Page images
PDF
EPUB

ddim mwy na rhagwelediad o'r hyn y mae y dyn ei hun yn ei ewyllysio; ac fel hyn y maent yn darostwng arfaeth Duw dan lywodraeth ewyllys dyn. Ond y mae hyn yn hanfodol groes i eiriau yr apostol Paul, yr hwn a ddywed, "Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef." Y mae y blaid arall yn edrych ar yr arfaeth fel tynged, yr hon sydd wedi diogelu cadwedigaeth rhyw ychydig, ac wedi cau y drws yn erbyn y lleill, a hyny mewn rhyw gyfnod yn nhragywyddoldeb fyrddiynau o oesoedd yn ol. Y mae lle i feddwl fod y golygiad olaf hwn yn effeithio ar rai i'w cadw rhag derbyn yr athrawiaeth, ac ar ol ei derbyn i ladd ysbryd gweddi ac ymdrech. Pa fodd bynag, y mae y ddwy blaid yn camgymeryd trwy bellhau yr arfaeth a'r dyn oddiwrth eu gilydd. Y mae yn iawn amddiffyn yr arfaeth ar un llaw, a chyfrifoldeb dyn ar y llaw arall: ond yn lle rhoddi oesoedd dirifedi rhyngddynt, dylid eu hystyried mor agos fel y mae arfaethiad Duw yn nhragywyddoldeb a gweithrediad dyn mewn amser yn cyfarfod â'u gilydd. Wrth edrych arnynt mewn pellder anfesurol oddiwrth eu gilydd, yr ydym yn rhwym o fychanu y naill neu y llall: a'r hyn sydd yn peri i ni bellhau yr arfaeth oddiwrth ddyn yw ein bod yn rhy dueddol i ystyried yr arfaeth ar wahan oddiwrth Dduw. Meddylir am dani yn fynych fel yn cael ei llunio a'i chwblhau mewn rhyw gyfnod yn nhragywyddoldeb; ac yna yn cael ei rhoddi o'r neilldu nes y daeth yr amser i'w dwyn i weithrediad. O'r un gwreiddyn y mae y farn hòno yn tarddu, yr hon sydd yn darlunio y Creawdwr yn gosod y greadigaeth yn y dechreuad i fod ac i fyned o honi ei hun fel peirianwaith, ac yna yn ei gadael iddi ei hun, heb anghenrheidrwydd mwyach am allu dwyfol i'w chynnal a'i llywodraethu. Y feddyginiaeth yn y naill achos a'r llall yw myned heibio i amser a'i ddeddfau at Dduw ei hun, at Dduw personol a phresennol, at y Duw byw y mae y Bibl yn son am dano, ein Tad yn y nefoedd, yn llawn trugaredd a thosturi, yn yr hwn yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod. Gallwn fyned ato pan fynom fel at ein Tad: ac er nas gallwn ddysgwyl iddo wneuthur dim mewn atebiad i weddi yn groes i'w ewyllys ddoeth ei hun, mwy nag y dylai plentyn ddysgwyl hyny oddiwrth ei dad naturiol, gallwn benderfynu fod ei ewyllys yn dda ac uniawn, a'i fod yn barod i gyflawni yr hyn a addawodd. Nid yw efe dan lywodraeth ei gynllun ei hun, mwy na chynlluniau dynion. Nis gellir gwahanu rhyngddo ef a'i gynllun; oblegid y mae ei gynllun tragywyddol yn hanfodi ynddo. Nid yw wedi derbyn ei fod na'i feddwl oddiwrtho ei hun, mwy nag oddiwrth eraill. Nid oes dim a fu yn lleihau ei ryddid, megys nad oes dim a ddaw yn ychwanegu at ei wybodaeth. Y mae yn rhydd o hyd i wneyd yr hyn y mae mewn anfeidrol ddoethineb yn ei weled yn oreu yn mhob amgylchiad. Yr hyn sydd oreu a wna: er hyny nid yw yn gwneyd heb feddwl. A'r meddwl tragywyddol ac anghyfnewidiol hwn yw yr arfaeth.

