Page images
PDF
EPUB

6. "Y Catecism; Sef yw hyny, Athrawiaeth i'w dysgu gan bob Plentyn cyn ei ddwyn i'w gonffirmio gan yr Esgob. Gyd ag Ysgrythurol Testynau perthynasol. Argraphwyd yn Llundain yn y Flwyddyn M,DCC,XLI.”

7. "Catechism y Bedyddwyr: Neu Gyfarwyddyd byr yn Egwyddorion y Grefydd Gristnogol. Yn gyttynol a'r Gyffes Ffydd a osodwyd allan gan Henuriaid a Brodyr o amriw Gynlleidfaoedd o Gristionogion (wedi eu bedyddio ar broffes o'i Ffydd) yn Llundain ar Wlâd; yn arddel yr Athrawiaeth o Etholedigaeth Bersonol, a Pharhaed hyd y Diwedd. Pont-y-pool: Argraphwyd yn yr Argraphwasg Newydd, yn y Flwyddyn 1741."

8. "The Weekly History: or, An Account of the most Remarkable Particulars relating to the Present Progress of the Gospel. London: Printed by J. Lewis in Bartholomew-Close, near West Smithfield. [Price One Penny.j" Papyrau wythnosol oeddynt, o ddwy ddalen unplyg, yn cynnwys llythyrau oddiwrth weinidogion, ac eraill, ag oedd ganddynt law yn y diwygiad Methodistaidd yr oes hòno, yn Nghymru a Lloegr. Y mae y rhan fwyaf yn cynnwys llythyrau oddiwrth, ac at Howel Harries a George Whitfield; yn cynnwys hanes eu teithiau, eu trallodion, a'u llwyddiant. Dechreuwyd eu cyhoeddi tua'r 9fed o Ebrill, 1741; canys y mae o'n blaen y rhifyn 44, am "Saturday, Feb. 6, 1741-2" (yr hyn oedd Chwefror 6ed, 1742, yn ol y cyfrif newydd), a rhifynau 47, 50, 53, 54, 55. Pa sawl rhifyn gyda hyny a ddaeth allan, nid all yr ysgrifenydd benderfynu; ond y mae yn debyg na ddaeth Ilawer, canys newidiwyd y dull i rifynau bychain, am yr hwn, gwel rhif. 8, 1743. Cynnwysant hefyd yn eu diwedd hysbysiadau am lyfrau a gyhoeddid gan Whitfield ac eraill, yn yr oes hòno, ag a dybid yn fuddiol i'w lle lanu ymhlith y dychweledigion, er eu lleshad ysbrydol. Yn wir, math o bapyrau newyddion crefyddol oeddynt. Ymddengys mai John Lewis oedd yr anturiaethwr, a'i fod yntau yn 66 un o honynt," canys gelwir ef" dear brother Lewis," yn rhai o'r llythyrau; ac y mae rhai yn gyfeiriedig ato ef. Y mae yn briodol sylwi mai ymhlith y dosbarth Calfinaidd o'r diwygwyr Methodistaidd yr oedd y papyrau hyn yn cael eu taenu. Y maent yn werthfawr iawn i hynafiaethydd Methodistaidd Cymreig. Byddai rhestr gyflawn o honynt yn drysor gwerthfawr, gan fod yn anhawdd iawn eu cael oll. Y maent yn perthynu cymaint, os nad mwy, i Gymry nag i neb arall.

1742.

1. "Rhai Hymnau Duwiol o waith Edmund Williams, Yr hwn ydoedd ŵr Eglwysig. A lewyrchodd yn hynod dros amser, Ond a fu farw yn Mlodau ei ddyddiau pan oedd o amgylch 25 Oed. Gosodir i lawr ymma hefyd, Ymddiddanion ynghylch dawnsio, A Rhai o'i Eiriau diweddaf, Ar ei glâf-wely Angau, er lleshaed i'r Byw, yn enwedig ir Ieuaingc. Psm. xxxvii. 37. Printedig yn Bristol gan F. Farley, 1742."

2.¶"Rheolau Cymdeithas Grefyddol." 3.¶"Hymnau Duwiol, gan Howel Harris, Morgan Jones, Daniel Rowland, Herbert Jenkins, ac ereill.

