Ei goron yn blaguro Ar ei ben yn hir y bo." Y mae oddiyma i'r diwedd ddarluniau nerthol; megys :- O amgylch ogylch eigion Y diddwl wyliedyddion,-rhag ystryw Y mae gan yr awdwr mwth a twyth yn ateb i'w gilydd. Llongau estron gwychion gant Y cestyll mawrion ein galon gwyliant Trwy lynges estron yn hyfion nofiant, Llestri Sior a'i drysorau A'u ffyrdd drwy 'r mor gwyrdd yn gwau : I drin ei lynges pan draidd Cryn Europ, ceir hi yn waraidd." Er fod ambell linell wych yn y dyfyniadau uchod, buasai yn dda genym eu bod yn eglurach; eto yr ydys wrth eu darllen, fel rhai a'r niwl a orchuddiai y mynydd a dramwyem ychydig yn ol yn dechreu chwalu. Yr ydym yn gweled, yn ol barn y byd y pryd hwnw am amddiffyniad, ddarpariaeth dda ar gyfer estron genedl a chwennychasai ein darostwng; ond nid ydyw y darlun ond byr iawn, pan y mae yr awdwr wedi dyfod i enaid ei destun. Ni chynnwys fawr dros hanner cant o linellau. Yr oedd yma le eang i athrylith y bardd; ond ryw fodd, collodd ei nerth ar y ffordd, o'r hyn lleiaf, y nerth a ddylasai gael ei ddwyn allan at y rhan yma o'r gân. Y mae efe yn ei diweddu â dymuniadau am i'r bobl ymostwng, Ni feddyliasom, hyd nes yr aethom uwchben yr awdl hon yn fanwl, nad oedd ynddi fwy o feddylddrychau ar y testun nag sydd yn ymddangos ynddi; canys yr oedd y cyfansoddiad hwn yn un a ddygai ein bryd yn fawr, er yr amser cyntaf y gwelsom ef, tua deuddeng mlynedd ar hugain yn ol; ond y mae yn debygol fod gan swyn y cynghaneddion sydd yn yr awdl law fawr mewn gadael argraff o ragoroldeb y gwaith ar ein meddwl y pryd hwnw. 1853.] C Y mae ein bardd yn dechreu ei “Awdl ar Amaethyddiaeth" yn lled ysmala. Y mae yn erfyn "Am ddawn i ffreuaw 'n ffraeth." "Ffreuaw" yw pistyllio, spoutio: anmhriodol yma. "Efryd ar drin daear deg, Hynafiaeth hon i ofeg." "Efryd" yw myfyrdod, a "gofeg" yw meddwl. Ymddengys y llinellau yn lled ddiystyr wrth eu troi i iaith eglur; megys:— "Myfyrdod ar drin daear deg, Hynafiaeth hon i feddwl.” I ba beth y sonia yr awdwr am ddechreu ar ol son am greu y greadigaeth, “Ei chreu a'i dechreu o'r dim !” Onid ydyw y “creu" yn golygu, “dechreu o'r dim ?” Y mae dyweyd fod y greadigaeth, ar y cyntaf, yn edrych fel tŷ heb ddodrefn yn ddigon priodol; ond y mae rhyw ddodi pethau, o wahanol ansawdd, wrth eu gilydd rhyfedd yn y linell ganlynol: "Heb na phren, dyn byw, na phry'" Paham pren, dyn byw, a phry'? nid oedd yma un creadur. Y mae yn amlwg mai y gynghanedd a hudodd y bardd i gyplysu y pethau rhyfedd yma a'u gilydd. Y mae efe yn gwella ychydig ymlaen, pan y dywed, "Y ddaear fu 'n aflun noeth O dirioned oedd dranoeth! Lliosog caid Ilysisu en, Coed heirddion yn cyd-darddu; “Dacar oedd yn dŵr o ddail.” Nid yn “dŵr” y mae dail yn arfer ymddangos; a phe buasent "yn dwr y pryd hwnw, buasent yn gorchuddio pethau eraill yn ormodol, fel na buasai un lle i lygad y sera serenu" wrth edrych ar y greadigaeth. Y mae y llinellau canlynol yn gynnwysfawr :— "Ebrwydd dw' o bridd dacar, Cyn bod gwaith