Page images
PDF
EPUB

mae y meddwl, fod yr arddangosiadau hyn a roddir yn y canfyddiad yn perthyn fel cyfanswm i mi, yr un peth gan hyny a phe dywedid, fy mod yn eu huno mewn un ymwybyddiaeth, neu o leiaf y gallaf eu huno felly; ac er mai nid hyn ei hun yw yr ymwybyddlaeth o'r cyfosodiad o'r arddangosiadau, eto y mae yn rhagdybied y posiblrwydd o hyny, hyny yw, yn unig fel yr wyf yn cynnwys yr amrywiaeth o honynt mewn un ymwybyddiaeth, yr wyf yn eu galw yn y cyfanswm yn arddangosiadau i mi. Oblegid heb hyny, byddai genyf hunan mor wahanedig ag yw yr arddangosiadau o ba rai yr wyf yn ymwybodol. Gan hyny, undeb cyfosodiadol yr amrywiaeth o ganfyddiadau, fel ei rhoddir a priori, yw sylfaen unoliaeth yr ymwybodolrwydd ei hun, yr hwn sydd, a priori, yn rhagflaenu fy holl feddyliad penderfynol. Ond nid yw cysylltiad yn gorwedd yn y gwrthddrychau, ac nis gall darddu oddiwrthynt trwy syniad, a chael ei dderbyn felly yn gyntaf i'r deall; ond y mae yn unig yn weithred y deall, yr hwn ei hun nid yw ddim mwy na'r gallu i gysylltu a priori, ac i ddwyn amrywiaeth yr arddangosiadau dan undeb yr ymwybodolrwydd; yr hon egwyddor yw yr uchaf yn yr holl wybyddiaeth ddynol."-Ibid. § 16.

Yn nesaf, yr ydym yn myned ymlaen at y gwaith arall sydd yn perthyn i'r deall, sef ei waith yn barnu yn ol egwyddorion. Ac yn y lle cyntaf, y mae yn anghenrheidiol i ni ymofyn pa fodd y mae y deall yn cymhwyso yr amgyffredion sylfaenol hyn at y gwrthddrychau, er mwyn ffurfio barn am danynt. Y mae y synwyrau yn rhoddi y gwrthddrychau, a'r deall yn rhoddi yr amgyffredion cyffredinol dan ba rai y mae yn rhaid eu trefnu : ond y mae y gwrthddrychau yn allanol, a'r amgyffredion yn dufewnol; a'r gofyniad ydyw, Pa le y ceir cyfryngau trwy ba rai y gall y deall drosglwyddo ei hun dros y gwagle sydd yn gwahanu rhwng corff ac ysbryd? Nid peth hawdd i'w esbonio ydyw hyn; ac nid yw yn rhyfedd fod Leibnitz yn barnu nad yw corff ac ysbryd yn effeithio ar eu gilydd, ac nad oes un dramwyfa rhyngddynt; ond eu bod yn cyfateb i'w gilydd trwy ragosodiad. Yn awr, cyn y gellir uno yr allanol â'r tufewnol, y mae yn rhaid cael rhyw gyfrwng sydd yn cyfranogi o natur y ddau. Y cyfrwng hwn, yn ol barn Kant, yw amser. Y mae amser yn cyfranogi o ansawdd y deall ar un llaw, ac o ansawdd y gallu synwyrol ar y llaw arall. Y mae yn gyffredinol, ac yn anghenrheidiol a priori, fel yr amgyffredion; ac y mae yn gynnwysedig hefyd yn mhob arddangosiad profiadol: gan hyny, gellir cymhwyso yr amgyffredion tufewnol at ymddangosiadau allanol trwy y syniad uchanianol o amser, yr hwn sydd yn cyfryngu rhyngddynt. Fel hyn y mae y syniad o amser yn ein cynnysgaethu â ffurf neu ammod cyffredinol, trwy yr hwn y gall y deall weithredu ar y gwrthddrychau, a'r hwn a elwir gan Kant yn gynllun (schema). Y mae y cynllun bob amser ynddo ei hun yn gynnyrch y darfelydd: er hyny dylid ei wahaniaethu yn ofalus oddiwrth ddelw y gwrthddrych. Y mae hwn yn wahaniaeth hanfodol. Y mae delw y gwrthddrych yn y meddwl yn rhy agos at y gwrthddrych i fod yn gyfrwng rhyngddo ag amgyffredion y deall. Nid yw y ddelw yn y meddwl, mwy nag ar bapyr, yn cyfateb ond i un gwrthddrych. Ar ol edrych ar ryw ddyn neillduol, y mae delwedd o hono yn y meddwl; ond nid yw hyn ond yr un peth a'r argraff cyntaf a dderbyniwyd trwy y synwyrau, yr hwn sydd yn aros yn y cof. Ond y mae yn anghenrheidiol cael cyfrwng mwy ysbrydol a chyffredinol; ac nis gellir deall un dyn heb ei ystyried yn ol rhyw gynllun cyffredinol o ddyn yn ddiwahaniaeth. Dyma beth yw understanding, sef dwyn y neillduol at y cyffredinol, a gosod y naill i sefyll dan y llall, er mwyn gweled eu cyfatebolrwydd. Felly y mae y cynllun o driongl yn y deall yn wahanol i bob triongl neillduol; oblegid y mae yn cymeryd i mewn yr union-onglog a'r cyfochrog ar unwaith. Y mae pob delw o driongl yn rhwym o ateb yn unig i ryw un math; ond y mae y cynllun yn ateb i bob math.

