Page images
PDF
EPUB

lleill, "y dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu" ydoedd. Y fraint o eistedd wrth ochr yr Iesu, a phwyso ar ei fynwes, a fuasai yn chwennychu yn anad un o freintiau y dynion breintiedig hyny. Deallwn mai hoff lyfrau gan William Charles oedd traethodau Dr. Owen ar "Ddirgelwch" a "Gogoniant Person Crist;" ac y mae yn bur hawdd rhoddi cyfrif am hyny: yr oedd yr ireidd-dra, yr eneiniad, a'r naws efengylaidd sydd ynddynt hwy, yn cyd-daro â'i archwaeth efengylaidd yntau; wrth eu darllen, yr oedd ei ysbryd ef yn cydymdeimlo ac yn cymdeithasu âg ysbryd cyffelyb; y naill yn meddwl mor uchel a'r llall am yr Arglwydd Crist, a'r ddau, erbyn hyn, "yn ei weled fel y mae," ac yn sugno eu dedwyddwch o'i bresennoldeb.

Yr ydym yn teimlo yn lled betrusgar wrth gynnyg rhoddi desgrifiad o William Charles fel pregethwr. Teimlwn yn hawdd ffurfio drychfeddwl am dano fel y cyfryw, ond mae cyfleu y drychfeddwl hwnw, yr ydym yn ofni, yn waith na fedrwn oddiwrtho.

Perthynai i'r dosbarth hwnw o bregethwyr sydd yn annesgrifiadwy. Yr oedd ynddo y rhywbeth hwnw nas gellir rhoddi darnodiad o hono-y rhinwedd dirgelaidd sydd i'w adnabod a'i deimlo yn fwy nag i'w ddarlunio; sydd, fel y goleuni, yn felus, hyfryd, ac effeithiol, ac yn gyfrwng gwelediad i lygad y meddwl, tra y mae ei hunan yn rhy bur ac ysbrydol i'w weled; y peth hwnw sydd, yn fwy nag un rhinwedd arall, yn gwneyd y pregethwr yn fawr a defnyddiol; sydd yn fywyd ac enaid gwir areithyddiaeth; sydd yn beiddio, ac yn ymddyrchafu uwchlaw, beirniadaeth, ac yn rhy urddasol i gymeryd ei gadwyno i lawr gan reolau peiriannyddol yr areithydd— teimla ei fod yn freiniol, a myn fod yn rhydd; mae y fath nas gellir ei wneyd, na'i ffugio, na'i ddynwared; mae yn rhagori cymaint ar ddeheurwydd a medrusrwydd ag y mae ysbryd yn rhagori ar y corff; mae yn gymaint uwchlaw yr ansoddion hyn yn y pregethwr ag ydyw y gwir awen uwchlaw y gallu cynghaneddol yn y bardd; mae yn rhywbeth cyfansoddedig o athrylith wreiddiol yn y dyn, o deimlad dwfn a difrifwch diffuant yn y cristion, ac o'r "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw" yn y pregethwr; mac yn gynnyrch natur a gras, ac felly, mewn rhan yn gynhenid, ac mewn rhan yn gyrhaeddedig. Pe gofynid pa beth yw, nis gallem ddyweyd, mwy nag y gallasai Pedr ddarnodi y "peth hwn" a deimlid ar ddydd y Pentecost. Yr ydym yn ei adnabod wrth ei effeithiau a'i weithrediadau, ac y mae y fath hynodrwydd ynddo, fel nas gallwn gamgymeryd dim arall yn ei le. Teimlwyd ef gan ein tadau wrth wrandaw ar Daniel Rowlands, a Robert Roberts, o Glynnog, ac eraill; ac adnabuwyd ef genym ninnau yn ngweinidogaeth rhai o'u holynwyr. Yn mhregethiad Robert Hall, parai i gynnulleidfa gyfan gyfodi ar eu traed fel un gŵr, neu fel catrawd o filwyr parod i ryfel. Teimlid ef yn mhregethau John Elias, pan fyddai John Elias ei hun yn eu hareithio. Mae yn beth cyffelyb mewn areithyddiaeth i'r Shecina yn y tabernacl. Gall rhai o allanolion y bregeth fod fel yr eiddo y babell, yn "flew geifr, yn grwyn hyrddod a chrwyn daearfoch;" gall nad yw y llais yn swynol, yr ymddangosiad yn fanteisiol, yr ysgogiadau a'r munudiau yn brydferth a rheolaidd, y cyfansoddiad yn drefnus, a'r broddegau wedi eu gorphen a'u caboli; ond os ydyw y peth byw, effeithiol, annesgrifiadwy hwnw,-os ydyw y Shecina yn y bregeth, mae yn annhraethol ragorach na phe buasai drwyddi yn gyfansoddiad wedi ei gwau-goddefer i ni yr ymadrodd—“o sidan glas a phorphor ac

