Page images
PDF
EPUB

ei osod iddo, na rhyngddo a'i Greawdwr, ar unrhyw sail, am barhad bywyd mewn mwynhad o'r dedwyddwch yn yr hwn y crewyd ef ynddo. Gallasai Duw, o ran dim rhwymau penodol oedd arno, na dim oedd o'i ewyllys gwedi ei dadguddio, dynu ei law yn ol oddiwrtho, ynghyd â'r holl fyd a'i greaduriaid, am a wyddom, a'u gollwng i ddyddymdra fel o'r blaen. Oni buasai i'r Arglwydd wneuthur rhywbeth yn rhagor na'u creu, ni fuasai gan ddyn sicrwydd o barhad bywyd am un diwrnod. Ond ni adawodd yr Arglwydd y dyn yn y fath gyflwr sigledig ac anwadal; ond planodd ardd neillduol iddo, arweiniodd y dyn yn ei law yno, a rhoddodd orchymyn penodol iddo, a chadarnhaodd ei gyfammod yn eglur âg ef, am fywyd ar Îwybr ufudd-dod, a marwolaeth sicr os anufuddhâai; ac arwyddwyd ef yn gadarn trwy osodiad a neillduaeth nodedig dau bren; Gen. ii. 9. 17; iii. 24. Felly, i fyw y crewyd y dyn, ac ar lwybr bywyd y gosodwyd y dyn, a gorchymyn i fywyd a roddwyd i'r dyn, a chyfammod bywyd a gadarnhawyd a'r dyn; ac erbyn yr ystyriem yr holl bethau hyn yn eu hamrywiol amgylchiadau, pwy na ddywed, gyda'r Salmydd, "Arglwydd, pa beth yw dyn?" &c; Salm viii. 4; clxiv. 3; cxxxix. 14. A phob trefn a osododd ac a amlygodd y Jehofa erioed, mewn perthynas i fyw dyn, ydoedd, ac ydyw, trwy gyfammod; er bod llawer yn y byd, yn mhob oes, a wadant hyn, sef nad oedd cyfammod rhwng Duw ac Adda, &c. Ac onid yw yr athrawiaeth sydd yn dal nad oedd iawn Crist yn sicrhau iachawdwriaeth neb mwy na'u gilydd, a bod cadwedigaeth dyn yn sefyll lawer ar ei law a'i ewyllys ef ei hun, yn gwrthddywedyd yn amlwg (er eu bod yn son am gyfammod) nad oes yr un cyfammod mewn perthynas i iachawdwriaeth yr eglwys?

Ond am gyfammod bywyd rhwng Duw a dyn yn Eden, nid oes yr un cyfryngwr, na meichnïydd, nac aberth, na gwaed, yn perthyn iddo; canys nid oedd dyn yn bechadur y pryd hwnw, ond yn meddiannu pob cymhwysderau i gyflawni ammodau y cyfammod, mewn cymdeithas hyfryd a'i Greawdwr, heb yr un meichiau na chyfryngwr. Ac nid oes genym ddim lle i farnu fod y Jehofa Dduw wedi gwneuthur amlygrwydd o hono ei hun yn Drindod i un creadur, cyn cyhoeddi yr addewid yn Eden, ac amlygu trefn iachawdwriaeth pechaduriaid trwy Grist Iesu. Eithr yn awr, wedi y cwymp, ni welodd y Jehofa yr un drefn gyfaddas byth mwy tuag at i ddyn, fel pechadur, gael byw, ond trwy aberth. A chan fod yn rhaid i ogoniant Duw gael ei ddyrchafu yn iachawdwriaeth pob pechadur a gedwir, yr oedd raid i ryw berson cyfaddas wneuthur hyny yn natur y troseddwr; a chan fod y gwaith o gymaint pwys a chanlyniad, anghenrheidiol ydoedd i'r cyfryw fod yn feichnïydd cymhwys i ymrwymo ar ochr y troseddwr, a chyfryngwr addas rhyngddo a'i ofynwr. Ond yn union, pan yr oedd yr achos yn galw, ymagorodd amrantau y wawr, yn ngoleuni yr hon amlygwyd trefn iachawdwriaeth i bechadur mewn cnawd, yr hon oedd wedi ei chydlunio yn anfeidrol ddoeth, mewn cyfammod cadarn dïysgog, a phob peth anghenrheidiol i'r achos wedi ei gydrwymo ynddo yn nhragywyddol gynghor Duw, a modd ynddi i wneuthur pechaduriaid yn saint; Act. xx. 27; Ephes. i. 11; Act. ii. 23; iv. 28.

