Page images
PDF
EPUB

LLYTHYR ODDIWRTH DR. TREGELLES,

A YSGRIFENWYD YN RHUFAIN, YN MIS MAWRTH, YN Y FLWYDDYN 1846, AT GYFAILL YN NGOGLEDD CYMRU.

ANWYL GYFAILL A BRAWD YN YR ARGLWYDD,

DYMA fi yn y ddinas fawr hon ymhlith pethau o bob math. Y mae yma bob peth idd ei weled a'i glywed, ond efengyl Iesu Grist. Yr wyf yn ofni eich bod wedi bod yn dysgwyl clywed oddiwrthyf cyn hyn; ac yn wir, caethiwed gorchwylion, a blinder, oedd yr unig achos a'm rhwystrodd i ysgrifenu atoch yn gynt. Yr oeddwn yn dra rhwymedig i chwi am eich caredigrwydd yn anfon i mi eich awdl, pan oeddwn ar fin ymadael â Lloegr. Edrychais drosti pan dderbyniais hi, ond mewn gwirionedd, nis gellais gael hamdden i'w darllen hyd y dydd Mawrth canlynol, tra yn teithio dros wastadedd Picardy, a choedwigoedd Cressy ar fy llaw aswy, a phorthladd bychan St. Valerie yn llawn yn y golwg, o fewn ychydig bellder, ar fy llaw ddeheu, o'r hwn yr hwyliodd William y Concwerwr am Loegr.

Ni a arosasom ran o dridiau yn Paris, lle y cyfarfuom â rhai cyfeillion Cristionogol; yna aethom ymlaen gyda'r "Diligence" i Obêlons, ar yr afon Saone, yr hwn le a gyrhaeddasom yn gynnar y bore Sul canlynol. Treuliasom y diwrnod yno, a chawsom hyd i ychydig Brotestaniaid tlodion yn y lle. Y dydd canlynol, aethom gydag agerfad i lawr afon brydferth Saone. Mae Cæsar, a Rhufeinwyr eraill, yn galw yr afon hon yn Arar, a dywedir y galwent hi felly ar gyfrif ei harafwch a'i llyfnder. Mac yn amlwg mai yr un yw y gair hwn ag araf. Yn y prydnawn, cyrhaeddasom Lyons, ail ddinas Ffrainc, yn sefyll rhwng y Saone a'r Rhone, y rhai ydynt yn ymuno ychydig ymhellach i waered.

Boreu dranoeth, cymerasom long ar y Rhone, gan ddysgwyl cyrhaedd Avignon yn y prydnawn; aethom heibio i lawer o olygfeydd tra phrydferth, a llawer o leoedd dyddorol-Vienne, lle yr alltudiwyd Pilat, a lle y bu farw; Valence, lle y cymerwyd y Pab Pius VI. yn garcharor gan y Ffrancod, a lle y bu farw yn ei gaethiwed. Yn ystod y prydnawn, daeth yn bur amlwg nas gallem fyned i Avignon cyn iddi dywyllu, a chan fod yn anhawdd mordwyo yr afon o herwydd ei bod yn isel, gwelsom y byddai raid i ni dreulio y noswaith ar yr afon; nid oedd hyn yn bur gysurus, gan fod llawer o ymdeithwyr ar y bwrdd, a dim lleoedd cyfleus i gysgu. Yn mysg eraill, yr oedd genym amryw leianod (nuns), ac abbades, y rhai oeddynt yn myned i wyryfdŷ (convent) yn yr Aipht. Y mae llawer iawn o bontydd. crogedig dros y Saone a'r Rhone; ac y mae un bont dra nodedig dros yr olaf, âg iddi ugain o fwäau; y mae yn un o'r pontydd hwyaf yn y byd. Treuliasom y noswaith ar yr afon, mewn lle a elwir Roquemaur, lle y darfu i Hannibal groesi y Rhone, ac aethom ymlaen i Avignon y boreu nesaf. Yma arosasom am bum niwrnod, gan fy mod i yn tur wael, ac eisieu gorphwys arnom eill dau, sef myfi a'n gwraig. Y mae hwn yn lle hynod o ddyddorol, ac mewn sefyllfa ddyddorol iawn; bu yn breswylfan y Pabau am rywfaint ychwaneg na 70 o flyneddau, ac y mae eu palas yn sefyll eto yn nghanol y dref, ar graig uchel. O Avignon, aethom i lawr y Rhone i Arles, dinas yn cynnwys amchwareufa (amphitheatre) eang, ynghyd â gweddillion

