Page images
PDF
EPUB

cyfeiria pan y dywed, 'Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw,' neu yn hytrach, oni syrthio i'r ddaear yn farw, efe a erys yn unig; ond os bydd efe marw,' os bydd efe yn farw, efe a ddwg ffrwyth lawer.' Pe na buasai Crist farw fel aberth dros bechod yn gorfforol, nis gallasai' fyw bob amser' fel eiriolwr holl-lwyddiannus, 'galluog i gwbl iachâu'-iachâu am byth. 'A minnau,' meddai, 'os dyrchefir fi oddiar y ddaear,' dyrchafu ar y groes a feddylir (A hyn a ddywedodd efe gan arwyddo o ba angeu y byddai farw'). A minnau os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun.' 'Fe berffeithiwyd Tywysog ein hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau.' Am iddo ef ddarostwng ei hun,' 'Am hyny Duw a'i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo' bob 'awdurdod ar bob cnawd,' pob ‘awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.'

Y bywyd a'r gallu ysbrydol a roddwyd i'r Gwaredwr fel gwobr ci lafur hunanymwadol yn achos anrhydedd Duw, a iachawdwriaeth dyn, a amlygwyd yn ardderchog yn mywhad rhyfeddol ei apostolion ar ddydd y Pentecost, trwy dywalltiad yr Ysbryd Glân; a thrwy gyfranu bywyd ysbrydol, a'i holl fendithion cydfynedol a dilynol, i luoedd o eneidiau meirw mewn pechod, trwy offerynoliaeth eu gweinidogaeth.

Meddyliwyf mai at hyn y cyfeiria yr apostol, pan y dywed, trwy yr hwn, neu trwy yr hyn, trwy y bywhâd ysbrydol hyn, neu o herwydd paham, gwedi ei fywhâu fel hyn yn ysbrydol, efe a aeth ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar, y rhai a fu gynt anufudd.' Os ydyw ffurf ein hesboniad cyffredinol yn gywir, nis gall fod ammheuaeth o barthed i pwy ydyw yr ysbrydion yn ngharchar.' Nid ysbrydion dynol ydynt, gwedi eu cau i fyny mewn cyrff fel cynnifer o garcharau, fel cosbedigaeth am bechod mewn rhyw gyflwr blaenorol o fodolaeth; athrawiaeth baganaidd ydyw hon yna, i ba un nad yw yr Ysgrythyr, o'i hiawn ddeall, yn rhoddi dim cefnogaeth; ond dynion pechadurus, gwedi eu condemnio yn gyfiawn, caethweision a charcharorion Satan, wedi eu rhwymo & gefynau pechod. Y rhai hyn ydynt y caethion i'r rhai yr oedd y Messia ⚫ wedi ei eneinio gan Ysbryd yr Arglwydd,' hyny yw mewn geiriau eraill, wedi ei fywhau yn yr Ysbryd' i gyhoeddi rhyddid, y rhai rhwym yr oedd i gyhoeddi agoriad carcharau iddynt. Nid yw hwn yn ddull anarferol o osod allan waith y Messia. (Gwel Esay xliii. 5, 7; a xlix. 3, 12.)

O ganlyniad, nid yw gosod allan ddynion euog a llygredig, fel caethion yn ngharchar, yn beth annaturiol,' ond y mae yr ymadrodd, ' ysbrydion yn ngharchar' yn ymddangos yn un dyeithr am ddynion caeth ysbrydol. Felly y mae, ond ymddengys fod yr arferiad o hono, yn hytrach na'r gair, dynion yn ngharchar, neu garcharorion wedi tarddu allan o'r ymadrodd blaenorol, bywhawyd yn yr ysbryd.' Yr oedd yr hwn a 'fywhawyd yn yr ysbryd i ymwneyd ag ysbrydoedd dynion, a dynion fel bodau ysbrydol. Ymddengys hyn fel wedi rhoddi gwedd arbenig i'r holl adran; gelwir yr wyth dyn a gadwyd rhag y dylif yn wyth enaid.