Ac yn mhob man, wedi y cwymp, pan y mae Duw yn nesâu at ddyn mewn ffordd o gyfammod, yr oedd hyny yn cael ei wneuthur trwy, neu 1 "Colquhoun on the Covenant of Grace" tudal. 314 a 316.

2 Er mai yn Drindod yr oedd yn creu.

uwch ben aberth. "Felly," medd y Salmydd yma, "cyfammod trwy aberth." Pan y mae yr Arglwydd yn ymgyfammodi â'r ddaear, gwedi y dylif (Gen. viii. 20-22), gwnaeth hyny uwch ben aberth; "Canys Noa a adeiladodd allor i'r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifel glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boeth-offrymau ar yr allor." A phan yr ymgyfammododd Duw mewn modd neillduol âg Abraham, efe a wnaeth hyny trwy aberth; Gen. xv. 9, 10. A phan y mae yn cyhoeddi ei gyfammod ar Sinai, ac yn ei gadarnhau â holl Israel, gwnaeth hyny trwy aberth; Ecsod. xxiv; Heb. ix. 19, 20. Dafydd; Salm lxxxix; lxvi. 13, &c. Solomon; 1 Bren. viii. 5. Yr oedd yr holl gyfammodau gweledig hyn yn brawf sicr o'r cyfammod tragywyddol, ac yn rhyw arddangosiad o'i natur (2 Sam. xxiii. 5; Esay ix. 6, 7), yr hyn oedd ddirgelwch ewyllys Duw ; Eph. i. 9.

"Trwy aberth." Mae aberth yn dywedyd ynddo ei hun fod trosedd, soriant, llid, melldith, a marwolaeth yn bod, o herwydd anfoddloni rhyw un; ac yr oedd y troseddwr tan rwymau i ryngu ei fodd; ac yn brawf amlwg fod rhywun wedi machnïo i ateb yn lle y troseddwr ; ac mai trwy arall yr ydoedd iddo gael byw mwy, ac nid trwyddo ei hun na'i deilyngdod. A dyma swm y peth oedd gan yr hen batriarchiaid, ynghyd â Moses a'r holl brophwydi, yn manwl chwilio am dano, ac yn ei ragfynegu trwy ddadguddiad ag oeddynt yn ei gael yn ngoleuni a chynnorthwyon yr Ysbryd trwy yr addewid a'r cysgodau; 1 Pedr x. 11, 12; Actau x. 43; Ioan v. 46. A dyma yr hyn a gynnwysir, yn gyflawn, yn rhagymadrodd gweddi Crist, yn Ioan xvii. 3; "A hyn yw y bywyd tragywyddol, iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, lesu Grist." Yr oedd gan y cenedloedd, wrth oleuni natur, ryw adnabyddiaeth o'r gwir Dduw (Rhuf. i. 21); ond nid oedd ganddynt ond rhy brin ddychymyg am yr hwn a ddanfonwyd; Ephes. iii. 8, 9. Ac y mae llawer ag sydd â gwybodaeth athrawiaethol ganddynt am y gwir Dduw, a'r hwn a ddanfonwyd, eto heb ei adnabod na'i werthfawrogi yn ol natur a dyben ei anfoniad; ac felly y maent yn fyr o'r bywyd sydd trwy gyfammod ac aberth, ac ni chesglir hwy gyda'r saint; Mat. vii. 21-23; 2 Tim. ii. 18-20.