Yr ydym yn coffau yr anghreifftiau hyn i ddangos y gwahaniaeth rhwng y cynllun a delw o'r gwrthddrych: ond y cyfrwng yr hwn sydd, fel y dywedwyd, yn rhoddi cynllun cyffredinol i holl amgyffredion sylfaenol y deall yw amser. Y cynllun pur i bob maint, fel amgyffrediad y deall, yw rhifedi; yr hwn nid yw ond arddangosiad o un wedi ei ychwanegu at un yn olynol mewn amser. Wrth osod nifer o farciau ger bron, y mae genym ddelw o'r nifer hwnw; ond y mae y meddylddrych o rifedi yn gynllun cyffredinol sydd yn ateb i bob nifer. Dan yr amgyffrediad cyffredinol, pa fath, y mae genym y cadarnhaol, sef amser wedi ei lenwi; y nacaol, sef gwagder mewn amser; a'r terfynol, sef y mynediad o'r naill i'r llall. Y cynllun cyffredinol i bob sylwedd yw parhad mewn amser, hyny yw, rhywbeth yn aros o dan yr ymddangosiad cyfnewidiol. Y cynllun i achos yw olyniad yr amrywiol, mor bell ag y mae yr olyniad hwn yn ddarostyngedig i reol. Y cynllun i gymundeb y gweithredydd a'r goddefydd yw cyfamseriad y naill a'r llall, yn ol rheol gyffredinol. Cynllun posiblrwydd yw cydweddiad arddangosiadau âg ammodau amser. Cynllun bodolaeth yw hanfodiad gwrthddrych mewn amser penodol. Cynllun anghenrheidrwydd yw hanfodiad gwrthddrych bob amser.

Erbyn hyn yr ydym mewn mantais i weled pa fodd y mae y deall yn cario allan ei amgyffredion sylfaenol at wrthddrychau. Wrth gysylltu y cynllun cyffredinol o amser â phob amgyffrediad, y mae yn alluog i ffurfio egwyddorion a priori, y rhai a ellir eu rhanu, yr un modd a'r amgyffredion, yn bedwar dosbarth, gan nad ydynt ond rheolau yn dangos pa fodd i gymhwyso yr amgyffredion hyny at wrthddrychau.

[blocks in formation]

IV. EGWYDDORION GOFYNOL

MEDDYLIAD YMARFEROL YN GYFFREDINOL.

