Page images
PDF
EPUB

"harian am yr hyn nid yw fara, na'u llafur am yr hyn nid ydyw yn digoni."

Yr ydym ni yn methu deall pa beth oedd yn galw am i'r bardd fyned mor bell oddicartref pan fyddai yn ysgrifenu ar y testunau mwyaf cyffredin. Nid ydym wrth ddyweyd hyn yn golygu fod pob cyfeiriad y mae yn ei wneyd, at ddynion a gwledydd, yn hollol anmherthynasol a dianghenrhaid; ond yr hyn sydd yn ein synu yw, fod y peth yn rhedeg drwy ei holl waith o ddim pwys o'r dechreu i'r diwedd fel prif wythïen; a hyny, rai prydiau, yn hollol ddianghenrhaid. Yr ydym yn meddwl y bu y newydd-deb hwn, ynghyd â newydd-deb cynghaneddion ein bardd, yn un o'r pethau cyntaf a dynodd sylw y wlad ato; a chan fod y beirdd, pan oedd ef yn ddyn lled ieuanc, yn dra hoff o gleciadau y cydseiniaid, ac i Ddewi allu cyfrodeddu enwau dynion a lleoedd mor ddeheuig, yn y gynghanedd gaeth, tybiasant fod un o'r "duwiau yn rhith dynion" wedi disgyn yn Nghymru: a thaenwyd ei glod ymhell ac yn agos fel prif fardd ei oes. Pe buasai ef yn cychwyn ei yrfa yn bresennol, pan y mae y gynghanedd a'r awdl mewn llai o fri nag y buont gynt, buasai ar ei oreu glas yn cyrhaedd hanner y moliant a'r dyrchafiad a gafodd. Y mae a wnelo amgylchiadau fwy nag a feddyliai neb byth a ffurfio cymeriadau ac a ffurfio cymeradwyaeth i ddynion.

Nid ydyw chwareu ar eiriau, nac arfer geiriau tywyll, na galw am eiriau perthynol i'r celfyddydau, yn cael ei gymeradwyo gan Dr. Johnson, hyd yn nod yn Milton, er nad oedd hyny yn cael ei wneyd ond yn gynnil ganddo ef, wrth ystyried mor hir ac mor gynnwysfawr oedd "Coll Gwynfa." Pa beth a ddywedasai y beirniad galluog hwnw, pe buasai yn deall Cymraeg, ac yn gallu darllen gwaith y Gwyn o Eifion? Os ydoedd yn wir am Milton, nad ydoedd efe yn adnabod y natur ddynol ond yn y cyfanswm, ac nad ydoedd erioed wedi astudio cysgodion cymeriadau, na'r cytundeb sy rhwng nwydau cyd-darawiadol, na'r dyryswch sy rhwng nwydau gwrthwynebol: os nad ydoedd tywysog y beirdd Seisnig wedi deall ond yr hyn a ddysgodd llyfrau iddo, drwy ei fod wedi ymgymysgu can lleied â'r byd, a'i fod yn amddifad o'r wybodaeth a ddysga profiad; pa faint mwy y dywedasai Doctor Johnson hyny am Ddewi Wyn, pe buasai yr ysgrifenydd mawr hwnw yn deall barddoniaeth Gymreig? Y mae drwy waith ein bardd ymadroddion annhebyg iawn i ddim a arferid gan neb o wŷr ei oes, a llawer o eiriau wedi eu symud mor bell oddiwrth eu hystyr a'u defnydd arferol, fel y mae y darllenydd anghyfarwydd, pan egyr ei lyfr, yn cael ei synu gan iaith Gymreig hollol newydd. Y mae efe wedi llusgo amryw eiriau o'u morteisiau, ac wedi gwneyd i eiriau lefaru yr hyn na feddylid iddynt wneyd erioed. Y mae yn amlwg fod "trefniadau rhanau ei waith yn afreolaidd fod y darlun yn dywyll, a'r cynllun yn ddyryslyd-fod y delwau, pa mor brydferth bynag ydynt, yn dyfod y naill ar ol y llall heb reol-ac nad yw y cyfan yn gymaint o adeiladaeth ag ydyw o bentwr o ddefnyddiau dysglaer, wedi eu lluchio ar draws eu gilydd gan ddamwain, y rhai a dynant sylw mwy fel mawreddogrwydd murddyn aruthrol nag fel ardderchogrwydd prydferth adeilad orphenedig."

