Page images
PDF
EPUB

wedi myned heibio; 'ond tydi yr un ydwyt, a'th flyneddau ni ddarfyddant. Nid yw dy flyneddau di yn myned nac yn dyfod: ond y mae ein blyneddau ni yn myned ac yn dyfod, fel y gallont ddyfod oll. Y mae dy flyneddau di, gan eu bod yn sefyll, i gyd yn sefyll ar unwaith; ac nid yw y mynedol yn cael eu gwthio ymaith gan y dyfodol, oblegid nid ydynt yn myned heibio: ond ein blyneddau ni a fyddant oll, pan na byddant oll. Dy flyneddau di ydynt un dydd; a dy ddydd di nid yw ond heddyw, oblegid nid yw dy heddyw yn rhoddi lle i yfory, nac yn dilyn ddoe. Dy heddyw yw tragywyddoldeb; gan hyny yn gyd-dragywyddol y cenedlaist ti ef, wrth yr hwn y dywedaist 'Myfi heddyw a'th genedlais di.' Ti a wnaethost bob amseroedd, ac yr ydwyt o flaen pob amseroedd, ac ni fu amser mewn unrhyw amser heb fod. Nid oeddit ti gan hyny mewn unrhyw amser heb weithredu, oblegid ti a wnaethost amser ei hun. Ac nid oes amseroedd yn gyd-dragywyddol â thi, oblegid yr wyt ti yn aros : ond pe buasent hwy yn aros, ni buasent yn amseroedd. Oblegid beth yw amser? Pwy a esbonia hwn yn hawdd ac yn fyr? Pwy a all ei gynnwys mewn gair neu yn ei feddwl? Pa beth a enwir yn fwy cyffredin ac yn fwy hysbys mewn ymddyddan nag amser? Ac yr ydym yn deall pan yn son am dano, neu yn clywed son am dano gan arall. Pabeth, gan hyny, yw amser? Os na fydd neb yn gofyn i mi, yr wyf yn gwybod; os ewyllysiaf ei esbonio i'r neb a fyddo yn gofyn, nid wyf yn gwybod. Er hyny dywedaf yn ddidwyll fy mod yn gwybod, pe na buasai dim wedi myned heibio, ni fuasai amser gorphenol; a phe na buasai dim i ddyfod, ni fuasai amser dyfodol ; a phe na buasai dim yn bod, ni fuasai amser presennol. Y ddau amser yma, gan hyny, sef y gorphenol a'r dyfodol, pa fodd y maent, pan nad yw y gorphenol mwyach, ac nad yw y dyfodol eto yn bod? Ond pe buasai y presennol o hyd yn bresennol, heb fyned heibio i'r gorphenol, ni fuasai mwy yn amser, ond yn dragywyddoldeb. Gan hyny, os rhaid i'r presennol fyned i'r gorphenol cyn y gall fod yn amser, pa fodd y gallwn ddywedyd fod hwn yn bod, yr hwn nis gall fod ond trwy beidio bod, fel nas gallwn mewn gwirionedd ddywedyd fod amser yn bod, oddieithr fel y mae yn tueddu i beidio bod."

