Page images
PDF
EPUB

y cwbl yn fwyaf priodol fel rhagymadrodd i'r ymresymiad yn y bennod hon a'r pennodau canlynol am waith Duw yn tori ymaith y genedl Iuddewig. Cyn myned i son am wrthodiad yr Iuddewon, y mae yn arfer yr ymadroddion mwyaf difrifol i dystiolaethu y buasai yn cymeryd y cwbl yn ewyllysgar arno ei hun, pe buasai hyny yn effeithio i symud y farn oedd yn myned i ddisgyn arnynt hwy, ac eisoes mewn rhan wedi dechreu. A phwy a all roddi terfyn i gariad y cyfryw ddyn a Paul? Fel y dywed Origen, "Os cymerodd y Meistr ei wneuthur yn felldith dros ei weision, pa ryfedd fod y gwas yn foddlawn i fod yn anathema dros ei frodyr ?" Nid yw hyn yn cynnwys fod Paul yn dymuno cael ei ysgaru oddiwrth gariad Crist, oblegid y mae y dymuniad yn tarddu oddiwrth gariad at Grist, yn gystal ag at ei frodyr; ac y mae yn dymuno ar y dybiaeth pe buasai hyny yn unol âg ewyllys Duw. Ac nid yw yn cynnwys ei fod yn foddlawn i fod yn annuwiol, oblegid nid oedd Crist yn annuwiol er ei wneuthur yn felldith drosom.

Yr hyn a ganlyn sydd ddyfyniadau ar y mater o waith rhai o'r esbonwyr a enwyd uchod:

"Yr hwn oedd beunydd yn marw, yr hwn yn yr olwg ar beryglon dirifedi oedd yn dywedyd, 'Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn?' yr hwn heb ymfoddloni ar ddywedyd hyn, ond yn myned heibio i'r nef, a nef y nefoedd, ac angelion ac archangelion, ac yn cyfrif yr holl bethau sydd uchod, ac yn casglu ynghyd bethau presennol a phethau dyfodol, y gweledig a'r anweledig, pob peth sydd yn tristäu, a phob peth sydd yn lleshau, ac heb adael dim, nid yw yn foddlawn heb dybio creadigaeth arall gyffelyb, nad yw yn bod, pa fodd y gallasai efe, pan yn ewyllysio dywedyd rhywbeth mawr, ar ol yr holl bethau hyn, grybwyll angeu tymmorol?"-CHRYSOSTOM.

"Pa beth yw ysgaru oddiwrth Grist oddieithr cau allan oddiwrth bob gobaith am ddedwyddwch? Yr oedd hyn gan hyny yn brawf o'r cariad cryfaf; gan nad oedd Paul yn petruso dymuno iddo ei hun y farn a welai yn crogi uwch ben yr Iuddewon, fel y gallai eu rhyddhau hwy. Nid yw yn un wrthddadl ei fod yn gwybod fod ei ddedwyddwch yn sylfaenedig ar etholedigaeth Duw, yr hon nis dichon fethu; oblegid fel y mae y cyfryw serchiadau angerddol yn cael eu cario ymlaen yn frysiog, felly nid ydynt yn edrych ar ddim, nac yn ystyried dim, ond y gwrthddrych at yr hwn y maent yn cyfeirio."-CALVIN.

"Y mae yn eglur nad yw geiriau dynol yn addas i gynnwys teimladau eneidiau sanctaidd, ac nid yw y teimladau hyny bob amser yr un, ac nid ydynt hwythau bob amser yn alluog i gynnyrchu y cyfryw ddymuniad. Enaid heb fod mewn teimlad tra dyrchafedig, nis gall amgyffred hyn. Am fesur y cariad yn Moses a Paul, nid hawdd yw dychymygu; oblegid nis gellir ei amgyffred gan ein rhesymiadau ni, mwy nag y mae plentyn yn alluog i amgyffred ysbrydoedd gwroniaid."-BENGEL.

