Page images
PDF
EPUB

9. "Cynhwysiad byr O Feddyliau'r Eglwys a ymgorpholodd dan y drefn hon, yn Sir Fonwy. Pa un sy'n ymgyfarfod yn bennaf, yn y Neuadd, yn y Panttêg, gerllaw Pont-y-pool: yn agos i'r môdd y Proffeswyd hwynt ar Ddydd ein Hordeinassiwn, sef Dydd llun y Sulgwyn, 1756. Argraphwyd yn y Bala gan John Rowlands."

1757.

1. "Tystiolaeth y Credadyn am ei hawl i'r Nefoedd, Neu, Gynnig byr tuag at Gysur Cristnogol, Neu lawenydd ysbrydol. Ymha un y dichon y Cristion wneuthur allan ei hawl i'r Etifeddiaeth Nefol, &c. A gyfieithwyd gan Argraphwyd yng Nghaerfyrddin, gan E. Powell, yn y

Josuah Thomas.

flwyddyn 1757."

2. "Y Gareg Wen. Pregeth ar 2 Pedr i. 10. Gan Timothy Thomas."

Gweinidog y Bedyddwyr, yn Aberduar, ydoedd Mr. Thomas, a brawd i Josuah Thomas uchod, awdwr "Hanes y Bedyddwyr." Y mae hanes bywyd Mr. Thomas yn y "Seren Gomer," am Ionawr a Chwefror, 1823."

3. "Welch Piety: Or, A Further Account of the Circulating Welch Charity Schools, From Michaelmas 1756, to Michaelmas 1757. To which are annexed, Testimonials Relating to the Masters and Scholars of the said Schools. In a letter to a Friend. London: Printed by J. Oliver, in BartholomewClose. MDCCLVII."

4. ¶"Y Gwir Ddoethineb, Neu, Bregeth, &c. Gan Theophilus Evans, P. Llanddulas, Aber-caessin, &c. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thos. Durston." 5. ¶ "Aleluia Drachefn: Neu, Dair Rhan o'r Hymnau a Gyfenwid Ffarwel Weledig, &c. Wedi eu hargraphu yn un Llyfr, a'u Diwygio. Gan W. William. Caerfyrddin, Argraphwyd ac ar werth dros yr Awdwr gan Ioan Daniel."

6. "Gweledigaethau y Bardd Cwsg.

Durston."

Amwythig, Argraphwyd gan Thos.

Yr ail argraffiad, tybygid. Gwel rhif. 6, 1703.

1758.

1. "Pererindod ysprydol o'r Aipht i Ganaan, tan rith breuddwyd. O Gasgliad y Pererin o waith hunan-ymholiad, yn Nyffryn ystyriaeth. Argraffwyd tros Parch. David Jones, o Bont-y-Pwl, Caerfyrddin."

2. "Dull Priodas Mab y Brenin Alpha-Dull Priodas ysprydol rhwng Siloh a Sion, yn dangos Tragwyddol gariad Siloh, Mab y Brenin Alpha, at ferch yr hen Amoriad. Sef ail ran o'r Pererin ysprydol o'r Aipht i Ganaan. Argraffwyd yn y Mwythig, Tros Evan Ellis, o Blwyf Llanfihangel, yn sir Ddimbech, gan J. Cotton a J. Eddowes, 1758."

3. "Hanesion o'r hen oesoedd, sef, i. Dechreuad y Byd; ii. Ymddyddanion o'r Cynfyd; iii. rhwng Duw ac Adda; iv. Rhwng Satan, y sarph ac Efa; v. Rhwng Duw a Noah. O waith Thomas Williams, Merchant Taylor, Dâl y Bont, yn agos i fangor. Rhif. i. Printiedig yn Llundain."

4. "Welch Piety: Or, A Further Account of the Circulating Welch Charity Schools, From Michaelmas 1757, to Michaelmas 1758. To which are annexed Testimonials Relating to the Masters and Scholars of the said Schools. In a Letter to a Friend. London: Printed by J. Oliver, in BartholomewClose. MDCCLVIII."

