Page images
PDF
EPUB

Trwy werth anfeidrol yr iawn

"Daw Dewi bach yn Ddewi Wyn,

I ardal aur delynau."

Un o gydoeswyr a chystadleuwyr gyda Dewi Wyn oedd Gutyn Peris. Y mae wedi delweddu arwynebiad Llanberis ar ei holl gyfansoddiadau. Y mae arogl iachuslawn y lle yn pereiddio ei olygfeydd. Clywir dadwrdd mawr cwymp llechau y chwarelau yn seiniau ei gynghaneddion. Arweinia y darllenydd wrth ei fodd trwy 'r anialdiroedd rhamantawl; ond gwna i ni grynu weithiau wrth fyned â ni yn rhy agos i'r clogwyni. Crea fraw yn ein mynwes wrth sefyll yn rhy hir o dan ddarnau ysgythrawg creigiau crogedig, pan yn ei ddilyn i wrandaw ar dwrf syfrdanawl y rhaiadrau. Yn ei anerchiad i Gwilym Peris, hudir ni ar hyd y llwybrau mwyaf anhygyrch, gorfyddir ni i roddi bras gamrau ar draws boncyffion mawrion a phigog yr eithinen; ond anghofiwn y boen oddiwrth y pigiadau, a'r cywilydd oddiwrth y rhwygiadau ar ein gwisgoedd, pan gyfyd sawr beraidd blodion yr eithinen i'n ffroenau. Tyf rhosynau gwylltion yn ochr pob clawdd a ddesgrifia, a chyferfydd ein llygaid a'n clust yn ei holl wrychoedd â nyth a chân yr aderyn. Y mae ei awen yn fwy hoff o ddarlunio golygfeydd aruthrol anian na dynion ac arferion. Y mae cyddarawiad neillduol rhwng ei feddwl â lleoedd diffaeth, unigol, a gwyllt. Yn yr anialwch y gorseddai efe. Hoffai ardderchogrwydd yn fwy na phrydferthwch. Dewisai yr wybren yn llawn o ser o flaen y blodeuyn. Lief un yn llefain yn y diffeithwch ydoedd ei farddoniaeth. Cân bronddu'r twynau, sain y cornant ddigartref, a sŵn y wenynen yn mlodau y grug, ydoedd y gerddoriaeth a'i difyrai. Ymbleserai ein hawenydd gyda'r teithiwr dyeithrol yn mrig yr hwyr yn y corsydd, gyda'r bugail yn chwilio am y geifr rhwng y clogwyni, neu gyda'r penboethiad yn dysgwyl ymddangosiad drychiolaethau wrth oleu lloer mewn hen gestyll, neu yn gwrandaw ar y

"Rhaiadr mawr yn rhuaw,
Canu ei glych cyn y gwlaw."

Onid oes tebygolrwydd neillduol rhwng anerchiad Gutyn Peris i sylwadau arddunol Festus ar ol ei gyfaill ymadawedig, gan Bailey? Y mae yr adgofion yn tebygoli, ond rhaid addef fod meddyliau y Sais yn tra rhagori.

"For we were alway rivals in all things-
Together up high springy hills, to trace
A runnel to its birthplace-to pursue

A river to search, haunt old ruined towers,

And muse in them-to scale the cloud-clad hills,
While thunders murmured in our very ear;

To leap the lair of the live cataract,

And pray its foaming pardon for the insult;
To dare the broken tree-bridge across the stream;
To crouch behind the broad white waterfall,
Tongue of the glen, like to a hidden thought-
Dazzled, and deafened, yet the more delighted."

i.

Daw Blackwell (Alun) yn nesaf o dan ein sylw. Efe ydyw y mwyaf swynol o'r holl feirdd Cymreig. Mae math o dynerwch dwys ac argyhoeddiadol yn ei geinciau. Weithiau mae yn fywiog fel awelon boreu haf yn siglo brig y morwydd, a'r pryd arall mae yn orgwynol fel sŵn gruddfanus y daran bell. Ymhyfryda ei awen yn benaf mewn désgrifiadau

[ocr errors]

tarawiadol a naturiol o fywyd tawel y gweithiwr tlawd. Ymblesera i ymgomio â'r hen ŵr dall ar ochr y ffordd ynghylch " yr hen amser gynt," neu ynte i gydymdeimlo â'r fam a gollodd ei hunig blentyn trwy y darfodedigaeth. Dewisa ef, fel y bardd Seisoneg, Gray, neillduedd y fonwent o flaen dadwrdd y dinasoedd a rhwysg y palas. Ymhoffa ar brydnawngwaith haf i ymweled âg olion hynafol yr abatty, lle y canfydda y dylluan a'r hebog yn cysgu yn dawel ar garnedd beddrod y sant. Gellir gyda phriodoldeb ddefnyddio llinellau y bardd Seisoneg am dano,—

"The poet's soul that flow for ever
Right onwards like a noble river
Refulgent, still, or by its woods

Shaded and running on thro' sunless solitudes."

