Page images
PDF
EPUB

drwyn llym Rhufeinig yn arwyddo ei fod yn rhywbeth allan o'r cyffredin.

Pedwar o nifer yw teulu Elias; ac y mae i bob un o honynt ei swydd. Dernyn o ddyn bach byr, cadarn, cyflym, a'i war yn crymu ychydig, yw gŵr y tŷ; ei swydd ef yw tendio 'r shop, a galw am "dorth 'whech." Tamaid o fenyw Gymreigaidd, ac eithaf gwladaidd yw Nansi: crasu bara yw ei galwedigaeth hi, o'r boreu hyd yr hwyr, o foreu dydd Llun hyd nos Sadwrn. Gorchwylion y merched, Mari fwynaidd-trin y bwyd a'i ddarparu; ac Elen ffraeth-hilio y byrddau. Elias yw oracl Llanwrtyd. Y mae yn gorff o dduwinyddiaeth, yn hanesydd manwl, yn fardd gwych, yn hen gofiadur croniclaidd, yn ystoriwr difyrus, a lloned ei ben o synwyr (ang) cyffredin.

Pan ddaethom i mewn yma gyntaf yn mraich ein cyfaill, yr oedd llonaid yr ystafell o ddynion, o bob oed ac ymddangosiad ;-rhai yn darllen, rhai yn clebran, rhai yn ysmocio, ac eraill yn gwneuthur dim; ac un o blant yr awen ar ei draed, yn cerdded o gylch y bobl, y bibell yn ei law, yn procio ei phen â'i fys bach, ac yn canu am gardod

"Hir iechyd a bywyd y bo

I'r tebyca i ranu tybaco."

Yn nhymmor ein harosiad yn y lle, ymwelwyd â'r ardal gan fwy na deg ar hugain o wŷr llen, y penaf o ba rai ydoedd ryw barchedig o un o brif borthladdoedd Lloegr. Dyn gwerth siarad âg ef, ac am dano, ydoedd hwn: yr oedd ganddo dair neu bedair blynedd yn fyr o gyrhaedd triugain oed. Yr oedd ei ymddangosiad, a'i holl ymddygiad, yn syml a gweddaidd. Meddai ar un o'r wynebau mwyaf dedwydd; yr oedd pelydriad ei ddau lygad siriol yn gwneyd i'w wyneb lewyrchu gan hapusrwydd, fel pe buasai dan wên ddigwmwl yr haul. Byr iawn ei olwg yw y dyn fedr graffu ar y cyfryw wyneb, heb ei ganfod yn index o ryw doraeth o synwyr, pwyll, diniweidrwydd, a chariad. Dysgasom oddiwrth ein cyfaill hwn, nad gwir yw yr hyn a fynai llawer coegyn penwag, sydd â'i holl ragoriaethau tuallan i'w groen, i ni ei gredu; sef fod siarad â phobl gyffredin, a chyfeillachu â hwynt, yn darostwng ac yn anafu gwir fawredd. Gwilym Hiraethog, os da y cofiwn, a glywsom yn dyweyd, mai dyn yn unig fedr chwerthin; a chynghorai ni i ochelyd bob amser y dyn nad allai chwerthin. Byth oddiar hyny, yr ydym wedi cael fod rhywbeth yn y sylw: y gwr fedr chwerthin o waelod ei fola, teimlwn barodrwydd mawr i roi ymddiried ynddo. Ond y chwarddwr goreu a glywsom erioed ydoedd ein cyfaill hwn: medrai chwerthin yn ddoniol; ymaflai yn môn ei fraich, a gwasgai hi dan chwerthin, nes yr ofnem ar brydiau i rai o gortynau ei babell dori; ac yr oedd dylanwad ei chwerthin lawn mor feddyginiaethol i ni a dwfr y ffynnon. Cawsom ddifyrwch mawr, adeiladaeth lawer, a gwleddoedd breision, yn ei gyfeillach, ei ymddyddanion, a'i bregethau. Hir y parhao ei oes, a'i lafur i wasanaethu ei genedlaeth. Yn ei briod, cawsom fam dyner a gofalus; yr oedd rhagoriaethau benywaidd wedi cyfarfod ynddi yn hynod gyflawn a hapus. Ei gorchwyl mwyaf pleserus hi wrth dreulio ei horiau yno, oedd dal ar dafodiaith yr ymwelwyr a'r preswylwyr. Aeth â rheffyn cyhyd a braich o eiriau ganddi adref, y rhai a gyfansoddent gystal pregeth o dafod dyeithr i Formon ag a allai byth ddymuno.

