Page images
PDF
EPUB

Cyfieithwyd ef, nid gan yr awdwr, ond gan weinidog arall, o'r enw John Phillips, yr hwn oedd enedigol o gymydogaeth Rhydwilym, yn sir Benfro, ond y pryd hyny yn Llundain.

D. S. Y flwyddyn hon yr argraffwyd yr almanac cyntaf yn Nghymru, sef yr eiddo Sion Rhydderch, yn Nghaerfyrddin.

Crybwyllir am dano yn y "Diddanwch teuluaidd."

1. "Cristionogaeth yn

2.

1735.

Printiwr. 75, fyr. Argraffwyd yn Nghaerlleon, gan Roger Adam, "Tlysau yr Hen Oesoedd. 1735."

1735."

Crybwyllir am dano yn y "Diddanwch Teuluaidd."

3. "Ymarferiadau a Myfyrdodau Sacramentaidd: Neu, Arferolwaith Cristion cyn dyfod at Fwrdd yr Arglwydd, Wrth y gwaith, ac ar ôl Cymmuno. Yn Ddwy Ran. O Waith Jabez Earl, Ď.D. Chyfieithiad Ioan Efans. Argraphwyd yn Llundain, dros yr Awdwr, gan S. Richardson, yn Salisbury-Court, gerllaw Fleet Street. MDCCXXXV.

[ocr errors]

4. "Histori yr Heretic Pelagius. Yn yr hon y rhoddir cyflawn Hanes o'i Heresi ef. Dangosir, Y modd y torodd yr Heresi honno allan yn ddiweddar ym mysg y Protestaniaid: Y modd yr ydys yn gwyrdroi yr Ysgrythyrau tuag at eu Hamddiffyn. Hefyd, Y modd y cafodd ei dwyn i mewn (yn yr Oes ddiwaetha a aeth heibio) i'r Deurnas hon. Gan S. T. Argraffwyd yn y flwyddyn 1735."

Digon tebyg mai Samson Thomas, gweinidog Ymneillduedig yn sir Benfro, ydoedd yr awdwr, ac awdwr yr "Oes-lyfr." Y mae hwn yn gyfrol fechan dlws, o 256 tudal., 24plyg. Y mae tua ei hanner yn cynnwys "Histori Arminius." Am Pelagius, efe a ddywed, "Ei Enw cyntaf priodol ef oedd Morgan. Yr Enw hwn sydd gyffredin yn mysg y Cymru hyd heddyw. Y Cymru a'i cymerasant oddiwrth yr hen Rufeiniaid. Canys Preswyliodd y Rhufeiniaid yn yr Ynys hon yn mysg y Brytaniaid amryw Gannoedd o Flynyddoedd. Yr enw Rhufeinaidd oedd Marcus. Nid oedd un Enw agos mwy cyffredin ym mysg y Rhufeiniaid na'r Enw hwn. Y Cymru a'i cymmerasant ac a'i galwasant Marc: Ac o'r Enw hwn [Marc] ffurfiasant Enw arall, yr hwn oedd Marcyn. Ac ar ol hir arferiad yr Enw hwn [Marcyn], rhoddodd tafod y bobl gyffredin droad iddo, ac a'i galwasant Morgan. Yr un gyffelyb beth a wnaethant mewn perthynas i'r Enw Joan. Joan, gair Hebraeg yw: Fe'i arferyd yn gyffredin iawn ym mysg yr hen Iuddewon. Jochanan a'i galwent; mae 'n dyfod o'r Gair Hebraeg [Chanan], yr hwn sy'n arwyddoccau graslawn. Yr enw Hebraeg Jochanan, y Groegiaid a'i galwent ac a'i scrifenent Joannes; a'r Rhufeiniaid Johannes. Y Cymru a'i cymerasant oddiwrth y Rhufeiniaid, a'i galwasent Ioan. Ioan y galwe y Cymru ef ar y cyntaf eithr ar ol hir arferiad, y cyffredin bobl, a'i lled droesant ac a'i galwasant Iouan, ac ar ol hyny Iewan, ac o'r diwedd, Ifan. Y Saeson o honynt hwythau a gymerasant yr enw hwn. Johnnes, ac a'i galwasant John. Yr enw John, y Cymru a'i cymerasant oddiwrth y Saeson, ac a'i galwasant Shon: ac o'r enw hwn, Shon, y cyffredin a ffurfiasant enw arall, sef Shoncyn; a'r enw hwn, Shoncyn, trwy hir arferiad a drowyd ac a alwyd Shencyn. Ac felly, Ioan, Iouan, Iewan, Ifan, Shon, a Shencyn, nid ydynt ond un enw, wedi ei wyrdroi a'i drawsffurfio gan Dafodau y Bobl gyffredin. Felly hefyd, Walter, Wat, Watcin. Yn yr un modd Marcyn a alwyd o'r diwedd Morgan. Eithr Pelagius, er bod o hono yn Lladingwr gweddol, eto ni ddangosodd ef yma fod gantho Wybodaeth dra chywrain yn Nhafodiaeth ei wlad ei hun. Canys fe debygodd fod ei enw ef [Morgan] yn arwyddocau y Môr-heli; ac am hyny efe a gymerodd yr enw Llading am y gair mór, sef Pelagus. Y Rhufeiniaid a'r Groegiaid a alwant môr Pelagus: a thrwy chwanegiad un llythyren, fe ffurfiodd ei enw Pelagius. Ac oddiwrth yr enw hwn y mae ei ganlynwyr ef yn cael eu galw Pelagians."