Yr oedd yn y cyfnod hwn amryw offeiriaid duwiol ac efengylaidd yn sir Fynwy, yn cefnogi y diwygiad Methodistaidd; un o ba rai oedd y Mr. Edmund Williams uchod. Yr oeddynt yn cynnal cymdeithasau y profiad; ac ymddengys mai i lywodraethu y cyfryw gymdeithasau y ffurfiwyd y rheolau uchod; a'r Hymnau a gyfansoddwyd at eu gwasanaeth, cyn bod nemawr eto i'w cael, cyfaddas i'r cyfryw gyfarfodydd a theimladau brwdfrydig crefyddol. Gwelodd yr ysgrifenydd rhif. 2 a 3, 1741 ; a rhif. 2 a 3, 1742, yn un llyfr, yr hwn a fu yn meddiant Dr. Read, o Bont-y-Pool, yr hwn yntau oedd yn un o honynt," am yr hwn y cyfansoddodd Bardd Pant-y-celyn, un o'r Marwnadau melusaf o'i eiddo. Cynnwysai yr un llyfr hefyd lawer o hymnau mewn ysgrif.

4. "Welch Piety Continued: or, A Further Account of the Circulating_Welch Charity Schools, from August 1740, to August 1741. In a Letter to a Friend. London: Printed by M. Downing, in Bartholomew-Close. MDCCXLII."

5. "Welch Piety Continued: Or A Further Account of the Welsh Charity Schools, from September 1741, to September 1742. In a Letter to a Friend. London: Printed by M. Downing, in Bartholomew-Close, MDCCXLII."

6. History of Britain, till the Death of Cadwaladr, with Lhuyd's Breviary 1742." Folio.

1743.

1. "Hyfforddiad i wybodaeth jachusol o Egwyddorion a Dyledswyddau Crefydd: sef Holiadau ac Attebion Ysgrythyrol Ynghylch yr Athrawiaeth a gynhwysir yng Nghatecism yr Eglwys, angenrheidiol i'w dysgu gan Hen ac Ieuangc. Yr ail Ran &c. Gan Weinidog o Eglwys Loegr. Argraphwyd yn Llundain yn y Flwyddyn MDCCXLIII."

O bosibl nad rhaid mynegu mai rhan o un o'r argraffiadau cyntaf, os nad y cyntaf, o waith y Parch. G. Jones, Llanddowror, ydyw hwn. Ni ddaeth y rhan gyntaf erioed i'n llaw; yr hon, yn ddiau, a gyhoeddwyd ryw ychydig o amser cyn hyn-os nad rhif. 6, 1741, ydoedd.

2. "Traethawd ar Farw i'r Ddeddf, a byw i Dduw, At ba ûn y chwanegwyd Chwêch o Hymnau buddjol, ar amryw Ystyrjaethau. O Waith y Parchedig Mr. Daniel Rowlands. Argraphwyd yn Bristol, gan Felix Farley, yn y Flwyddyn, 1743."

3. "Llythyr o annerch Difrifol a charedig, oddiwrth Weinidog yn y wlad at ei Blwyfolion, yn cynnwys i. Gyffredinawl a Neilltuawl Ddosparthiadau yn tueddu at fywiogi gwir deimlad o Grefydd ac ymarfer o Grist'nogrwydd. ii. Ymgais ewyllysgar i adferu Crefydd Deuluawl; ynghyd â ffurf eglŷr o Ddefosiwn o Deuluoedd, wedi ei chwanegu âg yspysiadau ac athrawiaethau eraill angenrheidiol ynghylch Gweddi, y cyfan wedi ei gyfaddasu at synhwyrau y cyffredin bobl, &c. Gwedi ei gyfieithu o'r Saes'naeg gan T. Jones, Gweinidog Plwyf Llangynog yn y Flwyddyn 1742. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thos. Durston, Gwerthwr Llyfrau, 1743."

4. "Llyfr Gweddi Gyffredin &c. Argraphedig yn y Mwythig, ac ar Werth yno gan Thomas Durston, Gwerthwr Llyfrau. 1743.'