"Y gwrthddadleuon a ddygwyd ymlaen yn erbyn y cariad rhyfeddol hwn ydynt oll yn tarddu oddiwrth ddull oeraidd o'i ystyried, yr hwn sydd yn hollol yn anghofio pa beth y mae calon lawn o gariad yn alluog i'w ddywedyd yn angerdd ei theimlad. Ac o ganlyniad, ni ddylid tybied fod Paul yn arfer y dull diarebol o lefaru sydd yn gyffredin yn mysg cenedloedd dwyreiniol.”—THOLUCK.

“Gyda golwg ar y gwrthwynebiadau a ddygwyd yn erbyn y syniad hwn, nid ydynt yn ymddangos yn bwysig. Gofynir, Pa fodd y gallai yr apostol fod yn ewyllysgar i gael ei ysgaru a'i fwrw ymaith am byth oddiwrth Grist? Pa fodd y gallai ymfoddloni i fod yn bechadur, ac i fod yn dragywyddol druenus ? Atebaf, (1.) Nid yw y posiblrwydd y gallai fod, neu y byddai felly, yn gynnwysyb edig mewn un modd yn yr hyn a ddywed, mwy na'r posiblrwydd i 'angel o'r

[ocr errors]

nef bregethu efengyl arall yn gynnwysedig yn yr hyn a ddywedir yn Gal. i. 8. Nid yw ond peth yn cael ei dybio neu ei osod allan yn unig, er mwyn egluro neu arddangos teimlad, neu syniad. (2.) Hyd yn nod, a chaniatau fod yr apostol yn credu y gallai y cyfnewidiad mewn dadl fod mewn gwirionedd, ni chynnwysai hyny ei fod yn foddlawn i fod yn bechadur, neu fod yn dragywyddol druenus ynddo ei hun. Pan ddywed yr apostol i Grist gael ei wneuthur yn FELLDITH trosom,' a ydyw ef yn meddwl dywedyd, ddarfod i Grist gymeryd yr ansawdd meddwl hwnw, yr hwn sydd gan y rhai melldigedig? Quid mirum,' medd Origen, si, cum dominus pro servis maledictum sit factum, servus pro fratribus anathema fiat? Yna, cynnwysai yn unig y buasai Paul yn ewyllysgar, os gallasai trwy hyny achub yr holl genedl, i gymeryd arno ei hun y trueni i ba un yr oeddynt yn prysuro. A diau fod yn bosibl amddiffyn syniad fel yma mewn modd rhesymol a sobr. Os arweiniai cymwynasgarwch Paul i fyned o dan unrhyw radd osodedig o ddyoddefaint yn y bywyd presennol, mewn trefn i ddwyn ymlaen iachawdwriaeth dragywyddol y genedl Iuddewig, oni wnai y cyffelyb gymwynasgarwch ei arwain i fyned o dan unrhyw radd osodedig o drueni mewn byd dyfodol, os byddai i'r cyfryw amcan gael ei ateb trwy hyny? Pwy aall dynu y llinell derfyn i gymwynasgarwch, oni bydd, lle y mae y drwg a ddyoddefir yn gyfartal i'r daioni a gwblheir, neu yn wir yn fwy. A oedd yn bosibl fod Paul yn meddu ar ysbryd diledryw ei Arglwydd a'i Athraw, oni allai ddyweyd, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedodd yn yr adran ger ein bron. Ond (3.) Y casgliad fod Paul yn ewyllysgar i fod yn golledig,' neu, y rhaid i Gristionogion ddyfod i'r cyfryw ansawdd meddwl o ewyllysgarwch, a wneir heb un sail oddiwrth yr adnod dan sylw. Os gallasai gwrthodiad Paul gan y Gwaredwr fod yn achlysur derbyniad ac iachawdwriaeth yr holl Iuddewon, hyn y mae yr apostol yn dadgan ei barodrwydd i ymostwng iddo; ond gan fod y cyfryw beth yn anmhosibl, a chan ei fod yntau, yn ddïau, yn gwybod hyny, y cwbl a allwn dybio yn briodol a ddysgir yn yr adnod hon ydyw, fod yr apostol yn feddiannol ar y fath deimlad o gymwynasgarwch tuag at y genedl Iuddewig, fel ag yr oedd yn barod i wneyd neu ddyoddef unrhyw beth, os byddai i'w hiachawdwriaeth hwy gael ei sicrhau trwy hyny. Mewn geiriau eraill, ymadrodd goruchel a bywiog ydyw, yn tarddu o deimlad cyffrous, yr hwn deimlad nis gallasai iaith gyffredin mewn un modd ei osod allan. Ac wrth ddefnyddio y cyfryw ymadrodd, nid oedd Paul ond yn arfer dull o siarad, yr hwn sydd eto yn gyffredin yn y Dwyrain. Er anghraifft, yr Arabiaid, er mwyn gosod allan serch cryf, yn dra chyffredin a ddywedant, Bydded fy enaid yn iawn trosot. Yr un modd Maimonides,' wrth egluro yr ymadrodd Talmudaidd (gwel, yr ydwyf yn iawn drosot), a ddywed, fod hwn yn ddull cyffredin o amlygu cariad cryf.