Yr oedd yno ychydig o gymeriadau eraill gwerth eu coffa. Un brig noson, daeth yno ddyn byr, bach, teneu, a dillad duon yn ei gylch, o gyf

eiriad Morganwg: buasai yn sicr o ddemandio eich sylw yn nghanol llwyth omnibus. Yr oedd ganddo ben mawr lluniaidd; yn gwisgo ei het yn go isel; ei wallt yn ddu-yn gruch fel y fran; ei wynebpryd teneu o wedd tywyll a gwelw; talcen braf; aeliau duon bwäog; llygaid mawrion llwyd-ddu, dysglaer, yn chwyddo allan-digon i beri dychryn yn y fron wrth edrych arnynt: gallesid meddwl mai rhyw foreigners oedd ei lygaid, ac mai prin oeddynt yn hoffi eu lle; a braidd na theimlem yn anhapus rhag y byddem yn dystion o'u ffoedigaeth. Yr oedd ei wyneb, o'i lygaid i lawr, yn ddigon dymunol. Yr oedd ei olwg yn feddylgar ac athronaidd; ac yn sicr i chwi, yr oedd tipyn o eiddo go dda dan ei wallt. Barnai rhai fod yno lawer gormod i ateb y llipryn corff oedd ganddo. Byddai yn esgeulus yn ei wisgiad, ac yn agored i gamsyniadau aml gyda phethau dibwys. Nid oedd dàl yn y byd arno tuag amgylchoedd y cwpbwrdd a'r ford, yn ei letŷ-torth pwy fuasai yn ei dafellu, yn nghosyn pwy y buasai ei gyllell, neu yn nghwpan siwgr pwy y buasai ei lwy: nid o'i fodd, ond yn berffaith ddifwriad. Yr oedd hwn yn chwarddwr iach hefyd. Medrai drin pwne, a dadleu arno yn go gampus. Iselder ysbryd yw ei glefyd penaf ef; a dylai fyned i'r ffynnonau ddwywaith y flwyddyn.

Am ein cyfaill arall, yr hwn a barotôdd i ni letŷ, a'n derbyniodd yno mor groesawgar, a'n cywely dros yr holl amser,-un o feibion Morgan oedd yntau. Yslebyn o ddyn main, tàl, teneu, llawn chwe' troedfedd o hyd, yn nhraed ei 'sanau, ydoedd. Yr oedd gwallt hwn eto yn ddu, sidanaidd; ei wynebpryd yn deneu, o liw llwydgoch. Yr oedd yn hynod yn nghanol y llu, am y byddai agos o'i ysgwyddau i fyny yn dalach na'r talaf. Ei ddelweddau amlycaf oeddynt sirioldeb a chyfeillgarwch. Yr oedd ynddo lawer o'r bardd; ac adroddai aml ddernyn o farddoniaeth nes gwneyd i lonaid tŷ o honom wylo ein teimladau

"Yn ddagrau melus iawn.'

Nid allai y pruddglwyf aros pum mynyd dan yr un gronglwyd a hwn; yr oedd ei dafod fel pin ysgrifenydd buan; siaradai yn ddidor dri diwrnod; yr oedd ei ystorïau difyr, ei wits chwilboeth, ei ganu soniarus a dylanwadol, yn cadw llïaws o gwmpeini gerllaw iddo bob amser, ac yn ddigon i beri anghofio bwyd a gwely. Ystyriwn fod yr holl ymwelwyr â'r ffynnonau ar y pryd yn ddyledus iddo; ac oddieithr fod "apostol y dwr" ei hunan yno, y byddai yn werth iddynt anfon am dano i'w cyfarfod y tro nesaf, a'i gosti yno i'w difyru. Yr oedd ei serchogrwydd, a thynerwch ei deimlad, yn ddiarebol

"Ei fron yn galon i gyd."

Dangosai ofal am bawb, fel pe buasent ei berthynasau agosaf. Gwelsom ef yn prynu gwerth ceiniog o fara a chaws i'w rhanu rhwng y pysgod dan y bont, yn unig o dosturi atynt, y rhai a'i llyncent yn ddigellwair ac yn ddoniol ryfeddol.

