Page images
PDF
EPUB

Y mae y llinellau canlynol ynghylch caethiwed yn

"Ow! dyn, bryfyn brau, afiach,

effeithiol :

Yn dwyn ei bwn, adyn bach!
Rhag ei weled rhed yr haul,
Wres araul yn brysurach."

Y mae efe yn rhoi dyrnodiau trymion ar ben gormes, ac yn talu molawd priodol i Wilberforce. Y mae efe yn rhedeg yn ei ol eto at lwyddiant yr efengyl a chyfieithu yr ysgrythyrau i iaith y paganiaid; a dychwela i Frydain, ac ä drwy y senedd, a gwaedda yn groch am i dreth yr yd gael ei dileu, a threthi eraill nad ydynt mewn bodolaeth yn bresennol. Pa faint bynag o berthynas oedd rhwng hyn ag elusen, nid oes un ammheuaeth na

fu

"Symudwch y dreth sy'n eu dyfetha,
Un glo 'n aberoedd, un gwlan a bara,"

yn foddion i roi marc ar dreth yr yd; canys daeth y llinellau hyn mor hysbys a'r pethau mwyaf cyffredin yn ngwaith Thomas Edwards, o'r Nant, drwy y wlad oll:

"Treth ydd ŷd nid rhith o dda."

Daw gorthrymwyr i fewn yn y fan yma am ddyrnod grymus o herwydd eu bloddest a'u hanghof o'r tlawd; a chawn un o'r darluniadau goreu a feddwn yn yr iaith o'r gweithiwr.

"Yn ymyl barn, aml y bu,
Drudaniaeth yn dirdynu;
Gwaethu cyflog y gweithiwr,
Arno bu curo, bob cwr;
Mae y gŵr yn ymguraw,

A'i dylwyth yn wyth neu naw: Dan oer hin yn dwyn y rhaw,-mewn trymwaith

Bu ganwaith heb giniaw.

Aml y mae yn teimlo min

Yr awel ar ei ewin;

A llwm yw ei gotwm, gwel;
Durfing i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd,

A'i fynwes yn bres oer, braidd !
Bu helynt cael ei blant cu,
Oll agos a llewygu!

Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi anghen un rhwng y naw.
Edrych yn y drych hwn dro
Gyr calon graig i wylo:
Pob cell a llogell egyr,

A chloiau dorau a dyr."

Y mae yr englynion canlynol yn ddarluniadol o gyflwr cardotyn,—

"Credu ateb cardotyn-gwan, distadl,

Gan dystion sy'n canlyn;

Nabod iaith wyneb y dyn

Tecach na darllen tocyn.

Go dywell yw

Digon o dystion dystaw--yw'r corpws

A'r carpiau am danaw;

Tru yw dull hwn, troed a llaw,
'Rwy'n gweled bron ag wylaw."

"Tecach na darllen tocyn."

Y mae yn debyg mai at bapyr fydd gan gardotwyr yn mynegu eu hachos y cyfeiria.

Y mae yn yr awdl hon rai tarawiadau i'r byw o farddoniaeth bur, eithr y mae ynddi ormod o bethau anmherthynasol. Os caiff dyn ryddid i wneyd fel y myno â thestun, nid oes lun na thery ef yr hoel ar ei phen weithiau; ond rhywbeth yn fwy o ddamwain fydd hyny nag o fwriad. Yr oedd gan Dewi Wyn feddwl mawr o'r awdl hon; ac y mae yn ddiau i'r cam a wnaed â hi yn Ninbych ei dwyn i fwy o sylw ddengwaith nag y buasai heb hyny, er fod ynddi bethau gorchestol. Ond nid allwn edrych arni fel cyfanwaith ardderchog, eithr yn hytrach fel darnau o farddoniaeth, yn perthyn i lawer iawn o destunau, wedi eu dodi wrth eu gilydd heb

gynllun na threfn. Y mae yn cynnwys rhai o'r pethau mwyaf gorchestol a wnaeth ein bardd, ac hefyd, yn eu plith, rai o'r pethau gwaelaf a gyfansoddodd efe erioed. Meddyliem, wrth ddechreu ysgrifenu, am fyned drwy "Flodau Arfon" yn lled lwyr mewn un ysgrif; ond gwelwn, erbyn hyn, fod genym ddefnyddiau gogyfer â rhifyn eto o'r "Traethodydd."

SABBOTH YN NGHAERLLEON.