Drachefn, yn yr unfed ganrif ar ddeg, y mae Anselm, yn ei "Proslogion," yn dywedyd fel hyn, "Pa beth ydwyt ti, O Arglwydd, pa beth ydwyt ti? Dan ba ffurf y dichon i'm calon feddwl am danat? Yn ddïau, ti ydwyt fywyd, ti ydwyt ddoethineb, ti ydwyt wirionedd, ti ydwyt ddedwyddwch, ti ydwyt dragywyddoldeb, a thi ydwyt oll sydd wirioneddol dda. Ond y pethau hyn ydynt liosog; fy neall cyfyng nis gall eu gweled oll ar un olwg, fel ag i ymhyfrydu ynddynt oll ar un waith. Pa fodd, gan hyny, O Arglwydd, yr ydwyt ti yr oll o honynt? Ai am eu bod oll yn rhanau o honot ti; neu yn hytrach, ai am fod pob un o honynt yr oll ag wyt ti? Oblegid, pa beth bynag a gyfansoddir o ranau nid yw yn undod perffaith; ond y mae mewn rhyw ystyr yn lliosog, yn wahanol iddo ei hun, ac yn agored i ymraniad, naill ai mewn ffaith neu mewn tybiacth; yr hyn nid yw mewn un modd yn perthyn i ti, yr hwn wyt y mwyaf perffaith y gellir meddwl am dano. Gan hyny, ynot ti, O Arglwydd, nid oes ranau, ac nid wyt ti yn lliosog; ond yr wyt yr un a'r unrhyw â thi dy hun, yn y fath fodd fel nad wyt mewn un gradd yn wahanol i ti dy hun; ïe, ti ydwyt undod ei hun, yr hwn nis gellir ei ranu hyd yn nod mewn tybiaeth. Gan hyny, bywyd, doethineb, a'r pethau eraill a enwyd, nid ydynt yn rhanau of

"Augustini Confessionum:" llyfr xi., pen. 13.

honot ti; ond y maent oll yn un, a phob un yr oll ag wyt ti, a'r oll ag yw y lleill. Felly, gan nad oes i ti ranau, a chan nad oes rhanau i'r tragywyddoldeb yr hwn wyt ti, nid oes rhan o honot ti, nac o dy dragywyddoldeb, mewn unrhyw le nac unrhyw amser; ond ti ydwyt yn mhob lle yn berffaith, ac y mae dy dragywyddoldeb bob amser yn gyflawn. Ond os trwy dy dragywyddoldeb yr oeddit, yr ydwyt, ac y byddi; ac os nad yw wedi bod yr un peth ag i fod, ac os nad yw bod yr un peth ag wedi bod ac i fod, pa fodd y mae dy dragywyddoldeb bob amser yn gyflawn? Ai am nad oes dim o'th dragywyddoldeb di yn myned heibio yn y fath fodd ag i beidio bod mwy; ac nad oes dim o hono i ddyfod eto fel pe na buasai yn bod eisoes? Am hyny, nid oeddit ti ddoe, ac ni byddi yfory; ond ddoe, heddyw, ac yfory, ti ydwyt; ïe, yn hytrach, nid ydwyt ddoe, heddyw, nac yfory, ond yn unig ydwyt, heb un berthynas âg amser. Oblegid nid yw ddoe, heddyw, ac yfory, yn bod ond mewn amser; ond er nad oes dim yn bod hebot ti, nid wyt ti er hyny yn bod mewn amser na lle, ond y mae amser a lle, a phob peth, yn bod ynot ti; oblegid nid oes dim yn dy gynnwys di, ond yr wyt ti yn cynnwys pob peth. Am hyny, yr wyt ti yn llenwi ac yn amgyffred pob peth; ti wyt o flaen a thuhwnt i bob peth. O flaen pob peth, oblegid cyn eu dwyn hwy i fod, ti ydwyt. Ond pa fodd yr wyt tuhwnt i bob peth? Oblegid, yn mha ddull yr wyt tuhwnt i bethau y rhai sydd heb ddiwedd? Ai am nas gallant hwy fod hebot ti, ond y byddit ti yn bod pe dychwelent hwy i ddyddymdra? Oblegid yn y ffordd hon yr wyt ti mewn rhyw ystyr tuhwnt i'r pethau hyn. Ac hefyd, ai am y gellir tybied i'r pethau hyn beidio bod, ond nas gellir tybied i ti beidio bod? Oblegid yn y ffordd hon y mae diwedd iddynt hwy mewn rhyw ystyr, ond nis gellir dywedyd hyn am danat ti mewn un ystyr. Ac yn ddiau y mae yr hwn nad oes diwedd yn perthyn iddo mewn un ystyr, tuhwnt i'r hyn y mae diwedd yn perthyn iddo mewn rhyw ystyr. A wyt ti tuhwnt i bob peth, hyd yn nod pethau tragywyddol, yn yr ystyr hwn hefyd, am fod dy dragywyddoldeb cyflawn di a'r eiddynt hwy yn bresennol i ti; tra nad ydynt hwy eto yn gweled yr hyn sydd i ddyfod o'u tragywyddoldeb hwy, ac nad ydynt mwyach yn gweled yr hyn sydd wedi myned heibio? Yn yr ystyr yma yr wyt ti bob amser tuhwnt iddynt hwy, am dy fod bob amser yn bresennol yn y cyfnod hwnw, at yr hwn y maent hwy eto heb gyrhaedd, neu yn hytrach am fod y cyfnod hwnw bob amser yn bresennol i ti."

