Y mae y darluniadau blaenorol yn ddiguro, ac ar y testun yn hollol. Darlunia y bardd wrthddrychau elusen yn effeithiol;-duwies elusen yn disgyn o'r nef;-gofal Duw am ddynion;-y dylem ddilyn ei esiampl drwy ofalu am ein gilydd ;-cofio tlodi Crist yn ddigon i ennyn awydd ynom i gofio am eraill. Yna helaetha yr awdwr ei derfynau, a dengys y rhwymau sydd arnom i gynnorthwyo pob un fyddo yn ein cyrhaedd. Y mae y darlun o'r hen ŵr a welodd well byd yn dra thoddiadol ; "Fy nwr hallt yn ddafnau rhed, O gyneddfau gweinyddfawr, Nid oes yn nau Dŷ y Senedd-ei well; Ond yn lle hyn, adyn noeth Darlunia blant tlodion ac eraill yn dra effeithiol ;— "Rhosynau, blodau o blant-yn edrych Yn odrist, ar ddiflant; -ac arwydd * Hwy wyneblwydant yn eu blodau. Gwel elusen, ac a glyw leisiau Tra y mae ein bardd yn cadw gyda gwrthddrychau priodol elusen, y mae yn rhagorol: ond y mae yn gadael y tir yma yn mhen tua saith tudalen; ac y mae yn dechreu trin y gwahanol gymdeithasau fel sefydliadau elusenol; megys ein colegau, a phob cyfraniadau at bob achos Beiblawl a chrefyddol o bob natur a elwir yn elusen ganddo ef; yr hyn a ystyriwn ni yn anmhriodol; oblegid os elusen yw cynnal gwŷr ieuaine yn yr athrofaoedd, elusen yw cynnal gweinidogion yr efengyl; ac o elusen yr oedd y bobl yn cyfranu at y babell yn yr anialwch, ac at y deml yn Jerusalem, er mai "offrymau" y geilw yr ysgrythyr y rhoddion gwirfoddol a gyfranent. Pan fyddai Dewi Wyn yn ymddyddan am achos yr efengyl, mewn iaith rydd, nid fel hyn y byddai efe yn llefaru; canys clywsom am dano yn dyweyd, "Na ddylai neb roi at achos yr Arglwydd, fel rhoi i gardotyn yn y drws, ond yn hytrach y dylid rhoi fel rhoi anrheg i dywysog.' Os ydyw y dywediad yma o eiddo y bardd yn gywir, y mae rhan fawr o'r Awdl ar Elusengarwch wedi ei ysgrifenu yn ofer; canys fe ddywedir yn yr Awdl, "Golygir y prif golegau-mal hen Erddi elusen o iraidd lysiau." 1 Yr ydym yn meddwl mai "Wrth weled f' ewyrth William," yr ysgrifenwyd hwn gyntaf, ond yr oedd gwall yn yr iaith felly. A golygir fod "Pindar, meib Handel, gwerth Newton a Herschel, Olen a Galen" yn dysgwyl am elusen: gwrandawer y bardd, "Mae Pindar a meib Handel,-wrth natur, Gwerth Newton a Herschel, Mae Olen a Galen, gwel, Yn y drysau'n dra isel. * Ar ei thraul mawr a thrylen, Y sy'n awr o'i oes yn ol, I wŷr mal hwynt rhoi aml her." Y mae y golygiad yma yn hollol groes i'r hyn a dybiem ni am elusen. Nid ydym yn gallu gweled un tebygrwydd rhwng rhoi i gardotyn yn y drws, neu roi iddo drwy sefydlu meddygdŷ, neu dlotŷ ar ei gyfer, a rhoi at achos yr efengyl; canys wrth roi i dlawd, yr ydis yn rhoi yr arian am byth i'r dyn yn bersonol, o dosturi noeth, fel pe byddent yn cael eu suddo; nid ydis yn dysgwyl gweled