Page images
PDF
EPUB

Y

TRAETHODYDD.

AM Y FLWYDDYN 1853.

LLYFR IX.

DINBYCH:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE.

MDCCCLIII.

Philo 867
Ceft 142,50

*

.GE

JUN 12 1907

LIBRARY Gift of Ernest B. Dane

of Boston.

Y TRAETHODYDD.

TRAETHAWD AR Y CYFAMMOD GRAS:

GAN Y DIWEDDAR BARCH. RICHARD JONES, O'R wern.1

"Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth." Salm 1. 5. MAE y Salmydd, yn nechreu y salm hon, yn proffesu crediniaeth o'r gwir Dduw (sef Jehofa), fel Creawdwr, Cynnaliwr, Llywodraethwr, a Barnwr yr holl fyd-"o godiad hyd fachludiad haul;" Salm xix; Rhuf. x. 18. Ac nid hyny yn unig, ond bod yr Arglwydd gwedi trefnu modd, a neillduo man, ar y ddaear, i wneuthur amlygrwydd mwy rhagorol o hono ei hun, mewn gras a doethineb, er lleshad myrdd o bechaduriaid o ddynolryw; a'r man lle mae wedi gosod ei orseddfaine i weini yr oruchwyliaeth hon, yw yn Sion. A'r modd yw, trwy weinidogaeth ei air, ei weision, a'i Ysbryd ; ynghyd â phob peth sydd wrth ei law a'i alwad, megys is-weision a llawforwynion, i wneuthur unrhyw wasanaeth a welo fe'n dda i alw am danynt er llwydd i'w amcan mawr; Ephes. i. 21, 22; Salm lxxxix. 1, 2; cxix. 89-91; Esay xvi. 5.

Ond ni phery goruchwyliaeth y weinidogaeth hon yn hir na bydd wedi gorphen ei holl waith ar y ddaear yn mynydd Sion, ac yna ceir gweled yr Hwn a goronwyd â drain yn esgyn i, ac yn eistedd ar orseddfaine barn, ac yn meddiannu yn gyflawn bob mawredd ac awdurdod i'w llenwi, a phob cyfaddasrwydd i weini yr achos arni (Act. xvii. 31; Ioan v. 22, 27, 30; 1 Cor. xv. 24, &c.), a bydd nefoedd a daear, at amnaid ei awdurdod, oll i gyflawni unrhyw ddyben a welo fe'n dda (Dad. xx. 11, &c; Dan. vii. 9, 10); a bydd pawb yn ei adnabod yn y dydd hwnw (Act. xvii; xxxi. 3, 4).

"Cesglwch fy saint." Nid angelion na seraphiaid (y rhai a elwir yn saint; Judas 14), ond y rhai a neillduwyd ac a fywhawyd trwy ras o eppil syrthiedig Adda, ac a gymmodwyd â Duw yn aberth anfeidrol Crist Iesu-“y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth" (2 Cor. v. 18, 19; Heb. ix. 20); ac nid o ddynion cyn pechu, canys nid oedd eisieu aberth cyn hyny, na neb o'r hiliogaeth gwedi ei genedlu; Gen. iii. 24; iv. 1.

Dyn, ar y cyntaf, a wnaed yn enaid byw (Gen. ii. 7; 1 Cor. xv. 47), sef, yn laf, O gyfansoddiad priodol i fyw yn ol deddf ei greadigaeth. 2il, O gyfansoddiad cyfaddas i fwynhau Duw, mewn adnabyddiaeth a chymdeithas a mwynhad o hono, ar ei ddelwyn yr hyn, yn benaf, yr oedd dedwyddwch hanfodol ei fywyd yn gynnwysedig; Gen. i. 27. Eto, er ei fod wedi ei greu fel hyn yn greadur diniwed a glân, nid oedd dim sicrhad wedi

'Cafwyd y traethawd hwn ymhlith papyrau y Parch. Richard Jones, yn ei lawysgrifen ef ei hun.

IONAWR, 1853.]

B

« PreviousContinue »