Yn ychwanegol at y dyfyniadau hyn allan o ysgrifeniadau Plato, Awstin, ac Anselm, nid annerbyniol gan lawer o'r Cymry fydd tystiolaeth Charles o'r Bala. Yn y "Geiriadur," o dan y gair Tragywyddol, y mae yn dyweyd "Bod tragywyddol yw Duw ; y mae heb ddechreu, olynol ddilyniad, na diwedd. Mae hyn yn tarddu oddiwrth ei hunan-hanfodiad ; canys y BOD sydd yn hunan-hanfodol, nis dichon oddef un pwne tybygadwy o amser pan nad ydyw yr un digyfnewid; ond dull parhad y BOD dwyfol nis gallwn ei amgyffred, na pha fodd y cydhanfoda âg amser, na pha fodd y mae anfeidroledd yn cydhanfodi à lleoedd neillduol. Nid yn unig y mae heb ddechreu ac heb ddiwedd, ond nid oes olynol ddilyniad ynddo; un pwnc sefydlog gwastadol yw parhad ei hanfod. Y mae yn berffaith feddiannol ar unwaith yn gwbl o fywyd annherfynedig. Nid yw ef yn dywedyd am dano ei hun, Myfi oedd y dechreu, ac y fyddaf y diwedd; myfi oedd Alpha, ac a fyddaf Omega; ond myfi yw; nid ydyw bum a byddaf yn perthyn iddo; priodolir sydd, oedd, ac sydd i ddyfod iddo, o'n

rhan ni, a'r cyflawniad yn olynol o'i fwriadau a'i weithredoedd (Dad. i. 8,) ond myfi yw. YDWYF sydd briodol i Dduw o ran ei hanfod.”