1736.

:

1. "Cadwyn Euraidd o Bedair Modrwy, I dynu Pechaduriaid, at eu dymunol Drigfan. Neu Ystyriaeth byr, o'r pedwar peth olaf, sef 1. Marwolaeth, y sicraf. 2. Barn, y manylaf. 3. Uffern, y mwyaf dychrynadwy. 4 Y Nef, y mwyaf hyfryd, &c. Argraphwyd yn y Mwythig, tros Lewis William, 1736.

2. "Heraldry Displayed. By John Davies."

Yr oedd John Davies yn byw yn y Rhiwlas, Llansilin, yn sir Ddinbych. Dichon mai ailargraffiad diwygiadol o'r rhif. 1 a 2, 1616, ydoedd hwn.

1737.

1. "Welsh Piety, or an Account of the Circulating Welsh Charity Schools, from Michaelmas 1736 to Michaelmas 1737. London, Printed by M.

Downing."

Mynag ysgolion symudol y Parch. G. Jones, Llanddowror, ydyw y cyntaf; y rhai a barhawyd bob blwyddyn o hyn hyd 1760. Y maent yn gronfa ragorol o wybodaeth am ansawdd crefydd a dysgeidiaeth yn yr oes hono.

2. "Y Rhedegwr Ysbrydol, Gan John Bunyan. Newydd ei gyhoeddi o Ail lyfr unplyg yr Awdwr ; ac a argraphwyd yn Llundain, 1737; tan olygiad y Parch. Samuel Wilson."

3. "Patrwm y gwir Gristion; neu Ddilyniad Iesu Grist, &c. Gan Thomas à Kempis. Mwythig, Argraphwyd gan Thos. Durston."

Y mae arlun o'r croeshoeliad yn nechreu yr argraffiad hwn o'r "Llyfr Dilyniad;" ac yn ei ddiwedd, dywedir mai yn 1737 yr argraffwyd ef. Gwel rhif. 2, 1679; rhif. 3, 1684; a rhif. 4, 1723.

4. "Cyngor Rhad yr Anllytherennog: Neu Lyfr bâch mewn ffordd o Holiad ac Ateb, yn anrheg mewn cariad i ddynion tlawd ac isel y ddyscu darllain. Gyda Dymuniad difrifol ô fendith y Nefoedd arno, fel y delont trwy Râs ac addysc y'r Yscrythyrau y adnabod ac y addoli Duw, y fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn ddedwydd yn y byd a ddaw. Gan Weinidog & Eglwys Loegr. Argraffwyd yn Llundain yn y flwyddyn M.DCC.XXXVII."

5. "Dwy Ffurf o Weddi. Y Gyfarwyddo 'r anghyfarwydd ynghylch y ddy' edswydd fawr hon, a'r y llwyddiant ô ba un, gyda Duw, y mae tragywyddol Iechydwriaeth Dŷn yn sefyll, fel na ddyleu neb esceuluso gweddi (mewn amser Cymmeradwy) ac ewyllysio fod yn gadwedig. Argraffwyd yn Llundain yn y flwyddyn M.DCC.XXXVII.'