Cyferbynir athrylith Alun a Dewi Wyn â'u gilydd gan Mr. G. Edwards yn ei feirniadaeth fanwl a thlws ar weithiau y blaenaf. Ond rhaid addef ei fod yn sefyll dan anfantais dirfawr i ymgyferbynu â'r olaf fel bardd. Cysegrodd Dewi ei fywyd a'i dalentau i wasanaethu yr awen. Trwy ei farsiandiaeth â hi yr ennillodd ef yr holl berlau dysglaer a belydrant yn ei goron. Ni ranodd ef yr yspail gyda chedyrn Jacob yn y pulpud fel Ålun. Er yr ymddengys nad oedd yntau ddim yn dra phoblogaidd yn yr areithfa, eto casglwn oddiwrth nodiadau Mr. Jones arno, yn ei "Nodweddiad o Genedl y Cymry," yr arferai barotoi cyfansoddiadau manylaidd a gorchestol i'r pulpud. Heblaw hyny, trodd ef ffrydiau anhysbyddadwy ei feddwl i ddyfrhau amrywiol feusydd, heblaw y rhai a nodwyd uchod. Llafuriodd lawer gyda'r "Cylchgrawn." Y mae y darnau gwreiddiol a gyhoeddodd ynddo yn llawn o swyn, dyddordeb, ac adeiladaeth. Y maent bob amser yn addysgiadol, nwyfus, ac weithiau yn dra serchgynhyrfiol. Rhagora ei gyfieithiadau o'r Seisneg bob amser braidd ar y gwreiddiol. Safai ef a Chawrdaf yn flaenaf, os nad yr unigol, yn Nghymru, fel ffugdraethwyr. Ar ol darllen rhai o'r cyfansoddiadau hyn, teimlwn yn ofidus na buasai wedi porotoi mwy o'r fath ddysglau i'n cenedl. Fel bardd, yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng teithi ei feddwl a'i awen a'r eiddo y bardd o'r Gaerwen. Casglai un ddefnynau goleuni at eu gilydd i'w gwneuthur yn wenfflam, gwasgarai y llall hwynt ar led fel pelydrau ar ddrych. Hynodai un yn angerddolrwydd anwrthwynebol ei arddull a'i ddesgrifiadau tanllyd a chynhyrfus; hynodai y llall yn fwy yn nhynerwch swynol ffrydiau rhedegog ei awen. Trigai awen Dewi yn gyffredin yn sŵn aruthrol y dymhestl a'r ystorm, yn "ngweithdai y mellt a'r taranau;" pryd y gwelid awen Alun yn gweithio ei ffordd yn dawel yn mrig yr hwyr ar ddydd o Hydref tua'r llwyn gerllaw, i wneuthur adfyfyrion tarawiadol ar gwymp disyfyd y "ddeilen grin." Gwelid ef wedi hyny, wrth ddychwelyd tuag adref, yn galw ar ymweliad yn nhŷ gwraig y pysgodwr, ac ar ol gwrandaw arni yn adrodd helyntion ei theimladau, ei hiraeth dwys am ei chymhar sydd yn nghanol peryglon mawrion yr ystorm, clywir ef, ar ol dangos ei gydymdeimlad â'i sefyllfa, yn dymuno "nos dda iddi." Os dilynir ef ymhellach, gwelir ef yn prysuro i'w fyfyrgell. Y mae ei deimladau yn awr bron tori dros yr ymyloedd, ar ol yr ymddyddan a grybwyllwyd uchod. Nid oes dim anghen heno i ddarllen Pope a Byron i ysbrydoli ei awen, mewn trefn i ddesgrifio ei theimladau. Ymeifl yn ei ysgrifbin ar unwaith, a rhydd ar lawr, mewn cân fer, ond cynnwysfawr, agwedd ei meddwl, ei syniadau toddedig, ei gweddi daer, ei hiraeth dwfn, a'i hymddiried llawn yn y Gŵr sydd yn marchogaeth y llifeiriant.