[blocks in formation]

WEDI traethu am y gallu synwyrol, fel y dangoswyd yn ein rhifyn diweddaf, y mae Kant yn myned ymlaen at y deall, yr hwn yw y gallu sydd yn trefnu yr argraffiadau a dderbynir trwy y synwyrau, ac felly yn cael gwybodaeth allan o honynt. Nis gall y synwyrau ond dwyn y defnyddiau i'r meddwl yn gymysglyd; ond y mae yn anghenrheidiol eu dosbarthu yn ofalus cyn y byddont o un gwasanaeth. Y gallu sydd yn gosod y defnyddiau hyny yn eu lle priodol yw y deall. Y mae y synwyrau yn rhoddi i ni wrthddrychau, ond y deall sydd yn meddwl y gwrthddrychau hyny. Y mae galluoedd synwyrol gan y rhai hyny sydd o'u genedigaeth yn hollol amddifad o bob gallu meddyliol; ond i'r graddau y mae dyn yn alluog i feddwl, i'r graddau hyny y mae yn amcanu at reol a threfn. Dyma y ffordd y mae dyn yn dyfod yn feistr ar y gwrthddrychau, sef trwy eu dwyn dan ddeddfau y meddwl. Nid hwy sydd yn gosod deddfau i'r meddwl, ond y meddwl sydd yn gosod ei ddeddfau ei hun arnynt hwy. Y mae y gwrthddrychau allanol yn effeithio yr un modd ar synwyrau y dyn sydd heb ddeall a'r dyr sydd yn meddu deall; ac y mae yn rhaid gan hyny fod rhyw egwyddorion gwreiddiol yn y deall ei hun yn gwahaniaethu y naill oddiwrth y llall. Heblaw hyny, y mae y deall yn cynnwys deddfau, y rhai nid yw y synwyrau yn hysbysu am danynt, a'r rhai, o ganlyniad, nis gallant ddyfod trwy y synwyrau: ac os ceir fod rhywbeth yn y meddwl nas gallai ddyfod iddo oddiwrth wrthddrychau allanol, y mae yn rhaid i ni gredu fod hwnw yn tarddu o gyfansoddiad gwreiddiol y meddwl ei hun.

Er anghraifft, cymerwn ddeddf achosiant. Dyma bwne sydd wedi rhanu y meddylwyr penaf yn ddwy fyddin. Y gofyniad yw hyn; A yw ein golygiadau ar achosiant o anghenrheidrwydd yn cynnwys mwy nag a hysbysir i ni trwy gyfrwng y synwyrau? Y mae y gofyniad hwn yn graig rwystr i bawb sydd yn ceisio darostwng y meddwl dan lywodraeth y corff; ac y mae eu hymdrechion i'w ateb yn rhwym o fod yn aflwyddiannus. Er mwyn symud yr anhawsder, yr oedd Hume yn dal nas gellir meddwl dim mwy wrth achosiant nag olyniad gwastadol; ac amddiffynwyd ef yn egniol gan Dr. Thomas Brown. Yn ol y farn hon, nid yw y meddylddrych am achos ac effaith yn ddim mwy nag sydd yn tarddu yn naturiol oddiwrth y ddeddf hòno a elwir Cymdeithasiad Meddyliau (Association of Ideas). Wrth weled y naill ymddangosiad yn arfer dilyn y llall, yr ydym o'r diwedd yn eu huno â'u gilydd yn y meddwl, ac yn galw hyn yn achosiant. Ni fu un farn erioed yn fwy amddifad o bob rhith o sail. Yn gyntaf, y mae yn priodoli i arferiad yr hyn sydd yn bod yn flaenorol i bob arferiad. Pan gaiff plentyn brawf unwaith o effaith y tân, y mae ynddo deimlad mor gryf o achosiant fel nas gellir ychwanegu Yn ail, y mae yn gadael allan yr hyn sydd yn cyfansoddi hanfod y meddylddrych; fel y dywedir am hwnw oedd yn addaw rhoddi arddangosiad manwl a ffyddlawn o Hamlet, ond fod Hamlet ei hun, trwy ddeisyfiad neillduol, wedi ei adael allan. Yr hyn sydd yn hanfodol yn ein golygiad am achos yw teimlad o allu: a'r gofyniad yw, O ba le y mae hwn yn tarddu? Nid yw cydfynediad parhaus yn gwneyd y naill yn achos a'r

ato.