5. "Aleluwia, Neu Gasgliad o Hymnau. O waith William Williams, Gweinidog o Eglwys Loegr. Y Drydedd Argraphiad. Argraphwyd ym Mhristo gan E. Ffarley a'i Mab, yn y flwyddyn M,DCC,LVIII."

6. "Lloffion Prydyddiaeth, sef Ynghylch chwech a deugain o Ganiadau duwiol. O waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcer Llamymddyfri. Argraphwyd yn Llundain, gan Ioan Olifer. M,DCO,LVIII."

1759.

1. "Dewisol Ganiadau yr oes hon, yn ddwy rann, y rhann gyntaf sydd yn Englynion, Cywyddau ac Awdlau, o waith yr Awduriaid Goren yn yr oes Bresenol. Yr ail ran. Carolau Plygain a cherddi Newyddion na fuont yn argraphedig erioed o'r blaen; o waith Llawer o Beirdd Cymru. A gasglwyd ac a Gyfansoddwyd gan Hugh Jones, Llangwm. Argraphwyd yn y

Mwythig."

Dywedir y bu tri argraffiad o'r llyfr hwn. Yr oedd Hugh Jones o Langwm, Dafydd Jones o Drefriw, ac Ellis Robert, y couper, yn gyfoeswyr, ac yn gyfeillion gwresog. Yr oedd y tri yn grach-brydyddion, y tri yn hoff o gwmni Syr John Heidden, a'r tri yn fath o ddigrifwyr-canent yn ddifrifol a chellweirus, fel ybyddai y cwmni; ac yn aml gwnaent bethau crefyddol yn wawd. Y mae eu gwaith yn gymysg o bob athrawiaeth, a llawer o sawr Babaidd ar garolau Hugh Jones. Gwel y "Gwyliedydd," Mai, 1827, tudal. 149; a Chwefror, 1828, tudal. 59.

2. "Y Prif Feddiginiaeth, sef Physygwriaeth yr oesoedd Gynt, Neu ffordd hawdd a Naturiol i jachau y rhan fwyaf o Glefydau. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, allan o'r pummed argraffiad yn Saesoneg, er lles i'r Cymru. Argraffwyd yn y Mwythig ac ar werth yno gan Stafford Prys Gwerthwr Llyfrau.

1759.

Wrth y Rhaglythyr y mae" J. E."-h.y., John Evans, o'r Bala; ac wrth y Rhagymadrodd y mae "J. W."-h.y., John Wesley; canys cyfieithiad ydyw o'r llyfr a elwir" Wesley's Primitive Physick," wedi ei gyhoeddi a'i gylchdaenu gan, ac ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, un a deugain o flyneddau cyn i ddilynwyr John Wesley ddechreu Ilafurio yn Gymraeg yn Nghymru.

4. "Y Gareg wen, Neu, Draethawd bychan, ymherthynas i Sicrwydd; ymha un yr amlygir, 1. Fod Sicrwydd yn Gyrhaeddadwy yn y bywyd hwn. 2. Sierwydd o ba beth sydd gyrhaeddadwy. 3. Yr angenrheidrwydd i ymofyn am dano, a'r budd o'i gael. 4. Pa fodd i'w gael. Gan Timothy Thomas." Gwel rhif. 2, 1757. Tybygid mai y bregeth hòno, wedi ei helaethu i draethawd, yw yr uchod.

5. "Gwagedd Mebyd a Ieuengtyd, &c. Gan Daniel Williams, D.D. Y drydydd Argraphiad. Llundain, Argraphwyd yn ol cyfarwyddiad Ewyllys diweddaf yr Awdwr.

1759."

Gwel rhif. 1, 1739. Nid ydys yn cofio i ni weled ond y ddau hyn o'r tri. 6. ¶"Blodeugerdd Cymru, sef Casgliad o Caniadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau Duwiol, a Diddanol; y rhai na fuont yn gyhoeddedig mewn Argraph o'r blaen. O gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig ac ar werth yno gan Stafford Prys, Gwerthwr Llyfrau. Bydded hysbys i'r Cymru, fod Llyfr Dewisol Ganiadau yr oes Hon, yn awr yn yr Argraphwasg, ac a fydd yn barod ynghylch Gwyl Mihangel, 1759. Pris 38."