Yn yr egwyddorion hyn, yr un modd a'r amgyffredion, y mae y ddau ddosbarth cyntaf yn rhifyddegol, a'r ddau arall yn allofyddol: hyny yw, y mae gwadu y gwirioneddau a gynnwysir yn y ddau gyntaf yn wrthddywediad, fel pe dywedid fod dau a thri yn gwneyd deg; ond nid yw felly yn y ddau arall. Er hyny, y mae yr un anghenrheidrwydd ynddynt oll. Ar y ddau gyntaf y mae rhifyddiaeth, ac ar y ddau olaf, y mae anianaeth, yn sylfaenedig.

I. Egwyddorion sylfaenol Canfyddiad. Y mae y rhai hyn yn gynnwysedig yn y gosodiad, fod pob canfyddiad yn meddu ansoddau maintioli. Y mae hyn yn tarddu o'r amgyffrediad am faint, trwy gysylltu âg ef amser a lle. Y mae y cysylltiad hwn, fel egwyddor sylfaenol pob canfyddiad, yn dangos gwrthddrychau allanol yn meddu hyd a lled. Mae y gair "canfyddiad yn gyfieithiad llythyrenol o'r gair gwreiddiol Anschauung; ond dylid cofio ei fod yn cynnwys, nid canfyddiad trwy y llygaid yn unig, ond gweithrediad yr holl synwyrau corfforol.

[ocr errors]

II. Egwyddorion rhagflaenol Teimladaeth. Mae y rhai hyn yn gynnwysedig yn y gosodiad-Yn mhob ymddangosiad, y mae y sylweddol, yr hwn sydd yn wrthddrych teimlad, yn meddu gradd. Y mae teimladaeth yn gwahaniaethu oddiwrth ganfyddiad trwy ei fod yn gysylltiedig âg

ymwybodolrwydd, nid yn unig o hyd a lled, ond hefyd o sylweddolrwydd yn y gwrth ddrychau. Y mae yn ein dwyn at rywbeth sydd yn meddu intensive quality. Y mae yn tarddu o'r amgyffrediad am y Math, yn gysylltiedig åg amser; oblegid y mae pob ymddangosiad yn meddu rhyw gymaint o barhad, nid yn unig gyda golwg ar eu canfyddiad fel extensive, ond hefyd gyda golwg ar y teimladaeth o honynt fel intensive quantities.

III. Egwyddorion cyfatebol Profiad. Y maent yn gynnwysedig yn y gosodiad, fod profiad yn bosibl yn unig trwy arddangosiad o gysylltiad anghenrheidiol y teimladau. Y mae hwn eto yn tarddu o'r amgyffrediad o berthynas trwy gyfrwng amser. Y mae tri modd o amser, sef Parhad, Olyniad, a Chyfamseriad. Ae y mae hyn yn rhanu y gosodiad yn dair rhan: 1. Yn mhob cyfnewidiad ymddangosiadau, y mae y sylwedd yn parhau, ac nid yw ei faint mewn natur yn cael ei leihau na’i fwyhau.

2. Y mae pob cyfnewidiad yn cymeryd lle yn ol y ddeddf o gysylltiad achos ac effaith.

3. Y mae pob sylweddau, mor bell ag y maent yn hanfodi mewn lle yn yr un amser, yn gweithredu ar eu gilydd mewn llwyr gyfartalwch.

IV. Egwyddorion gofynol Meddyliad ymarferol yn gyffredinol. Y maent yn gynnwysedig mewn tri gosodiad.

1. Y mae yr hyn sydd yn cydweddu âg ammodau ffurfiol profiad (yn ol canfyddiad ac amgyffrediad) yn bosibl.

2. Y mae pob peth sydd yn gysylltiedig anwahanol âg ammodau materaidd profiad, yn wirioneddol.

3. Y mae pob peth ag y mae ei gysylltiad anwahanol â'r gwirioneddol yn cael ei benderfynu yn ol ammodau cyffredinol profiad, yn bod o anghenrheidrwydd.