RHODDES y ddaear lawer cylchdro o gwmpas yr haul er pan y cawsom yr hyfrydwch o dreulio Sabboth yn Nghaerlleon Gawr. Yr oeddym yno yn gynnarol ddydd Gwener, a thrwy hyny wedi diwallu yr awydd oedd ynom am weled ei gemau hynafiaethol, a chywreinrwydd ei heglwys gadeiriol, cyn dyfod y Sabboth; a theimlasom dueddfryd cryf am wneyd hyny, fel y caffem hamdden i gydaddoli â'n cenedl, yn eu synagog, yn nysymlrwydd ein dull a'n iaith ein hunain.

Wedi holi yn lled fanwl am y Cymry, ac ansawdd crefydd yn eu plith, yn hen ddinas Caerlleon, cawsom allan fod y barometer crefyddol yn arddangos cynhesach tymher yn yr awyrgylch na dim a synid yn gyffredin. Yr oedd yno, y pryd hyny, ddau gapel gan y Cymry-ond erbyn heddyw yr ydym yn deall fod ein cyfeillion yr Annibynwyr wedi agoryd capel yno hefyd, a chanddynt eglwys fechan wedi ei ffurfio. Tarawsom wrth ŵr lled dafodrydd a gwybodus o ansawdd ein cenedl; a chawsom ddifyrwch ac adeiladaeth yn ei gwmni. Dywedai ein cyfaill wrthym, fod yn y ddinas boblog hono, heblaw yr hen eglwys gadeiriol, ddeuddeg o rai is-raddol yn dyrchafu eu pinaclau i'r awyr, ond fod un neu ddwy o honynt wedi eu cau i fyny o herwydd rhyw ddiffygion anhysbys iddo ef. Y mae yno hefyd un capel mawr ac eang gan y Wesleyaid Seisonig-un yn perthyn i'r New Connexion-un gan y Presbyteriaid-un gan Gyfundeb Lady Huntington-un gan y Primitive Methodists-dau gan yr Annibynwyr Seisonig-un gan y Bedyddwyr Seisonig-ac un gan y Pabyddion, heblaw amryw fân-ystafelloedd gan eraill oedd yn llochi barn a mympwy wahanol: a chyda y rhai hyny ddau gapel gan y Cymry-y Trefnyddion Wesleyaidd a Chalfinaidd. Bwriasom olwg hefyd ar boblogaeth y dref, a pha nifer o'r rhai hyny oedd yn arfer myned i leoedd o addoliad ar y Sabboth; a pha faint o honynt oedd yn Gymry. Dywedai ein cyfaill, fod o fewn i gaerau, ac yn amgylchedd, neu faesdrefi, y ddinas, o saith i ddeng mil ar hugain o drigolion; ac yr ydoedd efe yn lled sicr yn ei dyb, fod yno o bump i chwe' mil o leiaf o honynt yn Gymry. Ond yn gysylltiol â hyny, dywedai, fel ffaith gofidus, ddarfod i gyfrifiad gofalus gael ei wneyd o nifer yr addolwyr yn ninas Caerlleon yn y dull canlynol:-Daeth i feddwl rhai gwŷr duwiol, ag oedd "yn galaru o herwydd anwiredd y ddinas," geisio sefydlu "Cenadaeth ddinasol," a chael gwŷr llafurus ac ymroddgar i fyned o dŷ i dŷ, i ymweled â'r rhai ag oeddynt yn baganaidd eu moes a'u harferion, yn y ddinas aml ei themlau. Ar un nos Sabboth arbenig, gosodwyd 1853.]

D

gŵr yn mhob capel, eglwys, ac addoldŷ, heb adael heibio gapel y Pabyddion na'r mân lofftydd neillduedig, i gyfrif y gynnulleidfa; a chafwyd cyfanswm yr addolwyr yn wYTH MIL (8,000) o eneidiau. Ha! ddinas esgobawl Caerlleon, sydd yn llawn o adfeilion crefydd-dai yr oesoedd, pen, a phinaclau deuddeg o Lanau "yn cyfeirio tua'r nef," a chynnulleidfaoedd deg o gapeli yn gwau drwy eu gilydd ar dy heolydd ar nos Sabbothau, ai gwir yw, nad oes ond llai na'r drydedd ran o'th drigolion yn ymgynnull o amgylch dy allorau crefyddol o bob natur a rhyw! Cywir y barnodd rhai gwŷr crefyddol yn addas roddi y peiriant galluog hwnw, sef y genadaeth ddinasol, ar waith ynot. Boed iddynt bob llwydd, a gwened Duw ar eu gwaith.