[ocr errors]

5. "History of the Ancient Britons. By William Owen. London 1743." 6. Crynodeb o Salmau Canu: sef rhai Salmau Detholedig yn gyfain, a'r Rhannau mwyaf buddjol ac eglur eu Hystyriaeth, o Salmau ereill; a chynhulliad o Adnodau perthynol i'w gilydd ar amryw Destynau; gydar Ystyr o honunt, yn fyr, o flaen pob Salm, &c. Argraphwyd yn Llundain yn y Flwyddyn MDCCXLIII."

7.¶"Catecism o'r Ysgrythyr, yn nhrefn Gwyr y Gymmanfa. A sgrifenwyd yn Sais'neg, Gan y Parch. Matthew Henry, Gweinidog yr Efengyl. Wedi ei gyfieithu gan Iago ab Dewi. Yr ail Argraffiad. Caerfyrddin Argraffwyd gan

J. Ross."

8. "An Account of the most remarkable particulars relating to the present progress of the Gospel. London: Printed and Sold by John Lewis, in Bartholomew-Close, near West Smithfield. MDCCXLIII.”

Daeth yr uchod allan yn rhifynau bychain wedi i'r "Weekly History" beidio. Nis gallwn fynegu pa sawl rhifyn a ddaeth o honynt; y mae yr un sydd genym wrth ein Ilaw yn "Number ii. vol. ii.," a'r llythyr cyntaf oddiwrth "Brother Thos. James (an exorter in Wales) to the Rev. Mr. Whitfield” wedi ei amseru "Builth, Dec. 4, 1742."

1744.

1. "Y rhyfel Ysprydawl a wnaethpwyd gan Shaddai ar Diabolus, er ennill yn ol Fam-ddinas-Byd: Neu golli ac ennill drachefn Dref Mansoul. Gan John Bunyan, Awdwr Taith y Pererin, y Gynta a'r Ail Ran. Argraphwyd yn y Mwythig gan Richard Lathorp, lle y gellir cael Printio pob math o Gopiau am bris gweddaidd, a chael ar werth amryw Lyfrau Cymraeg a Saes'naeg, 1744." Mae y rhagymadrodd gan "Dl. Rowland," yn dangos yn debygol mai y Parch. Daniel Rowland, Llangeitho, a'i cyfieithodd.

2. ¶"Patrwm y Gwir Gristion; neu Ddilyniad Iesu Grist, &c. Mwythig Argraphwyd gan Thos. Durston."

Gwel rhif. 2, 1679; rhif. 6, 1684; rhif. 4, 1723; a rhif. 3, 1737. Sylwasom o'r blaen fod enw yr awdwr mewn dull trwsgl iawn-weithiau "H. O. Gwenynoc," pryd arall "H. O. Gwenydeg," yr hyn a wnaeth i ni dybio mai gweinidog y dylasai fod, a bod rhoddi "Esq." gyda hyn yn amryfusedd. Pryd arall y mae "Gan H. O. Gwenynog ym Mon, Esq."

3. "Welch-Piety Continued: Or, A Further Account of the Circulating WelchCharity Schools, from Michaelmas 1742, to Michaelmas 1743. In a Letter to a Friend. London: Printed by M. Downing, in Bartholomew Close,

MDCCXLIV.

[ocr errors]

4. "Pregeth Ddiweddaf Mr. John Bunyan: A bregethwyd yn Llundain yn Mis Gorphenaf, yn y Flwyddyn o Oed ein Harglwydd MDCCVIII. A gyfieithwyd i'r Cymro-aeg gan John Morgan, Diweddar o Blwŷf Cynwil-Gaïo. Argraphwyd yn Nghaerfyrddin: gan Samuel Lewis, MDCCXLIV."

