byddaf yn cael y pleser o fod yn bresennol yn eich cyfarfodydd, hwyrach mai nid anghyfaddas fyddai i mi ar gyhoedd fel hyn gymmeryd y dyddordeb o wneuthur math o gyfarchiad i chwi a'r aelodau trwy gyhoeddi yn y "Traethodydd" rai o'm cyfieithiadau o'r Damhegion dan nawdd eich enw fel fy nghyn-athraw barddonol a llenyddol; gan obeithio hefyd mai nid annerbyniol gan y darllenwyr eraill fydd yr unrhyw. Dechreuwyd a pherffeithiwyd y dull damhegol o drosglwyddo addysg, yn y gwledydd dwyreiniol.-Yr wyf yn gwneuthur y sylwad hwn, chwi a welwch, nid er eich mwyn chwi, ond er mwyn y darllenydd cyffredinol.— Dyfeisiwyd a pherffeithiwyd y ddammeg yn y dwyreinfyd. Ac achlysurwyd y ddammeg yn naturiol gan ddau fath o amgylchiadau neu achosion. Y naill oedd hyn; sef mai un o ffyrdd cyntaf dynion y dwyrain o drosi eu meddwl i eraill fyddai trwy luniau cerfiedig neu baentiedig: gwnaent lun llew i arwyddo nerth; llun dywalgi i olygu ffyrnigrwydd; llun llwynog i fod yn gyfystyr â'r gair cyfrwysdra. Gelwir y dull hwn o ysgrifenu, os iawn ei alw yn ysgrifenu, dan yr enw hieroglyphics. Yn awr nid yw dammeg yn ddim arall namyn math o hieroglyphics wedi ei gyfieithu i'r dull cyffredin o ysgrifenu.-Yr achos arall ydoedd hyn yma. Priod-ddull cyntaf pob cenedl bron, yn fwy enwedigol cenhedloedd y dwyrain, yn eu cyfansoddiadau llenyddol, ydoedd y prïod-ddull barddonol a dychymmygol. Oesoedd ac oesoedd ar ol hyny daeth rhyddiaith (prose) i fod yn ddull mwy hwylus: ond cymmerodd hyn le yn raddol. Daeth y ddammeg i mewn yn y cyfwng cyd-rhwng barddoniaeth a rhyddiaith: canys y mae natur y ddammeg mewn rhan yn farddonol, ac mewn rhan yn rhyddieithol. Cyfnod priodol a naturiol y dull damhegol mewn cenedl yw'r cyfnod pan y byddo pobl y genedl honno yn cyfnewid barddoniaeth am ryddiaith. A dyna yn union yr amser yr oedd Esop, y prif ddamhegwr Groegaidd, yn blodeuo; sef rhwng amser Homer y prif-fardd ac amser Herodotus y prif ryddieithwr. Y ddammeg gyntaf oll ar gof a chadw, a'r ddammeg oreu oll o ran destlusrwydd ac effeithioldeb cyfansoddiad, yw dammeg Jotham yn llyfr y Barnwyr; a'r nesaf atti yw dammeg Nathan wrth y brenhin Dafydd. Yr oedd yr hen Gymry gynt yn nodedig am eu damhegion. Mae llïaws o honynt ar lawr yn y Iolo Manuscripts a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Llanymddyfri. Ac y mae mwy na hanner y "Mabinogion" yn ddamhegol; a barn rhai yw mai dammeg yw "Gododin" Aneurin Gwawdrydd; ac nid yw Taliesin a'i hanes a'r ysgrifeniadau a brïodolir iddo, yn ddim yn y byd, i'm tyb i, ond dammeg lân loyw-Pair Ceridwen a'r cwbwl. Beth ond dammeg yw Robin Ddu? Beth yw ein tylwyth teg ond dammeg? Beth ond dammeg yw ein bwganod a'n canhwyllau cyrph? Beth ond dammeg yw Gwrach y Rhibyn a March Malan? Beth ond hieroglyphics yw hoelio pedol ar y drws rhag anffawd? Beth ond hieroglyphics yw hanner credu mai anlwcus yw colli halen ar y bwrdd wrth fwytta? Yr wyf braidd yn ofni y caf gerydd gan Gymdeithas Eifionydd am fod mor anghrediniol yn nhraddodiadau yr hen Gymry. Ond yn wir, syr, nid anghrediniol ynddynt monof; yr wyf yn eu cwbwl gredu, yn eu hollol gredu ac yn eu cyfan gredu; ac ystyriwyf fy hun yn llai na dyn ac yn llai na Chymro, pe gwadwn a phe dirmygwn ddim un o honynt; sef yw hyny, yr wyf yn eu credu fel damhegion, nid fel ffeithiau: a ffol a diddysg a hunanol yw 'r dyn a ddywedo mai nid gwir