Rhufeinaidd eraill. Oddiyno aethom hyd y tir i Marseilles, lle y gwelsom gyntaf Fôr y Canoldir; gadawsom y porthladd hwn mewn agerlong, ar ddydd Mercher, Tach. 5ed, ond cawsom y fath dywydd ystormus, fel y gorfu i ni droi i mewn i Toulon, lle yr arosasom hyd ganol dydd Sul. Boreu Llun, cyrhaeddasom Genoa, prifddinas yr hen Liguria, o'r hon wlad Ꭹ daeth y Lloegrwys i Brydain, gan adael eu henw ar y ffordd ar y Loire, yn Ffrainc. Tiriasom yn Genoa hyd y prydnawn. Y mae yn ddinas ardderchog, yn llawn o balasau, ac yn meddu angorfa dda; mae yr Appennines, neu yn hytrach yr Alps arfordirol, yn ymddyrchafu gerllaw iddi, o'r tu ol. Y boreu nesaf, tiriasom yn Leghorn; yna aethom gyda y rheilffordd i ddinas hynafol a dyddorol Pisa, lle mae clochdŷ yr eglwys gadeiriol yn gogwyddo cymaint o'r llinell unionsyth. Yr oedd genyf rai personau i ymweled â hwynt yn Pisa; oddiyno dychwelasom i Leghorn, ac aethom ar fwrdd llong eilwaith. Gan fod y tywydd eto yn parhau yn ystormus, nis gallem gyrhaedd i Civita Vecchia hyd onid oedd yn brydnawn dranoeth. Y dydd nesaf (y 13eg), daethom o Civita Vecchia i Rufain. Yr oedd rhan helaeth o'r ffordd wedi ei dyfetha yn fawr, trwy gael ei gorlifo gan yr afonydd o'r mynyddoedd; ac nis gallwn amgen na gweled gofal grasol a rhagluniaethol ein Duw, yn lluddias i ni gyrhaedd pen ein taith mor fuan ag y buasem yn gwneyd oni b'ai yr ystorm, oblegyd ar y dydd pan y dysgwyliem ni y byddem yn teithio tua Rhufain, yr oedd y ffyrdd wedi eu gorchuddio gan ddwfr i'r fath raddau ag i osod llawer o'r teithwyr mewn enbydrwydd dirfawr, a boddwyd rhai o'r marchogion (postillions).

[ocr errors]

Y mae yn ofer i mi feddwl am ddesgrifio Rhufain ar len o bapyr. Byddai genyf ormod i'w ddywedyd o lawer; canys, mewn gwirionedd, dyma y lle rhyfeddaf a welais erioed, neu a welaf byth ar y ddaear hon. Mae y ddinas ddiweddar yn gorwedd, braidd yn gwbl, o'r tu gogledd i'r un hynafol, o amser y Weriniaeth (Republic). Mae tri o'r saith fynydd braidd yn hollol wag o drigfanau, a dau eraill agos mor deneu a hwythau o dai. Holl weddillion yr hen Rufain ydynt yn adfeilion drylliedig, oddigerth y Pantheon, un bont, ac ychydig o bethau eraill o lai hynodrwydd. Y temlau o amgylch y Fforum ydynt, y rhan fwyaf o honynt, wedi eu claddu yn ddwfn yn y pridd ag sydd wedi hir gasglu; ac y mae y mwyaf o'r holl adfeilion, y Colosseum, wedi malurio yn mhob cyfeiriad, nes ei gwneyd yn anghenrheidiol i godi muriau mawrion i'w gynnal rhag cwympo yn raddol i lawr.

Er pan ddaethum yma, yr wyf wedi bod yn bur brysur mewn gwahanol lyfrgelloedd, ac hefyd mewn ymdrech i gael myned i mewn at y llawysgrif yn y Vatican, yr hyn sydd o'r pwys mwyaf. Nid wyf wedi llwyddo eto i'w chael i'w chymharu, er darfod i mi edrych arni amryw weithiau; ac yr wyf wedi cyfarfod â mwy nag ychydig o anhawsderau gyda hi. Miˇa gly wais yn fynych am eilun-addoliaeth Rhufain; ond cyn i mi ddyfod yma, a gweled drosof fy hunan, nis gellais amgyffred ei fod i'r fath raddau. Y mae yn y ddinas gannoedd o eglwysi, ac yn mhob un ddelwau cerfiedig, a darluniau o saint (yn enwedig y Forwyn Fair), ac hyd yn nod o Bersonau y Drindod! Yn eglwys fawr St. Pedr, y mae hen ddelw erchyll o bres, pa un a elwir yn awr yn "St. Pedr," ac y mae cannoedd o bobl bob dydd yn dyfod i gusanu ei droed deheu! Rai blyneddau yn ol, yr oedd yn anghenrheidiol adnewyddu ei droed, o achos fod rhan fawr o hono wedi ei gusanu ymaith; gwelais bobl o bob gradd yn addoli yr eilun hwn, hyd yn nod y