Felly hefyd yn yr adnod ger ein bron, mae'r cyfan wedi ei fwriadu yn amlwg, ac o anghenrheidrwydd, i osod allan gariad cryf. Ond pa amlygiad a roddasid o hyn, os tybiwn (fel y mae llawer o feirniaid yn dal allan) nad oedd yr apostol ond yn dywedyd ei fod unwaith yn dymuno cael ei dori ymaith oddiwrth Grist, sef, cyn ei dröedigaeth a phan oedd yn erlid yr eglwys? Ond pa fodd y gallasai gael ei dori ymaith oddiwrtho pan nad oedd erioed wedi ei uno âg ef? A pha brawf oedd hyn o serch presennol Paul? neu, os deallir ef fel yn golygu, tori ymaith, dinystrio, h. y., rhoddi i farwolaeth gan Grist; a ddarfu i'r apostol yn weithredol ddymuno hyn cyn ei dröedigaeth ac os gwnaeth, pa gysylltiad oedd rhwng hyn ag iachawdwriaeth ei frodyr a'i genedl ?

Mae yn bosibl, mae yn wir, esbonio ȧvádeμa fel yn cynnwys marwolaeth neu ddinystr tymmorol; a thybio fod yr apostol yn dyweyd, 'Mi a ddymunwn allu o honof ddyoddef y gosbedigaeth hono pa un y mae Crist ar fedr ei gweinyddu ar yr Iuddewon, yn eu lle.' Ni byddai i'r pwyslais gael ei hollol ddystrywio gan y darlleniad hwn. Ond lleiheid ef yn fawr. Ac hefyd, nid yw y cyd-destun mewn un modd yn ein harwain i feddwl fod y pwnc o ddinystr tymmorol yn meddwl yr apostol. Digofaint Duw yn unig, yr hwn a ddadguddir o'r nef yn erbyn yr anedifeiriol a'r anghrediniol, ydyw yr hyn yr ystyriai efe hwynt yn

"Sanhed" tudal. 18. 1.

agored iddo yn y fan hon. Ysgrifenu y mae at Iuddewon yn Rhufain ac nid yn ngwlad Canaan.

Rhaid i mi gan hyny fabwysiadu yr eglurhad uchod o'r adnod ger ein bron, sef, 'Y cyfryw yw fy nghariad at fy mrodyr Iuddewig yn ol y cnawd, fel pe gallwn osod fy hunan yn eu lle, a chymeryd arnaf y canlyniadau o'u hanghrediniaeth i ba rai y maent hwy yn agored, y gwnawn hyny yn ewyllysgar mewn trefn i'w hachub hwy.' Wele gariad, yn wir, cryfach nag angeu, yr hwn nis gallai dyfroedd lawer ei ddiffodd nac afonydd ei foddi !"—STUART.