gwrtaith nag år." Ond nid oes un mymryn o ymddiried i'n hawdwr, na neidia oddiar ei begwn ryw eithafoedd, cyn pen ychydig o linellau. Y mae yn dal yn dda y pedwerydd dydd, oni buasai y Beth yw "ewmpas awyr?" Y mae "Pwysian ewmpas awyr." "Gwydd" yw coed, ac "osglog" yw cangenog; ond pa debygrwydd sy rhwng afalau a dysglau sy raid i ni ei adael heb ei egluro. Y mae creadigaeth yr anifeiliaid yn brydferth, a lluniad Adda— yn "flaenrhed,” ac yn "fegidydd" yn naturiol; ond nid oes ynddo ddim yn farddonol iawn, ac ystyried mai y dyn cyntaf a welodd y ddaear erioed oedd Adda. Y mae yn wir ei fod ef yn dyweyd "Y dyn gwridawg, dien greadur, A'i wraig a gawsai er gwiw gysur. Dichon fod golwg wridog iach ar Adda, ond yr oedd yn rhy fuan i'w ofal i fod yn "aml" eto; canys yr oedd heb droseddu; a gwyddom oll nad oes eisieu gofal ond lle byddo perygl. Y mae y darlun o honynt yn rhodio "I bob rhan o'r berllan bur, I edrych ar y blagur," yn anghytuno â'r linell, "A'r addfed ffrwyth crwmlwyth crog," oedd yn "gniwiau," (cniw, pack-cniw o blant, pack of children), "Ar gangenau y delwau deiliog." Nid oedd dim modd i'r ffrwythau fod yn eu blagur ac yn addfed, ar unwaith; ac y mae yn debyg nad oedd lle arnynt i flagur, gan amlder y ffrwyth y pryd hwnw. Y mae y ddwy linell ganlynol yn dlws: "Telediw yw ffriw y ffrwyth, Gan berlau boglynau gwlith;" Ond yr ydym yn methu dirnad paham y sonia y bardd, ar yr un gwynt am y "Blagur" o hyd! "Mel pur ar y blagur blith." "Gwypai deallai y diwyllydd, Amser addon addfedion fwydydd." Prin y mae yn oddefol galw ffrwyth yr ardd, yn "addfedion fwydydd ;" oblegid am ymborth wedi ei drin, megys cig, neu rywbeth y byddo gwaith tân yn ofynol i'w barotöi, y dywedir, "bwydydd" fynychaf. Y mae gan y bardd ei hun ddwy linell a daflant oleuni ar y mater, pan y cwyna am ei dlws gan Madog : "Pan yro gwpan arian, I mi, am ragori 'r gân, Dysgl fawr 'rwy 'n dysgwyl a fydd, Neu badell i drin bwydydd. "A'i ddyled fel addolydd-i ei Naf, Wedi cynauaf wneyd cân newydd." Prin yr ydym yn meddwl y buasai anghen am "gynauaf;" hyny ydyw, am gasglu ac ystorio ydau a ffrwythau, pe safasai dyn yn ei berffeithrwydd; ond y cawsai bob peth wrth ei law a'i anghen yn ol fel y buasai y galw. Buasai poen i gasglu ac ystorio ŷd. "Addaf mewn dedwyddyd-ai ni roddodd Wi! ai garddwr wy'n gwrddyd, Ni bu ry hardd mewn bri hon Y mae y darluniad yma yn naturiol, ac y mae y desgrifiad a rydd y bardd o aflwydd y codwm yn gryf: "Lle yr oedd balm a phren almon-edrych Meryw a bresych a mwyar breision, Pob grawn gwylltion yn drawsion, a d'rysi. Abrwysgl anial wigau a brysglwyni, O fewn y rhai 'n fwy na rhi -wiberod, Yms, wele pob milyn-a aeth I ddynoliaeth heddyw yn elyn." Y mae y darluniad o Adda yn troi i weithio, wedi y cwymp, yn effeithiol "Daew Addaf, gyntaf gwr, Yn lluniaeth o doraeth da; Dacw 'r chwys, megys gwlith mân, Ar ei brudd ddwyrudd eirian." Y mae ein bardd yn dangos fod yr Ior wedi gwareiddio “—————————i ryw raddan