Mae yn sicr, yn wyneb amryw o Ysgrythyrau eglur, fod achos a threfn iachawdwriaeth pechaduriaid yn gorwedd yn dragywyddol, mewn cyfammod, yn mynwes ac ewyllys y Drindod, yr hyn a eglurwyd yn yr amserau priodol; ac fel y mae'r achos yn perthynu i drefn cadwedigaeth pechaduriaid, amlygir ef yn wastad gyda rhyw ymadroddion sydd yn cyfeirio at waed neu aberth, neu farwolaeth-megys testament; Heb. xiii. 20; ix. 15-20; viii. 6; a vii. 22; Zec. ix. 11; Esay xlix. 2, &c; a liii. A'r eglurhad o'r drefn hon a alwodd hefyd am yr eglurhad ddwyfol o'r Drindod, sef fod tri gwahaniaethol bersonau mewn un hanfod, a bod y naill wedi ammodi i'r llall yn yr achos rhyfeddol hwn, a hyny mewn cynghor tragywyddol ; (Eph. i. 5, 11; Actau iv. 28); megys y Mab yn ammodi fel Meichnïydd, a'r Tad yn ei ofyn, yn ol natur y feichnïaeth, am yr oll yr ymrwymodd fel Meichniydd; yr hyn oedd, cymeryd eu natur, a gweini ynddi yn gyflawn eu hachos, hyd yr offrymiad a wnaeth o hono ei hun yn bridwerth digonol yn eu lle; Heb. ix. 14; Mat. xx. 28; Salm xl. 7, &c; a Heb. ii. 10, &c. Ac y mae y Mab, weithiau, fel Meichnïydd, yn cael ei ystyried yn gofyn y Tad am yr hyn a addawodd iddo yn y gwaith; megys, ei Ysbryd, ei amddiffyn, a'i gynnorthwyon, &c. (Salm cx. 7; xxii. 19; Esay xi. 2; xlix. 2; 1. 7; a

Ioan xii. 27, 28); ac wedi myned trwy y gwaith drostynt ar y ddaear, ac adgyfodi ac esgyn, mae yn cael ei dderbyn i'r orsedd, i eistedd ar ddeheulaw Duw Dad, ac yno i dderbyn gwobr o'i waith; a thrwy ei eiriolaeth, yn nheilyngdod ei aberth, mae yntau yn gofyn y Tad am yr hyn a addawodd ac a ammododd mewn canlyniad i'r Mab, fel Meichniydd, ei foddloni yn ei ddarostyngiad a'r offrymiad o hono ei hun; megys, awdurdod ar bob peth, &c; ac yn benaf tywalltiad yr Ysbryd, anfoniad yr efengyl, galwad y cenedloedd, yr orsedd a'r freniniaeth yn Sion, ar yr hon y mae yn gweini, &c; Salm cx. 1; ii. 7, 8, &c; lxxii; lxxxix. 3, 4, 19, &c; Esay xlix. 6, &c; xlv. 2, &c; xliv. 3, &c; Joel ii. 28, &c; Ioan xvi. 7, &c; xiv. 16; 1 Ioan ii. 1; Heb. viii. 2.1

Ond er bod y saint a'r etholedigion wedi eu gosod yn gyfammodol yn Nghrist, fel y pen yn y cyfammod, cyn bod y byd (Eph. i. 4), eto y maent, wrth eu naturiaeth bechadurus, yn blant digofaint mor hollol ag eraill; Eph. ii. 3. Ië, er yr hyn oll a wnaeth Crist trostynt, fel eu Meichnïydd, nid oedd hyny hefyd yn gwneuthur dim cyfnewidiad ar eu cyflyrau fel pechaduriaid, mwy na'r peth mewn arfaeth; canys yr oedd myrddiynau wedi eu hachub trwy ras, a'u galw, cyn marwolaeth Crist ar Galfaria; ac eraill, fyrddiynau, ag oeddynt i'w hachub, heb eu geni. Felly, un peth oedd eu bod mewn cyfammod tragywyddol yn Nghrist, peth arall yw eu dwyn yn weithredol i gyfammod tragywyddol â Duw trwy aberth Crist. A thuag at hyn y mae Crist Iesu ar ei orseddfaine yn Sion yn gweini pob swydd ynghyd, fel brenin, offeiriad, a phrophwyd, a hyny er y dydd cyntaf yr amlygwyd trefn iachawdwriaeth yn nghyhoeddiad yr addewid yn Eden, trwy weinidogaeth ei air a'i Ysbryd, ynghyd â'r moddion a'r ordinhadau ag oedd yn ei weled yn dda eu defnyddio tan bob goruchwyliaeth. Hyn, cyn dyfodiad Crist, a weinyddid ar sail y peth a wnai; ond gwedi ei ddyfod, y mae y cwbl yn cael ei weini ar sail yr hyn a wnaeth, sef ei holl ufudd-dod meichnïol hyd angeu y groes, yr hyn a roddodd yr holl destament mewn grym tragywyddol; Heb. ix. 17, &c; xiii. 20; 1 Pedr i. 20; Zec. ix. 11.

