Page images
PDF
EPUB

THOMAS LLOYD, O ABERGELE.

Ac er

yn arogli yn hyfryd i'r neb a'u gwrandawai. Nid oedd ei sylwadau ychwaith ddim heb rywbeth sylweddol ynddynt yn aml. "Peidiwch," meddai unwaith, wrth bregethwr ieuane, "a gadael i boblogrwydd y fynyd eich dyfetha; yn ebrwydd iawn, fe fydd eich doniau mor gynnefin i'r gwrandawyr a'ch wynebpryd; ac erbyn hyny, ond odid, na bydd llawer o'r cynhwrf wedi darfod." Cofus ydyw genym, ar un tro, ein bod yn adrodd wrtho am helynt eglwys liosog, a'r hon ar y pryd hwnw oedd yn debyg o gael ei dyfetha trwy ei hanghydfyddiaethau. nad oedd ei sylw ond byr, gwnaeth ei ddull yn ei adrodd argraff ddofn ar ein meddyliau. Dywedai, gyda dwysder,-"Mae pechu mawr mewn eglwysi felly, ac ansawdd annuwiol ar feddyliau y bob!!" Yr oeddem ni yn dygwydd bod gydag ef yn ei dŷ, pan dderbyniodd, am y tro cyntaf, y papyrau ynghylch y property a'r income tax. "Wel," meddai, wrth eu hagoryd ac edrych drostynt, "ni a ddylem lenwi y rhai'n, oni ddylem ni, fel pe baent wedi dyfod o'r nefoedd! Os yw yr awdurdodau yn gorthrymu, y nhw a fydd yn gyfrifol am hyny; ein dyledswydd ni yw bod yn ffyddlawn a gonest." "Ie, Mr. Lloyd," meddem ninnau, "ond ni raid i chwi dalu dim os gellwch chwi ddangos nad ydych "Wel," ebe yntau, yn werth cant a hanner o bunnau yn y flwyddyn." "mae yn ddigon hawdd i mi wneyd hyny."

[ocr errors]

Yn

Clywsom i un o'i gyfeillion fyned i ymweled âg ef pan ydoedd, ni a dybygem, wedi ei gyfyngu i'w ystafell, os nad yn gwbl i'w wely. ystod yr ymddyddan, dywedai yr ymwelydd wrtho, "Mae y meusydd yn doreithiog iawn eleni, Mr. Lloyd." "Felly yr ydwyf yn clywed," ebe yntau; ae yna ychwanegodd, gyda defosiwn mawr, "Ac y mae meusydd yr efengyl yn doreithiog iawn hefyd!" Yr oedd yntau yn gallu ymrodio yn y meusydd hyny, yn mhrydnawngwaith tawel ei ddydd, pan yn garcharor gan angeu, ac ar gau ei lygaid ar feusydd y byd.

Ond y mae yn rhaid i ni bellach adael ein hen athraw hybarch. Hoffasem, mae yn wir, wybod mwy am ei helyntion ysbrydol ef. I ni ymddangosai yn byw megys allan o'r byd; a pha faint bynag a wyddai am bryder ac ofnau ar hyd ei einioes, yr ydym yn barod i feddwl nad oedd llygredigaeth a themtasiynau cyffredinol plant dynion yn cael ond ychydig o fantais i ymaflyd ynddo. Nid yw hyny, o bosibl, ond dychymyg; ond dychymyg hawdd ei choleddu am Mr. Lloyd. Mae y gair, pan ydoedd yn ei gystudd diweddaf, fod un o'i hen frodyr yn Abergele wedi syrthio i dipyn o ddyrysPan glywsom am y dygwyddiad, er wch, unwaith, wrth weddïo drosto.

