Page images
PDF
EPUB

Prydain mewn heddwch â holl alluoedd Ewrop, a threth yr ŷd wedi ei dileu, heb obaith ei gosod byth yn ol. Nid dynion cyffredin oedd yn coleddu syniadau cyffelyb i Ddewi ynghylch llywod-ddysg yn Nghymru, yn y flwyddyn 1813. Y mae hyn yn dangos ei fod ef yn ddyn anghyffredin o ran ei wybodaeth a'i syniadau, ac annibynol o ran ei ysbryd; canys yr oedd person, gwr boneddig, a stiward, agos yn mhob plwyf yn sir Gaernarfon, a'u rhagfarn yn gymaint yn erbyn yr hyn sydd uniawn a theg, y pryd hwnw, ag ydoedd yn amser yr etholiad diweddaf. Go anfynych y ceid crefyddwyr a dalent fawr o sylw i lywod-ddysg, yn 1813; a hyny a wneid, gan gorff y bobl, oedd yr ochr arall i'r pwnc. Edrychid ar ryfeloedd fel ordeiniadau uniongyrchol Rhagluniaeth, a chynnelid cyfarfodydd i weddio am lwyddiant ar ymdrechion ein byddinoedd ar faes y gwaed! Rhaid fod Dewi Wyn ar ei ben ei hun, iraddau mawr, pan y cyfansoddai yr englynion ar Bona, ac y gollyngai allan y fath ffrwd o syniadau hollol newyddion yn y byd Cymreig y pryd hwnw. Nid allwn ddyweyd ein bod yn cymeradwyo yr holl syniadau yn yr englynion hyny; ond yr ydym wedi bod yn craffu llawer ar y ddwy linell a nodwyd yn nghymeriad ein bardd fel gwladwr; ac yr ydym yn meddwl mai gyda chryn anhawsder y ceir dim cyffelyb yn nghymeriad ond ychydig iawn o amaethwyr Cymreig yn ei sefyllfa ef y pryd hwnw. Y mae pwnc y trethi, a'r anghenrheidrwydd o gael heddwch dros yr holl fyd, yn cael ei ddeall, heddyw, yn mysg pob dosbarth o amaethwyr ac o grefftwyr drwy y Dywysogaeth; canys fe gafodd "Cymdeithas Heddwch," a llawer o gymdeithasau daionus eraill, eu geni ar ol y flwyddyn 1813, pryd y prydyddai Dewi Wyn mor egnïol.

Yr oedd teithi arall rhagorol yn ein bardd fel dyn: yr oedd efe yn ddihoced ac yn ddidderbyn wyneb wrth bawb. Ni wyddai efe beth oedd ffalsio i neb er mwyn ennill cymeradwyaeth, na dyweyd yr un ffordd â phob dyn a gyfarfyddai, er mwyn iddo gael myned drwy y byd gyda llai o boen. Mynegai efe ei feddwl yn hyf ac yn syml. Byddai, weithiau, o ran ei erwinder, yn terfynu ar yr hyn a ystyria pobl lyfnion, sydd wedi gwneyd moesau y gyfarchfa (drawing-room) yn brif astudiaeth, yn ddelffaidd (rude). Ond gorfyddai i bob un a elai i'w gymdeithas, addef ei fod ef yn onest ac yn uniawn. Pe cawsai efe ymgymysgu â mwy o'r byd pan oedd yn ieuanc, gwnaethai hyny les dirfawr yn ddïammheu iddo.