ysgarlad," os yn amddifad o'r gogoniant hwn. Fel y rhoddasem y flaenoriaeth i'r babell seml, ddiaddurn oddiallan, gyda'r dysgleirdeb dwyfol yn un o'i hystafelloedd, hyd yn nod ar deml ysplenydd Solomon, hebddo, yr un modd, ni a ddewisem bregeth gyda'r peth hwn, er yn meddu ar anmherffeithderau, o flaen y cyfansoddiad perffaith, difai, os yn amddifad o hono. Nid rhaid i mi ddywedyd fod graddau helaeth o hyn yn William Charles. Mae pawb a'i clywsant yn sicr o ddeall pa beth a feddyliwn. Yr oedd y teimlad a'r effaith cydfynedol â'i bregethau yn beth nas gallwn roddi yr un cyfrif boddlonol am danynt, a gadael allan y dwyfol o'i weinidogaeth. Yr oedd ynddo lawer o gymhwysderau mewn cydgyfarfyddiad ag a dueddent i argraffu y nodwedd o effeithiolrwydd ar ei weinidogaeth. Yr oedd hyd yn nod ei ymddangosiad serchus, ac ar yr un pryd, difrifol, yn dwyn pob calon i'w hoffi, fel y byddai ganddo y fantais o fod yn anwylddyn y gynnulleidfa cyn dechreu ei chyfarch. Yr oedd ei holl ymddygiadau yn yr areithfa yn gyfryw ag a weddent i ddyn marwol wrth gyfarch dynion marwol. Yr oedd pereidd-dra a thônyddiaeth ei lais yn wasanaethgar i foddio tymherau a swyno teimladau ei wrandawyr; gofalai am fod pob ymadrodd a brawddeg yn gyfeiriol at ei amcan, tra y cadwai ei amcan yn guddiedig oddiwrth y gynnulleidfa. Swynai hwynt yn ddiarwybod, ac heb un arwydd o ymdrech ynddo yntau, oddieithr, fe allai, ychydig fynydau cyn diwedd y bregeth. Yr oedd prydferthwch ei feddyliau a hapusrwydd ei egluriadau, a'r teimlad a redai trwy ei holl ymadroddion, efengyleidd-dra ei fater a'i ysbryd, a'r gwlith nefol a fyddai yn disgyn, yn cydeffeithio i greu teimladau yn mynwesau y gwrandawyr, fel y byddai ganddo, y rhan fynychaf, feistrolaeth drwyadl ar gynnulleidfa gyfan. Yr oedd effeithiolrwydd, nid yn beth yn dygwydd weithiau gydag ef, ond yn nodwedd yn ei weinidogaeth, ac yn ei ddyrchafu fel pregethwr uwchlaw eraill o'i frodyr oeddynt yn feddiannol ar lawer o gymhwysderauIlai hanfodol i'r weinidogaeth, nad allasai ef hòni yr un hawl ynddynt.