ei fod yn lled hynod a digrifol, yr oeddem yn ebrwydd yn profi ein bod yn deall teimladau y gweddiwr, ac yn gallu cyd-ddyoddef âg ef yn ei brofedigaeth. Y chwedl yw, ei fod mewn cyfarfod eglwysig, ac ar y diwedd, wrth gofio mewn gweddi am Mr. Lloyd, yn dywedyd yn debyg i'r hyn a ganlyn:-"Cofia dy was-ein parchedig frawd-maddeu iddo ei bechodau." Ond ar ei waith yn adrodd y gair yna, dyna ei feddwl a'i dafod yn petruso, megys pe buasai wedi ei daraw gan yr ystyriaeth o'r anmhriodoldeb o son am bechodau ynglŷn â Mr. Lloyd. Ond yn y man, adfeddiannodd ei hunan drachefn, a dywedodd yn lled eofn, "Ië, dirion Dad, oblegid y mae yn rhaid i ni feddwl fod ganddo yntau ei bechodau, er na wyddom ni am neb â chyn lleied o honynt ag efe." O! mor werthfawr yw enw da! Yr oedd yr hen William Mark yn adnabod Thomas Lloyd er ys llawer o flyneddau; a dyma ei dystiolaeth ef am dano yn y

S

diwedd "Ni wyddom ni am neb a chyn lleied o bechodau ag efe." Cyffes yw hon ag oedd ar unwaith yn amlygiad o dynerwch ysbryd yn y gweddiwr ei hunan, ac yn dyweyd llawer am fywyd ei hen weinidog. Ac fel hyn, yn ddichlynaidd a diniwed, yr aeth y creadur hwn drwy y byd i'r bedd. Ni ddychwel mwy i'w dŷ, a'i le ni edwyn ddim o hono ef mwy." Ni chanfyddir mwyach mo'i agwedd hynod ar yr heol; ac ni chlywir mwyach mo'i lais yn y pulpud. Mae ei ysgol wedi tori; a'i gader, erbyn heddyw, yn wag yn y côr o dan ei hen bulpud yn Abergele; ac i ni, o leiaf, mae yr olwg arni yn bruddaidd ac anghyfannedd ddigon. Dyma nodwedd y byd yr ydym yn byw ynddo. Wel! bendigedig a fyddo Duw am fyd arall!

Cawsom bleser nid bychan, yn ddiweddar, wrth adgofio am ein hen dadau, gyda pha rai y buom yn byw am flyneddau, a chyda pha rai yr ydym yn gobeithio yn grynedig y cawn fyw eto. Yr ydym yn cael ein taraw a syndra wrth feddwl am danynt. Yr oeddynt yn gydgyfranogion â'u gilydd mewn natur a gras, ac eto, ar ryw olygiadau, yn bur annhebyg y naill i'r llall. Ei dymher, a'i ras, a'i ddawn ei hunan oedd gan bob un o honynt. Mor wahanol, er esiampl, oedd Elias o Fon, a Lloyd o Abergele. Un â'i feddwl yn wrol a'i deimladau yn gryfion; a'r llall yn hwyrfrydig ac ofnus. Y naill â'i hyawdledd yn rhaiadru allan gyda y fath nerth a chynhwrf nes oedd y gwledydd yn cyffroi wrth ei swn; a'r llall, fel yr aberig fechan, yn sihwian drwy y dolydd yn araf a gwylaidd, ac eto, aml i lanerch yn blodeuo wrth ei harogl. Pe meddyliem am yr hen frodyr a flaenorent Gyfarfod Misol sir Ddinbych yn ein dyddiau cyntaf ni, yr oeddynt oll yn dra amrywiol eu galluoedd; ac yn hyny yr oedd eu gogoniant a'u defnyddioldeb fel corff o weinidogion yn gynnwysedig. Yr oedd un wedi ei wneyd yn fwy i bregethu, a'r llall i lywodraethu. Un â thuedd ei weinidogaeth yn hytrach at argyhoeddi a dychwelyd y byd, a'r llall at gysuro ac adeiladu yr eglwys: y naill a'i gyfeiriad yn benaf at y deall, aʼr llall at y gydwybod a'r serchiadau. "A'r holl bethau hyn," medd yr apostol, "y mae yr un a'r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan ranu i bob un o'r neilldu, megys y mae yn ewyllysio." Mr. Thomas Jones, o Ddinbych, a draddodai ei genadwri mewn ffordd o gynghor sylweddol a dwys, ac mewn iaith gref a phriodol. Peter Roberts, er nad oedd mor hynod am ddyfnder nac eangder meddwl, eto a deimlai ddyddordeb yn ei bwne, ac a'i trinai yn bert ac eglur. John Davies, o Nantglyn, yntau, yn fwy digrifddwys ei dymher. Byddai ei deimladau ef yn delwi ei lais a'i wynebpryd; ac yn ffrydio allan bron yn mhob dull o siarad; o'r dywediadau cyrch, a'r bratheiriau cyrhaeddgar, i lawr hyd at gwynfanau meddalion serchogrwydd. Os cyfarfyddai y dewryn hwn a gelyni eglwys Dduw yn ei waith yn cynllwyn i'w herbyn, ceid ei glywed of weithiau yn sarug wrtho; ac weithiau yn ymgomio âg ef yn drahaus a sychlyd, ac wrth ei droi a'i drosi ef ol a blaen, ymroai megys i fwrw dirmyg arno yn mhob ffordd, gan ei watwar-foli a'i bwmpio bob yn ail, nes o'r diwedd, wedi olrhain llaw yr Arglwydd yn troi ei falchder a'i draha yn ddinystr iddo ei hun, ac yn lles i'w bobl, y dybenai y cyfan yn y dolefiad toddedig-" Gogoniant iddo!"