Ond os dewiswn weled athrawiaeth yr Arfaeth, yn ei natur a'i heffeithiau, yn ei pherthynas â Duw ac â dyn, ar yr un olwg, a'r cwbl a ellir ei ddywedyd ar y mater wedi ei grynhoi mewn un ymadrodd, nid rhaid i ni ond troi at y geiriau hyny o eiddo Crist yn Ioan vi. 37; "Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi; a'r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Dyma sicrwydd cadwedigaeth yr etholedigion mewn undeb â'r cymhelliad cryfaf i bawb ymdrechu am fod yn gadwedig. Dyma gadwedigaeth y rhai a oll a gedwir yn hollol o Dduw, a Duw mewn arfaeth dragywyddol bresennol, nid wedi eu rhoddi yn unig, ond yn eu rhoddi i'r Mab, a'r Mab yn ol telerau yr un arfaeth yn derbyn pwy bynag a ddel. Pa beth mwy a ellid ei ddysgwyl neu ei ddymuno? A oes neb yn teimlo y buasai yn fwy manteisiol pe buasent hwy yn bresennol yn y cynghor tragywyddol mewn rhyw gyfnod a aeth heibio, ac yn cael rhoddi eu cwyn i mewn pan oedd Duw yn dechreu arfaethu. Y mae hyny yn beth nas gallasai fod: ond y mae mwy na hyny yn bod yn wirioneddol. Er nas gallwn daflu ein hunain yn ol i'r tragywyddoldeb diddechreu, y mae yr arfaeth dragywyddol yn awr yn bresennol yn Nuw. Y mae yr arfaeth mor agos atom ag yw Duw ei hun; ac y mae efe, yr hwn sydd yn cynnwys yr arfaeth ynddo ei hun, yn barod i dderbyn yr hwn a ddel ato yn awr. Pa le bynag y cawn amlygiad o ewyllys Duw, gallwn benderfynu nad oes dim yn yr arfaeth yn wahanol, oblegid mewn gwirionedd ei ewyllys ef yw yr arfaeth ac y mae cymaint ag sydd yn anghenrheidiol ei wybod o'r ewyllys hòno wedi ei roddi i ni mewn dadguddiad. Wrth gymeryd gafael yn y gair, yr ydym yn cymeryd gafael yn yr arfaeth; ac os cawn y gair o'n plaid, yr ydym wrth hyny yn cael yr arfaeth o'n plaid. Gan hyny, na ddyweded neb yn ei galon, "Pwy a esgyn i'r nef (hyny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod?) Neu, pwy a ddisgyn i'r dyfnder (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw)? Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi."

ANATHEMA ODDIWRTH GRIST.

"Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist, dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ol y cnawd." Rhuf. ix. 3.

LLAWER O wahanol ffyrdd a gymerwyd i esbonio yr adnod hon; ond gellir rhanu y cwbl i ddau o brif ddosbarthiadau. Ar un llaw, golygir fod yr apostol yn cyfeirio at yr hyn ydoedd cyn ei dröedigaeth ; ac ar y llaw arall, ei fod yn mynegu ei deimlad y pryd hwnw, pan yn ysgrifenu yr epistol.

1. Y mae lliaws o esbonwyr wedi deall y geiriau fel yn cyfeirio at yr hyn oedd yr apostol cyn ei dröedigaeth. Y mae y gair a gyfieithir yma "dymunwn" yn perthyn i'r amser anorphenol yn y modd mynegol; a dadleuant mai ei ystyr yw, "yr oeddwn yn dymuno.' Ond gellir rhanu

y dosbarth hwn eto yn ddau. Y mae rhai yn barnu fod yr apostol, mewn cyferbyniad i'r golygiadau a goffawyd ganddo yn niwedd y bennod o'r blaen, yn mynegu ei dristwch yn ei achos ei hun, wrth feddwl mor bell yr oedd eiddigedd dros y genedl Iuddewig wedi ei yru yr amser a aeth heibio: fel pe dywedasai, "Wrth son am gariad Crist, nis gallaf lai na theimlo tristyd mawr, a gofid dibaid i'm calon; oblegid yr oeddwn i fy hun unwaith yn dymuno bod yn anathema oddiwrth Grist, dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ol y cnawd." Ond pe na buasai yn meddwl mwy na hyn, nid yw yn debyg y buasai yn arfer geiriau mor gryfion yn yr adnod gyntaf i ennill crediniaeth ei ddarllenwyr: ac heblaw hyny, yn ol y golygiad hwn, nid oes un dyben yn ymddangos i'r crybwylliad am ragorfreintiau y genedl Iuddewig yn yr adnod nesaf.