Dylem gofio nad ydyw mor hawdd cael athrylith fawr i'r tresi, ac i fyw dan rwymau a ffurfiau, ag ydyw cael un ganolig. Y mae dynion heb lawer yn eu penau, yn cymeryd mwy o drafferth gyda eu penau o'r tuallan, nag y mae y rhai sydd yn meddu ar ddealltwriaeth cryf; a dichon fod ambell un o feddwl galluog yn rhy fusgrell ac ansyber yn yr ystyr yma. Pa fodd bynag, gwladwr dirodres oedd Dewi Wyn, o ran ei ymddygiad, yn terfynu ar y garw a'r gwladaidd; ond yr oedd o ran ei feddwl yn ddymunol ac yn ardderchog ni welir dim o'r gerwinder delffaidd y cyhuddir ef o hono, ond anfynych, yn ei waith. Ni thybiai neb, wrth ddarllen cynnyrchion ei awen, nad oedd efe wedi cael ei ddwyn i fyny yn yr ysgol mwyaf manwl yn ei moesgarwch a'i gweddeidd-dra yn y wlad, megys y tystia amryw ranau o'i waith. Mor brydferth yw ei ddarluniad o "Ddymunoldeb y Wraig Rinweddol:"—

"Eden ni feddai adail,

Na nef un dodrefnyn ail;
Nid oes planed ysplenydd
Na lleuad wen na lliw dydd,

Holl ser, na Gwener gwiwnef,
Na dawn ail i hon dan nef.

I baradwys bri ydoedd

Balchder da Ner a'r dyn oedd."

Byddwn yn meddwl y byddai Dewi, os cyfarfyddai ef rywun yn lled fingauad a mursenaidd, yn chwannog o redeg i'r ochr arall, gan ymddwyn yn fwy garw nag y gwnaethai yn nghymdeithas y doeth a'r deallus.

Cawsom ei gyfeillach amryw weithiau tra yr arosai yn Mhwllheli; ac y mae genym amryw lythyrau a dderbyniasom oddiwrtho, y rhai a gedwir genym i gofio am dano; a gallwn sicrhau y darllenydd, na ddaethom erioed o gymdeithas Dewi, heb fod rhyw argraffiadau o fawredd y dyn wedi eu gadael ar ein meddwl; ond yr oedd ei ffordd yn od, a'i nodiadau ar ddynion a chyfansoddiadau yn hollol wreiddiol. Y tro diweddaf y gwelsom ef, yr oedd ei feddwl wedi ymollwng, ac ni fynai ei gysuro. Yr oedd efe yn tybio fod poenau annyoddefol yn ei gorff. Dywedai un tro, "Pe byddai y boen sydd yn fy mys i yn Ngharnfadryn, ni byddai dim modd iddi ddal heb fyned yn yfflon mân." Ymddangosai i ni y pryd hwnw fel palas wedi syrthio yn adfeilion.

Wrth son am alluoedd Dewi cyn iddo fyned fel hyn, yr oedd un awdur, sydd yn fyw yn bresennol, yn ei gymharu, o ran ei athrylith, i un o'r llongau mwyaf, wedi ei gollwng i'r môr heb lyw, nac angor, na chart. Yr oedd yn gref, ond ni feddai reolaeth arni ei hun, na modd i'w hattal ei hun, na modd i gyfarwyddaw ei hun. Nid pell o'i le yw y darluniad; ac nid ydyw yn anhawdd dwyn profion o waith Dewi i ddangos cywirdeb y golygiad. Yr oedd efe yn llawn o feddylddrychau; ond nid oedd y rhai hyny yn cael eu defnyddio bob amser yn y ffordd oreu, nac i'r dybenion goreu. Yr oedd annhrefn dirfawr yn ei gynlluniau, braidd bob amser. Prin y gellir tybied ei fod ef wedi rhagfeddwl fawr am ei destun cyn dechreu cyfansoddi arno; ac na wyddai ar y ddaear, yn y dechreu, pa le y byddai yn debyg o ddiweddu; ond ymddiriedai i ffrydlif ei awen gref i'w gludo i'r lle y dewisai. Gwelir hyn yn ei "Awdl Molawd Ynys Prydain, a'i hamddiffyniad rhag estron genedl." Y mae efe yn dechreu yr awdl hòno drwy dynu darlun o Gymru, yn yr olwg naturiol sydd arni. Darlunia ei gerddi a'i dyffrynoedd, ei bryniau a'i chlogwyni diphwys, ei chymoedd a'i mynyddoedd, a'r

"Caddug llwyd gwyd yn gau
Wisg addas i'w hysgwyddau."

