Page images
PDF
EPUB
[ocr errors]

Yr ydoedd eu rhodiad di-rwysg
Ill dau, fel y gwyddoch, yn wysg
Eu hystlys.

Yr oedd y tad er's meityn
Yn edrych ar yr hogyn
Yn llusgo 'i gorpus melyn
Ar hyd y traeth i'w ddilyn,
Ar osgo, fel pe 'n feddwyn'
Neu fel pe 'n gloff bryf coppyn;
Troes atto braidd yn sydyn,
A'i annerch fel y canlyn:
"Fy machgen i, pam

"'Rwyt ti 'n cerdded yn gam?

Tyr'd, cerdda rhagot ar dy union syth,

"Neu ni chyrhaeddi ben dy siwrnai byth.",

"Yn wir, ar f'union syth," medd yntau, "'r af,
"Os gwnewch chwi ddangos immi sut y gwnaf:
"Ond cerdded yn gam

"Byddwch chwi a 'mam
"Bob amser eriôed

"Hefo 'ch deg troed:

"Pan welwyf chwi 'n ymlwybro 'n union, "Mi wna 'r un fath o 'wyllys calon."

Cemni eraill a ganfyddwn,

Ond ein cemni'n hun ni's gwelwn.
Dyna ystyr cynta 'r Ddammeg;
Mae un ystyr etto 'n chwaneg
Wrth i ti addysgu 'th blentyn,
Gwell yw siampl na gorchymyn.

XVII.

Y DYFRGI UCHELFRYD A'R ERYR.
Ar lan rhyw afon (nid wy'n cofio 'i henw),
'Roedd Dyfrgi ieuange ffol yn synfyfyrio,
Gan gwyno 'i wael sefyllfa 'n arw 'n arw,

Heb ddim i'w wneyd ond hela pysg a nofio,
Yn lle bod weithiau 'n 'hedeg yn yr wybren,
'Run fath a'r fran, a'r hebog, a'r golommen.

Acth at yr Eryr, yn ei anfoddlonrwydd,

Ryw fore teg, ac a ddywedodd wrtho, "'Rwyf wedi blino ar fy myd, fy arglwydd,

O dwll i dwll, o ffrwd i ffrwd yn crwydro : "Dymunwn 'hedeg yn yr awyr weithiau, "Fel chwi, ymhell uwch law y byd a'i-bethau."

Attebai 'r Eryr iddo 'n fwyn a thadol,

Nad oedd dim modd i ddyfrgi deithio 'r wybren, Fod deddfau anian yn gwahardd yn hollol I neb wneyd hyny byth ond perchen aden. Cynghorai ef i fod rhagllaw yn foddlon I fyw 'n ol nattur ynghorbyllau 'r afon.

"Gwn, gyd a'ch cennad, syr, amgenach pethau,"

Medd yntau 'n ffrostus, "gwn y medrwn hedeg "Pe cawn yr awyr unwaith dan fy ngwadnau, "Ac unwaith gychwyn; nid wy'n ceisio chwaneg :

"Os ewch â mi i fynu 'r wybren anterth,
"Cewch bysg yr afon gennyf am eich trafferth."

"O'r goreu," medd yr Eryr, "cei'th ddymuniad;
"Mi wnaf fy ngorau i foddhâu cymmydog;
"Ond rhaid i ti gymmeryd y canlyniad :

"Yr ŷm ni 'n awr yn cychwyn;-bydd wagelog!"
Felly fe'i cym'rodd gerfydd croen ei gefn
Ddeg canllath fry i'r awyr deneu lefn.

"Wel, rwan, wyt ti 'n barod ?" medd yr Eryr;
"O ydwyf, syr; yn awr gollyngwch fi :"
"Pan rifwyf dri," medd yntau, "yn yr awyr,
"Mi a'th ollyngaf; rwan-un-dau-tri!"
I lawr a'r Dyfrgi 'n syth ;-ac ar y cerrig
Wrth drengu, teimlai gosp yr uchelfrydig.