yw yr hyn na bo yn ffaith. Mae gwirionedd pur mewn damhegion a phethau damhegol, er na bo mymryn o ffaith ynddynt. Mae ysgrifeniadau Homer a Walter Scott yn wirionedd digymmysg, er nad oes ond odid ddim ffeithiau ynddynt. Mae barddoniaeth a dammeg, o byddant yn naturiol, yn llawer mwy gwir na'r hanesyddiaeth gywiraf. "Y gwir yn erbyn y byd" yw arwyddair ein beirdd ei ystyr yw hyn:-Gwirionedd darfelydd yn erbyn gwirionedd ffaith. Gan nad pa un yw hwn ai llythyr attoch chwi, ai rhagymdrodd at y darllenydd, Ydwyf, anwyl Mr. Owen, Yr eiddoch yn ddihocced, NICANDER. I. Y LLWYNOG A'R GRAWNWIN. 'ROEDD unwaith Lwynog, yn y gwin-gynhauaf, Yn temtio gwangc y Llwynog: Toc aeth adre 'n gynffon-lippa, "Os methais ddringo 'r mur, II. Y BWCH A'R LLWYNOG. Ar noson ddiloer, wrth ymgrwydro 'n hwyr, "Holo! bore da'wch!" Ebe 'r Bwch wrth y Llwynog: "Bore da'wch ! bore da'wch!" Medd yntau wrth y Barfog. "Ydyw dwfr y pydew 'n flasus ?" 66 Campus!" medd y Llwynog, "campus :" "'Rwyf er's teirawr yn yfetta; 66 66 Fy nghyfaill, neidia i lawr yn glau, "Mae yma ddigon inni 'n dau: "Mewn helaethrwydd a llawenydd, "Yfwn iechyd da i'n gilydd.”— Gwr y farf wrandawai 'n rhadlon Ar wahoddiad gwr y gynffon: Roedd y 'stori at ei chwaeth, Ac i'r pydew neidio wnaeth. Neidiodd y Llwynog ar ei gefn e'n wisgi, Ac allan; A'r Bwch, mewn llaid hyd at ei dorr, yn gwaeddi, "Y fulan !" Ac wrth ymadael, ebe 'r cadnaw castiog, "Pe baʼsit mor synhwyrol ag wyt farfog, Ni buasit ti, Syr Hir-flew, Byth yn neidio i lawr i'r pydew.” III. Y BLAIDD A'R CRYR GLAS. Gwna di gymmwynas i'r diddiolch diwerth, 'Roedd Blaidd ar lan rhyw ferllyn A charw oedd ei helfa. Ac yn ei wangc yn ysglyfaethu 'r carw, Yn gwingo ac yn crynu 'n ei groen, Rhwng hochian a pheswch a thagu; Gan addaw rhoi gwobrwyon nid ychydig I'r neb a dynnai'r asgwrn llym o'i sefnig. Fe safai 'r anifeiliaid eraill draw, A chwarddai rhai wrth wel'd y Blaidd yn tagu: Yr oeddynt bawb yn ofni rhoi help llaw, Rhag ofn i'r Blaidd, yn ing ei boen, eu brathu. Ond Garan, wrth bysgotta, Yn gwel'd y Blaidd mewn tagfa, (Geilw rhai hi 'n Grŷr, chwi wyddoch; Rhowch chwi arni 'r enw a fynnoch ;) Gadawodd bysg y merllyn, Gan gynnyg i Syr Bleiddyn Bob help oedd yn ei gallu bychan hi, "Tyr'd, f'anwyl Grŷr, cei roddion rif y gwlith; A lledu 'n anferthol ei ddwy-en. Rhoes hithau ei gylfin i mewn yn gelfyddus, A thynnodd yr asgwrn i maes yn Ilwyddiannus. " Wel! dyna fi'n awr: af i orphen ciniawa; "Dos dithau, yr Aran, yn d'ol i bysgotta." "Mi af, Syr Blaidd ; ond lle mae'r wobor "A addawsoch yn eich poen i'r Doctor ?" "Gwobor yn wir! medd yntau 'n chwyrn a digllon, "Gwobor yn wir! ai nid yw hyn yn ddigon, "Cael tynnu 'th ben, ('rwy 'n colli pob amynedd,) "Yn iach ddïogel oddi rhwng fy nannedd ?” IV. Y MYNYDD MEWN GWEWYR. Mi glywais nad peth rhyfedd Ni dd'wedaf air yn 'chwaneg, Rhag digio neb i godi ei wrych :— 'Roedd mynydd mawr cribog, ni dd'wedir ym mh'le, Mewn gwlad o wastadedd, yn agos i dre': Fe welai'r trigolion, ryw ddydd yng Ngorphenaf: Rhyw glogwyn, mi w'rantaf, neu fryncyn bach newydd (Mae'r Ddammeg ar orphen) "A gaf fi ddarn o heidden ('Rwy 'n farw bron gan oerni a phoen,) "Lle 'r oeddit ti, 'r cnaf, Ar dywydd teg braf, Yn lle casglu digon ar hinon yr haf?" Ond canu 'n fwyn mewn rhoswair tew, "Ho felly! 'r neb sy ffoled Yn lle hel trysor, yn yr haf, Drwy 'r tymmor gauaf dawnsied." |