pab ei hun. Breiniau yr eglwysi ydynt mor fawr ag i beri syndod; ceir maddeuebion (indulgences) yn mhob un o honynt. Yn St. Ioan Lateran (eglwys gadeiriol Rhufain), y mae hysbysiad (notice) i'w weled, yn dywedyd fod maddeuebion yr eglwys hon mor liosog ag i fod yn anmhosibl i unrhyw berson eu cofio na'u rhifo, heblaw Duw Hollalluog ei hun! Gwelais y pab yn gyhoedd lawer gwaith, ac unwaith cefais ychydig o ymddyddan gydag ef. Arfer y Pabyddion yw cusanu croes ar ei droed deheu, ond nid ydyw yn dysgwyl am y fath anrhydedd oddiwrth Brotestaniaid.

Ac yn awr, gadewch i mi ddyweyd wrthych fy mod wedi cael trafferth, nid ychydig, mewn cysylltiad â gwrthddrych fy nyfodiad yma. Mewn gwirionedd, wedi oediadau, dysgwyliadau yn cael eu dal allan, gommeddiadau, addewidion, siomedigaethau, &c., yr wyf yn cael o'r diwedd, heddyw, na bydd iddynt ganiatâu i mi gymharu y llawysgrif, ag yr oedd arnaf mor neillduol eisieu ei chwilio. Cadwyd fi yma ar y dysgwyliad hwn wythnos ar ol wythnos, ac hyd yn nod pan roddid caniatâd pendant i mi gan y rhai sydd mewn awdurdod, byddai rhyw anhawsder yn cael ei godi yn wastad gan y rhai sydd yn cymeryd gofal llyfrgell y Vatican. Ac fel hyn yr aeth pethau ymlaen hyd oni bu i'r caniatâd ei hunan gael o'r diwedd ei alw yn ol yn hollol. Nid wyf yn gofidio am y drafferth a gymerais, oblegid yr wyf yn credu ei bod yn beth o bwys neillduol i'r llawysgrif hon gael ei chymharu yn fanylach; ac fe allai fod unrhyw boen a gymerwyd yn ei chylch megys yn wasanaeth i'r Arglwydd. Os bydd efe yn gweled yn dda, gall beri llwydd ar ymdrechiadau ei weision; os amgen, gall efe ddysgu iddynt amynedd ac ymostyngiad. Y mae un peth ag sydd yn llenwi yr enaid â llawenydd yn nghanol amryw brofedigaethau "Iesu Grist yr un ddoe a heddyw, ac yn dragywydd." Y mae efe yr un yn ei gariad yn awr, yn ddyrchafedig mewn gogoniant, ag ydoedd pan roddes ei einioes i lawr, gan ddwyn arno ei hun bwys ein pechodau; ac y mae efe fel Bugail da bob amser yn gwylio, ac yn barod i goleddu pob un o'i ddefaid truain, anghenog, a digymhorth. Ac os ydym ni yn teimlo annhrefn a siomedigaeth ar bob llaw, nid yw amgen na rhywbeth i gyfeirio ein heneidiau ymlaen yn fwy llawen at y dydd y bydd yr holl bethau hyn wedi myned heibio am byth, pan y bydd i Iesu deyrnasu fel Pen y greadigaeth newydd, ac y cawn ninnau deyrnasu gydag ef. Y mae ar bobl yr Arglwydd eisieu amgyffred mwyfwy am werth person Crist, fel yr un ag y maent i ymorphwys arno yn wastadol. Os edrychwn ar amgylchiadau, byddwn o hyd yn cael rhywbeth i'n profi, ac i'n bwrw i lawr; ond ein lle ni yw cofio fod pob peth yn mherthynas i ni yn hysbys ac yn bresennol i feddwl Duw, cyn iddo roddi Crist drosom; a chan y gwyddai beth a fyddai pob anghen o'r eiddom, efe a wnaeth ddarpariaeth ar gyfer pob un o'r anghenion hyn. Bydded iddo ef, trwy yr Ysbryd Glân, ein dysgu ni fel hyn i ymorwedd ar Iesu.

