Page images
PDF
EPUB

Llanddowror, yn sir Gaerfyrddin. Yr ail Argraffiad. Llundain, Argraffwyd gan I. a W. Olifer, 1762."

7. "Y Mor o Wydr. Gan W. Williams. 1762."

Y mae yr argraffiad hwn yn cae ei roddi yma ar awdurdod y Parch. T. Charles, yn ei Gofiant o hono yn yr hen "Drysorfa :" llyfr ii.

8. ¶"Traethawd Byr yn dangos beth yw'r Anedigaeth Newydd. Ynghyd a difrifol annogaeth i ymofyn am dani. A gyfiaethwyd i'r Gymmraeg er Bydd i'r Cymru. Argraphwyd yn y Bala gan John Rowland tros John Roberts." 16 tudal. 12plyg.

Y mae yn terfynu-"dy Gyfaill yn yr Arglwydd. W. A.” Y John Roberts a'i cyhoeddodd ydoedd "Sion Rhobert Lewis," yr Almanaciwr, tybygid.

9. "The Christian Covenant, or the Baptismal Vow, as stated in our Church Catechism, &c. By the late Rev. Mr. Griffith Jones. The Second Edition. London: Printed by J. and W. Oliver, in Bartholomew-Close, near WestSmithfield. MDCCLXII.

10. "The Christian Faith, or the Apostles' Creed Scripturally explained. By Questions and Answers. By the late Rev. Griffith Jones. London: Printed by J. and W. Oliver, in Bartholomew-Close, near West-Smithfield. MDCCLXII.” 11. "Cydymaeth i'r Allor, yn dangos Natur ac Angenrheidrwydd o ymbarotoi i'r Sacrament, mewn trefn i dderbyn yn deilwng y Cymmun Sanctaidd. Ymmha un y Profir yr holl ofn a'r arswyd (ynghylch Bwytta ac yfed yn annheilwng, ac i fod yr Euog o Ddamnedigaeth i ni ein hunain wrth hyny) yn ddisail; ac yn anwarantedig, &c. Gwedi ei gyfieithu i'r Cymraeg, gan L. E. Argraphwyd yn y Mwythig, gan Stafford Prys. 1762."

Arwyddir "Y Rhag Ymadrodd" gan "W. V." Arferid cydrwymo hwn â rhif. 7, 1760. Gwel rhif. 3, 1715; rhif. 4, 1753.

12. ❝Y Drydydd Ran o Ganiadau Sion; neu Hymnau ac Odlau Ysprydol. Gan John Thomas. Bristol: Argraphwyd gan E. Farley. 1762. Pris Tair Ceiniog."

Yr Awdwr oedd weinidog yr Ymneillduwyr yn Rhaiadrŵy, a'r Caebach, yn sir Faesyfed. 13. "Proposal for enriching the principality of Wales, humbly submited to the consideration of his countrymen, by Giraldus Cambrensis. Gloucester. 1762." 8vo.

1763.

1. "Diddanwch Teuluaidd, y Llyfr cyntaf yn cynnwys gwaith y Parch. Mr. Goronwy Owen, Lewis Morris, Esqr., a Mr. Hugh Hughes, &c. Beirdd Mon Mam-Gymru, ac aelodau o Gymdeithas y Cymrodorion. O gasgliad Hugh Jones, o Langwm, C.C.C. Llundain, Argraffwyd gan William Roberts, 1763. 2. "Troedigaeth Atheist, neu lygaid yr Angrhedadyn wedi ei Hagor, Gan roddi Cyflawn a Gwir Hanes Mr. Wright, Gwr Bonheddig, yr hwn oedd yn byw yn Nhref Guernsey, efe oedd wir atheist, ac ni chynhwysau ef i un o'i Blant i fyned i'r Eglwys, gan fynych adrodd iddynt fod Pob peth yn dywad wrth Natur. Yn dangos fel yr ymddangosodd Angel i'w Eneth, yr hon oedd ddeg oed, &c. A gyfieithwyd gan John Vaughan, Dimbech. Argraphwyd yn y

fl. 1763."

3. "Cyngor Difrifol i gadw Dydd yr Arglwydd. Argraffwyd yn Llundain, gan W. Roberts, ac a werthir gan Hugh Jones, o Langwm."