Ond eto ymddengys fel pe y genedlaeth anghrediniol oedd yn byw cyn y dylif oeddynt yr ysbrydion yn ngharchar, at ba rai y dywedir fod ein Harglwydd yn myned ac yn pregethu iddynt—' yr ysbrydion yn ngharchar, y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir-amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noa.' Nid yw yr anhawsder hwn yn fawr. Gellir yn hawdd symud y maen tramgwydd hwn. Ysbrydion yn ngharchar,' sydd ymadrodd nodweddiadol o ddynion pob oes. Nid ydym yn gweled dim yn ddyrus yn yr adroddiad. Anfonodd Duw yr efengyl i'r Prydeiniaid, y rhai oeddynt farbariaid Iliwiedig, yn nyddiau Cesar: nid yr un personau oedd y rhai yr anfonodd Duw yr efengyl atynt, ag oedd yn farbariaid lliwiedig yn nyddiau Cesar; ond yr oeddynt yn perthyn i'r un genedl. Ac ni ddylem weled dim yn ddyrus yn yr adroddiad, Aeth Iesu Grist ac a bregethodd i ddynion oedd yn gaethion ysbrydol, rhai anhawdd eu hargyhoeddi gynt, yn neillduol yn nyddiau Noa. Mae yn debygol y daw y rheswm paham y cyfeirir at anufudd-dod dynion mewn amser blaenorol, ac yn neillduol yn nyddiau Noa, tan sylw eto yn ystod ein hegluriadau dyfodol.

Gwedi ymdrechu myned trwy yr anhawsderau geiriol, bydded i ni yn bresennol sylwi ar y syniad a gynnwysir yn y geiriau, 'Iesu Grist, gwedi ei fywhau yn ysbrydol, a aeth ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar, y rhai a fu gynt yn anufudd.' Nid ydyw y myned a'r pregethu yn desgrifio yr hyn a wnaeth ein Harglwydd yn gorfforol, ond yr hyn a wnaeth yn ysbrydol; nid yr hyn a wnaeth yn bersonol, ond yr hyn a wnaeth trwy offerynoliaeth eraill. Mae yr apostol Paul gwedi egluro meddwl yr apostol Pedr, pan y mae, yn yr ail bennod o'r epistol at yr Ephesiaid, yn desgrifio Crist, 'gwedi iddo ddirymu trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth,' fel yn dyfod ac yn pregethu tangnefedd i'r rhai pell ac i'r rhai agos,' hyny yw, i genedloedd ac Iuddewon. Ceir esboniad arall tra boddhaol yn yr efengylau. Rhoddwyd i mi bob awdurdod,' meddai ein Hiachawdwr, ar ol ei fywhau yn yr yspryd; 'Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y

nef ac ar y ddaear. Euch chwi, gan hyny, a dysgwch yr holl genedloedd, gan ea bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân; gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi: ac wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant yn mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau y gair trwy arwyddion, y rhai oedd yn canlyn. Y gorchymyn i'r apostol, yr hwn a anwyd fel un annhymig, oedd, A'r cenedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awr hon, i agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw ; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy y ffydd sydd ynof fi;' a pha beth bynag a wnaeth Paul yn effeithiol, yn nghyflawniad y gorchymyn yna, nid eƒe, ond Crist trwyddo ef. Fel hyn, gan hyny, y mae Crist, gwedi ei fywhau mewn canlyniad iddo ddyoddef, y cyfiawn yn lle yr anghyfiawn, ‘yn myned ac yn pregethu i'r ysbrydion yn ngharchar.'