LLYFRYDDIAETH Y CYMRY.

YR ydys yn ymgeisio at ddosranu ein herthyglau yn ol rhyw gyfnodau yn ein hamgylchiadau gwladol neu grefyddol; ac yr ydys yn anwesu y meddwl i ni lwyddo yn lled dda yn nosraniad ein gwaith, hyd yn hyn. Yr hyn sy'n hynodi ein cyfnod presennol yw cryfhad Methodistiaeth, yn yr Eglwys Sefydledig, ac allan o honi. Yr oedd "hi eto yn dywyll" yn nechreu ein herthygl ddiweddaf; ac "yn dyddhau" ar hyd y cyfnod hwnw; ac yn awr, gallwn ddyweyd fod "yr haul wedi codi." Diweddasom o'r blaen yn rhif 7, 1763; ond daethom ar draws rhai llyfrau wedi hyny, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn hòno, y rhai a chwanegwn yma. Cofier mai y flwyddyn ydoedd

1763.

8. "Helaethrwydd o Ras i'r Pennaf o Bechaduriaid, Mewn cywir Hanes o Fywyd a Marwolaeth John Bunyan. Neu Fyrr Ddadcuddiad o ragorol Drugaredd Duw yn Nghrist iddo ef, &c. Wedi ei gyfieithu o'r newydd yn ol y nawfed Argraphiad yn Saesonaeg. Caerfyrddin, Argraphwyd yn Heol Awst, ac ar werth yno gan R. Tomos a J. Ross. 1763. Pris Swllt."

Am y cyfieithiad a'r argraffiad cyntaf, gwel rhif 6, 1737.

9. "Llythyr oddiwrth Gymanfa O Weinidogion At amryw Eglwysi y Perthynant iddynt. Caerfyrddin: Argraphwyd gan Ev. Powell, yn Heol-y-Prior, dros y Parchedig Mr. Timothy Thomas. 1763. Ac yr wyf yn gobeithio y bydd i bwy bynnag o Barchedig gyfeillion Mr. T. Thomas, ag a fo ag un peth ganddynt i'w Argraphu, adel i mi ei Gwasanaethwr gostyngedig Evan Powell, gael yr anrhydedd o'u gwasanaethu."

1764.

1. "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr. Mwythig." 12plyg.

Ail argraffiad, gwel rhif 9, 1704.

2. "Cyd Gordiad Neu Dremiad ar y Testament Newydd, Lle y gwelir ar ba wirionedd mae'r Efengylwyr ar Apostolion yn llefaru, ar cwbl yn rhedeg yn ol yr Egwyddor A. B. C. y deng air deddf ac Hymn am Waredigaeth Pechadur Trwy Iesu Grist. Tros Dafydd Lewis, Caerfyrddin."

[merged small][merged small][ocr errors]

3. "Tair Pregeth am Dragywyddoldeb yn nghyd a'r budd a'r Fantais o edrych ar Bethau tragywyddol. A bregethwyd yn saesoneg gan y Parchedig Mr. Job Orton. Ac yn awr a gyfieithwyd yn gymraeg trwy ganiatad yr Awdwr, gan W. Jones. Yrail Argraphiad. Argraphwyd yn y Mwythig, gan J. Cotton, a J. Eddowes, 1764."

4. "Anghyfreithlondeb bwyta Gwaed. Wedi ei amlygu Trwy olwg ar yr ystyriaeth yr oedd y Cenhedloedd Cristionogol o'r dechreuad, yn cynnal eu rhydddid yn Nghrist oddiwrth jau deddf Moses. Gan Mr. John Glass. At ba un y chwanegwyd, rhai o feddyliau Dr. Delany ar yr ystyriaeth. Wedi i'u Gyhoeddi yn gymraeg gan J. Popkin. Caerfyrddin Argraffwyd."

