Page images
PDF
EPUB

unwaith ei fod yn benderfynol nas gallai ymenwogi mewn dysgeidiaeth, ond ei fod yn teimlo yn dra awyddus i gyrhaedd cymaint o ddysg ag a'i galluogai i ddefnyddio awduron Seisoneg, yr hyn a wnaeth yn effeithiol.

Y lle y dechreuodd bregethu gyntaf yn nghymydogaeth Caergybi oedd ysgoldŷ Penrhos Feilw, a'r modd y dygwyd hyny oddiamgylch oedd fel y canlyn:-Yr oeddid wedi cyhoeddi y Sabboth i mi fod i bregethu yno nos Fercher; a chan y teimlwn awydd cryf i'w galonogi yn ei amcan, hysbysais ef y dysgwyliwn iddo ddechreu y gwasanaeth. Nid oedd ei achos eto wedi ei gyflwyno i sylw Cyfarfod Misol y sir, gan hyny annogais ef i roddi pennill i'w ganu, yna gweddïo, ac yna darllen pennod, gan wneyd sylwadau arni fel yr elai ymlaen, a thraethu yn helaeth ar ryw adnod neillduol. Cydsyniodd â'm cais, a phregethodd yn dra melus, er syndod i bawb oedd yn bresennol, a chydag effeithiolrwydd hynod, ar y geiriau, Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; eto yr Arglwydd a feddwl am danaf.””

Buasai yn pregethu heblaw y tro a grybwyllwyd cyn ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a chyn bod yn llawn dwy ar bymtheg oed. Yr achlysur iddo bregethu y tro hwn, oedd, iddynt gael eu siomi am y pregethwr a ddysgwylient. Ei destun oedd Diar. xviii. 24; ac yr ydym yn deall fod y gynnulleidfa yn ymadael wedi ei mawr foddâu. Dechreuodd bregethu yn rheolaidd cyn bod yn llawn pedair mlwydd ar bymtheg oed. Symudodd i athrofa y Bala pan yn ugain oed. Cawn ychydig linellau ar hyn yn ei ddyddiadur, wedi eu hysgrifenu ganddo ef ei hun:"Aethum i'r Bala pan yn ugain oed, bûm yno hyd yn dair ar hugain. Cefais addysg dda, a rhoddwyd fi ar ben y ffordd mewn llawer o bethau. Teimlwyf barch byth i'm hathrawon, Mr. Edwards a Mr. Charles. Priodais yn bedair ar hugain. Yr wyf yn awr yn naw ar hugain, wedi bod yn llafurio gyda'r gwaith am ddeng mlynedd. Cefais lawer o hyfrydwch yn pregethu Crist i bechaduriaid. Teimlais hyny yn foddion gras i mi fy hunan. Parhaodd fy iechyd yn wanaidd dros yr holl amser. Ystyriaf mai hyn oedd oreu i mi yn ngolwg fy Nhad nefol. Bûm yn mhob sir o'r Gogledd, dwywaith yn Nublin, dwywaith yn Liverpool a Manchester, a dwywaith yn y Deheudir; er hyny, yr wyf yn teimlo mai gwas anfuddiol ydwyf. Diwedd y flwyddyn 1845, cymerwyd fi yn waelach o lawer nag arferol, fel yr attaliwyd fy llafur trwy y flwyddyn 1846. Ni bûm yn pregethu ond pedair gwaith, eto ystyriaf y flwyddyn hòno mor uchel, ar ryw gyfrifon, ag un yn fy oes. Nis gallaf ddyddio amser fy nhröedigaeth; dygwyd y gwaith ymlaen yn raddol ynwyf; gwelais fwy o ddrwg pechod y flwyddyn ddiweddaf nag erioed. Daethum i garu crefydd ynddi ei hun; profais raddau o'r tangnefedd sydd uwchlaw pob deall. Daeth fy meddwl i fwynhau tawelwch. Diolch i Dduw am ei ymweliadau! Da yw i mi fy nghystuddio.-WILLIAM CHARLES."

