Page images
PDF
EPUB

66

i roddi yr Amen mor ebrwydd ag y gallai; ac a ddywedodd wrth ei gyfaill, 66 Mae yn rhaid i ni fyned i'r ystabl i edrych beth sydd yn dyfod o'n ceffylau ni;" ac ar frys âg ef tuag yno. "Aroswch, ŵr da," meddai prif-flaenor yr achos yn y lle; "i ba le yr ydych yn myned ar y fath frys ?" "I'r ystabl, i weled pa fodd y mae ar ein ceffylau ni." "Ho, aroswch, mae hi yno yn dda iawn." Wel, mi fynaf fi weled eich da iawn." Erbyn myned yno, yr oedd y ddau anifel gwirion â'u penau tua'r drws, heb damaid iddynt yn y rhesel. "Dyna," eb efe, gyda phwys, wrth y blaenor, "mae Duw yn delio â chwi o'r pulpud, fel yr ydych chwithau yn delio â'n ceffylau ni yn yr ystabl. Pa fodd yr ydych yn dysgwyl cael o'r pulpud, a chwithau heb roi i'r ystabl?" Peidiwch myned ma's o'ch temper, ŵr da," ebe hwnw; "mae digon o wair yn y cae draw." "Yn y cae draw, yn wir! nid yw gyddfau ein ceffylau ni ddim yn ddigon o hyd i gyrhaedd oddiyma i'r cae draw; gwair yma yn y rhesel sydd yn eisieu. Nid rhyfedd ei bod yn galed yn y pulpud, gan ei bod yn galed yn yr ystabl." Mae yn debyg mai clywed hyn o hanesyn am Mr. Jones a fu yn achlysur i un brawd ganu y llinellau canlynol, y rhai y byddai yn dda i bob diacon eu dysgu allan::

"Os da yw genych am y gwŷr sy'n efengylwyr hyfryd,

O cofiwch chwi, mae'n anghenrhaid, am eu hysgrubliaid hefyd.
Os chwi ni wnewch yn gyfiawn drin anifail blin

y genad,

Nid syn, o dan ei bregeth ef, os cewch y nef yn nghauad.

Os oer fydd lle'r creadur mud, heb wair nac ŷd yn borthiant,

Pa ryfedd os cewch oedfa wael, heb wres, na mael, na moliant?

Gwrandewch, a gwnewch yn fawr o'r march, oddiar wir barch i'w berchen;
Rhowch iddo ddigon ar bob tro i fyn'd i'w fro yn llawen."

Er fod yn hawdd gweled oddiwrth lawer o'r adroddiadau blaenorol, fod Mr. Jones yn ŵr bywiog ei ysbryd, sydyn ei dymher, a thra brwdfrydus gyda pha beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur, nid yw y darllenydd i gasglu mai dyn o feddwl anwadal a chyfnewidiol ydoedd: nid un o'r tylwyth oriog, ansefydlog, na wyddoch chwi pan gyda hwy y fynyd hon pa le y cewch chwi hwy y fynyd nesaf; eithr wedi unwaith dderbyn argyhoeddiad barn am unrhyw beth, efe a weithredai yn ddi-ildio yn ol hyny, heb falio dim am y canlyniadau. Fel un anghraifft o hyn, gellir nodi ei benderfyniad pan y rhoes i fyny ysmocio; canys yn aml y mae peth bychan yn ddeongliad ar egwyddor fawr. Am ryw gyfran o'i oes, bu yn arfer mygu tobacco; ond oddiar ryw argyhoeddiad meddwl, efe a roddodd yr arferiad heibio. Wedi rhoddi i fyny yn llwyr ymhel â'r myglys, chwyddodd ei goesau; a dywedid wrtho, ac nid oedd yntau yn gallu barnu yn amgen, mai ei waith yn peidio ysmocio oedd wedi effeithio i beri hyny. Edrychodd yr hen bregethwr yn dra sobr ar ei goesau chwyddedig, ac a ddywedodd, "Wel! chwyddwch chwi; yr wyf fi yn dyweyd wrthych na chewch chwi chwiffiad byth!" A bu raid i'r coesau, yn gystal a phob aelod arall o'i dŷ dynol, foddloni i'r penderfyniad.

