Page images
PDF
EPUB

Fe 'i dododd hi 'n esgeulus yn ei fonwes,
I'w dwyn i'w fwthyn, ac i'w chadw 'n gynnes.
Ei obaith oedd y byddai'r waredigaeth
Yn gyfnewidiad trwyadl i'w naturiaeth ;
Na byddai 'n enbyd iddi bigo bellach,
Ac na bai 'n Wiber ond mewn enw mwyach.
Adfywiai hithau 'n gorwedd wrth y tân,
Ymdroai 'n raddol ar yr aelwyd lân.
Hyfryd oedd gweled y creadur bach
Yn ymfywiogi, ac yn d'od yn iach ;
A'i chymmwynaswr oedd yn llonni trwyddo
Wrth weled ei gymmwynas wedi llwyddo.
Ar ol dadebru 'n llwyr, dechreuai chwythu,
Gan ruthro 'n ffyrnig at y plant i'w brathu.
"Ho, ho!" medd yntau, "bydd di farw, 'r fulan !”
Ac felly, wedi ei lladd, fe 'i taflodd allan.

Ac meddai wrtho 'i hun, "Nid trwy gymmwynas "Y newid gwiber ei naturiaeth atgas."

Y sawl a dalo ddrwg am dda,
Mae hwnw 'n bla diledryw;
Cas yw gan ddyn, a chas gan Ner,
A brawd i'r Wiber ydyw,

VIII.

Y BYTHEUAD WEDI HENEIDDIO.

'Roedd hen Fytheuad clustiog
A welsai ddyddiau gwell,
Ac iddo fawr ganmoliaeth
Yn agos ac ym mhell:
Nid oedd nac ysgyfarnog
Na llwynog yn y lle,
A'r na 's trengasai 'n gelain
Cyd-rhwng ei ddannedd e'.

Ond weithian 'r oedd, ysywaeth!
Yn gibddall, hurt, a hen;

Collasai 'r llygad aswy,

A'i ddannedd o'i ddwy ên.
'Roedd ysbryd dewr bytheuad
Yn gryf o'i fewn er hyn :
Fe'i gwelid ar achlysur
Yn hela dôl a bryn.

Aeth gyd â mab ei feistr
I hela baedd y coed;
Methasai gwŷr yr ardal

A'i ddal na'i saethu 'riôed.
Ymaflodd Towser ynddo

Mor ffyrnig ag oedd modd;
Ond methodd ddal ei afael,
Ac felly 'r baedd a ffodd.
Y gwr boneddig ieuange,
Oherwydd maint y siom,
A gurodd Towser druan,

A'i bastwn hela 'n ffrom:

Attebai 'r ci 'n wylofus

O dan y curiad certh,

"Nid pallu wnaeth f' ewyllys,
"Ond pallu wnaeth fy nerth."

[I'W PARHAU.]

BROWN AR EPISTOL CYNTAF

PEDR.