Mae genym wrth law lythyr a anfonwyd ganddo, yn y cyfnod hwn o'i fywyd, at gyfaill iddo, Mr. John Thomas, Gwalchmai, yr hwn, ar y pryd, oedd yn glaf o'r clefyd y bu farw o hono. Tueddir ni i adysgrifenu y llythyr, am ei fod, o herwydd ei ragoriaethau, yn wir deilwng i'w roddi mewn cof a chadw, ac am ei fod yn ddarlun cywir o'r ysgrifenydd. Os ewyllysia y darllenydd gael drychfeddwl cywir pa fath un oedd William Charles, ni a allwn sicrhau iddo mai un fel y llythyr canlynol yn gymhwys yr ydoedd. Y mae yn bortread mor gywir o hono ag ydyw llythyrau Foster neu Cowper o honynt hwy.

1853.]

W

66

Bodwrog, Tachwedd 22ain, 1843.

"ANWYL FRAWD,—

"Yr ydwyf, yn benaf dim, yn dymuno i chwi lwyddo a bod yn iach, gan obeithio y gallaf ddweyd fel Ioan am Gaius, Fel y mae dy enaid yn llwyddo.' Ni a dybiwn mai gwael ei iechyd oedd ef, a gwanaidd o gorff, a'r olwg arno yn llwydaidd, eto ei enaid yn gryf, fel pren yn llawn ffrwyth, neu ardd gauedig, İle y deuai yr Anwylyd i gasglu ei fyrrh gyda 'i berarogl; a dymunai Ioan iechyd a Ilwyddiant ei gorff yn gyfatebol. Yr ydwyf yn barod i alw i'm cof, fel Paul am Timotheus, y ffydd ddiffuant sydd ynoch, yr hon a drigodd yn eich taid W. T., ac yn eich tad a'ch mam, a diammhau genyf ei bod ynoch chwithau hefyd; gan hyny, goddefwch gystudd, yn ol nerth Duw, yr hwn a'ch hachubodd, ac a'ch galwodd â galwedigaeth sanctaidd. Ymnerthwch yn y gras sydd yn Nghrist Iesu. Tynwch bob dydd ar fank rhad ras. Cewch yno wialen i hollti môr, a phren i bereiddio pob Mara; hyn a bair lynau yn Baca, ac a ddyry destun cần ar làn afonydd Babilon.

Pa le yr ydych, anwyl frawd? Mae eich lle yn wag yn y capel; ni chlywaf eich llais yn nghaniadau y dorf; pan eilw eich tad y llyfr, gan eich enwi chwi, nid oes neb yn ateb. Pa le yr ydych? Os dringaf i'r nefoedd, caf yno eich taid a'ch chwaer; a W. T., Pen yr aled, wedi eu joinio er boreu Sabboth,

'A'u holl gadwynau 'n chwilfriw mân,

[ocr errors]

A'u cân am Galfari;'

[ocr errors]