Wedi astudio y Dr. Owen

Nid dwl ychwaith oedd yr hen Evan Lewis. a'r hen Buritaniaid yn lled ddyfal, yr ydoedd yn ddyfnach duwinydd na llawer ag oeddynt yn fwy eu talentau yn y cyhoedd. Os na fedrai draethu 1 Bu farw Gorphenaf 15ed, 1848, yn 72 mlwydd oed.

THOMAS LLOYD, O ABERGELE.

a gosod allan ei feddwl yn gampus, eto, fe fyddai yn wastad â chanddo rywbeth teilwng mewn golwg, ac yn caffio yn gywir ato. I ni ymddangosai, wrth ymdrin â'i fater, yn gyffelyb ag y gwelsom y morgrugyn weithiau pan yn edrych arno yn llusgo at rywbeth ag a fyddai yn rhy drwm iddo. Byddai yn troi o'i gwmpas ef yn drafferthus ddigon, yn ymaflyd ynddo ac yn ei ollwng, yn cynnyg ato drachefn, ac yn methu: ac ambell waith, yn nghanol ei ffwdan a'i drwstaneiddiwch, fe gyrhaeddai ei amcan yn gynt ac yn fwy hapus na'n dysgwyliad, nes ein taflu i ffrwd o grio a chwerthin ar yr un pryd. Mae yn gofus iawn genym am ei ddull yn dyfod ar draws y gair yn Zech. xii. 8, wrth osod allan ogoniant yr eglwys a'i swyddogion o dan dywalltiadau o'r Ysbryd yn y dyddiau diweddaf. "Dyn hynod," meddai, "oedd Dafydd; cantwr anghyffredin Ond am yr amser yr ydoedd peraidd ganiadydd Israel y gelwid ef. ydym ni yn son am dano yn bresennol, fe-fydd y-fydd y-fydd y llesgaf o honynt y dydd hwnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd, yn myned ymhell iawn o'u blaen hwynt drachefn." Yr oedd hyn mewn Cyfarfod Misol, yn y Cefn Coch; ond y mae y cyfan ag oedd ynddo wedi myned ar ddifancoll gyda ni, ond yn unig sylw yr hen bererin profedigaethus hwnw. Fe ddaeth allan o'i enau yn ddisymwth fel ergyd o wn; ac am ei fod ef drwy ei ffwdan a'i attal dywedyd blaenorol megys wedi misio tân rai gweithiau, yr oedd yr effaith arnom yn fwy nerthol yn y diwedd. Parchi goffadwriaeth yr hen bererin! ni a'i clywsom ef yn cwyno ei golled am ei astudgell a'i lyfrau, pan dros bedwar ugain mlwydd oed.