By

[Expository Discourses on the First Epistle of the Apostle Peter. JOHN BROWN, D.D. Second edition. In two volumes. 1849.] MAE awdwr y darlithoedd hyn yn ŵyr i'w gyfenwydd, y gweinidog parchus, a'r duwinydd enwog, John Brown, o Haddington. Mae yn weinidog gyda'r United Presbyterians, ac yn un o athrawon eu hathrofa. Mae ei gapel yn un o'r rhai mwyaf a harddaf yn Edinburgh, a phob amser yn llawn. Mae Dr. Brown erbyn hyn yn hynafgwr ymhlith ei frodyr. Ond er ei fod yn hen mewn dyddiau yn hen weinidog a duwinydd-nid yw ond newydd ddechreu gwneuthur ei hun yn adnabyddus trwy gyfrwng y wasg. Mae yn wir fod cynnifer a deunaw ar hugain o ryw fân draethodau o'i waith wedi eu cyhoeddi o'r blaen, ond dyma y gwaith cyntaf o ddim pwys a maintioli a ymddangosodd o'i awduriaeth. Ymddangosodd yn fuan ar ol y darlithoedd hyn, rai cyffelyb ar "Bregethau a Dywediadau ein Harglwydd," mewn tair cyfrol hardd. Bydd llawer yn rhuthro i wneyd eu hymddangosiad trwy y wasg fel awduron yn rhy fuan, pryd y byddai yn well i'r cyhoedd, ac iddynt hwy eu hunain, eu bod yn fwy pwyllog, a pheidio tybied fod pob peth sydd yn rhedeg trwy eu hymenyddiau yn werth ei argraffu, ac yn werth i eraill dalu am dano, a gwastraffu eu hamser i'w ddarllen, a llawer o'r rhai hyny yn cael eu blino gan y teimlad annedwydd o fod yr argraffwasg yn cael ei darostwng i gyhoeddi sothach-pethau, ar ol denu llygad, sydd yn siomi meddyliau cannoedd o rai awyddus i ddarllen. Ond am Dr. Brown, nis gallwn lai na theimlo fel yn anfoddog ei fod gwedi aros cyhyd heb ddyfod allan fel awdwr, er y buasai yn dda genym pe dygwyddasai i'r rhan fwyaf o awduron yr oes hon fod mor hwyrfrydig i wneuthur eu hunain yn adnabyddus fel y cyfryw ag ef. Buasem gwedi prynu a darllen llawer llai o lyfrau; ond, y mae yn ddios buasai ein gwybodaeth yn burach a helaethach.

genym y

Cyn ymddangosiad y gwaith hwn yr oedd Dr. Brown yn cael ei ystyried fel beirniad a duwinydd o radd uwch na'r cyffredin, gan ddynion call pob enwad a'i hadwaenent; ac ystyrid ei farn ar bob pwnc o gryn bwys a dylanwad. Ond yn y gwaith hwn, mae gwedi dyfod allan i olwg y cyhoedd megys yn ei gyflawn faintioli, fel gwir dduwinydd, pregethwr, ysgolaig, a christion-"fel gweithiwr difefl, yn medru iawn gyfranu gair y gwirionedd;" yn "ysgrifenydd gwedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.'

Traddododd y darlithoedd hyn, o bryd i bryd, i'w gynnulleidfa cyn eu cymhwyso i'r wasg. Ac ymddengys mai i hyny yn benaf y bwriadwyd

hwy ar y cyntaf, ac nid i'w hargraffu. Felly y dywed ef ei hun yn y rhagymadrodd iddynt "Nid yw yn debygol y buasai yr awdwr byth yn meddwl am gyflwyno yr egluriadau hyn i'r byd oddieithr i nifer o aelodau mwyaf parchus o'i gynnulleidfa daer ddymuno arno, cyn i henaint wneuthur hyny yn anhawdd, neu angeu ei wneuthur yn annichonadwy iddo, eu cynnysgaethu hwy a chofeli arosol o weinidogaeth led hirfaith, llawn o foddhad iddo ef ei hun, ac fel y gobeithia, nid heb les iddynt hwythau. Nid oedd modd bod yn ddiystyr o ddeisyfiad o'r fath; ac wrth bwyso yr achos, gwelodd na feiddiai wrthod cydsynio âg ef. Gwedi cael ei argyhoeddi o hyn, nid oedd yn ymddangos iddo y gellid cyrhaedd yr amean mewn golwg yn well na thrwy gyflwyno iddynt sylwedd yr egluriadau hyny ar gyfran tra gwerthfawr o'r gyfrol ysbrydoledig, pa rai a draddodwyd yn barod iddynt yn ystod ei weinidogaeth arferol."