llall yn effaith. Y mae achosiant yn rhywbeth gwahanol a llawer uwch. Y mae yr achos yn cynnyrchu yr effaith, o herwydd rhyw allu sydd yn gweithredu trwyddo; a chan fod y gallu hwn, ynddo ei hun, yn beth nas gellir ei weled na'i deimlo, y mae yn rhaid fod y syniad am dano yn tarddu o gyfansoddiad y meddwl. Ac yn drydydd, yr ydym bob amser yn cysylltu anghenrheidrwydd â'r meddwl am achos ac effaith: ac fel y sylwyd yn yr erthygl o'r blaen, y mae teimlad o anghenrheidrwydd yn hollol wahanol yn ei natur i ddim a ddysgir i ni gan y synwyrau, ac o ganlyniad y mae yn tarddu o'r meddwl ei hun. Pa bryd bynag y gwelir effaith, y mae pawb yn teimlo fod rhyw achos yn bod iddo o anghenrheidrwydd. O ba le y daeth yr anghenrheidrwydd hwn? Nid yw y synwyrau yn cyrhaedd ymhellach na'r cylch bychan yr ydym ni yn troi ynddo; ac am yr hyn oll a hysbysir trwyddynt, yr ydym yn teimlo, o ran dim yn natur pethau, y gallasai fod fel arall: ond fod rhyw achos i bob effaith sydd wirionedd cyffredinol ac anghyfnewidiol; yr ydym yn sicr ar unwaith mai felly y mae yn mhob gwlad ac yn mhob byd, ac mai felly y mae yn rhaid iddi fod.

Yr ydym wedi galw sylw yn fwy neillduol at y pwnc o achosiant, oblegid mai hwn yw y penaf; er hyny nid yw ond un allan o amryw wirioneddau gwreiddiol sydd yn y meddwl, y rhai ydynt, os goddefir y gymhariaeth, fel cynnifer o gelloedd yn y deall i dderbyn yr holl argraffiadau a ddaw trwy y synwyrau, ac i'w gosod mewn trefn yn eu lleoedd priodol. Y mae Kant yn dangos fod y cyfryw, a pha fodd i wybod yn sicr pa rai ydynt, fel y canlyn:

"Y mae eisoes yn brawf mawr ac anhebgorol o ddoethineb a threiddgarwch meddwl ein bod yn gwybod pa beth a ddylem yn rhesymol ei ofyn. Oblegid, os bydd y gofyniad ynddo ei hun yn afresymol, ac yn galw am atebion dianghenrhaid, y mae, heblaw y gwarth sydd yn disgyn ar y neb a'i gofynodd, yn dwyn gydag ef weithiau yr anfantais o hudo y gwrandawr anochelgar i atebion afresymol, ac yn rhoddi yr olygfa ddigrifol, fod un (yn ol yr hen ddywediad) yn godro y bwch, a'r llall yn dal y gogr. Os yw gwirionedd yn gynnwysedig yn nghydweddiad gwybyddiaeth â'i wrthddrych, y mae yn rhaid i'r gwrthddrych hwn trwy hyny gael ei neillduo oddiwrth eraill; oblegid y mae gwybyddiaeth yn dwyllodrus, os na fydd yn cydweddu â'r gwrthddrych at yr hwn y mae yn cyfeirio, er ei fod yn cynnwys rhywbeth a all fod yn wir gyda golwg ar wrthddrychau eraill. Yn awr y prawf cyffredinol o wirionedd a fyddai hwnw yr hwn a ddaliai am bob gwybyddiaeth heb effeithio arno gan wahaniaeth y gwrthddrychau. Ond wrth ein bod trwy hyn yn gadael allan holl gynnwys y wybyddiaeth (sef perthynas â'i wrthddrych), ac wrth fod gwirionedd yn dwyn perthynas a'r cynnwys hwn, mae yn eglur mai anmhosibl ac afresymol yw chwilio am brawf o wirionedd y cynnwys hwn o wybyddiaethau; ac o ganlyniad nas gellir rhoddi nod o'r gwirionedd, yr hwn a fydd yn ddigonol, ac ar yr un pryd yn gyffredinol. Gan ein bod wedi galw y cynnwys yn fater y wybyddiaeth, yr ydym fel hyn dan yr anghenrheidrwydd o ddyweyd nad oes un nod cyffredinol o wirionedd y wybyddiaeth gyda golwg ar y mater, gan fod hyn ynddo ei hun yn wrthddywediad.