Yr ydym wedi cymeryd eisoes lawer mwy o le nag a dorasom allan i ni ein hunain wrth ddechre ar hyn o erthygl, a rhaid i ni bellach dynu yn frysiog at y diwedd, gan adael heibio ar hyn o bryd amryw hanesynau eraill oedd genym, a'r rhai a allasent, hwyrach, roddi help chwanegol i ddangos nodweddiad cyffredinol Mr. Jones. Ond nis gallwn ymattal rhag rhoddi eto un hanesyn o'r fath hynotaf am dano, yr hwn a adroddwyd yn fynych ganddo ef ei hun, a phob amser yn dra effeithiol i'r gwrandawyr.

Yn yr amser yr oedd y casgliad dimai yr wythnos, neu chwe' cheiniog a dimai y chwarter, ar droed at adeiladu capelau gan y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru, a phan yr oedd efe yn byw yn Nghaergwrle, fe ddygwyddodd iddo gychwyn i Gymdeithasfa oedd i'w chynnal yn Machynlleth, a chydag ef ryw swm o arian, tua 14p., meddir, o gasgliad at y capelau, wedi eu hymddiried iddo i'w cyflwyno i'r brodyr cynnulledig yn y Gymdeithasfa. Yr oedd yn myned trwy sir Feirionydd, ac yr oedd ei daith yn ei arwain dros Fwlch-y-groes, ffordd anghysbell, disathr, ac anhygyrch, yn enwedig yn y dyddiau hyny, rhwng Llanuwchllyn a Llanymowddwy. Yr oedd iddo lechweddi trymion, a mynydd oerllyd a maith. Cyn iddo gychwyn y mynydd, troes i dafarn yn Llanuwchllyn, i gael lluniaeth iddo ei hun a'i anifel. Gydag iddo fyned yno, torodd dyn, oedd yn eistedd yn y dafarn, i ymddyddan âg ef, a chafodd allan yn lled fuan y ffordd yr oedd y gŵr dyeithr ar fedr ei theithio; ac wedi ei hysbysu o hyn, llithrodd i ffordd, heb fynegu i ba le. Yn mhen enyd, aeth John Jones hefyd i ffordd, gan ddringo yn araf i fyny y rhiwiau. Wedi iddo gyrhaedd i'r mynydd, ac eisoes ymhell oddiwrth dŷ a thwlc, heb greadur byw yn y golwg ond defaid y bryniau, beth a ganfu, encyd o'i flaen, ond y gŵr a welsai yn y dafarn. Adnabyddodd y dyn yn ebrwydd, a hyny yn fwy oblegid fod ganddo gryman wedi ei wisgo, yn ol yr arfer, â rheffyn o wair. Yr oedd y dyn yn rhyw gerdded yn bur araf, gan edrych oddiamgylch, megys i ymholi a oedd neb dynion yn agos, a chan edrych yn ol i weled a oedd y pregethwr yn nesau; ac yn y cyfamser, efe a ddyosgodd y cryman o'i wisg.