Fe allai y dylasai hwn fod flwyddyn yn ol; nid oes genym ond yr hysbysiad uchod i'n harwain i amseru y ddau y flwyddyn hon.

7. "Siccrwydd Ffydd, wedi ei agoryd a'i gymhwyso; sef, Sylwedd amryw Bregethau ar Heb. x. 22. Gan y Parchedig Ebenezer Erskine, Athro r Celfyddydau, Gweinidog yr Efengyl yn Sterling, yn Scotland. Gan William Williams, Gweinidog o Eglwys Loegr. Caerfyrddin, Argraphwyd gan Evan Powell, yn Heol y Prior, yn y flwyddyn, 1759."

Y mae yn ei ddiwedd Hymn gan D. R.-Daniel Rowlands, Llangeitho, yn ddiau. 8. "Tracthawd ar y Wisg Wen ddisglaer, Gymmwys i fyned i Lys y Brenin Nefol; sy'n cael ei gwisgo am y Dyn Noeth Truenus, &c. Gan Timothy Thomas. Caerfyrddin, Argraphwyd tros yr Awdwr; gan E. Powell, 1759." 9. "Pererindod ysbrydol o'r Aipht i Ganaan, Tan rith Breuddwyd. O Gasgliad y Pererin, allan o waith IIunan-ymholiad, yn Nyffryn ystyriaeth. Argraph

wyd yn y Mwythig, gan Stafford Prŷs, tros Evan Ellis, o'r Bryn-caled, Ymhwyf Llangwm, yn Sir Ddim bech. MDCCLIX."

Ailargraffiad, Gwel rhif. 1. 1758-hwnw yn y Deheu, a hwn yn y Gogledd.

10. "Myfyrdod y Claf, o waith ,y Parchedig Peter Williams. Argraphwyd gan Evan Powell."

11. "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol yn Gymraeg, &c. graphwyd gan John Grabham.

1759.

Yr awdwr oedd Abel Morgan, meddai "Hanes y Bedyddwyr."

12. "History of Modern Enthusiasm, By T. Evans."

Caerfyrddin,

Mristol, Ar

Gwel rhif. 10, 1752. Hwn, meddai Theo. Jones, awdwr "History of Breconshire," wrth Syr Samuel R. Meyrick, awdwr "History of Cardiganshire," ydoedd gwaith diweddaf awdwr "Drych y Prif Oesoedd." Buasid yn chwanegu yma ychydig o'i hanes, oni buasai ei fod wedi ei roddi allan mor ddiweddar, yn gysylltiedig âg argraffiad newydd destlus Mr. Spurrell o'r "Drych." Yr unig ddiffyg yw na buasai y casglydd wedi rhoddi rhestr o holl weithiau "Ficar Llangammarch;" ond anweswn y dyb ein bod wedi gwneyd i fyny y cyfryw ddiffyg yn ein herthyglau hyn.

13. "Constitution of the Old Cymmrodorion Society, with List of Members, 1759." 4to.

14. "A plain disquisition on the indispensable necessity of fortifying and improving Milford Haven; containing likewise an attempt to demonstrate the advantages that will arise from it to this nation, with some hints on the prosecuting schemes. To which is anexed an exact map of the harbour, drawn after a very late Survey. Addressed to a patriotic member of Parliament. London, 1759." 8vo.

15. "History of Great Britain from the first inhabitants thereof, till the death of Cadwalader, last king of the Britains, &c. By John Lewis, Esq., Barister at Law." Folio.

1760.

1. "Y Gymraeg yn ei Ddisgleirdeb, neu Helaeth Eirlyfr Cymraeg a Saesnaeg, yn cynwys llawer mwy o eiriau Cymraeg nag sŷdd yn Eirlyfr y disgawdr Sion Dafis o Gymraeg a Lading. Yn gyntaf yn hysbysu meddwl y Gymraeg ddieithr, Drwŷ Gymraeg mwy cynnefinol; yr hŷn sŷdd gyfleus, a deunyddiol iawn i bawb a ewyllysiant ddeall a ddarllenont yn Gymraeg. Yn ail, yn dangos y Gwir Saesnaeg i bob gair Cymraeg; ac yn ddilynol y modd i Gysyllty, sef, (ysbelio) pob gair yn gywir yn y Cymraeg a'r Saesneg. Ac a helaethwyd Ag argraphyddol henwau gwledydd, &c. A gasglwyd ar y cyntaf drwy ddirfawr boen a diwydrwydd Thos. Jones, ac yn awr a ddibenwyd gan Richard Morris, o lanmihangel Tre 'r Beirdd, yn sîr fôn. Argraffwyd yn y Mwythig."