Mae dau syniad cynnorthwyol mewn perthynas i waith Crist yn pregethu i'r ysbrydion yn ngharchar, wedi ei fywhau yn yr ysbryd, yn cael eu hawgrymu gan eiriau yr apostol, y rhai ydynt,-llwyddiant ei bregethiad, a helaethrwydd y llwyddiant hyny. Yr ysbrydion hyn yn ngharchar, 'a fuont gynt anufudd.' Fe bregethodd Crist iddynt, nid yn unig trwy Noa, ond trwy yr holl brophwydi, canys Ysbryd Crist' oedd yr vsbryd yn y prophwydi; ond efe a bregethodd i fesur mawr yn ofer. Yr oedd ganddo achos i gwyno mewn perthynas i'w bregethu trwy y prophwydi, a'i bregethu personol ei hun, yn flaenorol iddo ddyoddef, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth. Estynais fy llaw ar hyd y dydd, at bobl wrthryfelgar, ac yn gwrthddywedyd.' Pwy a gredodd i'n hymadrodd? Ond yn awr, wedi i Iesu Grist gael ei fywhau yn yr ysbryd, y canlyniad fu, ‘yranufudd o drowyd i ddoethineb y cyfiawn,' a'r ysbrydion yn ngharchar' a ymddangosasant yn bobl wedi eu darparu i'r Arglwydd.' Gan gael ei arddel gan yr Ysbryd, mewn canlyniad i dywalltiad gwaed yr ammod, fe redodd y gair gan gael gogonedd, a'r 'carcharorion a ollyngwyd o'r pydew heb ddwfr ynddo.' Fe ddygwyd y caffaeliaid oddiar y cadarn, ac fe waredwyd yr anrhaith o law yr ofnadwy. Yr oedd y rhai seliedig ymhlith llwythau Israel yn gant a phedwar ar ddeg a deugain o filoedd, a'r dychweledigion o blith y cenedloedd, wedi eu cymeryd i enw yr Arglwydd, yn lliaws aneirif-'yn dyrfa fawr nas dichon neb eu rhifo, allan o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd.' Nid fel yn nyddiau Noa, pryd na achubwyd ond ychydig, sef wyth enaid, yr oedd hi y pryd hwnw. Llawer a glywsant ac a adwaenasant yr hyfryd lais; syrthiodd y cadwynau oddiwrth eu traed, a rhodiasant yn rhyddion, gan gadw gorchymynion Duw. Acy mae ffynnon y bywyd yn tarddu yn nghalon y Gwaredwr bywhaol eto, ac yn ffrydio allan, gan roddi bywyd i'r byd. Mae y Gwaredwr mawr eto wrth ei waith gogoneddus o ryddhad ysbrydol. Mae efe eto yn myned ac yn pregethu i'r ysbrydion yn ngharchar; ac er nad yw pawb wedi ufuddhau eto; ond y mae llawer wedi ufuddhau yn barod, a llawer yn ufuddhau, a llawer mwy a ufuddhant eto.

Mae cysylltiad dyoddefaint cosbol, dirprwyol, a dyhuddol Crist, a'r bywyd a'r nerth ychwanegol hyn ynddo, fel Gwaredwr a Iachawdwr dynion, ynghyd â'i ganlyniadau dedwydd, yn ngweinyddiad helaeth ac effeithiol gair ei ras, yn cael ei nodi yn y fan hon, ond nid yma yn unig. Mae yn cael ei ddwyn yml en yn yr Ysgrythyr yn fynych, fel yr ydwyf wedi cael achlysur i sylwi yn barod: Crist a lwyr-brynodd ddynion oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith drostynt, fel y delai bendith Abraham,' cyfiawnhad rhad a chyflawn, ar y cenedloedd, ac fel y derbynient addewid yr ysbryd trwy gredu.' Buddiol i chwi fy myned i ymaith; canys onid äf ni ddaw y Dyddanydd; eithr os myfi a äf, mi a'i hanfonaf ef atoch.' Mae yr Ysbryd wedi ei roddi am fod Crist wedi ei ogoneddu; mae yr lesu wedi ei ogoneddu, canys efe a orphenodd y gwaith a roddodd y Tad iddo i'w wneuthur,' trwy roddi ei einioes tros ei ddefaid, a thrwy roddi ei gnawd dros fywyd y byd.

Gellir yn hawdd deall y cysylltiad yma rhwng marwolaeth gymmodol Crist a'i fywhad, a bywhad dynion ganddo. Y gwirionedd mewn perthynas iddo a ellir ei osod i lawr mewn brawddeg neu ddwy. Yr oedd y gallu i gyfranu dylanwadau dwyfol yn gwneyd rhan bwysig o wobr gyfryngol ein Harglwydd; ac y mae yn annichonadwy dychymygu am un wobr mwy priodol i'w gymeriad sanctaidd a haelfrydig; ae yr ydoedd priodolder amlwg mewn bod i'r gwaith gael ei gwblhau cyn i'r wobr gael ei rhoddi. Heblaw hyny, y gwirionedd am ddyoddefaint Crist, a'i farwolaeth, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, ydyw yr offeryn mawr a ddefnyddia yr Ysbryd Glân i ddychwelyd dynion, i fywhau eneidiau meirw. Dyma destun mawr pregethu effeithiol. Hyd oni

wnaethpwyd yr iawn, nis gallasai y dadguddiad o hono fod ond tywyll. Gweddus oedd i'r Pregethwr mawr gael cenadwri eglur a llawn i'w chyhoeddi, cyn dyfod a phregethu i bob cenedl dan y nef; ac i'r Gweithiwr mawr ysbrydol gael ei gynnysgaethu a'r moddion cymhwysaf i gyflawni holl wyrthiau moesol y greadigaeth newydd. Ymddengys i mi mai dyna yw meddwl yr adran hon y taerir cymaint yn ei chylch.