5. "Rhybydd ofnadwy i blant anraslon: yn rhoddi cyflawn a thrynllyd hanes o un William Johnson. Gwr ieuange ynghylch pump ar hugain oed, yr hwn a anwyd yn Ninas Lincoln, ac a Grogwyd ar y Pedwaredd dydd o Fawrth 1763, am echryslawn fwrdrad a wnaeth efe ar ei Dad a'i Fam a'r forwyn, Gan yspeilio'r Ty ai roddi ar dân, ynghyd a'i dreial, a'i Gyfaddefiad, ai farn yw grogi ai sybedi, eu ymadroddion marwolaeth, a'i gyngor i bobl ieuange, Gweddi a phregeth ar yr unrhyw achos, Gan y Parch, Dr. Wilkinson, allan Psalm xxxvii. 22. Argraffwyd yn y Mwythig."

Sef

6. "Golwg ar Deurnas Crist. Neu Grist yn bob peth, ac ymhob peth caniad mewn dull o Agoriad ar Col. iii. 11, 1 Cor. xv. 25. Yr ail argraffiad, wedi ei ddiwygio o amryw feiau a chwedi ychwanegu llawer o bethau ato, nad oedd yn yr argraffiad cyntaf. Gan William Williams. Caerfyrddin ; Argraffwyd gan J. Ross, oddieithr y 24 tu dalen cyntaf o Gorph y Llyfr." Gwel rhif 7, 1756. Y mae yr hysbysiaeth a ganlyn yn gysylltiedig â'r uchod :— "Theomemphus Am fod gwerth swm fawr o lyfrau o bryd i bryd wedi sefyll ar ddwylo 'r Awdwr, mae efe yn meddwl peidio printio rhagor o'r llyfr hwn nag a debygo a ellir werthu yn fuan, am hyny y sawl sydd am dano danfonant ei henwau a swllt o arian subscription i'r Awdwr ei hun, neu i ryw rai o'i ffryns ef, y rhai yw rhyw ddynion gonest geirwir ag a dalo iddo yr hyn a dderbyniont pwy bynag a font. A swllt fydd pris y llyfr heb ei feindio i'r rhain, ond i'r lleill maen bur debyg y cyst ef fwy, ac o bosib nas gellir ei werthu ef am 15 ceiniog, ond nis gwyddus yn jawn am hyn am nas gwyr yr Awdwr pa faint yr ymhelaetha tan ei law ef wrth ei ail sgrifenu."

Yr oedd bardd Pant-y celyn yn deall pa fodd i fasnachu yn gystal a chanu; a da pe buasai llawer bardd a chyhoeddydd llyfrau ar ei ol wedi dilyn ei esiampl ef. 7. "Diferion Gwybodaeth, &c. &c. A draddodwyd gan Dafydd Jones, o Drefrhyw, C. C. Argraffwyd yn Llundain gan William Roberts, ac a werthir Ynghymru gan Dafydd Jones o Drefrhyw." Ugain tudalen, 12 plyg.

Diwedd y rhagymadrodd a ddywed fel hyn-"Annerch wael oddiwrth dy GarwT. Llundain, Mawrth 31, 1764." Ac yn niwedd y llyfr y mae "Diwedd y Rhan gyntaf ;” eithr ni welsom yr un arall.

8. "Bywyd a Marwolaeth Theomemphus o'i Enedigaeth i'w Fedd. Gan W. Williams. Caerfyrddin, Argraffwyd gan Ioan Ross. 1764."

9. "Llyfr ar Arddodiad Dwylaw. Gan Timothy Thomas, Aberduar."

10. "Moliant i Dduw ; Neu ychydig nifer o Hymnau. Wedi eu cyfansoddi, a'u gwneyd yn gyhoeddus; mewn difrifol ddymuniad o'u bod yn fuddiol i ddynion, ac er clôd i Dduw, trwy Iesu Grist. Gan Timothy Thomas. Caerfyrddin: Argraffwyd gan Evan Powell, yn Heol-y-Prior. 1764."