Y golygiad yr ydym yma yn dadleu yn ei erbyn nid yw ond anghraifft ychwanegol yn dangos fel y mae pob ymgais i godi un gwirionedd trwy iselu y llall yn effeithio i ddinystrio y ddau, gan nas gallant sefyll heb fod mewn cyferbyniad i'w gilydd: oblegid wrth geisio pellhau yr arfaeth i ryw gyfnod draw yn nhragywyddoldeb, yr ydym o anghenrheidrwydd yn gwadu ei bod yn ddiddechreu, ac yn ei gwneyd yn arfaeth amserol, yn lle yn arfaeth dragywyddol. Os credwn ei bod yn dragywyddol, y mae yn rhaid i ni gredu hefyd ei bod yn ddiddechreu a diddiwedd, heb gyfnod

nac amseriad. Un weithred arosol y meddwl dwyfol yw yr arfaeth. Y mae yma ddirgelwch ; ac un o brif ddybenion y sylwadau hyn yw dangos. fod yn rhaid i ni dreiddio yn ddigon dwfn i gael gafael mewn dirgelwch wrth ymdrin â phob pwnc o dduwinyddiaeth cyn y gallwn gael gorphwysfa sefydlog i'n meddyliau: ond nid oes yma fwy o ddirgelwch nag sydd yn marn yr holl ysgrifenwyr mwyaf uniongred am dragywyddol genedliad y Mab, a thragywyddol ddeilliad yr Ysbryd Glan. Ar y mater hwn dywed Mr. Charles, dan y gair Cenedlu fel y canlyn:-"Nid gweithred yn darfod ac yn myned heibio yw cenedliad y Mab, fel mewn cenedliad naturiol; ond tragywyddol genedliad.-'Heddyw,' heddyw Duw yw ei dragywyddoldeb. Nid oes na doe nac yfory i Dduw, ond un heddyw dragywyddol ac y mae heddyw Duw yn cynnwys ein doe, ein heddyw, a'n yfory ni." A thrachefn dan y gair Mab-"Cenedliad tufewnol, arosol yn yr hanfod yw: nid peth allan o'r hanfod, ond yn yr hanfod yw; nid peth a fu, ond y sydd yn arosol dragywyddol yw, ag sydd yn gwahaniaethu y Personau yn yr hanfod." Ac eto, dan y gair Ysbryd-"Rhaid sylwi nad oes dim cyfnewidiad yn yr hanfod dwyfol; nid deilliad, gan hyny, dechreuedig a therfynedig yw, ond arosol a thragywyddol, yn null anghenrheidiol y Duwdod o hanfodi, ac sydd yn dynodi undeb hanfod a gwahanol Bersonau yn yr hanfod hwnw." Os fel hyn y mae i ni ddeall am dragywyddol genedliad, a thragywyddol ddeilliad, onid yn yr un goleu y mae i ni edrych ar dragywyddol arfaethiad? Y mae gwahaniaeth rhyngddynt mewn un ystyr, yn gymaint a bod y naill weithred yn hanfodol, a'r llall yn benarglwyddiaethol; ond fel y maent oll yn dragywyddol, diau y dylid golygu arfacthiad, yr un modd a chenedliad y Mab, a deilliad yr Ysbryd, yn un weithred arosol yn y Duwdod; hyny ydyw, arosol mewn cyferbyniad i'r hyn sydd yn myned heibio ac yn darfod.