4. "Coffadwriaeth y Cyfiawn a'i Ddedwyddwch, neu Farwnad Joseph Thomas, o'r Dyffryn ym Margam, yn Sir Forganwg. Yr hwn a ymadawodd ar Byd hwn, Mai 17, 1763, &c. A gyfansoddwyd gan Dafydd William. Caerfyrddin : Argraphwyd gan E. Powell, yn Heol-y-Prior, 1763.”

5. Rhyw Lyfr gan John Dafydd, Gweinidog Capel Pentre'r Fidog.]
66
Cyfeirir ato yn y Diddanwch Teuluaidd."

6. "Difyrwch i'r Pererinion o Fawl i'r Oen. Neu Gasgliad o Hymnau ar amryw

Ystyriaethau allan o'r Ysgrythyr Lan. Gan Dafydd Jones, o Gayo. Caerfyrddin Argraphwyd dros yr Awdwr, gan Ev. Powell, yn Heol-y-Prior, 1763." 7. "Ateb Philo-Evangelius i Martha Philoper. Gan William Williams, Gweinidog yr Efengyl. Caerfyrddin, Argraphwyd gan Rys Tomas a I. Ross, yn Heol Awst, 1763. Lle y dygir Argraphyddiaeth ym mlaen yn ei holl rannau ar Lytherenau Newyddion yn y dull mwyaf cywrain."

Yn sicr y mae yn bryd bellach terfynu yr erthygl hon. Yr un cyfnod yw hwn yn barhaus; gan hyny, yr ydys yn terfynu yn awr er mwyn deheurwydd cyfartalwch yr erthyglau, yn hytrach na bod dim newyddion yn y dyfodol. Y mae yr ysgrifenydd yn dymuno cyflwyno ei rwymedigaeth mwyaf gostyngedig i'r cyfeillion hyny a sylwasant ar gamgymeriadau neu wallau a welsant, ac a roddasant hysbysiad o'r unrhyw; ac y mae hefyd yn taer ddymuno iddynt beidio gadael i unrhyw wall a ganfyddant fyned heibio, heb roddi hysbysiad o hono. Yr ydys yn gwneyd cofnod o honynt, i'w gosod mewn trefn yn niwedd yr erthygl olaf.

BLODAU GWLAD ESTRON.

[YR oedd yn ein bryd, er's tro, i anrhegu darllenwyr y "Traethodydd " âg ambell swp "flodau" wedi eu cynnull o erddi persawrus yr awen Seisneg. A dyma ni yn cyflwyno iddynt ein pwysi cyntaf. Lle nas gellid cael hyd i enw yr awdwr gwreiddiol, rhoddwyd y gair "dienw" i sefyll am dano.]

I ADERYN PENAUR A NEWYNWYD I FARWOLAETH YN EI GAWELL.

GAN COWPER.

Bu amser pan oeddwn mor rhydd a'r awelon,
Ar hadau'r ysgallen ymborthi a wnawn;

Fy niod oedd gwlithoedd grisialaidd y wawrddydd:
A sefyll pan fynwn ar bob caine a gawn-

Fy ffurf yn foneddig, mewn harddwisg aneilydd,
A'm seiniau perorol bob amser yn newydd.

Ond ceinblu ardderchog, per seiniau dymunol,

A ffurf hardd, nid oeddynt ond ofer i gyd;
Byr, byr, oedd eu cyfnod, o herwydd fe 'm daliwyd,
Ac yma, yn gaeth, fe 'm newynwyd o'r byd ;
O'r gwyfraidd garchardŷ, fy anadl fechan,
Mewn marwol och'neidiau ddiangodd yn fuan.
I ti, dyner wladwr, y rhoddaf fy niolch,
Am frysio, fel yma, derfyniad fy ngwae;
Creulondeb mwy anfad nis gellid ei ddangos,
Ond profi i mi 'n waredigaeth y mae:
Myfi, yn ddiammhau, pe gwnelsit ei hebgor,
Yn hir eto fuaswn i ti yn garcharor.

BYDD DYNER WRTH DROSEDDWR.
GAN FREDERICK G. LEE.

BYDD dyner wrth droseddwr !