Yr ydym yn hyderus na chamsyniem, pe dywedem mai dyn cyffredin oedd William Charles. A oedd ei feddwl yn feddiannol ar ansoddion ag a hawlient iddo y cyfenwad mawr, sydd ammheus. Nid oedd ei wybodaeth yn helaeth ac amrywiol, ac nid oedd cylch ei ddarlleniad yn eang. Nid ydym yn barnu fod ei alluoedd deallawl yn hynodi mewn grym, manylwch, neu amgyrhaeddiad; dichon nad oedd yn y pethau hyn ymhell uwchlaw y cyffredin o ddynion ymchwilgar a deallus. O ran teithi ei feddwl, ni ddysgwyliasem iddo wneyd cynnydd anghyffredin mewn gwybodaeth ieithyddol, neu wyddorol, nac, hyd yn nod, yn y cangenau hyny ag y mae yn fwyaf anghenrheidiol i weinidog eu meistroli; megys llenyddiaeth ysgrythyrol, duwinyddiaeth, hanesiaeth eglwysig, athroniaeth y meddwl, a'r cyffelyb; ni chanfyddem ddim olion o'r rhai hyn yn ei bregethau; er eu bod yn gyfansoddiadau destlus a chyflawn, nid arddangosent lawer o ymchwiliad manwl a phwysig; er y byddai y priodoldeb mwyaf yn ei sylwadau ar ddyfnion bethau yr efengyl, nid ymddengys fod ei feddwl wedi ei gynnysgaethu â'r craffder sydd yn ofynedig i wneyd y duwinydd dwfn. Yr oedd yn feddiannol ar ddigon o farn, a synwyr cyffredin, i'w gadw rhag rhuthro yn rhyfygus i dywyllwch y dyfodol, ac i hylldremu ar y dirgelion sydd yn nghadw mewn prophwydoliaeth, y rhai ni feddyliodd Duw i neb allu eu hegluro ond yr esboniwr mawr, anffaeledig amser a digon o chwaeth i'w gadw rhag syrthio i'r amryfusedd o roddi deongliadau ffol ac

anmhwrpasol ar ymadroddion Duw, ond nid digon o fanylwch a nerth meddwl i ennill iddo ei hunan radd uchel fel esboniwr; mewn gair, a benthyca dull yr hen dduwinyddion o lefaru yn nacaol, nid yn yr ansoddion hyny yr oedd ei ragoriaeth yn gynnwysedig-nid fel duwinydd dwfn, nac esboniwr manwl, nac ymchwilydd treiddgar, yr oedd cuddiad ei gryfder; nid yn ei ddeall y trigai ei nerth, ond yn ei galon, ei deimlad, a'i ddychymyg; yr oedd ei galon yn llawn o dân yn llosgi, a'i deimlad yn dwym, a'i ddychymyg yn dlws, fel y deuai y meddyliau mwyaf cyffredin oddiwrtho yn llawn bywyd a gwres, ac wedi eu gwisgo â phrydferthwch, ac nid yn dalpiau meirwon, oerion, a diaddurn. Yr oedd yn fwy o'r meddyliwr nag o'r ymchwilydd o'r bardd nag o'r athronydd. Meddai fwy o gydymdeimlad â'r tlws a'r tyner, nag â'r mawr a'r dwfn. Tebygai yn fwy i'r plentyn, yn ymddifyru yn y ddôl, ac yn casglu y blodau tlysion, nag i'r dyn sydd yn y maes gerllaw, yn cloddio i'r dwfn am y mŵn gwerthfawr. Ymddangosai rhai o'i feddylddrychau, pan fyddai ef yn eu dyweyd, yn bur debyg i gyffyrddiadau gwir athrylith. Onid oeddynt yn rhy debyg i fod yn ddim amgen? Oni fyddai rhyw ddelw ar rai o'i ddywediadau nas gallasai talent yn unig eu hargraffu? Os ydyw gwreiddiolder yn un o nodweddion athrylith, yr oedd yn William Charles athrylith. Mae yn wir nad oedd yn feddiannol ar y math hwnw o wreiddiolder, neu y radd uchel hòno o athrylith, ag sydd yn darganfod tiriogaethau newyddion; ond meddai ar yr hyn sydd yn amaethu a diwyllio hen diriogaethau, fel ag i'w gwneyd i ymddangos yn dra gwahanol i'r hyn oeddynt o'r blaen. Os nad allasai lusgo i oleuni egwyddorion a orweddasent yn guddiedig am oesoedd a chenedlaethau, fel ag i'n dwyn i synu at nerth ei fraich, efe a wisgai hen egwyddorion â gwisg mor diws, fel ag y rhyfeddem at hylawder ei fysedd; golchai wynebau hen feddylddrychau, dyosgai hwynt o'u cyffredinrwydd, a gwisgai hwynt "â newid dillad," fel ag y byddem yn barod i ddyweyd, O! mor brydferth ydych yn eich dillad newydd, oddiwrth yr hyn oeddych yn yr hen!