Yr anifeiliaid yn filoedd. "Y mwnai a gair," a'r

"Glaswellt ardderchog lysiau
Gloewon perarogl ein pau,
Ar fronydd y coedydd cain
Dilledir a dail llydain ;

Gwiw ednaint ar wydd gwydnion
A'u ffraeth brydyddiaeth ber don."

A'r

'Gerddi lle sang ar gangau

eirin per,

Aeron, pob afalau,
Dan gnwd o heirdd dewion gnau
Ymyrant wrth y muriau,

O'r creigiau, mewn parthau pur,
Ymdreiglaw mae dwr eglur,
Elfen denen ysplenydd,
Lyfndeg yn rhedeg yn rhydd.

[blocks in formation]

Tra enwog wladwyr yn trin goludoedd,
Mor wychion ydynt yn y marchnadoedd,
Blagurog a dewr fywiog dyrfaoedd
Yn syw dwyn ysgawn sidan wisgoedd ;
Aml ddysglair ddiwair ddeuoedd-yn diflin
Hoew droediaw 'n iesin drwy y dinasoedd.

Gar dyfroedd holl lifoedd ffrwch

Tan irwydd mewn tynerwch,

Yn gwau ceirdd ceir y beirddion,
Eres hil yn yr oes hon:

Gloew asur iach bur uwch ben

Llawn o adar, llin Eden:

Awelon oerion araf

Drwy hon yn cerdded yr haf;
Adferu 'r claf, llesg, afiach;
Bywiogi, sirioli 'r iach."

Dyma ddarluniadau naturiol, swynol i'r byw o bethau prydferth; ond yn Nghymru yr ydym yn gweled ein hunain yn barhaus. Y mae Lloegr ar ol, yr hon sydd yn ddarn llawer mwy o Brydain na Chymru. Yn mha le y mae y brifddinas a'i hamgylchoedd, a brasdiroedd Lloegr? Yn mha le y mae Lerpwl, Manchester, Birmingham, Leeds, Sheffield, Brighton, a Leamington? Yn mhale y mae y gweithfaoedd yn Lloegr ac Ysgotland, sydd yn cynnal eu miliynau o drigolion? Y maent wedi eu gadael i gyd ar ol. Fe sonia yr awdwr ei fod wedi bod yn glaf; megys,

"Mi fum glaf mewn caethaf cur,
Anaele oedd fy nolur;

Gwaelaf ddrych, gan nych, gwan iawn,
Dygwyd fi at Gadwgawn;

Yn fanwl y'm hanfonai

Ar frys, er mawr chwys march chwai,

I'r ddedwydd bau olau iach,
Hen Walia, p'le anwylach?
Iechyd a geis heb ochi,
O'i har hardd a'i hawyr hi,
Difyrwch i'm hadferyd,
Glân barth nag elion byd."

Gallem dybiaw, fod yr awdwr yn dyfod o Loegr i Gymru am ei iechyd yn y pennill a ddifynwyd.

Y mae y darnau a nodwyd yn farddoniaeth ddarluniadol o'r fath oreu a mwyaf grymus, yn enwedig lle y dangosir y niwl ar ysgwydd y mynydd ;

y coed yn cael eu dilladu, yr eirin pêr yn sangu ar gangau; y coed yn rhedeg ar hyd y muriau dan eu llwyth; y dwfr ysplenydd, "llyfndeg, yn rhedeg yn rhydd;" yr uchelgadr raiadr "yn synu pensyfrdanu dyn;" y ffynnonau, y pysg; y deg a thriugain o fuchod yn ymddangos gerllaw y llys; y meirch, y milod ar milod ar y moelydd; y trigolion a'u gwychder; y beirdd yn canu; yr "awelon oerion araf;"-ond pethau Cymru ydynt, ac nid pethau yr ynys yn gyffredinol.