Cynnwysa y llyfr uchod 126 o hymnau, neu yn hytrach caniadan, ar 108 o dudalenau, heblaw 12 tudal. yn rhagymadrodd, &c. Ar gefn y gwyneb-ddalen, y mae y cynghor buddiol a ganlyn.-"N. B. Dylai pob dŷn ddarllain y llythyr neu 'r rhagymadrodd a fyddo o flaen pob llyfr cyn darllain y llyfr." Gwel hefyd rhif 1 a 2, 1757; a rhif 8, 1759.

11. ¶"Cariad Brawdol. Gan Timothy Thomas, Aberduar."

Gwel uchod.

12. "Golwg o Ben Nebo ar Wlad yr Addewid; mewn casgliad o Hymnau, am

gwymp dyn yn yr Adda cyntaf, a'i gyfodiad yn yr Ail. Yr ail argraphiad. At ba un y chwanegwyd Hymnau ac Odlau newyddion, ar amryw Fesurau, i'r Pererinion, sy'n Teithio o Ddinas Diystriw i'r Gaersalem newydd. Gan Morgan Rhys. Argraphwyd yn Nghaerfyrddin: Gan Rhys Tomas, 1764. Lle gellir cael Argraphu pob math o Lyfrau, am bris gweddaidd." 84 tudal. 12plyg.

13. "Y Pedwerydd Ran o Ganiadau Sion: Neu Hymnau ac Odlau Ysbrydol, Gan John Thomas. At yr hyn y chwanegwyd, CAN i lengctyd, ar ddymuniad rhai Pobl Ivaingc, gan yr un Awdwr. Bristol: Argraphwyd gan E. Farley. 1764. Pris 4d." 60 tudal. 12plyg.

Gwel rhif 12, 1762.

14. "Y Perl Gwerthfawr; neu Benau o Wybodaeth Iachus, i Bechadur am ffordd y Bywyd, &c. Wedi ei gyfieuthu i'r Cymraeg, er lles i'r Cymru. Argraphwyd yn y Mwythig gan Stafford Prys, Printiwr a Gwerthwr Llyfrau. M,DCC,LXIV." 44 tudal. 18plyg.

Y mae y rhagymadrodd gan “David James, Edward Parry, Thomas EdwardsHenllan May 29, 1764."

15.

"Myfyrdo-dau Duwiol i'n Cymhwyso Erbyn Angau. Argraphwyd yn y Mwŷthig gan Stafford Prys Gwerthwr Llyfrau." 58 tudal. 18plyg.

16. "Specimen of the Poetry of the Ancients Welsh Bards translated into English, with Explanatory Notes. By Evan Evans."

E. E. y Prydydd Hir. 4plyg. Gwel hefyd rhif 9, 1772, a rhif 2, 1776.

17. "Origin of Languages and Nations. By Row. Jones, Esqr. of the Inner Temple. London. 1764.

Mr. Rowland Jones ydoedd gyfreithiwr yn byw yn Llundain. Ewythr ydoedd i Rowland Jones, Ysw., Broom hall, neu 'r Weirglodd fawr, ger Pwllheli. Y mae yn ceisio dangos mai Cymraeg yw gwreiddiau yr holl ieithoedd-Groeg, Lladin, a Hebraeg.

18. "Hymnau Newyddion, Nad oedd yn un o'r Ddau Argraffiad Cyntaf. Caerfyrddin, Argraphwyd gan J. Ross, yr unig Argraphydd yn y Parthau hyn, a ddugwyd i fynu yn rheolaidd i'r Gelfyddyd honno. Lle gellir cael Argraphu mob math o Lyfrau ar Lythyren dda, am brîs gweddaidd. 1764." 19. "Crwydriad y Dychymmyg i Fyd yr Ysbrydoedd, Neu Fyfyrdodau ar Farwolaeth y Parchedig Mr. Lewis Lewis, Gweinidog Eglwys Loegr, Yr hwn a ymadawodd o'r Byd, Meh. 9. 1764. Gan William Williams. Caerfyrddin, Argraphwyd gan Ioan Ross, tros yr Awdwr, 1764."