Gwelwn, yn eu hamcan a'u defnyddiad cyntefig, yr hyn a'u dygodd i'r ffurf a'r wedd arbenig yn y rhai y gwnaethant eu hymddangosiad trwy y wasg. Nis gallwn alw y gwaith hwn yn esboniad ar yr epistol, nac yn bregethau, nac yn ddarlithoedd chwaith, yn ol yr ystyr gyffredin a roddir i'r geiriau yna; ac eto, i ryw fesur, y mae yn bob un o honynt. Ac yn wir pe y gofynid i ni roddi rhyw enw mwy penodol na'i gilydd arnynt, ni a'u galwem yn bregethau, ac yn bregethau o'r ffurf oreu hefyd. Ein barn ni ydyw, ond gallwn fod yn gamsyniol, nas gwelsom eto gynlluniau perffeithiach a theilyngach o'u hefelychu fel pregethau, na'r rhai a gynnwys y cyfrolau hyn. Nis gallwn ddychymygu am ddull teilyngach o drin gair Duwo'i egluro i'r deall a'i gymhwyso at y gydwybod. Pregethu yn ol cynllun y traethodau hyn fyddai yn "bregethu y gair" mewn gwirionedd, yn briodol i symlrwydd y gair ei hun.

Nid yw yr awdwr yn traethu ar bob adnod ar ei phen ei hun, ac eto mae pob adnod, a phob gwirionedd yn mhob adnod, yn cael eu dwyn dan sylw, yn eu cysylltiad â'r pwnc mewn golwg gan yr ysgrifenydd sanctaidd, yn yr adran hòno o'r epistol. Mae yr epistol yn cael ei ddosbarthu yn adranau yn ol y gwahanol faterion ynddo, a gwahanol ddulliau yr ysgrifenydd yn ymdrin â hwy. Mae yr adranau hyn yn amrywio yn eu hyd, yn ol y synwyr, a phob un o honynt yn destun traethawd ar ei ben ei hun. Ymgais gyntaf yr awdwr yw cael allan beth yw y prif feddwl yn yr adran dan sylw ganddo, ac yna gosod ei hun i edrych ar y meddwl, neu y mater hwnw, o'r un safle a'r ysgrifenydd, a'i drin yn yr un cysylltiadau a pherthynasau ag yntau. Ac yn nygiad ymlaen yr ymdriniaeth yna, eglurir yr ymadroddion a ddygwyddo fod yn dywyll o fewn corff yr adran, ynghyd a'r egwyddorion athrawiaethol ac ymarferol ynddi. Fel hyn, mae yr awdwr yn dwyn i'r amlwg osodiadau yr apostol, ynghyd â dybenion y gosodiadau hyny.

I roddi gwell mantais i'n darllenydd i weled ei ddull yn ymdrin â materion yr epistol, rhoddwn yma fraslun o un o'r traethodau:-"Traethawd II. Yr Iachawdwriaeth Gristionogol yn cael ei desgrifio a'i chydnabod; 1 Pedr i. 3-5." Ar ol dangos, wrth ragymadroddi, ddyben yr apostol yn dwyn i sylw y gwirioneddau a gynnwys yr adnodau hyn, gesyd i lawr fraslun o'r traethawd fel y canlyn:-"Wrth egluro y rhan dra phwysig hon o'r ysgrythyr, rhaid i'n sylw gael ei gyfeirio,-I. At y bendithion a gydnabyddir; ac, yn II. At y gydnabyddiaeth o'r bendithion hyn. Y bendithion a gydnabyddir ydynt y rhai hyn:-1. Y rhagorfraint o fod yn

blant Duw. 'Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n hadgenedlodd.' 2. Etifeddiaeth yn cyfateb i'r rhagorfraint hon; iachawdwriaeth parod i'w dadguddio yn yr amseroedd diweddaf,' yr hon sydd yn 'etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yn nghadw yn y nefoedd,' ac i'r hon y mae y Cristionogion 'yn gadwedig trwy allu Duw trwy ffydd.' 3. Gobaith presennol disigl a gorfoleddus o'r etifeddiaeth hon. Mae cydnabyddiaeth y bendithion hyn yn naturiol yn troi ein sylw, 1. At awdwr y bendithion hyn-Duw. 2. At y cymeriad yn mha un y mae yn eu cyfranu-Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.' 3. At yr egwyddor o ba un y maent yn tarddu-' ei fawr drugaredd.' 4. At eu mawredd a'u gwerth anfeidrol; ac, 5. At ddull priodol Cristionogion o osod allan eu mawredd a'u gwerth-trwy fendithio eu hawdwr dwyfol."

