Page images
PDF
EPUB

hyn le i gymeradwyaeth na gwobr, "gan ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd;" Mat. vi. 1; x. 40—42.

6. Heblaw hyn, nid oes rwymedigaeth ar Eglwys Crist i ddarparu difyrwch anianol i'r bobl ieuaine a'r gwrandawyr annychweledig. Pa ddifyrwch a all gymeradwyo i'r rhai sydd yn parhau yn anufudd i'r efengyl? Dim oll. Dylai yr eglwys ymdrechu i wasgaru perarogledd gwir grefydd yn mhob man, a dangos i bawb fod ffyrdd doethineb yn ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau yn llwybrau heddwch, bod iau Crist yn esmwyth a'i faich yn ysgafn. Dylai crefyddwyr fel aelodau cymdeithas gefnogi addysg fuddiol, a sefydliadau daionus, hyd y gallont, a'u cadw yn ofalus rhag eu cysylltu â dim a fyddo yn ormes ar gydwybod. Ond mae defnyddio tai addoliad yn lleoedd o ddifyrwch cyhoeddus yn dori ymddiried, gan mai i'r dyben o gynnal addoliad ac addysg grefyddol yr adeiladwyd hwynt, ac y cyfranwyd tuag at eu hadeiladu. Digon chwithig yn wir yw clywed rhai yn ymgyfenwi ar enwau Puroniaid ac Anghydffurfwyr duwiol yr oesoedd a aethant heibio, yn medru galw eu brodyr crefyddol yn rhith sancteiddiol, am na feiddiant gydredeg â hwynt i'r fath eithation peryglus; nid am fod y naill le yn fwy cysegredig na'r llall, ond ei fod yn gysegr-yspeiliad troi at wasanaeth cyffredin y tir a brynwyd, a'r tai a adeiladwyd, yn unig i ddybenion crefyddol, trwy gydroddion gwirfoddol pobl grefyddol, ac a ddiogelwyd trwy ammodau gweithredoedd trosglwyddiad y meddiannau i ymddiriedolwyr yr eglwysi i'r dybenion hyny.

Dealled y darllenydd, nad oes yn yr ysgrif hon ddim cyfeiriad at un enwad o grefyddwyr mwy nag eraill, ond y mae yn cael ei chyflwyno i sylw ystyriol Cristionogion Cymru yn gyffredinol, pob enwad fel eu gilydd. Ofnwn fod llawer yn ein mysg yn agored i gael eu hudo trwy ymddangosiadau teg, a thrwy hyny syrthio i ddirywiad. Na thwyller ni gan y byd dau wynebog; "canys y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenedlaeth na phlant y goleuni," ac yn ddigon craff i ganfod anghysonderau crefyddwyr; deuant ond odid i'r gyngherdd gysegredig, cewch eich ffafrio â'u cymeradwyaeth, ymunant â chwi i redeg i lawr y sawl a geisiant eich darbwyllo, a dywedant y gellid canu eich caniadau chwi yn y nefoedd ei hun (nefoedd Mahomet, fe allai); ond wedi myned allan, chwarddant yn eu llewis am ben eich gwiriondeb. Dylai dysgyblion Crist ofalu am fod "yn gyfrwys fel seirff, ac yn ddiniwed fel colomened." Gobeithiwn fod yr awgrymiad hwn yn ddigon ar hyn yma.

TRIDIAU YN ABERTAWE.

ABERTAWE yw y dref fwyaf boblog yn Nghymru. Y mae ei phoblogaeth yn rhifo rhwng deg ar hugain a phymtheg ar hugain o filoedd. Tref go wastad yw, yn gorwedd yn ngodrau Cwm Tawy, ar yr aber lle yr ymarllwys yr afon i'r Bristol Channel, ar gwr gorllewinol Morganwg. Cylchynir hi gan liaws o weithiau glo a chopr. Cynnydda ei masnach a'i thrigolion gyda buandra rhyfeddol. Y mae rheilffordd Deheudir Cymru wedi rhoddi 1 Gwel "James' Christian Father's Present to his Children." Pen. xv, xvi.

[ocr errors]

cyffroad mawr ynddi. Y mae ei llongborth yn prysur gael ei eangu, a bwriedir cychwyn yn fuan reilffordd newydd eto o honi i fyny trwy Bonty-pŵl a Henffordd, i gysylltiad â'r North Midland Railway. Gwna hyn ddaioni annhraethadwy i fasnach y dref hon a'r cymydogaethau eto.