Ond ymhellach; er mwyn cael goruchafiaeth lwyr ar yr holl ddychymygion sydd yn gwahanu yr arfaeth oddiwrth Dduw presennol, a thrwy hyny yn ei gwahanu oddiwrth deimlad dyn, ac yn ei gosod allan fel tynged haiarnaidd i'n dychrynu, yn lle ein calonogi a'n cynnorthwyo, y mae yn anghenrheidiol i ni gofio yn barhaus nad yw Duw yn bod mewn amser. Pe cedwid hyn mewn golwg, byddai yn foddion i symud llawer o anhawsderau sydd yn ein cyfarfod mewn duwinyddiaeth; megys, pa un sydd gyntaf, ai cyfiawnhad ai ailenedigaeth; a phaham y mae y credinwyr yn sefyll mewn anghen am faddeuant parhaus, er fod eu holl bechodau wedi eu maddeu pan gredasant. Ac yn enwedig wrth son am yr arfacth, dylem gredu "fod un dydd gyda'r Arglwydd megys mil o flyneddau, a mil o flyneddau megys un dydd." Nid gormodiaith yw y geiriau hyn a'u cyffelyb, ond mynegiad syml o'r gwirionedd, mor bell ag y gellid dangos pethau tragywyddol mewn geiriau dynol. Mewn cysylltiad agos â'r mater hwn, y mae Paul yn llefaru am yr holl gredinwyr fel yn bod yn ngolwg Duw pan gredodd Abraham; oblegid er nad oeddynt wedi dyfod i fod yn ngolwg dynion, yr oedd Abraham y pryd hyny yn dad iddynt oll "ger bron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac sydd yn galw y pethau nid ydynt fel pe byddent." Y mae yr oll a fu ac a ddaw, a thragywyddoldeb ei hun, yn ddiddechreu a diddiwedd, ger ei fron ef bob mynyd, ac yn bresennol iddo yn awr. Y mae uwchlaw holl ddeddfau achosiant, heb gyfnewidiad na chysgod tröedigaeth," ac o ganlyniad y mae yn rhaid i ni gredu ei fod hefyd uwchlaw deddfau amser.

Y mae yn cynnwys pob perffeithrwydd ynddo ei hun, ac o ganlyniad nis gellir meddwl ei fod yn derbyn ychwanegiad oes. Gan hyny, nid oes cynt nac wedi yn perthyn iddo; ac nid yw yn gadael yr amser gorphenol, nac yn myned ymlaen i'r amser dyfodol. Iddo ef nid yw y blyneddau cyn y dylif wedi myned heibio, ac nid yw diwedd y byd heb ddyfod. Y mae yn hollbresennol mewn amser yn gystal a lle. Fel y mae yn cynnwys pob eangder ynddo ei hun, heb fod rhan o hono mewn un lle, felly hefyd y mae yn cynnwys tragywyddoldeb ar unwaith heb fod rhan o'i fodolaeth mewn un rhan o amser. Y mae amser yr un modd a lle yn gynnwysedig o ranau; ac y mae y rhanau hyny wrth eu holrhain yn myned yn ddim, ac fel hyn y mae y bodau hyny sydd dan lywodraeth deddfau lle ac amser yn dwyn ynddynt eu hunain brofion parhaus o'u tarddiad; oblegid casgliad o liaws dirifedi o bynciau (mathematical points), y rhai ni feddant na hyd na lled, na dyfnder nac uchder, sydd