Page images
PDF
EPUB

hanes ysgrythyrol, a'u hawydd i gael eu goleuo yn y pynciau hyny, drwy y darganfyddiadau diweddar a wnaed, ag sydd â thuedd ynddynt i daflu goleuni ar wirioneddau yr Ysgrythyr Lân. Meddyliodd yr Arglwyddes Charlotte Guest ar y pryd y byddai cyfieithiad o'r argraffiad talfyredig o'm hymchwiliadau yn Ninifeh yn dderbyniol ganddynt; a'r awgrymiad hwn, ynghyd â theimlad gwladwriaethol, a dueddodd Mr. Rees, Llanymddyfri, i gymeryd mewn llaw y gorchwyl o'i gyhoeddi yn Gymraeg. Y mae amryw sylwadau eglurhaol yn yr argraffiad Cymreig hwn, nad ydynt yn yr un Seisneg, wedi eu hychwanegu er mwyn gwneuthur y gwaith yn fwy dealladwy i'r darllenwyr Cymreig. Mae yr holl arluniau a'r cynlluniau a gynnwysid yn y gwaith gwreiddiol, trwy ganiatad Mr. Murray, ei gyhoeddydd, wedi eu gosod yn yr argraffiad hwn, tuag at ei wneuthur yn eglur i bob dosbarth o ddarllenwyr. Yr ydwyf yn gobeithio yn ddidwyll, y bydd cyhoeddiad o'r gwaith hwn yn yr iaith Gymraeg, wirio tyb y rhai hyny a ddymunent iddo gael ei gyhoeddi, ac y bydd iddo fod yn ychwanegiad at lênyddiaeth Cymru."

Blodau Glyn Dyfi: sef Caniadau ar Amrywiol Destynau. Gan LEWIS MEREDITH (Lewis Glyn Dyfi).

"A thing of beauty is a joy for ever." Y mae un meddwl prydferth yn hyfrydwch oesol; a diammhau genym fod awdwr y caniadau hyn yn gwybod am hyny trwy brofiad yn ei gystudd hirfaith. Nid un, ond llawer o feddyliau prydferth, a geir yn y casgliad hwn. Gobeithiwn y bydd i'r bardd ieuano fwynhau bywyd ac iechyd, ac ymdrechu o hyd i fyned ar gynnydd. Bydded iddo amcanu i gyfansoddi, nid yn unig yn dda, ond yn well, ac yn oreu. hyn a ddymunem yn ei waith yw mwy o gryfder. Y mae ei athrylith yn werth ei meithrin; a dysgwyliwn y ceir gweled yn ei ardd y tro nesaf ambell bren cadarn cysgodfawr, yn ychwanegol at y blodau amryliw.

Iuddewon Prydain. Gan JOHN MILLS (I. G. Alarch).

Yr

MAE yn anhawdd meddwl pa brofion gwell o wirionedd y Bibl a ellid eu dymuno neu eu dychymygu nag y sydd genym yn barod. Heblaw lliaws o brofion eraill, dyma y bobl yr ymddiriedwyd iddynt am ymadroddion Duw, ac a wrthodwyd o herwydd eu gwrthodiad hwy o'r Messia, yn aros yn genedl wahanol hyd heddyw. Cenedl ryfedd yw yr Iuddewon; rhyfedd yw eu holl hanes hyd yma; a rhyfedd iawn yw yr hyn sydd eto yn eu haros. Nid llai rhyfedd a dyeithr yw eu harferion, y rhai ydynt yn esboniad byw ar ranau helaeth o'r Bibl; ac i'r rhai sydd yn dewis deall pa beth yw yr arferion hyny, bydd y llyfr hwn o eiddo Mr. Mills yn dra derbyniol. Y mae y wybodaeth sydd ynddo bron i gyd yn newydd i'r Cymry; ac yn llawn dyddordeb.

