryddest ar yr Adgyfodiad. Gan y Parch. W. JONES, Periglor Nefyn. 8plyg.

Y MAE y gyfrol ddestlus hon, a'i chymeryd gyda'i gilydd, yn un o'r pethau goreu a gynnyrchodd y wasg Gymreig er's rhai blyneddau.

Gyda golwg ar y "Traethawd ar Farn a Darfelydd," yr hwn a leinw hanner y llyfr, gallwn ddywedyd yn ddibetrus na ddarllenasom ddim ar y pwnc, nac yn Gymraeg nac yn Seisneg, gyda mwy o foddhad a hyfrydwch; a phrin y meddyliwn y bydd i neb a'i darlleno gyda manyldeb amrywio llawer oddiwrthym yu hyn o farn. Ymddangosodd ychydigyn o'r traethawd yn un o'r grealon Cymreig ynghylch ugain mlynedd yn ol; "ond mewn dull," fel y sylwir yn y rhagymadrodd, "nad oedd ond nifer fechan o ddarllenwyr yn ei ddeall, o achos y llythyreniad a arferwyd." Ond nid oedd y llythyraeth, er mor anmhoblogaidd ydoedd, yn un rhwystr i ni ei ddarllen, eithr yn hytrach yn foddion i dynu ein sylw ato; a'i ddarllen a wnaethom, drosodd a throsodd drachefn, a hyny lawer blwyddyn cyn bod genym y dychymyg lleiaf pwy a allasai fod yn awdwr o hono. Nid oeddym y pryd hwnw ond llanc, yn dechreu darllen y cyhoeddiadau Cymreig; ond ys dywed Gronwy Owain,

"Cofio wna hoglanc iefanc,

Yn llwyd hyn a glybu'n llanc;"

felly ninnau; nid aeth y traethawd byth o'n cof, gan yr ystyriem ef hyd yn nod fel yr oedd y pryd hwnw, yn un o'r traethodau rhagoraf yn yr iaith ; ac nid bychan oedd ein llawenydd, pan, ychydig wythnosau yn ol, y gosodwyd ef yn ein llaw, mewn "gwisg eglur, ac wedi ei ddiwylliaw a'i helaethu yn fawr."

Traetha yr awdwr ar "Swyddogaeth Barn a Darfelydd," gyda medrusrwydd mawr, a dyddordeb nid ychydig, fel y maent yn cael eu harddangos yn mhrif gynnyrchion y crebwyll dynol, ymhlith gwahanol genedloedd ac yn ngwahanol oesau y byd, mewn iaith rydd yn gystal ag ar fesur cerdd. Trinir y pwnc yn feistrolaidd yn ei amrywiol ganghenau a'i gysylltiadau ; amlygir beth yw swydd briodol pob un o'r galluoedd hyn pan y gweithredont ar wahan, a pha beth yw yr effeithiau a gynnyrchir ganddynt yn eu hunol weithrediadau; a dangosir mai “y gweithiau a weinyddant fwyaf o addysg i'r byd, yw y rhai hyny a gyfansoddwyd gan yr awduron a ddysgyblasant eu galluoedd yn y fath fodd ag y gallant arddangos cywirdeb barn, heb dywyllni, a phrydferthwch darfelydd, heb chwyddiaith na gormodedd."

Yn attodedig i'r traethawd, ac megys diweddglo iddo, ond heb fod yn dwyn perthynas uniongyrchol âg ef, y mae sylwadau tra synwyrgall ar deilyngdod cymharol y gynghanedd gaeth, a'r mesurau rhyddion; ynghyd â hanes y ddadl yn eu cylch, o amser Eisteddfod Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1819, hyd Eisteddfod Tremadog yn 1851. Fel y mae yn eithaf hysbys, y mae cryn dwysged wedi cael ei ysgrifenu ar y ddadl anorphen hon o bryd i bryd, yn enwedig yn ystod y tair blynedd diweddaf; ond dyledus cyfaddef o honom, na welsom ni ddim hyd yma wedi ei ysgrifenu yn fwy teg a rhesymol na'r hyn a geir yn y tudalenau hyn; ac nis gwyddom chwaith am ddim cyn debyced i roi dyrnod angeuol ar ben cadwynau y gerdd, y rhai sydd wedi eu goddef hyd yn hyn i lyffetheirio awen Cymru, ac i ddifwyno ei llenoriaeth. Ac er nad ydym yn perthyn o'r nawfed ach nac i brophwyd nac i ddewin, rhyfygwn brophwydo fod dydd goruchafiaeth y mydrau caethiwus hyn wedi myned heibio yn dragywydd; ac y gwelir beirdd y Dywysogaeth cyn hir yn arfer y rhyddid y galwyd hwy, a phob creadur rhesymol arall, i'w fwynhau.

« PreviousContinue »