Os cymor y darllenydd y drafferth o gymharu yr egwyddorion hyn a'r amgyffredion sylfaenol yn y rhan gyntaf i'r erthygl, caiff weled fel y maent yn cyfateb i'w gilydd, ac fel y mae yr egwyddorion yn tarddu yn anghenrheidiol o'r amgyffredion.

Cymaint a hyn am y Deall. Gwelir fod yr holl egwyddorion hyn yn cyfeirio at wrthddrychau teimladwy. Cylch y deall yw y byd anianyddol a'i ddeddfau. Ond yr ydym yn ymwybodol fod dyn yn ymgyrhaedd at wirioneddau llawer uwch, a'r gallu i gyrhaedd gwybodaeth o'r gwirionoddau hyny yw Rheswm. Dyma y gwirioneddau yr oedd Plato yn son cymaint am danynt, fel yn meddu hanfodiad sefydlog, tra y mae ymddangosiadau o bob math yn myned heibio. Prin y gallwn feddwl am Kant ei hun ei fod wedi cymeryd golwg ddigon eang ar y tir uchel hwn: er hyny y mae wedi traethu llawer am y gwahaniaeth rhwng Deall a Rheswm; ac wedi gwneyd mwy o gyfiawnder na'i gydoeswyr yn gyffredin â Plato, fel y gwelir oddiwrth y dyfyniad a ganlyn :—

"Yr oedd Plato yn gwneyd defnydd o'r gair Meddylddrych ( Idea) yn y fath fodd fel y mae yn hawdd gweled ei fod ef wrth hyny yn deall rhywbeth, yr hwn nid yn unig nid yw yn deillio o'r synwyrau, ond yr hwn sydd hyd yn nod yn ymddyrchafu yn hollol uwchlaw amgyffredion y deall, a'r rhai yr oedd a fynai Aristotl; gan nad oes dim eyffelyb iddynt un amser i'w gael mewn profiad. Meddylddrychau, yn ol golygiad Plato, ydynt gynlluniau o bethau ynddynt eu hunain, ac nid, fel amgyffredion y deall, yn unig yn agoriadau i brofiadau dichonadwy, Yn ol ei farn ef, y maent yn tarddu o'r rheswm uchaf, o'r hwn y derbynir hwynt i'r rheswm dynol, yr hwn nid yw yn aros mwyach yn ei gyflwr gwreiddiol, ond sydd gydag anhawsder yn cael y meddylddrychau eyntefig, y rhai ydynt yn awr yn dra thywyll, trwy adgofiant (yr hyn a elwir athronineth). Nid if i ddechreu yma ar ymchwiliad llenyddol, i gael allan pa feddwl oedd

yr athronydd ardderchog hwn yn ei gysylltu â'r ymadrodd. Digon yw sylwi mai nid peth anghyffredin, mewn ymddyddan ac mewn ysgrifeniadau, trwy gymharu golygiadau yr awdwr, yw ei ddeall hyd yn nod yn well nag yr oedd efe yn deall ei hun, gan ei fod o ddiffyg penderfynu ei amgyffrediad yn ddigon llwyr, weithiau yn dyweyd, ac hyd yn nod yn meddwl yn groes i'w olygiad ei hun.

Sylwodd Plato yn dra phriodol fod ein gallu gwybyddol yn teimlo anghen llawer uwch nag yn unig i sillebu ymddangosiadau, yn ol undeb cyfosodiadol, er mwyn bod yn alluog i'w darllen fel profiad, a bod ein rheswm yn naturiol yn dyrchafu ei hun at wybodaethau sydd yn ymestyn yn llawer pellach nag y mae unrhyw wrthddrych a roddir trwy brofiad yn alluog i gyfateb iddynt; ond y rhai er hyny sydd yn meddu sylweddolrwydd, ac nid ydynt mewn un modd yn ddychymygion yr ymenydd.