dim o'r cynnyrch, heblaw a gynnwysa yr addewid o "dalu iddo ef drachefn," gan y Goruchaf: ond wrth roi at athrofa, yr ydis yn rhoi fel y rhoddid at y babell neu'r deml. Ni olygir fod yn y cardotyn ddim teilyngdod neu haeddiant, ac onidê, nid ellid edrych ar yr hyn a roddid iddo yn drugaredd neu yn elusen; ond teilyngdod yr achos yn unig, ac nid tosturi, sydd yn ein cymhell i gyfranu at athrofa, ac at bob achos crefyddol. Y mae hyn yn beth mwy cyhoeddus, ac yn cael ei roi yn fwy uniongyrchol i'r Goruchaf, er dwyn ymlaen amcanion ei deyrnas yn y byd. Y mae y peth ar dir uwch na rhoddi elusen o gymaint ag y mae pethau yr enaid yn fwy na phethau y corff. Yr esboniad a rydd Geiriadur Duwinyddol Jones, Pen-y-bont-ar-Ogwy, ar Elusengarwch yw, ei fod yn golygu "tosturi at ddynion mewn helbul a thrallod-cydymdeimlad â hwynt yn eu gofid a'u hanghenoctyd-parodrwydd i'w cynnorthwyo os bydd genym fodd-gofid am nad allem eu cynnorthwyo yn effeithiol a hollol-cyfraniad llawen, tirion, a helaeth yn ol ein gallu at eu hanghenion -dyfal barhad yn y gorchwyl clodwiw." Y mae Doctor Paley yn dosbarthu y gair charity i dri pheth; sef "i roddi elusenau blyneddol i'r anghenus, i roddi swm at sefydlu meddygdai, ac i roddi cardod er gwared y cardotyn o gyfyngder." Dywed ef am y diweddaf "fod dynion yn cael eu goddiweddu gan gyfyngder y byddai pob gwaredigaeth arall yn rhy ddiweddar." Yr ydym yn gweled yr ystyriaethau a rydd Dewi Wyn i elusengarwch, yn gwneyd pob peth cysegredig yn elusen fel elusen i dlawd; ac y mae efe drwy hyny yn darostwng gosodiadau pendant yr efengyl, yn gymaint ag fod yr hwn sydd yn derbyn yr elusen ar is tir na'r hwn sydd yn cyfranu. Cymysgu pethau a'u gilydd yn ormodol y mae ein hawdwr, yn ddiammhau, heb feddu golygiadau clir ar y pethau y mae gwahaniaeth amlwg rhyngddynt. Elusen y golyga efe waith Lot yn derbyn angelion. Os ydyw hyny yn wir, fel cardotwyr yn derbyn elusen y mae holl bregethwyr yr efengyl wedi bod, drwy y blyneddau, wrth gael eu derbyn i dai eu cyfeillion crefyddol; ac fel cardotyn yr oedd Iachawdwr y byd yn troi i dŷ Lazarus a Mair, a'r prophwyd Eliseus yn troi i dŷ y Sunamees. Gwrandawer y bardd, "Lot a roddodd lety, o'r eiddo I engyl nef; haddef yw iddo; Mwy 'r fraint a'r haeddiainti a'i rhoddo I'w breninoedd heb arian heno. Cardotyn, bid cariad ato,-yn nheyrnas Ordeinhad ni roed o nef Y mae yr awdwr, yn ol ei arfer, yn cymysgu y Jubili a'r degwm at y pethau eraill, gan wneyd y cwbl yn elusen; pan mewn gwirionedd nad oedd elusen byth yn cael ei mesur, ond gadewid y peth at farn y rhoddwr. Yr ydym ni ymhell o fod o'r un farn a'r awdwr, gyda golwg ar gynnaliaeth neu lety, i'r rhai sydd “Fry'n eu henwau'n freninoedd," oblegid fel hawl (right) yr