20. "Dwy Farwnad, Un ar ol Mr. Thomas Lewis, o Drefela yn Llan-gwm. Y llall ar ol Mrs. Rachel Harrys; gwraig Mr. Harrys, o Bont-y-pool; yn Sir Fynwe. Yr hon gyfnewidiwyd y Dŷdd cyntaf o Awst ; yn y Flwyddyn 1763, yn y 25 o'i Hoed: Ac a gladdwyd yn Llangyby; Lle hefyd y claddesid ei Mâb William. Argraphwyd yn Nghaerfyrddin; Gan Rhys Tomas. M,DCC,LXIV."

1765.

1. "Y Rhedegwr Ysbrydol: Neu Bortreiad o'r Dyn ag sydd yn rhedeg i'r Nefoedd; yn nghyd a Llythyr at bob Dynion Diog a Diofal; Carchar fyfyrdodau 'sgrifenwyd 1665. Gan John Bunyan. O Gyfieithiad Mr. Samuel Wilson. Caerfyrddin; Argraffwyd gan J. Ross, 1765.'

Ailargraffiad; gwel rhif 2, 1737.

2. "Cyssondeb Y Pedair Efengyl: Gyd ag agoriad byrr, A Nodau Athrawus, Ar yr hyn a dybir dywyllaf ac anhawsaf ynddynt. Yn y blaen y mae hefyd Ragdraethawd buddiol yn arwain at y Cyssondeb, gan osod allan Hanes y wir Grefydd a'i llewyrchiad fwy fwy trwy bob oes er dechreuad y Byd. Chwanegwyd hefyd Rif res yr amseroedd. Gan John Evans, Athraw yn y Celfyddydau. Argraffedig yn Mristo gan E. Farley, 1765.”

Methasom yn hollol a chael dim hanes am yr awdwr enwog uchod, yn amgen na'i fod yn frodor o Sir Aberteifi, o gyffiniau Llanarth. Yr oedd gweinidog o'r enw John Evans yn gweinidogaethu yn eglwys y plwyf hwnw, yn y dyddiau hyny; canys gwelsom ei enw fel y cyfryw ymhlith derbynwyr llyfr Cymraeg o'r oes hono; ac y mae ei enw am Bregethau Ifan Brydydd Hir, fel hyn,—“ Rev. John Evans, M. A., Author of the Harmony of Gospels."" Efe a gyfieithodd hefyd y "Deddfau Cristionogol," gan Esgob Gastrel; gwel rhif 2. 1773. Cyfieithwyd hefyd " Ymarferiadau a Myfyrdodau Sacramentaidd" Dr. Earle, gan un Ioan Efans, 1735; ond gall fod hyny yn rhy forea i'w briodoli i'r awdwr a gyfieithodd waith Gastrel. Dyma y cynnygiad cyntaf i roddi i'r Cymry esboniad rheolaidd ar unrhyw ranau o'r ysgrythyrau, bymtheng mlynedd cyn i sylwadau Mr. Peter Williams ddyfod allan y waith gyntaf. Byddai ailgyhoeddi y llyfr hwn yn wasanaeth gwir ganmoladwy, gan ei fod yn werth ei feddu.