Yr oedd Plato yn cael ei Feddylddrychau mewn modd neillduol yn yr hyn oll sydd ymarferol, hyny yw, yr hyn oll sydd yn gorphwys ar ryddid; yr hwn sydd yn sefyll dan y gwybyddiaethau hyny ag sydd yn gynnyrch arbenig rheswm. Yr hwn a fynai gael yr amgyffredion o rinwedd oddiwrth brofiad; yr hwn a fynai wneuthur (fel y mae llawer wedi gwneuthur) y peth hwnw yn gynllun er mwyn deilliad gwybyddiaeth, yr hwn nis gall fod yn ddim mwy nag anghraifft er mwyn eglurhad anmherffaith, efe a wnai rinwedd yn ddyddymdra daueiriog, yr hwn ni fyddai yn rheol, ond yn gyfnewidiol yn ol amser ac amgylchiadau. Ar y llaw arall, y mae pawb yn gwybod, os cynnygir rhywun iddo fel anghraifft o rinwedd, fod ganddo o hyd y gwir gynllun gwreiddiol yn ei feddwl ei hun, â'r hwn y mae yn cymharu yr anghraifft, ac yn ei brisio yn gyfatebol. Ond y cynllun hwn yw y meddylddrych o rinwedd, mewn cymhariaeth i'r hwn y mae pob gwrthddrych dichonadwy o brofiad yn gwasanaethu fel anghreifftiau (profion fod yr hyn y mae rheswm yn ei ofyn yn gyrhaeddadwy mewn rhyw radd) ond nid fel cynIluniau. Nas gall dyn byth weithredu yn gyfatebol i'r hyn a gynnwysir yn y meddylddrych puro rinwedd nid yw mewn un modd yn profi fod y syniad hwn yn ddychymygol. Oblegid y mae pob barn o hyd yn ddichonadwy yn unig trwy gyfrwng y meddylddrych hwn gyda golwg ar deilyngdod moesol neu y gwrthwyneb: o ganlyniad y mae y meddylddrych yn gorwedd o anghenrheidrwydd wrth sylfaen pob dynesiad at berffeithrwydd moesol, pa mor bell bynag y mae y rhwystrau annherfynol yn y natur ddynol yn ein cadw oddiwrtho."-Des ersten Buchs der transcendentalen Dialectik erster Abschnitt.

Y mae y Meddylddrychau hyn yn gyrhaeddadwy trwy gyfrwng y Rheswm. Fel y mae y Deall yn trefnu y canfyddiadau a roddir trwy y synwyrau i ffurfio barnau am y gwrthddrychau, felly y mae y Rheswm yn cyffredinoli barnau y Deall, ac yn ymestyn at undeb hollol a diammodol. Os dywedir fod Ioan yn farwol, yr ydym yn dadgan ein barn am dano ef yn bersonol: ond nid yw Rheswm yn foddlawn ar farn am Ioan, neu Gwilym, neu ryw bersonau unigol, ac am hyny y mae yn mynu gafael mewn egwyddor gyffredinol, megys, Y mae pob dyn yn farwol. Neu pe meddyliem am y pwnc o gyfrifoldeb i Dduw, y mae Rheswm yn dwyn cyfrifoldeb unrhyw berson neillduol dan yr egwyddor gyffredinol fod pob dyn yn gyfrifol, ac yn dwyn hyny drachefn dan yr egwyddor uwch fod pob creadur rhesymol yn gyfrifol, ac fel hyn yn esgyn o hyd at yr undeb mwyaf cyffredinol. Y mae Kant yn sylwi fod tri math o undeb, at ba rai y mae y Rheswm yn ymgyrhaedd ; sef, yn gyntaf, undeb pob priodoledd mewn un tufewnol, yr hyn sydd yn rhoddi y meddylddrych am Enaid; yn ail, undeb pob ymddangosiadau mewn un cyfanswm, yr hyn sydd yn rhoddi y meddylddrych am Fydysawd; ac yn drydydd, undeb pob bod mewn un Bod perffaith, yr hyn sydd yn rhoddi y meddylddrych am Dduw. Dyma dair ffurf hanfodol y Rheswm.

