Page images
PDF
EPUB

"O Arglwydd, gollwng fi!" a chyda hyny, ymollyngodd i farw, a'i ysbryd a ehedodd ymaith, oddeutu un ar ddeg o'r gloch y boreu hwnw, sef dydd Llun, Awst 2il, 1830, ac efe o fewn ychydig fisoedd i fod yn 67 mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu yr efengyl am 37 mlynedd. Claddwyd ef yn barchus y dydd Iau canlynol, pan y daeth tyrfa fawr ynghyd, ac y pregethwyd ar yr achlysur gan ei hen gyfeillion ffyddlawn, y Parch. John Davies, Nantglyn, a'r Parch. John Parry, Caerlleon.

Fel hyn y bu fyw, ac fel hyn y bu farw John Jones, o Dreffynnon. Nid ydoedd efe, ni a addefwn, yn un heb ei golliadau,—a pha le dan yr haul y deuir o hyd i'r gwr perffaith, er fod rhai pobl dda yn llawer perffeithiach na'u gilydd? ond yr oedd yn gristion "yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll.” Nid ydoedd chwaith yn rhyw ddyn mawr iawn, ond yr oedd yn ddyn grasol, ac yr oedd hefyd, fel y gwelwyd, yn ddyn hynod. Os nad oedd eangder a threiddgarwch yn ei ddoniau gweinidogaethol, yr oedd yn wastad yn gwisgo ei ddawn ei hun, ac ni buasai hwnw yn gweddu i neb arall. Nis gwyddom beth a fuasai, pe cawsai ei alluoedd amaethiad trwyadl; ond, fel yr ydoedd, wedi cael athrylith cynnwynol gan natur, a chael ffydd ddiffuant, a gweinidogaeth ddiammheuol gan ras, yr oedd "yn ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," yr hon yr oedd ei diffoddiad yn golled i'r byd. Yr oedd efe "yn brofedig yn Nghrist;" a bendigedig yw ei goffadwriaeth. Ein llafur yn casglu y cofion hyn am dano a etyb ddyben da, os cynhyrfir rhywrai, wrth eu darllen, i ddilyn ei ffydd, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad ef.

GOHEBIAETH.

GWELIR ein bod, yn y rhifyn hwn, wedi codi ystafell newydd, i fod yn lle cyfleus i groesawu ein cyfeillion a'n cydnabod a fyddo yn dewis troi i mewn yn achlysurol i gael ychydig fynydau o ymddyddan wrth fyned heibio ; ac nid ydym yn meddwl cau y drws yn erbyn dyeithriaid, pwy bynag fyddont, tra y cydymffurfiant â rheolau cyffredin moesgarwch. Mewn geiriau eraill, yr ydym yn bwriadu neillduo cyfran o'r "Traethodydd" o hyn allan i fod yn gyfrwng gohebiaeth i ddysgedigion Cymru o bob enwad, lle y gellir rhoddi derbyniad i bob math o "notes and queries" yn dwyn perthynas à beirniadaeth ysgrythyrol, llenyddiaeth a henafiaethau Cymreig, helyntion yr amseroedd, a phob mater arall a fyddo yn ymddangos yn deilwng o sylw ein darllenwyr.

ANWYL SYR,

"LLYFRYDDIAETH Y CYMRY."