[ocr errors][merged small][merged small]

Os dygwydd i'w awen gael ei thaflu i ganol dyfroedd terfysglyd siomedigaethau y llawr, clywir ei llais dystaw main yn cyhoeddi, "Fôr, gostega!" uwch ben yr ystorm. Gwelir yn y fan y seren hwyrol o bell yn dechreu gwneuthur ei hymddangosiad rhwng goblygion tewion y cymylau-rhagarwydd bob amser o hin dawel a diderfysg. Try y gwyllion o dan ddylanwad ei awen yn oleu ddydd, a thröir tristwch yn orfoledd. Os ymddengys yn ein plith yn achlysurol yn ngwisg y fellten, ac os llefara wrthym weithiau yn llais y daran, gwna hyny er mwyn i ni ei glywed yn cyhoeddi tangnefedd yn fwy hyglyw. Glŷn ein serch ato fel bardd, yn benaf, oblegid tuedd ei farddoniaeth i sirioli y meddwl. Try yr "ochr oleu i'r cwmwl" yn wastad atom. Ni adawa i'r cawodydd wlawio arnom heb gyfeirio ein golygon at enfys y cyfammod sydd yn gwenu uwch ein penau. Ymddengys ein bywyd iddo ef yn olygfa o gyfaredd (enchantment). Edrycha ar ein daear fel gardd lle y tyf pob pren dymunol. Bydd pob mieren a dyf ynddi yn fieren Fair (sweet brier); ceir gwyrddlesni hyd yn nod ar y tywyn tywodlyd ganddo; cyfeiria ni at y blodion sydd yn estyn eu penau allan o'r anial a'r grug, a dengys i ni y lili sydd yn tyfu yn siglenydd y corsydd. Y mae ei farddoniaeth yn llawn o ystwythder, bywiogrwydd, a dysgleirdeb. Ymddengys iddo sugno ysbryd Ilawenydd yn anadliad cyntaf ei fodolaeth. A phan weithiodd hyn ar deimladau bywlwys a chrebwyll hoew a choethedig, daeth yn fyw i dderbyn argraffiadau annileadwy. Y mae yn wir yr arweinir y darllenydd yn fynych trwy olygfeydd pruddglwyfus wrth ddarllen ei gyfansoddiadau, yn neillduol ei ddarnau rhyddieithol. Ond nid ydym yn gwybod am yr un o honynt nad ydyw yn diweddu, nid yn nghanol chwerthin, ond yn nghanol sirioldeb digymysg. Tuedd naturiol tristwch bob amser ydyw adfywio yr ysbrydoedd. Gall y cristion weled gogoniant y trigfanau dedwydd yn fwy eglur wrth syllu arnynt trwy ddrychau dysglaer dagrau. Y mae ambell gyfansoddiadau, ar ol iddynt eich dwyn i ddyffryn galar, yn eich gadael yno am eich oes, os mynwch chwi. I newid y gymhariaeth; ar ol iddynt eich poeni am ddeugain mlynedd mewn anialwch gwag erchyll, suddant eich penau yn y diwedd yn nyfroedd yr hen Iorddonen cyn eich dwyn i Ganaan. Ond ar ol darllen cyfansoddiadau Alun, bydd y galon wedi ysgafnhau, a'r meddwl yn rhydd oddiwrth bob galar cyn cyfarfod â'r amen. Ysgydwir y pruddglwyf oddiwrthym, fel yr ysgydwa 'r alarch y dyferion gwlaw oddiwrth ei blyf, ar ol bod dan y gawod. Try ein golygon oddiwrth ddüwch noeth y mynyddoedd, fel yr ymddangosant i'r llygaid ar ddydd o Ragfyr, y rhai fydd yn orchuddiedig âg eira, ac hefyd oddiwrth goedwigoedd diddail, ac afonydd dan gloion oerion o rew,

allan o sŵn awelon gorgwynol y gauaf, i ymloddestu ganol dydd dan gysgodion gwyddgellau, pan bydd heulwen haf yn gwenu uwch ein penausef y tymmor y dilledir y ddol â chwrlid gwyrdd, yr addurnir y llwybrau â blodau, y lliwir y rhosyn yn goch, y lili yn wyn, a'r brialli yn felyn, pryd y clywir yr

"Adar yn mwyn ganu

Miwsig y nef yn ein mysg ni.”