Meddyliem nas gallwn roddi i'r gwaith hwn y ganmoliaeth a deilynga yn well na thrwy ddyfynu yn lled helaeth o egluriadau yr awdwr ar rai o'r rhanau mwyaf tywyll yn yr epistol. Oblegid gellir dyweyd am epistolau Pedr, fel y dywedodd yntau am eiddo ei anwyl frawd Paul," Yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall." Cymerwn i ddechreu ei sylwadau ar 1 Pedr iii. 19: "Trwy yr hwn yr aeth efe hefyd, ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar." Nid yw y sylwadau hyn ond rhan o draethawd sylfaenedig ar adnodau 18-22. Wedi ymdrin â materion eraill yr adran, sef, y dyoddefwr, Crist y cyfiawn-ei ddyoddefiadau-natur ei ddyoddefiadau dyben ei ddyoddefiadau; yna mae yn dyfod at fater adn. 19, sef canlyniadau ei ddyoddefiadau,-"Eithr ei fywhau yn yr ysbryd, trwy yr hwn yr aeth efe hefyd, ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar."

"V. Canlyniadau ei ddyoddefiadau.

Mae canlyniadau dyoddefiadau cosbol, dirprwyol, a dyhuddol ein Harglwydd yn rhanu eu hunain i ddau ddosbarth. Yn gyntaf, y cyfryw a gymerasant le nid yn y nefoedd; oblegid dyna yr oll a allwn ni eto ystyried ein hunain yn meddu hawl i'w ddyweyd am danynt. Fe ddichon yr ymddengys o fewn cylch ein hegluriadau pa un ai ar y ddaear ai tan y ddaear. Efe a farwolaethwyd yn y cnawd, ond a fywhawyd yn yr Ysbryd: trwyddo ef efe a aeth ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar, y rhai a fuant gynt anufudd.' Ac yn ail, Y cyfryw ag a gymerasant le yn y nefoedd. ‘Gwedi adgyfodi oddiwrth y meirw, efe a aeth i'r nefoedd, ac y mae ar ddeheulaw Duw; a'r angelion, a'r awdurdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo."

§ I. "Efe a farwolaethwyd yn y cnawd, a fywhawyd yn yr Ysbryd, ac a aeth ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar.'

Sylwn ar y ddau ddosbarth hyn o ganlyniadau dyoddefaint cosbol, dirprwyol, a dyhuddol ein Harglwydd, yn eu trefn. Yn gyntaf, y rhai a gymerasant le nid yn y nefoedd."

Wedi dwyn ger bron farnau gwahanol esbonwyr eraill ar y rhan hon o'r testun, a dangos mewn modd medrus eu diffygion, yr hyn a fyddai yn rhy faith i ni i'w dodi yma; yna efe a ddwg ymlaen ei farn ei hun arni :—

"Mae pob un o'r gwahanol esboniadau hyn yn meddu ei anhawsderau ei hun, y rhai a ymddangosant i mi yn anorfod. Mae rhai o honynt yn myned ar egwyddorion ag sydd yn amlwg ac eglur gyfeiliornus, ac y maent oll yn ceisio dwyn allan o'u geiriau lawer iawn nad yw ynddynt. Nodi allan bob gwrtheb yn eu herbyn a gymerai lawer iawn o amser, ac yr wyf yn ofni na roddai ond ychydig o foddhâd, a llai na hyny o adeiladaeth i'm gwrandawyr. Pa fodd bynag, y mae anhawsderau ag sydd yn perthyn iddynt oll yn gyffredinol, y rhai a ymddangosant yn ddigonol esgus dros i ni eu rhoddi oll o'r neilldu,- rhai y gellir eu rhoddi mewn brawddeg neu ddwy. Mae yn ymddangos yn anghredadwy, os cymerodd y fath ddygwyddiadau ag yr awgrymir yn dywyll atynt (yn hytrach na'u desgrifio yn eglur, yn y geiriau hyn, fel yr esbonir hwynt) le, y byddem heb ddim son am danynt, yn wir heb un cyfeiriad amlwg atynt mewn un rhan arall o'r ysgrythyr. Mae yn ymddangos yn beth nad oes modd 1853.] Q