Daeth y Sabboth, a chyda gwawr y dydd, dyma y clychau yn y gwahanol eglwysi yn dechreu chwareu-chwareu a ddywedasom-ïe, chwareu, a pha air a gawn yn well? Er hoffed yw y Sais o'i "Church-going bell," a'i "Sabbath-bell," nid dyna oedd pob cloch oedd yn canu. Galwai cloch yr eglwys gadeiriol, mae yn wir, i weddïau saith o'r gloch y boreu,-ond felly y gwnelai bob dydd a'r swn arall, gan mwyaf, oedd dinciad y clychwyr yn rhugl-ddysgu erbyn yr awr yr oeddynt i alw i'r eglwys!

Wedi troi ac ymdroi tipyn ar hyd yr heolydd, a chael ein cyfarwyddo at y capel Cymraeg, troisom tuag yno. Yn awr, goddefer i ni roi yma grybwylliad o sefyllfaoedd y capeli Cymreig yn ninas Caerlleon, canys dichon y bydd o gynnorthwy i rai a elo yno o'r Dywysogaeth, yn ddyeithr hollol, ac heb fedru gair o Seisoneg. Dodasom i lawr ar y pryd yn ofalus, fel nad anghofiem, fod addoldŷ y Trefnyddion Wesleyaidd mewn heol fechan o'r enw Hamilton-place, yn troi allan o Northgate-street; a bod eiddo y Trefnyddion Calfinaidd mewn heol a elwir Commonhall-street, yn troi allan o Bridge-street; a deallwn fod capel ein cyfeillion yr Annibynwyr yn Back Brook-street. Nac eled Cymro uniaith fyth i Gaer am Sabboth heb ymweled âg un o'r tri lle hyn.

Yr oedd oddeutu deg o'r gloch pan aethom at y capel, ac yn foreu lled oeraidd ; a buan y deallasom ein bod mewn cymydogaeth Gymreig, o herwydd y moes-gyfarchiadau cyfeillgar a daflai y mynedyddion prysur at eu gilydd, er nad oeddynt mor llïosog a Chymry brwdfrydig Lle'rpwll a Chaerdyn (os dyna enw Manchester yn Gymraeg). Aethom i oriel y capel rhag blaen; ac er nad oedd yno ŵr wrth ei swydd yn dodi dyeithriaid mewn eisteddleoedd, aethom i fewn i un, ac yr oedd gwên y meddiannwyr, tybygem, a ddaethant i mewn ar ein hol, yn dyweyd fod i ni gyflawn groesaw. Lled deneu oedd y gynnulleidfa ar y cyfan, ac nis gallem lai na gofidio, os oedd amcan-gyfrif ein cyfaill y nos o'r blaen, o boblogaeth Gymreig y ddinas, yn gywir, "fod yno o bump i chwe' mil o Gymry diledryw," pa fodd yr oedd yno gynnifer o eisteddleoedd heb eu llenwi? Fel rheswm am hyny, cynnygiwyd i ni yr ateb canlynol:-"Y mae prif nerth cynnulleidfaoedd y Cymry yn Nghaer yn cael ei wneyd i fyny o wasanaethyddion, y rhai na allent ddyfod ond ar brydiau."

"Diboen i ddyn dybio yn dda."

Dechreuodd y moddion. Wedi ymdwymno ychydig wrth stove wresog yn nghanol y capel, esgynai i'r areithfa, neu y pulpud, hen ŵr prydferth yr olwg arno-heb fod yn dal o gorffolaeth, nac yn crymu gan henaint ychwaith. Yr oedd ganddo ar y pryd gap du am ei ben, "a chôt fawr"