Tafol y Beirdd: sef, Traethawd yn egluro Deddfau mydryddol Barddoniaeth Gymreig o'r cynoesoedd hyd yn awr, ac yn amlygu ansawdd a gwerth y Pedwar Mesur ar Ugain Cerdd Dafod, yn ol egwyddorion hen Ddosparth Beirdd Ynys Prydain at yr hyn y chwanegwyd Awill ar yr Adgyfodiad. Gan ROBERT ELLIS. Gyda Rhagdraith gan ANEURIN JONES.

I'R rhai sydd yn analluog i gyrhaedd meddiant o'r llyfr gwerthfawr hwnw a gyhoeddodd Iolo Morganwg, dan yr enw "Cyfrinach y Beirdd," nid oes un i'w gael mor addas i lenwi y diffyg a'r traethawd hwn. Nid yw yr ysgrifenwyr sydd yn dilyn Dafydd ab Edmwnd yn rhoddi ond golwg hannerog iawn ar Fydryddiaeth y Cymry. Y mae ynddi gysondeb a threfn fel y mae yn Nosbarth Morganwg, yr hwn yw yr hen ddosbarth, a mwy o ryddid nagy mae llawer yn feddwl. Yr ydym yn ddiolchgar i Mr. Ellis am ddadenhuddo yr hen drefniant unwaith eto; a dylem ychwanegu fod ei draethawd yn cynnwys cyflawnder mawr o hanesiaeth nad ydyw i'w gael yn “Nghyfrinach y Beirdd."

Holwyddoreg ar Ysbrydoliaeth yr Ysgrythyrau. Gan EVAN WILLIAMS, LLYFR ar fater anghenrheidiol, gan un sydd wedi cael prawf o ddrygau anffyddiaeth, pan yn llafurio fel cenadwr yn Llundain.

Holwyddoreg Protestanaidd at wasanaeth Ysgolion a Theuluoedd. Gan y Parch. B. RICHINGS, A.C., Vicer Mancetter, swydd Warwick.

PA un a yw Cymru mewn perygl oddiwrth Babyddiaeth dan ei henw priodol, ai peidio, nis gall neb wadu nad yw Pabyddiaeth yn ei gwedd Busiaidd, yn ennill tir yn mysg y rhai hyny na feddant ond ychydig o'r peth hwnw a elwir egwyddor. Y mae llawer o'r Pusiaid yn fwy pabyddol na'r Pabyddion eu hunain, ac yn amddiffyn hen draddodiadau, y rhai y mae y Pabyddion callaf yn cywilyddio eu harddelwi. Nis gellir tybied, gan hyny, fod yr Holwyddoreg hwn yn afreidiol.

Y Rhosyn a'r Lili.

CASGLIAD yw y llyfr hwn o ddarnau prydyddol, y rhai ydynt, gan mwyaf, yn dra difyr. Pan ddywedwn fod Talhaiarn, ac Iorwerth Glan Aled, yn awdwyr i gryn nifer o'r cyfansoddiadau hyn, gwelir nad oes yma ddiffyg athrylith. Ond mae yn debyg eu bod erbyn hyn wedi blino ar ganmoliaeth ; ac y goddefant, er mwyn amrywiaeth, i ni eu hannog i amcanu yn fwy penderfynol i goethi chwaeth eu cydgenedl. Bydded iddynt ddilyn Burns, nid yn ei amseroedd gwaethaf, ond yn ei "Cottar's Saturday Night." Nid ydym yn dywedyd hyn mewn ysbryd Phariseaidd, oblegid y mae yn well genym y publicanod a'r pechaduriaid gwaethaf na thwyllwyr ffug-sancteiddiol. Ond nid oes achos iddynt redeg i un eithafnod wrth ochelyd y llall; ac "nid da rhy o ddim." Er hyny, yr ydym yn rhwym o ychwanegu fod y casgliad hwn yn cynnwys llawer o ddarnau buddiol a champus.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad. Dan olygiad y Parch. W. ROWLANDS, New York. NID oes un cyhoeddiad y byddwn yn ei dderbyn yn fwy llawen na'r "Cyfaill." Bydd y newyddion da o wlad bell am ein brodyr yn America yn feddyginiaeth i'n hysbrydoedd. Ac heblaw hyny, y mae yn cynnwys traethodau gwreiddiol fydd yn dangos yn eglur mai nid gwehilion y bobl, na thebyg, yw pawb sydd wedi ymfudo o Gymru i'r byd newydd. Dymunem ei gymhell yn daer i sylw ein cydwladwyr yn y Dywysogaeth.