Yr oeddem ein pedwar fel twr o ser bob amser gyda'n gilydd; neu, yr oedd ein cyfaill o Loegr fel haul, a ninnau yn dair seren sefydlog yn troi o'i gwmpas. Yr oedd ugeiniau eraill i'w gweled yn awr ac eilwaith, fel ser gwibiog; ond am y pedwar, pa le bynag y ceid un, yr oeddynt oll o hyd galw. Buom am bythefnos mewn ardal anial, yn cydeistedd, yn cydfwyta, yn cydymddyddan, yn cydrodio, yn croesddadleu, yn cydgneua, yn "hel jobau"-ac, yn wir, er fod ein pen yn hynach ac yn drymach na'r un o honom, efe oedd y goreu i gneua o lawer, fel yr oedd yn oreu i bob

peth. Er ein bod oll yn adwaen ein gilydd o'r blaen, rhoddwyd twymias i'r cyfeillgarwch yno nad oera byth.

Awr o ddysgwyliad a phryder yn Llanwrtyd ydoedd amser pasiad y bus; oblegid byddai yn dwyn rhai newydd-ddyfodiaid, ac yn yspeilio rhai o'n cwmni, bob dydd. Ar ei phen un diwrnod, yn dyfod i fyny o sir Gaerfyrddin, gwelem ddyn mawr, tywyll, penddu, yn crymu ychydig yn ei war, ac yn edrych yn dra phatriarchaidd. Disgynodd i lawr, a bwriodd ei goelbren i'n plith. Cawsom lawer awr felus o gymdeithas âg ef. Yr oedd cryn dipyn o'r wag yn hwn; a byddem yn llwyr gredu ei fod â'i gorsen fesur allan yn ein treio oll, yn mhob ysgogiad. Yr oedd hwn yn Ilawn o deimlad y bardd, ac o dalent yr emynwr. Perthynai i Abraham, heblaw trwy ffydd; a dygai y prawf o hyny yn ei wedd, ac ar ei dafod. Yr oedd yno un arall, a'r un gwaed yn rhedeg trwy ei wythïenau: yr oeddynt yn asio Iuddew a Groegwr yn un yno.

Dygwyddodd fod nythiad o hen lanciau yn lletya yn yr un tŷ a ni; ac nid ydym un amser yn rhyw hoff iawn o'u cwmniaeth. Dynion sychion, a diafael ydynt yn gyffredin; ac o'r braidd y maent, nac y teilyngant fod, yn aelodau cymdeithas. Dywedodd un dyn gwybodus, nad yw hen lancedigaeth i'w gael ymhlith creaduriaid direswm; fod natur yn cyffroi rhag y fath syniad. Nid oeddem yn synu fod y rhyw deg yn edrych arnynt gyda'r fath ddirmyg gwrthwynebus. Beiddiodd un hen lanc trwsiadus, wrth estyn ei bibell i'r tân, ar ol ciniaw, dori allan i ddyweyd ei brofiad ar g'oedd y cwmni, yn y pennill canlynol:

"Twyll i gyd yw merched ifanc,

O'u crafangau braint yw dianc;
Ac am eu gormes twyll a'u twrw,
'Rwy'n penderfynu byw yn weddw."

Cyffrôdd ysbryd rhyw ddynes a eisteddai gyferbyn âg ef, yr hon ydoedd ferch ieuanc oddeutu pymtheg ar hugain oed, ac yn meddu pen a chalon; edrychodd yn watwarus arno, a gollyngodd yr yslach yma yn ol i'w wyneb yn dra doniol

"Be' wyddost ti, yr adyn gwirion,
Am gyfeillach fwyn morwynion?
Yn weddw bydd, a dal dy dafod !
Pwy sydd am dy gael yn briod ?”

Am yr hen lane sydd felly wrth naturiaeth, os oes un felly, nid oes genym ddim i'w ddyweyd, ond mai blin yw ei dynged; ac am y rhai sydd yn hen lanciau o gariad at eu pyrsau, neu rywbeth gwaeth, tybiwn eu bod yn haeddu eu poeni a'u dïystyru.