Y mae eraill yn barnu fod yr apostol yn dadgan ei dristwch a'i ofid yn achos ei frodyr; a darllenant y rhan gyntaf o'r drydedd adnod rhwng cromfachau, fel hyn, "Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i'm calon (canys yr oeddwn i fy hun yn dymuno bod yn anathema oddiwrth Grist) dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ol y cnawd." Yn ol yr esboniad hwn, mae yn rhaid cymeryd y geiriau "dros fy mrodyr" allan o'r lle y gosodwyd hwynt, a'u cysylltu â'r ail adnod; ond yr ydym yn methu credu i'r apostol ysgrifenu mewn dull mor anghelfydd. Nid yw y cromfachau. mewn llawer o fanau yn y Bibl ond dyfais afreidiol, yn tywyllu yr ymadrodd yn lle ei egluro. Mae yn wir fod Paul yn pentyru llawer o faterion mewn un frawddeg yn fynych; ond y mae yn medru gwneuthur hyn heb daflu gwahanol ranau yr ymadrodd o'u lle priodol.

2. Y mae y rhifedi mwyaf o esbonwyr yn cymeryd y geiriau fel mynegiad o deimlad presennol yr apostol. Dadleuir gan rai nad yw cystrawen yr iaith Roeg yn goddef iddynt gael eu cymeryd yn yr ystyr hwn. Ond y mae hyny yn gamsyniad; oblegid y mae amryw anghreifftiau o barwyddiaid yn yr un amser a modd yn cyfeirio at deimlad neu ddymuniad presennol, pan na fyddo y cyflawniad yn ymddangos yn ddichonadwy. Ceir un anghraifft yn Act. xxv. 22; "Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn:" ac un arall yn Galat. iv. 20; "A mi a fynwn pe bawn yn awr gyda chwi." Felly nid oes un ammheuaeth nas gellir cymeryd yr adnod dan sylw fel yn arwyddo dymuniad Paul ar y pryd i fod yn anathema dros ei frodyr, pe buasai y fath beth yn ddichonadwy. Ond yma eto y mae gwahanol olygiadau, y rhai a ellir eu rhanu yn ddau ddosbarth; yn gyntaf, y rhai a gymerant y gair" anathema" yn ei ystyr gyfyngaf, ac yn ail, y rhai a'i cymerant yn ei ystyr helaethaf.

Er mwyn cyfyngu y gair "anathema" at gosbedigaeth dymmorol yn unig, y mae rhai yn cymeryd y geiriau "oddiwrth Grist" mewn cysylltiad â'r gair "dymunwn;" fel pe dywedasai yr apostol, ei fod yn dymuno oddiwrth Grist ei fod ef ei hun yn anathema dros ei frodyr. Ond nid yw yn anghenrheidiol aros gyda yr esboniad hwn. Y mae yn troseddu yn erbyn rheolau yr iaith; oblegid y mae eνxoμаι año (dymuno oddiwrth) yn ymadrodd na chyfarfyddir âg ef yn ysgrifeniadau y Groegiaid, nac ychwaith yn y Testament Newydd.

Wrth y geiriau "anathema oddiwrth Grist" y mae eraill yn deall anathema oddiwrth eglwys Crist. Fel prawf fod y gair "Crist" weithiau yn arwyddo yr eglwys, dyfynir 1 Cor. xii. 12; "Canys fel y mae y corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau yr un corff, cyd byddont

lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd." Ond y mae yn amlwg mai nid yr eglwys yw Crist yn y lle hwn, eithr Crist ei hun yn ei eglwys. Ac yn awr, os caniateir fod anathema oddiwrth eglwys Crist yn cynnwys anathema oddiwrth Grist ei hun yn ei eglwys, y mae amddiffynwyr yr esboniad hwn yn cyfarfod â'r anhawsder yr oeddynt yn ceisio ei ochelyd. Wrth "anathema oddiwrth Grist" y mae eraill yn deall anathema yn ol esiampl Crist. Ond y mae yn dra ammheus a ydyw anо un amser yn arwyddo yn hollol "yn ol esiampl." Fel prawf o hyny cyfeirir at 2 Tim. i. 3: "Y mae genyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o'm rhieni (anо роуovwv)." Ond mwy tebyg fod yr apostol yn golygu yr amser pan ddechreuodd wasanaethu Duw, fel dywed mewn man arall, "Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses;" neu ynte ei fod wedi derbyn yr arferiad oddiwrth ei rieni. Ac heblaw hyny, er i ni ganiatau fod y gair ynddo ei hun yn goddef yr ystyr hwn, y mae trefn yr ymadrodd yn sefyll yn ei erbyn; oblegid pe buasai Paul yn meddwl dyweyd ei fod yn dymuno yn ol esiampl Crist, mae yn ddïau y buasai yn cysylltu y geiriau hyn â'u gilydd, yn lle rhoddi "anathema" rhyngddynt.