ystyriwn ni gynnaliaeth pregethwr, pa un bynag ai gartref ai oddicartref y byddo, ac nid fel elusen; canys y mae gwerth am werth yn cael ei roddi; megys y dywed yr apostol, "Os nyni a hauasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?" (1 Cor. ix. 11.) Y mae yn debyg mai fel elusen y golygai efe bob tamaid a roddai i bregethwr a elai tua y Gaerwen; ac y mae yn debyg fod gormod o frodyr i'n bardd yn y Dywysogaeth eto, ac onidê, byddai eu cyfraniadau at achos crefydd, yn ei gwahanol ranau, yn llawer helaethach nag ydynt. Y mae cyfeiriad ein bardd at Job yn chwilio allan y cwyn ni wyddai, yn briodol; a'i annogaeth i'r galluog i wneyd ciniaw i rai gweinion yn dlws,"Ac o cheri Iesu Grist fel cristion, Amlyga dy gariad i'r tlawd gwirion; Edrych am anwyl gadw ei orchymynion: O gwnai ryw giniaw gwna i rai gweinion." Y mae ei ddarluniad o'r cyfoethog gorthrymus didrugaredd yn ddychrynllyd ; "Yn ei liain main, mynai Fyw 'n foethwych, dan fynych fai, Ond dal y trist ddyn tlawd draw. Duw a rydd ei dir a'i waith, Ei dda am fyth am ddim fydd, Nis gwnaed gwisg i'w enaid gau, Na 'i gorff llwm, ond gwaew 'r fflamau, Byth yn ei safn ddafn o ddwr I oeri tafod eirias, Dloted fydd y cybydd cas." Nid rhyw ganmoliaeth fawr a roddid i'n bardd am haelioni yn ei fywyd. Os ydoedd yn un caled, mae yn syn iddo allu tynu darlun mor erchyll o gyflwr y cybydd ar ol marw ag ydyw y darlun hwn. Nid allwn ni gytuno a'r awdwr fod y "cywir Ditus" yn gardotyn, "Cardotai 'r cywir Ditus ;-trysorydd Oedd a chasgliedydd i'w hachos clodus; Was cywir a Zacheus." Y mae y llinellau yn gynghaneddol iawn, y mae yn wir; ond nid yn brydyddol nac yn gywir o ran eu syniadau. Yr ydym yn cofio yr amser y meddylid llawer iawn o'r llinell hon :— "Dacw'r anwylyd Cornelius," o herwydd fod yr awdwr wedi gallu cynghaneddu enw Cornelius mor dda; ond nid oes ynddi ddim i daro neb ond y rhai a ddeallant ddirgelwch y gynghanedd. Cymhelliad cryf i roddi elusen yw cofio yr hyn a wnaeth Crist drosom ni; megys y dywed y bardd yn effeithiol : "Ys Crist, yn drist, dan boen drom, Rhydd i ni yn y rhan o'r dwyrain i Brydain. Fu o'i rad ras farw drosom, yma o'r awdl hanes athrawiaeth elusen yn dyfod "Cyn cred, ddeheued oedd hon O'i thu 'r oedd doeth Dderwyddon." Rhed yn ol, yn bresennol, at ein Mordaf, a'n Nudd, ein Rhydderch, a'n Hifor Hael,-mai yn y nef y mae ffynnon elusen : -aur Peru "Pres fwnai Paris fynydd, Eu parhad a dderfydd, Rhad hon heb unon beunydd Ail i'r haul a'i oleu rhydd, Y Duw da fu 'n gwneud y dydd Ei waith oll wrth ei wyllys; Anian fawr a wna'n forwyn; Ac oll a fu ac eill fod; Dan eu rhif, Duw in' a'u rhodd; O'i drysawr gwerthfawr ar g'oedd Dyna ddarluniad prydferth a nerthol o feddiannau y Bod Goruchaf, a'r