am dano. Wedi dyosg hòno, gwelem ei fod yn lân a phrydferth iawn yr olwg arno, gydag ystum gwir foneddigaidd. Meddyliasom ar y cyntaf nad oedd amser wedi pylu dim ar ei olygon, ond ei fod mewn mwynhad o graffder ei ddyddiau boreuol; ond buan y gwelsom ei fod yn awr ac eilwaith yn gwneyd defnydd o wydrau crogedig am ei wddf wrth ribban ddu. Yr oedd i lygad y dyeithr-ddyn, yn bregethwr trwyadl; mewn dull ac agwedd yn wir esgobaidd, ac i'w gynnulleidfa, ni a dybiem, yn fugail call a deallus. Yn ei holl drafodaeth â chyflawniad y moddion crefyddol, yr oedd unffurfiaeth lled fawr yn ei ddull: ychydig, os dim, o godiad llais na thôn, eto ymhell o fod yn aflafar a blinderus. Yr oedd yn wir ddysgawdwr i'r gynnulleidfa; canys, os sylwent, pan ddodes efe bennill o hymn allan i'w chanu, efe a esboniai iddynt eiryddiaeth a meddylddrych y prydydd, fel nas gallent lai na chanu â'r deall, pa fodd bynag am yr ysbryd. Wedi darllen pennod, a thaflu nodiad difyrus ac addysgiadol yn awr ac eilwaith, tarawyd ni yn rymusol iawn â dull yr hen ŵr parchedig wrth ddynesu at orseddfaino y gras. Hyd yn hyn, yr oedd y cap du am ei ben, ond gyda fod y gair "gweddiwn" ar ei wefus, dyma y cap du, yn ddiseremoni, yn cael chwyrndafliad ar y faine o'r tu ol iddo, ac yntau yn bennoeth friglwyd, yn ymddyddan â Duw-ac ymddyddan ydoedd. Swn dau gyfaill wedi ymgyfarfod, a'r naill yn canmawl caredigrwydd y llall, oedd yma yn nodedig. Ei ddarlunio nis gellir, a cheisio hyny fyddai yn sarhâd ar gof y rhai a'i clywsant. Yr ydym yn deall fod ymddygiadau Duw yn ei ragluniaeth tuag at y byd, y deyrnas, y ddinas, a chenedl y Cymry, yn cael lle mawr a dwys yn ngweddïau yr hen ŵr.

Chwychwi Gaerlleoniaid, anwylaidd yw y cof genych am ymadroddion fel hyn:-"Diolch i ti, O Arglwydd, am heddwch cyffredinol: mae ein brenines dirion ni mewn heddwch â'r holl fyd;-diolch i ti am iechyd cyffredinol hefyd; nid oes dim pläau na chlefydau yn tori i lawr yn unlle; -diolch i ti hefyd am dy sylw o genedl y Cymry-lle bynag yr elo y Cymry yr wyt ti yn myned yno ar eu hol hwy a'r efengyl yn eu hiaith; ond diolch i ti am drefn yr iachawdwriaeth yn Iesu Grist. Cadw ni yn Iesu Grist. Un difai oedd Iesu Grist. Gwylia arnom ni, O Arglwydd, a chynnorthwya ni; y mae llawer iawn o bowdr ynom ni, ac y mae y diafol â'i fatsen yn barod i'n tanio ni o hyd, ond nid oedd dim powdr yn Iesu Grist. Ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau.' Maddeuwch i ni, Gaerlleoniaid, am agor eich mynwesau fel hyn. Wedi gweddïo, cuddiwyd y pen hardd, a'r talcen uchel, llydan, eilwaith gan y cap du; a chanwyd emyn yn drefnusol: yna y cymerth y pregethwr ei destun yn yr wythfed bennod ar hugain o Genesis a'r unfed a'r eilfed adnod ar bymtheg. Nyni a ymegnïwn roi ychydig o'r sylwadau a wnaeth yr areithiwr yn ei iaith a'i drefn ef ei hun, fel, os gall y darllenydd adnabyddus o hono wneyd swn ei lais a'i oslef, y gall roi i eraill bortread lled gywir o hono.

[ocr errors]

"Yn y bennod o flaen hon, y mae y mynediad i mewn i'r hyn a geir yma. Y mae hanes yn y bennod yma, fod Isaac wedi cytuno â Rebecca i anfon Jacob o'r wlad, a hyny at deulu ei fam, i Padan-Aram-ymhell iawn o ffordd. Ac wrth olrhain hanes Jacob, a'r lle a'r amgylchiad yr oedd ynddo, yn fuan wedi ymadael â'i dad a'i fam, ni a sylwn, yn y lle cyntaf,-Beth a welodd Jacob; ac yn ail,-Beth a glywodd; yn drydydd,-Pa fodd yr ymdeimlodd; yn bedwerydd, -Beth a ddywedodd; ac yn bummed,-Beth a wnaeth?

[ocr errors]

Sylwaf ychydig ar yr amgylchlad a'r lle yr oedd Jacob ynddo. Am y lle, dywedir, A Jacob a aeth allan [a gychwynodd] o Beerseba, ac aeth trosodd i Haran; ac a ddaeth ar ddamwain i fangre [lle, man-man-gre], ac a letyodd yno dros nos.' Yr oedd Jacob wedi cael ei fendithio eilwaith gan ei dad cyn ymadael. Ar ei draed yr oedd o yn myn'd; ac y mae yn debyg fod ei dad a'i fam yn rhoi arian iddo yn ei boced; ac yr oedd yn bur drwm arno yntau ymadael y tro cyntaf erioed â thŷ ei dad. Fe gerddodd lawer iawn, o Beerseba i Haran, a daeth arno eisieu cysgu. Yr oedd yno dref fechan yn ymyl, a elwid Luz-tref fechan lawn o baganiaid ydoedd ; ac yr oedd yr haul wedi machludo, a phyrth y ddinas wedi eu cau, mae 'n debyg; neu, hwyrach i Jacob ddewis cysgu allan yn y maes, yn fwy na myn'd i mewn yno. Nid oedd dim coaches, railways, ac inns comfforddus yn y gwledydd hyny, fel yn ein gwlad ni; felly gorfu i Jacob, druan, gysgu allan wedi cerdded drwy y dydd.