Medda y golygiad yma ar y pwne y fantais ychwanegol o'i fod yn cadw cysylltiad yr adran yn ramadegol a rhesymegyddol. Mae geiriau yr apostol, yn ol yr esboniad yna, yn cyd-daro â'i amcan mawr ymarferol: Nac ofnwch, na chywilyddiwch ddyoddef mewn achos da mewn ysbryd iawn.' Nid oes dim niwed yn dyfod o wneuthur daioni, neu o ddyoddef mewn gwneuthur daioni. Darfu Crist wrth ddyoddef, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, ddyoddef yn gwneuthur daioni; ac er i'w ddyoddefiadau ddybenu mewn marw yn gorfforol, dybenasant hefyd mewn iddo gael ei fywhau yn ysbrydol; a thrwy eglurhad effeithiol o'r gwirionedd, ddyfod yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo.' Ac nid hyn yw y cwbl, cafodd ei gorff marwol hefyd, mewn canlyniad i'r dyoddefiadau hyn, ei gyfodi o'r bedd, ac yn y corff hwnw 'efe a aeth i'r nefoedd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; a'r angelion a'r awdurdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo."

[ocr errors]

Er fod y dyfyniad yma yn lled faith, nid ydym heb deimlo ein hunain o tan brofedigaeth i ddyfynu ei sylwadau ymarferol a chymhwysiadol oddiwrth yr un testun; ond rhaid i ni ymattal. Cymerwn ein rhyddid ar amynedd ein darllenwyr i ddyfynu eto ei eglurhad ar un o'r testunau anhawddaf o fewn yr holl Fibl, sef 1 Pedr iv. 6; "Canys er mwyn hyny yr efengylwyd i'r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ac y byddent byw yn ol Duw yn yr ysbryd." Mae yr adnod hon yn cael ymdrin â hi mewn cysylltiad â'r pum adnod flaenorol iddi, fel testun yr un traethawd. Mae yr holl destun yn un dyrus, er, fe allai, ei fod yn cael ei ddarllen gan lawer heb ganfod dim anhawsder ynddo, pan ar yr un pryd y mae llawn anhawsderau drwyddo oll. Am y frawddeg gyntaf, "Am hyny gan ddyoddef o Grist drosom ni yn y cnawd," dywed Dr. Brown:

"Mae hyn yn ddigon eglur; ond dechreua yr anhawsderau yn uniongyrchol, a deuant yn nifer liosog, ac yn rhestr olynol.