Pan welodd John Jones hyn, a sylwi hefyd fod y dyn yn llercian yn annyben, fel un â rhyw amcan ganddo heblaw cyrhaedd pen ei daith, ac efe, am ben hyn oll, yn canfod unigrwydd arswydol y lle, efe a deimlai iasiau o fraw yn ei gerdded, ac a lwyr gredodd fod y dyn yn amcanu gwneyd niwed iddo,—ei yspeilio o'r arian oedd gydag ef, ac fe allai ddwyn ei fywyd oddiarno. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, drallod ac ing i'w fynwes, ac ni wyddai pa beth i wneyd. Yr oedd bellach ymhell o bob cyfannedd; a meddyliodd nad oedd wiw iddo droi yn ol, canys yr oedd yn teimlo mai ei ddyledswydd oedd wynebu tua Chymdeithasfa Machynlleth. Ymroes gan hyny i weddïo ar Dduw ei einioes, gan ddadleu âg ef, "O! Arglwydd, o herwydd dy achos di y daethum i i'r lle arswydus hwn; ni fuasai genyf un neges i ddyfod oddicartref hyd i'r fan yma ond amcan at gael teyrnas yr Iesu yn fwy ymlaen. Ac heblaw hyny, tydi bia yr arian a ymddiriedwyd i mi, ac y mae dy bobl yn dysgwyl am danynt i wasanaethu dy achos. Gan mai tydi a'm dygodd i'r ffordd yma, yr wyf yn hy. deru na adewi mo'nof yn ddiamddiffyn." Yn debyg i hyna yr ymdrechasai efe â Duw. A thra yr oedd efe fel hyn yn gweddio o eigion ei enaid, yr oedd yn dynesu at y dyn a'r cryman, yr hwn oedd bellach yn noeth, ac yn agored i waith.

Ond cyn iddo ddyfod ato yn gwbl, efe a glywodd sŵn traed ceffyl yn dyfod ar duth ar ei ol, ac wedi troi ei wyneb, efe a ganfu ŵr boneddig ar farch glas agos ar ei sawdl, a'r hwn a ddaeth i'w ymyl tua'r un amser ag y goddiweddodd efe y dyn arall. Bellach teimlodd John Jones yn hyderus fod iddo loches yn nghysgod y boneddwr, a chan symbylu ei anifel, prysurodd i'w ganlyn, yr hyn, pan welodd y dyn â'r cryman, efe a droes ei wyneb ffordd arall, gan droi ar hyd cefn y mynydd tua Llanwyddyn, ac amwisgo y cryman drachefn yn y rheffyn gwair. Ymdrechodd y pregethwr dynu

ymddyddan â'r gwr boneddig. "A ydych chwi yn myned ymhell y ffordd yma, syr?" Ond ni chafodd un ateb. "Pa faint o ffordd, syr, sydd rhyngom a Llanymowddwy?" Eto nid ydoedd ateb. Tybiodd erbyn hyn y gallai y boneddwr fod yn Sais, a gwnaeth ymdrech i ofyn iddo gwestiwn yn Seisneg. "It is cold, sir, on the mountain; is it not?" Ŏnd bu yn aflwyddiannus y tro hwn eto; nid oedd y boneddwr yn cymeryd arno ddeall na Chymraeg na Seisneg felly mewn dystawrwydd y cyd-deithient nes myned dros y Bwlch, a dyfod i wlad fwy cyfannedd. Yn rhywle, wedi dyfod i dir diogel, fe gollwyd y gŵr boneddig yn ddisymwth a diarwybod. Parodd yr amgylchiadau hyn i'r pregethwr ddechreu meddwl pa beth a allai hyn fod. Ac wrth fyfyrio ar y cwbl, daeth i benderfyniad sicr iddo ei hun mai Duw a anfonodd ei angel, ac a'i gwaredodd o law y gŵr gwaedlyd a wyliasai am ei hoedl.

Aeth i Fachynlleth; ac wrth gyflwyno yr arian i'r brodyr yn y Gymanfa, fe'u hysbysodd pa mor ddyledus oeddynt i ragluniaeth y Nef am danynt, gan adrodd iddynt yr holl amgylchiadau a goffawyd: ac a ychwanegodd, "Mor ynfyd oeddwn i! myned i siarad âg angel Duw am yr hin, ac am y ffordd! Yr oedd yn syn ganddo fy nglywed. D'asai lwe i mi ddyweyd gair wrtho am Iesu Grist, mi waranta' y buasai efe yn siarad. Ni roddais i i'r angel destun cymhwys i ymddyddan arno, ac am hyny yn ddiammhau y bu efe mor fud !"

