Page images
PDF
EPUB

Ar draul y Gymdeithas er Lledanu Gwybodaeth Gristionogol y cyhoeddwyd-ef, a gwerthwyd hwy am 10s. 10c.

[ocr errors]

4. "Welch Piety or a Further Account of the Circulating Welsh Charity Schools from Michaelmas 1778 to Michaelmas 1779."

Rhoddodd Mrs. Bevan hanner cant o'r uchod hefyd i lyfrfa y Gymdeithas er Lledang Gwybodaeth Gristionogol.

5. "Llun Agrippa, y Cristion o fewn ychydig, gan Mathew Mead. Yr ail Argraphiad, gwedi ei gymmaru a'r Saesoneg, a'i ddiwygio o amrywiol o Feiau ag oedd yn yr argraphiad cyntaf. Trefecca, argraffwyd yn y flwyddyn 1779, Pris 9 ceiniog.

[ocr errors]

Gwel rhif 1, 1723.

6. "Ychydig o Eiriau o Hymnau Newydd, o waith Thomas Dafydd, ar ddy muniad rhai o'i Ffryns Cristionogol, a gafodd lawer o fudd wrth eu canu. Ynghyd a Marwnad Elizabeth Jones, o Dref Llantrisaint, ar ddymuniad rhai pobl leuaingc na's cawsant yr argraffiad cyntaf.'

[ocr errors]

7. "Blodeugerdd Cymry. Sef casgliad o Ganiadau Cymreig gan amryw awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau duwiol a diddanol; rhai na fuont yn gyhoeddus mewn argraph o'r blaen. O gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Staphord Prys, gwerthwr llyfrau. Bydded hysbys ir Cymru fod llyfr dewisol Ganiadau yr oes hon yn awr yn yr argraphwasg, ac a fydd yn barod ynghylch Gwyl Mihangel. 1779. Pris 3s."

8. "Deonglydd y Ser."

9. "Dewisol Ganiadau yr Oes Hon O waith llawer o Beirdd Cymru. A gasglwyd ac a gyfansoddwyd gan Hugh Jones, Llangwm. Argraphwyd yn y Mwythig gan Staphord Prys yn y flwyddyn 1779.'

Ailargraphiad gwel rhif 1, 1759.

10. "A Geographical, Historical, and Religious Account of the Parish of Aberystruth, in the County of Monmouth. To which are added Memoirs of several Persons of Note, who lived in the said Parish. By Edmund Jones, Trefecca: Printed in the year 1779."

11. "Seren Tan Gwmwl. Llundain. 1779."

Gwaith y diweddar fardd gwageddus, Mr. John Jones (alias Sion Glan y Gors), yr hwn oedd yn cadw tafarndy yn Llundain, ydoedd y llyfr hwn. Pleidio y chwildroad yn Ffrainc y mae. Y mae yn cynnwys y sylwadau mwyaf gwaradwyddus ar freninoedd a allai iaith ei roddi; er y rhaid cyfaddef fod amgylchiadau yr amser yn gwneyd peth yn gabldraeth na wnaethid sylw o hono, ac na chyfrifasid felly ar amserau a than amgylchiadau eraill. Gwnaeth gryn gynhwrf yn y wlad hon y pryd hyny.

12. "Hanes Troedigaeth un o'r Indiaid digred i'r grefydd Gristionogol. Mewn Llythyr at Ffrynd. Aberhonddu, argraphwyd ac ar werth gan E. Evans. 1779. [Pris dwy geiniog.]"

13. "Coppi o Lythyr, yr hwn a gafwyd tan Garreg. Y pedwerydd argraffiad. Trefriw. 1779,"

Y mae yr hysbysiad canlynol ar ddalen ddiweddaf y llyfryn uchod:-"Bydded hysbys fod John Williams, Dysgawdwr Miwsic, o Fodedeyrn, yn bwriadu, trwy help ei gydwladwyr a phawb o'i ewyllyswyr da; gael llyfr i'r print, a elwir (Cerddoriaeth Seion) yn dair rhan,

1. Yn Egoryd ar (Gamut) sef Clorian Peroriaeth, ac eglurhad helaeth ar bob gradd o'r Tônau amser cyffredin ac amser trifflyc.