WILLIAM CHARLES.1

MAE pob dyn, ond y ffol a'r rhyfygus, yn rhwym o deimlo graddau o bryder a phetrusder wrth ymgymeryd â gorchwyl fel yr eiddom ni yn bresennol; oblegid y mae ysgrifenu hanes, a desgrifio cymeriad dyn, yn waith o gryn anhawsder a phwysigrwydd. Os rhaid i'r ardebydd wrth fedrusrwydd a chelfyddgarwch mwy nag a fedd y lliaws, i dynu arlun o'r dyn oddiallan; os rhaid iddo wrth ddeheurwydd, a gamenwir weithiau yn athrylith, i roddi ystum y corff, a delweddau y wyneb, a mynegiad y llygad, ar y llian, ac i wneyd darlun digon tarawiadol i beri i hen wragedd―y rhai nid ydynt, yn y cyffredin, yn hynod gyfarwydd â'r celfau breiniol-ofni aros yn yr un ystafell âg ef, a ffoi o ŵydd y dyn sydd yn hongian ar y pared, ac yn edrych trwyddynt pa le bynag yr eisteddant-mae yn naturiol i ni dybied fod yn rhaid i'r bywgraffydd y bywgraffydd a deimla yn bryderus am wneyd cyfiawnder â'i destun-wrth raddau helaethach fedr a deheurwydd. Mae a fyno yr arlunydd â gwrthddrychau gweledig, gwrthddrychau a gynnwysir o fewn terfynau llywodraeth y synwyrau, a gwrthddrychau ag y gellir trosglwyddo syniad lled gywir am danynt mewn agweddau a lliwiau; ond mae a fyno y bywgraffydd â gwrthddrych annhraethol fwy pur, â gwrthddrych nas gellir ei weled, ei glywed, na'i deimlo; â sylwedd ysbrydol, heb ynddo faintioli gwybyddus, ac heb arno na lliw na llun; ac y mae yn rheidiol iddo, cyn yr ennilla radd dda ymhlith llênyddwyr, allu trin a thrafod hwn-ymaflyd ynddo, ei droi a'i drosi, ei ddwyn dan archwiliad manwl, fel y dygai yr offeiriad dan y gyfraith yr aberth; elfenu ei egwyddorion, a dadansoddi ei alluoedd, ei nwydau, a'i deimladau. Ni ddymunem i neb ddeall hyn yn yr ystyr uchaf, yn yr ystyr fwyaf hollol, ond mewn modd cymharol; oblegid gwyddom nas gall neb wneyd hyn yn berffaith ond y Duw a luniodd ysbryd dyn ynddo, o flaen llygaid yr hwn y mae pob meddwl, ac egwyddorion dirgelaf pob meddwl, yn noeth ac agored; ond, ar yr un pryd, mae yn wirionedd anwadadwy fod rhyw gymaint o allu cyffelyb yn ofynedig yn y neb a anturio anfon i'r byd lyfr neu draethawd yn proffesu bod yn hanes o fywyd, ac yn ddesgrifiad o nodweddiad un arall. Arlunydd yr enaid a ddylai y bywgraffydd fod. Hefyd, mae gorchwyl y bywgraffydd yn un tra phwysig, yn gystal ag yn un anhawdd, oblegid y mae mewn mantais i wneyd cam, a hyny, weithiau,

'Dichon fod enw William Charles yn anadnabyddus i rai o'n darllenwyr; ond gan ei fod yn ŵr ieuane tra nodedig fel pregethwr, ac yn un o'r rhai mwyaf anwyl gan bawb a'i hadwaenai, barnasom ei fod yn deilwng o goffadwriaeth yn y "Traethodydd ;" a gobeithiwn y bydd i'r hanes am dano fod yn foddion i ennyn graddau o'r un ysbryd mewn llawer o bobl ieuaine y Dywysogaeth.