Mae ein darllenwyr, wrth gwrs, at eu rhyddid i ffurfio y syniad a fynont am gynnwysiad rhyfedd yr adroddiad hwn: dyna yr hanes iddynt hwy fel ei mynegwyd gan Mr. Jones yn Machynlleth, ac fel ei hadroddwyd ganddo ef ei hun wrth amryw sydd eto yn fyw. Os derbynir ei ddeongliad ef am ei gydymaith boneddig ar y ceffyl glas, nid oes yn hyny, dybygem ni, ddim yn groes i egwyddorion llywodraeth Duw, nac i rediad cyffredinol yr Ysgrythyrau. Mae pawb Cristionogion uniongred yn credu yn ngweinidogaeth angelion "yn y dyddiau diweddaf hyn;" ac yn y fath amgylchiad anarferol ag yr oedd Mr. Jones ynddo y pryd hyn, paham y byddai yn anghredadwy genym farnu y gall eu gweinidogaeth fod yn weledig?

Nid oes genym, bellach, ond pasio ymlaen i gymeryd golwg arno yn ei gystudd diweddaf. "All is well that ends well;" ac yn dda odiaeth y dybenodd llafur crefyddol y gweinidog ffyddlawn hwn. Sabboth yr 28ain o Chwefror, 1830, y pregethodd am y tro olaf yn ei gartref yn Nhreffynnon, pan y llefarodd mewn modd bywiog ac effeithiol oddiar 2 Cor. iv. 17 Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol, yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni." A'r nos Sabboth canlynol, sef y 7fed o Fawrth, y pregethodd yn Nhrelogan, gerllaw Newmarket, sir Fflint, am y tro olaf o gwbl, oddiar Heb. xi. 5; "Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef; canys, cyn ei symud ef, efe a gawsai dystiolaeth ddarfod iddo ryngu bodd Duw." Dychwel adref dranoeth, gan deimlo ei hun yn boenus a llesg iawn; a dywedodd wrth gyfaill ddydd Mawrth, "Yr wyf wedi pregethu pregeth fy anghladd nos Sabboth diweddaf. Y mae amser fy ymddattodiad wedi nesâu; ac yr wyf yn teimlo gradd bychan o 'chwant i'm datod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.'" Bu amtua phum' mis yn gwanhau yn raddol; ond yr oedd ei enaid yn gryf er fod ei gorff yn nychu. Yr oedd y Parch. John Elias wedi dywedyd am dano un tro, "Y mae John Jones, Treffynnon, yn ddigrif yn ei fywyd, a marciwch

chwi y bydd efe yn ddigrif hefyd wrth farw." Ac felly y bu. Yr oedd efe, yn holl ystod ei anhwyldeb, ac felly yn ei oriau olaf, fel y cawn weled, yn gymhwys fel efe ei hunan, mor rhwydd a gonest, ac mor wreiddiol a ffraeth ei eiriau, ag erioed. Dywedodd un brawd wrtho, "Y mae yn dda iawn eich bod wedi cael gafael ar grefydd cyn dyfod i'r amgylchiad hwn.” Atebodd yntau, "Crefydd a ymaflodd ynof fi yn gyntaf, ac onidê ni buaswn i byth yn ymaflyd ynddi hi. Y mae yr Arglwydd, o'i fawr drugaredd, wedi achub fy enaid er ys tua thair a deugain o flynyddoedd." Brawd arall a ofynodd iddo pa beth oedd ei olygiad yn bresennol ar yr athrawiaeth y bu yn ei phregethu; a'i ateb oedd, "Nid lle i newid pethau sylweddol am sothach sydd yn nglyn cysgod angeu; y mae 'r farchnad yn codi ar y da yma."