Er mai yn ngwlad Morgan Mwyn Mawr, yr hen Gymro, y mae Abertawe, Seisneg yw iaith gyffredin y trigolion, a Seison yw lliaws mawr o honynt. Ac er mai llef ei hysbryd mawr hi yw "Arian! arian! arian!" eto, y mae hi ar y cyfan yn dref go grefyddol. Y mae amlder ei haddoldai yn rhyw brawf o hyn. Ceir yn y dref a'i hamgylchoedd, dri o lanau mawrion; saith o addoldai gan yr Annibynwyr; Methodistiaid Calfinaidd, chwech; Bedyddwyr, chwech; Wesleyaid, dau; Iarlles Huntingdon, un; Pabyddion, un; Methodistiaid cyntefig, un; Unitariaid, dau; Cyfeillion, un; a chan yr Iuddew ei synagog; yr oll yn un ar ddeg ar hugain. Y mae ynddi hefyd ysgolion rhagorol, ac amryw sefydliadau daionus. Ymhlith cynnyrchion y wasg, daw allan o'r dref hon ddau newyddiadur wythnosol, ac un cylchgrawn misol. Ymwela miloedd o ddyeithriaid â'r dref bob haf, o'r gweithiau yn Morganwg a Mynwy, a'r cymydogaethau eraill, i newid awyr, ac i ymolchi ac ymiachau yn nyfroedd hallt y môr.

Treuliasom dridiau hynod o hapus yn y dref hon yn niwedd mis Ebrill diweddaf. Yn ychwanegol at y dyddordeb a'r pleser arferol a fwynheir genym wrth ymweled â'r lle, dygwyddodd yn ffodus fod yno gyfarfod crefyddol mawr yn cael ei gynnal gan y Methodistiaid Calfinaidd ar y dyddiau. Daeth i'n clustiau y dysgwylid rhai o brif weinidogion yr enwad yn Nghymru yno, a thyrfa o'i swyddogion o holl siroedd y Deheudir. Yr oedd dylanwad y cyfarfod hwn wedi rhedeg i raddau pell trwy yr holl dref, a dyfodiad y miloedd dyeithriaid yn synu y trefwyr. Yr oeddym wedi meddwl rhoddi cipolwg i'r darllenydd ar y pethau a welsom yno-ar rai o brif gymeriadau y dref, a rhai cyfeillion y dygwyd ni ar eu traws yn ein hymweliad, ac yn enwedig, rai gweilch y buasai yn hapus genym roddi tipyn o ryddid i'r ysgrifell wrth redeg drostynt-fe allai y cawn gyfle ryw dro eto. Ond gan mai byr yw ein hysgrif bresennol i fod, a chan mai yn y cyfarfod hwn y treuliasom fwyaf o'n tridiau, ac mai ynddo y cawsom y pleser a'r mwynhad mwyaf, cyfyngwn ein helynt yno y waith hon, yn unig i air o'i hanes.

Rhwng dau a thri o'r gloch prydnawn dydd Mercher, gwelem dyrfaoedd yn ymarllwys o'r gwahanol ystrydoedd, tua 'r un eŵr-i gae glas llethrog, wrth dalcen Eglwys y Drindod. Yr oeddym ninnau yn eu plith, yn prysur hobio ymlaen, yn frwd ein bryd am wrandaw y bobl ddyeithr oedd yn myned i agor eu genau uwch ben y dyrfa fawr yn yr awyr agored. Cofiem fod hon yn hen ffasiwn o bregethu, wedi ei harfer gan Grist a'i apostolion, a'u canlynwyr ar eu hol. Yr oedd yno filoedd ynghyd cyn ein bod wedi cyrhaedd yr ysmotyn. Tybed, sibrydai ein meddwl, y medr siarad dau neu dri o'r bobl acw, ydynt ar yr esgynlawr döedig gyferbyn a ni, gadw y dyrfa yma ynghyd am ddwy neu dair awr, y rhai ydynt heb le i eistedd, ac awel deneu ogleddol Ebrill yn oeri eu cernau? Wedi dechreu yr addoliad trwy ddarllen pennod o'r Bibl, canu mawl, a gweddïo, yr oedd deng mil o lygaid yn edrych yn bryderus tua 'r areithfan. Yn fuan, gwelem ddyn bychan yn ymwthio ymlaen, yn esgyn i fyny, ac yn rhoi pennill allan. Yr oedd pob llygad yn craffu arno. Gallasem feddwl wrth y cwestiynau am a sisielid o'n cwinpas, ei fod yn ŵr dyeithr yn yr ardaloedd hyny. Er mai