'Chwithau hefyd, byddwch wedi eich arfogi â'r un meddwl.' A pha feddwl? Os atebir, A meddwl neu dymher Crist; dychwel y gofyniad, Ond pa beth a ddywedir ynghylch ei feddwl neu ei dymher ef yn y cyd-destun? Dim oll. Llefarir am ei ddyoddefiadau; eu natur, eu dyben, a'u canlyniadau a gyfeirir atynt yn bendant, ond ni ddywedir dim am ei feddwl, ei dymher, na'i duedd. Pe buasai y geiriau, 'Byddwch chwithau hefyd wedi eich arfogi â'r un meddwl,' yn canlyn yr ymadrodd cyffelyb yn pennod ii. 21-24, buasem yn gweled y cysylltiad ar unwaith. Ymddangosai yr annogaeth fel yn cyfodi yn naturiol o'r gosodiad, Yn gymaint a dyoddef o Grist fel hyn, byddwch chwithau wedi eich arfogi a'r un meddwl' pan eich galwer i ddyoddef. Ond yma, nid efelychu Crist mewn dyoddef ydyw yr annogaeth, ond gwneuthur y ffaith o'i fod ef wedi dyoddef yn ddernyn o arfogaeth, ymosodol ac amddiffynol, yn ein hymdrechion â'n gelynion ysbrydol. Yna daw y geiriau, Oblegid yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd a beidiodd â phechod, fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd.' Dyma lu o anhawsderau. Pwy ydyw hwn a ddyoddefodd yn y cnawd, ac a beidiodd â phechod? Ai Crist, am yr hwn y dywedir yn nechreu yr adnod, iddo 'ddyoddef drosom ni yn y cnawd?' Dyna, yn ddiammhau y meddwl a awgrymir yn naturiol gan rediad yr adnod; ond pa beth sydd i'w ddeall wrth Grist yn peidio â phechod? a'r hyn sydd yn rhyfeddach fyth, pa beth a feddylir wrth Grist yn peidio a phechod, 'fel na byddo fyw mwyach i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd? Pa fodd y gallai ef beidio â phechod, yr hwn ni ddechreuodd erioed bechu? Ni bu efe erioed fyw un rhan o'r amser yn y cnawd i chwantau dynion.' Yr oedd ef bob amser yn 'sanctaidd, diddrwg, dihalog, a didoledig oddiwrth bechaduriaid;' yr oedd ef bob amser yn byw i ewyllys Duw.' Ei fwyd ef oedd gwneuthur ewyllys yr hwn a'i hanfonodd, a gorphen ei waith ef.' Os rhyw un a ddyoddefodd gystudd corfforol, neu ryw Gristion a ddyoddefodd gystudd corfforol yn achos Crist, ydyw yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd,' a thybiwyd gan wahanol esbonwyr ei fod yn meddwl pob un o'r rhai hyn, eto, yr ydym yn gofyn, pa fodd y mae unrhyw un, neu bob un o'r rhai hyn, yn peidio â phechod?' A ydyw cystudd corfforol yn ffwrnes ag sydd yn ddiwahaniaeth ac yn hollol yn ysgar y sothach oddiwrth y metel gwerthfawr, yn y cymeriad dynol? A oes ar ddyn eisieu dim ond cael ei wneyd yn ddigon truenus mewn trefn i ddyfod yn ddigon sanctaidd? A phe

[ocr errors]

gorchfygid yr anhawsder anorchfygol hwn, pa beth a feddylir wrth ddyn yn peidio â phechod fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion?' Onid ydyw hyn yna yn debyg iawn i ddyweyd, ei fod yn peidio â phechod fel y peidio â phechod? Ac eilwaith, pa beth sydd a fyno y mynegiad dyeithrol yma â'r annogaeth, Byddwch wedi eich arfogi a'r un meddwl,' i'r hwn yr ymddengys y dygir ef ymlaen fel cymhelliad?

Ac yna, wrth edrych ymlaen at ddiweddiad y frawddeg hon, mae y tywyllwch yn dyfod yn dywyllwch y gellir ei deimlo. Pa beth ydyw meddwl, 'yr efengylwyd i'r meirw hefyd?" Pa beth a feddylir wrth y meirw hyny yn cael eu 'barnu yn ol dynion yn y cnawd?' Pa beth wrth eu 'byw yn ol Duw yn yr Ysbryd?' A pha gysylltiad a fedd y ddau beth hyn â'r pethau yr ymddangosant fel wedi eu penu yn rheswm drosto; naill ai y farn gyffredinol, neu Gristionogion yn gochelyd pechod, ac yn meithrin sancteiddrwydd ?"

Buasai yn dda genym allu rhoddi ychydig o'i sylwadau ar yr holl gwestiynau dyrus yna, ond rhaid i ni gyfyngu ein dyfyniad i ran fechan o'i sylwadau ar faterion adn. 6. Y mater a godir ganddo oddiwrth y chwech adnod ynghyd, fel testun y traethawd, ydyw, "Annogaeth i sancteiddrwydd, wedi ei sylfaenu ar yr Iawn." Ac y mae adn. 6. yn cynnwys yr ail reswm cymhelliadol i'r annogaeth, sef "rheswm yn cael ei dynu oddiwrth amcan mawr dadguddiad yr efengyl."

"Ymddengys i mi yn debygol mai yr hyn a ganlyn ydyw meddwl a chyfeiriad y geiriau. Ymddengys eu bod yn desgrifio canlyniadau sicr pregethiad effeithiol yr efengyl i'r meirw ysbrydol. Amcan uniongyrchol pregethu yr efengyl iddynt ydyw, fel y byddo iddynt ei chredu; a'r effaith sicr o'i phregethu iddynt, os credant hi, yn gystal a'i hamcan, ydyw, fel canlyniad o'i chredu, na byddont mwyach fyw i chwantau dynion ond i ewyllys Duw dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd. Y cyfryw ydyw ei heffaith fwriadol ar eu cymeriad a'u buchedd.