Yr oedd y Gymdeithasfa flyneddol yn cael ei chynnal yn Nhreffynnon ar yr 8fed a'r 9fed o Fehefin; ac er ei fawr wendid corfforol, yr oedd ei ysbryd yn adfywio drwyddo wrth feddwl am y Gymdeithasfa; ac, yr ail ddydd, yr oedd raid iddo gael myned i'r capel am y tro olaf, a dygwyd ef mewn cader gan bedwar o ddynion i'r gynnadledd eglwysig yn y bore. Dywedodd yno fod yn dda ganddo gael hyn o gymdeithas ei frodyr eto, am mai eu hachos hwy oedd ei achos yntau, ac mai yn eu llwyddiant hwy yr oedd ei lwyddiant yntau. Mewn atebiad i ofyniad ei hen gyfaill, y Parch. John Elias, yr hwn oedd yno yn bresennol, dywedodd mai o'r athrawiaeth a bregethasai yr oedd yn sugno ei holl gysuron, a'i fod yn cael mwy o fêl nag o ddiliau ynddi, ac na wyddai efe pa fodd yr oedd y rhai hyny a gredent yn wahanol iddi yn cael dim cysur; ac ychwanegodd, "Genyt ti y mae geiriau y bywyd tragywyddol." Dywedodd hefyd nad oedd yn mynegu i'w frodyr yr ochr ddu, sef ei wendid, ei wasgfeuon, a'i ofnau. "Na phoenwch lawer gyda hwynt, Mr. Jones," ebai Mr. Elias, "am y byddant oll wedi darfod yn fuan, ac wedi myned ymaith gyda y llif."

Dywedodd un tro wrth ei briod, "Y mae tymmor y dyweyd wedi darfod, ond y mae genyf hyn i'w adrodd, fy mod wedi rhoi fy enaid i'w gadw i Iesu Grist er ys rhagor na deugain mlynedd; ac wedi hyny, rhoddais chwithau a'r plant, a chefais ryw arwyddion o foddlonrwydd i fy meddwl ei fod yn eich derbyn; ac yn bresennol nid oes genyf ddim i'w wneyd ond marw." Wrth ei ferch dywedodd, "Wel, Mary bach, nid oes gan dy dad ddim i wynebu marw ond gwaed y groes; ac y mae hyn yn ddigon: dyma wledd braf; gwledd o basgedigion breision a gloew-win puredig." Bryd arall, dywedodd wrthi, "Amser prysur ydyw hi arnaf fi yn bresennol, Mary bach; onidê? Nid peth bach genyf ydyw meddwl eich gadael chwi, a gadael yr eglwys yma. Y mae gadael yr eglwys gymaint ar fy meddwl ag yw eich gadael chwithau. Ond y mae fy mod yn adnabod Pen yr eglwys yn ddigon i gynnal fy meddwl i fyny yn yr amser prysur yma; ac y mae yn ddigon i wynebu angeu a barn."

i

Y Sabboth olaf y bu fyw, a'r hwn oedd y diwrnod cyn ei farwolaeth, gofynodd am i rai o gantorion y capel ddyfod i ganu iddo am yr iachawdwriaeth. Daeth tri o honynt cyn oedfa yr hwyr; ac erbyn hyny yr oedd yntau yn ei deimlo ei hun yn rhy wan i allu goddef iddynt ganu yn ei ystafell, ond efe a anfonodd atynt i ganu ychydig ar lawr yn y gegin. Hwythau a wnaethant hyny. Canasant yn gyntaf yr hen bennill,

"Tybygwn pe b'ai 'nhraed yn rhydd

O'r blin gaethiwed hyn,

[ocr errors]

Yedi awnw yn lant en vivrid neys i linynau a gion: yndueffroud. myvoid. e yngdodd ar a estend yn a wey, dan tri ei drei fr lawr. ensanwennyen nyned i lawr i nu cyn; ae 1 ddywedodd, newn in neilannus, → () (raitaria anwyl dyma'r le yr snuoway nya.. mae yna testun i ganu un iano i ingywyddeddeb: a maga ganu majuan awa: () añ eat" Canasant bennillion eraill. we yntau yn a vey ya wiganu i dwynt i'l wil egni Dywedodd un wrtho, Mia Adywear vrrnynt um lewi magi enwi wneyd zien han yn saiach.” Und le avay, ye mud ddynt nyfod yny i gan yr un penmilion irnchem, we yatau ra araoni a nerth, yn eviganu a gorfoleddu. Pan yr oeddynt yn cynwen i fyned i'r beita, gorynodi abiyat rana yehviir etu am yr aenawdwraeth: a hwythau a ganasant ei bennill hotfaf ef, “Mae • achawdwraeth fel y mur," te