Wrth graffu yn fanwl, gwelir fod ein bardd wedi cymeryd trwydded rhy helaeth yn rhai o'r darnau goreu a ddifynwyd o barth iaith. Y mae efe yn son am "lefau" adar, yr hyn sydd anmhriodol; nid ydyw adar yn llefain neu yn crïaw; ac am "grochwaedd" y rhedlif, ni fedd y rhedlif waedd neu gri. Yr ydym wedi bod yn difynu yr englyn gyda'r "crochwaedd," er dangos cryfder geiriau; ond rhaid i ni addef nad ydyw gwaedd yn briodol i lif, mwy na chyfarthiad i geffyl. Y mae efe yn son hefyd am ddylifedd yn dolefain; sef, llif yn dolef, neu yn llefain, yr hyn sydd yr un mor anmhriodol. Nid peth fel "coed y maes yn curo dwylaw" ydyw hyn. Y mae "swn llawer o ddyfroedd" yn briodol, ond nid ellir priodoli "gwaedd" a "llef” i ddwfr. Ac anmhriodol iawn, yn ein tyb, yw y gair "elion," gyda golwg ar ddyn mewn darfodedigaeth. Y mae "eli ar friw" yn ddigon addas; ond nid mor briodol yw son am dano at ranau mewnol.

Ar ol dangos prydferthwch Cymru, er mai "Molawd Ynys Prydain" oedd y testun, y mae efe yn son am Hu Gadarn a Dyfnwal; a chawn grybwylliad

am

Ac am gywreindeb

y tiredd, y cestyll, a'r tyrau,"

"Ein hynafiaid o'u hanian wiwfaith,

Hynod eu craffder i wneyd crefftwaith."

Ac yn lle dilyn ein moddion amddiffynol, y mae ein hawdwr yn rhedeg at Madawg, yr hwn a symudodd

"I faith Americ o Fon."

A chawn hanes mordwyaeth, a hoffder y Prydeiniaid o fiwsig; yr olwg barchus fyddai arnynt yn eu haurdorchau, a'r

-Drywon a gleiniog fodrwyau."

Yn fyfyrwyr mawr, ac yn deall "dull planedau," Llechau, Gwalchmai, a Rhiwallon yn ddoniol; fod Gwyn ab Nudd yn seryddwr, a'r Hen Idris yn gallu darllen gwyneb yr wybren; fod cyfreithiau da gynt yn Mryn Gwyddon; fod yr iaith yn cael ei deall a'i thrin; fod genym

"Gadeirfeirdd a phrif-feirdd ffraeth;"

fod areitheg Perri yn werth mawr, ac fod y ddau Ferddin, Aneurin, Taliesin, Dafydd, a Goronwy, yn enwog. Crybwylla am Gatwg, Gambold, a Meurig; a sonia am Babyddion yn Is Coed, ac am ddewrder y Cymry; "Tarawsant gad y treiswyr,

Bob gradd, gan eu lladd yn llwyr."

Y mae tua chant o linellau wedi eu defnyddio yn yr awdl yn y fan yma, heb unrhyw berthynas rhyngddynt a'r testun; ond y mae y bardd yn chwareu yn ngwisg y gynghanedd, ac yn gwneyd i'r holl enwau dyrus glecian drwy eu gilydd, nes y mae y darn yn debyg iawn i farddoniaeth. Yna, wedi son am y ddau Iago a'r Siarliaid, ä ymlaen at Ridley a Chranmer, a mynega am danynt hwy a'u rhinweddau mewn iaith rymus, a chynghan

eddion cryfion, nes y mae y cwbl yn gwreichioni o'n cwmpas. Wedi hyny, daw Harri frenin dan sylw, a

"Syr Owain Tudur oeswr o'n teidiau."