Ond am yr hyn sydd yn dwyn perthynas a gwybyddiaeth, gyda golwg ar y ffurf yn unig (trwy adael allan yr holl gynnwys), y mae mor eglur fod Rhesymeg, i'r graddau ag y mae yn dangos deddfau cyffredinol ac anghenrheidiol y deall, dan yr anghenrheidrwydd yn y rheolau hyn o osod i lawr faen prawf o wirionedd. Oblegid y mae yr hyn sydd yn groes iddynt yn gyfeiliornus, gan fod y deall trwy hyny yn groes i reolau cyffredinol y meddwl, ac o ganlyniad yn groes iddo ei hun.”— Kritik der Reinen Vernunft. Von der Eintheilung der allgemeinen Logik.

"Yn y dosraniad hwn yr ydym yn dosbarthu ein holl wybyddiaeth, a priori, i elfenau y deall-wybyddiaeth pur. Mae yn dwyn perthynas a'r pynciau canlynol:1. Fod yr amgyffredion yn bur, ac nid yn dyfod trwy brofiad. 2. Na fyddont yn perthyn i ganfyddiad neu deimladaeth, ond i'r meddwl a'r deall. 3. Eu bod yn amgyffredion elfenol, ac yn hollol wahanol i'r rhai deilliedig a chyfansoddedig. 1853.]

P

4. Fod y daflen o honynt yn gyflawn, a'u bod yn llanw holl faes y deall pur. Yn awr nis gellir derbyn sicrwydd fod unrhyw wybodaeth yn gyflawn wrth gyfrif rhyw rifedi a geir yn unig trwy brofion. Nid yw hyn, gan hyny, yn bosibl ond yn unig trwy gyfrwng meddylddrych o'r cwbl o'r deall-wybyddiaeth a priori, a thrwy y penderfyniad y mae hyny yn ei roddi gyda golwg ar ddosbarthiad yr amgyffredion sydd yn ei gyfansoddi: o ganlyniad, nid yw yn bosibl ond yn unig trwy eu cysylltiad mewn cyfundrefn. Y mae y deall pur yn gwahaniaethu ei hun yn hollol, nid yn unig oddiwrth y cwbl sydd brofiadol, ond hyd yn nod oddiwrth yr holl deimladaeth. Y mae gan hyny yn undod, hunanfodol, hunanddigonol, yr hwn nis gellir ei fwyhau trwy unrhyw ychwanegiad oddiallan. Y mae y cyfanswm o'i wybyddiaeth, gan hyny, yn ffurfio cyfundrefn, yr hon y mae yn rhaid ei chynnwys a'i phenderfynu dan feddylddrych, yr hwn y mae cyfanrwydd a chyfatebrwydd ei ranau ar yr un pryd yn rhoddi prawf gywirdeb a chyfreithlondeb yr holl ranau gwybyddiaeth a gynnwysir ynddo."-Ibid. Die Transcendentale Analytik.

Y mae y deall yn allu i ffurfio amgyffrediad am wrthddrychau unigol, ac hefyd i ffurfio barn am danynt yn ol egwyddorion penodol. Ond yn y lle cyntaf, dylem edrych pa fodd y mae y deall yn amgyffred gwrthddrychau unigol, ac olrhain yr amgyffredion hyn i'w hadau cyntefig, yn y rhai y maent yn aros yn guddiedig nes y dygir hwy i'r golwg gan brofiad. Wrth chwilio, yr ydym yn cael fod y deall o anghenrheidrwydd yn edrych ar bob peth a ddaw o dan ei sylw mewn pedwar golygiad; yn gyntaf, maint; yn ail, math; yn drydydd, perthynas; ac yn bedwerydd, modd. Hyny yw, y mae y deall yn rhwym o briodoli y pedwar peth hyn i bob gwrthddrych. Dyma yw ei waith, ac i hyn y mae wedi ei osod a'i gymhwyso gan y Creawdwr. Y mae yn holi, ac yn mynu atebiad i'r pedwar gofyniad, pa faint, pa fath, pa ham, a pha fodd. Ond dan bob un o'r penau hyn y mae tri dosbarth fel y canlyn:

I. MAINT.

Unigol.
Lliosog.
Cwbl.