Y mae eraill drachefn yn cymeryd y gair "oddiwrth" i arwyddo yr achos, ac felly fod Paul yn dymuno cael ei ddedfrydu gan Grist i fod yn esgymunedig a dirmygedig, ac hyd yn nod i ddyoddef marwolaeth dymmorol, pe buasai hyny yn fantais i'w frodyr. Nid ydym yn gwybod fod un wrthddadl ieithyddol yn erbyn y golygiad hwn. Mae yn ddiddadl fod ало yn fynych yn arwyddo yr achos, megys Act. xxiii. 21; "Addewid genyt ti." 2 Cor. iii. 18; "Megys gan Ysbryd yr Arglwydd." Gal. i. 1 ; "Apostol, nid o ddynion." Mat. xvi. 21; "A dyoddef llawer gan yr henuriaid." Marc viii. 31; "A'i wrthod gan yr henuriaid." Act. ii. 22; "Gŵr profedig gan Dduw." Wrth gymharu yr holl olygiadau a grybwyllwyd hyd yn hyn, dyma yr un sydd yn ymddangos yn fwyaf cyson. Er hyny, nis gallwn lai na thybied fod grym yn yr wrthddadl, y buasai Paul yn enwi Duw yn hytrach na Christ fel achosydd yr anathema. Y mae hefyd yn naturiol meddwl fod Paul, wrth ddymuno bod yn anathema dros ei frodyr, yn foddlawn i roddi ei hun yn eu lle hwy, ac i gymeryd arno ei hun y cwbl oedd yn debyg o ddisgyn arnynt hwy.

Yn olaf, yr ydym yn dyfod at yr esbonwyr hyny sydd yn cymeryd y dymuniad hwn o eiddo Paul yn ei ystyr helaethaf, ac yn barnu ei fod yn ewyllysgar, pe buasai y fath beth yn ddichonadwy, i roddi ei hun, gorff ac enaid, yn aberth dros ei frodyr, ac i gael ei dori ymaith oddiwrth Grist yn lle ei genedl. Dyma olygiad Origen, Chrysostom, Theodoret, Ecumenius, Calvin, Bucer, Witsius, Bengel, Tholuck, Moses Stuart, Robinson, Olshausen, y rhai ydynt oll yn rhagori mewn galluoedd beirniadol. Y mae llawer, heb chwilio, yn cymeryd yn ganiataol fod yr esboniad hwn yn afresymol: ond pan yw y dynion blaenaf yn mhlith y beirniaid yn ei bleidio, y mae o leiaf yn deilwng o ystyriaeth bwyllog. Nid yw yn gweddu i ni siarad yn benderfynol ar fater mor anhawdd; er hyny, mae yn rhaid i ni ddyweyd mai po mwyaf y chwiliasom i'r rhan yma o ysgrifeniadau Paul, mwyaf tueddol yr ydym yn cael ein hunain i'r golygiad olaf hwn. Dyma yr un sydd yn tarddu yn fwyaf naturiol oddiwrth y geiriau yn eu hystyr lythyrenol, heb newid eu trefn, ac heb wanhau eu harwyddocâd. A dyma yr un sydd yn gosod allan yn y modd mwyaf effeithiol y cysylltiad rhwng dymuniad Paul â'r ardystiad yn yr adnod gyntaf, ac yn dangos

« PreviousContinue »