rhoddi cyfrif am dano, paham y mae ysbrydion neillduedig y rhai hyny ag oeddynt yn byw yn nyddiau Noa, ac a ddyfethwyd yn y dylif, yn cael son am danynt yn benodol fel y rhai, ymlith trigolion y byd anweledig, yr aeth y Gwaredwr, gwedi ei fywhau, i bregethu iddynt, a'r dorf liosocaf o lawer, y rhai cyn a chwedi hyny, a aethant i lawr i dir tywyllwch, yn cael eu gadael yn ddisylw. A'r hyn a bwysa gryn lawer gyda phob efrydydd ysgrythyrol call ydyw, fod yn anmhosibl canfod pa fodd yr oedd yr amgylchiadau hyn, a thybied ddarfod iddynt gymeryd lle, yn effeithiau dyoddefaint Crist am bechod yn lle pechaduriaid, fel y gosodir allan eu bod, yn ol cystrawen yr iaith, a pha fodd y mae y gosodiadau hyn mewn un modd yn gwasanaethu i ddwyn ymlaen ddyben ymarferol yr apostol, yr hyn oedd darbwyllo Cristionogion tan erlidigaethau i ymostwng yn amyneddgar a llawen i ddyoddef yn achos cyfiawnder, oddiar yr ystyriaeth fod dyoddef, mewn achos da, ac mewn ysbryd iawn, pa mor llym bynag, yn tueddu i arwain i'r canlyniadau dedwyddaf, fel y ceir esiampl yn amgylchiad ein Harglwydd. Nid ydym yn deall y gall yr un esboniad fod yn gywir, ar na fyddo yn cyfateb i gystrawiad eglur yr adran, ac i amcan addefadwy yr ysgrifenydd.

Gan gadw yr egwyddorion cyffredinol hyn mewn golwg, äf ymlaen yn bresennol i osod i lawr, mor fyr, ac mor eglur ag y gallaf, yr hyn a ymddengys yn fwyaf tebygol i mi ydyw meddwl yr adran ddyrus hon. Adran,' fel y dywed Leighton, 'rywbeth yn dywyll ynddi ei hun; ond fel y dygwydd yn gyffredin, a wneir yn fwy felly gan fympwyon ac ymrysonau esbonwyr, wrth geisio neu gymeryd arnynt ei hegluro.'

Canlyniad cyntaf y dyoddefiadau cosbol, dirprwyol, a dyhuddol, yr aeth Crist y cyfiawn danynt, trwy osodiad ei Dad, y Barnwr cyfiawn, dros bechodau, yn lle yr anghyfiawn, y sylwir arnynt yma ydyw, ddarfod iddo gael ei farwolaethu yn y cnawd. Yr oedd y rhai anghyfiawn, yn lle pa rai yr oedd yn sefyll, wedi eu dedfrydu i farw ; ac yntau, wrth ddwyn eu pechodau, a ymostyngodd i farwolaeth-i farwolaeth greulawn, i ffurf o farwolaeth greulawn, yr hon, trwy ddwyfol osodiad, oedd yn ei nodi allan fel aberth i gyfiawnder cyhoeddus. Efe a groeshoeliwyd trwy ddwylaw anwir, a grogwyd ar bren, a chyhoeddwyd yr hwn oedd yn nghrog ar bren yn felldigedig, neu wedi marw fel aberth pechod, trwy law cyfiawnder cyhoeddus. Ymddengys, pa fodd bynag, nad y syniad yma ydyw natur greulawn gweinyddiad y gosb, yn gymaint a'r effaith o hono -hollol amddifadrwydd o fywyd, ac o ganlyniad amddifadrwydd o allu. Ymddengys fod y gair yn cael ei arfer fel yn Rhuf. vii. 4; Ydych wedi meirw i'r ddeddf.' Efe a fu farw yn y cnawd-yn farw gorfforol. Yr oedd yn gorwedd yn gorff difywyd, dinerth yn y bedd.