2. Y Peroriaethau ac adnodau o'r Salmau, ynghyd a fo'n berthynasol i bob un. 3. Hymnau ac Anthem at amryw achosion, ynghyd a Geirlyfr yn egoryd ar y geiriau caledion mewn Miwsic; a'r llyfr a ddaw allan gan gynted ac y ceffir digon o gyn northwywyr. Ai bris a fydd 28. 6c. mewn papur glas.'

Nis gwyddom a gafwyd y gefnogaeth anghenrheidiol i gyhoeddi y llyfr uchod. Nid ydys yn cofio erioed ei weled,

14. "Marwnad Elizabeth Jones o Lantrisant, yn sir Forganwg. Gan Dafydd Williams. Aberhonddu, argraffwyd gan E. Evans."

Pregethwyd yn ei chladdedigaeth, gan Mr. Jones, Llanganna. Yr oedd hwn y trydydd argraffiad.

15. "Testament Newydd ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist," &c. 16. "Byrr Hanes o'r pethau mwyaf hynod ym mywyd James Albert Ukawsaw Groniosaw, Tywysog o Affrica: Fel yr adroddwyd ganddo ef ei hun. Aberhonddu, argraffwyd dros y Parch. Mr. W. Williams, gan E. Evans. 1779." Yn gysylltiedig a hwn, y mae Bardd Pant y celyn yn rhoddi y canlynol-"Bydded hysbys i'r Cyffredin, fod llyfr yn dyfod allan cyn pen Amser hir, os yr Arglwydd a ganiatta, o waith cyfieithydd y llyfr hwn: ag elwir Gloria Scripturarum, neu Ögoniant yr Ysgrythyr lân." Yna rhydd ei gynnwysiad, ac ychwanega, "Er mwyn cael prawf o ysbryd y llyfr, mi roddais rai gwersi o'i ddechreuad ef yma, hyd i bedair tu dalen." Ond nid ydym wedi dygwydd cael gafael arno, os cafodd ei gyhoeddi. Barddoniaeth ydoedd, a chystal a dim arall a gyhoeddwyd ganddo.

17. "Llythyr y Gymanfa, &c. Mehefin 1779, yn y Glyn-caerog, yn sir Ddinbych; yn arddel Ffydd o flaen Bedydd."

Wele ni wedi rhoddi saig lled dda o flaen carwyr ac ymbleserwyr ymhlith cynnwysiad silffoedd llychlyd. Er y bu chwilio am danynt yn olrheiniad o'r fath i ni ag y bu orfod arnom ymolchi a brwsio llawer arnom ein hunain, ar ol llawer awr o chwilio mor ddyfal, mor awyddus, ac mor ddiwyd, a phe buasem yn cloddio am aur yn Awstralia. Y maent yn cael eu rhoddi i'r darllenwyr yn lân, heb lwchyn arnynt, ac mor werthfawr ag aur pur.

ROGER WILLIAMS.

[Life of Roger Williams, the Earliest Legislator and the true Champion for a Full and Absolute Liberty of Conscience. By ROMEO ELTON, D.D., F.R.P.S., Fellow of the Royal Society of Northern Antiquaries, etc. etc. London.]