Ar yr un pryd, nid ydym yn ystyried dullwedd William Charles o bregethu yn rhydd oddiwrth anmherffeithiau. Yr oedd yn rhy gyfyngedig at un amcan, sef cyffroi y teimlad. Ni thueddai ei bregethau i roddi yr oll o'r dyn ar waith. Ar brydiau, boddhëid y tymherau, a chynhyrfid y teimladau, tra na byddai y deall yn cael ei gyffroi i ddirnad a meddwl. Nid oedd y nodwedd o ddysgu yn ddigon arbenig yn ei weinidogaeth; pe buasai, gallesid ei restru ymhlith y cedyrn-y cewri; buasai yn seren o'r maintioli mwyaf; ond fel yr oedd, yn ddim na neb ond efe ei hun, yr oedd yn un o'r ser dysgleiriaf a ymddangosodd yn ffurfafen gweinidogaeth Cymru. Dichon hefyd ei fod yn rhy dueddol i arferyd gormod o egluriadau a chymhariaethau; defnyddiai hwynt pryd na byddai ei fater yn galw am danynt, a dygai hwynt ymlaen yn fwy er prydferthwch nag er eglurhad; cymerai hwynt oll o natur neu o'r ysgrythyr. Pan ymaflai mewn rhyw bwnc, olrheiniai ef trwy yr holl Fibl, a dygai ffeithiau hanesyddol. llyfr Duw i'w eglurhau yn y dull mwyaf hapus. Nid allwn lai nag edrych ar y nodwedd hwn yn ei ddefnyddiad o ffugyrau yn ffortunus; y mae eu benthyca o natur a'r ysgrythyr yn llawer mwy pwrpasol, wrth gyfarch cynnulleidfa gyffredin, na phe cymerid hwynt o fysg y gwybodau eraill, yn gymaint ag mai dyma y ddau lyfr ag y mae y nifer fwyaf o wrandawyr yn fwyaf cyfarwydd â hwynt. Pe cymerid ffugr neu egluriad o un o'r gwvdd

orion, byddai yn rhaid cael amser i egluro yr hyn a fwriadwyd i egluro peth arall, a thueddai newydd deb a dyeithrwch y gyffelybiaeth i ddwyn y meddwl yn fwy arni hi nag ar y prif fater; ond wrth eu benthyca o feusydd cyffredin ac adnabyddus, y maent ar unwaith yn eglurhau y mater, ac yn peri fod y cymhwysiad yn fwy grymus ac argraffiadol.