Bethel, Pentrefoelas, Rhag. 18, 1852.
"Traethod-

Cefais gryn hyfrydwch wrth ddarllen yr ysgrifau a ymddangosasant yn y ydd" ar Lyfryddiaeth y Cymry." Sylwais ar un camgymeriad bychan yn y rhifyn diweddaf, yr hwn, fe allai, y gwelwch yn werth i'w ddiwygio mewn rhifyn dyfodol. Yn tudal. 394, dan y flwyddyn 1689, dywedir mai cyfieithydd y" Rhybuddiwr Cristionogawl" ydoedd Edward Morris, y bardd, o'r Perthi llwydion, Llansilin. Nid yn Llansilin, ond yn mhlwyf Ceryg-y-druidion y mae y Perthi llwydion, lle y preswyliai y bardd a'r cyfieithydd. Yn "Eos Ceiriog:" llyfr i., tudal. 21, gwelir "Cywydd o Alarnad am yr enwog fardd, Edward Morus, o'r Perthi llwydion, yn mhlwyf Ceryg-y-druidion; yr hwn a fu farw yn Essex, yn y flwyddyn 1689." Dengys hyn i'r cyfieithydd farw yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd y llyfr. Y mae yn debyg ei fod ef yn borthmon, ac mai ar fasnach yr oedd wedi myned i Essex pan y bu farw yno. Y mae rhai o'i hiliogaeth yn dilyn yr un fasnach hyd heddyw.

Bum yn y Perthi llwydion yn ddiweddar, a gwneuthum ymchwiliad am rai o hen lyfrau y bardd, ond methais a chael yr un, eithr cefais un o'r “Rhybuddiwr”—un o'r trydydd

argraffiad, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1802, gan y “Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol."

Oddiwrth alarnad Huw Morus am dano, yn gystal ag oddiwrth yr anghreifftiau a geir o'i waith yn “Eos Ceiriog," y mae yn amlwg fod Edward Morus yn fardd enwog yn ei dydd. Byddai yn dda genyf pe gallech gael hyd i ychydig o'i hanes ac o waith i'w cyhoeddi yn y "Traethodydd."

Maddeuwch fy hyfrdra, a derbyniwch fy niolchgarwch gwresocaf am eich gwasanaeth gwerthfawr, a'ch ysbryd rhyddfrydig yn y "Traethodydd." Dymunaf iddo flwyddyn newydd dda. Ydwyf, anwyl syr, yr eiddoch yn ddiffuant,

WILLIAM ROBERTS.

NODIADAU AR LYFRAU.

Awstralia a'r Cloddfeydd Aur. Gyda darlun o'r Wlad a'r Cloddfeydd. MAE y llyfryn hwn yn gwneyd i fyny un o'r "Gyfres ar Elfenau Gwybodaeth” a gyhoeddir gan Mr. Gee. Y mae ein Cyhoeddwr teilwng, dybygem ni, yn gwneyd yn gall iawn wrth roddi allan y fath lyfr a hwn yn mysg ei gyfres;" o herwydd yn nghanol cyhoeddiad a lledaniad yr "Elfenau Seryddiaeth," a'r iaethau gwir werthfawr eraill, mae y bobl wrth y cannoedd a'r miloedd yn defnyddio pob "elfen" i ymfudo i "Awstralia a'r Cloddfeydd Aur;" a swm pob newydd sydd yn dyfod atom o'r cyfandir mawr, pell, ydyw, Aur, aur wedi ei ddarganfod eto! Gallem feddwl fod swm y cwbl a glybuwyd am Awstralia i'w gael yn y llyfr sydd ger ein bron. Mae ei holl bennodau, y rhai ydynt namyn un deuddeg, yn drylawn o hysbysiadau dyddorol a chynnwysfawr anı yr holl wlad yn gyffredinol, a'r cloddfeydd aur yn neillduol. Nid gweniaith yw dywedyd fod yr ysgrifenydd a'r argraffydd wedi gwneyd eu gwaith yn dda.

Y Perl Cerddorol, yn cynnwys Tônau ac Anthemau Cysegredig a Moesol. Cyfansoddedig gan WILLIAM OWEN, Prysgol. Cyfrol I.

Y Cerddor Cenedlaethol, sef Casgliad o Dônau, Anthemau, a Darnau Gosodedig wedi eu dethol o weithiau yr awduron goreu. Dan olygiad WILLIAM Owen, Rhif. 1, hyd 10.