Ond pa le yr ydych chwi? Ai mewn pair cystudd? Ai yn Patmos, fel Ioan? A oes swmbwl yn y cnawd, fel Paul? Ai cloff ydych, fel Jacob? Bob tro y meddyliai Jacob am ei gloffni, cofiai y fendith a gafodd yn y tro. Paul, yntau, a redai at ddigon o ras dan boen y swmbwl. Gwaeddodd Ioan, Amen,' pan oedd Iesu ar ganol dywedyd, Yr hwn wyf fyw, ac a fûm farw.' Patmos neu beidio, y mae ei amen i'w weled yn siriol ar ganol yr adnod, hyd heddyw. Peth anmhosibl mewn natur yw casglu grawnwin oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall; ond nid felly mewn gras; ceir yma bob peth yn cydweithio er daioni. Ceir bwyd allan o'r bwytäwr, a choron o'r groes! Byddai Paul yn son am y 'gadwyn hon' weithiau, ond yr oedd coron cyfiawnder' ganddo yn ei olwg. Nid yw dyoddefiadau yr amser presennol yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddadguddir i ni.' Teimlaf ar fy nghalon ddiolch y mynyd hwn; cydymaith i chwi mewn cystudd wyf finnau, fy anwyl frawd. Ond yn y ffwrn, a gaiff fy niolch gwan i daro yn eich diolch chwithau, nes bod yn echo yn byddaru Satan, ac yn peri iddo ffoi! O! anwyl gyfaill, mae genym Dduw a all ein llawenhau yn ol y dyddiau y cystuddiodd ni, a'r blyneddau y gwelsom ddrygfyd.' Trwy y carchar yr aeth Joseph i'r ail gerbyd; trwy y cawell brwyn y cyfododd Moses yn flaenor ar Israel; a'thrwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i deyrnas Dduw.' 'Caffed amynedd ei pherffaith waith.' Mae yn rhaid i ni wrth amynedd. Mae genych chwi lawer o ffynnonau ag y gellwch dynu dwfr cysur o honynt. Ystyriwch y lle yr ydych. Nid fel Abia, mewn tŷ eilun-addolgar; nac fel Obedia, mewn ofn cael ei ladd gan Ahab; nac fel Joseph, mewn Aipht, ymhell o dŷ ei dad; na, y mae eglwys yn eich tý chwi. Y rhai oedd felus genych gydgyfrinachu, a rhodio i dŷ Dduw ynghyd, ydynt dan eich cronglwyd. Nid oes neb o'ch brodyr am eich gwerthu; na neb o'ch cyfeillion yn gysurwyr gofidus i chwi, megys i Job, ond pawb yn siriol, a'u gweddi drosoch oll sydd er iachawdwriaeth. Fy meddwl i yw, nad yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw. Gosodwyd swp o ffigys wrth gornwyd Hesecia, ac efe a fu iach; gall Duw fendithio moddion er eich gwella chwithau. Na lwfrhewch, fe fydd eich cryfder yn heinif eto. Dichon y byddwch, weithiau, yn ofidus eich meddwl (fel y gwn i yn brofiadol) wrth weled eraill yn iach a heinif, a chwithau yn rhwym. Yn hyn na ddigalonwch; os rhaid i chwi fod mewn anialwch am ychydig eto, cyn cyrhaedd Canaan iechyd, gwnewch yn fawr o'r manna a'r graig; eich craig yw Crist, a'r dwfr sydd fywiol. Os yn Babilon, agorwch eich ffenestri tua Jerusalem; ïe, mae yn werth cofio y deml sanctaidd o fol pysgodyn. Ceir dwfr o bydew Bethlehem, trwy bibellau y gair, i'r gwely

peth.

WILLIAM CHARLES.

6

På le

cystudd. Y mae potelau angeu y groes yn cynnal yn awr y brofedigaeth. Ymyn eu holl gystudd hwynt, gysurwch âg afalau yr addewidion, gan gofio mai O Iesu anwyl!-da genyf roddi ei enw ar bapyr. Efe a gystuddiwyd.' y mae fy nghaethiwed i yn y frest, a'ch poen chwithau yn yr aelod, yn ymyl dyoddefiadau Crist? Maent wedi eu colli o bell! A wnawn ni mwy ond caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb? Gellir dywedyd am danaf fi fel y dywedodd Paul am Epaphroditus, Yn wir, efe a fu glaf, ac yn agos i angeu; Eithr nid wyf yn ystyried fy ond Duw a drugarhaodd wrtho ef' am beth amser. hun ond ar fin fy medd; eto, diolchwn am gael byw, yn enwedig byw i wneuthur rhywbeth dros Grist. Dyma y fraint fwyaf yn y byd! O, am fod yn ffyddlawn! Tynwch chwithau eich iechyd o'r un fan. Mae gan yr Iesu lawer i'w ddyweyd wrth glefydau eto, ac y mae yn anrhydedd genyf gael ymddiried ynddo. Er ei fod yn y nefoedd o ran ei ddynoliaeth, mae ei awdurdod ar bob cnawd ac ar bob Dysgwyliaf eich gweled yn iach yn fuan. Cymerwch galon; os yn y carchar yr ydych, mae gan Dduw angelion a fedrant fyned yno, a thori cadwynau ei blentyn, i'w ollwng yn rhydd, nes y bydd ei frodyr yn synu ei weled wedi dyfod Yr oedd gan Ioan Fedyddiwr genadau yn myned o'r carchar at atynt eilwaith. Grist, ac felly yr oedd yn cael clywed oddiwrtho yno. Anfonwch chwithau eich gweddi ato yn fynych, a chwi a gewch glywed oddiwrtho yn ol ;-un heb ei fath ydyw! Cenwch weithiau; fe allai yr ä seiliau y carchar i siglo hanner nos! I ba beth y soniaf am garchar? Duw a gyffyrddodd â ni, a hyny yn ysgafn, fel na 'n damnier gyda'r byd.' Diolch iddo! Pa le y mae y gwynt garw? Mae wedi ei attal. Trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyma yr holl ffrwyth'tynu ymaith ei bechod ef!' Ceir Iesu yn myned y ffordd yma weithiau; gwaeddwn ninnau, 'Trugarha wrthym; ïe, yn fwy o lawer, Trugarha wrthym!' Pwy a ŵyr nad yw yn sefyll i wrandaw ein cri, ac y cawn ninnau foliannu Duw wedi ein gwneyd yn iach, ac