Wedi i Jacob roi ei ben i lawr i gysgu, 'fe freuddwydiodd.' Yr oedd Duw yn llefaru llawer iawn drwy freuddwydion, yn yr hen amseroedd, a than yr hen oruchwyliaeth. Ac yn wir, yr oedd yr hen oruchwyliaeth yn debyg iawn i'r nos. Nid yw yn hollol dywyll yn y nos. Mae y lleuad a'r ser yn goleuo yn y nos ; felly yr oedd y cysgodau a'r seremonïau yn dangos fod yr haul yn dyfod; ac yr oedd o werth mawr cael ambell i freuddwyd y dyddiau hyny. Ond nid oes dim coel ar freuddwydion yrwan-rhwng cysgu a deffro y mae dyn yn breuddwydio -just a deffro y mae, â'i feddwl yn dechreu gweithredu ar bethau hysbys i'w gorff-y BEIBL ydyw y cwbl y dyddiau hyn. Fe freuddwydiodd Jacob,' ac

yn awr

Beth a welodd? Ysgol ysgol ddringo, nid ysgol i ddysgu plant, ond ysgol i ddringo; ac yr oedd gwaelod yr ysgol yn ymyl Jacob, a'i phen uchaf yn nefoedd y gogoniant, ac ar y top uchaf, yr oedd yr Arglwydd yn sefyll arni;' ac wrth edrych ar yr ysgol, canfyddai fod angelion yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddi— ysgol ryfedd iawn oedd hon; Jacob wrth y pen isaf, Duw ar y pen uchaf, ac angelion ar hyd-ddi.

Beth a glywodd? Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef ac i'th had. A'th had ti fydd fel llwch y ddaear; a thi a dori allan i'r gorllewin ac i'r dwyrain, ac i'r gogledd, ac i'r deheu: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di. Ac wele fi gyda thi; ac mi a'th gadwaf pa le bynag yr elych, ac a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon; o herwydd ni'th adawaf hyd oni wnelwyf yr hyn a lefarais wrthyt.' Rhoddaf y tir i ti ac i'th had! Aros, Arglwydd, nid oes ganddo yr un wraig eto. Ha! meddai Duw, fe fydd ei had fel llwch y ddaear:' nid Iuddew am bob llwchyn, ond fel llwch y ddaear heb allel eu rhifo. Holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.' Dyma grybwylliad am Iesu Grist-a dyma Seison, Scots, Gwyddelod, a Chymry, yn cael eu bendithio. (Ymofynwch chwithau, y Cymry yn Nghaer, am gael eich bendithio & maddeuant yn Nghrist.) A oes rhywbeth ychwaneg? O! oes; pethau yr arfaeth oedd y rhai yna. Ond mi a fyddaf gyda thi.' Beth mwy a fynai efe ei glywed?

Beth a deimlodd? Ofn. 'Ac efe a ofnodd.'

6

Beth a ddywedodd? Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.'

Beth a wnaeth? 'Efe a gyfododd yn foreu, ac a gymerth y gareg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi. Yr oedd y gareg o'r blaen yn gorwedd yn flat, ond efe a'i cododd ar ei phen, ac a dywalltodd olew arni, ac a alwodd y lle Beth-El: El, Duw—Beth, tŷ, neu tŷ Dduw; ac a addunodd adduned (adn. 20, 21). Dyma hi yn gyfammod. 'Os cedwi di fi yn y ffordd yma,' meddai Jacob, 'ti gei dithau fod yn Dduw i minnau; os rhoi di fara i mi, ti gei dithau fod yn Dduw i minnau: os caf finnau ddillad i'w gwisgo, a'm dwyn yn ol i dŷ fy nhad, ti gei dithau fod yn Dduw i mi byth. Mi gadwaf fi fy addewid,' meddai Duw: Mi gadwaf finnau fy adduned,' meddai Jacob. Mi gei di y pethau oeddit yn ei ofyn,' meddai Duw: 'Ti gei dithau ddegwm,' meddai Jacob. Os rhoi di ddeg punt, fe rof finnau bunt; os rhoi

« PreviousContinue »