Wesleyaeth ac Annibyniaeth. Gan HUW TEGAI.

[ocr errors]

GYDA golwg ar y llyfr hwn, nid oes genym ond dywedyd yr un peth ag a ddywedasom yn barod am waith Mr. Rowlands, sef nad ydym yn teimlo fod galwad arnom i ymyryd yn y ddadl, gan nad yw y Traethodydd" wedi ei fwriadu i amddiffyn plaid. Ond heb gymeryd rhan yn y ddadl, gallwn ddywedyd ein barn fod llawer o wirionedd gan y ddwy ochr, nad yw annibyniaeth yr eglwysi ac undeb cymanfaol yn milwrio o anghenrheidrwydd yn erbyn eu gilydd, ond y dichon iddynt gydsefyll a chydweithredu.

Darlithiau ar Lyfr y Dadguddiad: a draddodwyd yn Amlwch, yn y flwyddyn 1848. Gan HUGH WILLIAMS.

NID yw ond ffolineb a rhyfyg i ni gymeryd arnom benderfynu rhwng y gwahanol esbonwyr ar lyfr y Dadguddiad. Er cymaint a ysgrifenwyd arno, y mae mor dywyll ag erioed. Mor bell ag yr ydym yn alluog i farnu, y mae Mr. Williams mor gywir a'r cyffredin o honynt, ac yn fwy cywir na Moses Stuart. Pa fodd bynag y mae ei ddarlithiau yn llawn o addysgiadau ymarferol, y rhai sydd wirionedd diammheuol, ac yn werth i bawb eu darllen.

Popular Proofs of the Fallacy of Recent Government Plans for the Reform of the Superior Courts, and of the unjust application of the public taxes on which they are founded; in a letter to Lord Brougham and Vaux. By ARTHUR JAMES JOHNES, Esq., Judge of the North West Wales and Aberystwyth County Courts. NID ydym yn proffesu gwybod ond ychydig am ddirgeledigaethau y llysoedd barn, ond yr ydym yn gwybod digon i ddeall yn dda eu bod yn sefyll mewn anghen

am ddiwygiad trwyadl. Yn ein hanwybodaeth, yr oeddym wedi tybied mai gwelliant mawr oedd y cyfnewidiadau a gynnygiwyd, ac a ddygwyd i ben mewn rhan, gan Arglwydd St. Leonards: ac oddiar y teimlad hwn yr oeddym yn gofidio na fuasai ef yn aros yn ei swydd. Ond y mae Mr. Johnes yn cymeryd golwg dra gwahanol ar y mater; a meddyliem mai ychydig sydd yn fwy cymhwys i farnu. Y mae efe yn dangos mai yr achos cynhyrfiol o'r cyfnewidiadau hyny oedd, fod y Llysoedd Siriol yn gweithio mor dda, ac yn ennill y fath gymeradwyaeth, fel yr oeddynt yn debyg o ddyhysbyddu y prif lysoedd cyfreithiol. Felly meddyliodd Arglwydd St. Leonards am wneyd y priflysoedd yn boblogaidd, trwy leihau y costau; ac i'r dyben hyny yr oedd yn trefnu fod yr holl gyflogau, a phob costau yn y priflysoedd i gael eu talu o arian y wladwriaeth, tra yr oedd yn gadael y Llysoedd Sirol i ddwyn eu costau eu hunain. Y canlyniad fydd, fod y tlodion yn gorfod talu am gyfraith iddynt eu hunain ; a'r cyfoethogion yn cael yr hyfrydwch o ymgyfreithio ar draul y wladwriaeth. Y mae hyn bron yn anghredadwy; ond y mae Mr. Johnes yn rhoddi y symiau i lawr yn fanwl, ac yn dangos trwy brofion eglur nad oedd y cynlluniau diweddar am ddiwygiad cyfreithiol yn ddim amgen na thwyll ac anghyfiawnder.