'Ni ganwn wrth gofio y boreu,

Na welir arnom glwy'.'

Cymerwch hyn oddiwrthyf, anwyl frawd, fel arwydd o'm teimlad trosoch chwi a'ch anwyl deulu. Syrthiodd hyn arnaf yn ddisymwth. Ni chafodd fy meddwl sefyll dim mewn rhagfyfyrdod, o herwydd hyny nid oes ond ychydig hufen yn fy llythyr. Nyddais yn fras neu braff iawn, gan y brys oedd arnaf i fyned i'r society. Os pentwr o esgyrn y cyfrifwch fy llythyr, torwch ambell un o honynt, i edrych a oes mêr ynddynt. Pe gwybuaswn y buasai rhyw hanesion yn eich dyddanu yn fwy, rhoddaswn hwy yn rhwydd; ond am fy mod yn cymeryd, oddiar fy nheimlad fy hun, mai dyma rediad eich meddwl chwithau, sefais ychydig ar y line hon. Gan ddymuno o'm calon i Dduw eich digoni chwi â hir ddyddiau, a dangos i chwi ei iachawdwriaeth, y terfynaf.

Ydwyf, yr eiddoch,

W. CHARLES."

[ocr errors]

Yr un a briododd oedd Miss Eleanor Edwards, Bodwrog, yr hon a fu yn dyner ac anwyl o hono hyd ddiwedd ei oes. Bu ganddynt dri o blant, o ba rai yr ieuangaf yn unig sydd yn fyw. Mae y weddw a'r amddifad yn awr yn yr Amerig. Boed bendith "Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon arnynt yno, a bydded y mab mor ddefnyddiol yn nhir y gorllewin ag oedd ei dad yn Nghymru. O herwydd ei wendid, bu William Charles, fel y gwelwyd eisoes, dros lawer o fisoedd, am y tair blynedd diweddaf o'i oes, yn analluog i bregethu; ond ambell adeg, yn yr yspaid hwn, adfeddiannai raddau o nerth, a phregethai yn lled fynych yn Gwalchmai a'r lleoedd cylchynol. Nid allai, y pryd hwn, gerdded i'r capel, eto pregethai yn gryf; a hysbysir ni (a phwy a all ammheu am fynyd?) yr hir gofir am y pregethau hyn. Y gwir yw, nid oedd modd eu hanghofio. Dyn Duw yn pregethu! Mae ei ymadroddion yn rhwym o gyrhaedd y galon a'r gyd

W 2

wybod, ac os cyrhaeddant yno, nid ar frys yr änt dros gof. Dyn Duw yn addfedu i ogoniant; yn llefaru yn ngolwg barn a thragywyddoldeb; yn cyfarch dynion marwol oddiar hiniog y byd anweledig; yn ymadroddi am Grist ar fin ei weled fel y mae! Onid oes dylanwad yn ei leferydd? Onid yw y dyn yn diflannu o'r golwg, a'r Duwdod yn dyfod i'r amlwg yn ymadroddion y cyfryw? Dywedir y byddai ei gyfarchiadau yn y cyfarfod eglwysig, yr adegau hyn, yn peri effeithiau grymus. Gwelwyd y gynnulleidfa yn fynych, yn fuan wedi iddo ddechreu siarad, yn un mewn dagrau a gorfoledd. Dywedai y meddyliau mwyaf tlws a tharawiadol, gyda'r llais pereiddiaf, a'i wyneb, ar y pryd, yn amlygu fod ei enaid addfed yn ddarostyngedig i'r teimladau mwyaf dwysion. Buasai yn annaturiol i un yn "llefaru felly" beidio cynnyrchu effeithiau dymunol ar y gwrandawyr. Dichon hefyd fod eu hofnau na chaent weled ei wyneb mwy yn tueddu i ddwyshau yr effeithiau. Y Sabboth diweddaf o'r flwyddyn 1848, pregethodd, am y waith olaf, oddiwrth Salm lxv. 11. Yr oedd yn rhy wan i bregethu y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn newydd, ond daeth i'r capel y nos y tro diweddaf am byth! Boreu y Sadwrn canlynol, Ionawr y 13eg, hunodd yn yr Iesu, wedi dywedyd ychydig fynydau o'r blaen, “Yn yr ymdrech galed -pob peth yn dda." Fel hyn y bu fyw, ac y bu farw, un o'r anwylaf a pherffeithiaf o ddynion.