Yn nghanol golygfeydd amrywiog y ddinas hon, meddyliais yn fynych pa faint mwy hyfryd a fuasai bod yn Ng―g F-r, ymhell oddiwrth yr aflonyddiadau hyn. Y mae gyda chwi, o leiaf, gyfleusderau i siarad am Iesu Grist, ac am iachawdwriaeth trwy ei waed, wrth bechaduriaid; ac hefyd gyfleusderau at gydgyfeillach Cristionogol, y cyfryw ag nad ydynt i'w cael yma. Fe allai yr ewyllysiech wybod paham y dymunwn gael fy nghyflwyno i'r pab. Fy nyben oedd hyn yn unig,-sef fy mod yn meddwl nad oedd yn iawn i mi adael unrhyw foddion cyfreithlawn at gyrhaedd fy ngwrthddrych heb roi prawf arnynt; ac am hyny, gan fod cyfleusdra,

gwnaethum y goreu o hono. Y mae y pab yn edrych yn hen ddyn cryf, pybyr, o un mlwydd a phedwar ugain oed; ei olwg mor dda ag i allu darllen ysgrifen heb wydrau, ei lais yn glir a chryf. Ymddengys fel yn ymdrechu i ddifyru ei ymwelwyr trwy siarad â hwynt ynghylch amrywiaeth mawr o bethau.

Yn awr, y mae yn debygol y byddaf yn myned yn bur fuan i Florence, i edrych rhai llawysgrifau sydd yno. Pe gallech ysgrifenu ataf lythyr yn bur fuan, wedi ei gyfeirio-Poste Restante, Florence, byddai yn llawen iawn genyf ei dderbyn. Nid wyf yn ewyllysio, modd bynag, eich rhoddi mewn unrhyw gyfran o draul y llythyrdoll, ac y mae yn ddrwg genyf nas gallaf ragdalu hwn ddim pellach na therfynau y taleithiau Rhufeinaidd.

Mae rhywbeth dyddorol, a phrudd, ar yr un pryd, mewn bod yn y fan hon, yn y ddinas lle y pregethodd yr apostolion, a'r lle y rhoisant i lawr eu bywydau dros enw Iesu, a' thros y dystiolaeth am ei werthfawr waed. Yma yr ysgrifenodd St. Paul gynnifer o'r epistolau hyny a gynhyrfwyd gan yr Ysbryd Glân, ac a adawyd ar goffadwriaeth i'r holl oesoedd dilynol; ac at y saint a fuant unwaith yn y lle hwn y cyfeiriwyd yr epistol hwnw ag sydd yn rhoddi yr eglurhad cyflawnaf ar yr athrawiaeth sylfaenol o gyfiawnhad trwy ffydd. Pa fodd y mae pethau wedi newid erbyn hyn! Mae pob peth yn dwyn ger ein bron bod Rhufain wedi bod yn brifddinas y pabau, yn llawer hwy nag yspaid cyfan ei holl lywodraethau eraill. Y mae adfeilion i'w gweled ar bob llaw o'r hyn ydoedd unwaith; ond y mae a wnelo ei gogoneddau a'i hadeiladau presennol â'r hyn y daeth iddo mewn ystyr eglwysig. Pa lawysgrifau bynag a ellir eu cael yn y Vatican, yn mherthynas i fonachlog Cg F-r, nid yw yn hawdd myned atynt, o achos nid oes yno yr un mynegai briodol, a'r llawysgrifau wedi eu gosod wrth y miloedd mewn cypyrddau. Y mae oriel hir y llyfrgell hon yn chwarter milltir o hyd, yn llawn o gypyrddau; y mae mewn gwirionedd yn un o'r lleoedd rhyfeddaf a welais erioed. Y mae palas y Vatican o eangder anferth, yn sefyll yn ymyl Eglwys St. Pedr, ac i'w weled yn ymddyrchafu yn uchel, uchel, i'r awyr. Dywedir y cynnwysa un mil ar ddeg o ystafelloedd, a llawer o'r rhai hyn o hyd dirfawr. Cynnwysa, heblaw yr ystafelloedd y mae y pabau yn byw ynddynt y gauaf, orielau hirion, ac ystafelloedd, wedi eu llenwi â hen gerf-ddelwau a cherf-ysgrifau, y llyfrgell, amgueddfa (museum) Aiphtaidd, amgueddfa Etruscaidd, amryw ystafelloedd wedi eu paentio ar ffresgaor (in fresco) gan Raphael, orielau hirion i'r pab i gymeryd ymarferiad ynddynt, rhai ystafelloedd yn cynnwys tua hanner cant o arluniau (paintings) gwerthfawr. Ymddengys Eglwys St. Pedr (er mor ryfeddol yw o ran maint), yn fechan wrth ei chymharu â'r palas hwn sydd yn ei hystlys.