"Nid oes i'r geiriau un meddwl os na ddeallwn ei fod yn dymuno cael ei alltudio oddiwrth Grist, a bod yn annedwydd dros byth, yn lle ei frodyr, nid yn unig er eu lleshad. Mae y dymuniad hwn, mae yn wir, yn un nas gellir ei gyflawni, gan nad yw cariad yn cydfyned âg annedwyddwch (yn hytrach, lle y mae gwir gariad, yno y mae yn rhaid fod dedwyddwch), ac nas gall un brawd ddyoddef yn lle un arall (Salm xlix. 8); Crist yn unig a all wneyd hyny, oblegid efe yw cynnrychiolwr pawb. Ond yr oedd cariad Crist, yr hwn oedd wedi ei dywallt yn nghalon Paul, yn peri iddo yntau lefain, fel yr oedd yr un ysbryd Crist o'r blaen wedi peri i Moses ddywedyd, 'Os maddeui eu pechod ; ac os amgen, dilea fi, attolwg, allan o'th lyfr a ysgrifenaist" (Exod. xxii. 32); yn yr hwn le hefyd mae yn ddïau na ddylai ystyr yr holl ymadrodd gael ei gyflenwi â'r geiriau "dros ryw amser," ond â'r geiriau "dros byth." Gellir cymeryd y geiriau hefyd fel eiriolaeth Paul ar Grist, yr hwn oedd yn alluog i wneuthur yr hyn nis gallasai efe ond yn unig ei ddymuno."-OLSHAUSEN.

"Oddiwrth Grist,' hyny yw, ei dori ymaith, neu ei neillduo oddiwrtho ef am byth mewn colledigaeth dragywyddol. Nid oes un esbonid arall a foddlona ystyr amlwg y geiriau. Oddiwrth yn yr un ystyr a gan, yn gwneyd Crist yn achosydd y felldith, nis gellid ond prin ei oddef; a llai eto y dylid cysylltu oddiwrth a dymunwn. Ar y dymuniad hwn cymharer Exod. xxxii. 32. Dros,' yn lle; neu, pe gallwn felly leshau a gwaredu o golledigaeth.-'Fy mrodyr, fy nghenedl yn ol y cnawd.' Mae yn amlwg na ddylid dirwasgu y dymuniad hwn yn y fath fodd ag i wneuthur yr apostol yn euog o'r anghysondeb o garu ei genedl yn fwy na'i Waredwr. Y mae yn iaith calon serchiadol a hunan-ymwadol, parod i ymadael â phob peth-hyd yn nod, pe buasai hyny yn bosibl, a gogoniant tragywyddol ei hun-os trwy hyny y gallai gael i'w anwyl bobl y bendithion hyny yr oedd efe yn awr yn eu mwynhau, ond oddiwrth y rhai yr oeddynt hwy wedi eu cau allan. Ac nid yw yn desgrifio y dymuniad fel wedi ei ffurfio yn weithredol; ond yn unig fel terfyn tybiadwy, i'r hwn, pe yn ddichonadwy, y buasai ei ymroddiad of drostynt yn cyrhaedd. Y mae eraill yn dadgan eu cariad trwy broffesu eu hunain yn barod i roddi eu bywyd dros eu cyfeillion; y mae efe yn amlygu angerdd ei serchawgrwydd trwy gyfrif nad oedd hyd yn nod ei fywyd ysbrydol yn ormod pris, pe buasai yn prynu eu hiachawdwriaeth."ÁLFORD.

LLYFRYDDIAETH Y CYMRY.