66

Nid heb hiraeth am dano ychwaith y bu farw William Jones, o Ruddlan. Talertau y pulpud yn unig oedd ei brif dalentau ef. Ychydig heblaw pregethwr ydoedd i'r byd nac i'r eglwys; ond yr oedd ef yn bregethwr. "Mae rhai dynion," medd y Dr. Owen, "wedi eu cymhwyso o ran doniau i weinyddu yn y gair a'r athrawiaeth, mewn ffordd o borthi fel bugeiliaid, pa rai nad oes ganddynt ddim talentau buddiol i lywodraethu ; ac eraill wedi eu cymhwyso i lywodraethu nad oes ganddynt ddim doniau i waith y fugeiliaeth mewn ffordd o bregethu." "Ie, pur anaml," medd efe, "mae y ddau fath yma o ddoniau yn cydymgyfarfod i ddim enwogrwydd yn yr un personau, neu o leiaf, heb ryw ddiffyg nodadwy." I'r dosbarth cyntaf yma, yn ol ein barn ni, y perthynai ein hen gyfaill o Ruddlan. Ychydig, mewn cymhariaeth, oedd ei gymhwysderau ef i gymeryd gofal dros, a llywodraethu eglwys Dduw. Nid efe a fuasai y dyn i'w ddanfon i Corinth i wastatâu eu hymrafaelion yno, nac i'w adael yn Creta i iawn drefnu y pethau oedd yn ol, ac i osod henuriaid yn mhob eglwys. Ac eto, yr oedd ganddo air i'w ddywedyd wrth bechadur. Y pulpud oedd ei elfen. O ran ei gyfansoddiad corfforol, ei lais, a'i ddoniau poblogaidd, yr ydoedd wedi ei dori allan i fod yn bregethwr, ac yn bregethwr teithiol. Ac nid pregethwr cyffredin ychwaith oedd William Jones, ond diwygiwr hefyd; pregethwr milwraidd. Yr oedd sŵn brwydr yn ei ysbryd a'i weinidogaeth ef. Byddai yn annelu bob amser at lygredigaethau ei genedl; ac er, o bosibl, y byddai naws ei feddwl ar y pryd yn ei gario i'r naill ochr weithiau; eto, ar y cyfan, yr oedd ei amcan yn ddifrifol. Clywsom iddo rai gweithiau yn ei oes fyned i gyfarfodydd llygredig ar hyd y wlad, megys cadfäau ceiliogod, gwylmabsantau, a'r cyffelyb, gan godi baner yn enw ei Dduw, ac ymosod ar yr hen syrs, fel ei galwai, yn eu gwedd fwyaf anfad, ac ar eu tiriogaeth eu hunain; ac nid yn gwbl aflwyddiannus

ychwaith. Cofus ydyw genym am ei ddull yn gweddïo. Ymddangosai rhywbeth ynddo, mae'n wir, tebyg i ddiofalwch yn y cyflawniad, ac o'r bron, fe allesid meddwl, yn ymylu a bod yn rhy gyffredin :-ond eto am fod dull felly, dybygid, yn naturiol iddo ef, ac ysbryd defosionol yn ffrydio trwyddo, byddai y cyfan yn arogli yn esmwyth. Yn y pulpud drachefn, yr ydoedd fel yr aderyn mwynlon. Nid na byddai yn auaf arno yn aml, a'i enaid yn chwerw ynddo; yn trydar yn hytrach na chanu. Ond unwaith, er hyny, wedi yr ymsefydlai yn deg ar bren y bywyd, a rhoi heibio bigo at yr adar o'i amgylch, byddai yn lloni trwyddo; gwnelai tôn ei ysbryd a'i lais beroriaeth hyfryd; ac y mae lliaws eto yn Nghymru heb anghofio yr hyfrydwch a fwynhaent wrth wrando arno yn lleisio oddi rhwng ei gangau. I ni, pa fodd bynag, yn awr, pan mae pob blwyddyn, agos, yn ein hamddifadu o ryw un neu gilydd o arweinyddion ein hieuenctid, y mae colli cathlau bychain y durtur yma o'r goedwig Fethodistaidd yn ychwanegu at ein hiraeth.