Ni a roddwn ger bron ein darllenwyr y dyfyniad canlynol o bregeth ar y testun, "Y gwirionedd, megys y mae yn yr Iesu," yr hwn sydd gystal cynddrych o'i ddawn a'i ddullwedd a dim a welsom :

"Mewn golwg gyffredinol ar yr holl Fibl, mae yn dwyn perthynas â'r Iesu. Pell ydwyf hefyd oddiwrth ddwyn Crist i mewn ar bob achlysur yn yr ysgrythyrau, a dywedyd ei fod i'w gael yn mhob Salm a phob adnod, ac hefyd o gymeryd pob peth yn gysgod o hono ag y mae y dychymyg poethlyd yn canfod rhyw debygolrwydd ynddo; eto wrth sylwi ar ei rediad cyffredinol, y mae yn arwain ato. Ysgrifenydd buan am dano oedd Moses; dwyn tystiolaeth iddo yr oedd y prophwydi; ac wedi dyfod trwy ei hanes gan yr efengylwyr, a thraethu am dano gan yr apostolion, clöir y llyfr i fyny gydag 'Amen, yn wir, tyred Arglwydd Iesu.' Mae hanesiaeth y gwirionedd yn yr Iesu yn berarogl. Wrth edrych ar hanesiaeth y Bibl, braidd nad oes rhai yn petruso am ddyben yr Ysbryd Glân yn rhoddi cymaint yr holl ddygwyddiadau yn amser Moses, yr enwau yn y Cronicl, a'r chwildroadau yn y Breninoedd; ond yn yr Iesu' deuwn o hyd i'r dybenmae y cyfan yn berarogl ynddo ef. Mae edrych ar linell yr achau yn rhedeg trwy hanesiaeth y Bibl i'w chanolbwynt yn yr Iesu, yn ddigon i swyno ein meddwl pruddglwyfus. Wedi cael mai had Abraham a fyddai y Ceidwad, rhaid oedd edrych filoedd o flyneddau am ei ymddangosiad; a phwy na feddyliasai y buasai y gwaed wedi ei gymysgu, yr achau wedi colli yn llwyr, ac anhawsder i adnabod y Ceidwad pan ddeuai; ond yn lle hyny, cawn ei bod yn rhedeg yn union trwy newyn Canaan, caethiwed yr Aipht, gorthrymderau yr anialwch, a dygwyddiadau gwlad yr addewid-rhanu y freniniaeth unwaith, a symudiad y freniniaeth yn Israel o'r naill deulu i'r llall wyth o weithiau, eto cawn hi yn bur yn Juda, gan mai oddiyno yr oedd y Messia i ddyfod. Yn nechreu Cronicl, cyfarfyddwn â'r achau am dros dair mil o flyneddau, a rhedodd y gwaed yn bur nes ei gael yn y 'Bachgen a aned i ni' yn Bethlehem Ephrata, a hyny mor amlwg, fel y mae Matthew yn olrhain achau Joseph yn gywir hyd Abraham, gan edrych arnynt fel y boreu oleuni o Abraham hyd Dafydd, ac yn ei meridian oddiyno hyd y caethgludiad i Babilon, yna yn declinio yn raddol nes cyrhaedd teulu Joseph y saer; a Luc, yntau, a rydd achau Mair am bedair mil o flyneddau, gan dawelu y meddwl am darddiad y Messia oddiwrth Dduw. Y mae yr holl hanes yn gwisgo tynerwch yn yr Iesu. Mae dychryn y cwymp yn darfod yn swn Had y wraig yn Genesis. Ni a ddarllenwn hanes Abraham eto, fel pe na b'ai genym un dyben ond cael gweled yr addewid am Grist. Talwn gompliment i Melchisedec am ei fendithio er mwyn ei had. Beth oedd Esau ond halogedig pan werthai ei enedigaeth-fraint? ond yr oedd yn hyny beth cysegredig. Coffa da am Moses am ddewis dirmyg Crist o flaen trysorau yr Aipht. Ni a gymerwn ein homer i gasglu y manna yn yr anialwch, gan gofio am fara y bywyd.' Safwn yn ochr y graig yn Horeb, er mwyn iddi adsain ein llais yn swnio, 'A'r graig oedd Grist.' Fe fydd cyff Jesse byth mewn bri o herwydd y blaguryn a ddaeth allan o hono. Ni a newidiwn Jerusalem am Bethlehem Juda, oblegid o honi hi y daeth tywysog i ni. Mae ein meddwl am redeg i'w ganlyn o Bethlehem i'w weled yn cymeryd y mynydd yn bulpud, glan y ffynnon yn orphwysfa, yr ardd yn dŷ gweddi, a'r oruwch-ystafell yn gysegr-ond o'r cwbl,

'Pen Calfaria, nac aed hwnw byth o'n cof.'