DYMA ni yn dechreu eto ar gyfnod newydd. Y mae pob ysgrif o'r eiddom yn cynnwys cyfnod arno ei hun. Yr hyn a hynoda y cyfnod sydd o'n blaen yn awr, yw yr adfywiad neu y diwygiad crefyddol Methodistaidd ; a choir yn y rhestr hon y llyfrau cyntaf a gyhoeddwyd yn gysylltiedig â'r "glorious revolution"-y chwildroad gogoneddus hwnw. Gyda hyn o raglith, ni a symudwn yn ein blaen. Gorphenasom ein herthygl ddiweddaf yn 1730, a dechreuwn yn bresennol yn

1731.

1. "Athrawiaeth yr Eglwys. Y Rhan Gyntaf. Yn Cynnwys xii O Draethiadau Bucheddol, a'r amryw Achosion, wedi eu Casglu allan o rai o Homiliau Etholedig Eglwys Loegr. A'u Cyfansoddi mewn Dull Newydd, ac Araith Gyfaddas i'r amser, er lles i'r Cyffredin.-Gan Peter Nourse, D.D. At yr hyn y 'chwanegwyd Gweddïau Boreuol a Phrydnawnol i deuluoedd. Ŏ waith y Parchediccaf Dad yn Nuw, William Wake, D.D., Arglwydd Archesgob Caergaint, neu Canterbury, a'i Gyfieithu Gan É. S., Person Llangar. Argraffedig yn Ghaerlleon gan Roger Adams, 1731."

2. "Pregeth ynghylch Gofalon Bydol, a Bregethwyd yn Eglwys Llangywer, yr ail ddydd o fis mai, 1720, ar gladdedigaeth Mr. Robert Wynne, diweddar Vicar Gwyddelwern. Gan E. S. Argraffedig yn Ghaerlleon, gan Roger Adams, 1731."

Y bregeth uchod sydd gydiol â'r rhif. 1, fel i lenwi gwagle yn niwedd y papyr a fwriedid i'r llyfr "Athrawiaeth yr Eglwys." Yr awdwr o'r bregeth, a chyfieithydd y gwaith uchod o eiddo Dr. Nourse, ydoedd Edward Samuel, person Llangar, ger Corwen. 3. "Y Geirlyfr Saesoneg a Chymraeg. A ddechreuwyd gan Sion Rhydderch, a ychwanegwyd, ac a orphenwyd gan y Parch. J. Williams, Person Plwyf Willey, yn sir Amwythig. Mwythig, Argraffwyd, ac ar werth yno gan Thos. Durston.' 4. "The Welsh Opera. 1731."

5. "Glossarium Antiquitatum Britannicarum. By the Rev. Richard Baxter." 6. "Cyfoeth i'r Cymru, Neu, Dryssor y Ffyddloniaid. Wedi ei Egoryd Mewn amryw o Bregethau, &c., Gan W. Dyer. Y Trydydd Argraphiad yn Gymraeg. Caerfyrddin, Argraphwyd gan N. Thomas. MDCCXXXI."

1732.

1. "Annerch i'r Cymru, i'w galw oddiwrth y llawer o bethau, at yr un peth angenrheidiol, er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau, &c., &c. Llundain, Argraphedig gan James Philips."

2. ¶ “Llyfr dros Fedydd Plant. Gan Fowler Walker."

3. ¶ "Yr Unrhyw yn Saesoneg."

Mr. F. Walker ydoedd weinidog Ymneillduol yn y Fenni, neu Abergafenni, sir Fynwy. 4. "Adnodau ar rai Lleoedd Cableddus a sarhaus O lyfrau a osodwyd allan yn ddiweddar, ar Fedydd Plant, gan Mr. Fowler Walker, Mewn Llythyr at yr Awdwr, yn mhlaid y Cynlleidfaoedd tan Fedydd yn Nehaubarth Cymru, Argraffwyd yn Llundain, yn y Flwyddyn мDCCXXXII."