III. PERTHYNAS.

Sylwedd, a Phriodoledd.

Achos, ac Effaith.

Cymundeb y Gweithredydd â'r

Goddefydd.

II. MATH.
Cadarnhaol.
Nacaol.
Terfynol.

IV. MODD.

Posiblrwydd, ac Anmhosiblrwydd.
Bodolaeth, a Difodiant.

Rhaid, a Damwain.

Gellir rhanu y pedwar dosbarth yn ddwy ran; y rhan gyntaf yn cynnwys y ddau ddosbarth cyntaf, y rhai ydynt rifyddegol, a'r ail ran yn cynnwys y ddau ddosbarth olaf, y rhai ydynt allofyddol. Y mae y ddau ddosbarth cyntaf yn cyfeirio at wrthddrychau canfyddiad, a'r ddau olaf at fodolaeth y gwrthddrychau hyny. Y mae pob dosbarth yn cynnwys tri o is ddosbarthiadau; y cyntaf a'r ail yn wrthgyferbyniol i'w gilydd, a'r trydydd yn cyfodi yn anghenrheidiol oddiwrth undeb y ddau gyntaf. Y mae hyn yn tarddu oddiwrth natur pethau. Y mae pob amgyffrediad yn tybied un arall yn wrthwynebol, ac y mae y ddau yn tybied rhyw drydydd, yn yr hwn y maent yn cydgyfarfod mewn undeb â'u gilydd. Felly, nid yw yr is-ddosbarthiadau yn ddim mwy na'r prif ddosbarthiadau wedi eu rhanu i'w helfenau hanfodol; a'r elfenau hyny nis gallant fod yn fwy nac yn llai na thair. Nis gallasem ffurfio amgyffrediad am unigol, oni bai fod genym amgyffrediad am liosog, nac am liosog heb yr unigol; ac nid yw y cwbl yn ddim mwy na'r lliosog yn cael ei ystyried fel unigol. Ni

buasai cadarnhâd heb nacâd, na nacâd heb gadarnhâd; a'r terfynol yw cadarnhâd yn gysylltiedig â nacâd. Nis gallasai fod achosiant heb sylwedd, ac nis gallasem gael amgyffrediad am sylwedd, ond trwy achosiant; ac undeb y ddau yw y cymundeb (reciprocity) rhwng y gweithredydd a'r goddefydd. Felly hefyd am bosiblrwydd a bodolaeth, neu anmhosiblrwydd a difodiant; ac nid yw anghenrheidrwydd yn ddim mwy na'r bodolaeth a roddir trwy bosiblrwydd. Ond ni ddylid meddwl oblegid hyn mewn un modd nad yw y trydydd o'r is-ddosbarthiadau yn elfen wreiddiol yn y meddwl: oblegid y mae cysylltiad y cyntaf a'r ail, i'r dyben o gael y trydydd, yn gofyn gweithred benodol o eiddo y deall, yr hon nid yw yr un ag a ddygir i ymarferiad yn y cyntaf a'r ail.

Ond pa fodd y gwybyddwn fod yr amgyffredion hyn yn tarddu yn wreiddiol o'r deall ei hun, ac nid yn dyfod i'r meddwl oddiwrth y gwrthddrychau? Mewn atebiad i'r gofyniad hwn, y mae Kant yn sylwi :—

"Yr amrywiaeth o arddangosiadau sydd beth a ellir ei roddi mewn canfyddiad trwy gyfrwng y synwyrau yn unig, a dichon i ffurf y canfyddiad hwn fod yn gorwedd a priori yn ein gallu arddangosiadol, ac eto heb fod yn ddim mwy na'r dull yr effeithir ar y meddwl. Ond y cysylltiad o amrywiaeth yn gyffredinol nis gall ddyfod i ni trwy gyfrwng y synwyrau, ac am hyny nis gall fod yn gynnwysedig yr un amser yn ffurf bur y canfyddiad teimladol, oblegid y mae yn weithred hunan-gynhyrfiol y gallu arddangosiadol; a chan ein bod yn galw hwn yn ddeall, i'w wahaniaethu oddiwrth allu synwyrol, y mae pob cysylltiad-pa un a fyddwn ni yn ymwybodol o hono ai peidio, pa un ai cysylltiad o amrywiaeth y canfyddiad, neu o wahanol amgyffredion, ac yn y cyntaf, o ganfyddiad teimladol neu annheimladol-yn weithred o eiddo y deall, i'r hon y rhoddwn yr enw cyffredinol o Gyfosodiad, er mwyn dangos nas gallwn arddangos dim i ni ein hunain fel yn gysylltiedig yn y gwrthddrych, os na fyddwn ni ein hunain wedi ei gysylltu yn flaenorol."-Ibid. Deduction der reinen Verstandesbegriffe, § 15.