Rhaid i ni eto ysgrifio gair o hanes ein hymweliad â "Chamau'r Bleiddiaid;" a elwid felly, "medda nhw," am fod yno le cyfleus i'r bleiddiaid yn yr hen amser gynt i groesi yr afon o un mynydd i'r llall, i ddal a dyfetha eu hysglyfaeth. Yr oedd genym wyth milltir o ffordd, gyda glàn afon Irfon, a'n hwynebau tua chwr uchaf sir Aberteifi. Er fod ein llwybr yn arw, yr oedd y golygfeydd yn adfywiol. Yr oeddem yn myned trwy ddyffryn cul, troellog, rhwng mynyddoedd uchel geirwon, a chreigiau hyllion cribog, a llu o dwmpathau mawrion, y rhai a gydeisteddent mor hapus, ac a ymddangosent fel crug o bendefigion wedi cyfarfod-yn mwynhau eu gorphwysfa, ac yn gwlychu bodiau eu traed yn yr afon loew drystiog, a ddolenai heibio trwy y gwaelodion. Wedi teithio chwe' milltir, a myned heibio hen ffermdŷ unig a gwael, a llan mwy unig a gwaelaf

Abergwesin, yr oeddem yn gadael tai a dynion, ac yn dilyn glàn yr afon i'r mynydd-dir anial. Ac erbyn pedwar o'r gloch, ar brydnawn heulog, yr oeddem (wyth o nifer) wedi cyrhaedd y fan; ac am unwaith, beth bynag, aeth "Camau'r Bleiddiaid" yn gamau dynion. Lle ydyw, ag y mae dyfroedd Irfon wedi gwneyd gorchestion, dybiem ni, nad allasai eu cwblhau heb ugeiniau o filoedd o flyneddau o ymdrech didor. Y mae wedi gweithio ei ffordd drwy galon y creigiau oesol, gan adael yma a thraw fwäau crogedig dros ei ffrydiau gorwylltion. Weithiau, byddai ei gwely cul a thlws mor llyfn a'r mynor; bryd arall, yn llyn llonydd, mor grwn a chrochan, ac heb un gwaelod i'w gael iddi. Collem hi weithiau yn ddisymwth, canys ymollyngai yn gryno i'r ddaear o'r golwg, a chlywem hi yn brwlian yn ngheudod y graig. Ychydig latheni nes i lawr, ymdaflai allan yn ffyrnig a bygythiol; yn y man, disgynai wed'yn i ddyfnderoedd cul, tywyll, nad allem ni weled ei gwaelodion. Tarawyd ni oll, am dro, yn fud gan syndod.

Yr oedd y defaid mân yn pori ar hyd y llethrau sythion, dan gopäau creigiog y ddau fynydd oedd bob tu i'r afon. A rhwng dyeithrwch golygfa glan yr afon-trystiau amrywiog y dyfroedd-brefiadau soniarus y defaid -a chwibaniad yr awel iachus, yr oeddem wrth ein bodd yno ;-wedi anghofio hyd yn nod y ffynnonau a'u hymwelwyr. Erbyn i lèni y nos gael eu gollwng i lawr rhyngom a phrydferthwch y golygfeydd, dechreuem ddyfod atom ein hunain, a theimlo yn lluddedig: brysiasom yn ol. Gwnaethom ein hol ar y bwyd y noson hòno, a chawsom ein gwely a'n cwsg yn felus.

Y mae trigolion Llanwrtyd, yn gystal a'r ymwelwyr, yn haeddu llawer o glod am eu moesgarwch. Ni welsom yr un dyn meddw, na'i debyg, yno ; -ni chlywsom na llŵ na rheg yn dyfod dros un wefus yno;-yr oedd pawb yn ymddangos yn hynaws a charedig, yn siriol, moesgar, a chrefyddol.

Boreu pruddglwyfus oedd boreu ein hymadawiad. Yr oedd ynom liaws O deimladau cymysgedig;-hiraeth, ymadael â'n cyfeillion, a'r dysgwyliad brysiog am weled ein teuluoedd, yn berwi yn frwd yn ein mynwesau.

Yr oedd un peth yn ffodus, fod y rhan fwyaf o honom yn ymadael yr un amser. Wedi i ni gyrhaedd Cefn Epynt, safem ac edrychem yn ol; meddyliem, gyda syndod ;—y fath deithio i gongl wael, ddirgel, ac anghysbell, rhwng y bryniau! Fel y mae Awdwr natur wedi gwneyd y naill beth ar gyfer y llall! Y mae ffynnon iachusol Llanwrtyd ddiffrwyth yn dwyn cynnaliaeth i'w thrigolion. Y mae miloedd wedi dyfod o bell i'r gongl fechan acw yn afiach a digalon, ac wedi dychwelyd adref at eu teuluoedd yn iach a llawen.

Arweiniodd y myfyrdod am y ffynnon, a theimlad o'i rhinweddau, ein meddwl at ffynnon arall-"ffynnon y dyfroedd byw;" ffrydiau grisialaidd a iachusol yr hon

"O'r nefoedd a redodd yn rhad,

I'r ardal lle 'r ydym yn byw."