"Uncle Tom's Cabin."—Aelwyd F"Ewythr Robert: neu Hanes Caban F”Erythr Tomos. Gyda 18 o Ddarluniau. Gau y Parch. WILLIAM REES, Liverpool. Dinbych: T. Gee.

BENDITH a fyddo ar ben Harriett Beecher Stowe. Trwy ei dwylaw hi y cafodd caethwasanaeth America yr ergyd mwyaf marwol; ac heblaw hyny, y mae wedi dwyn ystyriaethau am werth gwir grefydd yn mhob amgylchiad i lawer o gylchoedd sydd wedi bod hyd yma yn ddyeithr iddynt. Yn y nore's cyffredin nid oedd crefydd yn cael ond triniaeth salw: ac fe allai mai y rhai goreu o honynt oedd y rhai mwyaf peryglus. Ond or diwedd, dyma Mrs. Stowe wedi dwyn hen egwyddorion dirmygedig y crefyddwyr i mewn i'w canol, ac yn mynu eu gwarogaeth er eu gwaethaf: ac nis gallwn wadu ei bod yn hyfrydwch mawr i ni weled gwraig, a hono yn wraig grefyddol, yn ennill y fuddygoliaeth ar Scott, a Dickens, a Thackeray, i gyd gyda'u gilydd, ar eu tir eu hunain. Y mae Dr. Phillips, yn y "Times," wedi gorfod cyfaddef fod yn rhaid i ysgrifenwyr Lloegr edrych ati, onidê y bydd yr Americaniaid yn fuan wedi myned o'u blaen. Braidd na feddyliem mai y merched sydd yno yn rhagori fwyaf. Yn eu inysg y mae un Miss Wetherell wedi cyhoeddi un o'r llyfrau mwyaf buddiol dan yr enw "The Wide, Wide World." Ond y flaenaf a'r benaf o honynt oll yw Mrs. Stowe.

Y mae cyfieithiad o "Uncle Tom's Cabin," yn cael ei gyhoeddi gan Cassell, dan yr enw "Caban F'Ewythr Twm." Ond dylasai yr hen frawd gael bod o leiaf yn Tom, os nad yn Tomos. Er hyny, mae y cyfieithiad yn hapus, a'r darluniau yn deilwng o Cruikshank. Yr ydym yn deall hefyd fod cyfieithiad arall yn cael ei gyhoeddi yn y Deheudir; ond ni chawsom gyfle i'w weled. Heb daflu yr anfri lleiaf ar un o honynt, gallwn ddywedyd fod neillduolrwydd yn perthyn i "Aelwyd F'Ewythr Robert," sydd yn ei wneuthur yn werth ei dderbyn hyd yn nod gan y rhai sydd eisoes wedi darllen "Uncle Tom," pa un bynag ai yn Seisneg ai mewn cyfieithiad. Dichon y bydd ambell un yn beirniadu arno yn gyffelyb i hwnw oedd wedi darllen rhanau o "Gulliver's Travels," ac yn sylwi yn bwysig a difrifol "nad oedd efe yn credu un gair o hono." Ond y mae ynddo wirionedd dyfnach nag a geir yn gyffredin yn y llyfrau sydd yn rhoddi y mynegiad mwyaf manwl o ffeithiau. Hen Gymro glân gloew yw F'Ewythr Robert, yr hwn a adwaenom yn dda; a gallwn dystio fod y desgrifiad o hono yn berffaith gywir. Mae yn llawen genym hefyd gael lle i gredu fod Modryb Elin, a'i hymddyddanion synwyrgall, yn adnabyddus i laweroedd yn Nghymru. Poed hir oes a hawddfyd i deulu "Hafod y Ceiliogwydd.”

DINBYCH: ARGRAFFEDIG GAN T. GEE.

Y TRAETHODYDD.

ORIAU HAMDDENOL GYDA BEIRDD HEN A

DIWEDDAR CYMRU.