Dichon mai gwaith gweinidog Llanddowror ydyw y ddau uchod, y rhai a argraffwyd gyda eu gilydd, yn un llyfr; ond fod gwyneb-ddalen i bob un wrtho ei hun. 6. "Helaethrwydd o Ras I'r Gwaelaf o Bechaduriaid. Mewn hanes gywir a ffyddlon o Fywyd a Marwolaeth John Bunyan, &c. Wedi Gyfiaethu o'r Nawfed Argraphiad Saesneg, Gan John Einnon. Argraphwyd yn y flwyddyn 1737, ag ar werth gan Dafydd Isaac. Pris 1s. 6c."

7. "Cyfarwyddid i'r Cymru. A ysgrifenwyd yn 1655. Mwythig, 1737."

Printiedig yn y

8. "Yr Ymroddiad neu Bapuryn. A Cyfieithwyd ddwy waith i helpu y Cymru o'r Hunan a'r drygioni. Fe a'i Cyfieithwyd yn y flwyddyn 1654. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thomas Durston, tros Lewis William, Gwerthwr Llyfrau, yn y flwyddyn 1737."

Yr ydys yn priodoli y ddau ddiweddaf i "Morgan Llwyd o Wynedd."

9. "The English and Welch Dictionary, or The English before the Welch, Containing all the Words that are Necesary to understand both Languages; but more especially for the Translation of the English into Welch. Wherein you may Easily find the Welch Word or Words to every English Word. Originally began by John Roderick, and now Finished and completed with several hundred Additional Words, by the Reverend John Williams, Rector of Willey in Shropshire, and Mr. Lewis Evan of Llandessilio. Shrewsbury Printed and sold by Thomas Durston, 1737."

:

Y mae iddo hefyd wyneb-ddalen Gymraeg fel hyn :"Y Geirlyfr Saesoneg a Chymraeg; Neu'r Saesneg o flaen y Cymraeg. Yn cynnwys yr holl Eiriau sy' angenrheidiol i ddeall y ddwy Iaith, eithr yn fwy enwedig, i gyfieithu 'r Saesneg i'r Cymraeg. Ym mha un y bydd yn hawdd i chwi daro wrth Air, neu Eiriau Cymraeg i bob Gaer Saesneg. A ddechreu

wyd ar y Cyntaf gan Sion Rhydderch, ag a ddibenwyd yn awr, ynghyd a Chwanegiad o lawer cant o Eiriau, gan y Parchedig Mr. John Williams, Person Plwyf Willey yn Sir Amwythig. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Thomas Durston, 1737."

Ailargraffiad, gwel rhif. 5, 1725. Ymddengys wrth gymharu y ddau dudalen hyn â'u gilydd, a rhagymadrodd argraffiad y flwyddyn 1725, yr hwn sydd yn y ddwy iaith, y byddai Sion Rhydderch yn argraffu ei enw yn amrywiol yn John Rhydderch, John Roderick, a John Rogers, yr ydym yn tybio. Y mae i'r ailargraffiad hwn ragymadrodd bychan gan Thomas Durston, y cyhoeddwr, fel hyn:

"Yr wyf yn credu y bydd yr ail Argraphiad hwn o'r Geirlyfr Saes'naeg a Chymraeg yn dra llesol a buddiol i Drigolion caredig Deheubarth a Gwynedd; O herwydd på ham yr wyf yn gobeithio nad oes dim Achos i'm esgusodi tros y Gorchwyl hwn.

Fe ddygwyd y gwaith hwn i ben trwy Boen a llafur Mr. J. W. yr hwn a fanwl ddiwygiodd amryw feiau anoddef yn yr Argraffiad cyntaf; O gasgliad pa un mi chwanegais agos o chwe-Chant o Eiriau newyddion yn y Saesneg a'r Gymraeg; Y mae fy ngobaith am hynny y bydd y Geirlyfr hwn yn gymmeradwy gan bawb ar a ddymunont Amlediad ag amlhâd i'r hên Iaith Frutanaidd. Y groesaw a'r Cymmeriad a ddangosodd y Cymru mwynion i'r Argraphiad cyntaf o'r Llyfr hwn (ammerffaith a beius fel yr ydoedd) a'm cynhyrfodd yn bennaf dim, i Argraphu a gosod allan yr ail Argraphiad hwn, yr hyn a'i gwna ef nid yn unig o Lês cyffredinol, ond fel yr wyf yn gobeithio, yn Foddlonrwydd mawr i'r Sawl a chwennychont goleddu a chadw y Dafodjaeth Gymraeg yn ei Phurdeb a'i Chywreinrwydd, yr hwn yw gwir Ddymuniad Eich ufuddaf Wasanaethwr T. D." 1738.