Dywed "Hanes y Bedyddwyr" mai Mr. David Rees ydoedd awdwr yr uchod. Dywedir hefyd mai brodor ydoedd o Hengoed, yn sir Fynwy, neu sir Forganwg, gan fod y ddwy sir yn cydgyfarfod yn y gymydogaeth hono. "Cafodd ran o'i ddysg gan y Parch. Samuel Jones, M. A., Brynllywarch, nid pell o Gastellnedd. Aeth i Lundain, lle yr ordeiniwyd ef ar eglwys y Bedyddwyr yn Limehouse, a bu yno yn weinidog tra defnyddiol am tua deugain mlynedd. Ganwyd ef yn 1683. Bu farw yn 1748, yn 65 oed." Am y ddadl hon, dywed awdwr "Hanes y Bedyddwyr" yn helaethach yn ei "History of the Welsh Association,”—“ Oddeutu 1726, neu 1727, ychwanegwyd llawer [o aelodau] at [eglwysi] y Blaenau a Hengoed. Achlysurodd hyn lawer o ddadleuon ar fedydd. Yr oedd y pryd hyny ddau weinidog ieuanc, zelog, yn y ddadl, Mr. Miles Harris tros fedydd y crediniol, a Mr. Edmund Jones tros fedydd babanod. O'r diwedd, cynhyrfodd y wlad gymaint fel y darfu i'r ddwy ochr apwyntio cyfarfod ar y mater, nid yn gymaint i'w ddadleu, ag i gymeryd mwy o ofal ar dymherau, goganau, &c. Yr oedd amryw o weinidogion yn bresennol; rhoed i fyny beth i'w gilydd, a maddeuodd y naill i'r llall, a chytuno i gyfeirio o hyn allan at ogoniant Duw, anrhydedd yr efengyl, a chadw parch eu gilydd. Ysgrifenwyd ardystiad, gwireddwyd, ac argraffwyd y cytundeb ar hanner llen. Y Bedyddwyr a arwyddasant oeddynt, Mr. Griffith, o Hengoed; a Mr. John Harris, a Mr. Miles Harris, o'r Blaenau; y Gwrthfedyddwyr, Meistriaid David Williams, Daniel Rogers, ac Edmund Jones, o Ben y main; James Davies, Evan John, a Jenkin Jones, o Ferthyr Tudfil. Yr oedd y rhai hyn ollyn weinidogion, pregethwyr, neu ymgeiswyr. Gwireddodd pump y cytundeb; y cyntaf o 1853.]

L

ba rai oedd Mr. Fowler Walker, gweinidog Annibynol yn y Fenni. Cadwyd y cytundeb hwn i fyny am rai blyneddau. Yr oedd wedi ei amseru yn 1728. Ond yn gynnar yn 1732, cyhoeddwyd llyfryn ar fedydd babanod yn Seisoneg, gan Mr. Walker, y tyst cyntaf uchod. Cyhoeddwyd ef yn Gymraeg hefyd yn fuan. Am y rheswm hwn, cytunodd y brodyr, yn Nghymanfa y Blaenau, i gyhoeddi, yn Gymraeg, draethodyn bychan Mr. Charles Doe, o ddeugain o destunau o'r ysgrythyr ar fedydd y crediniol, ac anfonwyd llythyr at Mr. Walker, gan Mr. David Rees, o Lundain, yr hwn a drowyd i'r Cymraeg, ac a argraffwyd yn yr un flwyddyn, gydag addewid yno yr ystyrid ei lyfr ymhellach yn hamddenol."

5. "Afalau Aur i Bobl Ifeingc, a Choron gogoniant i Hên Bobl. Neu'r Dedwyddwch o fod yn dda yn amserol, a'r anrhydedd o fod yn Hên Ddisgybl. Hefyd, Gwrthddadleuon y Gwr Ifange wedi eu hateb, ac Ammheuon yr Hên Wr wedi eu dattod. Gan T. Brooks, Gynt Gweinidog St. Margaret, New Fish Street Hill, yn Llundain. Ac a Gyfieithwyd allan o'r degfed a'r hugain argraffiad yn Saesoneg. Gan N. Thomas, Argraphydd yng Nghaerfyrddin.