2. "Pregeth yn dangos Beth yw Natur ac anian y Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Gan T. Evans, Vicar Dewi, yn Aberhonddu. Argraffwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Stafford Prys, yn y flwyddyn 1760." 22 tudal.

Naill y mae yr hysbysiad cysylltiedig â rhif. 12, 1759, yn gam-ddywediad, neu dylasai hwnw fod yn ddiweddarach.

3. ¶"Porthor ysbrydol, sef Galwad i bawb ei ymgeisio a Duw. Gwedi ei osod allan gan John Prys. Argraffwyd yn Ngwrecsam, gan R. Marsh.” 4. "Agoriadau Datguddiad Creadigaeth y Nefoedd. Gen. i. viii. v. Ar Angylion, y Cerubiaid, a'r Seraphiaid. Ex. 37. 7, 8, 9. v. Esay 37. 16. Gen. i. 19. Yspryd Duw yn ymsymyd ar y Dyfroedd. Ordinhad yr haul, a'r lleuad, y ser, a'r Goleuni ar Tywyllwch. Y Trydydd 'Sgrifeniad o waith yr Awdwr, sef Thomas Williams, Merchant Taylor, Tâl y Bont, Nesa i fangor fawr, yngwynedd. Bodedeurn, Argraffwyd.”

Gwel hefyd rhif. 3, 1758, gan yr un awdwr.

5. Ymbarotoad Tu ac at ddedwyddol a Tragywyddol Wynfyd y Nefoedd. Neu,

Myfyrdodau ar bob dydd o'r wythnos. Argraphwyd yn y Mwythig, gan Stafford Prys, 1760." 76 tudal. 12plyg.

[ocr errors]

6. Un ymadrodd ar bymtheg ynghylch Iesu Grist, A'u Prynedigaeth trwyddo ef; Neu ynghylch ail Erthyg y Credo: Allan o bregethau y Gwir barchedig Ordinary y brodyr yn Berlin, yn y flwyddyn 1738. O gyfieithiad Evan Williams. (Cymharwyd y cyfan a'r Argraffiad diweddaf yn yr Allmanaeg) Anghwanegir hefyd rai Hymnau. Llundain Argraffwyd.'

7. "LLYFR, Gweddi-Gyffredin, a Gweinidogaeth y Sacramentau a Chyneddfau a Seremoniau Ereill y Eglwys, Yn ol Arfer Eglwys Loegr: A Psalmau Dafydd Fel y maent bwyntiedig i'w Darllain a'u canu yn yr Eglwysydd ynghyd a Nam yn un deugain Erthyglau Crefydd. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Stafford Prys, Gwerthwr Llyfrau, 1760.” 12plyg.

8. "Amddiffyniad bedydd y Crediniol, gan G. Davies, a D. Thomas." Achlysurwyd y llyfr uchod gan yr hyn a ysgrifenasai Mr. Griffith Jones, Llanddowror, ar fedydd plant yn ei Gatecism. David Thomas ydoedd weinidog y Bedyddwyr yn Nhastell-newydd-yn-Emlyn. Dywed "Hanes y Bedyddwyr," fod "teimladau dadleuol wedi codi mor uchel rhwng pobl yr Eglwys Sefydledig a'r Bedyddwyr y pryd hyny, fel y cymhellwyd perchenog y lle y pregethent yno, i'w cau allan oddiyno, sef o'r Mŵr, yn mhlwyf Lacharn. Ofnir fod gan yr offeiriad law yn hyn."