5. "Crist ym Mreichiau'r Credadyn, Wedi ei osod allan mewn Pregeth ar Luc ii. 28. Gan Ebenezer Erskine, M.A. At ba un y chwanegwyd, Pregeth arall, a elwir Dadl ffydd, Ar Air a Chyfammod Duw, Salm lxxiv. 20. Gan y Parch. Ralph Erskine, M.A. Hefyd Odl ar Waith a Dadl y Nefoedd, Wedi ei gymmeryd allan o'r Llyfr rhagorol hwnw a elwir yn Saesonaeg, Gospel Sonnets. Newydd eu cyfieithu i'r Gymraeg. Caerfyrddin, Argraphwyd gan J. Ross, tros y Cyfieithydd, MDCCXLIV."

6. "Aleluja, neu, Casgliad o Hymnau, Ar amryw Ystyriaethau O Waith y Parchedig Mr. William William. Yr ail Argraphiad. Caerfyrddin: Argraphwyd gan Samuel Lewis, yn Heol y Brenin; Lle gellir cael argraphû pob math o Lyfrau Cymro-aeg, & Saeson-aeg; Llythyren newydd a Phapûr da; yn gystal ac yn Llundain. MDCCXLIV."

7. “Hymnau Duwiol, yw canu mewn Cymdeithasau Crefyddol. A Gyfansoddwyd gan mwyaf, Gan y Parchedig Mr. Daniel Rowlands. Gweinidog O Eglwys Loegr. Printiedig yn Bristol, gan Ffelix Farley, yn y flwyddyn M,D,CC,XLIV."

1745.

1. "Ystyriaethau ynghylch angenrhaid a mawrlles Buchedd Grefyddol. Gyda Gweddiau Boreuol a Phrydnhawnol. O Gyfieithiad Mr. Roger Edwards. Argraffedig yn Llundain: Ac ar Werth yno gan S. Birt, tan Lyn y Bibl ar Bêl yn yr Heol a elwir, Ave-Mary-Lane. MDCCXLV."',

2. "Myfyrdodau Duwiol i'n cymhwyso erbyn awr angeu. Mwythig." 3. "A Letter to a Clergyman, Evincing the Necessity, and vindicating the Method of Instructing Poor and Ignorant People to read the Holy Scriptures in their native Language; and of Catechally teaching them the Principles of Religion, in Circulating Charity Schools: Attemted of late in some parts of Wales. London: Printed by M. Downing, in Bartholomew-Close, MDCCXLV."

Nid oes lle i ammheuaeth mai y Parch. G. Jones, Llanddowror, ydoedd yr awdwr. 4. "Histori Nicodemus. Neu, yn hytrach Ysgrifen Nicodemus, o herwydd na dderbyniodd yr Eglwys ond pedair Efengyl, &c. A osodwyd allan gan Dafydd Jones: Myfyriwr ar hen bethau. Argraffwyd yny Mwythig, ac ar werth yno gan Thos. Durston."

5. "Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Beth Diweddaf, sef Angeu, Barn, Nef, ac Uffern. Gan John Morgan, M.A. Argraffwyd yn Llundain : Aca werthir yno gan S. Birt, yn yr Heol a elwir Ave-Mary-Lane. M,DCC,XLV."

Trydydd argraffiad. Gwel rhif. 1, 1707; a rhif. 3, 1714.

6. ¶ "Caniadau Edmund Prys."

Gwel rhif. 2, 1686; a rhif. 3, 1698. Beth oedd y caniadau hyn-pa un ai ei Salmau, ai ei weithiau barddonol eraill-nis gall yr ysgrifenydd benderfynu. Cyfeirir at yr argraffiadau uchod yn y "Diddanwch Teuluaidd."

7. “Aleluwia, neu Gasgliad o Hymnau, Ar amryw Ystyriaethau. O Waith y

Parchedig Mr. William Williams. Yr ail Ran. Argraphwyd ymrhisto, gan Ffelix Farley, yn y Flwyddyn м,DCC,XLV."

8. "Aleluia, neu, Gasgliad o Hymnau, Ar amryw Ystyriaethau. O Waith y Parchedig Mr. William Williams. Y Drydydd Rhan. Argraphwyd Ymrhisto gan Ffelix Farley, yn y Flwyddyn м,DCC,XLV."