ADEG gynhyrfus ar y byd gwladol a chrefyddol oedd yr amser y cafodd Roger Williams ei fod ynddo. Amser ag yr oedd egwyddorion gwrthwynebol i'w gilydd wedi dyfod i gydgyfarfyddiad, a dynion dihafarch yn ymladd o ddifrif calon o bob ochr. Yr oedd cawri ar y ddaear yn y dyddiau hyny. O ddyddiau Harri yr Wythfed hyd yn awr yr oedd yr Eglwys Sefydledig, neu yn hytrach yr eglwys a gydnabyddid gan y llywodraeth wladol, yn hynod o ansefydlog. Weithiau yn y ffurf yma, bryd arall mewn ffurf dra gwahanol. Ar un adeg yn Babaidd, wedi hyny yn Brotestanaidd, a thrachefn yn gymysgedig o'r naill a'r llall. Am un tymmor yn Esgobyddol, ar dymmor arall yn Bresbyteraidd, wedi hyny dychwelai eilwaith i'w ffurf gyntefig; a'r cyfan o'r cyfnewidiadau hyn yn cymeryd lle yn y corff yn ol fel y byddai egwyddorion y pen yn dygwydd bod ar y pryd. Bwriodd Harri ymaith benogaeth y pab o Rufain, i'r dyben o gael bod yn bab ac yn ben i'r eglwys ei hunan. Am nad oedd deddfau Eglwys Rhufain yn caniatau iddo fwrw ymaith ei wraig a phriodi un arall ag oedd yn decach yn ei olwg, penderfynodd roddi llythyr ysgar i awdurdod y Tad sanctaidd, a thaflu ei iau oddiar ei war, fel y gallai lunio deddfau i'r eglwys yn Lloegr wrth fodd ei galon ei hun, er mwyn

bod yn ddiogel rhag un niwed oddiwrth esgymundod "ei Sancteiddrwydd.” Ond fel y mae yr Hwn sydd uwch na'r uchaf yn gwylied, goruwchreolwyd yr amgylchiadau hyn i fod yn ddechreuad cyfnod newydd a phwysig ar hanes crefydd yn yr ynys hon. Nid oedd y corff fel y cyfryw wedi myned o dan nemawr o gyfnewidiad er newid ei ben, er hyny, drylliwyd iau y bwystfil, ac agorwyd y drws i gyfnewidiadau mawrion. Codai ambell un yn ei ddyddiau ef i fod yn dystion dros y gwirionedd; ac aethant ar gynnydd yn yr ychydig hamdden a gafwyd o dan deyrnasiad Edward, er creulondeb Pabaidd Mari, ac er llawer o wrthwynebiadau o dan Elisabeth, Iago, a Siarl y Cyntaf, nes o'r diwedd, trwy gael seibiant am yspaid byr yn amser y Weriniaeth, yr oeddynt wedi myned mor lliosog a phenderfynol, fel, yn amser Siarl yr Ail, gan fod yr awdurdod wladol o blaid eu gwrthwynebwyr, y gorfu i ddwy fil o weinidogion, nad oedd y byd yn deilwng o honynt, droi allan o'r Sefydliad, o herwydd eu hanghydffurfiaeth a'r defodau crefyddol oedd ynddi.