Rai ere'duriaid oreuraid ryw orau;” ac fod y cynddiluwiaid yn trin eu gwinllanoedd, yn hau ac yn medi nes y daeth ae wedi hyny, heb i'w weled ond, "Y prif gyffrolif ffrenlyd, Dad drodd, cybolodd y byd ;” "Y ewbl aeth yn draeth di drefn." "Gwasgaredig ysgrudoedd "skeletons), Pwdrgnawd: peb drewdawd budr oedd; Y mae efe yn prysuro Noa, wedi i'r dylif lwyr gilio, i ddechreu trin y ddacar; gan ein sierbau, "Wel yn wir, er boddi 'r byd, Ni toddodd y gel yddyd." Wedi mynegu hyn, y mae yr awdwr yn rhoi gwibnaid hyd Sinar, Haran, Misir, Asia, Diarbec, Armenia, Gilead, Saron, Assyria. Yr ydym yn dodi yr enwau fel y maent ganddo ef. Y mae efe yn troelli yr enwau drwy eu gilydd nes gwneyd sŵn tebyg iawn i sŵn barddoniaeth; megys, "Bu cu 'r manoedd, Diarbec, Armenia, Gilead, Saron, gwaelod Assyria." Y mae yn y llinellau uchod swyn rhyfedd i ryw fath o ddarllenwyr, er nad oes ynddynt un wreichionen o brydyddiaeth. Cyfeiria ein hawdwr wedi hyn at y Gelliaid, Rhufeiniaid, Groegiaid, y rhai a "Chwysant, blinant wrth blanu-pob cyrion, Hyd For Gwerddon mae dyfrhau ac arddu." Sonia hefyd am "feib Babel,” a Heber, ac am y manau "Sy uwch Hermon, Libanus, a Charmel." Twrf rhaiadr geiriau sydd yn y darnau uchod, fel y gwel y darllenydd deallus, ac nid prydyddiaeth. Y mae yr awdwr yn cymeryd taith bell iawn yn y llinellau dilynol-drwy Eidal, Prydain, ac "O bau Ararat heibio i'r Eryri.” Y mae "Ararat" ac "Eryri" yn ateb i'w gilydd yn odidog yn y gynghanedd. Wedi hyn ä yr awdwr at Madawg i'r Amerig,—at y Missouri, Alegani, Pomona, Ambrosia, Bachanalia, Ambarvalia; a dengys fod gan y bobl ryw wybodaeth am sychu tir; megys, "Troi diffaeth ffiniau yn barthau berthog, Yn lle clogyrnau creigiau cerygog, Dwyn seddau cywrain, dinasoedd caerog, Praff yw 'r ddylanwad prif ffyrdd olwynɔg ; Troi y gwaelodion a'r tir goleidiog, Yn feusydd a pherllenydd ffrwythlonog, Dwyn hafaidd lwythau trwythau toreithiog, Cau'r anialwch cornelog-yn froydd Dwyn, gwneyd gwledydd dan gnydau goludog." Y mae cyfeiriad at amaethyddiaeth ac adeiladaeth yn y llinellau uchod, ac ychydig o farddoniaeth, oddeutu y fan y mae yr awdwr yn “cau yr anialwch;" ond y mae ynddynt gleciadau geiriau sydd yn eu hynodi yn fawr. Sonia yr awdwr hefyd am win, olew, gwenith, a meillion; aloes, pabi, y pubyr, casia, mana, a'r myrr; mai yn Arabia y ceir mawrwyrth, ac mai yn y ddwy India y ceir cyffyrion, ac hefyd "Y gensen y ddeilen dda, Hwn sy bur yn Siberia." Ymlaen cawn res o enwau coedydd a ffrwythau; megys gelleig, melwn, aurafalau, aeron, myrtwydd, resinwydd, rhosynau, mel a chnau, a "iach nodd" sydd yn feddygol, "I bob angeuol wahanol heiniau." Y mae amaethyddiaeth ac arddwriaeth yn cael eu cymysgu yma blith draphlith; ac ä y bardd i ddyweyd wrthym drachefn mai "Amaeth yn ngnwmnïaeth Naf, Hyd ei ddydd ydoedd Addaf." Yr oedd hyn wedi ei fynegu mewn effaith lawer gwaith o'r blaen; ond ni soniwyd am Cain hyd yn bresennol, "Rhifant yn arddwr hefyd, Cain ei fab yn y cyn fyd." |