Ni wyddost a pha rym

Y daeth y ddu demtasiwn,
Pryd na feddyliai ddim ;

Ni wyddost pa mor galed
Fu'r ymdrech, nes i awr
Ei wendid ddyfod arno,
Ac yna cwympo i lawr!

[blocks in formation]

O! torwyd di ymaith yn mlagur dy harddwch;
Ni roddir trwm weryd i hulio 'r fath wedd,
Ond ar dy dywarchen ymegyr rhosynau

Cynaraf y flwyddyn, yn arwydd o hedd;
A'r wyllt gypreswydden ei hunan a chwyfia
Mewn agwedd bruddglwyfus yn ymyl dy fedd.

A mynych hyd lenydd y ffrydlif lân acw,
Y gwelir dwys alar yn crymu ei phen,

Gan borthi dwfn feddwl a llawer dwys freuddwyd;
Ac ysgafn y troedia ar hyd y werdd len,
Fel pe bae rhyw berygl i'w cham aflonyddu
Y marw sy'n huno dan ofal y nen!

Ond ymaith! ni wyddom mai ofer yw dagrau
Ni sylwir gan angeu ar drallod didrai;
Ond eto, wna hyny ddystewi 'n cwynfanau?
Neu wneyd i'r galarus wylofain yn llai ?
A thithau, yr hwn wyt yn hybu fy ngwaith;
Dy olwg sy'n bruddaidd, a'th lygaid yn llaith.

PERORIAETH Y CEFNFOR.

DIENW.

Mewn gwylltedd unig, clyw! i fyny

Rhyw swn perorol sydd o'r môr yn dringo,
A'r awyr fel pe 'n crynu rhag dadguddio
Cyfrinach ddofn y weilgi.

Clyw eilwaith, isel dwrdd,

Mewn murmur lleddf ar glust y dydd sy'n trengu,
Prin gwnaeth i'th fryd ei bêr wyddfodaeth hòni,
Ac yna marw i ffwrdd.

LLANFAIR A LLANWRTYD.

Ust! eto enfyn adsain lefn,

Ei chwyddawl fwrlwm o'r gwastadlyfn wyrddli,
Gan daenu mwyth fuddugawl swn oddeutu,
A ffoi drachefn.

O ddyfnfor! gwyddom fod yn nghudd
O fewn dy wyll ddyeithrol ryfeddodau,-
Heirdd emau gwych, yn lluoedd maith gorlathrol,
Y rhai oddiwrth eu llewyrch annaearol
Seiliedig yw dylanwad a phelydrau—
Ddihafarch deyrn y dydd ;

A llaw tragwyddawl wanwyn gair
Yn hael wasgaru ei goludog liwiau,
Lle mae y cwrel goed yn chwifio 'u cangau
Dros dywod aur.

Ond gwêd, O ddwfn, diorphwys! pwy
A drigant obry yn dy fyd cyfriniol,

Gan nad yw'r ddyfrllyd fro, a'i grym diffynol,
Yn gallu cadw y llawenydd siriol

A chweg anadlant hwy?

Arwyddlun enwog nerth! a yw

Dy wylltion blant fel ti, mor gain eu hagwedd
Mewn gwisg o rydd anfarwol hyfrydlonedd,
Na ddichon fyn'd yn wyw!

[blocks in formation]

LLANFAIR A LLANWRTYD.

Y MAE yn awr yn adeg yr ysgrifenu.

Dyma y ffordd y mae y byd yn dangos ei hunan y dyddiau hyn. Cewch olwg ar farn, cymeriad, a hanes y byd yn yr hyn a ysgrifena. Tafla ddirgeloedd ei galon i wyneb y ddalen.

Mae yr ysgrifenwyr yn amlhau bob dydd. Mawr y galw sydd am bapyr gwyn. Y mae miloedd wrthi â'u holl egni y foment hon, galon, pen, a bysedd, yn parotoi i'r wasg. Cymer, braidd, bob un arno fod yn dipyn o ysgrifenwr, os medr wneyd rhyw lun ar y llythyrenau; ac ysgrifenir bron bobpeth. Os ymwelir â'r dref, neu â'r wlad, caiff y byd wybod: os treulir ychydig ddyddiau ar làn y môr, neu yn nghymydogaeth y ffynnonau,— os dygwydd rhyw ymddyddan rhwng dau yn y cerbyd, neu ar ei ben,— os llithra gair garw neu ledchwith am enwad, person, neu bwnc,—wrth gwrs, rhaid ysgrifenu.