Ae yntan a ail iddechreuodd manu, gan giro ei idwylaw teneton, a dywedyd, “O diolch byth. dyna nenawiwnaeth digonol mae yn ddigon î'm bath i Yr oedd yn deal y Sabooth hwnw nad oedd ond ychydig oriau rhyngddo a chaei myned i guw y Sabboth trigywyddol gyda Duw a'r Oen, a dywedodd wrth ei inwyi wraig, “Wal, wei! Ann anwyl! dyma ystori yr Anwythig bron ar ben; dyna oedd ei hyd hi yno. Hyd oni wahano angen. Yr wyf yn benderfynoi fy mod wedi tynu oddiam danaf y waith olar am byth; ond nid oes dim nived: bydd y tro yn elw i mi; a chotiwch chwithau. Aan bach, mai ·Tad yr amddifad, a Barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanetand”” Dywedodd wrthi drachefn, “Wel, Ann, buom yn eydoryn am amynedd at amryw bethau; a chawsom le i feddwl fod yr Arglwydd yn ein gwrandaw; ond y mae genym fater newydd heddyw, sef, gofyn am amynedd i farw. Cafed amynedd ei pherffaith waith. Tua'r un amser, gofynodd ei ferch iddo, “ Pa fodd yr ydych yn awr, fy nhad ?” ae atebodd yntau, “SAL, Mary, ae yn iach hefyd : dyma, dyma i ti farw Y mae dy dad yn cael marw dan ganu !” Ÿna, tra yr oedd pawb eraill yn yr ystafell yn wylo, yr oedd efe, gyda llais bloesg, yn ceisio canu drachefn ei hoti bennill, Mae'r iachawdwriaeth fel y môr," &c. Ac fel yr oedd efe yn dyblu y drydedd linell amryw weithiau drosodd, "Mae ynddi ddigon, digon byth," dywedodd un o'r chwiorydd, "I'r truan ac i'r gwan,' onide John Jones bach?” “Iē, ie!" meddai yntau, “a thrueiniaid a'i pia hi hefyd!"

Bore dydd Llun, yr oedd yn amlwg fod cortynau ei babell bridd yn cael eu dattod yn brysur, a bod yr enaid byw ar fyned at Dduw yr hwn a'i rhoes. Ond yr oedd efe hyd y diwedd yn meddiannu ei lawn synwyr, ac yn gysurus mewn "tangnefedd heddychol." Yr oedd yn ei deimlo ei hun megys hen ryfelwr oedd wedi ennill llawer brwydr trwy waed yr Oen, ac fel un oedd ar y pryd yn ennill y frwydr olaf, ac i fyned, yn mhen ychydig fynydau, i fyw byth ar ffrwyth yr yspail. Fel hyn y dywedodd, pan yn yr ymdrech olaf, wrth gyfaill a ddaethai i ymweled ag ef: "Ar Galfaria, fe dynwyd colyn angeu. Diolch byth am y gwaith a wnaethpwyd ar Galfaria! CALFARIA I FYW, CALFARIA I FARW, CALFARIA FOR EVER!” Wrth y rhai oedd o'i amgylch, dywedodd, "Yr wyf fi yn myned o gyrhaedd eich breichiau chwi oll; ond odditanodd y mae'r breichiau tragywyddol!"" Yn ddiweddaf oll, ffarweliodd â'i anwyl briod, ac a weddïodd yn floesg,

« PreviousContinue »