9. "Traethawd Defnyddiol am Ben-Arglwyddiaeth Duw, a'i Gyfiawnder ynghyd a'r Pethau Pwysfawr sy'n tarddu oddiwrth ei Ben-arglwyddiaeth ef, sef; Etholedigaeth, Prynedigaeth, Galwedigaeth effeithiol, a Pharhad mewn Gras. O waith Mr. Eliseus Cole, yn Saesoneg. Bristo, Argraphwyd gan John

Graeham ac William Pine, yn Heol y Gwîn, 1760.'

Gwel rhif. 2, 1711. Y mae yn rhagflaenu yr argraphiad, "Annerch at y Darllenydd," gan "Peter Williams," lle y dywed ei fod o'r wythfed argraffiad Seisonig; tra yr oedd y Ilall o'r chweched argraffiad. Felly cyfieithiad newydd oedd yr argraffiad hwn; ac mae yn dra thebygol mai Peter Williams oedd y cyfieithydd.

10. "Archaeologia Brittannica. By Edward Llwyd.”

Ailgyhoeddiad ydoedd hwn o rhif. 4, 1707, gyda chwanegiadau o amryw lythyrau Mr. Llwyd ar gloddiadau, gan J. Hudderford, 1760.

11. Lithophylacii Britannici Ichnographia, &c. By Edward Llwyd.” 12. ¶ Yr Ymarfer o Lonyddwch. I gyfarwyddo Cristion pa fodd i fyw yn llonydd yn y Byd trafferthus hwn. Gan George Webb. A gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Iago ab Dewi, o'r pummed Argraffiad yn Saesonaeg. Argraphwyd yn Modedern yn sîr Fôn, gan John Rowland, tros Ellis Jones.

Argraphwyd hwn o argraffiad gwallus Caerfyrddin. Gwel rhif. 1, 1730, heb ei ddiwygio, eithr yn llawer mwy gwallus na'r waith cyntaf.

13. ¶"Rhai Hymnau: A gasglwyd ynghyd er Anogaeth a diddanwch Teulu Sion. Argraphwyd 'Modedern yn Sir Fon, gan John Rowland; tros Richard Jones, a John Roberts."

1761.

1. Rheolau a Threfniadau yr Unol Gymdeithasau a Sefydlwyd yn Llundain, Bristo, &c. Bala, Argraphwyd gan John Rowland."

Rheolau cymdeithasau y Methodistiaid Wesleyaidd yw y rhai hyn, wedi eu cyhoeddi a'u lledanu ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, 39 o flyneddau cyn i'r corff Wesleyaidd ymsefydlu yn Gymraeg yn y Dywysogaeth.

2. "Byrr Hanes am fywyd a marwolaeth Nathaniel Othen, yr hwn a saethwyd i farwolaeth y'nghastell Dover, y 26 o hydref, 1757. A gyfieithiwyd gan John Evans. Argraffwyd yn y Bala, gan John Rowland."

3. ¶ "The Wandering Jew, neu 'r Crudd o Gaersalem." 4. ¶ "Coppi o Lythyr yr hwn a gafwyd Tann Garreg, ymmha un y mae amryw Gynghorion da a buddiol; eithr yn fwyaf enwedigol ynghylch cadw yr Sab

both."

5. "Marwnad y Parchedig Mr. Griffith Jones, Gweinidog Llanddowror a Llandeilo Fach; yn Shir Gaerfyrddin. Yr hwn a fu Farw yr 8fed o Ebrill, 1761. Colled pa un ddylai fod o fawr Alar i Bawb trwy Gymru. Ynghyd a Gair o Annogaeth i'r Bendefiges Anrhydeddus Madam Bevans, I ddwyn yr achos mawr daionus yn y blaen; Sef yr Ysgolion rhad. Gan William Williams. Caerfyrddin, Argraffwyd gan Evan Powell, yn Heol y Prior, 1761."

6. "Piety the Best Portion. By W. Herbert."

Awdwr y llyfr hwn oedd bregethwr ymhlith y Bedyddwyr. Yr ydoedd yn anneddu yn Brechfa, yn aelod yn Nghedwstan, a bu beth amser yn weinidog yn Maes-y-berllan, yn sir Frycheiniog. Wedi ei farwolaeth y cyhoeddwyd y llyfr, canys bu efe farw yn 1742.— "Hanes y Bedyddwyr."