yn cyfansoddi lle; a chasgliad o bynciau dirifedi o amser, heb barhad yn perthyn iddynt, sydd yn cyfansoddi parhad mewn amser. Ond nid casgliad o ranau dyddim dirifedi fel hyn yw hollbresennoldeb a thragywyddoldeb Duw ; ac nid yw yr eangder mwyaf mewn lle yn rhan o'i hollbresennoldeb, na'r eangder mwyaf mewn amser yn rhan o'i dragywyddoldeb; oblegid y mae efe yn Fod pur, diranau, digyfnewid, yn hanfodi o anghenrheidrwydd natur mewn anfeidrol bellder oddiwrth y dim diderfyn sydd yn cyfansoddi lle ac amser. Ei enw ef yw "YDWYF." Nid "Oeddwn " yn nhragywyddoldeb diddechreu, a "Byddaf" yn nhragywyddoldeb diddiwedd; ond y mae yn edrych ar y tragywyddoldeb diddechreu a diddiwedd ar unwaith, ac yn dywedyd "Ydwyf" am y cwbl. Nid oes neb arall a all ddyweyd "Ydwyf" mewn ystyr briodol am gymaint ag un fynyd o amser. Y mae yr oll o barhad pob creadur yn perthyn i'r amser gorphenol neu yr amser dyfodol, rhan wedi darfod a rhan arall heb ddyfod, a'r ddwy ran yma yn cyffwrdd â'u gilydd, fel nad oes lle i'r amser presennol. Fel hyn y mae yn ystyr fanylaf y gair. Nid yw dychymyg dyn am yr amser presennol ond ymdrech y meidrol i ymgyrhaedd am yr anfeidrol. Pan y mae yn son am y flwyddyn hon, neu y dydd hwn, y mae yn mesur yr hyn nid yw yn ei feddiannu, ac yn ceisio cymeryd gafael yn yr hyn nid yw yn bod iddo ef. Nid yw dyn yn alluog i lenwi y mynydyn lleiaf o amser. Ond un YDWYF anfeidrol yw Duw, yn preswylio tragywyddoldeb. Er nas gall dyn amgyffred y gwirionedd hwn, y mae wedi ei wneuthur i'w gredu; a thra yn teimlo ei ddyddymdra ei hun, y mae wedi ei addasu i chwilio am anfeidroldeb ac anghyfnewidioldeb, nes eu cael yn hanfodi yn yr YDWYF; oblegid, i'r graddau y mae yn iawn arfer ei reswm a'i gydwybod, i'r graddau hyny y mae yn cael golwg ar berffeithderau, y rhai sydd yn bod o anghenrheidrwydd natur, yn ddiddechreu a diddiwedd, yn annibynol ar amser a lle. Ond er ei fod yn cael golwg arnynt, ac er y dichon iddo mewn gradd gyfranogi o honynt, nid yw trwy hyny yn dyfod yn feddiannol ynddo ei hun ar anghyfnewidioldeb hanfodol y perffeithderau; oblegid yr hyn a dderbynir trwy gyfranogiad, nis gall fod yn briodoledd hanfodol yn yr hwn sydd yn ei dderbyn; ac er i ni chwilio yr holl greadigaeth, nid ydym mewn un man yn cyfarfod â chreadur yn alluog i gynnal anghyfnewidioldeb y priodoliaethau o ba rai y mae mewn gradd yn cyfranogi; oblegid er iddo dderbyn o'r môr difesur o berffeithrwydd, nid yw yn ddigon mawr i gynnwys y môr ynddo ei hun; ac y mae hyn yn ein gweithio oddiwrth y