"Yr wyf fi yn meddwl' sydd o anghenrheidrwydd yn beth a all gydfyned a'm holl arddangosiadau, oblegid heb hyn byddai rhywbeth yn cael ei arddangos ynof yr hwn nis gellid ei feddwl-yr hyn sydd yr un peth a dywedyd fod yr arddangosiad yn anmhosibl, neu o leiaf yn ddim i mi. Yr arddangosiad a ellir ei roddi cyn pob meddwl a elwir canfyddiad. O ganlyniad y mae holl amrywiaeth y canfyddiad yn perthyn yn anghenrheidiol i'r 'Wyf fi yn meddwl' yn yr un dynsawd ag y cyfarfyddir â'r amryw iaeth hwn. Ond yr arddangosiad hwn sydd weithred hunangynhyrfiol; hyny yw, nis gellir edrych arni fel yn perthyn i'r gallu synwyrol. Yr wyf yn ei alw yn ymwybod olrwydd pur, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth y profiadol; ac hefyd yr ymwybodolrwydd gwreiddiol, oblegid ei fod yr un ymwybodolrwydd, yr hwn tra yn cynnyrchu yr arddangosiad 'Wyf fi yn meddwl' yr hwn a raid gydfyned â phob un arall, a thra yn aros yr un a'r unrhyw yn mhob ymwybodolrwydd, nis gall gael un mwy gwreiddiol i gydfyned âg ef. Yr wyf hefyd yn galw ei undeb yn undeb uwch-anianol yr ymwybodolrwydd, i ddangos y posiblrwydd o wybyddiaeth a priori, yn tarddu o hono. Oblegid yr amrywiol arddangosiadau a roddir mewn unrhyw arddangosiad ni fyddent yn arddangosiadau i mi, pe na fyddent yn perthyn i ymwybodolrwydd; hyny yw, mae yn rhaid iddynt fel fy arddangosiadau (hyd yn nod pe na bawn yn ymwybodol o honynt fel y cyfryw) fod o anghenrheidrwydd yn gydffurfiol â'r ammod dan ba un yn unig y gallant sefyll ynghyd mewn ymwybodolrwydd cyffredinol, oblegid heb hyn ni fyddent yn perthyn i mi. O'r cysylltiad gwreiddiol hwn y mae llawer yn tarddu.

Er anghraifft, y mae hollol unoliaeth yr ymwybodolrwydd o amrywiaeth, yr hwn a roddir yn y canfyddiad, yn cynnwys cyfosodiad o arddangosiadau, ac y mae yn bosibl yn unig trwy gyfrwng yr ymwybyddiaeth o'r cyfosodiad hwn. Oblegid y mae yr ymwybyddiaeth profiadol, sydd yn cydfyned â'r gwahanol arddangosiadau, ynddo ei hun yn wahanedig, ac heb un berthynas ag unoliaeth y person. Nid yw y berthynas hon yn tarddu gan hyny oddiwrth fod pob arddangosiad yn cydfyned ag ymwybyddiaeth, ond oddiwrth fy mod yn ychwanegu y naill at y llall, ac yn ymwybodol o'r cyfosodiad o honynt. O ganlyniad, yn unig am fy mod yn gallu uno amrywiaeth o arddangosiadau mewn un ymwybyddiaeth, y mae yn bosibl i mi arddangos i mi fy hun unoliaeth yr ymwybyddiaeth yn y cyfryw arddangosiadau-hyny yw, nid yw undeb dosranol yr ymwybodolrwydd yn bosibl ond yn unig dan y ragdybiaeth o undeb cyfosodiadol. Y

« PreviousContinue »