RHAID i'r ysgrifenydd gyfaddef ei fod yn dechreu ar y gwaith yr ymafla ynddo yn bresennol mewn ofn a dychryn. Teimla fod rhoddi barn deg ar feirdd a barddoniaeth yn un o'r gorchwylion llenyddol anhawddaf ag y gellir meddwl am dano. Y mae y ffaith fod gan bob dyn ei ragfarnau a'i ddewis-ddynion yn gwneuthur y gwaith yn anhawddach nag y dylai fod. Heblaw hyny, y mae chwaeth dynion yn amrywio cymaint, fel ag y mae yn anmhosibl cael dau ddyn i gydweled ynghylch teilyngdod barddoniaeth. Y mae mwy o gyd-darawiad hefyd yn ein meddwl tuag at natur athrylith rhai dynion na'u gilydd: ac y mae pob dyn diduedd yn rhwym o roddi ei farn ar gyfansoddiadau yn ol yr argraffiadau a gaiff eu darlleniad ar ei feddwl ef ei hunan. Rhywbeth yn gyfatebol i hyn a deimlir wrth ymweled â golygfeydd arddunol anian. Tybier, er anghraifft, fod pump o bersonau o wahanol oedran, dygiad i fyny, galwedigaeth, ac o wahanol chwaeth, yn dringo y Wyddfa gyda'u gilydd. Ar ol iddynt ddringo i'w chopa, dewisa un sylwi ac ymhoffi yn adeiladau penigamp Pont Menai a Phont Britannia; ymhoffa yr ail yn adfeilion hynafol a thyrau uchel castell Caernarfon; a sylwa y llall ar wyneb grisialaidd Llyn Llanberis, ar ba un yr adlewyrcha

"Dychrys ac uthrol ochrau ysgythrawg,

A manau crebach uwch meini cribawg;"pryd y boddhëir un arall yn fwy wrth edrych ar y chwarelau llechau, y rhai a ddwg i'w gof gyflawnder mawr adnoddau Cymru; ond tarewir yr olaf å syndod gan amrywiaeth y gwrthddrychau a welir, ac eangder y golygfeydd. Dywed air ynghylch afon ddolenog Menai, a'i gororau, a gair arall ynghylch prydferthwch gwerddonau ynys Môn, yr hon sydd yn amgylchynedig o bob tu gan "ddyfroedd a moroedd mawrion," neu fe allai y gwelir ef yn syllu ar yr haul yn cilio o'r golwg ac yn gwneuthur ei ymadawiad trwy ddorau aur y gorllewin; edrycha ar y

"Nos dywell yn dystewi-caddug

Yn cuddio 'r Eryri;
Yr haul yn ngwely 'r heli,

A'r lloer yn arianu 'r lli."

Ac fel y mae gwahanol olygiadau gan ddynion am olygfeydd anian, felly y canfyddwn yr un amrywiaeth yn ngolygiadau beirniaid am gyfansoddiadau barddonol. Ond cyn myned ymhellach, dymunwn i'r darllenydd ddeall, pa beth bynag a ddywedir genym am feirdd ein gwlad, ein bod yn gwbl annibynol arnynt oll. Nis gwyddom beth yw casau yr GORPHENAF, 1853.]

T

un o honynt, ac ychydig o'u nifer a'n hanrhydeddodd erioed â'u cyfeillgarwch. Os oes genym fwy o serch a hotfder at rai o honynt na'u gilydd, crewyd y teimladau hyny yn gwbl wrth ddarllen eu cyfansoddiadau, ac nid trwy unrhyw gydnabyddiaeth bersonol â hwynt.