Ond nid oedd ei fod fel hyn yn farw a dinerth gorfforol, yn fwy gwirioneddol yn effaith ei ddyoddefaint cosbol, dirprwyol, a dyhuddol, na'r ail amgylchiad a nodir yma -'ei fywhau yn yr Ysbryd.' Os yw hyn yn cyfeirio at ei adgyfodiad, rhaid i ni ei ddarllen, trwy yr Ysbryd; ond yr ydym wedi gweled eisoes nas gellir yn deg ei ddarllen felly. Heblaw hyny, mae yr adgyfodiad yn cael son am dano yn benodol yn adn. 21 mewn cysylltiad a'r esgyniad i'r nefoedd.

Bywhau yn yr ysbryd, ydyw bywhau yn ysbrydol, fel ag y mae marwolaethu yn y cnawd, yn farwolaethu yn gorfforol. Mae yr esboniad yma yn un à sail iddo. Gwel Mat. v. 3; Luc i. 80; a x. 21. Ystyr lythyrenol y gair bywhawyd, ydyw gwneuthur yn fyw. Mae yn cael ei ddefnyddio i osod allan y cyfranogiad cyntaf o fywyd; adferiad bywyd i'r marw, a chyfranogiad mesur helaethach o fywyd i'r byw. Un canlyniad o ddyoddefaint cosbol, dirprwyol, a dyhuddol ein Harglwydd oedd, iddo ddyfod yn fyw a nerthol ysbrydol, mewn ystyr, ac i radd nad oedd o'r blaen; a'r hyn na ddaethai byth, oni buasai ei ddyoddefaint-yn llawn o fywyd i'w gyfranu i eneidiau meirwon, 'yn gadarn i iachâu.' Fel hyn, efe a fywhawyd yn ysbrydol. Rhoddodd y Tad fod ganddo ef fywyd ynddo ei hun, fel y rhoddai efe fywyd tragywyddol i gynnifer ag a roddodd y Tad iddo, i bawb a ddel at y Tad trwyddo ef.

Rhoddwyd iddo ef, yr hwn a groeshoeliwyd mewn gwendid, bob awdurdod neu allu, fe, awdurdod Duw; a thrwy y gallu hwn y mae efe yn byw, ac yn rhoddi bywyd. Fel hyn daeth yr ail Adda yn ysbryd yn bywhau.' Daeth megys yn drysorfa bywyd a dylanwadau ysbrydol, o ba un yr oedd dynion i dderbyn, a gras am ras. Fel person dwyfol yr oedd pob bywyd, pob nerth yn hanfodol o anghenrheidrwydd yn ei natur; ond fel Cyfryngwr, y bywyd a'r nerth ysbrydol hyny sydd yn ei wneyd yn gadarn i iachâu, ydynt roddion y Tad iddo, fel gwobrau am ei ufudd-dod hyd angeu, ac fel moddion i gyrhaeddyd dyben eithaf ei ddyoddefaint cymmodol. Gofynodd y bywyd hwn gan y Tad, ac efe a'i rhoddodd iddo. Yr ydoedd yn ganlyniad ei ddyoddefaint cosbol, dirprwyol, a dyhuddol, ar ba rai y mae ei eiriolaeth yn sylfaenedig. At hyn y

« PreviousContinue »