"Os tynir draen-y lleiaf hap

A roir y'mhapyr n'wyddion."

Nid yr un amcan sydd gan yr ysgrifenwr bob amser wrth ddefnyddio ei bin. Weithiau, ysgrifena i argyhoeddi y darllenydd; dro arall, i'w hyfforddi; a phryd arall, i'w ddifyru: ac y mae eisieu pob un o honynt ar y meddwl tuag at ei gadw i fyny yn dymherus a boddlawn. Ceisio gweini ychydig i'r olaf yw ein hamcan yn awr wrth ymaflyd yn ein hysgrifell, i ollwng dros ei blaen ychydig o helynt ein hymweliad â'r ffynnonau sydd yn y lleoedd uchod.

Daethom i Lanfair ar frig noson deg, ganol mis Awst diweddaf. Yr oeddem yn disgyn mewn lle mor ddyeithr a phe disgynasem yn un o fân drefi Unol Daleithiau America. Nid oedd yno neb yn ein hadwaen, na ninnau yn adwaen neb. Yr oedd y dref yn llawn iawn o ddyeithriaid, ac yn fawr ei ffwdan; pob un yno fel y morgrugyn, yn gwylio ei dymmor i gasglu ei damaid. Ar y cae, yn ymyl yr afon, gwelem set o fechgyn ieuainc gwisgi yn chwareu "efo'r bêl;" ac ugeiniau o edrychwyr, o bob rhyw ac oed, yn sefyll ger llaw iddynt. Wedi i ni, trwy ddyfal chwilio, gael llety, aethom allan, ac oddiamgylch. Tynwyd ein sylw yn fuan gan dŵr o ddynion oeddent yn sefyll o flaen capel oedd yn wynebu at y cae lle chwareuid y bêl. Cawsom allan fod gŵr dyeithr i bregethu yno. Wedi myned i mewn, gwelem ddyn mawr, tàl, cribgoch, yn codi i fyny yn y pulpud i ddarllen. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng ei gorff a'i laisIlais main, cwynfanus, oedd ganddo: ac er y cwynai ar ei iechyd, cafodd nerth i wneyd cyfiawnder â'r amser. Yr oedd yn pregethu yn go dda, ae yn ddifrifol; a'r gynnulleidfa yn gwrandaw yn astud, ond yn ddystaw iawn; nid oedd hum nac Amen yn dyfod o un cŵr. Deallem o'r goreu fod chwaeth y pregethwr a'r gynnulleidfa yn wahanol iawn; ac wedi holi, cawsom fod pregethwr da, pert, ac o chwaeth dra choethedig, wedi bod yn aros yno, ac yn pregethu i'r gynnulleidfa am flyneddau, a'i fod wedi eu llunio oll ar ei ddelw; a'r pregethwr ganddynt hwy byth wed'yn yw hwnw, neu ei gyffelyb; a dywedent wrthym eu bod wedi taro wrth un eto sydd yn eu hateb i'r dim. Hir oes, a phob llwyddiant iddo ef a hwythau. Aethom allan o'r capel bychan y waith gyntaf a'r olaf, wedi dysgu rhai gwersi newyddion.

Treflan fechan yw Llanfair-yn-Muallt, ar làn yr afon Gŵy, o'r tu deheuol iddi. Y mae yn gorwedd ar lechwedd prydferth, a'i godreu yn cyrhaedd hyd ymyl yr afon. Ymsytha y coedydd tàl, brigfeinion, yn brydferth oddirhwng y tai, ac o amgylch y dref;-rhed yr afon hardd yn llydan a llonydd heibio, i wasanaethu y trigolion, ac i ddwyn ymaith eu holl fudreddi. Y mae capeli gan y pedwar enwad Ymneillduol yn y dref; ond fod capel y Wesleyaid yn anghyfannedd yno er's tro. Y mae golwg hen iawn

« PreviousContinue »