MAE yn dda genym ddeall a gweled fod cynnifer o ieuenctyd Cymru wedi troi eu sylw at egwyddorion Cerddoriaeth, ac yn eu dysgu a'u hymarfer mor rhagorol. Dengys hyn fod yni a phenderfyniad yn ein pobl ieuaine ag a'u cymhwysa i fod yn llwyddiannus yn meusydd eraill y gwybodau a'r celfyddydau ond iddynt droi eu meddwl atynt. Mae yn naturiol i'r ieuanc ymofyn am ddifyrwch; ac, "a oes neb yn esmwyth arno? caned,"-ond, nid sothach o ganiadau, eithr, "Salmau." Ond nid yw dyddiau yr esmwythder yn para yn dragywydd; ac yr oedd y ceiliog rhedyn yr hwn na wnaeth ddim ond canu yr haf, yn ddiobaith ei gyflwr pan yr anfonwyd ef i ddawnsio y gauaf. Dymunem, gan hyny, i'n cyfeillion ieuaine gyd-dymheru difyrwch âg adeiladaeth. Rhwydd hynt iddynt i ganu llawer, ond bydded iddynt ddarllen llawer hefyd. Mae yn gyfreithlawn iddynt sirioli eu hysbrydau anifeilaidd, ond, gyda y cwbl ac yn benaf dim, dylent ofalu am leshau eu hysbryd anfarwol. Mewn rhai manau, gwneir i fyny un sefydliad o gymdeithas ganu a chymdeithas ddarllen; cenir ton, yna darllenir cyfran o ryw lyfr buddiol, gyda sylwadau byrion, ac felly yn olynol. Dyna gynllun gwir ragorol, yr hwn y chwennychem ei argymhell i'r holl gymdeithasau cerddorol.

Y "Perl Cerddorol," a'r "Cerddor Cenedlaethol," sydd gyhoeddiadau tra theilwng o gefnogiad. Y cyntaf sydd yn cynnwys cyfansoddiadau gan Mr. William Owen yn unig, y rhai sydd yn arddangos llawer o fedr ac athrylith barddonol, a rhai o honynt agos yn ddiguro yn eu heffeithiolrwydd ar dymher ac anwydau dyn. Yr anthemau a'r darnau yn y "Cerddor Cenedlaethol" sydd yn benaf o weithiau Handel a Mozart, wedi cyfaddasu atynt eiriau Cymreig; ac y mae dywedyd hyna yn ddigon i'w harganmawl i bob un y mae ynddo y mymryn lleiaf o wybod da mewn cerddoriaeth.

DINBYCH: ARGRAFFWYD GAN THOMAS GEE.

Y TRAETHODYDD.

YR ARFAETH.

PAN ddaw dyn i ddechreu meddwl ac ystyried, y mae yn teimlo fod ganddo alluoedd fel creadur rhesymol sydd yn ei wneyd yn llywodraethwr ar y byd gweledig o'i amgylch, ac yn ei addasu i ddal cymundeb â gwirioneddau ysbrydol ac anghyfnewidiol. Ond y mae hefyd yn rhwym o deimlo yn fuan fod y galluoedd hyn yn dra therfynol, a'i fod ef ei hun dan lywodraeth rhyw Fod anweledig, ar yr hwn y mae yn ymddibynu, ac i'r hwn y mae yn gyfrifol am ei holl weithredoedd. Oddiar undeb y ddau deimlad hwn y tardda pob crefydd. Oni bai fod ganddo alluoedd i ddewis a gweithredu fel creadur rhesymol, ni buasai arno anghen am grefydd mwy na'r anifeiliaid a ddyfethir: ac o'r tu arall, y mae pob crefydd yn darfod heb deimlad o ymddibyniad a rhwymedigaeth. Os meddyliwn, er anghraifft, am weddi, yr hyn yw dechreuad crefydd yn enaid dyn, ni ddaw neb i weled yr anghenrheidrwydd am weddio nes y daw i ddechreu meddwl am weithio o ddifrif yn gyfatebol i'r galluoedd a dderbyniodd gan ei Greawdwr; ac ar yr un pryd i deimlo ei fod yn analluog i wneuthur dim yn iawn ond i'r graddau y byddo yn derbyn cyfarwyddyd a nerth oddiuchod i gyflawni pob dyledswydd.