66

3. Annerch difrifol a charedig at y bobl a elwir Methodistiaid. Argraffwyd yn Llundain."

4. "Pechadur Jerusalem yn gadwedig: Neu Newydd da i'r gwaelaf o Ddynion; a chynnorthwy i'r Eneidiau anobeithiol; gan ddangos y mynneu Iesu Grist gynnig Trugaredd yn gyntaf i'r Gwaelaf o Bechaduriaid, &c. Scrifenwyd yn Saesoneg, gan John Bunyan, Awdwr Taith y Pereryn; A gyfieithwyd i'r Cymraeg gan Benja. Meredith. Caerlleon, Argraphwyd yn y Flwyddyn 1765, gan W. Read a Thos. Huley, ag a werthir gan Lewis Jones, tan gauad am Swllt i'r Cynnorthwywŷr, ag i'r Wlâd am Bumtheg Ceiniog."

Ailargraphiad; gwel rhif 4. 1721.

5. "Eucharistea, Neu Draethawd am Sacrament Swpper yr Arglwydd, a Scrifenwyd gyntaf yn Lladin mewn Prydyddiaeth, gan y Dysgedig Hugo Grotius. Newydd ei Gyfieithu i'r Gymraeg, gan Mr. David Jones, o lanwenog, at ba un y chwanegwyd Agoriad byrr o'r Salm 37, yn nghyd & Gweddi y Tywysog Eugene. Caerfyrddin, Argraffwyd."

6. ¶"Pelydr a thywyniad ysprydol, neu Bwysi o Fyrr: sef Dewisol, a chyssirlawn fyfyrdodau, yn adfywio, goleuo, a llonni 'r Enaid. Wedi ei ail Breintio yn Saesonaeg yr 11eg fl. o ddedwyddol Deurnasiad y Brenin William y Trydydd. Imprimat Jos. Caryl, Mwythig."

Argraffiad newydd, mae yn debyg, o rhif 5, 1740.

7. "Llythyrau Mr. Samuel Pike a Mr. Robert Sandeman mewn perthynas j'r llythyrau ar Theron ac Aspasio. Hefyd, rhai meddyliau ar Gristianogrwydd. Mewn llythyr at Gyfaill. Gan Awdwr y Llythyrau ar Theron ac Aspasio, at yr hyn y'chwanegwyd, Troedigaeth Jonathan yr Iuddew, fel pe mynegasid ganddo ei hun. Ynghyd â rhan o'r Diweddglo j'r Llythyrau ar Theron ac Aspasio. Wedi eu cyhoeddi yn Gymraeg gan John Popkin. Caerfyrddin, Argraphwyd."

8. "Yr Ymadroddiad, neu Bapurun. A gyfieithwyd i helpu 'r Cymru allan o'r hunan a'r drygioni. At ba un y chwanegwyd yn gyntaf y Disgybl a'r Athraw o newydd. Ac yn drydydd Gwyddor uchod, &c. Gan Morgan Llwyd. Wedi ei ddiwygio yn ofalus gan Ifan Thomas, Argraffydd. Mwythig, Argraffwyd gan W. Williams, tros Richard Jones o Ddyffryn Clwyd. M,DCC,LXV." 62 tudal. 32plyg.

Gwel rhif 1, 1657, a rhif 8, 1757. Cynnwysa hwn y tri a enwir ar wahân yn 1657, sef y 1, 2, a'r 3, y flwyddyn hono.

9. "Marwnad Robert Davies, Gŵr Duwiol o Blwyf Machen. Yn Shir Fynwau. Yr hwn a fu Farw y Bumed ar Ygain, o Fis Awst, 1763, &c. Gan Evan Thomas. M,DCC,LXV."

10. "Bugeilgerdd. Gan Edward Richard, Ystrad Meurig." Ganwyd ef yn Ystrad Meurig, sir Aberteifi, yn 1714, a bu farw yn 1777, yn 63 oed. Efe ydoedd sylfaenwr ysgol Ystrad Meurig. Y mae cofiant rhagorol am dano yn yr "Haul," am Tachwedd, 1848.

11. "Atteb i Lyfr Mr. Thomas ar Arddodiad Dwylaw."

« PreviousContinue »