9. "Hymnau Detholedig; O Waith amryw Awdwyr, wedi eu cynnull ynghŷd, a'i diwjgio yn yr Ysgrifenyddiaeth A'r Brydŷddjaeth, ac yn yr Ystyr o honynt, Er Lles y Cymru. Gan Weinidog o Eglwys Loegr: Caer-Ferddin, Argraphwyd gan Samuel Lewis, M,DCC,XLV."

Y mae y sillebiaeth yn peri i ni briodoli hwn i weinidog Llanddowror.

10. "Llyfr Carolau a Dyriau Duwiol. Yn Cynnwys Casgliad helaethach nag a fu'n yr Argraphiadau eraill, o Oreuon Gwaith y Prydyddion goreu Ynghymru ; yn y ffordd honno o Gerddoriaeth. At ba un y Chwanegwyd, Yr Ail Rhan, y'hon na fu erioed o'r blaen yn Argraphedig. Y Pedwerydd Argraphiad. Argraphwyd yn y Mwythig, gan T. Durston, lle y gellir cael Printio pob math ar gopiau am bris gweddaidd, a chael ar werth amryw Lyfrau Cymraeg a Saesoneg."

Gwel rhif. 3, 1686; rhif. 1, 1696; a rhif. 6, 1720. Yr unig wahaniaeth rhwng y pedwerydd a'r trydydd argraffiad yw ychwanegu " Pedwerydd Argraffiad " ar y gwynebddalen, ynghyda newid yr amseriad, o'r flwyddyn 1720, i “Mwythig, Ionawr y 24 dydd, 1745;" a rhoddi "J. R." yn lle "John Rhydderch," yn niwedd y rhagymadrodd. Heblaw hyny y mae y ddau argraffiad mor debyg i'w gilydd-yn cyfateb yn y llythyrenau, ei blygiad, a'i dudalenau—a phe buasai yr un argraffiad. Ymddengys i Durston argraffu yr olaf wedi marwolaeth Rhydderch, heb gyfnewid ond oedd yn anghenrheidiol i'r amseriad, fel argraffiad bum mlynedd ar hugain ar ol y llall.

11. "Welch Piety Continued: Or, A Further Account of the Circulating Welch Charity School, From Michaelmas 1743, to Michaelmas 1744. In a letter to a Friend, London: Printed by M. Downing, in Bartholomew-Close, MDCCXLV." 12. "Dail Pren y Bywyd: Neu, Iechydwriaeth y Cenhedloedd trwy Efengyl Iesu Grist. Wedi ei hagorŷd a'i chymmwys mewn Pregeth. Ar Dad. xxii, adn. 2, a'r Rhan ddiweddaf. Pennau'r hon a ddysgwŷd mewn Breuddwyd, Yr 20fed o Fis Mawrth, 1742. Gan Solomon Owen Caradog, Bugail yn Nghymru, ac a 'scrifenwyd gan mwyaf, ganddo ei hun, yn Saeson-aeg. Ac a wnaed yn awr yn gyhoeddus, er Llês Cyffredinol i Genedl y Cymru, gan Edmund Jones, Gweinidog yr Efengyl. Caerfyrddin: Argraphwyd gan Samuel Lewis, lle gellir cael argraphu pôb rhyw lyfrau Cymraeg & Saesonaeg. M,DCC,XLV." 13. "Cerdd Sion; sef, Traethawd yng nghylch Moli Hymnau ac Odlau ysbrydol, &c. Y Rhan Gyntaf. wng o Eglwys Loegr. Argraphwyd yn Llundain yn y

[ocr errors]

1746.

Duw mewn Salmau a
Gan Weinidog anheil-
Flwyddyn 1745."

1. "Y Bibl Cyssegr-lan, sef Yr Hen Destament ar Newydd. Caergrawnt: Printiedig gan Joseph Bentham, Printiwr i'r Brif-Ysgol, M.DCC.XLVI.'