greadigaeth at y Creawdwr, oddiwrth y lliosog at yr UN, oddiwrth yr amserol at y tragywyddol YDWYF, oddiwrth fodau anmherffaith at Fod anfeidrol berffaith, yr hwn y mae ei briodoliaethau yr un â'i hanfod, a'r hwn sydd o ganlyniad yn meddu yr un anghyfnewidioldeb ynddo ef ei hun ag sydd yn perthyn i'w briodoliaethau.

Os oes rhai yn aros heb eu hargyhoeddi o gywirdeb y golygiadau blaenorol, dymunem alw eu sylw at un gofyniad syml; sef, A ydyw Duw yn edrych yn ol ar ei arfaeth fel ar weithred wedi myned heibio? neu mewn geiriau eraill, Ai trwy gofio yr hyn a fu y mae efe yn cadw ei arfaeth dragywyddol yn barhaus yn ei wybodaeth? Y mae yn rhaid iddynt ateb yn nacaol; oblegid gan ei fod ef yn anfeidrol, nis gellir meddwl ei fod yn edrych allan o hono ei hun wrth edrych ar ei arfaeth. Rhagoriaeth dyn yw gallu i gofio yr hyn a aeth heibio, ac i ymresymu ynghylch yr hyn a ddaw; ond y mae y meddwl dwyfol yn rhy anfeidrol berffaith i gofio nac i ymresymu. Y mae efe yn gweled yr arfaethiad a'r cyflawniad, yr oll a fu, sydd, neu a ddaw, heb gyfrwng delweddau na rhesymau; ac yn eu gweled ynddo ef ei hun, heb droi ei feddwl yn ol nac ymlaen i gael golwg arnynt. Yr ydym ni, mae yn wir, yn edrych yn ol wrth feddwl am ddoe, ac yn edrych ymlaen wrth feddwl am yfory; ac yr ydym yn dueddol i gario gyda ni y syniadau a dderbynir oddiwrth wrthddrychau daearol, a'u cymhwyso at wrthddrychau dwyfol; ac felly yn dychymygu fod y Creawdwr yn debyg i ni ein hunain. Yr oeddid gynt yn tybied fod yr haul yn symud, a'r ddaear yn sefyll, oblegid mai felly yr oeddynt yn ymddangos; ond wrth ystyried yn fanylach, deallwyd mai nid fel yr oeddynt yn ymddangos yr oeddynt mewn gwirionedd. Felly yn y mater hwn, y mae ein syniadau ni oddiwrth yr hyn yr ydym yn ei deimlo ynom ein hunain yn peri i ni feddwl fod Duw yn symud o'r amser a aeth heibio, trwy yr amser presennol, i'r amser dyfodol; ac y mae efe ei hun yn y Bibl yn ymostwng weithiau i gyfarfod â ni trwy lefaru am dano ei hun yn iaith gyffredin y ddaear. Ond er ein bod ni yn symud yn barhaus, y mae ystyriaeth bwyllog yn dangos nad yw efe wedi symud un mynydyn er pan grewyd y byd. Y mae Duw yn rhy fawr i symud. Y mae pob peth crëedig yn rhwym o symud neu syrthio; ond pan y mae yr holl greadigaeth mewn symudiad diorphwys, y mae o hyd yn symud ac yn bod mewn Un yr hwn sydd yn aros yn dragywydd. Ac hyd yn nod gyda golwg ar wahanol wrthddrychau creedig, y mae y mwyaf yn sefydlog mewn cymhariaeth i'r lleiaf; ond y mae efe yn sefydlog, nid mewn cymhariaeth yn unig i wrthddrychau llai, ond yn hanfodol a gwirioneddol. Os ydym yn dewis iddo ef fod yn ganolbwynt yr holl greadigaeth, y mae yn rhaid i ni ymfoddloni iddo sefyll yn ddiysgog byth. "Hen Ddihenydd" yw ei enw; neu fel y mae rhai yn cyfieithu y geiriau, "Y Sefydlog ei ddyddiau.' "Hwy a ddarfyddant,” medd y Salmydd, "a thi a barhei ;" neu yn ol yr Hebraeg, "a thi a sefi: ïe, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir. Tithau yr un ydwyt, a'th flyneddau ni ddarfyddant."

Yr oedd ychydig belydrau o'r gwirionedd hwn wedi gwawrio ar feddyliau rhai o'r doethion paganaidd, yn enwedig Plato, yr hwn, yn y "Timaeus," ar ol sylwi mewn pennod flaenorol fod dechreuad i'r byd gweledig, ac na ddaeth i fod heb achos, ond ei fod wedi ei lunio yn ol y cynllun tragywyddol yn meddwl Duw, sydd yn myned ymlaen i draethu