Amean y blaid hon yn yr Eglwys Wladol, er y dechreu, oedd ei diwygio oddiwrth ei hathrawiaethau a'i seremoniau Pabaidd, ac ar y cyfrif hwnw gelwid hwy yn Buritaniaid, mewn ffordd o ddirmyg arnynt: ond o herwydd fod y nifer fwyaf o lawer, yn esgobion a chlerigwyr, o dan lywodraeth ysbryd Pabaidd creulawn, a'r rhai hyny yn dylanwadu ar y penadur a fyddai yn dygwydd eistedd ar yr orsedd, ac ar y rhan liosocaf o'r mawrion a swyddogion y llywodraeth, yr oedd yn fyd mor flin ar y Diwygwyr, fel y gorfu i lawer o honynt, yn nyddiau Iago y Cyntaf, er maint eu gobeithion ar ei esgyniad i'r orsedd, ffoi o'r wlad hon i Holland am nodded i addoli Duw yn ol eu cydwybodau. Yn y flwyddyn 1620, gan nad oeddynt yn gallu gwneuthur eu cartref yn Holland, ac nad oedd gobaith iddynt fwynhau y rhyddid a ddymunent trwy ddychwelyd yn ol i Loegr, ymfudodd tua chant o honynt o Leyden i Loegr Newydd, yn America, ac ymsefydlasant yn drefedigaeth yn Plymouth Bay. Yn yr adeg hon yr oedd gwlad y gorllewin yn ymagor fel noddfa i'r gorthrymedig, ac aeth llawer o'r "pererinion" yno, ac ymsefydlasant yn Salem, Charlestown, Boston, a lleoedd eraill. Cydnabyddent ymostyngiad i awdurdod coron Lloegr, a chawsant freinlen i'w hawdurdodi i ffurfio cyfansoddiad gwladol o dan ei nodded; ond o herwydd nad oeddynt yn anghytuno â'r egwyddor o sefydliad eglwysig fel y cyfryw, ond yn unig a'r athrawiaethau a'r defodau coelgrefyddol a ddysgid yn y sefydliad hwnw yn yr hen wlad, ac mai eu hamcan penaf wrth ymfudo ydoedd rhyddid i fwynhau eu hegwyddorion eu hunain, a sefydlu eglwys rydd oddiwrth lygredigaethau a choelgrefydd, yr oedd yn naturiol dysgwyl canfod y syniadau hyn yn gymhlethedig â'u deddfau gwladol, a'r canlyniad fu iddynt ymffurfio yn fath o werin-lywodraeth grefyddol. A chan eu bod oll ar y cyntaf yn rhai o'r un syniadau, lluniwyd deddf ganddynt a fu mewn grym am ryw yspaid, nad oedd i neb gael eu derbyn i gyflawn ryddid yn y corff gwladol, oddieithr eu bod yn aelodau o rai o'r eglwysi o fewn terfynau eu hawdurdod. Cauid y drws fel hyn i unrhyw swydd wladol, nid yn unig oddiwrth ddynion hollol annuwiol, ond hefyd oddiwrth y dynion mwyaf crefyddol a duwiol, oni byddent yn perthyn i'w sefydliad crefyddol hwy; ond fel yr oedd y trefedigaethau yn lliosogi, nid hir y buwyd heb ganfod fod y ddeddf hon yn feithrinfa i dwyll a rhagrith, pryd y gorfu iddynt ei dyddymu. Pa fodd bynag, dyma oedd sefyllfa pethau yn yr adeg y daeth Roger Williams i'w n mysg.

Ganwyd Roger Williams yn y flwyddyn 1606. Yr oedd ei rïeni yn byw yn nhreftadaeth hynafiaid ei dad, yn Maestroiddyn, yn mhlwyf Cynwil Caio, yn sir Gaerfyrddin. Ymddengys eu bod yn byw mewn amgylchiadau cysurus, a'u bod wedi gofalu am roddi manteision addysg helaeth i'w mab, ac iddo yntau wneuthur y defnydd goreu o honynt; oblegid pan nad oedd ond pymtheng mlwydd oed, dywedir y byddai yn arfer ysgrifenu, mewn llaw fer, areithiau a draddodid yn y Star Chamber, a'u hanfon i Syr Edward Coke, yr hyn a barodd i'r cyfreithiwr enwog hwnw sylwi ar y bachgen ieuanc fel un tra gobeithiol, a'i anfon i Sutton's Hospital, yn awr y Charter House, a chafodd dderbyniad i'r sefydliad hwnw Mehefin 25ain, 1621. Wedi hyny aeth oddiyno i Rhydychain, a chafodd dderbyniad i Goleg yr Iesu (yn ol coflyfr yr athrofa), Ebrill 30ain, 1624. Pa hyd yr arosodd yno nid yw yn wybyddus, ond y mae yn amlwg iddo gyrhaedd gwybodaeth fanwl o'r Groeg, Lladin, a'r Hebraeg, ynghyd âg amryw o ieithoedd diweddar. Wedi bod am ryw yspaid, ar ol ei ymadawiad â Rhydychain, yn efrydu y gyfraith o dan nodded Syr Edward Coke, trodd ei fryd at weinidogaeth yr efengyl, a derbyniodd urddau Eglwys Loegr. Dywedir iddo ennill gair da fel pregethwr yr ychydig y bu yn aros yn y wlad hon. Tybir mai yn rhywle yn esgobaeth Lincoln y bu yn gweinidogaethu; oblegid, heblaw y cyfeiriad a geir yn un o'i ysgrifeniadau ag sydd yn rhoddi lle i gasglu hyny, yr oedd yn barod wedi derbyn athrawiaethau y Puritaniaid erlidiedig; a dywedir fod y rhagorol Dr. Williams, esgob Lincoln, yn dyner tuag at yr Anghydffurfwyr, ac yn siarad gyda chryn ryddid yn erbyn seremoniau yr Eglwys. Ond gan fod yr anfarwol Laud yn chwareu ei branciau, ac yn gorchymyn hollol ymostyngiad i'w defodau, gorfodwyd ef, ar ol amryw o weinidogion duwiol a dysgedig eraill, i roddi i fyny bob gobaith am ryddid crefyddol yn y wlad hon, a ffoi i'r America.