corff bychan a gwanaidd oedd ganddo, a'i wyneb yn deneu a gwelw, eto, addawai ei lygaid mawrion a myfyrgar fod enaid y tu cefn iddynt. Nid ydym yn mesur nac yn pwyso y dyn wrth ei gorf, byth oidiar pan ddar Ilenasom atebiad y gŵr i'r foneddiges am y Dr. Watts The mind is the man." Yr oedd ganddo lais go fawr, a chlir; siaradai yn rhwydd, gan mwyaf yn yr un dôn; yr oedd yn brin ar ei ystumiau; triniai ei bwne yn fedrus iawn, pob brawddeg yn llawn o synwyr. Yr oedd y gwirioneddau a drinid ganddo yn ei bregeth yn dysgleirio gan dlysni a phrydferthwch. Nid y wisg oedd yn dlôs, ond y corff; nid yr iaith, ond y gwirionedd oedd ynddi. Yr oedd ei bregeth fel y nant loew yn treiglo dros dywod o aur a pherlau, a'r rhai hyny yn gwreichioni eu dysgleirdeb tanbeidiol fwyfwy, Fel yr oedd yn myned rhagddo, yr oedd ei gymhariaethau (illustrations) yn amlhau, ac oll yn hynod darawiadol.

"Natur fawr a'i holl wrthddrychau

Oedd agored iddo ef,
Gwnai forthwylion o'i helfenau

Oll, i hoelio 'r gwir i dref."

Yr oedd y gemau gwerthfawr amryliw yn dysgleirio, y drychfeddyliau ysplenydd yn dilyn eu gilydd yn gyflym, gyflym, nes yr oedd yn cadw ei bwne dan belydrau dysglaer yn ddidor. Yr oedd yn afradus ar ddrychfeddyliau. Braidd na fuasem am iddo greu ambell foment o dywyllwch, er mwyn yr hyfrydwch o weled hwnw yn cael ei ymlid ymaith gan belydrau tanbaid y goleuni. Wrth wrandaw ambell un, byddwn yn teimlo y gwres yn fwy na'r goleuni; ond tybiwn mai fel arall yn hytrach yr oedd yma. Buasai yn hyfryd genym allu ychwanegu am nerth corfforol y gŵr talentog; yr oedd ei nerth yn cilio, a'i bregeth yn gwella. Hoeliodd bob meddwl yn dŷn wrth ei bwnc, a chludodd y dyrfa fawr ymlaen, yn ddiarwybod iddi ei hun, i ganol rhyw ddydd mawr sydd yn dyfod, pryd na ddywed neb am genadwri yr efengyl, "Gweledigaeth bell;" nac am ei chenadau, eu bod yn "Prophwydo am amseroedd pell;" ond pryd y bydd trallod ac ing yr annuwiol, nid yn fygythion ar dudalenau y Bibl, ond wedi eu gwirio yn ei enaid; a holl ddedwyddwch y Cristion, nid yn yr addewid, ond yn ei brofiad-y cwbl wedi eu symud o'r gair a'r dystiolaeth i'r fynwes. Y dydd hwnw, y bydd holl lestri digofaint, a llestri trugaredd, wedi gorphen eu cylcho a'u cymhwyso, a'r Duw Mawr yn ymaflyd yn y Bibl, ac yn arllwys ei gynnwysiad i lenwi y naill o ddigofaint a gwae, a'r llall o ogoniant a gwynfyd. Ni raid dyweyd i'r llefarwr, wrth dewi, adael y gynnulleidfa fawr mewn teimladau dwysion, dan ddylanwad y gwirioneddau difrifol. Ar ei ol, cododd gŵr o ymddangosiad parchus i fyny, yn agos yr un oodran a'r gŵr o'i flaen-ill dau dan ganol oed. Nid oedd hwn ychwaith yn fawr o gorffolaeth. Gwisgai ei wyneb gochni prydweddol o gylch ei drwyn Rhufeinig. Safai i fyny yn syth, ac edrychai yn wrol. Yr oedd ei eiriau dewisol, ei aceniaeth gadarn, a'i bwysleisiaeth priodol, yn arwyddo ei fod yn Gymreigiwr da. Torai gynffon ambell frawddeg yn go gwta. Wrth rai sylwadau, gallasech ddeall ei fod yn athronydd, ac wrth eraill, ei fod yn ysgolâig.