Bu nifer mawr o Seison yn aros yn Rhufain y gauaf hwn, yn rhai dymunol fel cyfeillion, amryw o honynt, yn gystal ag yn Gristionogion prydferth. Dymuna Mrs. T. gael ei chofio yn garedig atoch ac at eich gwraig. A wnewch chwi fy nghofio innau hefyd ati, ac at y Cristionogion eraill o'ch amgylch, ag y cefais i unrhyw gymdeithas â hwy, pan oeddwn yna gyda chwi flwyddyn a hanner yn ol? Nis gwn pa bryd y gallaf ddysgwyl eich gweled eto; ond y mae amryw yn Ngogledd Cymru ag y bydd yn llawen genyf gael cyfarfod â hwy eto. Mae yr hinsawdd yma yn ei wneyd yn lle tra hyfryd i dreulio y gauaf ynddo, ac y mae llawer o rai methedig yn dyfod yma i'r dyben hwnw; ond yn yr haf y mae yn bur

boeth. Y coed oranges a'r coed lemons ydynt wedi eu gorchuddio yn dew eisoes â ffrwythau.

Os caniata yr Arglwydd i ni gael byth gyfarfod eto, gall y bydd genyf lawer o bethau i'w mynegu i chwi ynghylch Rhufain a'i thrigolion. Pa fodd yr ydych yn myned ymlaen gyda chwilio i mewn i ranau prophwydoliaethol yr ysgrythyr? Yr wyf yn credu mai po fwyaf a wypom am danynt, mwyaf yn y byd y cawn eu bod yn fuddiol, yn ddyddorol, yn gystal a dealladwy. Gorphwysaf, anwyl gyfaill,

Signor E. T., &c.

Eich brawd yn yr Arglwydd Iesu Grist,
S. PRIDEAUX TREGELLES.

CHWAREUON CREFYDDOL.

"NID oes dim newydd dan yr haul; a oes dim y gellir dywedyd am dano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe a fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni." Felly y dywedodd y doethaf o ddynion wrth fwrw golwg ar helyntion, darganfyddiadau, a dyfeisiau y byd cyfnewidiol a darfodedig hwn, yn enwedig y pethau y mae gorwychder, difyrwch, a gwageddau plant dynion yn ymddibynu arnynt. Er maint y bri a roddid ar y cyfryw bethau yn eu hamser, buan yr heneiddiasant, y gwywasant, ac y diflanodd y cof am danynt, a hyny mor llwyr ar ran y cyffredin o ddynion, a phe na buasent erioed wedi bod. "Nid oes goffa am y pethau gynt," medd efe; ac er adgodi ac ailffurfio hen ddychymygion a dyfeisiau drachefn a thrachefn, nes peri syndod aruthr i'r ehud a'r anwybodus; eto ni fydd adeg y rhai hyny yn hir, canys "Ni bydd coffa am y pethau a ddaw gan y rhai a ddaw ar ol." lë, er maint yr ymegnïa dynion i fytholi eu henwau trwy gynnyrch eu talentau, mae difrod amser yn eu prysur lyncu iddo ei hun, a hwythau a'u gweithredoedd, fel eraill o'u blaen, yn syrthio i dir anghof. Darparasai y brenin doeth hefyd "gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrwch meibion dynion," a diammhau nad oedd dim yn fyr er gwneuthur y mwynhad yn ddymunol o fewn cyrhaedd cyfoeth, gogoniant, a doethineb dilafal; ond pan ydoedd yn edrych yn ol ar hyn, a llawer mwy, beth oedd ei brofiad ef? beth a gawsai efe ynddynt ? "Wele," medd efe, "hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oes dim budd dan yr haul;" Preg. ii. 8, 11, 12. Dyma brofiad Solomon, yr hwn a gawsai bob mantais i wneuthur prawf teg; ac os methodd efe a chael boddhad mewn difyrwch anianol, a rhwysgfawredd daearol, ofer ynte i neb arall freuddwydio am hyny, "canys beth a wnai y dyn a ddeuai ar ol y brenin ?"

Addefir fod llawer o ddarganfyddiadau buddiol wedi ac yn cael eu gwneuthur o oes i oes, a thebygol iawn y ceir allan lawer mwy eto, a'r rhai hyny yn tueddu er lles a chysur dynolryw. Mae y pethau hyn yn fendithion gwerthfawr yn eu lle, a'r darganfyddwyr o honynt yn haeddu parch; ond os gosodir hyd yn nod y gwelliant mwyaf buddiol yn y celfyddydau fel gwrthddrych eithaf y meddwl i ymgyrhaedd ato, ac fel sail 1 Preg. i. 9-11

« PreviousContinue »