ei farn mewn perthynas i amser fel y canlyn:-"Pan welodd y Tad, yr hwn a greodd y byd, fod y ddelw grëedig hon o'r duwiau tragywyddol yn meddu ysgogiad a bywyd, efe a foddhawyd; a chan lawenychu, efe a feddyliodd ymhellach am ei gwneuthur eto yn fwy tebyg i'r cynllun. Felly gan fod y naill yn greadur tragywyddol, efe a amcanodd berffeithio y llall, hyd yr oedd modd, yn gyffelyb. Yr oedd natur y creadur [cyntaf], mae yn wir, yn dragywyddol; ac nis gellid cymhwyso hyn yn hollol at ddim oedd yn ddechreuedig: gan hyny efe a benderfynodd ffurfio math o ddelw symudol o dragywyddoldeb; ac felly, pan yn trefnu rhanau y bydysawd, y mae yn gwneuthur delw yn ol rhifedi, o'r tragywyddoldeb sydd yn aros mewn undeb; a'r ddelw hon a alwn ni Amser. Oblegid y mae yn llunio dyddiau, a nosweithiau, a misoedd, a blyneddau, y rhai nid oeddynt yn bod o flaen y bydysawd, ond a ddaethant i fod gydag ef. Y pethau hyn oll, y rhai nid ydynt ond rhanau o amser, a'r geiriau oedd a bydd, y rhai ydynt ffurfiau o amser dechreuedig, yr ydym ni yn ddiarwybod ac yn gamsyniol yn eu trosglwyddo at hanfod tragywyddol: oblegid yr ydym yn dywedyd am dano, oedd, mae, a bydd; ond mewn gwirionedd y gair mae yn unig sydd yn perthyn iddo.' Nid yw yn gweddu i ni ddywedyd oedd a bydd oddieithr am ddyfodiad i fod yn myned ymlaen mewn amser; gan nad yw y ddau ond symudiadau : ond yr hyn sydd yn aros yn dragywydd yr un yn ansymudol nis gall fod un amser yn henach neu yn ieuangach, nac ychwaith yn dyfod i fod yn awr, nac i fod mewn amser dyfodol."

Os oedd pagan yn medru ymddyrchafu mor bell uwchlaw cyrhaeddiadau y synwyr, y mae yn rhesymol i ni ddysgwyl gweled yr un gwirionedd yn fwy goleu yn ysgrifeniadau y Cristionogion mwyaf meddylgar: a rhoddir yma un dyfyniad allan o lawer i ddangos beth oedd barn Awstin, y penaf o'r tadau Cristionogol. "Os yw synwyr unrhyw ddyn yn crwydro trwy ddychymygion am amseroedd wedi myned heibio, ac yn rhyfeddu dy fod di, y Duw hollalluog, yr hwn wyt yn creu ac yn cynnal pob peth, lluniwr nefoedd a daear, wedi ymattal oddiwrth y cyfryw waith, cyn i ti ei wneuthur, am oesoedd dirifedi; dylai ystyried ei fod yn rhyfeddu at yr hyn nid ydyw yn bod. Oblegid pa fodd y gallai oesoedd dirifedi fyned heibio, y rhai nid oeddit ti wedi eu gwneuthur, gan mai tydi yw awdwr a lluniwr yr holl oesoedd? Neu pa amserau a allasai fod y rhai ni wnaethpwyd genyt ti? Neu pa fodd y gallent fyned heibio, os na fuant erioed yn bod? Gan mai tydi yw Creawdwr yr holl amseroedd, os oedd amser yn bod cyn i ti greu nefoedd a daear, paham y dywedir dy fod yn peidio gweithio? Oblegid ti a wnaethost amser ei hun, ac nis gallasai amseroedd fyned heibio cyn i ti wneuthur amseroedd. Ond os nad oedd amser o flaen y nefoedd a'r ddaear, paham y gofynir pa beth yr oeddit yn ei wneuthur y pryd hwnw ? Oblegid nid oedd y pryd hwnw yn bod pan nad oedd amser. Ac nid wyt ti ychwaith mewn amser yn rhagflaenu amser, canys felly ni buasit yn rhagflaenu pob amser. Ond yr wyt yn rhagflaenu yr oll a fu, yn uchelder dy dragywyddoldeb byth-bresennol; ac yn goroesi yr oll a fydd, gan eu bod hwy heb ddyfod, a phan ddeuant byddant

1Y mae Davis yn ei gyfieithiad, a gyhoeddwyd gan Bohn, wedi camgymeryd yr ystyr yn hollol. Fel hyn y mae efe yn cyfieithu y frawddeg hon: "For we say that a thing was, is, and will be; while according to truth, the term it is is alone suitable." Nid am rywbeth yn gyffredin y mae Plato yn llefaru, ond am yr hanfod tragywyddol y souir am dano yn y frawddeg o'r blaen.

« PreviousContinue »