"Ei farn oedd yn gref, a'i ddeall yn fywiog,
Ei eiriau yn deilwng, a'i iaith yn odidog;
Nerth a grymusder oedd yn ei resymau;
Ei lygad yn dân, a'i feddwl yn olau."

Yr oedd ei bregeth yn gyfansoddiad cywrain a thlws; a thraddodid hi yn areithyddol ac effeithiol iawn. Yr oedd yn debyg i'r afon yn rhedeg dros wely a dorwyd iddi trwy y graig. Yr oedd ei dyfroedd yn cynnyddu wrth fyned ymlaen, a'r gwely yn myned yn fwyfwy serth. Byddai yn ymollwng yn ysgwd weithiau; ond eilwaith yn disgyn i'r cafn darparedig. Cymerodd ei bwnc i fyny-eglurodd ef; ac yna, daeth â chreadigaeth, rhagluniaeth, ac iachawdwriaeth ymlaen i'w brofi. Wrth fyned rhagddo, yr oedd ei resymau yn cryfhau, ei galon yn gwresogi, ei feddwl yn cynhyrfu, ei lais yn dyrchafu, a'i freichiau yn ymdaflu. Synem fod cymaint o nerth yn llechu mewn lle mor fychan. Os oedd mwy o'r naill na'r llall yn hwn, nid pelydrau goleuni, ond nerth teimlad oedd y mwyaf. Yn awr ac eilwaith adroddai ambell ddarn o hymn mor gydweddol â'i bwnc, ac mor rymus a tharawiadol, nes y byddai miloedd o galonau yn crychneidio wrth ei wrandaw. Teimlem y genadwri fawr yn disgyn arnom yn frwd o galon ferwedig.

Cawsom ymwasgaru o'r oedfa yma wrth ein bodd, wedi treulio dwy awr mewn awyrgylch nefolaidd, ac wedi cael arwyddion amlwg o foddlonrwydd a bendith y nefoedd arnom. Yr oedd y meddwl wedi cael cystal gwledd, ac un mor wirioneddol, ag a brofodd corff erioed. Yn yr hwyr, gwasgarwyd y cenadau drwy y dref a'r cymydogaethau o amgylch, i roi cyfleusdra i bawb i wrandaw geiriau bywyd tragywyddol.

Ond, daeth amser yr oedfa ddeg o'r gloch dranoeth. Dyma ddydd mawr yr ŵyl. Yr oedd trains penodol wedi eu rhagddarparu i gludo dynion yn brydlawn y boreu hwn o gyfeiriad Caerfyrddin, Caerdydd, a Merthyr. Ac nid anturiaeth ofer, dybygem, oedd hon i gwmpeini y rheilffordd. Yr oedd y dyrfa ar y llechwedd glas o flaen yr esgynlawr wedi lliosogi yn fawr er y prydnawn blaenorol. Bernid fod yno ddeng mil o leiaf. Dyna ddyn ieuanc golygus, canolig o faint, yn codi i fyny, ac yn rhoddi pennill allan yn uchel, araf, a llusgedig. Y mae y ddau lygad dysglaer sydd yn nghanol y wyneb llawn, crwn, goleu, a serchog acw, yn dynodi craffder synwyr, a nerth teimlad. Yr oedd ei iaith yn dda, ei bwyslais yn darawiadol, a'i holl ysgogiadau yn naturiol-yn llawn bywiogrwydd ac eglurhad. Cawsom ddeall a theimlo maes o law ei fod yn dduwinydd da, yn rhesymwr cadarn, yn gristion teimladwy, ac yn draddodwr medrus. Yr oedd a fynai â'r dyn oddimewn. Siaradai ac ymgynghorai â rheswm ac â chydwybod y gwrandawyr oll. Yr oedd deng

"Mil o glustiau wedi 'u hoelio

Wrth ei air yn ddigon tyn;

A phob llygad syllai aruo,
Pawb yn ddystaw ac yn syn."

Dygai y deall yn gaeth â'i resymau, ac yna, yr oedd y galon yn ei law. Os cyffelybir ef i afon-yr afon yn ymdywallt dros y clogwyni serth, ac yn disgyn gyda ffyrnigrwydd dros erwindeb y graig ddanneddog ydoedd. Estynai ei fraich allan, rhuthrai ei waed i gochi ei wyneb, gwreichionai ei lygad gan sel a theimlad, dyrchafai ei lais fel llais udgorn ofnadwy, nes y tybiem fod yr awyrgylch uwch ein penau yn llawn o elfenau ystorm, a'i bod ar ddisgyn arnom—

"Ie, 'nawr 'r oedd wedi ymwisgo,

A chymylau Sinai draw,
Mellt yn saethu, t'ranau 'n rhuo,
Nes y cwynai 'r dorf mewn braw."