Hwyliodd Mr. Roger Williams a'i briod o Bristol, Chwefror 5ed, 1631, ac wedi mordaith dymhestlog, am driugain a chwech o ddyddiau, cyrhaeddasant Boston, yn Massachusetts, yn Lloegr Newydd, lle yr oedd trefedigaeth o'r wlad hon wedi ymsefydlu. Ond yr oedd ef wedi dychymygu am fwy o ddedwyddyd nag oedd y byd newydd yn gallu ei ganiatau iddo. Yr oedd y sefydliad hwn yn ystyried ei bod yn ddyledswydd arnynt, fel cyfansoddiad gwladol, i ddefnyddio yr awdurdod hono i wrthwynebu a darostwng yr hyn a farnent hwy yn gyfeiliornad mewn pethau crefyddol. Yn wir, dyma oedd y gred gyffredinol yn mysg pob plaid, ac yn mhob gwlad, yn y dyddiau hyny. Ond yr oedd y Cymro yn synied yn wahanol. Ei egwyddorion ef oedd,—mai dyledswydd y swyddog gwladol oedd amddiffyn cyrff a meddiannau dynion, ac nad oedd ganddo hawl i ymyraeth â materion cydwybod, a chosbi am gyfeiliornad a gwrthgiliad, nad oes gan y llywodraeth wladol un awdurdod i deyrnasu ar eglwys Crist, nac i alw neb i gyfrif o herwydd ei grefydd, a bod yr athrawiaeth o erlid neb o achos cydwybod yn hollol groes i athrawiaeth Crist lesu. Yr oedd y rhai hyn yn syniadau newyddion a dyeithr, na ddaethai i galon dyn erioed o'r blaen; ond meddai ef ddigon o wroldeb i'w traethu yn hyf a difloesgni, beth bynag a fyddai y canlyniadau; ac nid hir y bu heb deimlo o achos ei hereticiaeth.

Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo lanio, galwyd arno, gan yr eglwys yn Salem, i fod yn gynnorthwywr i'r Parch. Mr. Skelton, a'r hyn y 1853.]