Ond yn lle cymeryd y ddau deimlad mewn cysylltiad â'u gilydd, y mae llawer yn dueddol i aros mewn un o honynt; ac er mwyn dyrchafu y naill y maent yn darostwng y llall, ac o'r diwedd, fe allai, yn ei lwyr ddifodi, yr hyn sydd yn eu harwain o anghenrheidrwydd i'r eithafoedd mwyaf anghrefyddol. Wrth ddal i fyny allu dyn, ac wrth edrych yn unig ar yr olwg ddynol i'r mater, y mae rhai yn gwneuthur dyn yn bob peth, a thrwy hyny yn syrthio i ddidduwiaeth; ac wrth geisio gochelyd y perygl hwn, y mae eraill drachefn yn gwyro at oll-dduwiaeth, yr hyn sydd yn gwneuthur Duw yn bob peth, a phob peth yn Dduw. Fel hyn y mae eithafoedd yn cydgyfarfod, oblegid y mae y naill fel y llall yn gwadu Duw, ac yn diwreiddio crefydd. Dyma duedd ac amcan naturiol pob un o'r ddau deimlad pan ysgarir hwynt oddiwrth eu gilydd. Ond heb fyned mor bell a hyn, y mae eraill, y rhai ni fynant aberthu eu crefydd er mwyn cynnal i fyny ddidduwiaeth nac oll-dduwiaeth, y rhai nid ymfoddlonant i lwyr ddifodi cyfrifoldeb dyn na llywodraeth Duw, er hyny, oddiar gariad at ryw gyfundraeth neillduol, yn gwahanu yn ormodol rhyngddynt, nes y mae perthynas dyn â Duw i ryw raddau yn cael eu gwanhau, ac ysbryd crefydd i'r un graddau yn cael ei ddinystrio. Y mae un blaid, wrth edrych o'r ochr ddaearol, er mwyn gwneyd dyn yn gyfrifol am ei weithredoedd, ac oddiar anallu i ganfod pa fodd y mae hyn yn cydsefyll âg arfaeth Duw, yn myned o'r diwedd i wadu fod arfaeth; tra y mae y blaid arall, oddiar eiddigedd dros lywodraeth a phenarglwyddiaeth Duw, yn rhoddi lle mor fawr ac mor arbenig i'r EBRILL, 1853.]

K

arfaeth, nes y maent yn ein gorfodi i gasglu weithiau eu bod yn credu fod Duw wedi arfaethu pechod. Y mae y ddwy blaid yn dadleu dros ran o'r gwirionedd; ond y maent yn methu trwy beidio cymeryd i mewn y rhan wrthgyferbyniol. Am na fedrant gysoni arfaeth Duw a chyfrifoldeb dyn, y maent yn codi y naill ar draul darostwng y llall. Gan nad ydynt yn foddlawn i ddal penarglwyddiaeth Duw a rhyddid dyn mewn gwrthgyferbyniad, nid ydynt yn gweled pa fodd y gallai efe arfaethu heb arfaethu pechod ; ac am hyny y mae y naill yn dal nad oes arfaeth yn bod, a'r llall yn dal fod pechod yn yr arfaeth.