Gorphwysai foment yn fud, a'i fraich ar ei hyd yn estynedig. Yr oedd ei ddystawrwydd yn fwy ofnadwy na dim. Buasai yn well genym i'r mellt a'r taranau i ddal ymlaen yn ddidor, na'n cadw i ddysgwyl pan y gwelem fod rhagor i ddyfod. Torai ar y dystawrwydd fel craciad disymwth y daran, gyda bonllef uwch nag oll o'r blaen. Gloewai y deigryn ei lygaid, a gyrai y ddau air cyd-deimladol "Bobl anwyl" i agoryd y pyrth o flaen y gwirionedd, y rhai a wnaent i ddagrau dasgu allan o filoedd o lygaid, a gwlychu gruddiau gwelw, dychrynedig, oedd o'i flaen. Yr oedd yno ruddfanau ac ocheneidiau trym-lwythog. Yn wir, yr oeddem bron yn gorfod gwaeddi allan neu lewygu. Ac oni buasai i'r pregethwr newid ei gwrs yn fuan, credwn y buasai yn un floedd wylofus dros y cae. Ond wele, newidiodd ei dôn. Chwalwyd y cymylau duon, a chwythwyd yr ystorm ymaith gan

"Awel o Galfaria fryn,"

a disgynodd pelydr hyfryd yr haul arnom; gorfoleddai y galon, Ilonai y wyneb, prysurai y dagrau wrth fesur mawr, a thorai bloedd gorfoledd allan gerllaw yr esgynlawr o ryw galon oedd yn rhy lawn i ddal. Teimlem fod y genadwri gyda dylanwad dwyfol teimlem ein holl enaid yn ildio i drefn gras. Mor chwith oedd genym fod y “Duw Mawr" wedi dyfod mor bell i'r dyben i'n hargyhoeddi, a ninnau wedi bod mor hwyrfrydig i dderbyn "ei dystiolaeth yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab." A phenderfynodd ein calon ynom y foment hono ger bron yr Arglwydd "Os wyf eto heb gredu, mi gredaf yn awr; Arglwydd cymhorth fi."

Dyn gwylaidd a boneddigaidd yr olwg arno oedd y nesaf; cadarn o gorff, ac o wedd dy well. Rhoddodd y pennill allan gyda llais mwynaidd:"O haul cyfiawnder dysglaer cu, Llewyrcha drwy bob cwmwl du," &c.

Yr oedd ei lais mwyn peraidd, fel y deheu awel ganol Mehefin, yn goglais llinynau ein calon. Yr oedd yn swyngar o beroriaethus, a chanddo gyflawnder o hono. Yr afon lydan deg, yn rhedeg yn araf drwy y dyffryn gwastad ydoedd hwn; a chludai ni yn hynod ddifyr, heb ein dwyn i olwg dim a'n dychrynai. Caethiwai bob meddwl wrth ei fater, a dylanwadai arnom 66 yn fawr dros ben." Nis gallwn roddi cyfrif am nerth ei ddylanwad. Nid mawredd na dyeithrwch drychfeddyliau-nid cywreinrwydd cyfansoddiad nid iaith flodeuog-ac nid hyawdledd parabl gymaint; eto, rywfodd, parai i'n calon lamu; gwnai i ni wenu yn llon, ac wylo yn hidl; ac nid yn hawdd y gallasem ddyweyd am beth y chwarddem neu yr wylem. Sier ei fod wedi cael gafael ar yr agoriad i'r galon ddynol, ac wedi dysgu y gelfyddyd anhawdd o guddio celfyddyd. Yr oedd y gynnulleidfa dan y bregeth fel cnu gwlân dan gawod o wlaw mân mwynaidd. Tybiwn fod y pennill canlynol yn ddesgrifiad go gywir o hono, ac o'n teimladau ninnau wrth ei wrandaw :

"Byddai'r galon ddynol hithau

Megys telyn yn ei law;

Chware'i fysedd ar ei thannau

Wnai, a'i holrhain drwyddi draw:

Fel y gwlith disgyna 'i eiriau,

Mor effeithiol oedd ei ddawn,

Nes bai 'r dyrfa 'n gwlawio dagrau

Dan ei weinidogaeth lawn."

1

« PreviousContinue »