MDCCXXXII.

6. "Rhesymau Eglur Paham Nad Taenelliad Babanod, ond Bedydd y Crediniol yn unig, a ddyleu gael Derbyniad, A ymddengys oddiwrth ynghylch_Deigain Text o'r Ysgrythyr, a Deongliadau amlwg arnynt. O waith Charles Doe. Y Pedwerydd Argraphiad yn y Saesoneg. Yn awr a drowyd i'r Gymraeg er lles i'r Cymru. Printiwyd yn Bristol, gan Sam. Farley. 1732."

Dyma y llyfr y crybwylla awdwr "Hanes y Bedyddwyr" am dano. Ei faint yw 91 tudalen.

1733.

1. "Traethawd I brofi ac i argymmell Yr Hôll Eglwysi y Ddyledswydd Fawr Efengylaidd o Weddio dros Weinidogion. Gan Jeremi Owen. Argraffwyd yn Llundain, gan W. Wilcin, yn yr Heol a elwir yn gyffredinol LombardStreet, gerllaw y Cyfnewidty Brenhinol, MDCCXXXIII." 8plyg.

Mr. Jeremi Owen ydoedd fab i Mr. David Owen, amaethwr cyfrifol, a gweinidog cynnulleidfa Annibynol Cefnarthen, yn sir Gaerfyrddin. Bu y mab hefyd yn weinidog dros ychydig amser wedi marwolaeth y tad; ond ymddengys nad oedd yno pan ysgrifenodd y llyfr uchod. Nid allodd Mr. Peter na Mr. Morgan gael dim ychwaneg o'i hanes. Nid oes nemawr o lyfrau duwinyddol yr hen dadau Cymreig o'r ganrif ddiweddaf yn deilyngach o'i ailgyhoeddi na'r traethawd uchod. Rhyw fath o bregeth fawr ydyw ar Mat. ix. 37, 38-yn debyg iawn i drefn ac arddull y Puritaniaid. 2. "Pwyll y Pader. Neu, Eglurhad ar Weddi yr Arglwydd, Mewn amryw Bregethau. Wedi ei Gyfieithu (gan mwyaf) a'i wneuthur yn gwbl yn ol trefn Esponiad y Gwir Barchedig Esgob Blackal ar Weddi yr Arglwydd. Gan Theophilus Evans. Argraphwyd yn y Mwythig gan Thomas Durston, Gwerthwr Llyfrau. MDCCXXXIII. 94 tudal."

12plyg.

3, "Gair yn ei Bryd. Caerfyrddin, Argraffwyd gan N. T. a J. W. dros Enoch Francis. 1733.

Pregeth yw hon ar yr ochr Galfinaidd i'r ddadl oedd yn terfysgu eglwys y Bedyddwyr yn Hengoed y pryd hyny. Am E. Francis, gwel rhif. 2, 1729.

1734.

1. ¶ "Gair o'r Gair, &c. Gan Morgan Llwyd. Argraffwyd yn Nghaerfyrddin, gan Samuel Lewis."

Gwel rhif. 1, 1656; a rhif. 3, 1733.

2. "Infant Baptism, No institution of Christ, and the Rejection of it Justified from Scripture and Antiquity, in answer to Mr. Fowler Walker's Book, entituled, a Defence of Infant Baptism, &c., to which are annexed Animadversions on the Reverend Dr. Thomas Ridgley's Dissertation on Infant Baptism. By David Rees. London Printed and Sold by Aaron Ward, at the King's Arms, in Little Britain. John Noon, at the White Hart in Cheapside, H. Whitleridge, near the Royal Exchange, and Samuel Rogers in Abergavenny." Gwel rhif. 2, 3, a 4, yn 1732. Helaethiad oedd hwn o rhif. 4 y flwyddyn hóno.

« PreviousContinue »