Ond heblaw yr effaith fwriadol yma ar eu cymeriad a'u buchedd, mae yr efengyl, pan y pregethir hi i'r meirw ysbrydol, y credir hi ganddynt, ac y dylanwado hi arnynt, yn cynnyrchu rhyw effeithiau, rhai o honynt yn anffafriol, eraill yn ffafriol, ar eu sefyllfa, allananol neu dufewnol. Meddyliwyf mai at y rhai hyn y cyfeiria yr apostol, pan y llefara am danynt i gael eu 'barnu yn ol dynion yn y cnawd,' ond yn 'byw yn ol Duw yn yr ysbryd.' Yn ol dynion'-hyny yw, yn eglur, dynion annychweledig (fel yn yr ymadrodd, 'chwantau dynion, neu yr ymadrodd, yr ydych chwi yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol'). Mewn perthynas i ddynion annychweledig, dynion bydol, maent hwy, hyny yw, y rhai a gredasant yr efengyl a bregethwyd iddynt pan yn feirw, yn cael eu barnu,' hyny yw, eu condemnio, eu cosbi, 'yn y cnawd,' yn y corff, neu yn eu hamgylchiadau allanol. Yn ol Duw:' mewn perthynas i Dduw y maent, trwy weithrediad sanctaidd, dwyfol, yn 'byw;' maent yn mwynhau gwir ddedwyddwch (fel y dywed yr apostol, 'yr awrhon byw ydym os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd') 'yn yr ysbryd,' yn yr enaid, yn y dyn oddifewndedwyddwch cymhwys i anghenrheidiau a galluoedd rhan uchaf eu natur. Pe buasai 'byw yn ol Duw yn yr ysbryd' yn cael ei gyferbynu â 'byw yn ol dynion yn y cnawd,' buasai yn desgrifio cymeriad; wrth ei gyferbynu â chondemnio neu gosbi yn ol dynion yn y cnawd,' mae yn eglur ddesgrifio cyflwr.

Mae y gair bychan a gyfieithir 'fel,' yn arwyddo nid yn unig mewn trefn i, gan ddynodi bwriad, ond hefyd effaith, megys pan y dywedir ‘A dramgwyddasant hwy fel y cwympent?" hyny yw, 'fel ag i gwympo,' neu 'nes cwympo.' Ymddengys mai hyn yw ystyr y gair yn y fan hon-'I'r dyben hwn y pregethwyd yr efengyl i chwi pan yn feirw ysbrydol, fel trwy ei chredu yr ymwrthodech a phechod, ac y dilynech sancteiddrwydd; ac wedi iddi gyrhaedd ei hamcan, y canlyniad fu, yr ydych chwi yn cael eich erlid yn eich hamgylchiadau allanol, eich corff, eich cymeriad, eich cyflwr allanol, gan ddynion; ond yr ydych yn ddedwydd yn eich meddwl, yn eich holl berthynasau a'ch hamgylchiadau, yn Nuw.' Grym y rheswm a ellir ei osod allan yn fyr fel hyn:-'Dylech chwi fyw gweddill yr amser sydd yn ol yn y cnawd i ewyllys Duw, nid i chwantau dynion; canys dyna oedd dyben mawr yr efengyl pan ei pregethwyd i chwi, yn feirw mewn camweddau a phechodau; ac er trwy gredu yr efengyl, a rhoddi eich hunain i fyny i'w dylanwad sancteiddiol, y byddwch yn sicr o osod eich hunain yn agored i gondemniad ac erlidigaeth byd annuwiol (yr hyn, er hyny, ni all ond yn unig effeithio ar eich cyflwr allanol), chwi s gewch lawer mwy nag ad-daliad am hyn yn y bywyd a'r dedwyddwch, yr hyn a gewch yn eich ysbrydoedd gan Dduw."