Y mae llawer, os nad y cwbl, o'r dyryswch yn tarddu o ddiffyg ystyried y neillduolrwydd sydd yn perthyn i bechod. Yn lle ei gymeryd i mewn i'r un dosbarth a phob peth arall yn y fath fodd fel ag i feddwl nas gallasai Duw arfaethu pob peth arall heb arfaethu pechod, neu nas gallasai beidio arfaethu pechod heb beidio arfaethu pob peth arall, dylid ei ystyried yn rhywbeth ar ei ben ei hun yn y greadigaeth, nid yn unig yn wahanol, ond yn wrthwynebol i bob peth arall, mewn rhyfel anghyfnewidiol yn erbyn holl drefn y Goruchaf, ac yn wrthddrych ei gasineb anfeidrol, nid mewn ymddangosiad yn unig, ond mewn gwirionedd ac o anghenrheidrwydd; yr hwn, y mae yn wir, nid oedd Duw dan rwymau yn y gradd lleiaf i'w attal i ddyfod i'r byd, oblegid felly ni fuasai gras yn ras, ond yr hwn ar yr un pryd nid oedd efe mewn un modd yn awdwr o hono, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, oblegid felly ni fuasai pechod yn bechod. Llawer cais a wnawd erioed i esbonio dyfodiad pechod i'r byd; ond y mae eto yn aros heb ei esbonio, ac nid yw yn anhawdd genym gydsynio â'r rhai hyny sydd yn barnu nas gellir ei esbonio byth. Y mae yn llynclyn lle y mae miloedd o ymresymiadau wedi eu claddu o'r golwg; ond nis gellir ei lenwi, oblegid y mae yn bydew diwaelod. Byddai lliaws o rwystrau mewn duwinyddiaeth wedi eu symud ar unwaith oddiar y ffordd pe credid fod y dirgelwch hwn yn anamgyffredadwy. Y mae yn debyg i'r holiadau hyny mewn rhifyddiaeth ac athroniaeth anianyddol, y rhai y mae dynion yn ymboeni i geisio eu hateb, er y gellir profi eu bod yn anatebadwy. Yr unig ffordd i amgyffred gwahanol bethau yw eu dosbarthu dan ryw ddeddfau cyffredinol; ac nis gallwn amgyffred dyfodiad unrhyw effaith i fod, ond trwy ei ddwyn dan ryw ddeddf o achosiant. Ond pa fodd y gallwn amgyffred dyfodiad y peth hwnw i fod, yr hwn a ddaeth i fod heb ddeddf, ac yn erbyn pob deddf? Pe gellid ei rwymo, a'i ddwyn dan awdurdod rhyw ddeddf, naturiol neu foesol, ni fyddai mwyach yn bechod. Nis gellir esbonio yr achos o hono, oblegid nid oes achos yn bod iddo. Nid oes un achos o hono yn Nuw, oblegid y mae efe yn berffaith sanctaidd ; ac nid oes un achos o hono yn nghyfansoddiad dyn fel creadur, oblegid nid yw hwnw ond gwaith Duw. Fel y mae Duw yn Fod anamgyffredadwy, heb ddyfod i fod trwy un achos, ac yn ffynnonell pob deddf, felly yn wrthgyferbyniol y mae pechod yn ddrwg anamgyffredadwy, wedi dyfod i fod heb un achos, ac yn groes i bob deddf. Pe cedwid y ddau wirionedd yma ar gyfer eu gilydd, ni byddem mewn cymaint perygl i gyfeiliorni. Ar un llaw dylem gadw ein golwg ar fawredd Duw fel Bod anfeidrol ac anghyfnewidiol, yr hwn sydd yn gwneuthur yn ol ei ewyllys ei hun â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac ar y llaw arall, dylem gadw ein golwg ar fawredd drwg pechod, yr unig beth nad yw yn ddarostyngedig i ddeddf Duw, a'r unig beth nad yw Duw wedi ei arfaethu.