Ond ni waeth tewi. Ein tadau, pa le maent hwy! a'r prophwydi, a ydynt hwy yn fyw byth! Nac ydynt, nac ydynt ! maent wedi disgyn i ddystawrwydd. Ond cofiwn mai o ras yr oeddynt yr hyn oeddynt. Gras a'u cododd i waith yr efengyl; a gras a'u cynnaliodd cyhyd ynddo, gan eu nerthu i orphen eu gyrfa mewn tangnefedd. Bydded yr ystyriaeth o hyny foddion i gynhyrfu ein meddyliau ninnau, i obeithio yn ein hachos ein hunain, ac i ogoneddu Duw ynddynt hwy.

yn

Mae fy nhadau wedi huno;

Cu eu cofio genyf fi ;
A fy ngado yn drist a synllyd:
Alltud ydwyf gyda Thi,
Yma ac acw 'rwyf yn chwilio,
Ac o'r byd yn cilio yn brudd ;
Hiraeth am fy hen gyfeillion
Draw ar fryniau Sion sydd.

GOHEBIAETH.

Y WASG GYMREIG.

SYR, A fyddwch chwi cyn fwyned a chaniatâu i mi ddarn bychan o le yn y "Traethodydd" i alw sylw at ansawdd y wasg yn ein plith ni, y Cymry, gan obeithio y bydd hyny yn foddion i gynhyrfu rhyw ohebwyr mwy galluog i gymeryd y gorchwyl mewn llaw? Nid wyf yn cyfeirio at un blaid neillduol ; ond at yr hyn sydd wedi bod yn bla cyffredinol yn Nghymru, ac yn myned yn waeth bob blwyddyn. Mae yn wir fod y pla hwn wedi cilio i raddau mawr o ryw ranau o gorff y genedl; ond y mae yn tori allan gyda mwy o rym mewn rhanau eraill. Y mae dau beth yn hynodi ymladdfeydd cenedloedd anwareiddiedig; ac y mae y ddau hynodrwydd hyny i'w gweled yn ein mysg ninnau. Un o honynt yw yr arferiad o ddefnyddio saethau gwenwynig: a pha beth yw rhai o'r cyhoeddiadau Cymreig ond cawellau yn llawn o saethau o'r fath yma? Pa le y ceir ymosodiadau mor wenwynig ar nodweddiadau personol? Ni chefais gyfle, a phe buaswn yn cael cyfle, ni buasai genyf archwaeth, i ddarllen y Satirist" a gyhoeddid ryw amser yn ol yn Llundain: ond nid wyf yn tybied fod nemawr wahaniaeth rhyngddo a rhai o'r cyhoeddiadau Cymreig, oddieithr fod hwnw yn llawer mwy doniol. Os oedd ynddo ddim dawn o fath yn y byd, y mae yn rhaid i ni gredu ei fod yn fwy doniol na'r pethau di-enaid a di-ymenydd a gynnyrchir gan y wasg Gymreig. A chofier o hyd fod y rhai hyn yn cael

derbyniad gan bobl a gyfrifant eu hunain yn grefyddol! Y ffaith yw, fod cyhoeddiadau yn cael eu derbyn a'u taenu gan rai o grefyddwyr y Dywysogaeth, y rhai sydd yn gwneuthur mwy i lygru chwaeth y wlad na dim a ysgrifenwyd erioed gan anffyddwyr proffesedig. Peth arall sydd yn brawf o gyflwr anwareiddiedig yw ymosodiadau dirgelaidd. Os rhaid i ddyhirwyr diegwyddor gael dangos eu gelyniaeth at bersonau, oni ellid dysgwyl i olygwyr yr holl gyhoeddiadau ofalu o leiaf na chaffont wneuthur hyny dan gysgod ffugenwau? Yr wyf yn apelio atynt er mwyn eu gwlad, ac er mwyn moesoldeb cyffredin. Ac os na wrandawant hwy, yr wyf yn apelio at holl lenorion Cymru i roddi terfyn buan i'r arferiad, am yr hon y gellir dywedyd, yn ngeiriau yr hen Buritaniaid am orthrymder Charles 1, "It has increased, is increasing, and ought to be diminished." Pe buaswn yn y llythyr hwn yn cyfeirio at berson, neu bersonau, buaswn yn ystyried fy hun yn rhwym o roddi fy enw priodol; ond gan nad oes genyf amcan pellach na galw sylw at arferiad gyffredin, goddefer i mi alw fy hun, MELANCTHON.