Dylid cadw mewn cof fod Kant yn barnu am y ffurfiau hyn yn y Rheswm, yn gystal a'r amgyffredion gwreiddiol yn y deall, eu bod oll yn tarddu, nid oddiwrth wrthddrychau allanol, ond o gyfansoddiad y meddwl ei hun. Y mae yn profi hyn am y Deall trwy ddangos mai gwaith y Deall yw ffurfio barnau, ac y gellir rhanu pob math o farnau yn wahanol ddos-,

bertinimu, y thai svád yn cynys cynnifer o amgyffredion gwreiddiol. Òni gvum y Sewn y humor extresynandan (syllogisms), y rhai ydynt è ờn, mach, ja y pie mei eli y gyfrwydd a Rhesymeg; ac yn y tri BACH VI VT FUyn yn criciad à firtan hanfodol y Rheswm. Yn y PRCHA CHANCE ETAH yn ynresyma oddiwrth y priodoliaethau EY SUPAL V H92 grad vi en harwain at sylwedd pur, sef yr enaid. Iz e ammada inatumia e PÒym yn væresymu oddiwrth gyfosodiad Katana Pechat meet in gores y hyn syd yn ein harwain at gyfanSny MN, Sf y bebravi de yn y gwahaniaethol (disjunctive) yr VICT VI VISST azera giædiad gwahanol ranau mewn un gyfunINCL & NO SUMi yn en harvan at Un, yr hwn sydd yn trefnu y cwbl,

1 mae Kit e m peyi yn barze nad yw Rheswm yn rhoddi gwybodwch an vchod yona; ær er a fod yn ymgyrhaedd at y tri undeb a gyowyľvyà, ez nai yw yn nông i gael gwybyddiaeth sicr o honynt. Yn İNT MA NI DÜBammbran a jaĉ yn gywir; oblegid nid â gwrthddrychau y mae a fene y Sheswm, mi ie egwyddorion: a da fuasai pe ymfoddlonAKA ANTES e m madi i gale theswm o fewn ei derfynau priodol. Y mae gemeni verry, mat a theswm yn rhy bell ar un llaw ag sydd HOTI SONY CLA SIVITA 12 My bell ar y llaw arall. Er hyny nis guer à na madis, jai gargadaa Kant ar y mater hwn yn ddiffygiol mer du hech. In grad nad yw yn džigon Pistonaidd ; hyny yw, nid yw yn shade le digon mawr it erwyddorion y mae Rheswm wedi ei fwrBÀI : WEINČI I pyn yn addef mai ei orchwyl yn benaf oedd KRUHU AN UNvál y gymelina; esa gan ei fod yn cymeryd cymaint o dudeti i àänga på besh me gula y Rheswm, buasai yn addas iddo dangys yn fwy amwy ya lech a allai; obiegid, er nas gall ddarganfod personas na plechas ya ankngyrchol eto y mae yn alluog i ddarganfod genomika y rhai yayma mewn rhyw ystyr yn meddu mwy o wir hankoki na din aral, and Der et ban. Ac yn ail, dylasai roddi lle i ffydd Balbii ein gwybyddiweth; obiegid, os gallu i ganfod egwyddor*** yw wyga mi genym i weithredu ar wrthddrychau an

[merged small][ocr errors][merged small][merged small]

Ar ambell i adeg, rhwng gorchwylion mwy pwysig, cymerais fy nifyrrwch i droi rhai o ddambogion Esop, ar fath o fesur cerdd benrhydd, yn Gymraeg, yn debyg i fel y gwnaeth John Gay yn y Saesoneg, a La Fontaine yn iaith y Ffrangood. Pan welais chwi ddiweddaf, gofynasoch i mi pa bryd y cai eich Cymdeithas Lenyddol, o'r hon yr wyf yn meddu 'r anrhydedd o fod yn aelod, glywed oddi wrthyf. Gan mai rhy anfynych y

« PreviousContinue »