yn ddiarwybod, à chymeriad eraill; a pha beth sydd ag yr ymgilia y meddwl haelfrydig a boneddigaidd oddiwrtho gyda mwy o ddychryn na gwneuthur eamwri â choffadwriaeth y marw? Ar brydiau, gwneir cam â'r gwirionedd, a sarheir synwyr cyffredin, trwy wneyd y corach yn gawr; a phrydiau eraill, gwneir cam â'r gwirionedd ac â phersonau, trwy daflu ammheuon am gywir. deb y gwir rinweddol, neu dynu llen rhyngom a'r gwir fawr, neu gysylltu rhyw ffoleddau â'r dyn yn ei goffadwriaeth, na wyddai ddim am danynt yn ei fywyd, ac felly, yn rhy ddiweddar iddo ymryddhau oddiwrth y cyhuddiadau. Oni ddyoddefodd llawer un yn ei goffadwriaeth oddiwrth anwybodaeth, diofalweh, neu ragfarnau eu bywgraffwyr? Nid yw John Milton yn ymddangos yn ddyn o galon dda a chydwybod anhyblyg yn "Mywydau y Beirdd," gan Johnson; ond pan ddarllenom ei hanes gan rai llai rhagfarnHyd na'r beirniad hwnw, mae y bardd yn ymddangos yn fawr ac yn dda, yn anferth ac yn lluniaidd yn gawr yn mhob ystyr; mae yn sefyll ger ein bron fel creadur uwch na dynion marwol, ac ond ychydig-gadawer i ni fenthyca yr ymadrodd-" ond ychydig is na'r angelion." A allai ein darllenydd brofi ein bod yn dywedyd rhywbeth amgen na gwirionedd, pe dywedem fod ei "Goll Gwynfa" yn llyfr tra adnabyddus ymhlith y bodau hyny? Os buont, weithiau, yn edrych dros ei ddalenau, oni tharawyd hwy a'r meddwl, Dyma ysbryd mewn tŷ o glai yn gwneyd ei ddynesiad atom ni? Wrth edrych ar John Milton oddiar safle briodol, ac ymddyosg oddiwrth bob rhagfarnau, yr ydym yn ei weled mor hardd ag ydyw o fawr. Mae y prydferthwch rhinwedd a sancteiddrwydd sydd yn dysgleirio yn ei gymeriad yn ein dwyn i'w garu, fel y mae mawredd ac ardduniant ei athrylith yn peri i ni fod yn fud yn ei bresennoldeb. Mae y cyfartaledd prydferthaf yn ei gymeriad ei alluoedd meddyliol a'i egwyddorion moesol mewn cydbwysedd. Yr oedd John Milton yn ddyn, ac yn gristion, ac yn ysgolaig, ac yn fardd, ac yn dduwinydd, ac yn yr oll yn rhagori; ond nid i Samuel Johnson yr ydym yn ddyledus am wybod hyny. Oni buasai i eraill ysgrifenu yn fwy diduedd nag ef, ni buasai coffadwriaeth y gwron hwn mor fendigedig ag ydyw heddyw ar y ddaear. Gwyddom am amryw ysgrifau a ystyrid gynt, gan rai, yn hanesion awduredig o'n Hiachawdwr, ond mor fawr y gwahaniaeth rhyngddynt ag ysgrifeniadau yr efengylwyr ; mor chwyddedig y naill, mor syml y lleill. Mae yr ysdorïau a adroddir ynddynt yn wrthun; ni fuasai dyn cyffredin, ae yn berchen dogn ganolig o synwyr cyffredin, ac yn cael ei lywodraethu gan egwyddor o rinwedd, byth yn cyflawni y gweithredoedd a gynnwysant, heb son am y

"Dyn â'r Duwdod ynddo 'n trigo;"

"yn yr hwn y mae trysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig." Mor wahanol ydynt i ffeithiau ardderchog yr efengylwyr! Wrth eu darllen, byddwn weithiau yn arswydo, gan faint eu rhyfyg, ac weithiau yn ehwerthin, gan faint eu hynfydrwydd; ac wedi prysur redeg drostynt, bydd megys bywyd o feirw i ni gael edrych i mewn i restr achau yr Iesu, gan Matthew a Luc, a darllen athroniaeth ddyrchafedig y duwinydd am y "Gair a wnaethpwyd yn gnawd." Barnwn fod yr efengylau, yn annibynol ar eu dwyfol ysbrydoliaeth, ac ar fawredd eu testun, yn gynlluniau i'w hefelychu gan fywgraffwyr pob oes, ac yn enwedig felly gan fywgraffwyr gweinidogion yr efengyl. Ni ddarfu i serchogrwydd dwfn yr ysgrifenwyr at eu Harglwydd eu llithio-er y buasai hyny yn naturiol-i ysgrifenu eu hefengylau yn folawdiau iddo. Nid oedd raid iddo ef, yn aned neb, wrth

« PreviousContinue »