Y ffynnon sydd wedi ei hagoryd gan ddoethineb dwyfol, i symud ymaith afiechyd a brynti, na fedrai yr un ffynnon arall ei wneyd byth-i gyflawni yr orchest ryfeddaf erioed-"i olchi ymaith bechod ac aflendid!"

"Heblaw iachau fy llesgedd,
Hi'm cana 'n hyfryd wyn."

Le, a phwy bynag a yfo o'i dyfroedd a fydd byw, se a aiff yn iach o ba glefyd bynag! Ebedai ein mediwi vinken, vilsen, fi cyflymach nag amser, a gwelem dyrfa aneirif, y rhai furat unwaith yn afach a brwnt, ond yn awr yn dysgleirio fel yr haul, wedi bod yn y fynnon hon“Heb glaf na chlwyfos yn en phrih,”

wedi dyfod i fyny o'r

yn ngwaed yr Oen.

cystudd mawr, ac wedi golchi eu gynau, a'u cànu Gwelem hwynt

"Wedi eu dyrehafa o domen y ddaear,

1 fysg y llloedd seraphaidd a hawddzar;
Mewn pardeb eyfad das i'w rhestr yn ymyl
Cerubiaid difrychau a dihsing engyl?"

a'r Priodfab-Brenin y Gogoniant, yn eu harwain i mewn trwy byrth y

nefoedd, a

"Chyflwynai ei deg briodasferch ddifrychan,

Gan dd'wedyd, 'O Dad: wele 'r tecla a minnau;
Y rhai i mi roddaist, a gedwaist trwy d'enw,

Er byd, cnawd, a diafol,—byw ydynt, nid marw!"

Anwyl ddarllenydd! os caret fod o nifer y dyrfa hon

"Tua 'r ffynnon gyda hwy
Dos ymolcha!"

Troisom ein cefn ar Lanwrtyd. Aethom rhagom dros Gefn Epynt, dan sisial canu

"Minnau ddof i'r ffynnon loew,
Darddodd allan ar y bryn,
Ac mi olcha 'm henaid euog
Ganwaith yn y dyfroedd hyn.
Myrdd o feiau,

Daflaf lawr i rym y dwr."

ATHRYLITH A GWEITHIAU MR. DAVID OWEN (DEWI WYN).

EFFEITHIODD y siomedigaeth a gafodd Dewi Wyn, yn Eisteddfod Dinbych, gyda golwg ar yr "Awdl ar Elusengarwch," yn ddirfawr ar ei ysbryd, megys y gwelir wrth y rhagymadrodd i'r awdl a gyhoeddodd efe, ne with "Awdl yr Adebau," fel y geilw efe hi; ond yn ein barn ostyngedig ni, y mae gormod o angerddoldeb yn mhob un o'r ddau erthygl hyn.'

! With fod llawer o'r Cymry mor anghyfarwydd â beirniadaeth, y maent yn tybied mai y dyben yw iselu yr awdwr os cyffyrddir yn y gradd lleiaf a'i ddiffygion. Nid yw yn ddigon dyweyd fod ynddo ragoriaethau, ond y mae yn rhaid rhoddi ar ddeall i bawb nad oes ynddo ddim ond rhagoriaethau. Y mae yn hen bryd newid yr arferiad hon o roddi canmoliaeth ddigymysg i bob math o ysgrifenwyr, oblegid nid oes dim wedi ein cadw yn fwy ar ol fel cenedl. Yr ydym yn addef y dylid cymeryd awdwyr ieuainc yn dringar, ring ou digaloni; ond os dysgwylir iddynt ragori, y mae yn rhaid dangos beiau y rhai a Onodir o'u blaen fel arweinwyr. Oddiar y teimlad hwn y cymerasom ryddid i geisio profi nad yw Dewi Wyn ei hun yn berffaith: ond nid oes neb yn ei barchu yn fwy na ni, ac yr ydym wedi amlygu lawer gwaith ein bod yn ei gyfrif yn un o'r beirdd mwyaf a fu erioed yn Nghymru. Os nad yw hyn yn ddigon gan rai o'n cyfeillion brwdfrydig, dymunwn Iddynt fod yn amyneddgar am ychydig; oblegid yr ydym yn bwriadu cymeryd achlysur, cyn bo hir, mewn sylwadau cymhariaethol ar feirdd Cymru, i gyfeirio yn fwy neillduol at ei ragoriaethau.

« PreviousContinue »