1. ¶“Tracts on the English, Welsh, and Irish.”

2. "The case of the Hon. James Annesley and the Earl of Anglesea, Humbly offered to the lovers of truth."

3. "Cydymaith i'r Allor. Yn dangos Natur ac Angenrheidrwydd O Ymbarattoi i'r Sacrament, &c. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Thomas Durston, 1738. Pris 6d."

4. "Galwad at Orseddfaingc y Gras, Fel na'n Condemnir o flaen Gorseddfaingc Barn; neu Ymddiddanion ynghylch Gweddi, yn cynnwys Annogaethau a Chyfarwyddiadau i weddio Duw tra fyddom yn y Byd hwn, fel y byddom sicr o Ras a Thrugaredd i Fywyd Tragywyddol yn y Byd a ddaw. Gan Weinidog o Eglwys Loegr. Argraphwyd yn Llundain yn y flwyddyn

M.DCC.XXXVIII.

Yr ydys yn wybodus mai y Parch. G. Jones, Llanddowror, oedd yr awdwr o hono. 5. ¶"Carwr y Cymru, yn anfon ychydig gymmorth i bob Tad, a mam sy'n ewyllysio bod eu plant 'n blant i Dduw hefyd; A chael ymddiddan ysbrydol rhwng rhieni a'u plant, yn cynnwys eu dyledswydd i'w gilydd. Argraphwyd yn y Mwythig, gan Tho. Durston, tros Dafydd Jones, Athraw Yscol Gymreig." 6. "Cydymaith yr Eglwyswr yn ymweled a'r claf, yn cynnwys yn i. Y modd neu wedd o ymweled a'r claf. ii. Y drefn am ymweled a'r claf, allan o Lyfr Gweddi Gyffredin. iii. Cymmun y Claf. iv. Rhai Gweddiau a Ffurfiau ereill, Gan mwyaf allan o sgrifeniadau defosionawl rhai o'r Difeinyddion enwocaf o Eglwys Loegr, ynghyd a Bedydd Public a Phrifat. O gyfieithiad Edward Jones, Llanafrewig. Mwythig, Argraffwyd, ac ar werth yno gan Thos. Durston." Nid oes amseriad i'r argraffiad hwn; ond hysbysir ar ddalen gysylltiedig & Geirlyfr Rhydderch a Williams, a argraffwyd gan Durston, yn 1737, ei fod yn yr argraffwasg, ac y cyhoeddid ef mewn ychydig amser. Gwel hefyd rhif. 4, 1699; a rhif. 8, 1700. Dywedasom o'r blaen na wyddem pa le ydyw y Llanafrewig; ond hysbyswyd ni wed'yn mai y lle yw Llanmerewig, ger Croesyswallt.

1739.

1. "Gwagedd mebyd a jeuengetid, yn yr hwn y danghosir natur lygredig pobl jeuange, ac y gynhygir moddion er eu diwygiad. Sef Rhai Pregethau a Bregethwyd yn Hand Alley, yn Llundain, ar ddymuniad amryw o rai jeuaingc. Gan Daniel Williams, D.D. Llundain, Argraffwyd."

Ganwyd Dr. D. Williams yn Wrexham, yn 1644. Pan yn ddeunaw mlwydd oed, ordeiniwyd ef yn weinidog Henaduriaethol. Wedi gweinidogaethu mewn amryw leoedd yn Lloegr, aeth i'r Iwerddon yn gapelwr i Arglwyddes Meath, ac i weinidogaethu i gynnulleidfa yn Dublin, lle y bu ugain mlynedd, ac y priododd foneddiges o deulu anrhydeddus a chyfoethog. Symudodd i Lundain yn 1682. Derbyniodd y radd o D. D. gan Brifurddysgolion Edinburgh a Glasgow. Gadawodd yn ei ewyllys gyfoeth lawer tu ag at wahanol achosion; megys i gynnal chwech o efrydwyr Henaduriaethol yn Urddysgol Glasgow. Ei lyfrau a adawodd i ffurfio llyfrfa gyhoeddus, yr hon a adwaenir wrth yr enw Red Cross Street Institution, ynghyd â moddion i'w chynnyddu. Hefyd, gadawodd foddion i gynnal ysgolion rhad yn mhob sir yn y Gogledd, ac i roddi crefft i nifer o'r bechgyn o'r cyfryw ysgolion. Y mae yr holl gyfoeth elusenol hwn yn awr yn nwylaw y Sosiniaid, o dan yr enw Henaduriaethwyr; er hyny, y maent yn gorfodi cynnal yr ysgolion: a chan nad oes neb yn awr yn arddel yr enw Henaduriaethwyr, neu Bresbyteriaid, o'r hen Ymneillduwyr yn siroedd y Gogledd, ac eu bod yn rhwym i fod yn gysylltiedig â chynnulleidfaoedd Ymneillduwyr Protestanaidd, y maent yn cael eu cysylltu â chynnulleidfaoedd ac â gweinidogion yr Annibynwyr. Y mae, neu yr oedd rhai yn ddiweddar, yn Bangor, Dinbych, Newmarket, a Llanbrynmair. Bu Dr. W. farw yn 1716, yn 72 mlwydd oed.