Wrth daflu ail olwg ar oes ein diweddar gyfaill, gorfodir ni i ddyfod i'r penderfyniad ei fod yn hynod mewn duwioldeb. Yr ydym yn dywedyd hyn, nid am yr arferir ei ddyweyd braidd yn mhob cofiant, ond am y byddai yn annheg peidio. Yr oedd William Charles, nid yn unig yn dduwiol, ond yn dduwiol iawn. Yr oedd ei grefydd o'r fath ddyfnaf a dwysaf. Os oedd rhywbeth yn fwy arbenig na'i gilydd yn ei gymeriad, dyma ydoedd; a hyn a ystyriwn fel y prif achos o effeithiolrwydd a llwyddiant ei weinidogaeth. Yr oedd y dyn ynddo, fel yr awgrymwyd eisoes, yn dra manteisiol i'r cristion. Yn mysg y miliynau ydynt yn dwyn yr enw urddasol dyn, dichon mai llai na feddylid ydynt yn llonaid y gair. Mae safon y natur ddynol yn dra uchel, a phed elai holl blant Adda yn un orymdaith dano, mae yn ddiammhau y newidiai y nifer fwyaf eu barnau am danynt eu hunain. Hwy a synent mor fychain ydynt wrth y safon. Nis gwyddom, ac nid ydym yn tybied y gŵyr ein darllenwyr, ond am un i fyny âg ef-yn gyflawn ddyn, yn llenwi yr enw yn mhob ystyr. Fel nad oes ymhlith holl gyfrolau y byd ond un ag y gellir ei galw y llyfr, felly nid oes yn mysg aneirif bersonau y ddynoliaeth ond un ag y gellir ei alw y dyn. Pe gallai ein dychymyg greu dyn perffaith-a phaham nas gall? mae dyn perffaith yn awr yn bod mewn gwirionedd, a phaham nas gall fod mewn dychymyg?-un heb arbenigrwydd fyddai, un nas gellid canfod neillduolion ynddo, am y byddai yn amddifad o neillduolion. Ei arbenigrwydd fyddai bod heb arbenigrwydd, yr hyn fyddai ei berffeithrwydd. Os oes rhyw allu neu deimlad yn hynod ddarnodol a llawn yn y dyn, arwydda hyny fod ei gymeriad yn amddifad o gyfartaledd; ac fel y mae personau yn dynesu at safon y ddynoliaeth, ac yn llwyddiannus, i raddau, mewn sylweddoli ynddynt eu hunain y dychymygol o ddyn, mae y pantiau sydd yn eu cymeriadau yn cael eu cyfodi, a'r bryniau yn cael eu gostwng, yr ysgwyddiadau yn cael eu naddu ymaith, neu o leiaf, yn ymddangos felly, o herwydd fod y manau diffygiol yn cael eu dwyn i fwy o

WILLIAM CHARLES.

gyfraddiad â hwynt.