7. "Marwnad ar ol Mari, Gwraig Richard Howel, o Ben-y-Deintir. Yr hon a derfynodd ei Hoes y 4 o Chwefror, 1761. Gan William Jones. At ba un y 'chwanegwyd Hymn Newydd, &c. Argraphwyd yn Nghaerfyrddin, gan Rhys Tomos, yn Heol Awst, 1761.”

8. "Cofiadur Prydlon Lloegr, &c. A gyfieithwyd o'r Saesneg i'r Gymraeg, gan Mr. E. Ellis, Gweinidog Eglwys Rhos a Llandidno. Årgraphwyd yn y Mwythig gan Stafford Prys, yn y flwyddyn, 1761."

Hanes un Mr. Richard Brightly, gweinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig, yr hwn a fu farw yn ei areithfa ydyw.

9. "Llythyr Oddiwrth Gymanfa O Weinidogion, At yr Eglwysi Y Perthynent iddynt. Caerfyrddin, Argraffwyd; Gan Evan Powel, yn Heol y Prior,

1761."

1762.

1. "Rhodd oreu Rhieni i'w Plant. i. Yn cynnhwys Catechism yr Eglwys. ii. holion ac attebion, allan o'r ysgrythyr Lân. iii. Buchedde 'r Eglwyswyr, &c. Mwythig."

2. "Pantheologia, Neu Hanes Holl Grefyddau'r Byd, &c. At yr hyn y chwanegwyd Nodau yn rhoi Hanesion am amrywiol iawn o wledydd yn Europe, Asia, Affrica, ac America; eu sefyllfa, eu marsiandiaeth, eu Ehangder, ynghyda moesau, dysc, arferion, ymborth, a dill gwisgoedd, a threfn bywyd, eu Trigolion; Wedi eu dynnu allan o'r awdwyr diweddaraf, Goreu, a Chywreiniaf, Gan W. Williams, Gweinidog o Eglwys Loegr. Caerfyrddin, Argraffwyd gan Ev. a Dav. Powell, yn Heol y Prior, yn y flwyddyn 1762."

Y mae y nodyn canlynol ar waelod tudal. 499:-" Argraphwyd o hyn yma allan gan E. Evans, yn Aberhonddu." Bu y llyfr hwn dair blynedd ar ddeg yn dyfod o'r wasg-yn rhanau anghyfartal. Y mae yn llyfr trwchus, yn cynnwys 654 o dudalenau 12plyg. 3. "Pumtheng Araith, ar Amryw Destunau a Osodwyd allan mewn Cymdeithas gyhoedd wrth Arwydd-arf y Frenhines, yn Heol y Porth newŷdd yn Llundain. Gan T. Wetherall. Wedi ei gyfieithu er lles i'r Cymru. Gan y Parchedig Mr. Rowland, Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho. Argraphwyd yn Nghaerfyrddin: gan Rhys Tomos, yn Heol Awst, 1762."

4. ¶"Diferyn dewisol o fêl, a'r Graig Crist. Neu air byr o Gynghor i Sant a Phechadur. Wedi ei gyfieithu o'r 42 argraffiad: fe werthwyd o hono yn Saesneg, chwe ugain mil. At ba un y 'chwanegwyd Hymn am Gariad Crist, o waith y Dr. Watts. Caerfyrddin argraffwyd."

Gwel rhif. 11, 1740.

5. Cofrestr o Gymdeithas y Cymrodorion yn Llundain: Gwyl Ddewi, 1762, a sylfaenwyd Fis Medi 1751, er anrhydedd eu Gwlad a'u Hiaith, Cynnyddiad cyfeillgarwch yn eu plith eu hunain, a Gwybodaeth anianol ym mhlith y Cymry yn gyffredinol : ac a ymgyfarfyddant yn Nhafarn yr Hanner lleuad yn Cheapside, yn yr hwyr, y Mercher cyntaf o bob mis trwy'r Flwyddyn. Llundain argraffwyd."

6. "Dwy Ffurf o Weddi. Gan y Parchedig Mr. Griffith Jones, gynt Periglor

« PreviousContinue »