Fel brenin, mae ganddo awdurdod i ddanfon yr efengyl i'r wlad y myno, a pheidio ei danfon lle bo'n dewis; galw y neb y myno, a gadael eraill iddynt eu hunain. Fel offeiriad, offrymodd ei hun yn bridwerth i Dduw, tros y rhai oll a roddwyd iddo gan y Tad; a thrwy rinwedd teilyngdod hwn, fe adgyfododd ac a esgynodd, ac y mae yn byw bob amser i eiriol gyda'r Tad am hollol gyflawniad dybenion y pwrcasiad, anfoniad yr Ysbryd, a phob rhyw fendithion a gras. Ae fel prophwyd, mae yn gweini addysg sanctaidd i bechaduriaid tywyll trwy yr efengyl, &c., ag sydd yn agoryd eu deall, fel y mae goleuni y bywyd yn tywynu i mewn, yr hwn sydd yn dwyn gydag ef y fath argyhoeddiad awdurdodol i'r holl ddyn, gyda'r hwn y mae y fath berswâd rymus, ag sydd yn ennill y serch o'i ffordd ddrwg, a'r ewyllys o'i chyndynrwydd, ac yn puro y gydwybod mewn barn, ac yn cyfeirio holl enaid y dyn, fel creadur rhesymol, i lwybr y bywyd (Salm xix. 7; Act. xxvi. 18), gan ddarostwng ei holl feddyliau chwyddedig a chamsyniol i ufudd-dod Crist (2 Cor. x. 5); ac yn ngolwg eu colledigaeth, ar alwad yr efengyl, maent yn troi eu golwg at Dduw trwy ffydd, gan wneuthur cyfammod âg ef trwy aberth; 2 Tim. i. 12.

'Gwel "Witsius on the Covenant between the Father and the Son :" llyfr ii, pen ii. "Geiriadur Ysgrythyrol," ar y Cyfammod Gras. "Drych y Dadleuwr:" tudal. 81-86.

Mae gwneuthur cyfammod yn arwyddocäu yr hyn a gynnwysir yn gyflawn mewn gwir gredu. Mae mewn cyfammod bleidiau, a chydsyniad rhyngddynt mewn mater, a hyny nid oddiar ryw nwyd anianol, neu ddychymyg anwadal, yr hon sydd heddyw fel hyn, ond yfory fel arall; ac felly, er cydsynio unwaith, nis gwyddis pa bryd y gelwir y cwbl yn ol. Ond cydfeddwl mewn eithaf difrifwch diragrith, ac ymroddiad, ac ymrwymiad, mewn gweithred gadarn, yr hon a arwyddir gan bob un o'r pleidiau; ac felly y mae y cyfammod yn weithred sicr o barhau am yr yspaid a nodwyd ynddo. Ac am yr ymrwymiad a'r ymroddiad sydd yn y weithred o wir gredu, rhwng Duw a phechadur, a rhwng pechadur a Duw, yn aberth Crist, nid gweithred yw a bery tros hyn a hyn o flyneddau, ond gweithred dragywyddol yw, ac ymrwymiad a bery yn annattodol byth; Esay liv. 10; lvi. 4, 5; Rhuf. viii. 38, 39.