2. "Llaeth Ysbrydol: Pregeth gan y Parch. D. Rowland, Llangeitho." 3. "Pasc y Christion, Neu Wledd yr Efengyl, Wedi ei chyhoeddi Mewn Traethawd ynghylch Swpper yr Arglwydd: Gyda thair o ymddiddanion er mwyn rhoi ychwaneg o Addysg i'r Gwan ynghylch y Natur a'r Arferiad o'r Sacrament hwn. Gan Tho. Doolittel, A. M. Wedi ei gymreigio gan T. B. yr hwn a chwanegodd chwech o Hymnau i'w canu ar ol derbyn y Cymmun. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Thomas Durston, 1739."

1740.

1. "Y Nefawl Ganllaw, neu'r union ffordd i fynwes Abraham, mewn 'chydig o ystyriaethau eglur i Gyfarwyddo y Cyfeiliornus i'r porthladd dymunol hwnnw. Gan Lewis Anwil, Ysbytty Evan, Gweinidog o Eglwys Loegr. Argraffwyd yn y Mwythig."

2. "Myfyrdodau Wythnosol, Sef Myfyrdod ar bob diwrnod yn yr wythnos, yn enwedig yn amser Grawys. Gwedi eu Gyfieithu yn bennaf er mwyn addysg y Tlawd, yr hwn nad oes iddo foddion i gyrhaedd llyfrau gwell, ynghyd a Cholectau, Gweddiau, a geiriau llesawl ereill. Gan Lewis Anwil. Argraffwyd yn y Mwythig."

3. "Cynghor yr Athraw i Rieni ynghylch dwyn eu Plant i fynu, yn cynnwys rhai meddyliau neilltuol ar y testyn hwnnw. Gwedi eu gyfansoddi a'i gymhwyso i'r deall gwanaf; ynghyd a Rhagymadrodd; yn dangos mor esceulus yn Gyffre-Dinawl yw Rhieni; am roddi meithrin syberlan i'w Plant. Gan J. P. Argraffwyd yn y Mwythig."

4. "Drych y Prifoesoedd. Gan Theophilus Evans, Vicer Langamarch, yngwlad Fuallt, a Dewi yn Mrycheiniog. Ail argraffiad, yn llawnach o lawer na'r cyntaf. Argraffwyd yn y Mwythig, gan Thos. Durston, 1740."

5. "Pelydr a Thywyniad yr Ysbryd, neu Bwysi o Fyrr, sef dewisol, duwiol, a chysurlawn fyfyrdodau, yn adfywio, goleuo, a llonni'r Enaid. Wedi ei ail Brintio yn Saesonaeg, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg o ddedwydd deyrnasiad William y Trydydd. Argraffwyd yn y Mwythig, gan Thos. Durston, 1740." 6. "Caniadau nefol, sef agoriad ar y Bennod gyntaf o Ganiad Solomon, ar fesur Cerdd, yn nghyd a rhai Hymnau ysbrydol. O waith Dafydd Lewis, Gweinidog yr Efengyl. Argraphwyd yn y Mwythig gan T. Durston, 1740." 7. "Dwys-ddifol Gyngor i hunan ymholiad, wedi ei draethu mewn v o bregethau ar 2 Cor. xiii. 5. Gan Thos. Wadsworth, M. A., Gweinidog yr Efengyl gynt yn Newinton-butts, yn Southwork. Wedi ei gyfieithu er mwyn rhoi cymorth i'r Cymry i'w hadnabod eu hunain. Gan T. Baddy. Argraffwyd yn y Mwythig, gan Thos. Durston. 1740."

Ailargraffiad, gwel rhif. 4, 1713.