Os oes yma ddirgelwch anamgyffredadwy, nid yw hyny yn ddim amgen nag a ddylid ei ddysgwyl. Yn y mater hwn, fel pob mater arall, nid oes genym ond dewis rhwng dau anhawsder, sef yr anhawsder bychan o gredu yr hyn sydd uwchlaw rheswm, a'r anhawsder anorfod o gredu yr hyn sydd yn groes i reswm: a byddai yn dda i ni gofio o hyd fod yn rhaid i ni forio rhwng creigiau o afresymoldeb, ac y byddwn yn sicr o wneuthur llongddrylliad ar ryw law, os nad ymddiriedwn ein hunain i fwy o ddyfnder nag y gallwn ni ei fesur. Os credwn fod Duw yn Dduw, y mae gwadu arfaeth yn groes i reswm; ac os credwn fod pechod yn bechod, y mae dal fod Duw wedi ei arfaethu yn groes i reswm: ond os credwn yn ol yr hen wirair Cymreig fod "pob da oddiwrth y Creawdwr, a phob drwg oddiwrth y creadur," y mae y ddau wirionedd ynddynt eu hunain yn ddigon amlwg, ac nid yw credu y ddau yn groes i reswm, er eu bod yn cyrhaedd yn rhy bell i ni fedru canfod yn eglur pa le a pha fodd y maent yn cyfarfod â'u gilydd. Er nas gallwn gyrhaedd y cysylltiad rhyngddynt, gallwn gredu yn rhesymol nad yw Duw yn gwneuthur dim heb ei arfaethu, ac nad yw yn arfaethu dim ond y mae yn ei wneuthur; ac o ganlyniad, ei fod yn arfaethu pob peth ond pechod, gan ei fod ef yn achos o bob peth arall, ac nad yw yn arfaethu pechod, gan nad yw yn achos o bechod. Yr oll sydd yn anghenrheidiol i ni ei ddal yn ddiysgog, fel canolbwynt oddiwrth ba un y mae y cwbl yn derbyn goleuni a threfn, ydyw fod pob peth yn arfaethedig ag y mae achos yn bod iddo. Er fod arfaethiad y Creawdwr a phechod y creadur yn cyfarfod yn fynych yn yr un weithred, fel nas gellir dywedyd pa le y mae y naill yn dechreu a'r llall yn diweddu, ac er y gellid tybied eu bod yn cyfarfod yn mhob gweithred bechadurus, ac er fod cynllun yr arfaeth yn cael ei lunio mewn rhan i'r dyben o gyfarfod â phechod, ac er fod y Creawdwr yn goruwchlywodraethu pechod y creadur i ddwyn ymlaen ei amcanion daionus ei hun, eto, wrth gadw golwg ar yr hyn ydyw pechod fel y mae yn ddiachos ac yn ddiddeddf, nid yw yn ymddangos fod dim yn groes i reswm mewn credu fod pob gweithred, mor bell ag y mae dan lywodraeth deddf, yn wrthddrych arfaethiad dwyfol; ac ar yr un pryd, mor bell ag y mae yn bechadurus, ei bod y tuallan i gylch yr arfaeth; ac felly fod yr arfaeth a phechod, mewn rhyw fodd anamgyffredadwy i ni, yn cydgyfarfod yn yr un weithred; ac eto mewn tragywyddol ryfel â'u gilydd, y naill yn aros yn berffaith dda, a'r llall yn berffaith ddrwg, heb i'r arfaeth gyfranogi o bechod, ac heb i bechod gyfranogi o arfaethiad. Er nas gallwn ni daflu ein llinyn mesur oddiamgylch y ddau wirionedd yma, y mae rheswm ei hun yn ein gorfodi i gredu y ddau; a dylem dderbyn tystiolaethau yr Ysgrythyr ar bob un o honynt yn holl gyflawnder a grym eu hystyr naturiol. Yn lle edrych yn ddrwgdybus ar ranau o'r Bibl, dylem ei dderbyn yn barchus pan ddywed wrthym fod y saint "wedi eu rhagluniaethu yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun;" ac yn llawn mor barchus pan ddywed, "Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf yn marwolaeth yr annuwiol, ond troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd a byw." Ein dyledswydd amlwg yw cymeryd y geiriau hyn a'u cyffelyb fel y maent, yn eu holl helaethrwydd, gan gredu yn dawel fod y fath eangder yn mhob un, fel na raid i Ephraim genfigenu wrth Juda, nac i Juda gyfyngu ar Ephraim.

Ond ymhlith y rhai hyny drachefn sydd yn credu fod arfaeth, y mae gwahaniaeth nid bychan. Y mae un blaid yn barnu nad yw yr arfaeth yn

« PreviousContinue »