calondid sy genym i gyfranu i'r tlawd. Oddiwrth hyn y mae ein hawdwr yn rhedeg at drethi, at Sior y Trydydd, at ein seneddwyr, ac at y degwm; nid am fod y pethau hyny yn dal un berthynas neillduol âg elusen, ond am fod ar ein bardd eisieu rhywbeth i'w ddyweyd, y mae yn debyg, ac ei fod yn hoffi cael cyfleusdra i roi ergyd yn nhalcen yr Eglwys Wladol : "Rhoi 'r digon i weinion wyr, Y mae can gased genym ni ddegwm ag oedd gan Ddewi Wyn; ond yr ydym yn meddwl y gallesid gwneyd heb ei grybwyll yma, oni buasai i'r awdwr roi esboniad i ni arno; sef, fod rhan o hono i fyned i gynnal y tlodion. Ond ni fuasai dim a wnelai hyny drachefn âg elusen; canys peth i ddyfod yn wirfoddol yw hòno, heb gymhelliad na chyfraith. Y mae yr awdwr yn myned ymlaen wedi hyny i ddangos rhagoroldeb Prydain yn estyn ymwared i deyrnasoedd oedd wedi eu darostwng i dlodi trwy ryfeloedd a thywallt gwaed: "Pan fu goruthrau, taranau, trinoedd, Yn taro 'n isel iawn y teyrnasoedd. Aberthai Prydain lydain oludoedd Y mae yn dangos fel yr ymwelai â charchardai,— Prin y gallwn weled priodoldeb "croch oerder." Yma cymer y bardd olwg eang ar weithrediadau y Feibl Gymdeithas. Y mae y darn a gyfansoddodd ar hyn mor adnabyddus ag unrhyw ran o'i waith; ond os nad elusen yw rhoddi at gymdeithasau crefyddol, y mae yn hollol anmhriodol mewn awdl ar elusengarwch; buasai yn fwy priodol mewn awdl ar lwyddiant yr efengyl. Y mae efe yn cyfrodeddu enwau gwledydd yn rhyfedd; ac y mae y darn yn llawn o gynhyrfiad. Nid allwn mewn un modd olygu fod yn briodol dyweyd am Jehofa, "Hynod ddarbod e dderbyn, Yr Ior nef, rhoi 'i air i ni, Mwy rhyfedd, Duw mawr, hefyd, Yr ydym yn edrych ar y llinellau uchod fel truth disynwyr, a chwidr ffol, heb ddim cyffelyb iddo, hyd y cyrhaeddodd ein sylw ni, i'w weled mewn awdwr hen na diweddar. "Duw ar y plwyf!" Gwarchod pawb! Ni chlywyd erioed y fath athrawiaeth ryfygus! Y mae yma gymysgedd rhyfedd; oblegid os derbyn elusen y mae Jehofa, neu gardodau, pa briodoldeb sy mewn son am "fod ar y plwyf;" nid elusen yw dogn plwyfol, ond peth sydd yn dyfod drwy rym cyfraith y tir. Y mae gan yr awdwr mewn cysylltiad â hyn bregethu ar ben Golgotha, adeiladu "Mil myrdd o demlau mân," Yr bedyddio yn y Ganges a gwneyd y lle yn fwy enwog nag Ainon. oedd ar Dewi chwant dangos mai Bedyddiwr trwy drochiad oedd efe, o ran ei farn, yn y fan yma; ond y mae hyny yn beth pell iawn oddiwrth y testun ! Ar ol gyru eilun-addoliaeth o'r byd, y mae efe yn dangos fel y terfynir caethfasnach, "Y rhawg cofir rhoi cyfoeth, Ac aur nef i Negro noeth. Nid tywys Indiaid duon, -mwy 'n orthrwm, Yn wrthddrych tor calon;" Yr oedd y bardd wedi colli arni yn y fan yma yn lân; oblegid nid oes "Indiaid duon" i'w cael yn un man! |