8. "Ateb y Parchedig Mr. Whitfield i Lythyr Bugeiliaid Diweddaf Esgob Llundain. Pont-y-pool. Argraphwyd yn yr Argraph-Wasg Newydd yn y Flwyddyn MDCCXL.'

9. Rhyw "Lyfr gan John Lewis o'r Maesgwyn, 1740."

Cyfeirir ato yn y "Diddanwch Teuluaidd."

10. "Pasc y Cristion neu Wledd yr Efengyl, &c. Gan Tho. Doolittel, A. M. Wedi ei ymreigio gan T. B. yr hwn a chwanegodd chwech o Hymnau i'w canu a'r ôl derbyn y Cymmun. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Richard Lathorp. 1740."

11. "Dyferyn Dewisol o Fel o'r Graig Crist: Neu Air Byrr o Gyngor i Saint a Phechaduriaid. Wedi ei osod allan yn gyntaf yn Saesonaeg: Ac yr awr hon wedi ei Gyfieithu i'r Gymraeg er Cymmorth i'r Gymru. Pont-y-pool: Argraphwyd yn yr Argraph-Wasg Newydd yn y Flwyddyn мDDCCXL. 32 tudalen. 12. "Llythyr Addysc Esgob Llundain Aty Bobl o'i Esgobaeth; yn eu rhybuddio yn erbyn Claiarwch o'r naill du, a zel danbaid nid ar ol Gwybodaeth o'r tu arall, A gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Theophilus Evans Vicar Llangamarch. A brintiwyd yn Nghaerloyw gan R. Raikes yn y Flwyddyn 1740."

Llyfryn yn erbyn Mr. Whitefield a'r Methodistiaid ydyw, ac atebiad iddo yw rhif. 8 uchod. Yr argraffydd ydoedd yr hyglod R. Raikes, Ysw., a enwogir yn ei goffadwriaeth fel sylfaenydd y gyfundrefn o Ysgolion Sabbothol.

13. "A Further Account of the Progress of the Circulating Welsh Charity Schools. In a letter to a Friend. By the Reverend Mr. Jones, Minister of Llandowror, near Laugharne, Carmarthenshire. London Printed for J. Hutton, at the Bible and Sun without Temple-Bar, MDCCXL. [Price six pence.]"

1741.

1. "Ym Ddiddan rhwng Rhobin Criwso a Bardd y Cwsg am y blynyddau dros Byth."

Math o almanac ydyw, am y flwyddyn 1741. Y mae yn ei ddechreu fath o gyfarchiad ar gân, wedi ei argraffu yn wallus, fel yn wir y mae yr holl lyfryn. Dyma siampl o ddau bennill :

"mi a ysgrifenais hyn yn eon

rhyd m ynyddau a bryniau gwerddon,

Ai brentio ymhon byda son am dano

a mofyn tyn am Robin Crîwso.

BARDD.

ffarwel Rhobin Criwso y lenî

mi af etto yr ogo y gyscu,
Os byddaf byw y flwyddyn nesaf
mi wnaf fwy o so am danaf."

2. "Hymnau Duwiol, Buddiol i'w dysgu, a'i canu gan bawb o ffyddlon Blant Sion; i'w diddanu ar y Ffordd wrth ymdaith tua'r Wlâd nefol. Col. iii. 16. Pont-y-pool: Argraphwyd yn yr Argraph-Wasg Newydd yn y Flwyddyn MDCCXLI."

Y mae yn ddwy ran, a gwyneb-ddalen i bob rhan.

3. "Hymnau Duwiol. O Gasgliad Gwyr Eglwysig M. J. ac E. W. Argraphwyd ym Mhont-y-pool, gan S. Mason, 1741."

4. "An Address to the Charitable and Well-Disposed; In Behalf of the Poor in the Principality of Wales. London: Printed for James Hutton, at the Bible and Sun, without Temple-Bar, MDCCXLI.”

Anerchiad Mr. G. Jones, Llanddowror, dros gael argraffiad o Feiblau a Gweddi Gyffredin i'r Cymry ydyw.

5. "Tair o Farnodau, neu Alarnadau, Godidog, mewn Coffadwriaeth i'r Parchedig a'r tra duwiol ŵr Bonheddig Mr. William Steward, Yr hwn a ddiweddodd ei yrfa ofewn Plwyf Ciwjop yn agos i Drê'r Gelli, o fewn Shîr Frecheiniog y 22 o Fîs Hydref 1740."

« PreviousContinue »