IEITHYDDIAETH.

SYR,-Nid wyf yn gwybod fod neb wedi rhoddi eglurhad ar y gwahaniaeth rhwng y ddau air a arferir yn yr iaith Gymraeg am yr arddodair Seisneg in. Weithiau arferir yn; bryd arall mewn. Er hyny, mae yn amlwg nad ydynt i'w cymeryd yn ddiwahaniaeth. Os bydd y gwrthddrych yn benodol, mae yn rhaid rhoddi yn o'i flaen; megys yn y dref, yn nhŷ y brenin. Ond defnyddir mewn o flaen gwrthddrych anmhenodol; megys, mewn tref, mewn tŷ mawr, mewn llawer man. Yn awr, byddai yn dda genyf pe ymostyngai rhai o'ch gohebwyr, yn y lle cyntaf, i ddangos y rheswm am y gwahaniaeth hwn; ac yn ail, i roddi gwybod a oes gwahaniaeth cyffelyb mewn rhyw iaith arall heblaw yr iaith Gymraeg.

AP HERMES.

NODIADAU AR LYFRAU.

Hanes Poblogaidd am Ddarganfyddiadau yn Ninifeh, prif ddinas hen ymerodr aeth Assyria. Gan AUSTEN HENRY LAYARD, YSW., D.C.L. Wedi ei dalfyru ganddo ef ei hun; gydag Arluniau lliosog.

YR ydym wedi galw sylw eisoes at y llyfr hwn, ar ymddangosiad y rhanau cyntaf o hono: ac y mae genym yn awr i hysbysu ei fod wedi ei orphen, a'i ddwyn allan mewn ffurf sydd yn glod i'r cyhoeddwr. Nid ydym yn gwybod am un llyfr y gellid dysgwyl i'r Cymry fod yn fwy awyddus i'w dderbyn. Os ydynt yn ymddifyru mewn hanesyddiaeth, neu yn hoff o hynafiaeth, neu yn gwerthfawrogi gwybodaeth ysgrythyrol, cyfarfyddir â'r cwbl yn ngwaith Mr. Layard. O flaen y cyfieithiad hwn y mae rhagymadrodd dyddorol o waith yr awdwr, yr hwn sydd yn diweddu fel y canlyn:

"Yn fuan wedi fy nychweliad i Loegr o Assyria, yn 1851, aethum gyda mintai, ynghylch cant mewn nifer, o weithwyr, o waith haiarn Syr John Guest, i'r Amgueddfa Brydeinaidd, yn Llundain. Synais oblegid y sylw a wnaed ganddynt o wareiddiwch a chelfyddydau yr hen oesau, a synais fyth yn fwy oblegid eu gwybod aeth mewn hanesyddiaeth Ysgrythyrol, megys ag yr eglurwyd y cyfryw hanes yn y colofnau a nodwyd genyf iddynt. Ar ddau achlysur ar ol hyn, cyfarfyddais â'r un bobl yn Dowlais, pryd y cefais gyfleusdra i'w hanerch, ynghyd âg eraill na chawsant y cyfleusdra o fod yn Llundain, ar y pwne o'r darganfyddiadau a wnaed ar sail Ninefeh. Yr argraff ag oedd yn barod arnaf gyda golwg ar wybodaeth a galluoedd gweithwyr Cymru, a gadarnhawyd yn fwy y pryd hyny. Un ag sydd â lleshad pobl Cymru yn fawr ar ei meddwl, ac un sydd wedi cyfranu yn fawr iawn tuag at eu gwellhau a'u llesoli, sef yr Arglwyddes Charlotte Guest, ynghyd ag eraill ag oeddynt yn gyflawn addas i roddi pob hysbysrwydd i mi, a gyd-dystiolaethent am syched mawr trigolion y Dywysogaeth am wybodaeth ar y pynciau hyny sydd yn gysylltiedig â

« PreviousContinue »