Dyma brif ddyben pregethu yr efengyl i bechaduriaid, a hyn yw prif fendith gwir weinidogaeth yr efengyl i bechaduriaid, a gweithrediad cadwedigol Ysbryd y gras ar bechaduriaid, sef eu goleuo a'u hargyhoeddi am yr hyn oll sydd yn ddrwg, a'u dwyn uwch ben eu colledigaeth i'w chredu; ac yn wyneb hyn, troi eu golwg at Dduw yn wyneb aberth; a than arweiniad gweinidogaeth yr Ysbryd, maent yn ymorphwys ar Grist a'i aberth am fywyd; 1 Tim. i. 15. A thyna'r pryd, trwy yr un aberth, y mae Duw yn cyhoeddi ei hun yn Dduw iddynt hwy, yn Dad, yn Briod, a Gwaredwr; ac i fod iddynt y peth ydyw fel eu rhan, a'r peth a addawodd at eu hachos, a'r peth a all at eu gwared, a phob peth a fedd yn weision iddynt, er eu lleshad yn y byd hwn a'r byd a ddaw; Heb. viii. 10; Zec. viii. 8; 2 Cor. vi. 16; Rhuf. viii. 28, 31. Ac yma, trwy rinwedd yr olwg ar, a'r dadguddiad o yr un aberth, mae y pechadur gwrthryfelgar yn rhoddi ei arfau i lawr, ac mewn gwir edifeirwch am ei holl wrthryfel, yn syrthio at Dduw am faddeuant o'i holl bechodau, a thrwy ffydd yn rhoddi ei hunan i fyny iddo ar ei air (2 Cor. vi. 17, 18), a'i enaid yn ymfoddloni mewn syndod ar y drefn o'i gadw byth (1 Tim. i. 15), ac yn rhoddi ei hunan, gorff ac enaid, at ei wasanaeth byth (Rhuf. xii. 1; vi. 19), a chyflawni ei ddyledswydd iddo, fel plentyn at ei dad, byth (Eph. v. 1, &c.), a nesu ato, a byw iddo, a byw arno, gan ddywedyd, "Tydi a gei fod yn Dduw i mi byth" (Gen. xxviii. 21; Hos. ii. 23; xiv. 2, 3; Esay lxiv. 8, 9, &c.), a'r cwbl â'u golwg trwy ffydd ar yr aberth, a thrwy rinwedd y dadguddiad dwyfol o hono.

Ac fel hyn y maent yn cymeryd gafael ar ei gyfammod (Esay lvi. 2, 4), ac arno ei hunan yn ei gyfammod (Salm lxxxix. 26, &c.), gan ei ystyried y peth yw iddynt hwy, a'r peth ydynt hwy iddo yntau (Jer. xxxi. 9; 2 Cor. vi. 18; 1 Cor. vi. 19, 20; Dad. xxi. 2, 7), a'r cwbl yn yr aberth. Dyma yr unig fan, trwy y nefoedd a'r ddaear, lle y gall Duw a phechadur gyfarfod fel hyn (Ioan xiv. 6). "Wnaethant gyfammod â mi trwy aberth"-dyma yr unig fan a'r ffordd a drefnodd doethineb Duw i wneuthur ei elyn yn blentyn, pagan yn gristion, a phechadur yn sant; Esay xliii. 19-21. "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth."

Mae yn rhaid, gan hyny, wrth ystyried natur ac amgylchiadau y ddwyblaid sydd yn ymgyfammodi, fod yr aberth yn rhywbeth a ryfeddir byth. Yn laf, Wrth ystyried mawredd Duw a'i natur. Bod anfeidrol, anfarwol, annechreuol, tragywyddol, ac anfesurol, yn mawredd gogoniant ei holl berffeithiau, hwn yn gallu nesâu mor agos at ddyn, a'i dderbyn i