[ocr errors]

Y mae yn gysylltiedig âg ef "Lyfr Gweddi Gyffredin, A Gweinidogaeth y Sacramentau, a Chynheddfau a Seremoniau eraill yr Eglwys, yn ôl arfer Eglwys Loegr; Ynghyd a'r Sallwyr neu Salmau Dafydd, Wedi eu Nodi megis ag y maent i'w Canu neu i'w Dywedyd mewn Eglwysydd; a'r Ffurf neu Ddull Gwneuthur, Urddo, a Chyssegru Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid." Y mae ynddo hefyd fapiau-" Teithiau Plant Israel yn yr Anialwch, a Theithiau yr Apostolion. Rhodd Wm. Jones, Esqr., F.R.S., i'r Cymru; gyda Mynegai'r Bibl Cyssegr-lân; yn dangos pa amser y digwyddasant, a pha leoedd yn yr ysgrythyr y maent wedi eu gosod i lawr." Y "Wm. Jones, Esqr., F.R.S.," ydoedd tad yr hyglod Syr William Jones, tybygid. Y mae yn eynnwys hefyd yr Apocrypha" a 'Gosodedigaethau Chanonau Eglwysig," a "Tablau Arian, Pwysau, a Mesurau, &c.," a gyfansoddwyd gan "Risiart Morys, Golygydd yr Argraphiad hwn o'r Beibl." Y mae yr holl bethau hyn yn ei wneyd yn llyfr wythplyg trwchus iawn. Dyma yr argraffiad cyntaf o olygiaeth "Risiart Morys o Fon." Y mae yn ol trefn Biblau Moses Williams o'r blaen. Yr oedd y

[ocr errors]
[ocr errors]