Mae y meddwl, yr hwn mewn gwirionedd ydyw y dyn, yr un modd a'r corff, yn myned yn fwy lluniaidd a chyfartal wrth fyned rhagddo at berffeithrwydd. Un fel hyn oedd William Charles i raddau helaeth. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf hardd a chyflawn: naill ai yr oedd felly yn naturiol, neu cafodd ei naddu a'i gaboli yn ieuanc gan ras yr efengyl. Pan ymddangosodd gyntaf i Israel, yr oedd yn greadur Íluniaidd, dianaf-heb ddim yn ormod na dim yn fychan ynddo. Dywedir am un o brif bregethwyr Lloegr, yr hwn sydd er's blyneddau yn gorphwys oddiwrth ei lafur, y buasai yn sicr o fod yn ornestwr (duellist) pe na buasai yn gristion, gan faint tanbeidrwydd ei dymher, ac uchelfrydedd cynhenid ei natur. Ond beiddiwn unrhyw ddyn i ddyfalu pa beth a fuasai William Charles, pe na buasai yn gristion. Ni ddeuai dim i'r golwg yn ei ymddygiad, yn ei ymddyddan, neu yn ei dymher, ag a roddai fantais i neb feddwl pa fath bechadur a fuasai pe na buasai yn sant. Diammhau fod ganddo yntau, fel holl saint Duw, ei "bechod parod i'w amgylchu," a'i fod ef ei hun yn ymwybodol o gynhyrfiadau natur lygredig mewn rhyw ddulliau neillduol; ond o herwydd ei agosrwydd at Dduw, o herwydd duwioldeb gwastadol ei ysbryd, cafodd yr anrhydedd o fyw am flyneddau yn y byd, ac yn y diwedd ddianc o hono, heb i neb ond efe ei hun, a'i Arglwydd, wybod pa beth oedd: ac yr oedd hon yn anrhydedd nad ystyriwn yn ail i'r eiddo Enoc, "yr hwn a symudwyd heb weled marwolaeth." Mynych y sonir am yr ysmotiau sydd ar wyneb yr haul; ond mae yn rhaid i ni gyfaddef, a thrwy hyny ddangos ein hanwybodaeth, na wyddom nemawr am yr ysmotiau hyny: mae ei ddysgleirdeb mor danbeidiol fel nas gallwn eu canfod, ac mae ein llygaid mor weiniaid fel nad awn i'r boen o chwilio am danynt; yr un modd, yr oedd y fath ddysgleirdeb gwastadol yn nghymeriad William Charles, fel ag i wneyd y brychau, os oedd ynddo rai o gwbl, yn hollol anghanfyddadwy.

Nid oedd ynddo yr un nodwedd, neu yr oedd pob peth ynddo felly. Yr oedd yn gall ac yn ddiniwed, ac nis gwyddom yn mha un o'r ansoddion hyn yr oedd fwyaf arbenig. Pe buasai yn symlyn, ac yn gwbl amddifad o synwyr, buasai yn anhawdd iddo fod yn fwy diniwed; a phe buasai heb y radd leiaf o ddiniweidrwydd a symledd calon, ni fuasai ei gallineb a'i ochelgarwch yn fwy: yr oedd mor ochelgar a phe buasai yn byw yn nghanol gelynion, ac mor rydd a chyfeillgar a phe buasai pawb yn "Israeliaid yn wir." Hynodai mewn anwyldeb, addfwynder, a gostyngeiddrwydd; ond nid oedd ei feddwl yn amddifad o annibyniaeth. Yr oedd bob amser yn siriol, ond byth yn ysmala; yn wastad yn ddifrifol, ond byth yn ffugio y pruddglwyf; meddiannai y teimladau mwyaf bywiog, a'r serchiadau mwyaf tanllyd, ond llywodraethid ef, nid gan nwyd, ond gan reswm; nid gan deimlad, ond gan egwyddor; nid gan gynhyrfiad o un math, ond gan gydwybodolrwydd i'w Farnwr, i'w grefydd, ac i'w gyd-ddynion.

Os oedd rhywbeth yn fwy arbenig na'i gilydd yn ei grefydd, ni a dybiwn mai dyma ydoedd anwyldeb tawel a dwfn at y Gwaredwr. Yr oedd cariad elfen fawr duwioldeb-wedi treiddio ei holl natur, ac wedi dwyn ei holl deimladau mewn ufudd-dod iddi. Os eiddigeddai wrth rai o dduwiolion y Bibl, mae yn debyg mai wrth y rhai a anrhydeddwyd â chyfeillach a chwmni Duw yn y cnawd yr eiddigeddai fwyaf, y rhai fuont yn gydymaith a'r Arglwydd Iesu yr holl amser yr aeth i mewn ac allan yn eu plith; ac os oedd un o'r rhai hyny yn wrthddrych ei eiddigedd rhagor y

« PreviousContinue »