cydsyniodd. Ond yn y fan, wedi iddo ddechreu ar ei weinidogaeth, dyma yr awdurdod wladol yn cyfryngu i attal ei sefydliad; a'r rheswm a roddid dros yr ymyriad hwn oedd, ei fod wedi gommedd ymuno â'r gynnulleidfa yn Boston am na chyffesent edifeirwch o'u bod mewn cymundeb âg Eglwys Loegr pan oeddynt yn byw yno: ac hefyd am ei fod yn hòni nad oedd gan y swyddog gwladol awdurdod i "gosbi am dori y Sabboth, nac am unrhyw drosedd o'r llech gyntaf." Y mae yn anghenrheidiol i'r darllenydd ddeall fod yr holl gyhuddiadau a ddygid yn erbyn Mr. Williams yn cael eu dodi yma yn y wedd y gosodid hwynt allan gan ei wrthwynebwyr, oddieithr lle ceir mantais oddiwrth y cyfeiriadau anuniongyrchol at rai o honynt yn ei ysgrifeniadau ef ei hun i ddeall ei olygiadau yn well. Er fod Williams yn ystyried fod pob eglwys wladol o gyfansoddiad niweidiol, a bod y mwyafrif yn y cyfryw eglwysi yn ddynion anianol, eto cydnabyddai fod lliaws o wir Gristionogion mewn eglwysi gwladol, a rhoddai ddeheulaw cymdeithas a derbyniad i gymundeb i foneddigion o Boston, pan oedd yn weinidog yn Plymouth. Ymddengys fod y cyhuddiad arall yn cynnwys egwyddorion a gydnabyddai yn wirionedd, er hwyrach, fod yr awdurdodau yn eu gosod allan mewn geiriau lled gryfion, er mwyn cadarnhau eu gwrthwynebiad iddo. Pa fodd bynag, gorfu arno ymadael o fynwes yr eglwys yn Salem, ond cafodd dderbyniad cynhes gan yr eglwys yn Plymouth i fod yn gynnorthwywr i'r Parch. Ralph Smith. Yr oedd y "brodyr" yn Plymouth yn cael eu hystyried yn llawer mwy rhyddfrydig na'r trefedigaethau eraill, am nad oeddynt yn cysylltu unrhyw gerydd gwladol â dysgyblaeth eglwysig. Y mae amgylchiadau yn cario dylanwad grymus ar feddyliau dynion yn ffurfiad eu hegwyddorion, ac hwyrach fod yr amser a dreuliodd y brodyr hyn yn Leyden yn rhoddi cyfrif, mewn mesur, am y gwahaniaeth hwn, tra yr oedd y lleill wedi dyfod o ganol yr ymdrechfa o Loegr, heb feddwl gymaint ag unwaith fod yn ddichonadwy i grefydd hanfodi, nac i anwiredd gael ei ddarostwng, yn annibynol ar awdurdod wladol. Ond beth bynag am hyny, yr oedd Roger Williams yn debycach o fedru cytuno â hwy yn hyn nag a'r awdurdodau yn Boston. Tra yr oedd yn aros yn y lleoedd uchod, cafodd gyfleusdra i ddyfod i gydnabyddiaeth â rhai o brif benaethiaid yr Indiaid, a theimlai yn ddwys o herwydd eu cyflwr, a thrueni eu llwythau. Bu yn "lletya yn eu tyllau budron a myglyd" er mwyn dysgu eu hiaith, i'r dyben i fynegu iddynt ffordd iachawdwriaeth.

Yn Awst, 1633, dychwelodd Mr. Williams eilwaith i Salem i gynnorthwyo Mr. Skelton; ac yn mhen tua blwyddyn bu farw yr olaf, a dewiswyd yntau yn ei le. Yn y cyfamser anfonodd Williams lythyr at y llywydd, ag oedd wedi ei ysgrifenu o'r blaen at lywydd Plymouth, yn dadleu nad oedd gan y trefedigaethwyr hawl i gymeryd meddiant o led troed o dir y wlad ond trwy roddi cyflawn foddlonrwydd i'r brodorion am dano. Nid yw yn ymddangos eu bod hwy wedi gwneuthur hyn; ond yr oedd yr hen erthygl Babaidd, "fod gan freninoedd Cristionogol hawl, ar gyfrif eu Cristionogaeth, i gymeryd a rhoddi ymaith diroedd a gwledydd rhai eraill," heb ei dileu eto o'r byd; ac yr oedd y brenin yn gosod ei hun allan yn y freinlen fel prif arglwydd yr holl gyfandir, ac yn caniatau ynddo ddarnau eang o dir i'r trefedigion, heb un cyfeiriad at hawl y brodorion. Ac oddiar ei ofnau y byddai iddynt weithredu yn ol llythyren y freinlen yr ysgrifenodd Mr. Williams atynt; a dichon ei fod wedi defnyddio ymadroddion lled gryfion, yr hyn a barodd i'r awdurdodau dybied ei fod yn

« PreviousContinue »