Biblau hyny wedi myned can brined erbyn hyn, fel na cheid un yn un man am bunt. Yr hyn a gynhyrfodd ac a achlysurodd i'r Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol i gyhoeddi yr argraffiad hwn y pryd hyn, ydoedd, taerni y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Yr oedd ef yn awr yn llawn gwaith gyda ei Ysgolion Rhad; ac yn ei "Fynegiadau" o sefyllfa ei ysgolion o flwyddyn i flwyddyn, yn yr iaith Seisoneg, o dan yr enw "Welch Piety," yr oedd yn darlunio sefyllfa y wlad o ran prinder am air Duw mewn iaith gref iawn. Gwelsom iddo, yn y flwyddyn 1741, gyhoeddi “An Address to the Charitable and Well disposed; in behalf of the Poor in the Principality of Wales," (gwel rhif. 4, 1741), yn yr hon y mae yn "dymuno caniatad, yn ostyngedig i osod o'u blaen, y darlyniad byr canlynol; mor fawr y mae eisiau eu cydymdeimlad y pryd hwn, tuag at gynyrchu llesiant ysbrydol a thragywyddol y bobl dlodion yn Nhywysogaeth Cymru, y rhai sy'n llafurio dan yr angenrheidrwydd mwyaf gofidus o gael eu cyflenwi & Beiblau Cymraeg, Llyfrau Gweddi Gyffredin, Caticismau, ac Ysgolion Elusenol i ddysgu iddynt y pethau a berthyn i'w Hiachawdwriaeth dragywyddol, yn eu hiaith eu hunain, yr unig Dafodiaith y mae y Tlodion yn alluog i gael eu dysgu ynddi." Efe a ychwanega-" Y mae angen gofidus a dymuniad taer am argraphiad helaeth o'r Beiblau a Llyfrau Gweddi yn yr iaith Frytanaidd,-dim llai rhif [na deuddeng mil -y rhifa argraphwyd o'r rhan gyntaf o'r 'Esboniad ar y Catecism"] all ddigoni i diwallu y rhai sydd eisoes wedi dysgu, neu sydd yn awr yn dysgu darllen ac yn sychedig am danynt." Yr oedd rhyw ddwy y pryd hyn wedi rhoddi 30p. bob un, a dau arall 100p. bob un, tuag at y draul. Yn ei " Welch Piety," am yr un flwyddyn, y mae yn taflu at yr esgobion-fod yn awr y cyfleusdra goreu iddynt a allai fod i "wneyd eu henwau yn anwyl gan y genedlaeth hon a'r ddyfodol, trwy gefnogi argraffiad o'r Beibl Cymraeg." Oddeutu pum swllt yr un, meddai ef, a gostiai argraffu Biblau a Llyfr Gweddi ynghyd; ac yr oedd trysorfa wedi ei chasglu, erbyn 1742, digonol i dalu un ran o bedair o'r draul i argraffu deng mil o Fiblau a Llyfr Gweddi Gyffredin, sef tuag 1,250p. Erbyn y flwyddyn 1744, yr oedd ysgogiad am gael argraffiad newydd, oddiwrth y Gymdeithas er lledanu Gwybodaeth Gristionogol; ac erbyn diwedd y flwyddyn 1746, yr oedd "gobaith i'r tlodion gael y Beibl Santaidd yn eu hiaith, am bris isel, a chymaint ag a fyddo yn bosibl o'r rhai tlotaf heb dalu dim." Yr oedd cysylltiad arbenigol rhwng cyhoeddiad yr argraffiad hwn â'r Ysgolion Rhad hyny, yn ol y cytundeb â'r cyfranwyr, sef fod y "Personau, y rhai y mae eu henwau isod wedi cytuno i gyfranu y symiau a roir gyferbyn â'u henwau tuag at adargraffu y Beibl Cymraeg a Llyfr Gweddi Gyffredin, i'w lledaenu yn y dull canlynol, sef yw hyny, Fod iddynt gael eu rhoddi yn ddidâl i'r tlodion teilwng, yn enwedig y rhai hyny a gyrchent at Weinidog eu Plwyf i adrodd Catechism yr Eglwys o flaen y Gynnulleidfa, mewn trefn i'w haddysgu ymhellach ynddo trwy Esboniad plaen ac eglur eu Bugail arno, yr hyn gobeithir a gynorthwya i adfywio yr hen drefn fawr ddymunadwy o Gateceisio. Yn ail, Fod yr arian a ddaw oddiwrth werthiant y cyfryw Feiblau i'r rhai ag sydd yn alluog ac yn ewyllysgar i'w prynu hwynt, i gael eu defnyddio i gynal yr Ysgolion Rhad Cymreig, felly i ddysgu y Rhifedi mawr iawn y rhai nad ydynt eto yn medru darllen." Yr oedd Mr. Jones yn derbyn cwynion o bob parth o'r wlad oddiwrth yr offeiriaid ac eraill o gefnogwyr ei ysgolion am Fiblau, a'r anbawsder o gael rhai. "Y mae llawer o'r rhai hyny a ddysgwyd nad oes ganddynt Feiblau i ddarllen ynddynt, na dim i'w prynu, pe gellid eu cael am arian," meddai "Thomas Meylor, o Gastell y Blaidd, sir Benfro." Gobeithiwn na bydd i chwi ddiffygio yn eich ymdrechiadau i gael Argraphiad o'r Beibl Cymraeg sydd gymaint ei eisiau," meddai "Ev. Davies, Gweinidog Ymneillduol Dysgedig, ac Athraw Athrofa." "Nid oes gan y rhai hyny sydd eisoes wedi dysgu fodd i bwrcasu iddynt eu hunain lyfrau da, yn enwedig y Beibl Santaidd, prinder yr hwn sydd yn awr mor fawr ag yw yr eisiau yn gymmelliadol," meddai "Jonathan Griffies, Vicar Bettws, ar ffiniau Siroedd Caerfyrddin a Morganwg." Dengys y tystiolaethau hyn fod yr anghen am air Duw yn fawr yn cael ei deimlo trwy fod mwy yn gallu eu darllen, pe caffent ef, trwy addysg Ysgolion Symudol Elusengar y Parch. G. Jones. Dywedir i lawer o Ymneillduwyr gyfranu yn helaeth tuag at yr argraffiad hwn, trwy law Dr. Stennett, un o weinidogion y Bedyddwyr, er mwyn eu cael heb fod mewn cysylltiad â'r Eglwys Sefydledig; canys nid allai yr un tlawd gael y Bibl yn rhodd yn ol ammod y cyfraniadau cyffredin, ond ar yr ammod o ddyfod i adrodd Catecism yr Eglwys wrth yr offeiriaid ar gyhoedd.

[ocr errors]

2. "Galwad Difrifol mewn Cariad Cristionogol at yr holl bobol i ddychwelyd

A "Memorial," cysylltiedig a "Welch Piety.”

« PreviousContinue »