Anturiwn ddyweyd, wrth ddechreu, fod yr oes hon wedi cynnyrchu llawer mwy o farddoniaeth dda nag o feirdd gwir athrylithgar. Y mae y wasg Gymreig wedi bod yn fwy toreithiog o gyfansoddiadau barddonol yn ddiweddar na'r un cyfnod arall er's canrifoedd. Er fod ysgrifenydd a welsom yn ddiweddar wedi nodi allan 97 o feirdd yn ei daflen, eto credwn pe yr esgynent oll gopa Olympus i gael eu pwyso yn nghlorianau cywir Jupiter, y disgynai eu naill hanner, a mwy na hyny, wedi eu pwyso, yn fyr o'r hawlfraint hon. Y mae yn wir fod barddoniaeth wedi eangu ei therfynau yn ein mysg-ac wrth edrych yn ol i'r blyneddau diweddaf, gwelwn fod enwau anrhydeddus, a dynion gwir farddonol, wedi dringo copa Parnassus. Yn bur ddiweddar y cyhoeddwyd Pryddest Filtonaidd Eben Fardd ar yr Adgyfodiad. Darfu iddo yn y cyfansoddiad hwn ymddysgleirio ymhell uwchlaw iddo ei hunan. Ac os rhydd i bob dyn ei farn, gallem ni dybied fod y dernyn arddunol hwn uwchlaw i ddim a gyhoeddwyd yn ein iaith er amser Dewi Wyn. Nid efe ychwaith ydyw yr unig fardd o fri a wnaeth ei ymddangosiad yn ddiweddar yn y Dywysogaeth. Beth am enwau dysglaer Gwilym Hiraethog, Caledfryn, Glan Geirionydd, Ambrose, a Gwalchmai? Y mae yr awdwr cyntaf yn un o'r prodigies rhyfeddaf a ymddangosodd yn ein hoes. Addefa pawb mai efe yw y darlithydd penaf yn Nghymru, heb fod anghen i wneuthur eithriadau. Ae nid ydyw yn ol i'r penaf ychwaith fel pregethwr. A chredwn fod ei enw mor ddysglaer ag Eben fel bardd cyn i'r awenydd o Glynog gyhoeddi ei bryddest ar yr Adgyfodiad. Ond ar ddalenau yr "Amserau" yr ymddysgleiriodd Gwilym Hiraethog fwyaf erioed. Dangosodd yma, uwehlaw ammheuaeth, mai efe ydyw ysgrifenydd mwyaf talentog Cymru ar wleidyddiaeth. A dywedwyd wrthym ei fod, er ei holl ymyraeth â llywodddysg drwy y blyneddau, mor efengylaidd yn yr areithfa yn awr ag erioed. Ar ol enwi y beirdd uchod, ychydig iawn sydd yn y Dywysogaeth a deilyngant eisteddle yn nghadeiriau Dafydd ap Gwylym, Dafydd Ionawr, a Dewi Wyn. Llwyddodd y Dryw rywfodd i gael y gader yn eisteddfod Dinbych; ond rhaid iddo gael gwell ysgolion na'i awdl ar "Elusengarwch," a'i "Longddrylliad," cyn y gall esgyn i gader y bardd o Eifion. Y mae rhai beirniaid yn credu yn ymddangosiad pedwar neu bump Dewi Wyn. Difyrir ni yn fawr weithiau wrth eu clywed yn cymharu nifer mor lliosog a bardd y Gaerwen. "O," meddai un, "dyma bryddest mor awenyddol ag awdl Dewi Wyn ar Elusengarwch."" "O," meddai y llall, "dyma farddoniaeth a ddeil ei gymharu â chyfansoddiadau goreu y bardd Gwyn.” Ond nis gallwn ni gredu ond mewn ymddangosiad un Dewi Wyn. Nid yw natur ddim llawn mor haelionus a hyn o'i heuliau. Rhaid i un "brenin y dydd" ddigoni i oleuo un gyfundrefn. Y nefoedd yn unig a ŵyr amledd ei ser-nis gall yr un seryddwr eu rhifo. Ychydig hefyd, mewn cymhariaeth, ydyw rhifedi ser-eneidiol ein daear ni; ac ni raid wrth syllddrychau y seryddwr, na'i wybodaeth, i'w henwi. Pwy erioed a glywodd am ddau Homer-am ddau Shakspeare-am ddau Filton-am ddau Dafydd Ionawr? Ac ni chlywir byth ychwaith am ddau Dewi Wyn.

Dylai pawb ag sydd yn caru y Prydferth, yr hwn sydd anfarwol, ddiogelu

« PreviousContinue »