Ond nid ydym yn cael dim ar y testun-pethau anmherthynasol hollol sydd gan yr awdwr. Gobeithiwn na cheisia neb byth gyfieithu yr awdl hon gan osod testun y Gwyneddigion uwch ei phen. Cawn gan yr awdwr, yn ddilynol i hyn, hanes cyfieithiad yr Ysgrythyrau; ond yr ydym yn methu gweled y berthynas uniongyrchol sydd rhwng hyny a'r testun, Molawd

Ynys Prydain."

Wedi dyfod â ni mor bell a Doctor William Morgan, y mae yr awdwr yn rhedeg â ni yn ein holau at Humber, Beli, Iwl Caisar, Caswallon, Caradawg, Aregwedd, a sonia am ddewrder ein hynafiaid yn ymladd, a darlunia y “Dagrau hyd ruddiau Derwyddon,"

yn effeithiol, a'r hen dderwydd

"Ymfwriai mewn myfyrion-
Yn ddwys, â'i bwys ar ei ffon;
Ow! a deigr hallt y gwr hen
I'w ruddiau dan dderwydden;"

ac yna cyrchir ni i Fon,

"A Mon dan wastraff min dinystrwyr,
Tarawai Buddug etwa i'r baeddwyr."

Cawn linellau dwys yn y darn yma; ond mynegant am ddygwyddiadau rhy bell yn ol, a chwbl ddyeithr i'r testun.

Wedi myned heibio y Gwyddyl, y Brithwyr, Gwrthefyr, ac Emrys, ac Uthr, ac Arthur, deuir at Llewelyn ac Owain Glyn Dwr. Rhoir tro wedi hyny heibio Iorwerth, nes y deuir at y Sioriaid; ac yma dechreua y bardd son am ein hamddiffynfaoedd; ond buom yn tramwy drwy ugeiniau o linellau hollol ddyeithr i'r testun, yn ddim pellach na'u bod yn dangos fod yr hen Gymry wedi bod yn enwog am ymladd. Ond nid ydyw hyny yn profi dim beth a wneid yn bresennol yn wyneb estron genedl. Heblaw hyny, nid ydyw y Cymry ond rhan fach iawn o'r Ynys, ac un rhan. Y mae Seison, Gwyddelod, ac Ysgotiaid, dan goron Lloegr, a dysgwylid i'r rhei'ny ddyfod allan yn erbyn y gelyn. Pan y mae yr awdwr yn dyfod at ei destun, y mae ganddo rai darnau ardderchog, er iddo fel hogyn drwg ymdroi yn hir iawn, ïe, yn rhy hir o'r hanner, gyda'i neges, gan droi i bob man, a mynegu am bob peth a welodd ac a glywodd, ar hyd y ffordd ac ar hyd y meusydd, y gallesid bod heb wybod dim yn eu cylch, hyd ryw amser arall. Y mae yr awdl hon yn cynnwys tua deunaw ar hugain o dudalenau o lyfr Dewi Wyn; eithr prin y gellir dyweyd fod ugain tudalen o hyny ar y testun. Nid ydyw y gweddill ond pethau hollol anmherthynasol, a wnai y tro mewn unrhyw awdl a sonia am ddewrder y Cymry; ac nid ydyw y llinellau sydd ar y testun yn cymeryd golygiad digon eang ar y mater. Y mae y sylwadau yn cael eu cyfyngu yn ormod at Gymru a'r genedl Gymreig, gan anghofio fod cenedloedd eraill yn ddeiliaid Prydain. Gallasai yr awdwr adael gyda

"Glan barth nag elion byd;"

neu yr englyn nesaf at y linell hon, ac ailgodi hwyl yn y llinellau

"Brenin Prydain gain gynor,

Pen llywiawdr, ymerawdr môr:

« PreviousContinue »