Gall y darllenydd gael mantais i weled, oddiwrth y dyfyniadau uchod, yn amgen na thrwy ddim a allem ni draethu am y gwaith hwn, ei fod yn gynnyrch medr a galluoedd mwy na'r cyffredin. Mewn gwirionedd, agorwn ar y traethawd a fynom o fewn corff y cyfrolau hyn, nis gallwn ddar

llen ychydig linellau heb gael ein taraw yn y fan â'r teimlad o'n bod yn nghymdeithas rhyw un mawr. Os caiff yr awdwr fywyd ac iechyd am ychydig eto i fyned ymlaen â'i orchwyl o egluro yr ysgrythyrau yn y dull y mae wedi dechreu arno, a chynnyrchu llawer o gyfrolau cyffelyb i'r rhai hyn, diau y bydd Dr. Brown yn cael ei ystyried yn dywysog ymhlith holl esbonwyr a duwinyddion yr oesoedd a aethant heibio, pa beth bynag am dduwinyddion yr oesoedd dyfodol. Ac ni synem, pe byddai i ymddangosiad y gwaith hwn yn unig o'i eiddo, cyn hir, effeithio i ddechreu cyfnod newydd, o ran y dull o egluro y gair sanctaidd, a'i bregethu hefyd. A phwy na ddymunai hyny?

Y GWEINIDOG A'R YSGOLFEISTR-THOMAS LLOYD, O ABERGELE.

DYMUNWYD arnom, er ys tro bellach, ysgrifenu ychydig mewn ffordd o ddarluniad o'n cyfaill a'n hen athraw, y diweddar Barch. Thomas Lloyd, o Abergele, i'w osod ger bron y darllenwyr gyda hanes ei fywyd.1 Ond gofynwyd i ni beth anhawdd. Yr oeddem yn meddwl yn wastad ein bod yn caru y gwr hwnw yn fawr, ac yn ei adnabod ef yn dda; ac y mae ein dychymyg, yn awr wrth ddechreu son am dano, yn ei bortreadu ger bron ein llygaid. Tybygem ein bod yn clywed ei lais, ac yn gweled ei agwedd; ie, mor fywiog ydyw ein coffa am dano, nes y mae yr hen dynerwch a deimlem tuag ato pan yn ei gyfeillach, yn ad-ddeffroi yn ein mynwes. Ond wedi y cyfan, pe gofynid ini pa ddull sydd ar y gwr ag y mae ein dychymyg, fel hyn, yn ei ddwyn o'n blaen, teimlem yn anhawdd ateb y cwbl bron a allem ddywedyd ydyw, ei fod yn union yr un fath a Mr. Lloyd o Abergele. Gwyddom na byddai dywediad o'r fath yn cynnwys darluniad yn y byd o hono ef, nac yn atebiad yn y byd i'r cwestiwn, ac felly yn ddisynwyr; ac eto, er nas gallwn ei ateb ef nemawr well na hyny, prin yr ydym yn barod i gydnabod ein hunain yn llawer dylach na'r cyffredin. Mae yn ddiammhau genym pe gofynid i laweroedd o hen gyfeillion y trancedig-A adwaenech chwi Mr. Lloyd? yr atebent yn ebrwydd, Adwaenem, yn dda; ac er ys llawer o flyneddau. Ond pe gofynid, drachefn, i'r cyfryw rai, Pa fath un oedd efe? ni byddai dim un o gant o honynt yn alluog i roddi un math o atebiad i'r gofyniad, yn

1 Yr oedd yn mwriad cyfaill gyhoeddi llyfr o hanes y Parch. T. Lloyd. ynghyd â rhai llythyrau a phregethau o'i eiddo; ac yr oedd wedi deisyfu ar ysgrifenydd yr erthygl uchod i gyfansoddi byrdraith er darlunio cynneddfau neillduol a chymeriad cyffredinol Mr. Lloyd, i'w gyhoeddi gyda'r hanes. Y mae hyn yn esbonio rhai cyfeiriadau ynddi. Gan fod y bwriad o gyhoeddi yr hanes yn y wedd hono wedi ei roddi heibio, diau y bydd yn ddywenydd gan ein darllenwyr gyfarfod â'r erthygl hon yn y "Traethodydd." Os yw enw Mr. Lloyd yn ddyeithr i lawer o honynt, cânt weled, oddiwrth yr ysgrif, ei fod fel "gweinidog ac ysgolfeistr" wedi llenwi lle pwysig yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, ac iddo yn ffyddlawn "wasanaethu ei genedlaeth trwy ewyllys Duw;" a hawdd y canfyddant fod yr ysgrifenydd yn un o "feistriaid y cynnulleidfa," a bod ei wersi cymhwysiadol yn deilwng o sylw a gwrandawiad y Dywysogaeth. Yr ydym yn deall fod by wgraffiad Mr. Lloyd yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd hyn yn y "Drysorfa." -GOL.

« PreviousContinue »