[ocr errors]

gyfammod âg ef, yr hwn nad yw o ran ei sail ond pryf, ac abwydyn o'r Ilwch, ac a falurir yn gynt na gwyfyn; Job iv. 19. Yn 2il, Duw, yr hwn y mae perffeithrwydd ei natur a'i ewyllys yn anghyfnewidiol; purdeb ei holl briodoliaethau megys tân ysol yn erbyn yr hyn oll sydd yn wrthwyneb i'w natur a'i ewyllys, ac yn Dduw eiddigus am ogoniant ei enw, ac ni ddïeuoga yr anwir; a'r dyn, yr hwn a dorwyd o'r clai, eto a osodwyd gan Dduw mewn anrhydedd mawr yn Eden, eto a ruthrodd yn erbyn mawredd a gogoniant ei Greawdwr, trwy annogaeth Satan a'r sarff, gan ddiystyru ei orchymyn, a thori ei gyfammod, a syrthio tan farn marwolaeth dragywyddol ac anocheladwy,-eto, hwn yn cael ei alw yn ol, a'i godi o ddyfnder ei farwolaeth, a'i droi, nes y mae yn dychwelyd yn ewyllysgar ac edifeiriol yn ol, er holl rym ei elyniaeth a'i wrthryfel, ac yn cael ei dderbyn i heddwch ei Arglwydd, a'i ddwyn i gyfammod newydd âg ef, ar sail na siglir, ac mewn modd nas torir byth, sef trwy ABERTH; Esay liv. 19; 2 Tim. ii. 19.

Mae yn rhaid, gan hyny, fod yn yr aberth hwn, a'i offrymiad, bob addasrwydd a chyflawnder perthynol i'r ddwyblaid, a hyny mewn anfeidroldeb diball; bod pob gweithrediad perthynol iddo yn ol trefn a gosodiad tragywyddol; fel yr oedd mewn mawredd ac awdurdod, tan zel Duw Dad, yn myned trwy ei waith i gyd, ac fel y gellir dywedyd yn awr am dano, ïe, yn wyneb yr holl fyd, "Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw;" Rhuf. iii. 25. "Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig;" Act. iv. 12.

O dan y gyfraith, yr oedd gofal mawr mewn amryw bethau tuag at gael aberth cyfaddas:-1. Defnydd glân dĩanaf; Ecsod. xii. 5; Lef. xxi. 20, &c. 2. Allor yn ol y portread; Ecsod. xx. 24, &c; Heb. viii. 5. 3. I weini yn yr offrymiad, yr oedd y Lefiaid a'r offeiriaid, yn eu hamrywiol swyddau a graddau, ynghyd â'r archoffeiriad, â phob rhyw wisgoedd (Eesod. xxviii; Lef. viii) cyfaddas i'r gwaith. Yr oedd yr holl bethau hyn, ond eu hystyried, yn pregethu mawredd y gwaith, gwerthfawrogrwydd yr aberth, yr anghenrheidrwydd am dano, a phwysfawrogrwydd yr achos yn ei holl amgylchiadau. Ond yn nghanol yr holl drafferth, y costau, a'r gofal, y pwynt oedd gwneuthur aberth; ac er eu holl ebyrth a'u gwaed, &c, nid oedd y cwbl ond cysgod prin o'r aberth oedd yn eisieu (Heb. vii. 19; Mica vi. 8); yr hwn, wrth farw, a roddai y testament mewn grym tragywyddol yn ei waed: ac er prawf ei fod wedi gorphen y gwaith oedd iddo i'w wneuthur, a llwyr fuddygoliaethu wrth farw, adgyfododd yn y mynydau gosodedig yn y cyfammod, yr hwn a sicrhawyd yn gyflawn yn ei waed, mewn perthynas iddo ei hun, a'i holl eiddo cyfammodol; Heb. xiii. 20; Hos. vi. 2; Esay xxvi. 19; Job vi. 39; 1 Cor. xv. 20; Rhuf. iv. 25; v. 10.

Yn awr, gyda'r apostol yn rhwydd y dywedwn, " Yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd,” &c; 1 Tim. iii. 16. Person tragywyddol y Mab yn cymeryd ein natur i undeb âg ef, yn nghroth morwyn; ac nid o had gŵr, ond had gwraig; felly, ni chenedlwyd ef yn Adda, yn naturiol na chyfammodol (1 Cor. xv. 47; "Witsius:" llyfr ii, pen. iv, adran 4); eto, yn wir ddyn; 1 Ioan i. 1. Hwn, yn ei Dduwdod a'i ddyndod, oedd yr allor a'r aberth. Ni buasai yn gymhwys i'r

« PreviousContinue »