2. Mae prophwydoliaethau y gwirionedd wedi eu cyflawni yn yr Iesu. Rhyw fyrdwn yn hanes ei fywyd ydyw, 'fel y cyflawnid yr ysgrythyr.' Yr oedd portread wedi ei dynu gan y prophwydi, yr oedd outlines bywyd hardd i'w gweled yn yr Hen Destament; ac er yr anrhydeddid y byd â dynion enwog o oes i oes,

nid oedd neb yn cyfateb Ir darinn hwww: cod pan ddaeth cyflawnder yr amser, and myfedd fra ne raz:-dyma Fachgen wedi ei eni o forwyn, fel y dywedodd Esaias: yn Bethlenem Ephrata, fel y dywedodd Mica; bellach, rhaid cael doethion i'w addol, fel y cydaweld yr ysgrythyr. Dechreuodd fyw gan gyflawni y Bayby. Wra diringo gusan e. bes, yr oedd rhyw ysgrythyr yn cael ei chyflawni yn barnas. Pany fidi fr Aipht, gydawnid yr ysgrythyr; marchogodd i Jerisalem yn ol y pwydae Pan ddywedodd, Y mae syched arnaf,” atebaï ï'r hyn a ddywedwyd zen y prophwyd; se hyd yn nod wrth ddisgyn i'r bedd, cyflawnld yr ysgrythyr: cyfododd y trydydd dydd yn ol yr ysgrythyrau.” Bellach, terfynwa. Y mae rhan farwol y "dysgybl anwyl" hwn yn gorwedd yn monwent capel Gwalchmai. Heddwch i'w lwch hyd ddydd brawd! Bydded i eglwysi Cymru attolygu ar Arglwydd y cynauaf anfon eto weithwyr i'w gynauaf.

DAMHEGION ESOP.

GAN NICANDER.
[PARHAD.]
IX.

Y DYN A'R EPPA.

Mewn gwig yngogledd Asia
Ryw fore, meddant hwy,
Neu yngwig fawr Hercynia,-
Ni waeth pa 'r un o'r ddwy,—
Cyfarfu Dyn oedd estron
Ag Eppa yn y coed;

Ac aeth y ddau 'n gymdeithion
Coedwigol mwyna' 'rioed.

Ryw ddiwrnod, fel yr oedd y ddau,
Y Dyn a'r Eppa, 'n bwytta cnau,
A llus, a mefus gwylltion, yn foreufwyd,
A hithau 'n oer, a'r Dyn yn teimlo anwyd,
Fe welai 'r Eppa 'r Dyn

Yn chwythu ar ei fysedd:
Meddyliau ynddo 'i hun

Fod hynny 'n orchwyl rhyfedd.

"I beth y mae hynyna da, fy nghyfaill,"
Medd yr Eppa, dan synnu:-

"Yr wyf fi 'n gwneud yn union fel bydd eraill,
"Pan fo 'n oer,-i'w cynhesu,'

Ebe 'r Dyn, gan edrych yn gall:
"Ho, ho; felly 'n siwr," ebe 'r llall.

Os cawsant frecast diwres,
'Roedd raid cael ciniaw cynnes;
Hwy wnaethant rual blawd a dwr,—
'D wy' ddim yn siwr,-neu bottes.
Dechreuasant ei fwytta fe 'n union
Yn chwilboeth o lygad y crochon :

« PreviousContinue »